Neidio i'r cynnwys

Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II/Syr John Morris Jones

Oddi ar Wicidestun
John Puleston Jones Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II

gan Edward Morgan Humphreys

William Llewelyn Williams

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Morris-Jones
ar Wicipedia
SYR JOHN MORRIS JONES

SYR JOHN MORRIS-JONES 1864-1929

UNNWAITH, ar blatfform stesion Bangor, gwelais Syr John Rhys, Syr Edward Anwyl a Syr John Morris-Jones yn cerdded gyda'i gilydd. Nid oedd yr un ohonynt yn farchog y pryd hynny, nac am rai blynyddoedd wedyn, ac y mae'n debyg nad oedd neb y pryd hynny wedi meddwl am iddynt fod yn farchogion. Hwyrach y buasai rhywun yn dywedyd yr un peth wrthynt hwy, pe dywedasid eu bod i gael eu gwneud yn farchogion, ag a ddywedodd rhywun yn Llangernyw wrth Syr Henry Jones pan ddaeth y newydd am yr anrhydedd a osodwyd arno ef.

Yr oedd Henry Jones yn digwydd bod yn ei hen ardal y diwrnod hwnnw a daeth hen gymeriad i'w gyfarfod ar ôl clywed y newydd, yn chwerthin yn aflywodraethus. "Harri", meddai, "mae'n nhw'n deud dy fod ti wedi dy neud yn farchog. 'Does bosib i fod o'n wir!"

"Ydi, wrth gwrs mae o'n wir", meddai Henry Jones, "Be am dano fo".

"Ti yn farchog!" oedd yr ateb. "Toes gen ti'r un mul heb son am geffyl!"

Ond, marchogion neu beidio, yr oedd y tri yn wŷr enwog yng Nghymru'r pryd hynny, ac edrychwn gyda diddordeb mawr arnynt, John Rhys a'i wyneb coch a'r tusw byr o farfar ei ên, ei drowsus plad golau, a'r olwg arno yn debycach i ddyn newydd ddyfod o ben y mynydd nag i ysgolhaig a oedd yn fyd-enwog yn ei gangen ei hun a phennaeth un o golegau Rhydychen; Edward Anwyl yn dew ac afrosgo, er nad oedd ond dyn ieuanc, a rhyw olwg hanner pregethwrol arno; a John Morris Jones yn edrych, fel bob amser, fel Indiad Coch a oedd wedi ffeirio ei blu a'i baent rhyfel am siwt wareiddedig ond ar yr un pryd yn edrych fel pe buasai wedi cysgu yn y siwt honno am rai nosweithiau. Yr oedd y tri yn wŷr nodedig eu golwg. Yr oedd penderfyniad a phendantrwydd yn amlwg yn John Rhys; yr oedd Anwyl ar y pryd mor dew nes rhoddi argraff arnoch mai dyn bodlon, braf ydoedd (ar ol iddo deneuo a gwaelu y gwelid pa mor lednais a theimladwy oedd llinellau ei wyneb); yr oedd John Morris-Jones yn tynnu eich sylw ar unwaith, yn enwedig pan dynnai ei het a phan welech y gwallt du, syth, yn disgyn yn sydyn ar draws un llygad. Ac yr oedd goleuni direidus yn y llygaid hynny weithiau.

A yw yr ieuanc yng Nghymru heddiw cyn llawned o obaith am ddyfodol yr iaith a'i llenyddiaeth, cyn llawned o ddiddordeb ymhopeth a berthyn iddynt ac mor ddiysgog eu ffydd yn nyfodol Cymru ag yr oedd llawer ohonom ni tua dechrau'r ganrif? Gobeithio eu bod, canys ni ellir gwneud dim heb ffydd a gobaith ac ynni; y maent yn bwysicach o lawer nag arian a phwyllgorau. Yr oedd llawer ohonom tua'r adeg honno yn llawn brwdfrydedd ac yn gwneud darganfyddiadau newydd yn ein gwlad ni ein hunain bob dydd. Yr oedd barddoniaeth Elfed, "Telynegion" Silyn Roberts a W. J. Gruffydd, "Ymadawiad Arthur" Gwynn Jones, "Homiliau" Emrys ap Iwan, storïau byr Dic Tryfan, "Telynegion Maes a Môr" Eifion Wyn, dramau Gwynfor, a llawer o bethau eraill yn peri i ni gredu fod oes aur ar wawrio ar Gymru. Yn y cylch gwleidyddol yr oedd Lloyd George yn myned a Chymru gydag ef i bob man; yn grefyddol yr oedd y diwygiad newydd ysgubo trwy'r wlad ac wedi peri i lawer un ynganu—a chanu—Cymraeg na bu yn gwneud hynny erioed o'r blaen. Ac yr oedd eto bregethwyr mawr, meistriaid y gynulleidfa yn ol yr hen draddodiad, ar y maes. Prin y gallesid disgwyl i ni, a oedd yn ddibrofiad, ganfod egin y digalondid a'r peryglon a oedd i ddyfod; yr oedd yr egin yno, y mae'n sicr, ond gobaith a diddordeb a chred yn y dyfodol a'n meddiannai ni, ac yr oedd presenoldeb John Morris-Jones yn elfen yn y gobaith hwnnw.

Yr hyn a wnaeth John Morris-Jones yn rym ym mywyd Cymru oedd ei feirniadaethau eisteddfodol. Nid wyf yn tybio fod amheuaeth am hynny. Wrth gwrs, bu ei ddylanwad ar ei efrydwyr ym Mangor yn fawr, ond bu aml athro coleg yn gymaint dylanwad ag yntau heb i'r wlad yn gyffredinol wybod hyd yn oed am ei enw. Rhydd yr Eisteddfod Genedlaethol gyhoeddusrwydd heb ei fath i'r sawl a ddaw yn amlwg ynddi. Hyd yn oed heddiw gŵyr llu am feirdd a fydd wedi ennill y gadair neu'r goron genedlaethol, er iddynt beidio darllen llinell o'u gwaith. Caiff hyd yn oed awdur yr englyn buddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol lawer o gyhoeddusrwydd, ac enillodd eraill gyhoeddusrwydd yn ei gysgod trwy feirniadu ei waith. A phan ddechreuodd yntau feirniadu'r awdlau yn yr Eisteddfod y daeth Morris-Jones yn adnabyddus led-led Cymru.

Yr oedd wedi dyfod i'r amlwg cyn hynny trwy ei ysgrifau yn dadlennu honiadau'r Orsedd, yn Cymru. Tynnodd y rhai hynny sylw mawr mewn rhai cylchoedd; cyn hynny nid oedd y rhan fwyaf o bobl yn cofio bod dynion fel Dafydd Ddu Eryri ac eraill wedi rhoddi derbyniad oeraidd i ddychmygion rhyfedd Iolo Morgannwg ynghylch yr Orsedd a barddas. Yr oedd yn llai o drafferth derbyn y storïau am hynafiaeth yr Orsedd, fel y bu yn llai o drafferth derbyn yr hen stori am ddarganfyddiad yr America gan Fadog ap Owain Gwynedd na chwilio ei seiliau, ac erbyn i ysgrifau Morris-Jones ym-ddangos yr oedd pobl wedi dyfod i gredu fod Gorsedd y Beirdd yn ddarn o hen hanes Cymru. Tipyn o sioc i lawer oedd ei ddadleniadau ef, a bu rhai o aelodau blaenllaw yr Orsedd yn hir iawn yn eu derbyn. Y mae'n debyg i Hwfa Môn fyned i'w fedd heb wneud hynny, ac am rai blynyddoedd bu lluchio at "geiliogod y colegau" oddiar y Maen Llôg yn hwyl fawr. Ond er hyn oll, nid yr ysgrifau hynny yn bennaf a wnaeth John Morris-Jones yn adnabyddus.

Dywedodd wrthyf ei fod unwaith, yng nghanol helynt ysgrifau'r Orsedd, ag yntau yn athro ym Mangor ers blynyddoedd, wedi mynd i le ar lan y môr yn sir Gaernarfon gyda chyfaill. Yno yr oedd bardd gwlad yn byw ac yr oedd cyfaill John Morris-Jones yn ei adnabod. Daeth i'w cyfarfod ar y traeth a chyflwynodd y cyfaill yr Athro iddo, "ond", meddai Morris-Jones wrth ddweud yr hanes, "'toedd o 'rioed wedi clywed sôn amdana' i, a 'doedd waeth heb geisio esbonio iddo fo". Cyn pen ychydig iawn o flynyddoedd yr oedd pob bardd gwlad o Lanandras i Dy Ddewi wedi clywed sôn amdano ac yn ei ofni,—neu yn ceisio dysgu ganddo. Y beirniadaethau a roddodd y safle honno iddo.

Yr oedd safon y farddoniaeth eisteddfodol yn hynod o isel ers cenhedlaethau cyn dyddiau Morris-Jones. Bron na ddywedai dyn mai Elfed oedd yr unig lecyn golau, ac yn sicr ei farddoniaeth ef yw bron yr unig farddoniaeth o'r cyfnod hwnnw a ddeil i'w darllen heddiw. Ond os oedd y farddoniaeth yn sal a disafon yr oedd y feirniadaeth cyn saled a hithau. Y mae darllen rhai o'r beirniadaethau cyn dydd Morris-Jones yn peri i chwi deimlo eich bod yn symud mewn byd anhygoel bron, ac y mae gofyn eu darllen i sylweddoli pa mor od oedd y pethau a ddywedid mewn llawer ohonynt. Nid gormod dywedyd fod rhai o'r beirniaid yn gwbl anghymwys, heb wybodaeth am iaith na llenyddiaeth. Y mae'n anodd gwybod pa fodd y daeth Morris-Jones i mewn i'r cwmni; nid oedd, wrth gwrs, yn aelod o'r Orsedd, nac hyd yn oed yn fardd adnabyddus iawn. Ni enillodd na chadair na choron mewn eisteddfod; hyd y gwn i, ni bu erioed yn ymgeisydd am y naill na'r llall. Y mae'n debyg fod teimlad o werth addysg ac ysgolheictod yn bod yng Nghymru tua'r cyfnod hwnnw a bod rhywun mwy beiddgar na'i gilydd wedi medru cael yr athro ieuanc o Fangor ar banel y beirniaid. A dyna droi'r drol.

Ni welais i ddechrau'r cyfnod newydd ond gwelais ddigon yn ystod y blynyddoedd a ddilynodd i feddu syniad am yr helynt a'r cyfnewid. Clywais luchio fwy nag unwaith oddiar y Maen Llog at y ddysgeidiaeth newydd ynghylch yr iaith; yr oedd llawer o siarad ar draws ac ar hyd am "ddefnyddio hen eiriau", am "ganu fel y byddai y werin yn deall" a phethau felly, a chlywais un gŵr yn dadlau dros "farddoniaeth syml, ddealladwy fel eiddo Dewi Wyn"! Ond yr oedd John Morris-Jones yn myned ymlaen trwy'r cwbl, i gywiro iaith, i fynnu safonau llenyddol rhesymol, ac i geisio adfer y cysylltiad, a oedd bron iawn wedi torri, â'r traddodiad llenyddol Cymreig a oedd yn myned yn ôl fil o flynyddoedd.

Nid oedd dim, ymosodiadau na beirniadaeth na'i anwybyddu, yn ei droi oddiar ei lwybr. Nid nad oedd yn gwybod amdanynt. Yn hytrach, gwyddai yn dda iawn ac yr oedd bob amser yn barod i'w hateb. Atebai weithiau rai o'i feirniaid mwyaf anwybodus, a gwelwyd bai arno am wneud hynny. Yr oedd, meddid, yn gwastraffu ei amser a'i ynni i ysgrifennu llithoedd hir i'r papurau newydd i ateb hwn a'r llall ac i gywiro'r peth yma a'r peth arall. Unwaith gwnaeth cysodydd yn swyddfa'r Genedl gamgymeriad nad oeddwn i wedi sylwi arno wrth ddarllen y proflenni; rhoddodd "dau a'r bymtheg" yn lle "dau ar bymtheg". Ond gwelodd John Morris-Jones y gwall; tybiodd mai anwybodaeth yn y swyddfa oedd y rheswm, a chefais lythyr maith oddiwrtho, wedi ei ysgrifennu mewn pensel yn ei lawysgrif glir, brydferth, yn galw sylw at y peth, yn egluro rheol yr iaith ar y pwnc, ac yn datgan ei syndod a'i alar fod y fath anfadwaith yn bosibl!

Nid oedd hynny ond un enghraifft o'r hyn a wnai, ac y mae yn rhaid ei fod yn rhoddi llawer o amser i beth felly. Y gwir oedd ei fod trwy hynny yn addysgu gwlad ac yn cadarnhau sylfaen llenyddiaeth ac iaith Cymru. Yr oedd yn athro yn ystyr eangaf y gair.

Trwythwyd ef yn llenyddiaeth Cymru; dyna gefndir ei feddwl. Yn ystod eisteddfod Rhydaman, yn 1922, digwyddwn fod yn aros yn yr un tŷ ag ef, yn Llandeilo. Wynebai'r ystafell ar ddyffryn Tywi a'r bryniau tawel yr ochr draw. Trwy'r gwastad ar waelod y dyffryn yn union o dan y tŷ rhedai'r afon rhwng caeau ŷd a gweirgloddiau. Y noson gyntaf i ni fod yno cafwyd storm ffyrnig o fellt a tharanau am ychydig, ac yna, wedi i'r duwch glirio, daeth awyr ddigwmwl, dawel a chododd y lleuad fawr, felen, dros grib y bryniau a'i goleuni yn dawnsio ar fân-donnau Tywi. Yr oedd yn olygfa i'w chofio a safem ein dau yn y ffenestr i edrych arni. Ac yna dyna Syr John yn dechrau adrodd llinellau Dafydd Nanmor,—

Llety a gefais gerllaw teg afon,
Llawn o ddaioni a llawen ddynion,

ac ni allaf ddarllen y llinellau hynny heddiw heb glywed llais John Morris-Jones yn eu hadrodd a gweled y lleuad yn codi dros fryniau Sir Gaerfyrddin wyth mlynedd ar hugain yn ol.

Daeth yn ei ol o'r eisteddfod un hwyrnos y tro hwnnw wedi ei gythruddo braidd. Yr oedd Pedrog, meddai ef, wedi bod yn trin ar y beirdd ieuanc, gan ddweud eu bod yn ymosod ar rai o feirdd gorau Cymru, gan enwi Hiraethog.

"Ymosodais i erioed ar yr hen greadur", meddai Syr John yn gwynfannus braidd. "Fum i erioed yn son amdano fo!"

"John bach", meddai Lady Morris-Jones, patrwm o led-neisrwydd a doethineb cefn gwlad sir Fôn ar eu gorau," 'does neb yn meddwl eich bod chi'n fardd ifanc bellach!"

"Nac oes, mae'n debyg", meddai yntau gan edrych braidd yn syn. "Mae arna i ofn na ddaru mi ddim meddwl am hynny".

Son amdano yn adrodd barddoniaeth, yr oedd ei ddawn i wneud hynny yn cyfrif am ei boblogrwydd fel beirniad gyda thorf yr eisteddfod. Prin y buasai'r "werin a'r miloedd" yn gwrando mor eiddgar arno yn traethu ar feiau iaith ac yn cystwyo rhodres a diogi llenyddol oni buasai am y ddawn honno. Nid oedd yn siaradwr huawdl, na rhugl hyd yn oed, a chlywais rai yn dywedyd iddynt gael eu siomi yn ei ddarlith-iau. Ond yr oedd ar ei ben ei hun yn ei gyfnod fel dywedwr barddoniaeth; medrai adrodd darnau lled faith o awdl nes swyno cynulleidfa aflonydd a diamynedd i wrando arno a disgwyl am ragor. Yr oedd tinc yn ei lais ac eglurder yn ei ynganiad a rhywbeth heintus, y mae'n anodd cael gair arall am y peth,—yn ei oslef a barai i chwi feddwl am yr hyn a glywsoch am yr hen bregethwyr. "Dawn Sir Fôn", meddai rhywun, ond y mae yn anodd deffinio honno. Y mae'n wir mai ym Môn y ganed Syr John ond yn Arfon yr oedd ei wreiddiau, fel John Elias, gŵr arall y cysylltir ei enw â Môn bob amser.

Beth bynnag am hynny, yr oedd y ddawn a'r oslef heintus yno. Unwaith, pan lywyddai yn eisteddfod Pentrefoelas, eisteddfod leol bwysig a phoblogaidd iawn, adroddodd, yn ystod ei araith o'r gadair, englyn Taliesin o Eifion,

Cymru lân, Cymru lonydd,—Cymru wen,
Cymru annwyl beunydd,
Cymru deg, cymer y dydd,
Gwlad y gân, gwel dy gynnydd.

ac ar ei ganol dechreuodd y gynulleidfa ei adrodd gydag ef. Gorffennodd Syr John a hwythau yr englyn gyda'i gilydd, er dirfawr foddhad iddo. Yr oedd yn ymhyfrydu mewn englynion da; clywais ef yn adrodd englynion Dewi Wyn i bont Menai ac yn troi at ei gynulleidfa wedyn ac yn dweud, "Tydyn nhw'n ardderchog?" Derbyniwyd llawer o addysg ramadegol ac o gyfarwyddiadau llenyddol pwysfawr yng nghysgod y ddawn ryfeddol honno.

Cyhuddid ef weithiau o fod yn bedant. Efallai fod peth sail i'r cyhuddiad, neu, dyweder, fod rhyw gymaint o bedantri yn rhwym o ddyfod i'r golwg ym meddwl dyn a oedd yn cysegru ei egni i adfer hen safonau gwych a gollwyd. Gor-fanylder felly, y mae'n debyg, a gyfrifai am geisio rhoddi "iechyd-wriaeth" yn lle ffurf fel "iachawdwriaeth" a oedd wedi hen ennill ei le ym mywyd yr iaith. Unwaith cefais gerydd ganddo am ddefnyddio'r gair "ffaith", er ei bod yn anodd gwybod pa air y gellid ei ddefnyddio yn ei le. Ond nid oedd pethau fel yna nac yma nac acw; nid oeddynt yn menu dim ar y gwasanaeth amhrisiadwy a wnaeth ef i Gymru. Ymhen rhai blynyddoedd ar ol marw Syr John dywedodd Gwynn Jones, mewn llythyr ataf, "Syndod y newid a ddaeth rhag blaen ar ol marw Syr John Morris-Jones. Yn yr eisteddfodau daw safonau hanner can mlynedd yn ôl i'r golwg eto. Ceidwadwr oedd Syr John, y mae'n wir, ond yr oedd yn urddasol a manwl. Daeth yr adwaith—a'r anfadwaith". Yr oedd y golled i'w theimlo.

Ei gas at ffug ac at y pethau a oedd yn darostwng safonau clasurol llenyddol Cymru oedd yn cyfrif am ei elyniaeth at yr Orsedd. Y mae'n rhaid cofio beth oedd honiadau a safon Gorsedd y Beirdd pan ddechreuodd ef ei beirniadu i ddeall y peth yn iawn. Derbynid honiadau Iolo Morgannwg am ei hynafiaeth gan lawer, os nad gan y rhan fwyaf a feddyliai am y peth o gwbl, a rhoddid ei graddau anrhydeddus i fân—Saeson a phobl debyg adeg eisteddfod. Fel pasiant yr oedd yn chwerthinllyd, hyd yn oed mor ddiweddar a 1906 (y mae llun ar gael o orymdaith yr Orsedd adeg eisteddfod Caernarfon yn y flwyddyn honno, ag amryw o'r beirdd yn eu mentyll a'u hetiau silc), ac eto credai llawer mai hi oedd yn cynrychioli barddoniaeth a llenyddiaeth Cymru. "Llygrodd Iolo ffynonellau hanes", meddai Morris Jones wrthyf unwaith, "a chymer fwy nag un oes i ddadwneud y drwg a wnaeth". Erbyn heddiw nid oes neb yn honni fod Gorsedd y Beirdd yn hŷn nag oes Iolo ei hun a chymer ei lle fel rhan o basiantri yr eisteddfod; i ymchwiliadau a dycnwch John Morris-Jones y mae'r iechyd hwnnw i'w briodoli i raddau pell. Ond gwnaeth ef rywbeth mwy o lawer na phrofi fod honiadau Iolo yn ddisail. Gydag Emrys ap Iwan, Owen Morgan Edwards ac un neu ddau arall achubodd iaith a thraddodiad llenyddol Cymru.

Wrth sôn am yr Orsedd, cofiaf am ddigwyddiad a barodd gryn lawer o ddifyrrwch i mi ar y pryd. Cydgerddwn â Syr John ar blatfform gorsaf Caer, yn disgwyl am dren i'r De ac i'r eisteddfod. Daeth gwraig garedig a oedd yn aelod selog o'r Orsedd atom ac wrth gerdded yn ol a blaen dechreuodd siarad yn huawdl am ardderchowgrwydd yr Orsedd fel sefydliad cenedlaethol. Gwawriodd arnaf nad oedd hi erioed wedi clywed am agwedd Syr John ar y pwnc ond y cymerai yn ganiataol ei fod mor frwdfrydig a hithau. Edrychais o gil fy llygaid ar Syr John. Pa beth a ddigwyddai tybed? Chwarae teg iddo, dioddefodd y cwbl yn ddistaw; ni anghytunodd ac ni ddadrithiodd y wraig frwdfrydig. Y mae'n ddiamau iddi fyned i'w ffordd gan gredu'n sicr iddi fod yng nghwmni Gorseddwyr selog, ond braidd yn dawedog, efallai.

Byddai Syr John yn myned yn rhy bell weithiau wrth ddelio â beirniadaeth neu wrthwynebiad. Byddai yn bur groendenau dan ambell fath o feirniadaeth ac nid da ganddo wrthwynebiad, yn enwedig yn ei flynyddoedd olaf. Ond dylid edrych ar y ddwy ochr a chofio am y feirniadaeth a fu arno yntau. Yr oedd peth o'r feirniadaeth honno yn deg, yn feirniadaeth ysgolheigion a oedd yn gwahaniaethu ar dir gwybodaeth ac ymchwil. Ond yr oedd math arall o feirniadaeth yng Nghymru ar y pryd, yr ymosod ar "yr Ysgol Newydd" a phethau felly, llais cras yr hen anwybodaeth a'r hen geidwadaeth a oedd yn casáu'r goleuni. Os try neb i ddadl englyn "Blodau'r grug" a helynt Ffordd Ddeiniol yn Y Genedl tua 1906 a 1907 ceir syniad am yr hyn oedd yn digwydd. Yr oedd yntau yn barod iawn—yn rhy barod, hwyrach—i daro yn ol ac i ddefnyddio ymadroddion megis "baldordd gorffwyll" a phethau o'r fath. Hyd yn oed pan. fyddai'r pechadur wedi marw ers cenedlaethau byddai yn rhaid iddo ddioddef y gosb—"yr hen Rowlands benwan" meddai am awdur y "Mona Antiqua", a Henry Rowlands druan yn ei fedd ers mwy na dau gant o flynyddoedd.

Ar y llaw arall yr oedd ei lle i'r gyneddf yma yng Nghymru ar y pryd. Yr oedd angen taro weithiau, ac ambell dro gwnai yntau hynny yn ddeheuig ddigon. Medrai fod yn gyrhaeddgar iawn yn ei feirniadaethau; byddai un gair yn yr oslef hir, leddf honno yn ddigon weithiau. Cofiaf amdano unwaith yn enwi ffugenw un ymgeisydd anffodus ac yn ychwanegu, gyda rhyw lusgiad ac hanner—atal ar y gair, "Di-obaith!" A dyna'r cwbl. Ond yr oedd yn ddigon.

Diogi oedd y pechod llenyddol y byddai yn anodd ganddo ef ei faddau. Diogi yn ei farn ef, oedd y rheswm paham yr oedd llawer yn ysgrifennu Cymraeg anghywir; diogi oedd yn cyfrif paham yr oedd dynion yn canu yn aneglur, gan ddisgwyl i eraill drafferthu i chwilio am ystyr yn yr hyn a ddywedant. "Ni chymer neb y drafferth", meddai yntau. "Y mae rhyw ddiffyg cydwybod lenyddol ar ——", meddai un tro, wrth sôn am ŵr adnabyddus.

"Tybed?" meddwn innau mewn syndod. "Tydi o erioed yn dwyn syniadau na dim arall oddiar neb".

"Nac ydi, wrth gwrs", meddai yntau yn ddiamynedd, "ond y mae o'n ysigo geiriau at ei iws ac mi wna wall mewn gramadeg os bydd hynny yn i siwtio fo". Ac yr oedd peth felly yn drosedd.

Ychydig iawn a soniai am ei waith ei hun fel bardd, ond yr wyf yn tybio fod ganddo feddwl go uchel o'i "Omar". Yr oedd ganddo bob hawl i feddwl yn dda o'r gwaith hwnnw, gwaith a ddeil i'w ddarllen o hyd. Ac fel y treigla amser gwelir, mi gredaf, fod rhannau o farddoniaeth Syr John Morris-Jones wedi dyfod yn rhannau o ymadroddion yr iaith erbyn hyn. Barddoniaeth dyn ieuanc ydyw y rhan fwyaf ohoni, dyn ieuanc yn gwneud y darganfyddiadau newydd y rhoddir i bawb ohonom eu gwneud yn ein tro. Meddai ef hefyd y ddawn i gyfleu rhywbeth, beth bynnag, o swyn a rhyfeddod y darganfyddiadau hynny i eraill. Y mae ei ryddiaith yn batrwm o eglurder.

Y mae'n debyg iddo gael ei siomi pan na phenodwyd ef yn Brifathro Bangor i ddilyn Syr Harry Reichel. I Gymru gyfan y tuallan i gylch y Brifysgol y mae'n bosibl mai ef oedd aelod amlycaf staff y coleg a thybiai llawer mai ef a benodid. Ar yr ochr arall dywedid mai prin oedd ei ddiddordeb yn ochr weinyddol gwaith y coleg ac na chymerodd erioed ran flaenllaw iawn ynddo. Gwn fod dwy farn ar y pwnc ar y pryd, ond ni pherthyn i mi eu trafod yma. Ni wyddwn ond ychydig iawn amdano yn y cysylltiadau hynny. Buom yn groes i'n gilydd unwaith ar fater gwleidyddol; yr oedd ef yn edmygydd mawr, mawr iawn, o Lloyd George[1], ac yr oedd papurau'r "Genedl", yr oeddwn yn eu golygu ar y pryd, yn beirniadu polisi Lloyd George fel Prif Weinidog y Llywodraeth Goalisiwn. Ysgrifennodd Morris-Jones yn llym ataf ynghylch hyn; yr oedd, meddai, yn chwith gweled Cymro yn ochri gyda chlymblaid o Saeson yn erbyn ei gydwladwr. Bu cryn lawer o ddadlau rhyngom; credai ef fod teimlad personol yn erbyn Lloyd George yn dyfod i mewn a theimlwn innau fod Lloyd George yn medru hud-ddenu pobl fel ef i'w gefnogi yn gwbl anfeirniadol.

Pan ddeallais, yn 1922, ein bod i aros o dan yr un gronglwyd yn ystod wythnos yr eisteddfod dyfalwn sut y byddai pethau, a ninnau heb gyfarfod ar ol yr ohebiaeth. Ond ni bu sôn am y llythyrau nac am wleidyddiaeth a chefais wythnos ddiddorol iawn yn ei gwmni. Credaf ein bod yn well cyfeillion ar ei diwedd nag oeddem ar y dechrau. Pan ysgrifennai mewn dadl yr oedd y gair garw ymlaen ganddo yn aml; er enghraifft, ar ddechrau un o'r llythyrau y soniwyd amdanynt dywedodd: "Nid oeddwn wedi meddwl ysgrifennu'n gas; ond y mae arnaf ofn wrth eich atebiad eich bod chwi wedi darllen fy llythyr felly". Mewn gwirionedd, gŵr mwyn a charedig oedd.


Am flynyddoedd llanwodd Syr John Morris-Jones le amlwg a phwysig hefyd ym mywyd Cymru. Yr oedd rhai dynion felly yng Nghymru'r pryd hynny, pobl y gwyddai pawb amdanynt. Yr oedd eu personoliaeth yn cyfrif, ac yr oedd eu bod yn rhan o fywyd y genedl yn rhoddi asgwrn cefn a sefydlogrwydd i'r bywyd hwnnw. Nid oeddynt yn llawer o rif, ond yn sicr yr oedd John Morris-Jones yn un ohonynt.

Nodiadau

[golygu]
  1. Wrth gyflwyno Lloyd George am radd anrhydedd yn 1908 dywedodd Morris-Jones: "Fe syll Cymru ar ei esgyniad yn llawen, nid yn drist. Nid yw ef yn llai iddi hi am ei fod yn fwy i'r ymerodraeth. Y mae Cymru hefyd yn rhan o'r ymerodraeth, ac wedi gwneuthur ei rhan i'w saernio. Ni chyll Cymru mo'i hanes ef; fe'i trysorir ganddi fel aur, ac fe erys yn galondid ac yn ysbrydoliaeth i'w meibion dros byth. Os swynodd ef y Saeson â chyfaredd ei lais arian, nid anghofiodd iaith ei fam, yr iaith y dysgodd lefaru ynddi, ar ei enau mor ddilediaith ag erioed y mae 'sain y ber heniaith sy yn y bryniau'. Os rhoddes Prydain ei gwobrau iddo, a'i thrysor dan ei ofal, ni ddwg neb mo'i galon oddiar Gymru, ac ni phaid hithau â llawenychu ynddo ef".