Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II/John Puleston Jones
| ← Syr Henry Jones | Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II gan Edward Morgan Humphreys |
Syr John Morris Jones → |
JOHN PULESTON JONES 1862-1925
MI fuasai Puleston", meddai pregethwr rhagorol a sylwedydd craff, "yn pregethu ymhell uwchben ei wrandawyr onibai am yr hiwmor yna sydd yno fo. Y mae ei feddwl o mor dreiddgar ac mor fanwl fel na buasai fawr o obaith i'r rhan fwyaf fedru ei ddilyn o pe na buasai fo yn deud ambell beth fydd yn goleuo'r cwbl iddyn' nhw."
Bûm yn dyfalu lawer gwaith i ba raddau yr oedd yr "ambell beth" yn goleuo'r cwbl i'r gynulleidfa. Yn wir, y mae'n gwestiwn diddorol i ba raddau y mae cynulleidfaoedd heddiw yn alluog i ddilyn ymresymiad cymhleth neu hyd yn oed osodiadau gweddol gyffredin. Hwyrach y dylid newid y gair heddiw ac eangu'r cwestiwn, canys cofiaf fel y canmolid ambell bregethwr lawer blwyddyn yn ol nad oedd ganddo fawr ddim ond dawn i waeddi. Ac wrth ddarllen rhai o bregethau cyhoeddedig yr oes o'r blaen, rhai Henry Rees, dyweder, neu Rowland Hughes, y mae dyn yn gofyn tybed a oedd rhelyw gwrandawyr y pregethwyr hyn yn eu deall a'u dilyn? Os oeddynt y mae'n rhaid eu bod yn anhebyg iawn i gynulleidfaoedd heddiw. Ond nid wyf yn tybio eu bod yn anhebyg. Y mae'n wir fod yn eu plith rai a oedd yn llawer mwy hyddysg yn eu Beibl nag yw y rhan fwyaf o bobl heddiw a bod cyfeiriadau Ysgrythurol yn debycach o apelio atynt. Ond y mae safon gyffredinol addysg yn llawer uwch heddiw ac eto cwynir fod cynulleidfaoedd yn anodd pregethu iddynt. Nid dyma'r lle i drafod y mater, ond y mae yn gwestiwn pur ddiddorol ac yn cyffwrdd bywyd Cymru yn bur agos. A yw safon ddeallol a meddyliol y werin Gymreig cyn uched ag y bu?

Y mae'n bosibl iawn fod fy nghyfaill yn iawn yn ei syniad am bregethu John Puleston Jones. Yr oedd gan Puleston feddwl miniog, treiddgar a diwylliant eang. "Meddyliwch amdano", meddai cyfaill arall, "yn ddyn dall, yn cael anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn hanes—mewn hanes, marciwch chi. Pe buasai wedi cymryd athroniaeth mi gawsai ddweud be' fynnai o ond yr oedd yn rhaid iddo fo wybod ei ffeithiau mewn hanes!" Ni raid i mi ychwanegu mai dyn hanes yw fy nghyfaill, ond er mai rhwng difrif a chwarae y llefarai yr oedd cryn lawer yn yr hyn a ddywedodd. Yr oedd gan Puleston afael feddyliol a oedd ymhell uwchlaw'r cyffredin. Byddai pobl yn rhyfeddu, nid heb achos, at ei fedr mewn gwahanol gyfeiriadau ag yntau yn ddall, heb gofio amser pan oedd yn gweled, ond y meddwl cryf, gafaelgar oedd yn cyfrif am y medr hwnnw. Rhoddodd Puleston ei holl adnoddau meddyliol ar waith i oresgyn ei ddiffyg naturiol a llwyddodd i raddau a ymddengys yn anhygoel bron.
Bûm unwaith yn cysgu yn yr un ystafell ag ef am noson. Yr oedd yr ystafell yn ddieithr iddo a gofynnodd i mi fyned ag ef o gwmpas. Euthum, ac wedi bod o'i hamgylch unwaith gwyddai Puleston bron gymaint a minnau amdani a cherddai yma a thraw ar hyd-ddi heb betruso dim. Bore drannoeth yr oedd yn barod i fyned i lawr o'm blaen. Paciodd ei fag ac aeth at y drws. "Yn wir", meddai, ""rydw i wedi anghofio fy mrwsus gwallt", a throdd yn ol at y bwrdd lle yr oedd ei rai ef a'm rhai innau. Ni ddywedais i ddim; ni ofynnodd yntau ddim. Gafaelodd yn ei frwsus ei hun yn hollol ddi-betrus a rhoddodd hwynt yn ei fag. Buasech yn taeru ei fod yn gweled. Wrth gwrs, yr oedd yn gweled, a llygad ei feddwl. Yr oedd yn meddwl beth yr oedd yn ei wneud wrth eu rhoddi i lawr ar y bwrdd. Yr oedd yn meddwl wedyn wrth bacio, ac wedi pacio, ei fag. Ac yr oedd yn cofio lle y gosododd hwynt i'r dim. Yr oedd ei holl feddwl ar waith o hyd gyda phopeth a wnai.
Y bore hwnnw, wrth y bwrdd brecwast, sylwais fod gan wraig y tŷ debot ffasiwn newydd, un sgwar a'r pig ar y gongl, a dywedais rywbeth amdano. "Dowch i mi ei weld o", meddai Puleston. "Welais i erioed debot fel yna o'r blaen", a thynnodd ei fysedd teimladwy drosto. Sylwais ei fod yn chwilio am y gwahaniaeth rhwng y tebot hwnnw a thebot cyffredin, yn rhoi ei fys ar y big ac yna ar gongl y llestr, yn chwilio am y glust ac yn teimlo y cauad.
"Ie", meddai, wedi "gweled" hynny oedd arno ei eisiau, "siap anghyffredin iawn, ond 'dwn i ddim oes rhyw fantais arno fo rhagor y rhai hen ffasiwn, ychwaith".
Ar ol brecwast darllenais ddarn o un o areithiau Lloyd George iddo o bapur y bore hwnnw. Yr adeg oedd yn dilyn rhyfel 1914-18 oedd hi, a Lloyd George yn Brif Weinidog ar y pryd. Gwrandawodd Puleston yn ddistaw ac yna dechreuodd feirniadu'r ymresymiad. Nid wyf yn cofio'r pwnc a oedd dan sylw erbyn hyn na pha beth a ddywedodd Lloyd George, ond cofiaf pa mor dreiddgar a dinistriol oedd beirniadaeth Puleston Jones ar yr araith. Yr oedd y meddwl rhyfeddol hwnnw yn medru troi i lawer cyfeiriad, yn cymryd diddordeb mewn math newydd o debot ac yn dadelfennu egwyddorion gwleidyddiaeth.
Yr oedd ei ddawn i fathu brawddegau da yn amlwg iawn. Y tro hwnnw buom yn trafod nodweddion gŵr yr oeddym ein dau yn ei adnabod, gŵr pell ei ddull a lled ddiswyn ei bersonoliaeth.
"Ie", meddai Puleston, "fedar o wneud dim byd â neb os na bydd o wedi ei drwytho yn yr un drwyth ag yntau". Ac yna, wedi meddwl am eiliad ychwanegodd. "Ddaw o ddim i'ch cyfwrdd chi, ac felly chi sydd yn gorfod talu'r bont bob tro".
Un tro, yn ystod y rhyfel mawr cyntaf, yr oedd yn siarad yng Nghymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd. Nid wyf yn cofio'r pwnc ond y mae gennyf gof clir am un frawddeg a ddywedodd Puleston.
"Y mae nhw'n dweud heddiw", meddai, "mai peth ardderchog iawn ydi bod yn ddibris o farw. Hwyrach fod hynny yn wir, ond peth sal iawn ydi bod yn ddibris o farw pobol eraill".
Yr oedd ei agwedd at y rhyfel,—ac at bob rhyfel y mae'n debyg, yn hysbys i bawb. Credai na ellid cysoni dysgeidiaeth Crist â rhyfel, ac yn wahanol i lawer a oedd yn credu yr un fath, ond yn amwys a niwlog, sylfaenai Puleston ei gred ar ei wybodaeth am hanes, hanes byd ac eglwys. Bu ef a gweinidog arall yn dadlau ynghylch gorfodaeth filwrol a rhyfel yn gyffredinol yn y Goleuad unwaith, er dirfawr boen i Dr. John Williams, Brynsiencyn, a ystyriai, yr adeg honno, fod Puleston yn cyfeiliorni ymhell iawn. Nid oedd gymhariaeth rhwng y ddau ddadleuydd o ran gorwelion a gallu i edrych y tuhwnt i gynhyrfiadau a chri y foment.
Bu Puleston yn amhoblogaidd yn y blynyddoedd hynny. Yr oedd yn weinidog ym Mhwllheli, ac yr oedd ei syniadau yn bur annerbyniol yn y lle hwnnw a'r wlad o gwmpas. Prin, hwyrach, y gallasech chwi ddweud iddo fod yn bersonol boblogaidd bob amser, hyd yn oed ar wahan i'w syniadau ar y rhyfel ac yn ei ofalaethau eraill. Bûm yn meddwl fod ei ddallineb yn cyfrif am hynny i raddau, beth bynnag, ac yn fwy o rwystr iddo fel bugail nag a dybid. I bob golwg yr oedd wedi cael y llaw uchaf ar y dallineb, ac yr oedd hynny yn wir i raddau pell. Ond yr oedd o dan anfantais neilltuol wrth drin pobl,—nid oedd yn gweled wynebau y rhai y siaradai â hwynt, a gwyddom oll fod wyneb y sawl y siaradwn ag ef yn dweud llawn cymaint wrthym a'i eiriau. Gwyddom yn lled dda pa bryd y bydd yr hyn a ddywedir wrth ei fodd neu fel arall, heb iddo ef ddweud dim. Gwelwn yr amheuaeth, y cytundeb, y dirmyg neu'r digrifwch yn myned ac yn dod ar draws yr wyneb fel cysgod y cymylau ar lethr y mynydd, ac efallai y lluniwn ein geiriau i gyfarfod â'r hyn a welwn. Ni welai Puleston yr arwyddion hyn ac ni allai lunio ei gwrs wrthynt. Yr oedd yn rhaid iddo ef ddibynnu ar yr hyn a ddywedid, ac er ei fod yn rhyfeddol o graff i adnabod cywair llais, nid oedd hynny yn ddigon bob amser. Y mae'n debyg ei fod wedi sathru ar gyrn rhai pobl heb feddwl ac heb wybod eu bod wedi teimlo o gwbl.
Ond ni ddylid meddwl mai gŵr yn byw mewn awyrgylch o amhoblogrwydd oedd Puleston. Nid oedd yn ddim o'r fath. Yr oedd ei ddallineb, er yn anfantais ar un ochr, fel y dywedwyd, yn ennill llawer o gydymdeimlad iddo ar ochr arall. Ac yr oedd yntau yn ŵr heulog, braf, siriol ei wedd, llawen ei chwerthiniad,—yr oedd chwerthiniad Puleston yn ddihareb, —a byw iawn ei feddwl. Ni ofynnodd erioed am dosturi nac hyd yn oed am gydymdeimlad oblegid ei ddallineb. Unwaith ysgrifennodd erthygl i mi i brofi cyn lleied o ragoriaeth oedd arnom ni oedd yn gweled rhagor ef. Yr unig beth ynghylch bricsen a wyddem ni na wyddai ef, meddai, oedd ei lliw. Nid oedd ganddo syniad am liw, wrth gwrs; ni allasai fod ganddo syniad. Ond yr oedd mor fedrus gyda phopeth arall fel y tueddai dyn i ryfeddu weithiau pan ddywedai na wyddai sut beth oedd lliw.
Medrai gael hyd i'w ffordd yn y wlad ac yn y ddinas. Aeth unwaith i edrych am weinidog yn Lerpwl a oedd yn byw mewn heol braidd o'r neilltu, lle nad oedd yn hawdd iawn i ddyn yn gweled gael hyd iddo ar y tro cyntaf. Daeth Puleston yno yn llawen, fel pe na buasai yn meddwl dim o'r peth. Sut y daeth y mae'n anodd dweud; bron na thybiai dyn fod ganddo reddf debyg i reddf ci, y reddf sydd yn galluogi'r creadur i gael hyd i'w feistr lle bynnag y bo. Unwaith, pan gyfarfuasom yn y tren, dywedodd ei fod yn myned i Rydychen. "Rydw i'n clywed eu bod nhw wedi gwneud rhyw gyfnewidiadau yn yr High", meddai, "ac mi fanteisiaf ar y cyfle yma i'w gweld nhw'. Edrychai'r bobl eraill yn y cerbyd yn amheus arno. Yr oeddynt wedi meddwl ei fod yn ddall, ag yntau yn son am weled y cyfnewidiadau! Ond y peth rhyfeddaf yn ei hanes, am wn i, oedd y byddai yn cerdded ar ei ben ei hun o Ddinorwig i Lanberis ar hyd ffordd serth a dibyn chwarel aruthr ar un ochr iddi mewn un lle. Unwaith yr ai dyn dros yr ymyl honno ni buasai, i ddefnyddio hen air gwlad, yn werth ei godi. Byddai rhai yn arswydo wrth feddwl am Puleston yn myned y ffordd honno, ond ni ddigwyddodd dim erioed. Wrth edrych yn ol y mae'n rhyfeddod fod pregethwr Methodist dall wedi medru dal ati o gwbl, canys y mae y Methodistiaid Calfinaidd yn newid eu pulpudau bob Sul bron. Y mae'n sicr fod Puleston yn gwneud hynny bob Sul ond y deuddeg yn y flwyddyn y byddai yn ei bulpud ei hun.
Byddai'r peth yn rhoddi rhywbeth tebyg i ddifyrrwch iddo weithiau. Pan adolygai lyfr yr oedd fel pe'n ymhyfrydu mewn nodi gwallau argraff; Mrs. Puleston Jones, wrth gwrs, oedd wedi dywedyd wrtho amdanynt, ond ni wyddai pawb hynny. "Ydach chi wedi diffodd y gannwyll?" meddai, y noson y buom yn cysgu yn yr un ystafell. Atebais y gwnawn hynny cyn bo hir. "Ie", meddai yntau, "mi ofynnais i yr un cwestiwn i bregethwr yr oeddwn i'n cysgu efo fo ychydig yn ôl. 'Roeddwn i wedi anghofio ei fod yntau yn ddall ac nad oedd ar yr un ohonom ni eisiau cannwyll. Buom yn chwerthin yn hir am ben y peth!" Chwerthin am ben peth felly!
Ai rhai i wrando ar Puleston, y mae'n debyg, am fod pregethwr dall yn dipyn o ryfeddod. Ond nid pethau arwynebol a dibwys oedd y pethau ynddo ef fel canlyniad i'w ddallineb y soniwyd amdanynt ac a barai i bawb ohonom ryfeddu. Arwyddion oeddynt o'r meddwl cryf, effro a gafaelgar a oedd yn gorchfygu'r dallineb hyd yr oedd hynny yn bosibl ac hefyd yn ei wneud yntau yn bregethwr ac yn llenor ar ei ben ei hun. Yr oedd swyn ei bregethau, i mi, yn bur debyg i swyn ei ysgrifennu; swyn iaith ac arddull a meddwl dadansoddol, treiddgar. Cymraeg llafar ar ei orau oedd ei Gymraeg ef, Cymraeg gwladwyr diwylliedig, iaith gref, ystwyth, urddasol a naturiol. Nid oedd rhodres yn agos ato; ni bu pregethwr erioed ymhellach oddiwrth fod yn bregethwrol, ond y mae yn eithaf tebyg ei fod weithiau allan o gyrraedd llawer o'i wrandawyr. Eithr yr oedd ei arabedd heulog ac ambell gyffyrddiad o ddoethineb cefn gwlad yn goleuo'r bregeth iddynt hwythau.
Yr oedd sicrwydd y gŵr diwylliedig yn ei ymwneud â llyfrau a phynciau. Cafodd addysg dda yn ystyr eangaf y gair ac yr oedd ei hôl arno. Yr oedd yn gartrefol ym myd meddwl a diwylliant. Clywais ef yn dechrau un araith gyda'r geiriau, ""Rydw i'n fwy dan fy nwylo nag arfer heno", ond yn anaml iawn y byddai ef dan ei ddwylo yn un o'r ddau ystyr sydd i'r ymadrodd. Yn anaml iawn y byddai yn ymbalfalu mewn nac ysgrif na phregeth, ac y mae ei ysgrifau yn werth eu darllen bob amser, am eu meddwl a'u harddull. Ni wn i am neb yn ein dyddiau ni a fedrai ysgrifennu yr un fath, gyda'r fath graffter ac ehangder ac ar yr un pryd gyda'r fath flas cartrefol, blas sgwrs cefn gwlad ar ei gorau. Yr oedd wedi ei drwytho yn y bywyd Cymreig, yn ei ymadroddion, yn ei ffordd o edrych ar bethau, yn ei hiwmor ac yn ei draddodiad hir. Byddwn yn meddwl am fy mam wrth siarad â Puleston neu wrth ddarllen ei waith. Dywedid ei bod hi yn debyg i'w thaid, Richard Humphreys, y Dyffryn, ac yr oedd ganddi gyfoeth o ymadroddion gwlad a dywediadau Ardudwy at ei galwad. Dywedais wrth Puleston unwaith, pan soniem am ddyn a oedd braidd yn ffwdanllyd, y buasai fy mam yn dweud ei fod "yn neidio ac yn disgyn". Chwarddodd yn uchel. "Dyna fo i'r dim!" meddai. "Yn neidio yn brysur ac yn disgyn yn yr un lle o hyd a mynd dim yn ei flaen!" Holodd am ychwaneg o ddywediadau tebyg ac yr oedd yn amlwg ei fod yn ymhyfrydu ynddynt. Yr oedd pethau o'r fath yn rhoddi lliw ar ei areithiau a'i ysgrifau.
Gŵr heulog, llawen ei chwerthiniad, parod ei air a chymdeithasgar oedd Dr. Puleston Jones. Ond ni ddylid anghofio ei fod hefyd yn ŵr cryf iawn. Dangosodd hynny yn fore, fel y dywed ei gofiannydd a'i fab-yng-nghyfraith, y diweddar Barch. R. W. Jones. Pan aeth yn weinidog ar ei ofalaeth gyntaf ym Mangor daeth ei ewythr, brawd ei fam, Syr John Puleston, allan fel ymgeisydd Toriaidd yn erbyn Lloyd George ym Mwrdeisdrefi Arfon. Ceisiodd ei fam ganddo siarad dros ei brawd ac atebodd yntau mai ar un amod yn unig y gwnai, sef nad ai byth i bulpud wedyn. Yr oedd yr un cadernid ynddo ar hyd ei oes a safodd yn ddigryn mewn adeg pan yr oedd llawer yn gwegian.
Blynyddoedd digalon oedd blynyddoedd y rhyfel mawr cyntaf a'r blynyddoedd a'u dilynodd yng Nghymru, ond daliodd rhai eu gafael ar egwyddor ac ar safonau drwy'r cwbl, ac yr oedd Puleston yn amlwg yn eu plith. Dioddefodd lawer, a dioddefodd yn ddistaw, eithr ni syflodd. Ni chwerwodd, ychwaith, ac ni chollodd ei dymer. Byddwn yn rhyfeddu yn aml at ei allu i'w feddiannu ei hun mewn amgylchiadau anodd; byddai yn peri i mi feddwl ei fod wedi codi i fryn uwch na'r rhan fwyaf ohonom ac yn gweled megis "uwchlaw cymylau amser". Yr oedd yn dda wrtho ef a'i fath yn y cyfnod hwnnw, onide buasai llawer ohonom wedi colli hynny o ffydd oedd gennym. Cadwodd ef y ffydd a chynorthwyodd eraill i'w chadw.
Ychydig flynyddoedd yn ol bûm yn sefyll wrth ei fedd ym mynwent yr eglwys yn y Bala. Bu farw yn 1925, yn dair a thrigain oed, ac erbyn hyn nid yw yn fawr fwy nag enw i laweroedd. Ond y mae yn fyw yn ei ysgrifau ac yn ei bregethau cyhoeddedig, a gallwn ni a oedd yn ei adnabod dystio ei bod yn haws dyfod at Puleston Jones drwy'r gair argraffedig nac at lawer iawn o wŷr enwog gynt. Y mae tinc ei lais yn aros yn ei frawddegau ef, a bron na allech ddychmygu ei glywed yn chwerthin ar ddiwedd ambell baragraff.