Neidio i'r cynnwys

Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II (testun cyfansawdd)

gan Edward Morgan Humphreys

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edward Morgan Humphreys
ar Wicipedia

GWYR ENWOG GYNT
[YR AIL GYFRES]

GWYR ENWOG GYNT
ARGRAFFIADAU AC ATGOFION PERSONOL
(YR AIL GYFRES)


GAN


E. MORGAN HUMPHREYS



1953

Argraffiad Cyntaf-Gorffennaf, 1953



ARGRAFFWYD GAN J. D. LEWIS A'I FEIBION, CYF.,
GWASG GOMER, LLANDYSUL

CYNNWYS


RHAGAIR

DIOLCHAF i Mrs. Llew G. Williams am ganiatâd i ddyfynnu o lythyrau y Parch. Llew G. Williams ac am y darlun; i Mrs. George Davies am ddarlun y Parch. George M. LI. Davies; i Mrs. J. O. Jones am ddarlun Dr. Puleston Jones: i Mr. J. Edgar Rhys Evans am ddarlun John Rhys Evans; i Syr John Cecil-Williams am ganiatâd i ddefnyddio darluniau Syr John Morris-Jones a William Llewelyn Williams a ymddangosodd yn Y Cymmrodor ac yn Nhrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion; ac i'r Mri. Hughes a'i Fab am ganiatâd i ddefnyddio darlun Alafon o Cymeriadau, gan T. Gwynn Jones. Ymddangosodd yr ysgrifau ar Eifionydd a Beriah Gwynfe Evans yn Y Genhinen a diolchaf am ganiatâd y golygyddion i'w defnyddio. Ymddengys yr ysgrifau eraill am y tro cyntaf yn awr.

E.M.H.
LLEW G. WILLIAMS

LLEW G. WILLIAMS, 1883-1926.

DAETH dydd o brysur bwyso ar lawer o bethau yng Nghymru gyda rhyfel 1914-18. I ddeall pa mor brysur oedd y pwyso hwnnw y mae gofyn i ddyn feddu gwybodaeth neu brofiad lled drwyadl o'r byd Cymreig fel yr oedd cyn y rhyfel. A chymryd Cymry yn gyffredinol, gellir dywedyd nad oedd rhyfel na milwriaeth yn eu holl feddylfryd hwynt; yr oedd milwyr yn brin yn yr ardaloedd gwledig, yr oedd y fyddin yn ddieithr i'r rhan fwyaf, ac yr oedd y mwyafrif, y mae'n debyg, yn credu fod cynnydd yn sicr, fod rhyfel yn myned yn beth amhosibl, a phe'r arhosent i feddwl am yr agwedd honno, y mae'n debyg y dywedent fod crefydd Crist yn condemnio rhyfel yn hollol ddiamwys. Profodd Norman Angell fod rhyfel yn beth colledus i'r gorchfygwr yn ogystal ag i'r gorchfygedig, ond camddeallodd llawer ohonom ei ddysgeidiaeth, gan feddwl mai dweud a wnaeth fod rhyfel yn amhosibl, peth nas dywedodd o gwbl.

Ni allem ddychmygu am ryfel ar raddfa fawr. Gwelsom ryfel De Affrica, ond yr oedd honno ymhell iawn oddiwrthym a phrin yr oedd yn cyffwrdd ein bywyd beunyddiol. Yn fy ardal enedigol yr oedd un gŵr yn filwr, wedi ymuno yn wirfoddol, wrth gwrs; ac wedi gwasanaethu ei amser—saith mlynedd, mi gredaf—yn y fyddin. Pan ddaeth rhyfel De Affrica, yr oedd yn was ffarm drachefn ac yn reservist, gan dybio yn sicr, y mae'n debyg, ei fod wedi darfod â'r fyddin am byth.

Ond daeth yr alwad a bu yn rhaid ufuddhau. Ffarweliwyd yn ddagreuol ag ef yn y capel a buwyd yn pryderu llawer yn ei gylch. Dilynid hanes y rhyfel gan gofio o hyd fod dyn o'r ardal yn rhywle ar y veldt ac, yn ôl pob tebyg, yn cymryd rhan yn y brwydro. Daeth adref yng nghyflawnder yr amser a chafodd dderbyniad mawr. Bu yn darlithio ar ei brofiadau rhyfedd fwy nag unwaith, ac fel "Hwn a Hwn y soldiar" y cyfeirid ato ymhen blynyddoedd wedi iddo fyned yn ôl at ei waith ar y ffermydd. Dyna agosrwydd mwyaf rhyfel atom ni ar ddechrau'r ganrif, a phrin y tybiai neb y gwelid ef yn dyfod yn nes. Heddwch oedd i deyrnasu; cynnydd oedd yn rheoli'r oes; yr oedd y ddynoliaeth yn dringo at berffeithrwydd. Darllenem am ormes a chreulonderau yr hen oesau, gan ddiolch am y byd braf yr oeddym ni yn byw ynddo, byd a rhyddid gwladol a chrefyddol yn teyrnasu ynddo ac i deyrnasu.

Yr oedd y rhan fwyaf o bobl yn fodlon ar y byd hwnnw, ond fod ar rai ohonynt eisiau tipyn o welliannau gwleidyddol a chymdeithasol, addysg rydd, er enghraifft, dadsefydlu yr Eglwys, sicrwydd daliadaeth i amaethwyr, ac efallai, er mai breuddwyd oedd hwnnw, pensiwn i hen bobl. Gwyddem nad oedd popeth yn berffaith, ond yr oedd pethau yn bur dda ar y cyfan a meddem hyder disigl yn y dyfodol. Dyna argraffiadau un a oedd yn ieuanc ar y pryd; yr oeddwn yn ddwy ar bymtheg oed pan dorrodd rhyfel De Affrica allan, ac yr wyf yn bur sicr, wrth edrych yn ôl, mai sicrwydd tawel oedd nodwedd amlwg meddwl pobl mewn oed yn y cyfnod hwnnw. Yr oedd y stormydd mawr, yr erlid, y lladd, y poenydio, yr anrheithio, yn bethau a oedd yn perthyn i oesau pell yn ôl. Nid oedd rhyddid mewn perygl o gwbl ag eithrio rhyddid ambell ffarmwr a fyddai yn dal ei dir dan feistr tir dylach na'r cyffredin.

Yn raddol ein dadrithiwyd. Hyd yn oed pan ddaeth rhyfel 1914 ar ein gwarthaf yn sydyn,—yn gwbl annisgwyl i'r rhan fwyaf ohonom,—nid oedd neb ohonom yn breuddwydio fod sylfeini y gwareiddiad y magwyd ni ynddo yn malurio. Ni freuddwydiodd hyd yn oed y craffaf ei welediad am yr ymyriadau â rhyddid, am y cyfyngiadau ar hawliau y person unigol, am yr honiadau am uchafiaeth ac unbennaeth y Wladwriaeth, am y dibrisio oer ar yr enaid unigol, a oedd i ddyfod fel nodweddion y cyfnod newydd yn Ewrob, yn y byd, yn ein gwlad ni ein hunain. Yn raddol, yn raddol iawn, y sylweddolwyd fod yr hen derfynau yn symud, fod dull newydd o feddwl ac o weithredu yn dyfod yn gyffredin ymhob cylch. Daeth y sioc gyntaf i lawer pan welsant rai o arweinwyr crefyddol y dydd yn troi eu cefnau, i bob golwg, ar egwyddorion y tybid eu bod yn eu proffesu ar hyd eu hoes.

Y mae'n debyg mai honno oedd yr ergyd waethaf oll, gweled crefyddwyr yn myned trosodd i wersyll grym a rhyfel ac ymyrraeth â hawliau'r unigol. Gwn o'r gorau fod gan y bobl a gymerodd yr agwedd honno eu dadl a'u hochr. Gwn fod llawer ohonynt yn ddynion da iawn ac yn ddynion cywir iawn, ond nid dyna'r pwynt. Yr ergyd oedd gweled pobl felly yn medru amddiffyn pethau a oedd, ar yr wyneb beth bynnag, mor hollol groes i'r pethau y tybid a broffesid ganddynt gynt. Yn adeg y Black and Tans yn Iwerddon galwodd ychydig o weinidogion, y diweddar Brifathro Thomas Rees, y diweddar Barch. Thomas Shankland, a'r diweddar Barch. Howell Harris Hughes, Llandudno, neu Fangor y pryd hynny, yn eu plith, gyfarfod protest yng Nghaernarfon a gofynnwyd i'r eglwysi ei gyhoeddi ac anfon cynrychiolwyr.

Yr oedd rhai o bobl orau Prydain a'r byd yn protestio yn erbyn yr anfadwaith yn Iwerddon, ond gwrthododd un, beth bynnag, o eglwysi Caernarfon gyhoeddi'r cyfarfod a gwrthododd rhai o'r lleill anfon cynrychiolwyr, ar y tir "na ddylai'r eglwys ymyrryd â gwleidyddiaeth", darganfyddiad newydd ymhlith Ymneilltuwyr. Y gwir reswm oedd mai Lloyd George oedd y Prif Weinidog ar y pryd ac yr oedd peidio digio Lloyd George yn bwysicach na wynebu ffeithiau. Yr oedd yr un peth yn nodweddu bywyd Cymru—a'r gwledydd, wrth gwrs—mewn llawer cyfeiriad yn y cyfnod hwnnw, cyfnod o ddirywiad prysur a thrychinebus. Ac yr oedd llawer o bobl ieuanc a chymharol ieuanc mewn cyfyng-gyngor ac ing meddwl ynghylch y peth. Prin ddeng mlynedd oedd wedi mynd heibio er pan ysgubodd y diwygiad drwy drefi a chymoedd Cymru. Erbyn 1918 yr oedd y Bregeth ar y Mynydd yn beth i'w hesbonio ymaith a'r gwrthwynebwyr cydwybodol yn bobl i'w dirmygu. Dywedir wrthym fod rhai ohonynt yn ddirmygus ac nad oedd eu cred yn ddiffuant, ond nid dyna'r pwynt. Y peth poenus oedd fod y dirmyg a ddangosid yn aml yn ddirmyg at gydwybod fel y cyfryw os oedd honno yn sefyll yn erbyn barn y mwyafrif ar y pryd. Yr oedd pobl ffuantus ymhlith y gwrthwynebwyr cydwybodol, y mae'n ddigon tebyg. Yr oedd pobl fel George Davies yn eu mysg hefyd a gadawyd iddo yntau fynd i garchar heb fod Cymru yn cynhyrfu dim.

Un o'r dynion ieuanc a ddaliwyd gan y storm oedd Llew G. Williams. Y mae'n debyg iawn nad yw ei enw yn adnabyddus i fawr neb o ddarllenwyr yr ysgrif hon erbyn heddiw, ond hoffwn ddywedyd ar y dechrau mai Llew G. Williams oedd un o'r dynion galluocaf a chywiraf a gyfarfum erioed. Ni welodd Cymru ef yn ystod ei oes fer, ond gwyddai'r sawl a oedd ei adnabod ei fod yn un o wŷr galluocaf Cymru yn ei ddydd. Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd, brodor o Benygroes, Dyffryn Nantlle. Bu yn fugail yn Ysbyty Ystwyth ac yn y Barri, a gorffennodd ei yrfa fel newyddiadurwr yn Llundain. Bregus iawn a fu ei iechyd ar hyd ei oes. Bu'n gorwedd yn hir pan yn ddyn ieuanc, ac ar un adeg tybid nad oedd adferiad yn bosibl. Hyd yn oed ar ôl iddo gael ei gefn ato yn weddol, gwanllyd iawn oedd ac yr oedd yn syndod i'w gyfeillion iddo gyflawni cymaint o waith. Pan ddaeth y diwedd, yn 1926, nid rhyfeddu fod Llew wedi marw a wnaem eithr rhyfeddu iddo allu byw cyhyd.

Yr oedd ei olwg yn dweud mai gwan iawn oedd y babell, er na fynnai ef i neb ond ei gyfeillion dybio hynny. Yr oedd yn weddol dal ac yn boenus o denau, gorff ac wyneb; yr oedd ei lygaid dwfn, ei wallt du, syth, a'i ruddiau yn hollol amddifad Weithiau o unrhyw liw, yn tynnu eich sylw ar unwaith. byddai ei beswch dwfn, poenus, yn ennyn eich tosturi er y byddech yn gofalu am gelu hynny rhagddo ef. Ni ofynnodd am dosturi neb erioed a gwnaeth ei orau i anwybyddu ei iechyd brau. Yn wir, ni chymerai ofal rhesymol ohono ei hun aml. Cofiaf amdano yn dyfod i edrych amdanaf. Arhosodd i de a buom yn eistedd yn hir, yn trafod y peth yma a'r peth arall. Daeth amser swper a daeth amser y bus olaf, ond yr oedd gennym lawer o bethau i'w penderfynu o hyd a chymhellais ef i aros dros y nos. Yr oedd yn tynnu at ddau o'r gloch y bore pan ellais ei berswadio i fyned i'w wely, a mynnai gael llyfr i fyned gydag ef. Erbyn y bore yr oedd wedi darllen y rhan fwyaf o'r llyfr. Ni ddywedodd hynny, ond y mae'n rhaid nad oedd wedi cysgu ond y nesaf peth i ddim.

Blinid ei gyfeillion gan y dibristod yma, ac yr oedd yntau, mewn gwirionedd, yn gwneud cam ag ef ei hun. Yn 1922 bu gan y Rhyddfrydwyr Rhydd gyfarfod mawr yn Wrecsam a daeth Asquith yno. Yr oedd yno eraill, gwŷr o ddylanwad yn y cylch gwleidyddol yr adeg honno, pobl megis y diweddar Arglwydd Sheffield, Ellis Davies ac eraill. Trefnwyd fod Llew i gynnig penderfyniad yng nghynhadledd y pnawn. Yr oedd wedi dechrau ar ei yrfa wleidyddol erbyn hynny, a disgwyliem lawer ganddo. Teimlid hefyd ei fod yn cael cyfle i'w gyflwyno ei hun i sylw rhai arweinwyr. Daeth yntau i'r gynhadledd yn hwyr, wedi dal tren diweddar o Lundain, ac heb gael bwyd er y bore. Ni allai neb, heb son am ŵr gwanllyd fel ef, wneud cyfiawnder ag ef ei hun o dan amgylchiadau felly, a siomedig oedd ei araith. Yr oedd ei iechyd, y mae'n debyg, yn cyfrif am lawer o'r pethau yma, ond y mae'n rhaid cyfaddef y byddai weithiau yn trethu cryn lawer ar amynedd ei gyfeillion am y teimlent nad oedd yn gwneud chwarae teg ag ef ei hun.

Safodd yn erbyn y rhyfel o'r cychwyn. Yr oedd ei safbwynt yn syml. Ni chredai fod rhyfel i'w gysoni â chrefydd Crist, a dywedodd hynny, gyda'r canlyniadau y gallesid eu disgwyl. Yr oedd llawer o bobl hollol gywir yn credu fod y rhyfel yn gyfiawn; yr oedd llawer iawn o bobl heb fod mor gywir yn credu mai peth annoeth oedd dweud dim yn groes i'r gred, ac yr oeddynt hwy, yn anad neb, yn ffyrnig yn erbyn y neb a feiddiai wneud hynny. Ni wn i pa beth a ddywedai Llew yn ei bregethau, ond gwn iddo deimlo yn anesmwyth yn lled fuan. Glynai ei eglwys wrtho, ond yr oedd yntau yn ei deimlo ei hun yn pellhau oddiwrth gyfundrefnau crefyddol ei ddydd. Siglwyd rhai pwyntiau yn ei gred, ac y mae'n debyg iddo ddywedyd hynny. Ni phregethai Llew Williams ond a gredai. Y gwir oedd fod credo llawer iawn wedi ei siglo yr adeg honno, ond nid oedd pawb yn ddigon gonest i addef hynny.

Ymneilltuodd o'r fugeiliaeth ond nid o'r weinidogaeth. Credaf y buasai peidio pregethu yn loes iddo; credai rai pethau, y pethau sylfaenol yn ei farn ef, yn angerddol ac yr oedd arno eisiau cael gan bobl eraill eu credu. Aeth i Lundain, lle bu am ysbaid yn ohebydd Llundain i'r Faner ac yn gwneud gwaith newyddiadurol arall. Yn y cyfnod hwnnw bu'n ysgrifennu "Llythyr Llundain" i mi i'r Genedl. Yr oedd wedi ysgrifennu cryn lawer i gyhoeddiadau eraill. Bu yn un o "Facwyiaid" Mr. Shankland, y grŵp bychan o efrydwyr a ddechreuodd ysgrifennu i'r papurau Cymraeg o dan ffug-enwau a Shankland yn anfon eu hysgrifau i'r wasg, gan wrthod dywedyd wrth y golygyddion pwy oeddynt. Cofiaf i mi fod mewn dadl a Shankland ar y pen hwnnw a chyhoeddi rhai o ysgrifau Llew ar ôl cael y wybodaeth angenrheidiol, os iawn y cofiaf. Ysgrifennodd gryn lawer i'r Welsh Outlook hefyd. Yr oedd yn feirniad llenyddol craff, y mae ei ysgrifau yn y Welsh Outlook ar Daniel Owen cystal a dim a wnaed ar y gŵr hwnnw. Ond erbyn yr adeg yr oedd yn ysgrifennu i'r Genedl credaf fod ei ddiddordeb yn troi fwy-fwy i gyfeiriad gwleidyddiaeth.

Bu'n ymgeisydd Seneddol unwaith, yng Ngorllewin sir Ddinbych, yn 1922. Safodd fel Rhyddfrydwr Rhydd, ond yr oedd dau ymgeisydd, Rhyddfrydwr a gefnogai'r Coalisiwn, a Thori, yn ei erbyn, ac nid oedd ganddo siawns, yn y cyfnod hwnnw, hyd yn oed pe buasai yn ymgeisydd da. Ac nid oedd yn ymgeisydd da. Yr oedd yn siarad yn dda, ond yr oedd ei feddwl yn rhy finiog ac yn rhy ddadansoddol iddo fedru gwneud apêl gyffredinol lwyddiannus, ac yr oedd at hynny bron yn gwbl amddifad o'r ddawn i gofio pwy oedd yn bwysig a chadw ei bapurau a'i ymrwymiadau mewn trefn. Cafodd o fewn ychydig i ddwy fil o bleidleisiau; cafodd ei wrthymgeisydd Rhyddfrydig yn agos i dair mil ar ddeg, a'r Tori ychydig dros naw mil. Ni ddaeth Llew Williams i'r maes wedyn a theimlai ei gyfeillion mai gwell iddo oedd peidio. Mewn cyfeiriad arall yr oedd ei nerth ef. Yn ddiweddarach ymunodd â Phlaid Llafur, ond y mae'n amheus gennyf a fuasai yn ddedwydd yn hualau unrhyw blaid wleidyddol.

Credaf mai ef oedd y newyddiadurwr gwleidyddol gorau yng Nghymru yn ei ddydd. Bu yn ysgrifennu "Llythyr Llundain" i'r Genedl Gymreig am rai blynyddoedd, ac ni phetrusaf ddweud fod ei waith o wythnos i wythnos ymhlith y pethau gorau a oedd yn ymddangos, nid yn y wasg Gymraeg yn unig ond yn y wasg Saesneg hefyd. Yr oedd yn graff i glywed ac i dynnu casgliadau oddiwrth yr hyn a glywai, yr oedd ganddo argyhoeddiadau pendant, gwybodaeth bur eang, a dawn i ysgrifennu yn glir ac i'r pwynt. Weithiau tybiwn y byddai ei iaith yn rhy blaen ac yn ffinio ar fod yn beryglus. Y pryd hynny byddwn yn newid neu yn gadael allan, ac ar y cyfan byddai yntau yn bodloni. Eithr gwingai weithiau, fel y gwna y rhan fwyaf o bobl.

Wrth droi dros ei lythyrau ataf, gwelaf un brotest felly. Dywed nad oedd ganddo "ronyn o stumog gweled yr ysgrif wedi ei thorfynyglu, fel yr awgrymwch, oblegid ni byddai felly yn wir,—fel yr ymddengys y gwir i mi ar y mater, ac nid oes gan neb ohonom ond dywedyd y gwir fel y gwel ef ei hun hwnnw. . . . Darllenais hi yn fanwl ddwywaith neithiwr, ac nid oes ynddi un gosodiad nad wyf yn barod i gymryd y cyfrifoldeb amdano, ac i'w gyhoeddi eto pan gaffwyf hamdden a chyfleustra i hynny. Ond ni fynnwn i unrhyw anfri a ddichon fod ynglŷn wrth ei gyhoeddi ddisgyn i ran neb arall". Nid wyf yn cofio erbyn hyn beth oedd o dan sylw ar y pryd, ond byddai yn ysgrifennu yn gryf iawn ar brydiau, ac y mae gan olygydd ddyletswydd i feddwl am ei bapur. Gwyddai yntau hynny, fel y dengys y frawddeg olaf a ddyfynnwyd. Ni thybiodd neb erioed iddo wneud unrhyw osodiad nad oedd yn barod i gymryd y cyfrifoldeb amdano; yr oedd yn onest ac yn gydwybodol i'r carn. Deuai hynny yn amlwg yn ei lythyrau ataf; digiai weithiau, wrthyf fi neu wrth y papur, a dywedai hynny yn bur finiog, ond ni byddai yn dal dig ac yr oedd yn llawn cydymdeimlad ag anawsterau golygydd mewn cyfnod anodd. Trysoraf y llythyr olaf a gefais oddiwrtho, llythyr oddiar wely cystudd, a hwnnw yn gystudd hir. Dyma un frawddeg: "Yr wyf yn hollol sicr fod rhywbeth yn greadigol a thragwyddol ymhob gwaith y byddom yn rhoddi ein gorau ynddo, ac yr ydych chwi yn gwneud gwaith felly yn a thrwy'r Genedl bob wythnos. . . . Un o'm hoff adnodau i yn y Testament Newydd ydyw 'Ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.' Ac adnod wir iawn ydyw." Yr oedd y diwedd yn bur agos yn ei hanes ef ar y pryd.

Yr oedd llawer o frawddegau cofiadwy yn ei lythyrau. "A oes rhywbeth yn bwysig", meddai mewn llythyr yn 1916, "o'i gymharu a'r tawel hedd sy'n dod i ddyn o ateb cydwybod onest gerbron Duw"? "Fel chwithau", meddai yn 1917, pan oedd pethau waethaf, "yr wyf mewn anobaith parthed peirianwaith yr eglwys. Y mae miloedd lawer o eneidiau cywir ynddi ond y mae ei llywodraeth yng ngafael y Philistiaid. Ac y maent yn ofnadwy gadarn yn eu noddfeydd". Parhaodd y rhyfel a'i ddifrod i bwyso ar ei feddwl, a theimlai gymaint oddiwrth bwysau'r caledwch a'r diffyg teimlad a oedd yn y wlad hon ag oddiwrth greulondeb y rhyfel.

"Cymysg iawn yw'm profiad yn y drycinoedd yma", meddai mewn llythyr ddechrau 1918, "ac y mae ymadrodd lyfr y Salmau yn dynodi fy ysbryd cystal a dim: 'Diffygiaswn pe na chredaswn weled daioni'r Arglwydd yn nhir y rhai byw.' Y mae cynifer o bethau yn digwydd a'u tuedd i ddigalonni dyn. Oedir gobaith o hyd, a lles câ hynny'r galon ar brydiau, ac y mae dyn yn gorfod brwydro heb gymorth dynion y buasid yn disgwyl, efallai, iddynt fod yn symol gadarn yn eu carn. Ond y mae hudoliaeth golud a gwanc am swyddau a hunanles yn profi yn andwyol i dyfiant pethau gorau bywyd o hyd".

"Yma neu oddiyma", medd mewn llythyr tua'r un adeg, gwae fi oni phregethaf yr efengyl' er mor amhoblogaidd yw honno heddiw—yn enwedig yn yr eglwys. Hwyrach y daw plygain ynghynt nag yr ofnwn."

Yn y gwanwyn yn 1918 ymddiswyddodd o'i ofalaeth fïugeiliol yn y Barri, er i'r eglwys geisio ei berswadio i aros. Ym Medi y flwyddyn honno cefais lythyr oddiwrtho. Yn hwnnw dywed:—

"Rhaid i mi bellach rodio llwybrau eraill. Duw yn unig a ŵyr pa lwybrau a fydd y rheiny. Y mae'm holl galon i yn y weinidogaeth a'i gwaith—ond rhoddi ystyr ddigon eang i'r gwaith. Teimlaf er hynny fod gagendor rhwng fy safle a'm gwelediad i ar agos bob pwnc, diwinyddol, cymdeithasol a gwleidyddol, â safle swyddogol y Cyfundeb fel y gwelir hi yn arweinwyr y Corff, ac yn y rhan fwyaf o lawer o'i aelodau. Rhoddant bwys anferth ar rinweddau gwneuthur,—ffyddlondeb i'r Cyfundeb yn fwy peth ganddynt na ffyddlondeb i'r Iesu a'i ddysg—a rhyw ffug urddas mursenaidd a gwag, gan anwybyddu yn eu cred a'u harfer bethau trymaf y gyfraith, barn a thrugaredd a ffydd. Pe gwelwn ryw lwybr yn agor a'm galluogai i wneuthur fy nhipyn gwaith yn y byd yma heb i mi fod mewn cysylltiad swyddogol â'r weinidogaeth mi a'i rhodiwn heb betruso dim. Gwn fod angenrhaid wedi ei osod arnaf i bregethu'm gweledigaeth a gwae fi oni wnelwyf hynny, ond nid wyf yn meddwl fod gofalu am eglwys yn yr ystyr a roddir yn gyffredin i'r gair hwnnw yn un rhwymedigaeth arnaf."

Effaith y rhyfel sydd i'w weled yn amlwg yn y llythyrau hyn; adlewyrchant y siom a'r benbleth a ddaeth i ran llawer ohonom yn y cyfnod hwnnw pan deimlem fod y sylfeini yr ymddiriedwyd ynddynt yn siglo, neu, yn hytrach, nad oedd gan lawer o bobl sylfeini o gwbl.

Ond yn awr ac yn y man deuai nodyn personol arall i'r llythyrau. Yn nechrau 1920 yr oedd Llew Williams yn Llundain, ar ôl bod yn aros am ychydig yn y wlad.

"Gallaf fwynhau tawelwch yn ardderchog am wythnos", meddai, "ond wedi i'r nerth ddechrau dychwelyd ac i'r galon ddechrau curo daw awydd am fod yngafael a'm gwaith, a rhaid bwrw iddi wedyn hyd oni ddelo lludded a gwendid drachefn i beri i mi ymbwyllo. Pa beth ddelai ohonom ni mewn difrif—ni bobl afiach yn enwedig—oni buasai am waith? Y mae cyn gased gennyf fi ddechrau arno â neb, ond unwaith y caf ddigon o blwc i'w gychwyn, yr wyf gymaint wrth fy modd ag y gall dyn ddisgwyl bod mewn byd fel hwn. Onibai fy nghred ddiysgog fod Duw y tu ôl i dryblith rhyfedd y byd yma a'i fod ef trwy orau dyn yn ceisio dwyn bwriadau daionus i ben rywbryd, a chariad hefyd at fywyd, mi gredaf mai gwaith lled hawdd i mi fuasai torri'm calon a bwrw fy hun i ganol tawelwch y Dafwys yma. Pan fydd pryder neu ofn yn fy mygwth digon i mi fydd mynd allan i edrych ar y ser, neu redeg am dro i'r llanerchau llonydd sydd o fewn hanner awr i mi o'r fan yma a dof yn ôl fel ewig ysgafndroed."

Mewn llythyr arall dywedodd: "Y mae rhyw gysur ynghanol tywyllwch a gwallgofrwydd y byd yma mewn cael bod o blaid ' pa bethau bynnag sy' wir' a golau a synhwyrol er i ni fod yn y lleiafrif am ein hoes. Llawer o hwyl a gaffoch i ddal ati yn y flwyddyn newydd." Ar un olwg yr oedd yn rhyfedd gweled gŵr oedd yn dioddef cymaint yn ei gorff ac mor deimladwy yn ei feddwl i ing y byd yn dywedyd, yn yr un llythyr: "Onid bendith amhrisiadwy ydyw dedwyddwch ysbryd cyhyd ag y parhao? Gwn, wrth gwrs, am brudd-der digon dwys yn fynych, ond i'r Ysbryd mawr y bo'r diolch, dedwyddyd sydd yn normal i'm hysbryd i."

Parodd darllen y cyfeiriad at y sêr yn y darn a ddyfynnwyd i mi gofio am ddigwyddiad yn stesion Caernarfon. Yr oeddwn wedi myned i ddanfon Llew at y tren, ac, yn ôl fy arfer, wedi myned ag ef i'r stesion yn llawer rhy gynnar. Cerddem yn ôl a blaen ar hyd y platfform a dechreuodd ef son am lyfr R. Williams-Parry, Yr Haf a Cherddi Eraill, a oedd newydd ei gyhoeddi. Adroddodd y soned i Bantycelyn, a chofiaf byth am ei lais fel y dywedai y llinell "Fel lloer ddi-gartref rhwng lluosowgrwydd sêr". Yr oedd llenyddiaeth fawr yn apelio yn ddifeth ato; yr oedd yn feirniad gwych a chredaf y buasai yntau wedi cynhyrchu llenyddiaeth fawr pe cawsai hamdden, ar waethaf ei iechyd bregus. Fel yr oedd pethau, yr oedd yn rhaid iddo wneud caledwaith newyddiadurol o ddydd i ddydd er mwyn bywoliaeth. Ni chwynodd; wynebodd y safle yn ddewr, daliodd ati hyd y diwedd trwy wendid mawr. Rhedodd yr yrfa a chadwodd y ffydd. Safodd yn ddiofn dros ei gred a daliodd y lamp yn olau mewn cyfnod tywyll iawn yng Nghymru. Bu yn bur i'r weledigaeth a roddwyd iddo, ac os adeiledir Cymru eto ar seiliau diogel gwneir hynny am fod dynion fel Llew G. Williams wedi cadw'r sylfeini rhag cael eu llwyr ddinistrio.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
George Maitland Lloyd Davies
ar Wicipedia
GEORGE M. LL. DAVIES

GEORGE DAVIES, 1880-1949

RHODDAF "George Davies' yn unig uwchben yr ysgrif hon.

Ei enw llawn oedd George Maitland Lloyd Davies, ac ambell dro, yn ei flynyddoedd diwethaf, cyfeirid ato fel George M. Ll. Davies neu, yn fwy cywir, fel y Parchedig George M. Ll. Davies. Ond yr enw bob dydd, yr enw a oedd yn annwyl i filoedd o Gymry a phobl o genhedloedd eraill, oedd George Davies, ac fel George Davies y bwriadaf gyfeirio ato o hyn ymlaen.

Y tro cyntaf i mi ei gyfarfod oedd mewn Sasiwn, yn un o gyrddau cyhoeddus sasiwn Caernarfon yn rhywle tua 1916 neu 1917, nid wyf yn sicr o'r flwyddyn. Eisteddai tri ohonom yn yr un sêt, y Parch. Griffith Hughes, Caer (y pryd hynny), George Davies (nid oedd wedi myned i'r weinidogaeth eto) a minnau. Ar derfyn y cyfarfod gofynnodd George Davies, "A ddaru chi feddwl pwy oedd yn eistedd yn y sêt yna heno?" Atebais innau fy mod yn gwybod pwy oedd yno. "Ni ein tri," meddwn.

"Ie", meddai yntau, "ŵyr i Griffith Hughes, Edern, ŵyr i Edward Morgan, y Dyffryn, ac ŵyr i John Jones, Talsarn. Dyna i chi ddarn o draddodiad."

Sylweddolais ei fod yn falch o'i dras, ac yr oedd ganddo bob hawl i fod felly. Deallais hefyd ei fod yn falch o'r traddodiad y soniodd amdano, traddodiad pulpud a chrefydd Cymru. Ac yr oedd ef ei hun yn amlwg iawn yn rhan o'i draddodiad. Clywais hen bobl a fu'n gwrando ar John Jones, Talsarn, yn son am harddwch ei gorff a'i bryd, ac yr oedd yr harddwch hwnnw yn y teulu. Yr oedd ei fab, y Parch. David Lloyd Jones, yn ŵr nodedig o landeg, ac yr oedd yr un peth i'w weled mewn perthynasau pellach. Yr oedd John Jones a gwraig y Llyndu Isaf, Nant Gwynant, mam y diweddar William Roberts, Syr Thomas Roberts a Mrs. W. T. Williams, Caernarfon, yn gefnder a chyfnither, ac yr oedd y tri a enwyd yn nodedig am eu harddwch. Gwelais berthynasau eraill i'r teulu, pob un, yn ddynion ac yn ferched, yn osgeiddig o gorff a hardd o bryd, a'r rhan fwyaf yn meddu nodweddion meddwl pell uwchlaw'r cyffredin. Y mae rhywbeth mewn tras, dyweder a fynner, ac y mae'r hen ddywediad ei bod yn anodd dwyn dyn oddiar ei deulu yn ddigon gwir. Daw'r nodweddion i'r golwg, yn fwy neu lai amlwg, yn y naill genhedlaeth ar ôl y llall.

Yr oedd George Davies yn ŵr eithriadol yr olwg arno. Pan fu farw soniodd amryw o'r ysgrifau coffa am ei ymddangosiad aristocrataidd, ond ymddangosiad Talsarn oedd y disgrifiad cywir. Yr oedd yn dal ac yn osgeiddig, yn lân ei wynepryd a chanddo'r ddau lygad mawr gyda'r prydferthaf a welais erioed. Tynnai sylw mewn unrhyw dyrfa; clywais bobl na wyddent ddim amdano yn holi pwy ydoedd. Nid yw pendefigion yn edrych yn bendefigaidd bob amser, ond yr oedd George Davies yn edrych felly. Gweithio yn y chwarel ac ar y ffordd y bu John Jones, Talsarn, ar ddechrau ei yrfa, ond yr oedd yntau, fel aml un arall o gyffelyb amgylchiadau, yn olrhain ei drâs yn ôl i hen deulu pendefigaidd Cymreig. Y mae'n bosibl nad oes dim yn hynny; y mae aml i hen deulu felly wedi darfod mewn dinodedd cwbl haeddiannol. Ond y mae ochr arall, hefyd, a cheir ambell deulu yn parhau yn hir yng ngwasanaeth Cymru mewn rhyw gyfeiriad neu'i gilydd. Un o'r teuluoedd hynny oedd teulu George Davies.

Y peth arall a'ch trawai ynddo ar unwaith, heblaw ei harddwch, oedd ei gwrteisi. Nid oedd arlliw o fursendod yn agos ato; yr oedd mor naturiol a dirodres ag y gallai dyn fod. Tarddai ei gwrteisi yn uniongyrchol o'i barch i'w gyd-ddynion, a tharddai hwnnw drachefn o'i grefydd. Credaf fod hynny y tuhwnt i unrhyw amheuaeth. Clywir pobl yn sôn weithiau am erwinder Piwritanaidd y tadau ac yn ymgroesi rhag yr hyn a alwent hwy yn "agosatrwydd" hyf. Ond tybed na welodd pawb ohonom a fagwyd yng Nghymru esiamplau o'r boneddigeiddrwydd a'r cwrteisi a geid mewn llawer o bobl mewn amgylchiadau bydol cyffredin iawn am fod eu crefydd wedi eu gwneud yn frenhinoedd ac yn offeiriaid? Parchent eu cyd-ddynion am eu bod yn ddynion ac yn eneidiau anfarwol. Yr oedd yr un peth yn George Davies, rhyw gwrteisi cynhenid, rhyw fwynder urddasol a ddylanwadodd ar rai y buasai yn anodd iawn i ddim arall eu cyffwrdd.

Y mae'n sicr fod hwnnw hefyd mewn rhan, beth bynnag, yn etifeddol. Unwaith erioed y gwelais ei fam, merch John Jones, a hynny yng nghapel Princes Road yn Lerpwl, yn un o gyfarfodydd mawr diwygiad Evan Roberts. Gŵyr y sawl sydd yn cofio am y diwygiad yn y blynyddoedd 1904 hyd 1906 fel y byddai ugeiniau yn y cyfarfodydd yn gweddïo, yn canu, neu yn adrodd adnodau a phrofiadau ar draws ei gilydd, ac yr oedd felly yn y cyfarfod hwnnw y noson honno. Dywedid llawer o bethau digon amrwd, fel y gallesid disgwyl, a hynny mewn geiriau a brawddegau pur afler yn aml, ond y tro hwn cyfododd gwraig yn fy ymyl a dechreuodd weddïo. Gwyddwn pan glywais yr ychydig frawddegau cyntaf fod yno rywbeth a rhywun eithriadol. Yr oedd yn hardd o bryd, yr osgo yn urddasol, y llais yn swynol, a'r geiriau a'r brawddegau yn brydferth ac yn gaboledig. "Merch John Jones, Talsarn", meddai rhywun yn fy nghlust. Ni bum yn siarad â hi ac ni welais hi na chynt na chwedyn, ond erys yr argraff a wnaeth arnaf yn yr ychydig eiliadau hynny yn fyw ar fy meddwl o hyd. A phan ddeuthum i adnabod George Davies gwelwn ei fod wedi etifeddu llawer o bersonoliaeth ei fam.

Yn ystod blynyddoedd blin rhyfel 1914-18 daeth enw George Davies yn amlwg iawn fel gwrthwynebydd cydwybodol i ryfel. Cofiaf Beriah Evans yn gofyn i mi beth a ddywedai rhai o'r arweinwyr oedd yn pleidio'r rhyfel pan glywent fod ŵyr John Jones, Talsarn, yn myned i garchar oherwydd ei gydwybod. Hyd y cofiaf, ychydig iawn a ddywedodd neb ond ambell un fel Thomas Rees a Puleston Jones. Triniwyd George Davies ac aml un arall yn galed, ac y mae'n chwith meddwl fod rhai pobl yng Nghymru, a'r rhai hynny yn bobl yr oeddym wedi arfer edrych i fyny atynt, yn credu mai yn galed y dylid trin eu bath. Clywais George Davies yn sôn am ei brofiadau yng ngharchar ar law mân swyddogion trahaus; buaswn i wedi chwerwi am fy oes pe buasai pethau felly wedi digwydd i mi, eithr nid oedd chwerwder yn agos ato ef. Tybiwn y byddai weithiau hyd yn oed yn cael tipyn o ddifyrrwch wrth feddwl am yr amser. Nid oedd yn anghofio, ond yr oedd wedi maddau'r cwbl.

Yr oedd ei gywirdeb, ei gwrteisi a'i dduwioldeb diamheuol yn dylanwadu yn fawr ar y bobl orau yr oedd yn eu cyfarfod yr adeg honno. Nid ef a ddywedodd hyn wrthyf, ond credaf fod yr hanes yn wir; bu un gwleidydd Seisnig enwog yn ymliw yn hir ag ef, ond, wrth gwrs, heb lwyddo i'w droi fodfedd oddiar ei lwybr.

O'r diwedd dywedodd y gwleidydd: "Mr. Davies, credaf eich bod yn cyfeiliorni, ond yr ydych yn well dyn na mi". Yr oedd hwnnw yn ŵr bonheddig, ond nid oedd pawb y bu yn rhaid i George Davies ymwneud a hwy yn y cyfnod hwnnw felly, a dioddefodd lawer, heb gwyno na ffyrnigo. Yr oedd ei amynedd, ei ddawn,—pa air arall a ddefnyddir?—i faddau, a'i athrylith i weled y gorau ymhawb yn rhyfeddol iawn. Byddai yn trethu fy amynedd i ar y cymal olaf weithiau mynnai weled rhinweddau mewn pobl na fedrwn i weled rhinwedd o gwbl ynddynt, ac ai ymhell i lunio esgusion drostynt pan dueddwn i ddweud gyda Huw Morus,

Pan gaffwyf gynneddfau rhinweddau yn y rhai'n,
Afalau ga'i'n felus mewn dyrus lwyn drain.


Yr oedd yn rhaid i'r llwyn drain fod yn ddyrus iawn cyn y methai George Davies weled afalau yn tyfu ynddo yn rhywle. Yn wir, tueddaf i gredu mai'r unig ŵr y methai ef weled rhinwedd ynddo oedd George Davies. Nid hawdd ganddo oedd maddau iddo ef ei hun.

Yr oedd yn ddisgyblwr didrugaredd arno ei hun. Credai mai gwas oedd a bod yn rhaid iddo wneud gwaith yr Hwn a'i hanfonodd er i'r gwaith hwnnw drethu ei natur i'r eithaf. Dywedai hanes pethau felly wrthych yn hollol naturiol a syml. Dywedodd wrthyf unwaith ei fod, tua'r adeg pan fu yn gweithio ar ffarm yn Llŷn, wedi gofyn ar ei liniau am gyfarwyddyd. Credai iddo gael gorchymyn i fyned a sefyll ar Faes Caernarfon a phregethu. "Wel, drapia unwaith!" meddai wrtho ei hun; yr oedd yn casáu'r syniad, fel y gallai pawb oedd yn ei adnabod ddeall. Gŵr llednais, yswil oedd wrth natur, ond teimlai fod ufudd-dod yn ddyletswydd, ac aeth. Er ei syndod, cafodd gynulleidfa a oedd yn ymddangos yn llawn cydymdeimlad, a gwrandawiad astud. Rhyfeddai ef at hyn, ond mewn gwirionedd nid oedd yn beth rhyfedd o gwbl. Yr oedd ei ymddangosiad a'i bersonoliaeth a'i gywirdeb yn ennill y bobl ymhob man.

Ni feddai huodledd ei daid na'i ewythr, David Lloyd Jones, Llandinam. Siaradai yn rhugl, gyda llais dymunol, ond nid wyf yn meddwl fod "tinc Talsarn" ganddo. Yr oedd honno i'w chlywed weithiau yn lleisiau aelodau eraill o'r teulu. Clywais y diweddar Syr Thomas Edwards Roberts, o Blas y Bryn, mab i gyfnither John Jones, yn siarad yn gyhoeddus unwaith; nid oedd dim byd neilltuol yn yr hyn a ddywedai ond yr oedd yr hyfrydlais ganddo yntau, ac yn sydyn ac annisgwyliadwy clywyd ef y tro hwnnw. Yr oedd gwefr yn y peth er i'r geiriau fod yn ddigon cyffredin. Ni chlywais yr hyfrydlais yn hollol gan George Davies, ond y mae'n sicr fod gan John Jones rywbeth heblaw'r dinc. Yr oedd ei ymddangosiad a'i bersonoliaeth yntau yn ennill y bobl. Dyna a ddigwyddodd pan bregethodd dan y goeden—y mae hi yno eto, mi gredaf—sydd ar draws y ffordd i eglwys Llandeilo, i gynulleidfa a oedd yn ddigon difater os nad yn elyniaethus ar y dechrau, a'i hennill yn lân. Etifeddodd George Davies y swyn hwnnw; yr oedd yn ennill ei le heb yn wybod iddo ei hun yn rhinwedd ei gywirdeb a'i foneddigeiddrwydd.

Yn ystod ei brofiadau chwyrn adeg y rhyfel cyntaf daeth i deimlo yn agos iawn at y werin ymhob man. Nid yn unig daeth i hoffi ffermwyr a gweithwyr y tir yn Llŷn ac Eifionydd ond hoffodd hefyd y cymeriadau y daeth i gyffyrddiad â hwy yn y carchar, rhai ohonynt yn rhai digon od. Yr oedd ei gariad yn ddwfn at y werin ymhob man, ond y mae'n sicr mai'r werin Gymreig oedd yn cael y lle blaenaf yn ei galon. Fel yr heneiddiai deuai hyn yn amlycach o hyd. Magwyd ef yn Lerpwl a throdd lawer ymhlith Saeson a phobl o genhedloedd eraill. Yr oedd yn adnabod llawer o enwogion, yn llenorion, yn wleidyddion, yn feirdd ac yn bendefigion, ac yr oedd yn gyfeillgar gydag amryw ohonynt. Wrth siarad ag ef am y peth yma a'r peth arall digwyddech sôn weithiau am rywun adnabyddus a dywedai yntau ei fod yn ei adnabod, ond byddai yn rhaid i'r sgwrs droi i'r fan honno cyn y dywedai hynny. Eithr hoffai sôn ohono ei hun am hen gymeriadau gwlad ac am hen hanes Dolwyddelan, ardal enedigol ei daid a'r ardal y daeth yntau i fyw ynddi yn y blynyddoedd olaf. Gwell ganddo, yn y blynyddoedd hynny, droi gyda Chymry, siarad Cymraeg a sôn am lenyddiaeth a chrefydd Cymru. Ni bu gair o un iaith arall yn ei angladd.

Byddai yn hoff o adrodd ambell stori am wahanol gymeriadau. Tueddai rhai i feddwl nad oedd ganddo fawr o hiwmor, ond camgymeriad oedd hynny. Un o'r troeon diwethaf i mi ei weled yr oedd yn cael hwyl neilltuol wrth gofio am ddywediad un o'i ddefaid yn sir Forgannwg. Gwahoddwyd George Davies a'r dynion diwaith yr oedd yn gofalu amdanynt i balas yr esgob gan Timothy Rees, Esgob Llandaf ar y pryd, a chawsant groeso mawr yno. Ar y daith yn ôl gofynnodd George iddynt sut yr oeddynt wedi eu mwynhau eu hunain.

"Ah, it was fine", meddai un ohonynt. "The Bishop was like a father to us. But I was vexed to see Tom disgrace us at the table."

"What did Tom do?" meddai George Davies. "I didn't notice anything wrong."

"Didn't you see him eating his bloody trifle with a knife?" ebe'r llall.

"Yr oeddwn i'n meddwl y buasai gwneud hynny yn gryn gamp!" meddai George Davies wrth ddweud yr hanes. Yr oedd ganddo lawer o straeon fel yna a byddai yn mwynhau eu hadrodd.

Dro arall dywedodd hanes y cerydd caredig a gafodd gan flaenor yn Sir Feirionnydd, "hen frawd annwyl", meddai wrth adrodd yr hanes. Ar ddiwedd oedfa daeth ato a gofynnodd iddo gymryd gair o gyngor yn garedig—yr oedd gofyn iddo wisgo yn fwy addas i'w swydd fel gweinidog.

"'Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n weddol daclus", meddai George Davies, "a gofynnais iddo a oedd am i mi wisgo coler gron".

"Na, na, coler Pab ydi honno", meddai'r hen frawd, "ond mi leiciwn i pe buasech chi'n gwisgo tei wen—'does dim byd neisiach i bregethwr!"

Nid oedd dim yn bregethwrol ynddo. Rheolwr banc oedd ar ddechrau ei yrfa gyhoeddus; ar ôl rhyfel 1914-18 y penderfynodd fyned i'r weinidogaeth a chymryd ei ordeinio, a bu am ysbaid fer yn fugail eglwys. Ar ôl hynny bu'n gweithio yn y De yn ceisio gwneud rhywbeth i leddfu'r tlodi a'r cynni yno yn ystod y blynyddoedd drwg, ac yn ddiwethaf oll daeth i fyw i Ddolwyddelan, i'r tŷ lle bu Crych Elan, awdur "Y bwthyn bach to gwellt", yn byw unwaith. Parhaodd i bregethu, dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Nolwyddelan, siaradai yma ac acw ar heddwch a brawdoliaeth a chwiliai am gyfle i wneud cymwynas. Ni ellid synio amdano fel dyn un enwad na chyfundeb.

Fel y dywedwyd, nid oedd yn areithiwr. Ysgrifennodd lawer, ond nid oedd yn ysgrifennwr gwych ychwaith. Yn ei anerchiadau a'i ysgrifau byddai yn sicr o ddyfod yn ôl at un pwnc, cariad a chymod, brawdoliaeth dyn wedi ei sylfaenu ar dadolaeth Duw. "Ymha rych bynnag y bydd y drafodaeth yn dechrau', meddai un cymydog craff, "y mae hi'n gorffen yn yr un dalar efo George", ac yr oedd cryn lawer o wir yn y dywediad. Er hynny, yr oedd yn enwog trwy Gymru ac yn ddylanwad mawr ar fywydau llawer. Ei athrylith ysbrydol, ei gywirdeb tryloyw, ei dynerwch mawr oedd yn cyfrif am hynny. Moesol oedd ei ddylanwad. Dioddefodd ingoedd enaid oherwydd pechod a chreulondeb a diffyg cariad y byd, a bu byw mewn cyfnod pan gafodd y pethau hynny adnewyddiad nerth a gallu. Yr oedd y baich yn drwm ar ei ysbryd; carai ddynion a gwaedai ei galon drostynt yn eu trueni a'u hangen a'u hanwybod. Ni allech fod yn hir yn ei gwmni heb gael cip ar y dyfnderoedd o deimlad ac o ddioddef oedd ynddo, er na cheisiodd ef erioed ddangos hynny. Os bu dyn erioed yn sant yr oedd George Davies yn sant. Ac fel pob sant, y mae'n debyg, yr oedd ynddo elfennau a barai ei fod weithiau yn anodd ei ddeall.

Yn erbyn cefndir Dolwyddelan yr hoffaf feddwl amdano. Gwelais gryn lawer arno yno yn y blynyddoedd olaf gan y byddwn yn myned yno ar fy ngwyliau bob blwyddyn. Os digwyddai fod yn ddiwrnod gwlyb byddai George Davies yn bur sicr o ddyfod i'r llety i edrych amdanom, a da a fyddai clywed ei lais cariadus fel y deuai ar hyd llwybr yr ardd at y drws. Yr oedd yn ymgomiwr diddan; cyfarfu â llu o bobl ddiddorol o wahanol safleoedd a byddai ganddo lawer o straeon ac atgofion i'w hadrodd amdanynt. Yno, dan gysgod Moel Siabod, siaradem am Dan y Castell, lle ganed ei daid, ac am Nant y Tylathau, yn unigrwydd y mynydd, lle byddai John Jones, yn llanc ieuanc, yn pregethu i'r defaid a'r gwarth- eg, a buom yn cynllunio myned yno gyda'n gilydd. Daeth rhywbeth i rwystro'r bwriad hwnnw; buasai'n dda gennyf fod wedi gweled ŵyr Talsarn yn sefyll wrth y garreg ar fin y nant.

Yng Nghynfal, hen gartref Morgan Llwyd, y gwelais ef am y tro diwethaf. Daeth yno i'r dathliad, pan ddadorchuddiwyd y tabled ar fur y tŷ, a siaradodd. Traddodiad hir a pharhaol iawn yw'r traddodiad Cymreig a theimlwn y diwrnod hwnnw fod George Davies a Morgan Llwyd yn yr un olyniaeth ac yn perthyn yn bur agos i'w gilydd. Bu'r naill a'r llall byw mewn cyfnodau tymhestlog, helbulus; cymerodd y naill a'r llall ran ym mywyd cyhoeddus eu dydd, a bu'r ddau yn ddewr i fynegi eu barn a'u hargyhoeddiad mewn amseroedd enbyd. Rhedodd y ddau yr un yrfa; cadwodd y ddau yr un ffydd. Yr oedd George Davies yn ei awyrgylch briodol ym muarth Cynfal y diwrnod hwnnw, yr hen dŷ cadarn yn ei ymyl a'r mynyddoedd uchel yn gefndir i'r cwbl.

Y Moelwyn a Moel Siabod, cadernid Cynfal, tawelwch Tan y Castell, unigedd Nant y Tylathau, a thraddodiad hir iaith a bywyd a theuluoedd Cymru. Y mae'r pethau hyn yn cyfrif.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Syr Henry Jones
ar Wicipedia

SYR HENRY JONES, 1852-1922

YR oedd Syr Owen Edwards wedi cyhoeddi adroddiad ar addysg Cymru a oedd wedi peri cryn lawer o ddadlau ac wedi briwio rhai teimladau. Yr oedd y peth yn fyw ym meddwl llawer pan ddigwyddais daro ar Syr Henry Jones—nid oedd yn farchog y pryd hynny, yn y tren. Gofynnais iddo beth oedd ei syniad am yr adroddiad. Cododd ar ei draed yn sydyn, a thybiais ei fod yn cau ei ddwrn yn fy wyneb.

"Tydw i ddim yn cytuno efo fo", meddai yn bendant, "a phe buaswn i'n cytuno, fuaswn i ddim yn cyfaddef hynny!"

Edrychodd dyn dieithr a eisteddai yng nghongl bellaf y cerbyd yn anesmwyth braidd, gan feddwl, y mae'n debyg, fod y gŵr bywiog, tanllyd ei lygaid, yn ffraeo â mi mewn gwirionedd os nad yn fy mygwth hefyd. Ond eisteddodd Henry Jones yn y man, ac yna ychwanegodd, mewn llais dipyn tawelach; "'Does gan neb hawl i osod athrawon cenedl yn un rhes ac yna rhoi slâs iddynt ar draws eu hwynebau".

Nid wyf yn rhoddi barn ar adroddiad Syr Owen Edwards; yn wir, erbyn heddiw, nid wyf yn cofio pa beth oedd neges a baich yr adroddiad hwnnw. Ond dyna farn Henry Jones am y peth ar y pryd, ac yr oedd ei ddull o fynegi ei farn yn bur nodweddiadol ohono. Cyn pen hir, yn ystod y daith honno, daeth dywediad arall pur nodweddiadol. Soniodd rhywun am yr adeg pan fyddai Henry Jones yn pregethu.

"Mi glywais feirniadu arnoch chi", meddai, "am eich bod chi yn dibrisio ffydd".

"Fum i erioed yn dibrisio ffydd", meddai'r Athro Athroniaeth. "Fyddwn i byth yn sôn amdani hi!" Nid oedd wedi cyhoeddi ei lyfr, A Faith that Enquires, y pryd hynny.

Athro Athroniaeth ym Mhrifysgol Glasgow oedd Henry Jones yn y cyfnod hwnnw. Cyn myned i Glasgow bu yn llanw
SYR HENRY JONES

cadair athroniaeth ym Mhrifysgol St. Andrews, a chyn hynny yn athro yn yr un pwnc yng Ngholeg y Gogledd ym Mangor. Yr oedd ei hanes yn hysbys i bob Cymro yn y blynyddoedd hynny. Gwyddem oll mai mab crydd yn Llangernyw, Sir Ddinbych, oedd, ac iddo ddechrau ei yrfa fel crydd ei hun. Gwyddem rywbeth am ei yrfa yn y Coleg Normal ym Mangor a'i dymor fel athro ysgol elfennol yn y De. Gwyddai to hŷn na mi amdano fel pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; gwyddid ei fod yn un o athrawon cyntaf Coleg y Brifysgol ym Mangor, ac yn yr adeg y soniaf amdani oedd teimlad pur gyffredinol mai ef a ddylasai fod y Prifathro cyntaf hefyd. Penodwyd y diweddar Syr Harry Reichel, gŵr na feddai unrhyw wybodaeth am Gymru ar y dechrau, a theimlai llawer o Gymry mai peth chwithig oedd hynny.

Nid yw dywedyd hyn yn unrhyw adlewyrchiad ar Syr Harry Reichel. Rhoddodd ef wasanaeth ffyddlon a hunan-aberthol i'r coleg ieuanc am flynyddoedd maith; dysgodd ddigon o Gymraeg i fedru darllen yr iaith, beth bynnag, a gwnaeth ei orau i ddeall safbwynt, traddodiad a theimlad y bobl y daeth i fyw i'w plith. Ymhen amser daeth llawer i feddwl ei fod wedi gwneud gwell pennaeth i'r coleg nag a wnaethai Henry Jones. Ond er dywedyd hynny y mae'n anodd peidio credu mai teimlad o israddoldeb oedd y tu-cefn i'r penodiad cyntaf, y syniad sydd yn ddigon cyffredin o hyd ymhlith Cymry, ysywaeth, fod yn rhaid fod rhywbeth heb fod yn Gymreig yn well.

Bargen sâl, a'i chyrchu o bell,
Mae honno'n well o'r hanner,


medd yr hen air. Nid bargen sâl a gafwyd yn Syr Harry Reichel, ond y mae'n ofnus fod y syniad am gyrchu o bell yn llechu y tucefn i feddwl yr awdurdod a wnaeth y penodiad. Beth bynnag am hynny, yr oedd llawer yng Nghymru y pryd hynny yn credu dau beth—y dylasai Henry Jones fod yn Brifathro Bangor, ac y dylasai Griffith Hartwell Jones fod yn esgob yng Nghymru ac nid yn rheithor plwy ym mherfeddion Lloegr. Yr oedd Griffith Hartwell Jones yn credu yr ail gymal ei hun.

Ei Gymreigrwydd, meddid, oedd y rhwystr ar ffordd Hartwell Jones i'r fainc esgobol. Ei anuniongrededd, meddai llawer, oedd wedi cadw Henry Jones rhag bod yn brifathro Bangor, ac y mae'n debyg fod elfen o wir yn hynny. Ni chlywais ef yn pregethu erioed ac nid oes gennyf gof i mi glywed neb yn ei ddisgrifio fel pregethwr. Ond yn sicr nid oedd ar ganol llwybr uniongrededd Methodistiaeth Galfinaidd ei ddydd. Yr oedd yr hyn a ddywedodd am ffydd yn ystod y sgwrs y cyfeiriwyd ati yn enghraifft, y mae'n debyg, o'r pethau a ddywedai o'r pulpud weithiau. Yr oedd ei argyhoeddiadau crefyddol yn gryfion,—dyna'r argraff a roddodd arnaf bob amser,―ond yr oedd ei feddwl yn anturus ac yn fywiog ac nid oedd yn barod i dderbyn athrawiaethau heb edrych yn eu hwynebau yn gyntaf. Ac os byddai Henry Jones yn meddwl i gyfeiriad neilltuol yr oedd yn bur sicr o ddweud ei feddwl yn glir, bydded y canlyniadau y peth y bont. Yr oedd yn hollol agored ac ni chafodd y syniad o dewi er ei fantais ei hun le yn ei athroniaeth o gwbl.

Yr oedd pethau eraill yn milwrio yn ei erbyn-pethau bychan a chwerthinllyd braidd oedd rhai ohonynt erbyn hyn. Cwynid—clywais hynny fy hun—nad oedd yn gwisgo yn briodol i'w swydd, a'i fod yn dweud pethau oedd yn dangos diffyg parch i rai mewn awdurdod. Byddai yn hawdd gennyf gredu y cymal olaf. Heblaw hyn oll, nid oedd ar y telerau gorau â'r Prifathro Thomas Charles Edwards, ac yr oedd Thomas Charles Edwards yn ŵr o ddylanwad mawr iawn yn y cyfnod hwnnw. Ni ysgrifenwyd cofiant cyflawn iddo hyd yn hyn, ond, a barnu oddiwrth y pethau a glywais a rhai llythyrau a welais, gellir tybio fod y pregethwr mawr a'r ysgolhaig dysgedig hwnnw wedi etifeddu cryn gyfran o natur unbennaethol ei dad, Dr. Lewis Edwards. Teimlo y byddaf ein bod dan ein dwylo i raddau wrth drin a thrafod dynion a digwyddiadau'r cyfnod a bod mawr angen astudiaethau llawn ac agored o'r naill a'r llall. Y mae un peth yn sicr; bu dylanwad y ddau Ddr. Edwards, dad a mab, yn fawr yng Nghymru am gyfnod lled faith a phwysig, ac y mae'n debyg fod ganddynt hwy, fel pawb ohonom, eu pobl. Ymddengys nad oedd Henry Jones yn un o bobl Thomas Charles Edwards. Nid wyf yn bwriadu dweud dim am ei yrfa ar ol gadael Cymru; y mae'r hanes yn ei gofiant gan Syr Hector Hetherington. Ond i lawer iawn o Gymru'r cyfnod hwnnw, Henry Jones oedd "yr alltud mawr", y brif enghraifft o'r polisi trychinebus o adael i Gymry disglair adael eu gwlad ac o esgeuluso sicrhau gwasanaeth Cymry a oedd yn deall eu gwlad a'u cydwladwyr. Yr oedd elfen anheg yn y peth; hynny ydyw, yr oedd ynddo elfen o'r hyn a oedd i'w weled ym mhenodiad Reichel, sef meddwl fod dŵr a gyrchwyd dros afon yn well. Ychydig o wasanaeth a roddodd Henry Jones i Gymru o'i gymharu, dyweder, â Syr John Edward Lloyd, a roddodd oes o wasanaeth amhrisiadwy iddi, ond ni chlywid neb yn moli John Edward Lloyd fel y molid Henry Jones. A byddai Henry Jones ei hun yn gwadu ei fod yn "alltud". Gadael Cymru o'i fodd a wnaeth, meddai, ac unwaith sicrhaodd fi, pan ddywedais ei bod yn resyn na buasai yn gweithio yng Nghymru, "Pe buaswn i wedi aros yng Nghymru fuasai gen i ddim dylanwad".

Ar yr un pryd, yr oedd ei golli o Gymru yn golled wirioneddol. Yr oedd Coleg Bangor yn ieuanc y pryd hynny, ac yn sicr anffawd i sefydliad Cymreig oedd cael pennaeth cwbl amddifad o wybodaeth am fywyd Cymru. Gŵr cywir oedd Reichel ond gŵr a fagwyd mewn traddodiad gwahanol iawn i'r bobl oedd yn dyfod ato i'r coleg. Yr oedd hefyd yn ŵr yswil iawn, ac y mae pobl felly bob amser yn cael y gair o fod yn bell ac yn "uchel". Dyna'r argraff a roddai Reichel arnoch, argraff hollol gamarweiniol, y mae'n debyg, a chafwyd rhywbeth tebyg i gyfnod y rhew mawr yng Ngholeg Bangor. Yr oedd ias yr oerni hwnnw i'w deimlo yno hyd yn oed gan ymwelydd ar ei dro fel myfi er fod John Morris Jones a Chymry selog eraill ar y staff. Ac ar yr wyneb nid oedd dull yr Athro John Edward Lloyd, y Cofrestrydd ar y pryd, yn toddi dim ar y rhew. Yr oedd yn rhaid i chwi ddyfod i adnabod Syr John Lloyd i wybod am yr hiwmor a'r caredigrwydd a'r gwladgarwch eirias a oedd y tu ol i'w gwrteisi urddasol.

Ymhen blynyddoedd daeth newid a meiriol ac awyrgylch wahanol iawn, ac ni allai dyn lai na meddwl y gallesid bod wedi cael yr awyrgylch hwnnw o'r dechrau pe buasid wedi gwneud Henry Jones yn Brifathro. Ni buasai rhew yn aros yn hir yn ei ymyl ef; yn wir, syniad llawer o bobl barchus ac ofnus oedd fod ynddo ormod o dân. Yr oedd yn bregethwr Methodus, ond ni wisgai fel pregethwr ac yr oedd si ei fod yn dweud pethau anuniongred ar ei bregethau. Traethai ei farn, hefyd, am bobl a sefydliadau yn bur eofn weithiau, a sathrodd ar gyrn rhai pobl nad oeddynt wedi arfer a chael sathru eu cyrn. Yr oedd ar lawer yng Nghymru'r cyfnod hwnnw ofn y gŵr mentrus, ymosodol, dibris o'r safonau ofnog a "pharchus". Dyna oedd yr agwedd at Lloyd George fel gwleidyddwr ieuanc. "Yr oedd pobl y sêt fawr wleidyddol, gydag ychydig iawn o eithriadau", meddai wrthyf unwaith, "yn fy erbyn bob un". Ac yr oedd pobl y sêt fawr academaidd yn erbyn Henry Jones. Yr oedd yn allu rhy ffrwydrol iddynt hwy allu teimlo yn gysurus yn ei ymyl.

Clywais ddadlau mai gwell i goleg yn dechrau byw fel Bangor oedd sicrhau parch ac ystyriaeth cylchoedd academaidd yn Lloegr trwy gael gŵr o gymwysterau a chefndir Reichel yn bennaeth. Dyna'r gymhleth israddoldeb ar lawn waith. Yr oedd Henry Jones yn ddigon da i ddilyn Edward Caird yng nghadair enwog athroniaeth foesol yn Glasgow, ond nid oedd gan Gymry'r cyfnod hwnnw ddigon o ffydd yn eu gwlad a'u cydwladwyr i gredu ei fod yn ddigon da i fod yn bennaeth coleg bychan oedd yn cychwyn ar ei yrfa.

Hen hanes ydyw stori penodiad prifathro cyntaf Bangor erbyn hyn, er nad yw yn hanes heb ei wersi i ni heddiw. Athro yn Glasgow oedd Henry Jones pan ddeuthum i'w adnabod, a'r argraff a wnaeth arnaf fi, ac ar bawb arall, mi gredaf, oedd na bum erioed mewn cyffyrddiad â dyn mor fyw. Yr oedd ei symudiadau, ei siarad, ei lygaid, yn fyw. Yr oedd yn amhosibl bod yn gysglyd nac yn annifyr yn ei gwmni. Yr oedd ganddo stôr o straeon cefn gwlad a dawn i'w hadrodd. Bathai ddywediadau pert, a theimlech yn aml fod cyfoeth o sylwadaeth ac o feddwl y tu ôl i'r pethau a ddywedai.

Dywedodd rhywun amdano ei fod yn fwy o broffwyd nag o athronydd, a chredaf mai'r syniad erbyn hyn ydyw nad oedd fel athronydd gwreiddiol yn y rheng flaenaf ond ei fod yn athro ysbrydoledig. Nid oes gennyf gymwyster i roddi barn ar yr athronydd, ond y mae yn hawdd iawn gennyf gredu yr hyn. a ddywedir amdano fel athro.

Mewn cyfarfod cyhoeddus yr oedd fel arian byw. Pan ddeuthum i'w adnabod gyntaf nid oedd wedi tyfu'r farf laes a wisgai yn y blynyddoedd olaf, ac yr oedd yn un o'r dynion harddaf, gyda'r ddau lygad prydferthaf a welais ymhen neb erioed. Yr oeddynt fel dwy lamp yn llosgi yng nghysgod y talcen mawr, weithiau yn llawn direidi, dro arall yn fflachio mewn dicter, ac ambell dro yn edrych i'r pellter fel pe buasent yn syllu ar orwelion heulog draw. Felly yr edrychai pan yn siarad mewn cyfarfod Gwyl Lafur y chwarelwyr ym Mlaenau Ffestiniog flynyddoedd yn ol, pan draddododd un o'r areithiau sydd yn ei lyfr, "Dinasyddiaeth Bur."

Dechreuodd trwy ddywedyd ei fod am wneud peth a fuasai yn andwyo pregethwr Methodus, sef darllen ei bregeth, a thynnodd bapurau o'i boced. Gwyddwn amdano, a dyfalwn am ba hyd y byddai'r papurau yn cael eu defnyddio. Cyn pen pum munud yr oedd wedi anghofio popeth amdanynt ac yn cerdded yn ol a blaen ar y llwyfan, er dirfawr berygl i draed pawb ohonom, weithiau yn cau ei ddwrn ar ei gynulleidfa, ambell dro yn ysgwyd ei ddwrn yn wyneb un o'r siaradwyr eraill a oedd yn eistedd yn ei ymyl, dro arall yn dweud stori a barai i'r gwrandawyr chwerthin yn ddi-lywodraeth. A thrwy'r cwbl, yn rhyferthwy'r huodledd, yr oedd yr ymresymiad yn myned ymlaen yn ddifwlch. Ni chlywais neb erioed a fedrai gyfuno ymresymiad cymhleth â huodledd gwirioneddol fel y medrai ef. Pan fyddai Lloyd George yn ymresymu byddai ei areithiau yn tueddu i arafu a thrymhau ond yr oedd Henry Jones yn medru ymresymu ar fannau uchaf ei huodledd, ac yr oedd ganddo ddarnau huawdl iawn yn yr araith honno.

Credaf y buasai yn dirmygu huodledd heb ymresymiad. Daeth i gyfarfod gwleidyddol yng Nghaernarfon unwaith, a bu dau siaradwr o'i flaen yn traethu yn hir ac yn lled ddi-bwynt ar ragoriaethau Lloyd George. Dywedodd un ohonynt stori am rywun a fu'n siarad â Lloyd George ar ochr y ffordd, ac wrth ei weled yn ymadael yn ei fotor meddwl am Elias a'i gerbyd tân. "Wel", meddai Henry Jones,—a dyna ei eiriau cyntaf y noson honno,—"os ydw i i siarad heno, 'Deuwch ac ymresymwn' dd'wedai i, ac nid 'Deuwch ac ymfflamychwn'. Os ydi Lloyd George wedi mynd i'r nefoedd yr un fath ag Elias 'does dim eisio i ni weithio drosto fo". Yna aeth ymlaen i ddirwyn ei ymresymiad ar fasnach rydd, a'r ymfflamychwyr yn llyfu eu doluriau. Gallai fod yn lled chwyrn ei air. Yn y cyfarfod ym Mlaenau Ffestiniog wedi iddo ef siarad, dywedodd y llywydd, "Mi gawn ni dipyn o fiwsig rwan."

"Be 'dach chi am gael?" meddai Henry Jones.

"Y band," meddai'r llywydd.

"Tydi band ddim yn fiwsig", meddai Henry Jones. "Gadewch i ni gael tipyn o ganu emynau". Ac felly y bu. Ni wn beth oedd meddwl y band am y ddedfryd.

Fel yr oedd Henry Jones yn gallu cyfuno ei ymresymiad â'i huodledd mewn araith, felly hefyd yr oedd yn gallu cyfuno yr Athro Athroniaeth Foesol yn un o'r cadeiriau enwocaf yr adeg honno â'r gwladwr o Langernyw a'i synnwyr a'i bertrwydd cefn gwlad. Dywedodd wrthyf fel y gofynnodd Cyngor Glasgow iddo ymgynghori a hwy ynghylch addysg fasnachol a thechnegol. "Nid oedd ganddynt syniad am wir amcan addysg", meddai wrth ddweud yr hanes, "a dywedais wrthynt mai'r unig beth y gallent ei wneud oedd cael cyfarfod gweddi a gofyn i'r Arglwydd roi i Glasgow genhedlaeth o blant gyda meddyliau masnachol yn ready made." Fflach o'i dad, y crydd yn Llangernyw, oedd yr ateb yna. Ymhyfrydai mewn straeon am hen gymeriadau gwlad. Yn ystod rhyfel De-heudir Affrica, meddai, yr oedd hen frawd yn ardal Pentrefoelas yn ffyrnig yn erbyn y Boeriaid ac yn cymryd diddordeb poenus braidd yn ffawd y rhyfel. Ni fedrai ddarllen fawr o Saesneg a byddai yn myned i efail y gof am wybodaeth am gwrs y brwydro. Un noson, pan aeth yno i holi, a chwmni o bobl y fro wedi ymgynnull i'r lle, dywedodd y gof fod y newyddion yn ddrwg iawn y diwrnod hwnnw.

"Duwch annwyl! Be' sy' wedi digwydd?" meddai'r ymofynnydd pryderus.

"Wel", meddai'r gof, "mae nhw'n deud fod yr Hollalluog wedi troi o blaid y Boeriaid."

"Yr hen wlanen sal", meddai'r hen ŵr.

"Dyna i chi wladgarwch!" meddai Henry Jones, wrth adrodd yr hanes. "Yr oedd o yn troi'i gefn arno Fo mewn munud!"

Yn ystod y rhyfel mawr cyntaf bu Henry Jones yn annerch llawer o gyfarfodydd yng Nghymru i ddadlau achos y Cynghreiriaid ac i gefnogi ymuno a'r fyddin. Byddai llawer yn rhyfeddu fod gŵr gyda'i gefndir ef yn gwneud hynny, ond nid oedd y peth yn syndod o gwbl wrth gofio am ei ddysgeidiaeth am uchafiaeth y wladwriaeth. Dysgeidiaeth Ellmynig oedd honno yn ei hagweddau diweddaraf, er fod Hobbes wedi ei dysgu yn Lloegr hefyd yn yr ail ganrif ar bymtheg, ond yr oedd Henry Jones yn ei choledd fel efengyl, fel y gwelir oddiwrth ei areithiau yn "Dinasyddiaeth Bur". Pa beth, tybed, a fuasai ei farn am rai o'r datblygiadau ar y syniad o uchafiaeth y Wladwriaeth a welwyd yn ein hamser ni, ond ar ôl iddo ef fyned ymaith? Fel yr oedd, deuai fflachiadau o hen unigoliaeth Llangernyw i'r golwg ar adegau, ac yr oedd hen grefydd Llangernyw yn amlwg ynddo i'r diwedd, beth bynnag fu troeon ei gredo.

Ni bûm yn gwrando arno yn ystod y rhyfel; yr oedd yn well gennyf beidio. Yn ystod y blynyddoedd rhwng 1914 a 1918 yr oedd llawer iawn o'r pethau yr oedd pobl o'm cenhedlaeth i wedi cael eu magu i gredu ynddynt yn myned yn chwilfriw, a'r hyn oedd yn chwerw oedd ein bod yn gorfod dechrau amau a oedd y rhai a'n dysgodd i gredu ynddynt wedi credu ynddynt eu hunain. Y mae'n debyg iawn ein bod yn anheg ac yn anoddefgar; y mae'n hawdd gan yr ieuanc fod felly. Ond nid oedd amheuaeth am ein siom ac yr oedd clywed pobl yn siarad am ddisgyblaeth foesol rhyfel a phethau o'r fath a ninnau yn gweled dim ond methiannau gwladweinwyr a bwystfileiddiwch rhyfel, yn peri i ni chwerwi ac amau dilysrwydd pawb dros dro. Dyna'r cyfnod y byddai tadau yn son am "roddi" eu meibion er mwyn eu gwlad, a ninnau yn meddwl mai'r meibion ac nid y tadau oedd yn cael eu lladd a'u darnio. Teimlem, yn gam neu yn gymwys, nad oedd siaradwyr fel Henry Jones a Dr. John Williams yn sylweddoli hacrwch y dinistr. Cred yn Lloyd George oedd symbyliad mawr Dr. Williams. Yr oedd gan Henry Jones athroniaeth wahanol er ei fod yntau yn edmygu Lloyd George, ac nid wyf yn amau nad oedd y ddau yn hollol gywir. Peth arall ydyw credu eu bod yn iawn.

Erbyn heddiw, fel y dywedwyd, ni thybir ei fod yn athronydd gwreiddiol mawr ond cydnabyddir ei fod yn athro gwych, un a fedrai ysbrydoli dosbarth ac ennyn brwdfrydedd ei ddisgyblion. Y tuallan i Gymru y gwnaeth y rhan fwyaf o'i waith. Ei bersonoliaeth liwgar, fyw, oedd yn cyfrif am ei fod yn ffigur mor amlwg ym mywyd Cymru am gynifer o flynyddoedd. Credai rhai gwŷr amlwg yng Nghymru ei fod yn cael mwy o glod nag a deilyngai; nid oedd ei farn, meddid, yn ddiogel ac nid oedd yn ddigon gwyliadwrus ar air. Efallai fod hynny yn wir ac efallai hefyd y gellid dadlau fod truenus gyflwr Cymru heddiw i'w briodoli yn bennaf i'r ffaith fod gennym lawer iawn o bobl wyliadwrus, gall, a dim digon o ddynion mentrus.

Beth bynnag am hynny, byddaf yn hoffi cofio am Syr Henry Jones fel y gwelais ef unwaith ar blatfform gorsaf Llandudno Junction.

"Pa bryd y caf dren i Gaer?" meddai wrth un o ddynion y ffordd haiarn.

"I don't understand Welsh", meddai hwnnw.

"What are you doing in Wales then?" meddai Henry Jones, yn ei lais mwyaf chwyrn, a'i lygaid yn fflachio, ac aeth y dyn ymaith wedi dychryn.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Puleston Jones
ar Wicipedia

JOHN PULESTON JONES 1862-1925

MI fuasai Puleston", meddai pregethwr rhagorol a sylwedydd craff, "yn pregethu ymhell uwchben ei wrandawyr onibai am yr hiwmor yna sydd yno fo. Y mae ei feddwl o mor dreiddgar ac mor fanwl fel na buasai fawr o obaith i'r rhan fwyaf fedru ei ddilyn o pe na buasai fo yn deud ambell beth fydd yn goleuo'r cwbl iddyn' nhw."

Bûm yn dyfalu lawer gwaith i ba raddau yr oedd yr "ambell beth" yn goleuo'r cwbl i'r gynulleidfa. Yn wir, y mae'n gwestiwn diddorol i ba raddau y mae cynulleidfaoedd heddiw yn alluog i ddilyn ymresymiad cymhleth neu hyd yn oed osodiadau gweddol gyffredin. Hwyrach y dylid newid y gair heddiw ac eangu'r cwestiwn, canys cofiaf fel y canmolid ambell bregethwr lawer blwyddyn yn ol nad oedd ganddo fawr ddim ond dawn i waeddi. Ac wrth ddarllen rhai o bregethau cyhoeddedig yr oes o'r blaen, rhai Henry Rees, dyweder, neu Rowland Hughes, y mae dyn yn gofyn tybed a oedd rhelyw gwrandawyr y pregethwyr hyn yn eu deall a'u dilyn? Os oeddynt y mae'n rhaid eu bod yn anhebyg iawn i gynulleidfaoedd heddiw. Ond nid wyf yn tybio eu bod yn anhebyg. Y mae'n wir fod yn eu plith rai a oedd yn llawer mwy hyddysg yn eu Beibl nag yw y rhan fwyaf o bobl heddiw a bod cyfeiriadau Ysgrythurol yn debycach o apelio atynt. Ond y mae safon gyffredinol addysg yn llawer uwch heddiw ac eto cwynir fod cynulleidfaoedd yn anodd pregethu iddynt. Nid dyma'r lle i drafod y mater, ond y mae yn gwestiwn pur ddiddorol ac yn cyffwrdd bywyd Cymru yn bur agos. A yw safon ddeallol a meddyliol y werin Gymreig cyn uched ag y bu?

JOHN PULESTON JONES

Y mae'n bosibl iawn fod fy nghyfaill yn iawn yn ei syniad am bregethu John Puleston Jones. Yr oedd gan Puleston feddwl miniog, treiddgar a diwylliant eang. "Meddyliwch amdano", meddai cyfaill arall, "yn ddyn dall, yn cael anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn hanes—mewn hanes, marciwch chi. Pe buasai wedi cymryd athroniaeth mi gawsai ddweud be' fynnai o ond yr oedd yn rhaid iddo fo wybod ei ffeithiau mewn hanes!" Ni raid i mi ychwanegu mai dyn hanes yw fy nghyfaill, ond er mai rhwng difrif a chwarae y llefarai yr oedd cryn lawer yn yr hyn a ddywedodd. Yr oedd gan Puleston afael feddyliol a oedd ymhell uwchlaw'r cyffredin. Byddai pobl yn rhyfeddu, nid heb achos, at ei fedr mewn gwahanol gyfeiriadau ag yntau yn ddall, heb gofio amser pan oedd yn gweled, ond y meddwl cryf, gafaelgar oedd yn cyfrif am y medr hwnnw. Rhoddodd Puleston ei holl adnoddau meddyliol ar waith i oresgyn ei ddiffyg naturiol a llwyddodd i raddau a ymddengys yn anhygoel bron.

Bûm unwaith yn cysgu yn yr un ystafell ag ef am noson. Yr oedd yr ystafell yn ddieithr iddo a gofynnodd i mi fyned ag ef o gwmpas. Euthum, ac wedi bod o'i hamgylch unwaith gwyddai Puleston bron gymaint a minnau amdani a cherddai yma a thraw ar hyd-ddi heb betruso dim. Bore drannoeth yr oedd yn barod i fyned i lawr o'm blaen. Paciodd ei fag ac aeth at y drws. "Yn wir", meddai, ""rydw i wedi anghofio fy mrwsus gwallt", a throdd yn ol at y bwrdd lle yr oedd ei rai ef a'm rhai innau. Ni ddywedais i ddim; ni ofynnodd yntau ddim. Gafaelodd yn ei frwsus ei hun yn hollol ddi-betrus a rhoddodd hwynt yn ei fag. Buasech yn taeru ei fod yn gweled. Wrth gwrs, yr oedd yn gweled, a llygad ei feddwl. Yr oedd yn meddwl beth yr oedd yn ei wneud wrth eu rhoddi i lawr ar y bwrdd. Yr oedd yn meddwl wedyn wrth bacio, ac wedi pacio, ei fag. Ac yr oedd yn cofio lle y gosododd hwynt i'r dim. Yr oedd ei holl feddwl ar waith o hyd gyda phopeth a wnai.

Y bore hwnnw, wrth y bwrdd brecwast, sylwais fod gan wraig y tŷ debot ffasiwn newydd, un sgwar a'r pig ar y gongl, a dywedais rywbeth amdano. "Dowch i mi ei weld o", meddai Puleston. "Welais i erioed debot fel yna o'r blaen", a thynnodd ei fysedd teimladwy drosto. Sylwais ei fod yn chwilio am y gwahaniaeth rhwng y tebot hwnnw a thebot cyffredin, yn rhoi ei fys ar y big ac yna ar gongl y llestr, yn chwilio am y glust ac yn teimlo y cauad.

"Ie", meddai, wedi "gweled" hynny oedd arno ei eisiau, "siap anghyffredin iawn, ond 'dwn i ddim oes rhyw fantais arno fo rhagor y rhai hen ffasiwn, ychwaith".

Ar ol brecwast darllenais ddarn o un o areithiau Lloyd George iddo o bapur y bore hwnnw. Yr adeg oedd yn dilyn rhyfel 1914-18 oedd hi, a Lloyd George yn Brif Weinidog ar y pryd. Gwrandawodd Puleston yn ddistaw ac yna dechreuodd feirniadu'r ymresymiad. Nid wyf yn cofio'r pwnc a oedd dan sylw erbyn hyn na pha beth a ddywedodd Lloyd George, ond cofiaf pa mor dreiddgar a dinistriol oedd beirniadaeth Puleston Jones ar yr araith. Yr oedd y meddwl rhyfeddol hwnnw yn medru troi i lawer cyfeiriad, yn cymryd diddordeb mewn math newydd o debot ac yn dadelfennu egwyddorion gwleidyddiaeth.

Yr oedd ei ddawn i fathu brawddegau da yn amlwg iawn. Y tro hwnnw buom yn trafod nodweddion gŵr yr oeddym ein dau yn ei adnabod, gŵr pell ei ddull a lled ddiswyn ei bersonoliaeth.

"Ie", meddai Puleston, "fedar o wneud dim byd â neb os na bydd o wedi ei drwytho yn yr un drwyth ag yntau". Ac yna, wedi meddwl am eiliad ychwanegodd. "Ddaw o ddim i'ch cyfwrdd chi, ac felly chi sydd yn gorfod talu'r bont bob tro".

Un tro, yn ystod y rhyfel mawr cyntaf, yr oedd yn siarad yng Nghymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd. Nid wyf yn cofio'r pwnc ond y mae gennyf gof clir am un frawddeg a ddywedodd Puleston.

"Y mae nhw'n dweud heddiw", meddai, "mai peth ardderchog iawn ydi bod yn ddibris o farw. Hwyrach fod hynny yn wir, ond peth sal iawn ydi bod yn ddibris o farw pobol eraill".

Yr oedd ei agwedd at y rhyfel,—ac at bob rhyfel y mae'n debyg, yn hysbys i bawb. Credai na ellid cysoni dysgeidiaeth Crist â rhyfel, ac yn wahanol i lawer a oedd yn credu yr un fath, ond yn amwys a niwlog, sylfaenai Puleston ei gred ar ei wybodaeth am hanes, hanes byd ac eglwys. Bu ef a gweinidog arall yn dadlau ynghylch gorfodaeth filwrol a rhyfel yn gyffredinol yn y Goleuad unwaith, er dirfawr boen i Dr. John Williams, Brynsiencyn, a ystyriai, yr adeg honno, fod Puleston yn cyfeiliorni ymhell iawn. Nid oedd gymhariaeth rhwng y ddau ddadleuydd o ran gorwelion a gallu i edrych y tuhwnt i gynhyrfiadau a chri y foment.

Bu Puleston yn amhoblogaidd yn y blynyddoedd hynny. Yr oedd yn weinidog ym Mhwllheli, ac yr oedd ei syniadau yn bur annerbyniol yn y lle hwnnw a'r wlad o gwmpas. Prin, hwyrach, y gallasech chwi ddweud iddo fod yn bersonol boblogaidd bob amser, hyd yn oed ar wahan i'w syniadau ar y rhyfel ac yn ei ofalaethau eraill. Bûm yn meddwl fod ei ddallineb yn cyfrif am hynny i raddau, beth bynnag, ac yn fwy o rwystr iddo fel bugail nag a dybid. I bob golwg yr oedd wedi cael y llaw uchaf ar y dallineb, ac yr oedd hynny yn wir i raddau pell. Ond yr oedd o dan anfantais neilltuol wrth drin pobl,—nid oedd yn gweled wynebau y rhai y siaradai â hwynt, a gwyddom oll fod wyneb y sawl y siaradwn ag ef yn dweud llawn cymaint wrthym a'i eiriau. Gwyddom yn lled dda pa bryd y bydd yr hyn a ddywedir wrth ei fodd neu fel arall, heb iddo ef ddweud dim. Gwelwn yr amheuaeth, y cytundeb, y dirmyg neu'r digrifwch yn myned ac yn dod ar draws yr wyneb fel cysgod y cymylau ar lethr y mynydd, ac efallai y lluniwn ein geiriau i gyfarfod â'r hyn a welwn. Ni welai Puleston yr arwyddion hyn ac ni allai lunio ei gwrs wrthynt. Yr oedd yn rhaid iddo ef ddibynnu ar yr hyn a ddywedid, ac er ei fod yn rhyfeddol o graff i adnabod cywair llais, nid oedd hynny yn ddigon bob amser. Y mae'n debyg ei fod wedi sathru ar gyrn rhai pobl heb feddwl ac heb wybod eu bod wedi teimlo o gwbl.

Ond ni ddylid meddwl mai gŵr yn byw mewn awyrgylch o amhoblogrwydd oedd Puleston. Nid oedd yn ddim o'r fath. Yr oedd ei ddallineb, er yn anfantais ar un ochr, fel y dywedwyd, yn ennill llawer o gydymdeimlad iddo ar ochr arall. Ac yr oedd yntau yn ŵr heulog, braf, siriol ei wedd, llawen ei chwerthiniad,—yr oedd chwerthiniad Puleston yn ddihareb, —a byw iawn ei feddwl. Ni ofynnodd erioed am dosturi nac hyd yn oed am gydymdeimlad oblegid ei ddallineb. Unwaith ysgrifennodd erthygl i mi i brofi cyn lleied o ragoriaeth oedd arnom ni oedd yn gweled rhagor ef. Yr unig beth ynghylch bricsen a wyddem ni na wyddai ef, meddai, oedd ei lliw. Nid oedd ganddo syniad am liw, wrth gwrs; ni allasai fod ganddo syniad. Ond yr oedd mor fedrus gyda phopeth arall fel y tueddai dyn i ryfeddu weithiau pan ddywedai na wyddai sut beth oedd lliw.

Medrai gael hyd i'w ffordd yn y wlad ac yn y ddinas. Aeth unwaith i edrych am weinidog yn Lerpwl a oedd yn byw mewn heol braidd o'r neilltu, lle nad oedd yn hawdd iawn i ddyn yn gweled gael hyd iddo ar y tro cyntaf. Daeth Puleston yno yn llawen, fel pe na buasai yn meddwl dim o'r peth. Sut y daeth y mae'n anodd dweud; bron na thybiai dyn fod ganddo reddf debyg i reddf ci, y reddf sydd yn galluogi'r creadur i gael hyd i'w feistr lle bynnag y bo. Unwaith, pan gyfarfuasom yn y tren, dywedodd ei fod yn myned i Rydychen. "Rydw i'n clywed eu bod nhw wedi gwneud rhyw gyfnewidiadau yn yr High", meddai, "ac mi fanteisiaf ar y cyfle yma i'w gweld nhw'. Edrychai'r bobl eraill yn y cerbyd yn amheus arno. Yr oeddynt wedi meddwl ei fod yn ddall, ag yntau yn son am weled y cyfnewidiadau! Ond y peth rhyfeddaf yn ei hanes, am wn i, oedd y byddai yn cerdded ar ei ben ei hun o Ddinorwig i Lanberis ar hyd ffordd serth a dibyn chwarel aruthr ar un ochr iddi mewn un lle. Unwaith yr ai dyn dros yr ymyl honno ni buasai, i ddefnyddio hen air gwlad, yn werth ei godi. Byddai rhai yn arswydo wrth feddwl am Puleston yn myned y ffordd honno, ond ni ddigwyddodd dim erioed. Wrth edrych yn ol y mae'n rhyfeddod fod pregethwr Methodist dall wedi medru dal ati o gwbl, canys y mae y Methodistiaid Calfinaidd yn newid eu pulpudau bob Sul bron. Y mae'n sicr fod Puleston yn gwneud hynny bob Sul ond y deuddeg yn y flwyddyn y byddai yn ei bulpud ei hun.

Byddai'r peth yn rhoddi rhywbeth tebyg i ddifyrrwch iddo weithiau. Pan adolygai lyfr yr oedd fel pe'n ymhyfrydu mewn nodi gwallau argraff; Mrs. Puleston Jones, wrth gwrs, oedd wedi dywedyd wrtho amdanynt, ond ni wyddai pawb hynny. "Ydach chi wedi diffodd y gannwyll?" meddai, y noson y buom yn cysgu yn yr un ystafell. Atebais y gwnawn hynny cyn bo hir. "Ie", meddai yntau, "mi ofynnais i yr un cwestiwn i bregethwr yr oeddwn i'n cysgu efo fo ychydig yn ôl. 'Roeddwn i wedi anghofio ei fod yntau yn ddall ac nad oedd ar yr un ohonom ni eisiau cannwyll. Buom yn chwerthin yn hir am ben y peth!" Chwerthin am ben peth felly!

Ai rhai i wrando ar Puleston, y mae'n debyg, am fod pregethwr dall yn dipyn o ryfeddod. Ond nid pethau arwynebol a dibwys oedd y pethau ynddo ef fel canlyniad i'w ddallineb y soniwyd amdanynt ac a barai i bawb ohonom ryfeddu. Arwyddion oeddynt o'r meddwl cryf, effro a gafaelgar a oedd yn gorchfygu'r dallineb hyd yr oedd hynny yn bosibl ac hefyd yn ei wneud yntau yn bregethwr ac yn llenor ar ei ben ei hun. Yr oedd swyn ei bregethau, i mi, yn bur debyg i swyn ei ysgrifennu; swyn iaith ac arddull a meddwl dadansoddol, treiddgar. Cymraeg llafar ar ei orau oedd ei Gymraeg ef, Cymraeg gwladwyr diwylliedig, iaith gref, ystwyth, urddasol a naturiol. Nid oedd rhodres yn agos ato; ni bu pregethwr erioed ymhellach oddiwrth fod yn bregethwrol, ond y mae yn eithaf tebyg ei fod weithiau allan o gyrraedd llawer o'i wrandawyr. Eithr yr oedd ei arabedd heulog ac ambell gyffyrddiad o ddoethineb cefn gwlad yn goleuo'r bregeth iddynt hwythau.

Yr oedd sicrwydd y gŵr diwylliedig yn ei ymwneud â llyfrau a phynciau. Cafodd addysg dda yn ystyr eangaf y gair ac yr oedd ei hôl arno. Yr oedd yn gartrefol ym myd meddwl a diwylliant. Clywais ef yn dechrau un araith gyda'r geiriau, ""Rydw i'n fwy dan fy nwylo nag arfer heno", ond yn anaml iawn y byddai ef dan ei ddwylo yn un o'r ddau ystyr sydd i'r ymadrodd. Yn anaml iawn y byddai yn ymbalfalu mewn nac ysgrif na phregeth, ac y mae ei ysgrifau yn werth eu darllen bob amser, am eu meddwl a'u harddull. Ni wn i am neb yn ein dyddiau ni a fedrai ysgrifennu yr un fath, gyda'r fath graffter ac ehangder ac ar yr un pryd gyda'r fath flas cartrefol, blas sgwrs cefn gwlad ar ei gorau. Yr oedd wedi ei drwytho yn y bywyd Cymreig, yn ei ymadroddion, yn ei ffordd o edrych ar bethau, yn ei hiwmor ac yn ei draddodiad hir. Byddwn yn meddwl am fy mam wrth siarad â Puleston neu wrth ddarllen ei waith. Dywedid ei bod hi yn debyg i'w thaid, Richard Humphreys, y Dyffryn, ac yr oedd ganddi gyfoeth o ymadroddion gwlad a dywediadau Ardudwy at ei galwad. Dywedais wrth Puleston unwaith, pan soniem am ddyn a oedd braidd yn ffwdanllyd, y buasai fy mam yn dweud ei fod "yn neidio ac yn disgyn". Chwarddodd yn uchel. "Dyna fo i'r dim!" meddai. "Yn neidio yn brysur ac yn disgyn yn yr un lle o hyd a mynd dim yn ei flaen!" Holodd am ychwaneg o ddywediadau tebyg ac yr oedd yn amlwg ei fod yn ymhyfrydu ynddynt. Yr oedd pethau o'r fath yn rhoddi lliw ar ei areithiau a'i ysgrifau.

Gŵr heulog, llawen ei chwerthiniad, parod ei air a chymdeithasgar oedd Dr. Puleston Jones. Ond ni ddylid anghofio ei fod hefyd yn ŵr cryf iawn. Dangosodd hynny yn fore, fel y dywed ei gofiannydd a'i fab-yng-nghyfraith, y diweddar Barch. R. W. Jones. Pan aeth yn weinidog ar ei ofalaeth gyntaf ym Mangor daeth ei ewythr, brawd ei fam, Syr John Puleston, allan fel ymgeisydd Toriaidd yn erbyn Lloyd George ym Mwrdeisdrefi Arfon. Ceisiodd ei fam ganddo siarad dros ei brawd ac atebodd yntau mai ar un amod yn unig y gwnai, sef nad ai byth i bulpud wedyn. Yr oedd yr un cadernid ynddo ar hyd ei oes a safodd yn ddigryn mewn adeg pan yr oedd llawer yn gwegian.

Blynyddoedd digalon oedd blynyddoedd y rhyfel mawr cyntaf a'r blynyddoedd a'u dilynodd yng Nghymru, ond daliodd rhai eu gafael ar egwyddor ac ar safonau drwy'r cwbl, ac yr oedd Puleston yn amlwg yn eu plith. Dioddefodd lawer, a dioddefodd yn ddistaw, eithr ni syflodd. Ni chwerwodd, ychwaith, ac ni chollodd ei dymer. Byddwn yn rhyfeddu yn aml at ei allu i'w feddiannu ei hun mewn amgylchiadau anodd; byddai yn peri i mi feddwl ei fod wedi codi i fryn uwch na'r rhan fwyaf ohonom ac yn gweled megis "uwchlaw cymylau amser". Yr oedd yn dda wrtho ef a'i fath yn y cyfnod hwnnw, onide buasai llawer ohonom wedi colli hynny o ffydd oedd gennym. Cadwodd ef y ffydd a chynorthwyodd eraill i'w chadw.

Ychydig flynyddoedd yn ol bûm yn sefyll wrth ei fedd ym mynwent yr eglwys yn y Bala. Bu farw yn 1925, yn dair a thrigain oed, ac erbyn hyn nid yw yn fawr fwy nag enw i laweroedd. Ond y mae yn fyw yn ei ysgrifau ac yn ei bregethau cyhoeddedig, a gallwn ni a oedd yn ei adnabod dystio ei bod yn haws dyfod at Puleston Jones drwy'r gair argraffedig nac at lawer iawn o wŷr enwog gynt. Y mae tinc ei lais yn aros yn ei frawddegau ef, a bron na allech ddychmygu ei glywed yn chwerthin ar ddiwedd ambell baragraff.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Morris-Jones
ar Wicipedia
SYR JOHN MORRIS JONES

SYR JOHN MORRIS-JONES 1864-1929

UNNWAITH, ar blatfform stesion Bangor, gwelais Syr John Rhys, Syr Edward Anwyl a Syr John Morris-Jones yn cerdded gyda'i gilydd. Nid oedd yr un ohonynt yn farchog y pryd hynny, nac am rai blynyddoedd wedyn, ac y mae'n debyg nad oedd neb y pryd hynny wedi meddwl am iddynt fod yn farchogion. Hwyrach y buasai rhywun yn dywedyd yr un peth wrthynt hwy, pe dywedasid eu bod i gael eu gwneud yn farchogion, ag a ddywedodd rhywun yn Llangernyw wrth Syr Henry Jones pan ddaeth y newydd am yr anrhydedd a osodwyd arno ef.

Yr oedd Henry Jones yn digwydd bod yn ei hen ardal y diwrnod hwnnw a daeth hen gymeriad i'w gyfarfod ar ôl clywed y newydd, yn chwerthin yn aflywodraethus. "Harri", meddai, "mae'n nhw'n deud dy fod ti wedi dy neud yn farchog. 'Does bosib i fod o'n wir!"

"Ydi, wrth gwrs mae o'n wir", meddai Henry Jones, "Be am dano fo".

"Ti yn farchog!" oedd yr ateb. "Toes gen ti'r un mul heb son am geffyl!"

Ond, marchogion neu beidio, yr oedd y tri yn wŷr enwog yng Nghymru'r pryd hynny, ac edrychwn gyda diddordeb mawr arnynt, John Rhys a'i wyneb coch a'r tusw byr o farfar ei ên, ei drowsus plad golau, a'r olwg arno yn debycach i ddyn newydd ddyfod o ben y mynydd nag i ysgolhaig a oedd yn fyd-enwog yn ei gangen ei hun a phennaeth un o golegau Rhydychen; Edward Anwyl yn dew ac afrosgo, er nad oedd ond dyn ieuanc, a rhyw olwg hanner pregethwrol arno; a John Morris Jones yn edrych, fel bob amser, fel Indiad Coch a oedd wedi ffeirio ei blu a'i baent rhyfel am siwt wareiddedig ond ar yr un pryd yn edrych fel pe buasai wedi cysgu yn y siwt honno am rai nosweithiau. Yr oedd y tri yn wŷr nodedig eu golwg. Yr oedd penderfyniad a phendantrwydd yn amlwg yn John Rhys; yr oedd Anwyl ar y pryd mor dew nes rhoddi argraff arnoch mai dyn bodlon, braf ydoedd (ar ol iddo deneuo a gwaelu y gwelid pa mor lednais a theimladwy oedd llinellau ei wyneb); yr oedd John Morris-Jones yn tynnu eich sylw ar unwaith, yn enwedig pan dynnai ei het a phan welech y gwallt du, syth, yn disgyn yn sydyn ar draws un llygad. Ac yr oedd goleuni direidus yn y llygaid hynny weithiau.

A yw yr ieuanc yng Nghymru heddiw cyn llawned o obaith am ddyfodol yr iaith a'i llenyddiaeth, cyn llawned o ddiddordeb ymhopeth a berthyn iddynt ac mor ddiysgog eu ffydd yn nyfodol Cymru ag yr oedd llawer ohonom ni tua dechrau'r ganrif? Gobeithio eu bod, canys ni ellir gwneud dim heb ffydd a gobaith ac ynni; y maent yn bwysicach o lawer nag arian a phwyllgorau. Yr oedd llawer ohonom tua'r adeg honno yn llawn brwdfrydedd ac yn gwneud darganfyddiadau newydd yn ein gwlad ni ein hunain bob dydd. Yr oedd barddoniaeth Elfed, "Telynegion" Silyn Roberts a W. J. Gruffydd, "Ymadawiad Arthur" Gwynn Jones, "Homiliau" Emrys ap Iwan, storïau byr Dic Tryfan, "Telynegion Maes a Môr" Eifion Wyn, dramau Gwynfor, a llawer o bethau eraill yn peri i ni gredu fod oes aur ar wawrio ar Gymru. Yn y cylch gwleidyddol yr oedd Lloyd George yn myned a Chymru gydag ef i bob man; yn grefyddol yr oedd y diwygiad newydd ysgubo trwy'r wlad ac wedi peri i lawer un ynganu—a chanu—Cymraeg na bu yn gwneud hynny erioed o'r blaen. Ac yr oedd eto bregethwyr mawr, meistriaid y gynulleidfa yn ol yr hen draddodiad, ar y maes. Prin y gallesid disgwyl i ni, a oedd yn ddibrofiad, ganfod egin y digalondid a'r peryglon a oedd i ddyfod; yr oedd yr egin yno, y mae'n sicr, ond gobaith a diddordeb a chred yn y dyfodol a'n meddiannai ni, ac yr oedd presenoldeb John Morris-Jones yn elfen yn y gobaith hwnnw.

Yr hyn a wnaeth John Morris-Jones yn rym ym mywyd Cymru oedd ei feirniadaethau eisteddfodol. Nid wyf yn tybio fod amheuaeth am hynny. Wrth gwrs, bu ei ddylanwad ar ei efrydwyr ym Mangor yn fawr, ond bu aml athro coleg yn gymaint dylanwad ag yntau heb i'r wlad yn gyffredinol wybod hyd yn oed am ei enw. Rhydd yr Eisteddfod Genedlaethol gyhoeddusrwydd heb ei fath i'r sawl a ddaw yn amlwg ynddi. Hyd yn oed heddiw gŵyr llu am feirdd a fydd wedi ennill y gadair neu'r goron genedlaethol, er iddynt beidio darllen llinell o'u gwaith. Caiff hyd yn oed awdur yr englyn buddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol lawer o gyhoeddusrwydd, ac enillodd eraill gyhoeddusrwydd yn ei gysgod trwy feirniadu ei waith. A phan ddechreuodd yntau feirniadu'r awdlau yn yr Eisteddfod y daeth Morris-Jones yn adnabyddus led-led Cymru.

Yr oedd wedi dyfod i'r amlwg cyn hynny trwy ei ysgrifau yn dadlennu honiadau'r Orsedd, yn Cymru. Tynnodd y rhai hynny sylw mawr mewn rhai cylchoedd; cyn hynny nid oedd y rhan fwyaf o bobl yn cofio bod dynion fel Dafydd Ddu Eryri ac eraill wedi rhoddi derbyniad oeraidd i ddychmygion rhyfedd Iolo Morgannwg ynghylch yr Orsedd a barddas. Yr oedd yn llai o drafferth derbyn y storïau am hynafiaeth yr Orsedd, fel y bu yn llai o drafferth derbyn yr hen stori am ddarganfyddiad yr America gan Fadog ap Owain Gwynedd na chwilio ei seiliau, ac erbyn i ysgrifau Morris-Jones ym-ddangos yr oedd pobl wedi dyfod i gredu fod Gorsedd y Beirdd yn ddarn o hen hanes Cymru. Tipyn o sioc i lawer oedd ei ddadleniadau ef, a bu rhai o aelodau blaenllaw yr Orsedd yn hir iawn yn eu derbyn. Y mae'n debyg i Hwfa Môn fyned i'w fedd heb wneud hynny, ac am rai blynyddoedd bu lluchio at "geiliogod y colegau" oddiar y Maen Llôg yn hwyl fawr. Ond er hyn oll, nid yr ysgrifau hynny yn bennaf a wnaeth John Morris-Jones yn adnabyddus.

Dywedodd wrthyf ei fod unwaith, yng nghanol helynt ysgrifau'r Orsedd, ag yntau yn athro ym Mangor ers blynyddoedd, wedi mynd i le ar lan y môr yn sir Gaernarfon gyda chyfaill. Yno yr oedd bardd gwlad yn byw ac yr oedd cyfaill John Morris-Jones yn ei adnabod. Daeth i'w cyfarfod ar y traeth a chyflwynodd y cyfaill yr Athro iddo, "ond", meddai Morris-Jones wrth ddweud yr hanes, "'toedd o 'rioed wedi clywed sôn amdana' i, a 'doedd waeth heb geisio esbonio iddo fo". Cyn pen ychydig iawn o flynyddoedd yr oedd pob bardd gwlad o Lanandras i Dy Ddewi wedi clywed sôn amdano ac yn ei ofni,—neu yn ceisio dysgu ganddo. Y beirniadaethau a roddodd y safle honno iddo.

Yr oedd safon y farddoniaeth eisteddfodol yn hynod o isel ers cenhedlaethau cyn dyddiau Morris-Jones. Bron na ddywedai dyn mai Elfed oedd yr unig lecyn golau, ac yn sicr ei farddoniaeth ef yw bron yr unig farddoniaeth o'r cyfnod hwnnw a ddeil i'w darllen heddiw. Ond os oedd y farddoniaeth yn sal a disafon yr oedd y feirniadaeth cyn saled a hithau. Y mae darllen rhai o'r beirniadaethau cyn dydd Morris-Jones yn peri i chwi deimlo eich bod yn symud mewn byd anhygoel bron, ac y mae gofyn eu darllen i sylweddoli pa mor od oedd y pethau a ddywedid mewn llawer ohonynt. Nid gormod dywedyd fod rhai o'r beirniaid yn gwbl anghymwys, heb wybodaeth am iaith na llenyddiaeth. Y mae'n anodd gwybod pa fodd y daeth Morris-Jones i mewn i'r cwmni; nid oedd, wrth gwrs, yn aelod o'r Orsedd, nac hyd yn oed yn fardd adnabyddus iawn. Ni enillodd na chadair na choron mewn eisteddfod; hyd y gwn i, ni bu erioed yn ymgeisydd am y naill na'r llall. Y mae'n debyg fod teimlad o werth addysg ac ysgolheictod yn bod yng Nghymru tua'r cyfnod hwnnw a bod rhywun mwy beiddgar na'i gilydd wedi medru cael yr athro ieuanc o Fangor ar banel y beirniaid. A dyna droi'r drol.

Ni welais i ddechrau'r cyfnod newydd ond gwelais ddigon yn ystod y blynyddoedd a ddilynodd i feddu syniad am yr helynt a'r cyfnewid. Clywais luchio fwy nag unwaith oddiar y Maen Llog at y ddysgeidiaeth newydd ynghylch yr iaith; yr oedd llawer o siarad ar draws ac ar hyd am "ddefnyddio hen eiriau", am "ganu fel y byddai y werin yn deall" a phethau felly, a chlywais un gŵr yn dadlau dros "farddoniaeth syml, ddealladwy fel eiddo Dewi Wyn"! Ond yr oedd John Morris-Jones yn myned ymlaen trwy'r cwbl, i gywiro iaith, i fynnu safonau llenyddol rhesymol, ac i geisio adfer y cysylltiad, a oedd bron iawn wedi torri, â'r traddodiad llenyddol Cymreig a oedd yn myned yn ôl fil o flynyddoedd.

Nid oedd dim, ymosodiadau na beirniadaeth na'i anwybyddu, yn ei droi oddiar ei lwybr. Nid nad oedd yn gwybod amdanynt. Yn hytrach, gwyddai yn dda iawn ac yr oedd bob amser yn barod i'w hateb. Atebai weithiau rai o'i feirniaid mwyaf anwybodus, a gwelwyd bai arno am wneud hynny. Yr oedd, meddid, yn gwastraffu ei amser a'i ynni i ysgrifennu llithoedd hir i'r papurau newydd i ateb hwn a'r llall ac i gywiro'r peth yma a'r peth arall. Unwaith gwnaeth cysodydd yn swyddfa'r Genedl gamgymeriad nad oeddwn i wedi sylwi arno wrth ddarllen y proflenni; rhoddodd "dau a'r bymtheg" yn lle "dau ar bymtheg". Ond gwelodd John Morris-Jones y gwall; tybiodd mai anwybodaeth yn y swyddfa oedd y rheswm, a chefais lythyr maith oddiwrtho, wedi ei ysgrifennu mewn pensel yn ei lawysgrif glir, brydferth, yn galw sylw at y peth, yn egluro rheol yr iaith ar y pwnc, ac yn datgan ei syndod a'i alar fod y fath anfadwaith yn bosibl!

Nid oedd hynny ond un enghraifft o'r hyn a wnai, ac y mae yn rhaid ei fod yn rhoddi llawer o amser i beth felly. Y gwir oedd ei fod trwy hynny yn addysgu gwlad ac yn cadarnhau sylfaen llenyddiaeth ac iaith Cymru. Yr oedd yn athro yn ystyr eangaf y gair.

Trwythwyd ef yn llenyddiaeth Cymru; dyna gefndir ei feddwl. Yn ystod eisteddfod Rhydaman, yn 1922, digwyddwn fod yn aros yn yr un tŷ ag ef, yn Llandeilo. Wynebai'r ystafell ar ddyffryn Tywi a'r bryniau tawel yr ochr draw. Trwy'r gwastad ar waelod y dyffryn yn union o dan y tŷ rhedai'r afon rhwng caeau ŷd a gweirgloddiau. Y noson gyntaf i ni fod yno cafwyd storm ffyrnig o fellt a tharanau am ychydig, ac yna, wedi i'r duwch glirio, daeth awyr ddigwmwl, dawel a chododd y lleuad fawr, felen, dros grib y bryniau a'i goleuni yn dawnsio ar fân-donnau Tywi. Yr oedd yn olygfa i'w chofio a safem ein dau yn y ffenestr i edrych arni. Ac yna dyna Syr John yn dechrau adrodd llinellau Dafydd Nanmor,—

Llety a gefais gerllaw teg afon,
Llawn o ddaioni a llawen ddynion,

ac ni allaf ddarllen y llinellau hynny heddiw heb glywed llais John Morris-Jones yn eu hadrodd a gweled y lleuad yn codi dros fryniau Sir Gaerfyrddin wyth mlynedd ar hugain yn ol.

Daeth yn ei ol o'r eisteddfod un hwyrnos y tro hwnnw wedi ei gythruddo braidd. Yr oedd Pedrog, meddai ef, wedi bod yn trin ar y beirdd ieuanc, gan ddweud eu bod yn ymosod ar rai o feirdd gorau Cymru, gan enwi Hiraethog.

"Ymosodais i erioed ar yr hen greadur", meddai Syr John yn gwynfannus braidd. "Fum i erioed yn son amdano fo!"

"John bach", meddai Lady Morris-Jones, patrwm o led-neisrwydd a doethineb cefn gwlad sir Fôn ar eu gorau," 'does neb yn meddwl eich bod chi'n fardd ifanc bellach!"

"Nac oes, mae'n debyg", meddai yntau gan edrych braidd yn syn. "Mae arna i ofn na ddaru mi ddim meddwl am hynny".

Son amdano yn adrodd barddoniaeth, yr oedd ei ddawn i wneud hynny yn cyfrif am ei boblogrwydd fel beirniad gyda thorf yr eisteddfod. Prin y buasai'r "werin a'r miloedd" yn gwrando mor eiddgar arno yn traethu ar feiau iaith ac yn cystwyo rhodres a diogi llenyddol oni buasai am y ddawn honno. Nid oedd yn siaradwr huawdl, na rhugl hyd yn oed, a chlywais rai yn dywedyd iddynt gael eu siomi yn ei ddarlith-iau. Ond yr oedd ar ei ben ei hun yn ei gyfnod fel dywedwr barddoniaeth; medrai adrodd darnau lled faith o awdl nes swyno cynulleidfa aflonydd a diamynedd i wrando arno a disgwyl am ragor. Yr oedd tinc yn ei lais ac eglurder yn ei ynganiad a rhywbeth heintus, y mae'n anodd cael gair arall am y peth,—yn ei oslef a barai i chwi feddwl am yr hyn a glywsoch am yr hen bregethwyr. "Dawn Sir Fôn", meddai rhywun, ond y mae yn anodd deffinio honno. Y mae'n wir mai ym Môn y ganed Syr John ond yn Arfon yr oedd ei wreiddiau, fel John Elias, gŵr arall y cysylltir ei enw â Môn bob amser.

Beth bynnag am hynny, yr oedd y ddawn a'r oslef heintus yno. Unwaith, pan lywyddai yn eisteddfod Pentrefoelas, eisteddfod leol bwysig a phoblogaidd iawn, adroddodd, yn ystod ei araith o'r gadair, englyn Taliesin o Eifion,

Cymru lân, Cymru lonydd,—Cymru wen,
Cymru annwyl beunydd,
Cymru deg, cymer y dydd,
Gwlad y gân, gwel dy gynnydd.

ac ar ei ganol dechreuodd y gynulleidfa ei adrodd gydag ef. Gorffennodd Syr John a hwythau yr englyn gyda'i gilydd, er dirfawr foddhad iddo. Yr oedd yn ymhyfrydu mewn englynion da; clywais ef yn adrodd englynion Dewi Wyn i bont Menai ac yn troi at ei gynulleidfa wedyn ac yn dweud, "Tydyn nhw'n ardderchog?" Derbyniwyd llawer o addysg ramadegol ac o gyfarwyddiadau llenyddol pwysfawr yng nghysgod y ddawn ryfeddol honno.

Cyhuddid ef weithiau o fod yn bedant. Efallai fod peth sail i'r cyhuddiad, neu, dyweder, fod rhyw gymaint o bedantri yn rhwym o ddyfod i'r golwg ym meddwl dyn a oedd yn cysegru ei egni i adfer hen safonau gwych a gollwyd. Gor-fanylder felly, y mae'n debyg, a gyfrifai am geisio rhoddi "iechyd-wriaeth" yn lle ffurf fel "iachawdwriaeth" a oedd wedi hen ennill ei le ym mywyd yr iaith. Unwaith cefais gerydd ganddo am ddefnyddio'r gair "ffaith", er ei bod yn anodd gwybod pa air y gellid ei ddefnyddio yn ei le. Ond nid oedd pethau fel yna nac yma nac acw; nid oeddynt yn menu dim ar y gwasanaeth amhrisiadwy a wnaeth ef i Gymru. Ymhen rhai blynyddoedd ar ol marw Syr John dywedodd Gwynn Jones, mewn llythyr ataf, "Syndod y newid a ddaeth rhag blaen ar ol marw Syr John Morris-Jones. Yn yr eisteddfodau daw safonau hanner can mlynedd yn ôl i'r golwg eto. Ceidwadwr oedd Syr John, y mae'n wir, ond yr oedd yn urddasol a manwl. Daeth yr adwaith—a'r anfadwaith". Yr oedd y golled i'w theimlo.

Ei gas at ffug ac at y pethau a oedd yn darostwng safonau clasurol llenyddol Cymru oedd yn cyfrif am ei elyniaeth at yr Orsedd. Y mae'n rhaid cofio beth oedd honiadau a safon Gorsedd y Beirdd pan ddechreuodd ef ei beirniadu i ddeall y peth yn iawn. Derbynid honiadau Iolo Morgannwg am ei hynafiaeth gan lawer, os nad gan y rhan fwyaf a feddyliai am y peth o gwbl, a rhoddid ei graddau anrhydeddus i fân—Saeson a phobl debyg adeg eisteddfod. Fel pasiant yr oedd yn chwerthinllyd, hyd yn oed mor ddiweddar a 1906 (y mae llun ar gael o orymdaith yr Orsedd adeg eisteddfod Caernarfon yn y flwyddyn honno, ag amryw o'r beirdd yn eu mentyll a'u hetiau silc), ac eto credai llawer mai hi oedd yn cynrychioli barddoniaeth a llenyddiaeth Cymru. "Llygrodd Iolo ffynonellau hanes", meddai Morris Jones wrthyf unwaith, "a chymer fwy nag un oes i ddadwneud y drwg a wnaeth". Erbyn heddiw nid oes neb yn honni fod Gorsedd y Beirdd yn hŷn nag oes Iolo ei hun a chymer ei lle fel rhan o basiantri yr eisteddfod; i ymchwiliadau a dycnwch John Morris-Jones y mae'r iechyd hwnnw i'w briodoli i raddau pell. Ond gwnaeth ef rywbeth mwy o lawer na phrofi fod honiadau Iolo yn ddisail. Gydag Emrys ap Iwan, Owen Morgan Edwards ac un neu ddau arall achubodd iaith a thraddodiad llenyddol Cymru.

Wrth sôn am yr Orsedd, cofiaf am ddigwyddiad a barodd gryn lawer o ddifyrrwch i mi ar y pryd. Cydgerddwn â Syr John ar blatfform gorsaf Caer, yn disgwyl am dren i'r De ac i'r eisteddfod. Daeth gwraig garedig a oedd yn aelod selog o'r Orsedd atom ac wrth gerdded yn ol a blaen dechreuodd siarad yn huawdl am ardderchowgrwydd yr Orsedd fel sefydliad cenedlaethol. Gwawriodd arnaf nad oedd hi erioed wedi clywed am agwedd Syr John ar y pwnc ond y cymerai yn ganiataol ei fod mor frwdfrydig a hithau. Edrychais o gil fy llygaid ar Syr John. Pa beth a ddigwyddai tybed? Chwarae teg iddo, dioddefodd y cwbl yn ddistaw; ni anghytunodd ac ni ddadrithiodd y wraig frwdfrydig. Y mae'n ddiamau iddi fyned i'w ffordd gan gredu'n sicr iddi fod yng nghwmni Gorseddwyr selog, ond braidd yn dawedog, efallai.

Byddai Syr John yn myned yn rhy bell weithiau wrth ddelio â beirniadaeth neu wrthwynebiad. Byddai yn bur groendenau dan ambell fath o feirniadaeth ac nid da ganddo wrthwynebiad, yn enwedig yn ei flynyddoedd olaf. Ond dylid edrych ar y ddwy ochr a chofio am y feirniadaeth a fu arno yntau. Yr oedd peth o'r feirniadaeth honno yn deg, yn feirniadaeth ysgolheigion a oedd yn gwahaniaethu ar dir gwybodaeth ac ymchwil. Ond yr oedd math arall o feirniadaeth yng Nghymru ar y pryd, yr ymosod ar "yr Ysgol Newydd" a phethau felly, llais cras yr hen anwybodaeth a'r hen geidwadaeth a oedd yn casáu'r goleuni. Os try neb i ddadl englyn "Blodau'r grug" a helynt Ffordd Ddeiniol yn Y Genedl tua 1906 a 1907 ceir syniad am yr hyn oedd yn digwydd. Yr oedd yntau yn barod iawn—yn rhy barod, hwyrach—i daro yn ol ac i ddefnyddio ymadroddion megis "baldordd gorffwyll" a phethau o'r fath. Hyd yn oed pan. fyddai'r pechadur wedi marw ers cenedlaethau byddai yn rhaid iddo ddioddef y gosb—"yr hen Rowlands benwan" meddai am awdur y "Mona Antiqua", a Henry Rowlands druan yn ei fedd ers mwy na dau gant o flynyddoedd.

Ar y llaw arall yr oedd ei lle i'r gyneddf yma yng Nghymru ar y pryd. Yr oedd angen taro weithiau, ac ambell dro gwnai yntau hynny yn ddeheuig ddigon. Medrai fod yn gyrhaeddgar iawn yn ei feirniadaethau; byddai un gair yn yr oslef hir, leddf honno yn ddigon weithiau. Cofiaf amdano unwaith yn enwi ffugenw un ymgeisydd anffodus ac yn ychwanegu, gyda rhyw lusgiad ac hanner—atal ar y gair, "Di-obaith!" A dyna'r cwbl. Ond yr oedd yn ddigon.

Diogi oedd y pechod llenyddol y byddai yn anodd ganddo ef ei faddau. Diogi yn ei farn ef, oedd y rheswm paham yr oedd llawer yn ysgrifennu Cymraeg anghywir; diogi oedd yn cyfrif paham yr oedd dynion yn canu yn aneglur, gan ddisgwyl i eraill drafferthu i chwilio am ystyr yn yr hyn a ddywedant. "Ni chymer neb y drafferth", meddai yntau. "Y mae rhyw ddiffyg cydwybod lenyddol ar ——", meddai un tro, wrth sôn am ŵr adnabyddus.

"Tybed?" meddwn innau mewn syndod. "Tydi o erioed yn dwyn syniadau na dim arall oddiar neb".

"Nac ydi, wrth gwrs", meddai yntau yn ddiamynedd, "ond y mae o'n ysigo geiriau at ei iws ac mi wna wall mewn gramadeg os bydd hynny yn i siwtio fo". Ac yr oedd peth felly yn drosedd.

Ychydig iawn a soniai am ei waith ei hun fel bardd, ond yr wyf yn tybio fod ganddo feddwl go uchel o'i "Omar". Yr oedd ganddo bob hawl i feddwl yn dda o'r gwaith hwnnw, gwaith a ddeil i'w ddarllen o hyd. Ac fel y treigla amser gwelir, mi gredaf, fod rhannau o farddoniaeth Syr John Morris-Jones wedi dyfod yn rhannau o ymadroddion yr iaith erbyn hyn. Barddoniaeth dyn ieuanc ydyw y rhan fwyaf ohoni, dyn ieuanc yn gwneud y darganfyddiadau newydd y rhoddir i bawb ohonom eu gwneud yn ein tro. Meddai ef hefyd y ddawn i gyfleu rhywbeth, beth bynnag, o swyn a rhyfeddod y darganfyddiadau hynny i eraill. Y mae ei ryddiaith yn batrwm o eglurder.

Y mae'n debyg iddo gael ei siomi pan na phenodwyd ef yn Brifathro Bangor i ddilyn Syr Harry Reichel. I Gymru gyfan y tuallan i gylch y Brifysgol y mae'n bosibl mai ef oedd aelod amlycaf staff y coleg a thybiai llawer mai ef a benodid. Ar yr ochr arall dywedid mai prin oedd ei ddiddordeb yn ochr weinyddol gwaith y coleg ac na chymerodd erioed ran flaenllaw iawn ynddo. Gwn fod dwy farn ar y pwnc ar y pryd, ond ni pherthyn i mi eu trafod yma. Ni wyddwn ond ychydig iawn amdano yn y cysylltiadau hynny. Buom yn groes i'n gilydd unwaith ar fater gwleidyddol; yr oedd ef yn edmygydd mawr, mawr iawn, o Lloyd George[1], ac yr oedd papurau'r "Genedl", yr oeddwn yn eu golygu ar y pryd, yn beirniadu polisi Lloyd George fel Prif Weinidog y Llywodraeth Goalisiwn. Ysgrifennodd Morris-Jones yn llym ataf ynghylch hyn; yr oedd, meddai, yn chwith gweled Cymro yn ochri gyda chlymblaid o Saeson yn erbyn ei gydwladwr. Bu cryn lawer o ddadlau rhyngom; credai ef fod teimlad personol yn erbyn Lloyd George yn dyfod i mewn a theimlwn innau fod Lloyd George yn medru hud-ddenu pobl fel ef i'w gefnogi yn gwbl anfeirniadol.

Pan ddeallais, yn 1922, ein bod i aros o dan yr un gronglwyd yn ystod wythnos yr eisteddfod dyfalwn sut y byddai pethau, a ninnau heb gyfarfod ar ol yr ohebiaeth. Ond ni bu sôn am y llythyrau nac am wleidyddiaeth a chefais wythnos ddiddorol iawn yn ei gwmni. Credaf ein bod yn well cyfeillion ar ei diwedd nag oeddem ar y dechrau. Pan ysgrifennai mewn dadl yr oedd y gair garw ymlaen ganddo yn aml; er enghraifft, ar ddechrau un o'r llythyrau y soniwyd amdanynt dywedodd: "Nid oeddwn wedi meddwl ysgrifennu'n gas; ond y mae arnaf ofn wrth eich atebiad eich bod chwi wedi darllen fy llythyr felly". Mewn gwirionedd, gŵr mwyn a charedig oedd.


Am flynyddoedd llanwodd Syr John Morris-Jones le amlwg a phwysig hefyd ym mywyd Cymru. Yr oedd rhai dynion felly yng Nghymru'r pryd hynny, pobl y gwyddai pawb amdanynt. Yr oedd eu personoliaeth yn cyfrif, ac yr oedd eu bod yn rhan o fywyd y genedl yn rhoddi asgwrn cefn a sefydlogrwydd i'r bywyd hwnnw. Nid oeddynt yn llawer o rif, ond yn sicr yr oedd John Morris-Jones yn un ohonynt.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William Llewelyn Williams
ar Wicipedia

WILLIAM LLEWELYN WILLIAMS 1867-1922

YM mis Tachwedd, 1918, a'r etholiad cyntaf ar ol y rhyfel wrth y drws, cefais lythyr oddiwrth W. Llewelyn Williams, yr aelod Seneddol dros ranbarth Caerfyrddin ar y pryd. Dywedodd fod Austin Harrison, golygydd yr English Review a mab Frederick Harrison, yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd yn erbyn Lloyd George ym Mwrdeisdrefi Caernarfon. Gwyddai, meddai Llewelyn Williams, fod buddugoliaeth yn amhosibl ac yr oedd yn barod i wynebu curfa drychinebus, ond er mwyn cadw delfryd Cyngrair y Cenhedloedd o flaen meddwl yr etholwyr ystyriai Austin Harrison y buasai cael mil i bleidleisio iddo yn fwy na gwerth yr ymgyrch.

Ychwanegai Llewelyn Williams mai yr amcan oedd ceisio gorfodi'r Prif Weinidog i lunio cynllun ymarferol er sefydlu'r Cyngrair a'i osod gerbron y wlad yn yr etholiad, a thrwy godi'r pwnc yn etholaeth y Prif Weinidog ei hun, gobeithid rhoddi pwysigrwydd cenedlaethol arno. Dywedodd y deuai Austin Harrison a'i gyfeillion i'm gweled. "Gwn y byddwch yn garedig wrthynt", meddai, "ac y rhoddwch gyngor gonest i dri gwr sydd heb feddwl am eu buddianau eu hun ond sydd a'u bryd-mawredd annwyl, yn y dyddiau hyn!—yn llwyr er dyrchafu dynoliaeth". A dyma eiriau olaf y llythyr: "'Rwyf fi yn sefyll naill ochr. Bu meibion Serfia yn rhy gryf-am dymor. Ond-resurgam!" Rhoddwyd y coupon yn ei erbyn yn ei etholaeth ar ol blynyddoedd o wasanaeth i'w wlad a'i blaid.

Nid yw hanes ymgyrch Austin Harrison yn perthyn i bwnc yr ysgrif hon ond hwyrach y dylid dywedyd gair am y peth wrth fynd heibio. Daeth ef a dau gydymaith i edrych
WILLIAM LLEWELYN WILLIAMS

amdanaf un noson. Y syniad oedd eu bod yn dyfod yn gyf-rinachol ar y cychwyn, er mwyn edrych ansawdd y tir, ond nid oedd eu dull yn awgrymu hynny. Daethant mewn car, gyda phlisman ar y step; nid yw Caernarfon yn dref fawr ond teimlent hwy na allent gael hyd i'm tŷ heb blisman i'w harwain, ac yr oedd gweled tri dyn dieithr, pob un a'i sigar, a phlisman yn eu hebrwng, yn sicr o dynnu cryn lawer o sylw, hyd yn oed mewn tref fel Caernarfon, sydd wedi hen arfer â dieithriaid o bob lliw a llun. Gwelais yn fuan nad oedd gan Austin Harrison y syniad lleiaf am Gymru nac am y teimlad Cymreig, ac ofer oedd ceisio goleuo dim arno ar y pen hwnnw. Chwarae teg iddo, credaf fod ei amcan yn gwbl onest a di-hunan; teimlo yr oedd fod dyfodol gwareiddiad yn di-bynnu ar gael Cyngrair y Cenhedloedd a wnai ryfel yn amhosibl, a phwy a wad erbyn heddiw ei fod yn ei le? Teimlai hefyd nad oedd y Prif Weinidog, y pryd hynny ar ei awr anterth, eto wedi datgan ei farn yn ddigon pendant ar hynny, ac y byddai yn werth iddo ef ei aberthu ei hun, megis, er mwyn galw sylw at yr angen am argyhoeddi pobl o ddifrifwch y safle.

Gwyddai pawb mai diobaith hollol oedd yr ymgyrch. Yr oedd Lloyd George i bob pwrpas yn feistr nid yn unig ym Mhrydain ond hefyd yn Ewrob ar y foment. Yr oedd ar fan uchaf ei boblogrwydd, y rhyfel wedi ei ennill, i raddau pell trwy ei ynni a'i benderfyniad ef, a'r rhan fwyaf o'r pleidiau gwleidyddol yn ei law, llawer o'u harweinwyr yn ei Gabinet ac yntau yn dweud wrth yr etholwyr pwy i'w ddewis a phwy i'w wrthod. Dyna oedd ei safle yn y wlad yn gyffredinol, ond yr oedd ei safle yn ei wlad ei hun yn gryfach hyd yn oed na hynny. Yno yr oedd serch tuag ato, edmygedd naturiol ohono, ac ymlyniad dall a hollol anfeirniadol wrtho wedi mynd yn fath o grefydd. Cabledd oedd ei feirniadu; pechod anfaddeuol oedd ei wrthwynebu. Ac yr oedd yn lled anodd hyd yn oed i'r ychydig a oedd yn meddwl mai bod meidrol, agored fel meidrolion eraill i wneud camgymeriadau, oedd Lloyd George, deimlo llawer o frwdfrydedd dros Sais mor Seisnig ag Austin Harrison, boed ei gymhellion cyn bured ag y bont. Cafodd gryn drafferth i gael neb i'w enwi, ond cafodd ambell gyfarfod go lew, ac yn y diwedd cafodd 1,095 o bleidleisiau. Y mae'n wir i Lloyd George gael 13,993, ond syndod i bawb, ac i Austin Harrison ei hun, oedd fod dros fil o bobl wedi pleidleisio iddo ef.

Yn yr etholiad trychinebus hwnnw,—credaf y cytunasai Lloyd George ei hun â'r ansoddair yn niwedd ei ddyddiau—lladdwyd y blaid Ryddfrydol a thaflwyd aelod ar ôl aelod allan o'r senedd. Onid oedd y Prif Weinidog wedi dywedyd mai cynorthwywyr ac nid beirniaid oedd yn eisiau? Gwrthododd Sir Gaernarfon Ellis Davies, a oedd wedi ei ddangos ei hun yn Radical da ac yn aelod da, ac yn ei etholaeth ei hun rhoddwyd y coupon yn erbyn Llewelyn Williams. Penderfynodd yntau beidio sefyll, gan feddwl, y mae'n debyg, nad oedd waeth iddo heb ar y pryd. I bob golwg, yr oedd y Prif Weinidog yn oruchaf.

Er hynny, yr oedd arwyddion y gallai y craff eu canfod fod y gwynt yn tueddu i newid. Ym Môn gorchfygwyd Syr Ellis Griffith, er iddo gael cefnogaeth Lloyd George. Yn sir Gaernarfon yr oedd y pleidleisiau o blaid Ellis Davies, y Rhyddfrydwr rhydd, ac R. T. Jones, yr ymgeisydd Llafur, yn gyfanswm o bedair mil ar ddeg, o'i gymharu a'r deng mil a hanner a roddwyd i C. E. Breese, ymgeisydd y Coalisiwn. Yr oedd poblogrwydd y Prif Weinidog ar ei anterth, ond yr oedd ambell lef ddistaw, fain yn darogan fod yr awr anierth yn myned heibio. Er hynny, yr oedd ganddo rai blynyddoedd i fod mewn awdurdod eto, a'r rhai hynny yn flynyddoedd digon digalon, blynyddoedd y cytundeb heddwch a oedd yn bopeth ond cytundeb heddwch, blynyddoedd gwarth y Black and Tans yn Iwerddon, blynyddoedd polisi tramor chwit-chwat a pholisi cartref na wyddai neb yn iawn beth ydoedd. Teimlai llawer fod egwyddorion pwysig mewn perygl a chododd rhai eu llef o'u plaid er bod gwneud hynny yn dra amhoblogaidd, yn enwedig yng Nghymru. Yr oedd Llewelyn Williams yn un o'r rhai a gadwodd y lamp i losgi yn y nos.

Yn yr eisteddfod y byddwn yn ei weled amlaf. Yr oedd yn Llywydd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ŵr amlwg yn y cylch hwnnw bob amser. Prin y byddai cyfarfod yr Orsedd yn gyflawn heb araith ganddo ef oddiar y Maen Llog, a byddai ei areithiau yn bur dderbyniol. Huodledd cryg oedd yr eiddo ef. Ni ellid honni bod ganddo lais peraidd na llithrigrwydd ymadrodd neilltuol, ond yr oedd ganddo dân a chariad angerddol at Gymru ac at Gymraeg. Yr oedd ganddo hiwmor hefyd, ac yr oedd tinc cefn gwlad sir Gaerfyrddin yn amlwg yn ei siarad. Dyna oedd ei gefndir, y tu ol i Rydychen a'r llysoedd a'r senedd. Bywyd a phobl "sir Gâr", yn enwedig ei bywyd a'i phobl "slawer dydd" oedd ei fywyd a'i bobl yntau. Deuai hynny i'r golwg yn aml.

"Dancia!" meddai mewn cwmni unwaith, a gwydrau y cafodd eu benthyg am ei fod wedi gadael ei rai ei hun ar ôl yn llithro oddiar ei drwyn, "Dancia! Rhaid i chi roi benthyg y'ch trwyn i fi yn gystal a'ch spectol!" Felly y siaradai, fel un o bobl ei ardal ei hun, pa le bynnag y byddai, a phan ysgrifennodd amdanynt, yn "'Slawer Dydd" er enghraifft, yr oedd ei serch atynt hwy a'u bywyd yn amlwg iawn, er ei fod ef wedi hen adael y maes a bywyd ei gyndadau a throi yn gyntaf i fyd papurau newydd ar ol dyfod o Rydychen a chyn myned yn fargyfreithiwr. Y mae gan bob Cymro a'i henwogodd ei hun gefndir o'r fath, Môn i Oronwy a John Morris-Jones; Hiraethog i Gwynn Jones; Eifionnydd i Lloyd George; Cwm Rhondda i Ben Bowen. Y mae Cymry byw sydd yn ymwybodol o gefndir felly o hyd er iddynt fyned ymhell oddi-wrtho. Y mae'r cefndir, yr hen gysylltiadau, yr hen fywyd, yr hen gymdogaeth, y gymdeithas Gymreig, yn rhan hanfodol o'u bywyd ac o'u nerth. Ni buasent yr un bobl heb y cefndir ac ni allasent wneud yr un gwaith. Dyna bwysigrwydd y gymdeithas yr ydym fel Cymry yn rhan ohoni, a dyna, hefyd, esboniad ar fethiant ambell Gymro a adawodd y gymdeithas honno. Llawr gwlad sir Gaerfyrddin a'i fywyd 'slawer dydd oedd cefndir a noddfa Llywelyn Williams. Yno yr oedd ei gysur. Yno yr oedd ei nerth.

Ac am ei fod yn fab mor ffyddlon i sir Gaerfyrddin yr oedd yn fab mor deyrngar i Gymru hefyd. Carai ei sir a'i wlad yn angerddol; carai eu hanes, eu traddodiad, eu llenyddiaeth a'u pobl. Yr oedd yn Rhydychen yr un pryd a John Morris-Jones a tho o Gymry a oedd i wneud eu marc mewn bywyd, a'i wneud fel Cymry, Owen Edwards, D. Lleufer Thomas ac Edward Anwyl yn eu plith. Yr oedd Rhydychen yn y blynyddoedd hynny, beth bynnag, yn fagwrfa dynion a oedd i osod Cymru yn eu dyled, yn llawn cymaint felly, y mae'n debyg, ag y bu un o'n colegau Cymreig. Yr oedd bywyd ieuanc, newydd Cymru yn blaendarddu yno. Cymerodd Llewelyn Williams ei ran yn y bywyd hwnnw; uwch ben Cywydd Priodas John Morris Jones iddo y mae'r geiriau, "Cywydd Priodas W. Llewelyn Williams, gynt o Goleg y Trwyn Pres, Rhydychen, a chynt Arch-arogldarth-ydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym; y pryd hynny yn Olygydd 'Seren y Deheu'; yn awr yn Seneddwr dros Fwrdeisdrefi Sir Gaerfyrddin".

O'm da ethol gymdeithion,
Ac ni bu un llu mor llon,
Y llonnaf oll ohonynt,—


meddai John Morris-Jones amdano yn y Cywydd hwnnw.

Ni welais ef yn y llys erioed, ond clywais rai o'i gyfeillion wrth y bar yn sôn amdano yno. Ni feddai ddisgleirdeb Ellis Griffith na'i arabedd miniog, ond dywedid ei fod yn ddycnach ymladdwr mewn achosion anodd. "Yr oedd Ellis Griffith", meddai un bargyfreithiwr wrthyf, "ar ei orau mewn achos lle'r oedd yn bur debyg o ennill. Yr oedd Llewelyn Williams ar ei orau mewn achos lle'r oedd perygl mawr iddo golli. Yr oedd yn dynn iawn ei afael, ac ni ildiai i'r diwedd. Gwelais ef yn ennill achosion lle'r oedd popeth o'r bron yn ei erbyn, a hynny yng ngrym ei benderfyniad a'i allu i drin rheithwyr. Yr oedd yn effeithiol iawn gyda rheithwyr; gallech feddwl mai dyn plaen, cartrefol ac hyd yn oed dibrofiad, a fyddai yn dadlau'r achos, ond gwyddai y cyfreithwyr profiadol o'i gwmpas pa mor fedrus a chyfrwys oedd ei ddadl a'i gynllun yn aml". Cafodd lawer o waith cyfreithiol a bu'n ymddangos mewn rhai achosion pwysig.

Fel seneddwr yr oedd fwyaf adnabyddus i Gymru, arwahan i'w waith a'i safle yn yr Eisteddfod Genedlaethol,—ac nid oes ond cyfran o bobl Cymru yn myned i'r eisteddfod nac yn cymryd diddordeb ynddi. Er hynny, y mae'n anodd dywedyd paham yr oedd mor adnabyddus fel seneddwr. Ni chafodd swydd; nid oedd yn areithiwr poblogaidd, fel Lloyd George neu William Jones, er bod ganddo yntau fath o huodledd a gallu i lunio brawddegau a oedd yn glynu yng nghof ei wrandawyr. Ond ni bu erioed yn adnabyddus iawn fel siaradwr ar y llwyfan gwleidyddol yn y Gogledd, er enghraifft; er hynny gwyddai pawb yn y Gogledd, yn ogystal ag yn y De, amdano. Hwyrach y gellid priodoli hynny, i ryw raddau, i'w amlygrwydd ar y Maen Llog a llwyfan yr eisteddfod, eithr nid oedd hynny yn cyfrif am y cwbl. Credaf fod llawer yn teimlo fod Llewelyn Williams fel gwleidydd yn cynrychioli rhywbeth Cymreig a sylfaenol yn eu credo hwythau, yr hen weriniaeth ddiddosbarth Gymreig a oedd unwaith yn bod ym mudiadau llafur y De ac yn radicaliaeth y Gogledd, adlais o gyfnod bore Tom Ellis a Lloyd George.

Nid oes amheuaeth nad oedd yr elfen honno yn gref ynddo ef, a phan ymadawodd Lloyd George â hi yn nyddiau'r Coalisiwn ni allai Llewelyn Williams ddioddef heb fynegi ei farn a'i wrthdystiad. Nid oedd fawr obaith y gwrandewid arno yng Nghymru fel yr oedd pethau ar y pryd; yr oedd Plaid Llafur ennill nerth ac yn ysgar oddiwrth yr hen Radicaliaeth, ac yr oedd y Blaid Ryddfrydol swyddogol yn addoli Lloyd George ac yn ystyried pob beirniadaeth arno yn gabledd. Ond yr oedd y dycnwch a'r dewrder a fu yn nerth i Llewelyn Williams fel cyfreithiwr yn rhan o'i gymeriad fel gwleidydd hefyd, a mynnodd gael dweud ei farn, doed a ddelo. Gwnaeth hynny yn wyneb anghymeradwyaeth holl luoedd swyddogol Rhyddfrydiaeth Cymru unwaith, a phan ffurfiwyd y Gymdeithas Ryddfrydol Annibynnol, mewn ymgais i gadw Rhyddfrydiaeth werinol Cymru yn fyw, yr oedd ef yn aelod blaenllaw ac yn cymryd rhan yn llunio ei pholisi. Gŵyr y neb a welodd y polisi hwnnw fod ymreolaeth i Gymru yn un o'i erthyglau cyntaf, a gallaf ddwyn tystiolaeth mai Llewelyn Williams oedd awdur yr erthygl honno. Yr oedd ymreolaeth, yn ei farn ef, yn rhan hanfodol o unrhyw bolisi radicalaidd i Gymru.

Yn 1921 y daeth y tynnu torch mawr yn sir Aberteifi. Gwnaed Vaughan Davies, hen yswain a ddechreuodd fel Tori ac a drodd yn Rhyddfrydwr ac a fu yn cynrychioli'r sir yn hollol ddinod yn y Senedd am gryn nifer o flynyddoedd, yn arglwydd. Yn yr etholiad a ddilynodd safodd Capten Ernest Evans (y Barnwr Ernest Evans yn awr) fel Rhyddfrydwr yn cefnogi'r Coalisiwn, a Llewelyn Williams fel Rhyddfrydwr heb arddodiad. Gwyddai pawb beth oedd ystyr y frwydr honno; her i awdurdod Lloyd George yng Nghymru oedd, ac felly yr edrychai Llewelyn Williams arni. Y mae'n debyg ei bod yn un o'r etholiadau poethaf a fu mewn blynyddoedd diweddar; yr oedd gynnau mawr ar y naill ochr a'r llall yn tanio, ac yr oedd nifer o bobl nad oeddynt fel rheol yn cymryd rhan gyhoeddus mewn gwleidyddiaeth yn ei theimlo yn ddyletswydd arnynt ddangos eu hochr yn yr ymgyrch honno. Gŵr ieuanc oedd Mr. Ernest Evans ar y pryd, adnabyddus iawn yn y sir ar gyfrif ei deulu ac uchel ei barch, wedi gwasanaethu yn y fyddin ac wedi bod yn ysgrifennydd cyfrinachol i Lloyd George.

Y diwedd fu i Mr. Evans gael 14,111 o bleidleisiau a Llewelyn Williams 10,521. Credai Llewelyn Williams fod dau allan o bob tri o Ryddfrydwyr y sir wedi pleidleisio iddo ef a bod naw mil o Doriaid wedi pleidleisio ar yr ochr arall. Y wers a dynnodd ef oddiwrth y canlyniad oedd nad oedd Lloyd George mwyach, hyd yn oed mewn ymddangosiad, yn arweinydd cenedlaethol. "He is," meddai, "the chief of a faction, mainly Tory".

Hen helyntion, adlais hen frwydrau pell yn ôl, ydyw y pethau hyn bellach, ond bu iddynt eu rhan mewn gwneud Cymru yr hyn ydyw ac y mae yn rhaid sôn amdanynt wrth geisio darlunio Llewelyn Williams. Ni bûm yn sir Aberteifi yn ystod yr etholiad, ond cofiaf am araith Llewelyn Williams yn dilyn y canlyniad, araith a oedd yn brawf o'i allu i gyffwrdd calon gwerin gwlad ac hefyd o'i gydymdeimlad â hi. Yr oedd yn eglur erbyn hyn bod yr adwaith yn erbyn Lloyd George wedi dechrau ond na fynnai yr elfen swyddogol yn y blaid Ryddfrydol yng Nghymru weled hynny. Ni bu erioed arweinwyr mwy dall.

Erbyn hynny yr oedd y diwedd yn agos yn hanes Llewelyn Williams. Bu farw, yn bymtheg a deugain mlwydd oed, ym mis Ebrill, 1922. Bellach nid yw ond enw i lawer fel cyfreithiwr a gwleidydd ond erys o hyd fel llenor. Cododd ei gofadail ei hun yn ei "Slawer Dydd", yn "Gŵr y Dolau", yn "Gwilym a Benni Bach" ac yn "The Making of Modern Wales". Y mae'n bosibl mai 'Slawer Dydd, gyda'i ddarluniau o fywyd a chymeriadau cefn gwlad yn sir Gaerfyrddin, a fydd byw hwyaf o'i holl lyfrau; ynddo disgrifiai'r bywyd a garai, yr hen bethau yr hiraethai amdanynt a'r cymeriadau a hoffai. Ganed ef yn 1867 ac yr oedd am hynny yn medru cofio Cymru a oedd yn wahanol iawn i'r hyn ydyw heddiw. Mynnai ef ddiogelu pethau gorau y Gymru honno, yn enwedig ei hiaith a'i gweriniaeth gymdogol iach. Nid oes un amheuaeth am ei gariad llosg at ei wlad ac at ei iaith a gwnaeth ei orau erddynt.

Cyfeiriais eisioes at y gwahaniaeth rhyngddo ef ag Ellis Griffith; megis y dywedai rhai y buasai Ellis Griffith wedi gwneud gwell llenor neu actor na gwleidydd na bargyfreithiwr, felly mynnai eraill mai hanesydd oedd Llewelyn Williams o ran greddf a dawn. Cwbl ofer ydyw dyfaliadau felly; y mae'n rhaid i ni gymryd y dynion fel yr oeddynt ac fel y cym-erasant eu rhan ar lwyfan bywyd Cymru. I'r Bar ac i wleid-yddiaeth yr oedd llawer o wŷr ieuanc galluocaf Cymru yn mynd yn y cyfnod hwnnw, fel yr aent i'r pulpud genhedlaeth yn gynharach. Yr oedd Ellis Griffith a Llewelyn Williams yn hoff o lenyddiaeth ac yr oedd gan y ddau gefndir cefn gwlad yng Nghymru. Mantais Llewelyn Williams ydyw iddo adael gwaith llenyddol ar ei ôl a erys yn gofadail iddo. Ni wnaeth Ellis Griffith hynny er fod greddf y llenor a'r bardd yn gref ynddo. Llanwodd y ddau le amlwg ym mywyd eu gwlad yn eu dydd, ac wrth edrych yn ol ar eu cyfnod y mae'n anodd peidio teimlo ei fod yn fwy byw, yn fwy lliwgar ac yn llawn-ach o ddynion diddorol na'r cyfnod yr ydym yn byw ynddo yn awr.

ALAFON

ALAFON 1847-1916

YR oedd yr ystafell yn orlawn, aelodau Clwb Awen a Chân yng Nghaernarfon yn ei llenwi o'r drws hyd at y llwyfan bychan yn y pen draw, lle'r oedd Anthropos yn eistedd fel llywydd,—a brenin,—gyda Samuel Maurice Jones yr arlunydd ac is-lywydd y clwb, wrth ei ochr, ac Orwig Williams yn eistedd wrth y piano ar yr ochr arall,—hen biano, y mae'n debyg, ond un y medrai Orwig dynnu miwsig hudolus ohono. Cerddorion y cylch oedd pwnc y noswaith honno, ac yr oedd dau neu dri wedi siarad, un ar Jarret Roberts, os wyf yn cofio yn iawn, ac un arall ar Richard Roberts, y telynor.

Yna siaradodd Maurice Jones ar Danymarian, yn huawdl ac yn deimladwy, ac y mae'n rhaid bob rhywbeth yn ei araith wedi cyffwrdd Vaughan Davies, gŵr a oedd yn enwog fel cantor gwych yn y dyddiau hynny. Neidiodd ar ei draed a dywedodd yr hoffai ganu un o ganeuon Tanymarian. "Peidiwch gofyn i mi ganu", y geiriau a'r dôn gan Danymarian ei hun. Dyna oedd arfer Awen a Chân; yr oedd yno ryw fath o raglen, ond yr oedd rhyddid i bawb wneud rhywbeth os byddai yr ysbryd yn cynhyrfu—a byddai Anthropos yn ddigon diflas os neidiai neb i'r adwy heb y cynhyrfiad hwnnw. Yr oedd Vaughan Davies yn amlwg o dan deimlad dwys y noson honno a chanodd fel na chlywais ef yn canu cynt na chwedyn. Gallaf glywed ei lais yn awr yn canu

Mi fum innau'n gallu canu,
Ac mi ganwn, Cymru ŵyr,
Canaf eto'n fuan felly,
Fel yr eos yn yr hwyr,


a chofiaf am y distawrwydd a ddisgynnodd ar bawb yn y lle, distawrwydd i'w deimlo, rhywbeth a grewyd gan y cyfuniad o eiriau Maurice Jones a geiriau a miwsig Tanymarian a chanu Vaughan Davies.

Yn y distawrwydd cododd Anthropos, difrifwch ar ei wedd. "Gyfeillion", meddai, "fedrwn ni ddim mynd ymlaen ar ôl peth fel yna. Yr ydan ni wedi cyrraedd i dir mor uchel. Mynd adref fyddai orau i ni bellach. Fedra' i ddim mynd ymlaen, beth bynnag".

Edrychasom ar ein gilydd. Nid oedd ond cynnar, yn ôl amser Awen a Chân. Tua hanner nos y byddai'r cyrddau hynny yn terfynu, fel rheol. Yr oedd pawb wedi teimlo swyn y canu, ond nid oedd ar bawb ohonom eisiau mynd adref a hithau ond prin wedi troi naw. Ond os nad oedd Anthropos am fynd ymlaen, beth oedd i'w wneud? Ef oedd enaid Awen a Chân, ac os na byddai ef mewn hwyl ofer y llafurid i geisio codi hwyl. Ynghanol ein penbleth dyna Alafon ar ei draed, yn ymyl y llywydd, gŵr llwyd ei rudd, llwydlas ei wallt, trist ei wedd. Gofynnodd yn lleddf am ganiatâd i ddweud gair am dri telynor a oedd yn byw yn rhywle rhwng Caernarfon a Llanberis tua dechrau'r ganrif o'r blaen.

"O'r gorau", meddai Anthropos, rhwng bodd ac anfodd, a dechreuodd Alafon siarad yn dawel am y tri brawd fel pe buasai yn eu hadnabod, tri telynor da, meddai, "a'r tri yn aelodau ffyddlon yn Sein Delyn", (un o dafarnau hynaf Caernarfon). Bu un ohonynt, John mi gredaf, farw, ac yr oedd y ddau arall yn sôn amdano wrth fynd adref o'r Sein Delyn un noswaith olau leuad, "ac yn rhywle tua'r Felin Wen", meddai Alafon, yn edrych yn ddwys ac yn ddifrif, "mi aeth 'i teimladau nhw'n ddrylliog iawn. A dyma un yn deud wrth y llall, "Daeth yr un telynor gwell na John fy mrawd i'r nefoedd erioed os nad a'th Dic Dywyll!"

Erbyn hyn yr oedd y gynulleidfa ac Anthropos wedi dyfod atynt eu hunain ac aeth gwaith y cyfarfod ymlaen fel arfer. Yr oedd y peth yn enghraifft o fedrusrwudd rhyfedd Alafon. Gwelodd y perygl i'r cyfarfod orffen yn gynamserol, ac yn naturiol nid oedd arno ef, a gymerodd y drafferth i ddyfod o'r Ysgoldy, cyn bod bus, eisiau myned adref ar ei gythlwng. Neidiodd i'r adwy, neu, yn fwy cywir, llithrodd iddi cyn bod neb yn sylweddoli ei fod yn gwneud hynny; edrychodd mor ddwys a neb yn y cwmni, dywedodd ei stori mewn llais mwyn, tawel; ymddangosai yn hollol ddigynnwrfa bron yn ddiniwed,—ond gwnaeth yr hyn y bwriadodd ei wneud a rhywbeth na allasai neb arall yn y cwmni ei wneud. Yr oedd Alafon yn ddiniwed fel colomen, a gallai fod yn gyfrwys fel y sarff ar adegau hefyd.

Gweinidog yn yr Ysgoldy, yn ardal Deiniolen yn sir Gaernarfon oedd Alafon. Ni bu yn weinidog yn unman arall, ac hyd y gwn i ni bu yn meddwl am fod. Nid oedd fawr o sôn amdano fel pregethwr; y cof sydd gennyf am Alafon fel pregethwr ydyw fod ganddo fater da, wedi ei drefnu yn ddestlus, ond ei fod yn traddodi braidd yn ddigyffro ac weithiau yn ddiafael. Fel bardd yr oedd yn adnabyddus i Gymru gyfan, ond yr oedd y cylch yr oedd yn byw ynddo yn adnabod ac yn parchu ac yn caru y dyn. Hen lanc oedd, a llawer o nodweddion gorau yr urdd yn ei gymeriad, rhyw yswildod bonheddig, mwyn. Yr oedd yn batrwm o weinidog gwlad, y math o ŵr sydd yn cadw'r eglwysi yn fyw ymhob man.

Fel bardd perthyn yr oedd, o ran magwraeth a thraddodiad, i'r cyfnod o flaen y deffroad rhamantaidd. Pan oedd yn ieuanc yr oedd yn adnabod llawer o feirdd cyfnod a ymddengys i ni yn bur bell erbyn hyn; soniai am Ioan Arfon, am Eos Bradwen, am Lew Llwyfo ac am Owen Williams o'r Waun Fawr, ac yr oedd ganddo lawer stori amdanynt. Dywedodd wrthyf unwaith ei fod, newydd ei ordeinio, yn cerdded ar hyd Stryd Fangor, yng Nghaernarfon, gyda'r Parch. Ddr. John Hughes a gweinidog adnabyddus arall nad wyf yn cofio ei enw erbyn hyn. A dyna Llew Llwyfo yn dyfod allan o ddrws gwesty'r Prince of Wales yn syth i'w cyfarfod ac yn dweud mewn llais fel taran, "Alafon, fendigedig yr Arglwydd! sut yr wyt ti?"

"Mi fuasai'n dda gen i pe buasai'r palmant wedi fy llyncu i y munud hwnnw", meddai Alafon wrth ddweud yr hanes. "Wyt ti'n gweld lliw derw ar ein dannedd ni?" meddai Owen Williams, yr hen eiriadurwr cartref a'r cowper o'r Waun Fawr, a fyddai bob amser yn cyfeirio ato ei hun fel "ni", wrth Alafon. "Wyddost ti bedi'r rheswm? Byta mês y byddem ni pan yn blentyn!" A gan Alafon y cefais i y stori am Owen Williams yn myned adref trwy goed Glanrafon un noson, yn bur ansicr ei gam a'i olwg, ac yn taro mewn coeden ar ol coeden. O'r diwedd dyma'r hen ŵr yn eistedd. "Wel", meddai wrtho ei hun, "ni a eisteddwn yn y fan yma hyd onid elo'r orymdaith heibio!"

Yr oedd yr ochr hon i Alafon braidd yn annisgwyliadwy i rai nad oeddynt yn ei adnabod yn dda. "Drych o dristwch yw edrych drosto", meddai amdano ei hun un tro, ac yr oedd golwg ddifrif, os nad trist hefyd, arno. Yr oedd mwynder yn amlwg yn ei ddull a'i lygaid. Yr oedd yn hynod o gwrtais a boneddigaidd, boneddigeiddrwydd oedd yn codi o ddyfnder ei natur ef ei hun, ac fel y dywedwyd, yr oedd ynddo rhyw fath o yswildod. Ond yr oedd ynddo hefyd yr ochr a fedrai fwynhau pobl fel Llew Llwyfo ac Owen Williams, heb gymysgu a'u byd o gwbl. Wrth y tân yn fy nhŷ un noson, ag yntau yn aros gyda ni ar ol cyfarfod Awen a Chân, gofynnodd a oeddwn wedi clywed "Yr hen ŵr mwyn". Nid oeddwn y pryd hynny, a chanodd yntau yr hen gerdd fel y dylid ei chanu, gan fwynhau ei digrifwch a phwysleisio'r pethau yr oedd eisiau eu pwysleisio.

Wrth wrando arno meddyliais fy mod yn camgymeryd wrth feddwl mai gŵr yn perthyn i'r un ysgol a beirdd hanner olaf y ganrif oedd Alafon; yr oedd ei dras yn hŷn na hynny a'i berthynas â rhywbeth mwy byw a mwy diddorol. Buasai yn hapus gydag Edward Morus a Huw Morus ac Owen Gruffydd o Lanystumdwy, buasai yn deall Twm o'r Nant i'r dim ac yn dweud llawer wrtho am gadw ar ganol y llwybr, a phe buasai ef ag Ellis Wynne wedi cyfarfod, ac Ellis Wynne wedi darllen darn o'r Bardd Cwsg iddo, buasai Alafon wedi dweud, "Tad annwyl, 'rydach chi'n chwipio yn bur drwm, ond y mae'n debyg i bod nhw yn i haeddu hi". Nid oedd Alafon, fwy nag Anthropos, yn perthyn mewn gwirionedd i fyd y bardd-bregethwr. Nid oeddynt yn debyg i'w gilydd, ond y mae hynny yn sicr yn wir am y ddau.

Y peth oedd yn ddiddorol iawn yn Alafon fel bardd a llenor oedd ei agwedd at yr "ysgol newydd" a'i beirdd. Yr oedd yn ymgeisydd am gadair Bangor yn 1902, a daeth yn ail i Gwynn Jones—ail pell, mewn gwirionedd, a bu ar hyd ei oes yn un o gyfeillion pennaf a chywiraf y bardd a'i trechodd. Yr oedd ganddo ddiddordeb byw yn y mudiadau newydd a pharch mawr i ysgolheictod, ac yr oedd ei agwedd at feirdd fel W. J. Gruffydd a Gwynn Jones a John Morris-Jones yn gymysgedd o agwedd tad caredig a disgybl edmygol. Ni cheisiodd efelychu; dilynodd ei lwybr ei hun, canodd ei gân ei hun, ac yr oedd ei nodyn yn sicr.

Mewn un peth yn unig yr oedd yn debyg i rai o feirdd-bregethwyr ei gyfnod. Canai weithiau i briodasau pobl a ystyriai ef yn bwysig, ac ambell dro ceisiai ganu yn Saesneg. Dyna ei fan gwan, y mae'n debyg; yn sicr, dyna bethau gwannaf ei waith o ddigon ac nid oes eisiau eu hatgyfodi. Un o nodweddion y cyfnod oedd hyn ac un o nodweddion dosbarth hefyd, y mae'n debyg. Yr oedd gwerinwyr fel Alafon, wedi cael addysg a safle fel gweinidogion neu rywbeth arall, yn tueddu i'w teimlo eu hunain mewn byd nad oeddynt yn hollol gartrefol ynddo. Yn y bôn, yr oedd Alafon yn ŵr bonheddig; yr oedd hynny yn amlwg—neu dylasai fod yn amlwg—i bawb, ond ni feddyliodd ef amdano ei hun fel gŵr bonheddig, yn ystyr boblogaidd y gair. Pobl gyfoethog oedd "gwyr bonheddig", a chan nad oedd gweinidogion Ymneilltuol yn dyfod lawer i gyffyrddiad ag uchelwyr y tir tueddai rhai ohonynt i dra mawrhau Cymry a oedd wedi casglu cyfoeth ac yn parhau yn Ymneilltuwyr. Yr oedd ochr ddigrif i'r wrogaeth yma a delid i bobl gyffredin iawn eu galluoedd yn unig am eu bod yn ymddangos yn bwysig, ond yr oedd ochr anffodus i'r peth, hefyd.

Na feddylied neb fod Alafon yn gynffonnwr. Nid oedd yn ddim o'r fath, ond yr oedd yn cytuno â safonau ei gyfnod a'i ddosbarth—fel y gwna y rhan fwyaf ohonom. Heblaw hynny, yr oedd ynddo wyleidd-dra a gostyngeiddrwydd naturiol. Deuai hynny yn amlwg yn ei berthynas â'i waith fel bardd. Yr oedd bob amser yn cydnabod, a hynny yn hollol ddirodres a chywir, iddo gael ei guro yn deg gan Gwynn Jones yn eisteddfod Bangor. Cydnabyddai ragoriaeth y bywyd newydd a ddaeth i mewn i lenyddiaeth Cymru tua diwedd y ganrif, ond ni chafodd y "clefyd rhamantaidd' ei hun ac ni cheisiodd efelychu pobl fel Gwynn Jones a W.J. Gruffydd. Er hynny, credaf y gwyddai yn eithaf beth oedd gwir werth ei gerddi ef ei hun; nid oedd yn eu gorbrisio nac yn eu dibrisio yn ormodol chwaith. Yr oedd ganddo feddwl go lew o rai ohonynt a chredaf y cytuna yr oes ar ei ôl a'i farn amdanynt.

Yn ei gartref yn yr Ysgoldy yr oedd gweled Alafon ar ei orau. Bu yn aelod o gyngor sir Arfon, ond yn sicr ni ddisgleiriodd yn y fan honno. Hwyrach mai gormodiaith rhywun oedd ei alw yr aelod salaf a fu yno—bu digon o rai salach ymhob ystyr cynt a chwedyn—ond nid oedd yn ei le yn y cyngor. Gwelid ef yn y dref yn aml, ar ei feisicl fel rheol, yn ei ddal ei hun yn bur syth yn y cyfrwy, a deuai i edrych amdanaf weithiau i hen offis y Genedl. Byddai yno yn fynych pan oedd yn golygu'r Drysorfa, canys yno yr oedd swyddfa argraffu honno hefyd. Clywais ef yn pregethu amryw weithiau, ond nid oes gennyf fawr o gof am ei bregethau; y mae'n bur debyg eu bod yn dda fel cyfansoddiadau, ond difywyd oedd y traddodiad ac fel "pregethwr sych" y cyfrifid ef. Nid oedd yn llythyrwr neilltuol; byddai ei lythyrau bob amser yn glir ac i'r pwynt ond nid oedd dim tebyg i ddawn Gwynn Jones neu Llew G. Williams yn y cyfeiriad hwnnw ynddo ef. Os oeddych am adnabod Alafon yn iawn yr oedd yn rhaid i chwi ei weled mewn dau le,—ar eich haelwyd eich hun ac yn ei ardal yntau.

Pan fu farw Alafon pechais yn enbyd yn erbyn ei hen gymydog od a galluog, Glan Alaw, trwy ddweud mewn ysgrif goffa ei fod wedi byw y rhan fwyaf o'i oes mewn ardal anghysbell. Methodd Glan Alaw ag ymatal hyd yn oed yn angladd Alafon rhag dweud y drefn. Rhyfeddai ataf, meddai ef ar goedd, yn galw'r Ysgoldy yn lle anghysbell; y lle mwyaf central yn y wlad. Ond cyn dyfodiad y buses, ac nid oedd y rhai hynny ond pethau newydd yn 1916, blwyddyn marw Alafon, yr oedd yr Ysgoldy yn lle gweddol anodd cyrraedd ato. Y mae ddwy filltir go dda o'r stesion agosaf, ac wedi i chwi gael y tren i Gwm y Glo yr oedd yn rhaid cerdded y gweddill o'r ffordd ar hyd gelltydd pur serth.

Unwaith y byddwch wedi cyrraedd y mae'r ardal yn un eithaf dymunol, yng nghesail y mynyddoedd ac yn wynebu'r Elidir a'r Wyddfa o un cyfeiriad. Tua'r gorllewin y mae'r dyffryn yn ymagor a gwelir y gweunydd maith a'r caeau llechweddog i gyfeiriad Caernarfon a cheir cip ar Ynys Fôn yn y pellter. Ardal greigiog, galed, ar un olwg, sir Gaernarfon a'i hesgyrn trwy'r croen, fel y dywedodd rhywun; ardal dawel hefyd, yn meddu ar ei phrydferthwch ei hun, harddwch ei grug a'i chriafol, ei llecynnau rhedynnog ar lannau ambell ffrwd, a chlytwch ei bythynnod glanwaith. Ardal, hefyd, a'i phobl yn debyg iddi ar lawer ystyr, yn gymysg o'r graig a'r grug, o'r maes a'r mynydd,—chwarelwyr oedd y rhan fwyaf yr adeg yr oedd Alafon yn byw yno, pobl wedi eu magu a'u meithrin yn yr Ysgol Sul, yn sŵn dadleuon diwinyddol, yn yr athrawiaeth Radicalaidd, ac, mewn blynyddoedd cymharol ddiweddar, ar dudalennau'r Cymru Coch. Pobl anodd myned atynt ar yr olwg gyntaf, wedi arfer trin cerrig ac weithiau yn ymdebygu i'r cerrig eu hunain, ond pobl eithaf caredig a ffyddlon wedi i ddyn ennill eu hymddiried.

Gwnaeth Alafon hynny. Bûm yn edrych amdano droeon ac yn myned am dro gydag ef weithiau ar hyd ffyrdd a llwybrau'r ardal. Yr oedd yr un fath gyda phobl ei ofal ag ymhobman arall, yn fwyn, yn dawel, yn naturiol, gyda rhyw ias o yswildod yn ei ddull. Ac yr oedd yn amlwg ei fod yn eu hadnabod ac yn eu hoffi. Yr oedd yn amlwg hefyd ei fod yntau yn uchel ei barch yn eu plith hwythau. Bu yno am flynyddoedd lawer, ac y mae gweinidog ymroddgar sydd yn aros yn hir yn yr un eglwys yn magu perthynas arbennig iawn â phobl ei ofal yn nhreigliad y blynyddoedd. Fel tad y symudai Alafon ymhlith pobl ei ardal. Nid oeddwn yn gwybod pa rai oedd yn perthyn i'w gorlan ef o'r bobl a gyfarfyddem ar ein tro, ond yr argraff a adawyd ar fy meddwl oedd na wnai unrhyw wahaniaeth rhwng ei braidd ei hun a defaid corlannau eraill. Pobl yr ardal, ei gymdogion, oeddynt oll iddo ef, a chymerai ddiddordeb caredig, tadol ynddynt. Byddaf yn meddwl am Alafon bob tro y darllenaf Gweinidog Llan y Mynydd Gwynn Jones; nid darlun ohono ef ydyw'r gân honno, yn hollol, ond y mae ynddi rai, beth bynnag, o nodweddion Alafon.

Yr oedd ei stydi yn nhŷ'r gweinidog yn ystafell braf gyda ffenestr yn edrych tua'r mynyddoedd. Nid wyf yn meddwl fod ganddo lawer iawn o lyfrau; nid oes gan weinidogion nag offeiriaid, fel rheol, lyfrgelloedd mawr, canys ni buont erioed yn derbyn cyflogau a'u galluogai i brynu llawer o lyfrau, er bod y bobl fydd yn talu iddynt yn disgwyl iddynt ddarllen yn eang. Ond yr oedd yno naws llyfrau; teimlech eich bod yn ystafell dyn diwylliedig, a oedd yn darllen ac yn myfyrio. Ac os byddech yn hollol dawel, yn eich cuddio eich hun orau y medrech yn y gadair ger y lle tân, ac os byddai'r ffenestr yn agored, deuai ymwelwyr i mewn, yr adar bach, nico, robin goch, a'r fronfraith, oedd yn adnabod Alafon ac yn ddigon hyf arno i fwyta ar yr un bwrdd. Yr oedd gweled dyn dieithr yn eu tarfu, ond deuent i mewn yn hyf yn ôl eu harfer nes eich gweled. Clywais ddywedyd y medrai ddenu aderyn gwyllt o'r gwrych; yn sicr, yr oedd pob math o anifeiliaid yn hoff ohono.

Wrth droi dros ei lythyrau ataf gwelais y cerdyn a anfonodd yn lled agos i'r diwedd i ddywedyd na allai ddyfod i gyfarfod Clwb Awen a Chân yng Nghaernarfon. Dyma a ddywedodd "Mewn teimlad o siom a gofid mwy na'r troeon o'r blaen wyf yn anfon i'ch hysbysu chwi a'r gymdeithas na chaf y pleser o fod gyda chwi y tro hwn eto. Tyn yn y cyffion ydwyf o hyd, a'r afael wedi ail-ffyrnigo tua'r Sul diweddaf. Eiddunaf i chwi gyfarfod rhwydd a hapus. Byddaf gyda chwi yn yr ysbryd.

Y Gewynwst! gwae ini—i'r adwyth
Brydiog ddod i'n poeni!
Gymdeithion llon, boed llenni
Heddwch iach rhyngddo a chwi!"


Ond yr oedd rhywbeth gwaeth na'r gewynwst wedi gafael ynddo a chredaf ei fod yntau yn gwybod hynny.

Ar y ffordd goediog, dawel rhwng Pont Rug a Chaeathro y gwelais ef am y tro olaf. Gwyddwn ei fod yn gwaelu ers tro, ond teimlais ias o ddychryn wrth weled ei wedd mor guriedig y diwrnod hwnnw. Hyd hynny nid oeddwn wedi meddwl fod dim angeuol wedi gafael ynddo, ond nid oedd le i amheuaeth erbyn hyn. Yr oeddwn yn sicr fod dyddiau fy hen gyfaill wedi eu rhifo. Gwyddai yntau hynny ond ni ddychrynodd rhag angau. Yr oedd cyn fwyned, cyn daweled a chyn sirioled ag erioed. Ni ddiffoddodd ei hiwmor; yr oedd yn cael tipyn o ddifyrrwch am ei ben ei hun wrth ddweud ei fod yn ymprydio. Dywedodd air am brydferthwch y coed yn y gaeaf-mis Tachwedd oedd hi, os iawn y cofiaf-a daeth goleuni i'w lygaid wrth son am hynny. Yr oedd yn eistedd mewn cerbyd bychan, cerbyd a merlyn yn ei dynnu, a deallais ei fod bron yn rhy wan i gerdded. Soniai am wella, a minnau yn gwybod ar y dinc yn ei lais y gwyddai yn dda nad oedd gwella i fod.

Am y dewrder tawel hwnnw y byddaf yn cofio wrth feddwl am Alafon. Cyn pen hir yr oeddwn yn ei angladd ym Mryn-rodyn, ac yr oedd yn anodd peidio dyfalu beth a ddywedasai ef am yr areithiau hir a draddodwyd yn ei gylch y diwrnod hwnnw. Y mae'n well gennyf gofio am yr adar yn y stydi ac am y cerbyd bach ar y ffordd ddistaw dan gysgod y coed.

JOHN RHYS EVANS

JOHN RHYS EVANS 1864-1944

HYD y gwn, ni wnaeth neb astudiaeth o ddylanwad yr ysgolion sir—yr ysgolion gramadeg fel y'u gelwir heddiw—ar fywyd Cymru. Yn sicr, bu'r dylanwad hwnnw yn fawr, er daioni ac, efallai, er drwg hefyd. Y mae mewn bod bellach ers tua trigain mlynedd ac wedi treiddio i bob ardal, a bron i bob cartref, trwy'r wlad. Yr oedd Cymry yn cael addysg uwchraddol cyn dyfodiad yr ysgolion sir, wrth gwrs; yr oedd ambell hen ysgol, fel Ysgol Tŷ Tan Domen, yn y Bala, ysgol Botwnnog, yn Llŷn, ac ysgol y Friars, ym Mangor, hen ysgol Goronwy Owen, i'w chael yma a thraw ar hyd y wlad, ac yr oedd cryn nifer o bobl, yn ffermwyr ac eraill, yn anfon eu plant i Loegr am eu haddysg.

Yn y cyfnod cyn dyfod yr ysgolion sir âi bechgyn a merched o ardaloedd Cymreig i'r Amwythig, i Lundain, i'r Mechanics' Institute i Lerpwl, i ysgolion preifat i Gaer, Bryste, Edinburgh, Birmingham a mannau eraill, am eu haddysg, ac yr oedd cryn nifer o ysgolion preifat yng Nghymru hefyd, megis ysgol enwog Ystrad Meurig, yr Academi yn Holt, yr Academi arall yn Nhowyn Meirionnydd, ac ysgol Bransby yng Nghaernarfon. Ond nid oedd addysg uwchraddol wedi dyfod yn beth i bawb; yr oedd llawer nad oeddynt yn myned ymhellach na'r ysgol elfennol yn eu hardal, a pheth cymharol ddiweddar oedd honno.

Pan sefydlwyd yr ysgolion sir daeth yn fater o falchder gan rieni anfon eu plant iddynt; yr oedd y gwahanol ysgoloriaethau yn denu a daeth elfen o gystadleuaeth i mewn i'r peth. Heblaw hynny, yr oedd yr ysgol sir yn ysgol yn ymyl, ac yr oedd gan bobl yr ardal falchder lleol ynddi. Yr oedd rhai ohonynt ar fwrdd ei llywodraethwyr, a'r rhan fwyaf yn teimlo bod ganddynt rhyw berthynas â hi. Cyn pen ychydig iawn o amser ar ol sefydlu'r ysgolion hyn daeth mynd i'r ysgol sir yn rhan o fywyd pob ardal. Honnir weithiau mai cariad at addysg oedd y tu ol i hyn ac i "roddi'r geiniog brin at godi'r coleg", a buasai yn ddymunol allu teimlo fod hynny yn wir. Y mae'n sicr fod yna beth cariad at addysg er ei mwyn ei hun, ond yn gymysg a hynny yr oedd y gred faterol, galed, mai trwy gael addysg yr oedd dyfod ymlaen yn y byd. Pan ddywedodd y diweddar J. J. Williams wrthyf mai ei waith ef fel prifathro ysgol ganol y Cefnfaes ym Methesda oedd galluogi bachgen neu eneth oedd i fod yn chwarelwr neu yn wraig i chwarelwr yn chwarel Cae Braich y Cafn i fyw bywyd cyfoethocach o ran meddwl, gyda diddordebau eangach, yr oedd yn traethu peth a fuasai yn peri i aml un ryfeddu. Nid oedd y syniad yna am addysg fel diwylliant ac allwedd i ddedwyddwch wedi gwawrio ar feddwl y rhan fwyaf yng Nghymru. Dyfod ymlaen yn y byd mewn ystyr faterol iawn oedd delfryd addysgol lliaws.

Dyna a wynebai brifathrawon yr ysgolion newydd pan ddaethant at eu gwaith. A siarad yn gyffredinol, bu Cymru yn eithriadol ffodus yn yr athrawon hyn, ac wrth edrych yn ôl y mae'n syn o ba le y cafwyd hwynt, llawer ohonynt yn Gymry, a phob un yn ieuanc ac yn gymharol ddibrofiad. Beiir hwynt weithiau am na buasent wedi rhoddi lliw mwy Cymreig ar yr ysgolion, ac y mae lle i gredu fod rhai o'r ysgolion wedi Seisnigo'r plant i ryw raddau,—ac weithiau i raddau go bell. Eglurhad, nid esgus, ydyw dywedyd mai dynion a merched a gafodd eu haddysg yn Lloegr neu dan ddylanwad syniadau Seisnig oedd y rhan fwyaf o'r athrawon a'r athrawesau. Ym mhrifysgolion Lloegr y graddiodd llawer ohonynt, ac ysgolion Seisnig—snobyddiaeth Seisnig hefyd, weithiau—oedd eu patrymau pan yn torri tir newydd yng Nghymru. Anffawd oedd hynny, y mae'n ddiamau, ond y mae'n rhaid cydnabod y buasai angen dyn o feddwl anghyffredin o annibynnol a gwreiddiol i wneud yn wahanol yn y cyfnod hwnnw. Ac y mae'n sicr, pe bai arloeswr felly wedi dyfod i'r maes, na chawsai gefnogaeth ei reolwyr na rhieni'r cylch y pryd hynny. Y mae'n rhaid i ni gymryd athrawon ac athrawesau'r ysgolion sir cynnar fel yr oeddynt, a chredaf ei bod yn rhaid arnom gydnabod i'r rhan fwyaf ohonynt wneud eu gwaith yn dda o fewn terfynau'r delfryd oedd ganddynt. Agorasant ffenestri newydd i feddwl Cymru.

Prifathro cyntaf ysgol sir Porthmadog, yn sir Gaernarfon, oedd John Rhys Evans. Yr oedd ef yn athro o hil gerdd, ei dad yn berchenog ac yn brifathro y Salop School yng Nghroesoswallt, a'i daid yn cadw ysgol yn Aberystwyth ac wedi bod yn un o athrawon Dr. Lewis Edwards. Bu ei dad, cyn myned i Groesoswallt, yn cadw ysgol breifat ym Mhorthaethwy, ac yng Nghaernarfon cyn hynny. Yr oedd yr ysgol yng Nghaernarfon yn olyniaeth hen ysgol enwog Evan Richardson, mi gredaf. Yng Nghaernarfon y ganed John Rhys Evans ond symudodd ei rieni oddiyno pan oedd ef yn faban. Yr oedd ganddo gof am fyw ym Mhorthaethwy, ond Croesoswallt oedd ei wir gefndir. Ei ddolen gydiol â'r bywyd Cymreig yn y dref honno, tref a rydd argraff arnoch ei bod yn fwy Cymreig nag ydyw, oedd y capel Cymraeg, lle'r oedd ei dad yn flaenor, ond pan ddaeth Rhys Evans yn ŵr ieuanc i Borthmadog rhydlyd iawn oedd ei Gymraeg ac yn y capel Saesneg yr ymaelododd.

Cafodd yrfa lwyddiannus yng Nghaergrawnt. Yr oedd yn fathamategydd da, a gwyddem ni'r plant a oedd yn yr ysgol iddo raddio yn uchel. Yr oedd gan y wybodaeth honno ddylanwad arnom; ond yr oedd agweddau eraill i'r prifathro a oedd yn dylanwadu llawn cymaint arnom. Yr oedd yn gerddor da, yn codi canu yn y capel, bu yn flaenor yno am flynyddoedd lawer,—yn canu'r ffidl, yn ŵr yr oedd yn rhaid gwneud cyfrif ohono ar gae'r bel droed, wrth chwarae tennis, ac ar y cae hoci, yn ddringwr mynyddoedd, hyd yn oed yn y gaeaf. Yn raddol daeth rhai ohonom i wybod am ei hoffter o flodau, am ei chwaeth dda mewn darluniau ac am ei ddarllen eang ar lyfrau hen a diweddar. Gwyddem ei fod yn darllen Groeg er mwyn pleser, ac edmygem a rhyfeddem. Ychydig ohonom oedd wedi cyfarfod gŵr mor amrywiol ei ddiddordebau o'r blaen. Ehangder ei ddiwylliant, a'r ffaith nad oedd yn gwneud unrhyw arddangosiad o'r diwylliant hwnnw, oedd dirgelwch ei ddylanwad ar lawer ohonom. Yr oedd yn athro da, ond tybiaf mai'r addysg orau a gawsom ganddo oedd dyfod i gyffyrddiad â'i ddiwylliant eang a'i ddiddordeb byw, deallus, mewn llawer o bethau. Y dyn, yn fwy na'r athro, oedd yn bwysig.

At hyn y mae yn rhaid ychwanegu'r parch a oedd gennym. i'w gymeriad. Rhywfodd, medrai bachgen ddeall fod John Rhys Evans yn ddyn cywir ac nad oedd yn proffesu dim nad oedd yn ei gredu ac yn ceisio ei weithredu. Ar yr olwg gyntaf nid oedd yn ddyn dengar, ac ni ellid ei alw yn ŵr cymdeithasgar ar hyd ei oes. Nid oedd ganddo lawer i'w ddweud wrth bobl os na byddai yn eu hadnabod yn dda; fel rheol gwelech ef yn cerdded heolydd Porthmadog ar ei ben ei hun, yn bur syth ac annibynnol yr olwg arno. Er iddo fyw yno yn hir, y mae'n amheus a fu ganddo lawer o gyfeillion agos yno. Yr oedd, efallai, cyn agosed at y Parch. W. J. Nicholson ag y bu at neb. Yr oedd ganddo gyfaill neu ddau o'r hen amser yng Nghroesoswallt, eithr yn anaml y byddai yn eu gweled ac, ar wahân i'w fywyd teuluaidd hapus, gellid ei alw yn ddyn unig. Yr oedd ar delerau da a'r rhan fwyaf, pherchid ef gan bawb, ond dyn pell, cwta ei ymadrodd, yr ystyrid ef gan y rhai nad oeddynt yn dyfod yn agos iawn ato.

Cofiaf fel y byddai pobl Porthmadog yn rhyfeddu ato yn cerdded trwy'r dref yn y gaeaf heb gôt fawr, dyn byr, tenau, ysgafn, camarweiniol o eiddil ei olwg (gwyddai'r sawl a'i cyfarfu ar faes y bel droed rywbeth am hynny), a byr ei air. Pan aeth oddiyno i fyw collwyd gŵr a oedd yn adnabyddus trwy ei fynd a'i ddod ar hyd heolydd y dref, ond ychydig a oedd erioed wedi bod mewn perthynas agos iawn ag ef.

Gwyddem ni yn yr ysgol am ochr arall iddo; yn wir, gwyddem am amryw na wyddai y byd oddiallan amdanynt. Gallai golli ei dymer yn sydyn, ac yr oedd ei law yn drom y pryd hynny. Gwelais ef yn taro un bachgen mawr—yr oedd bechgyn ar fin dyfod yn ddynion yn yr ysgolion sir yn y cyfnod hwnnw—a geisiodd fod yn ddigywilydd nes y bu bron iddo a chwympo. Fflam sydyn a ffyrnig oedd ei ddigofaint, ond yr oedd arnom ni fwy o ofn ei ddirmyg oer. "Yr wyf yn tosturio wrthyf fy hun", meddai wrthym unwaith, yn troi ac yn ail-droi cynffon ei own yn ei law, "am fy mod yn gorfod byw ynghanol haid o farbariaid". Yr oedd rhai o'r bechgyn wrth redeg i lawr y grisiau wedi taro un o enethod yr ysgol yn ddamweiniol, ac yr oedd diffyg cwrteisi felly yn ei gythruddo. Yr oedd yn gwrtais ei hun bob amser, a bob amser yn dwt a glanwaith ei wisg. Yr oedd hynny hefyd yn dylanwadu arnom.

Yr ochr fwyaf annisgwyliadwy arno yn yr ysgol oedd ei serchogrwydd. Pan roddai ei fraich am eich hysgwydd a gofyn pa beth oedd yn eich poeni yn y wers, teimlech y medrech siarad ag ef fel gyda'ch tad. Yr oedd yn garedig iawn wrth y sawl a fyddai yn gweithio, er i'r gwaith hwnnw fod yn ddigon carbwl, ond nid oedd ganddo ddim trugaredd at y diog o fwriad. Nid wyf yn sicr a oedd cyn graffed ag ambell athro arall a welais i ganfod addewid mewn bachgen neu eneth yr oedd eu meddwl yn gweithio braidd oddiar y llinellau cyffredin, ond ni welais ei ragorach am beri i chwi deimlo fod safon o gymeriad, o waith ac o fyw yn bod, ac y dylid ymestyn ati. Dysgodd lawer o bethau i ni ond dylanwad ei gymeriad oedd ei ddylanwad mawr.

Ymhen blynyddoedd lawer ar ôl dyddiau ysgol siaradwn am Rhys Evans gyda swyddog a fu yn yr ysgol pan oedd ef yn brifathro. "Mi fûm yn chwarae triwant am y rhan orau o wythnos unwaith", meddai hwnnw wrthyf, "a phan eis yn ôl i'r ysgol mi fûm ar y carped. Mi ddwedais innau 'mod i wedi bod yn sâl. Mi wyddai Rhys Evans o'r gorau 'mod i'n deud celwydd, ond y peth ddwedodd o oedd ei fod yn fy nhrystio i i ddweud y gwir. Ydach chi'n meddwl y medrwn i ddeud celwydd wrtho fo wedyn? Mi gofiaf y wers tra bydda' i byw, ac 'rydw i wedi ymdrechu trin pobol ifanc y bydd yn rhaid i mi wneud efo nhw fel y triniodd Rhys Evans fi—dangos iddyn' nhw fy mod i'n credu yn eu anrhydedd nhw. Mi synnech mor amal y mae'r peth yn llwyddo. Y mae dull Rhys Evans yn siŵr o fod yn talu".

Wedi iddo ymneilltuo o'r ysgol dywedais y stori yna wrth Rhys Evans, ac ychwanegais air am ei ddylanwad moesol ar bawb ohonom. "Dyna'r peth yr oeddwn i'n meddwl fy mod i'n fethiant hollol ynddo", meddai yntau braidd yn drist, a chefais, er fy syndod, ei fod mewn gwirionedd yn credu ei fod wedi methu dylanwadu ar gymeriadau ei ddisgyblion. Tybiai ei fod yn athro pur dda iddynt gyda'u gwersi eithr ofnai nad oedd ganddo ddylanwad arall. Buaswn innau yn dweud yn ddibetrus mai dylanwad distaw a diarwybod ei gymeriad oedd y peth mawr yn ei hanes, ac y mae yn debyg mai am ei fod yn ddiarwybod yr oedd mor gryf. Pe buasai wedi pregethu wrthym y mae'n fwy na thebyg y buasai'r pregethu wedi llithro oddiar ein meddyliau yn fuan iawn. Ond yr oedd ei esiampl a dylanwad distaw ei bersonoliaeth yn barhaol.

Yr oedd ganddo syniad uchel am waith a swydd athro. Ni fynnai golli awr o amser yr ysgol; byddai yno cyn pryd bob amser ac ni chredai y dylai athrawon fod yn rhy fanwl ynghylch amser noswyl. "Os oes gennych wir ddiddordeb yn eich gwaith," meddai unwaith, "ni byddwch yn barod i'w adael ar orchymyn y cloc." Credai y dylai gwaith athro fod yn alwad yn ogystal ag yn alwedigaeth, a phoenid ef gan agwedd faterol mewn athrawon. "Y peth cyntaf a'r peth olaf," meddai, "ydyw budd y plant sydd o dan eich gofal."

Yr oedd ganddo ei ddulliau ei hun fel athro. Dysgid Euclid yn yr ysgolion y pryd hynny a chofiaf yn dda iawn am fy mhrofiad cyntaf o'i ddull ef o'i ddysgu. Yr oedd amryw ohonom yn newydd yn y dosbarth, wedi dyfod i ysgol sir am y tro cyntaf yn ein hoes. Ar ddiwedd y diwrnod cyntaf rhoddodd y broblem gyntaf yn llyfr cyntaf Euclid i ni i'w dysgu erbyn drannoeth, ymhlith pethau eraill. Ni roddodd air o gyfarwyddyd, a gwn fy mod i, beth bynnag, mewn dyfroedd dyfnion yn fy llety'r noson honno. Drannoeth, a llawer ohonom yn hollol o dan ein dwylaw, galwodd ar fachgen a oedd yn yr ysgol ers un tymor, i wneud y deiagram ar y bwrdd du a dywedodd wrtho am fyned trwy'r broblem, heb y llythrennau, hynny ydyw, yn lle dweud "angle A and line B.C", yr oedd yn rhaid iddo ddweud "angle this and line that". A dyna ben ar obeithion y rhai oedd wedi dysgu'r broblem ar eu cof. Llwyddodd rhai i weled yr ymresymiad ac i fynd trwy'r oruchwyliaeth gyda'r bwrdd du yn gywir er yn garbwl, ac yr oedd ganddynt grap ar ystyr Euclid o'r awr honno.

Yr oedd y peth yn nodweddiadol o ddull Rhys Evans; ceisio peri i'w ddisgyblion feddwl drostynt eu hunain oedd ei amcan ef. Teimlech hynny gyda'i wersi mewn Hanes yn arbennig, ac ni ofnai ddweud ei farn am ddigwyddiadau a phersonau hanesyddol. Gwahoddai farn ei ddisgyblion hefyd ac ni ddirmygai farnau amrwd iawn. Y mae'n debyg fod pawb ohonom yn teimlo, yn ddiarwybod, efallai, ein bod yn dyfod i gyffyrddiad â byd eangach na byd ein bywyd bob dydd yn nosbarth y prifathro. A dyna, yn fy marn i, wasanaeth mawr yr ysgolion sir i Gymru.

Nid wyf yn meddwl y gellid dweud fod yno awyrgylch Gymreig yn yr ysgol. Daeth John Rhys Evans ei hun yn Gymro da o ran iaith, ac yr oedd yn Gymro trwyadl o ran teimlad, eithr ni roddodd osgo Gymreig i'n haddysg o gwbl. Saeson oedd dau o'r athrawon ar y pryd a chofiaf enghraifft o anfantais peth felly. Sais, gŵr rhagorol ymhob ystyr ac athro da, a ddysgai Ffrangeg i ni. Un diwrnod daeth Owen Owen, prif arolygydd yr ysgolion dan Fwrdd Canol Cymru, i'r ysgol a chymerodd y dosbarth yr oeddwn i ynddo mewn Ffrangeg. Aeth un ohonom i anhawster gyda rhai o'r berfau. "Wel", meddai Owen Owen, "be' fyddwch chi yn ei ddweud yn Gymraeg?" a dangosodd i ni fel yr oedd y ferf Gymraeg, yr oeddym yn hollol gynefin â hi, yn treiglo yn debyg i'r Ffrangeg. Ni ellid disgwyl i blant deuddeg a thair ar ddeg oed ddarganfod peth felly drostynt eu hunain ac ni ellid disgwyl i Sais heb fedru gair o Gymraeg ei ddangos i ni. Ond agorodd Owen Owen ffenestr yn ein meddyliau y bore hwnnw, a byth er hynny yr wyf yn argyhoeddedig fod cael athrawon yn medru Cymraeg ac yn deall cefndir y plant yn beth pwysig iawn yng Nghymru.

Yr oedd cefndir Rhys Evans yn iawn. Y tu cefn i Gaergrawnt a Llundain a Chroesoswallt ynddo ef yr oedd atgofion ei dad, a'i daid, yr hen fathamategydd o Aberystwyth, a'i daid o ochr ei fam, y Parch. Rhys Jones, o'r Felinheli. Yr oedd yn selog, er yn ddistaw, yn niwygiad 1904-6, a chofiaf ef yn dywedyd, ar ôl un o gyfarfodydd y diwygiad ym Mhorthmadog, "Yr ydach chi'n dwad i deimlo fod crefydd yn rhywbeth gwirioneddol". Poenai, yn ei flynyddoedd olaf, am fod cynifer o Saeson yn dyfod i fyw i Gymru. "Lle da i mi siarad," meddai, "a minnau yn siarad Saesneg bron bob Amser. Ond nid ydyw'r math o bobl sydd yn dyfod yma yn gwneud lles yn y byd i'n bywyd." Gwyddai yn dda am bregethwyr Cymru, yr oedd ganddo straeon am amryw ohonynt, ac un o'i hoff atgofion oedd ei fod, pan oedd yn blentyn, wedi gweled angladd Henry Rees yn myned trwy'r Borth am fynwent Llantysilio. Yn gyfochrog a'r pethau hyn yr oedd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth, llenyddiaeth Groeg, yn arbennig, a llenyddiaeth gyfoes ei ieuenctid yn Lloegr, gwaith Barrie, Kipling, Andrew Lang, Stevenson, er enghraifft. Yr oedd yn ddedwydd gyda'i lyfrau.

Trychineb i ŵr fel ef oedd dallineb. Daeth hynny arno beth amser cyn iddo adael yr ysgol; medrai wybod gwahaniaeth rhwng tywyllwch a goleuni ac unwaith, pan gerddem ar hyd y Lôn Goed yn Eifionnydd, tynnodd fy sylw at harddwch twmpath mawr o eithin yn llawn blodau. Tybiwn ei fod yn gweled arlliw o ddisgleirdeb y melyn dan belydrau haul yr haf, ond byddwn yn amau weithiau ei fod yn cymryd arno weled mwy nag a fedrai. Ni chwynai; dysgodd ddarllen Braille a pharhaodd i ddarllen Groeg yn y lythyren honno. Yr oedd hynny yn nodweddiadol ohono; meddyliol ac ysbrydol oedd ei adnoddau. Nid peth bychan i sefydliad newydd fel yr ysgol sir oedd cael gŵr fel ef i osod carreg sylfaen ei thraddodiad.

ROBERT GRIFFITH ROBERTS 1866-1930

YR oeddym yn gwmni o gwmpas y tân mewn tŷ yng Nghaernarfon flynyddoedd yn ôl—tŷ Richard Roberts, y cyfreithiwr. Yr oedd ef a'i deulu yno, ynghyda'r Parch. Thomas Shankland, y Parch. Robert Griffith Roberts, gweinidog eglwys y Bedyddwyr yn y dref, a minnau. Bedyddwyr oedd pawb ond myfi. Dechreuodd Richard Roberts ddweud hanes cyfarfodydd Clwb Awen a Chân, ac, fel arfer, aeth i hwyl fawr wrth fyned ymlaen, yn enwedig wrth sôn am ddawn Anthropos fel llywydd.

"Wel! mae o'n ddoniol!" meddai. "Ni chlywsoch chi 'rioed y fath beth. Dim byd yn Fethodistaidd yno fo!"

Nid wyf yn meddwl i Richard Roberts, ar anterth ei huodledd, weled ergyd y peth, ond sylwais ar Shankland yn troi llygad direidus arnaf ac yr oedd "R.G." yn ysgwyd yng ngafael y chwerthin mewnol hwnnw a oedd yn un o'i nodweddion hoffus. Yr oedd ganddo hiwmor parod, hiwmor a oedd yn nodweddiadol o'r wlad y tarddodd ohoni, a byddai golau rhyfeddol yn dyfod i'w lygaid pan gyffyrddid ef gan rywbeth. Gŵr hoffus iawn a gŵr neilltuol iawn oedd Robert Griffith Roberts.

Am ei gefndir y gwyddwn i orau, cefndir y ffriddoedd yn Ardudwy, a chredaf fod y cefndir hwnnw wedi magu math neilltuol o bobl, neilltuol yn eu hymddangosiad, yn eu cerddediad ac yn eu dull o edrych ar y byd. Ganed ef yn Nhy'n Llidiart, yn ymyl Gwern y Cynyddion, lle ganed y Parch. Richard Humphreys, yng ngolwg Uwchlaw'r Coed, hen ffermdy urddasol lle bu mab y Cyrnol John Jones o Faesy-garnedd, brawd yng nghyfraith Cromwell, yn byw unwaith,
ROBERT GRIFFITH ROBERTS

ac heb fod ymhell oddiwrth Bron y Foel Isaf, hen gartref Theodor Prys, Prifathro Hart's Hall yn Rhydychen, a'i nai, William Lewis, Canon Winchester a Phrifathro Coleg Oriel, Rhydychen. Gwlad ddistaw ydyw, pell oddiwrth y ffordd fawr, gwlad o ffermydd caregog, o fryniau grugog a chefndir o fynyddoedd, y Moelfre yn y canol, Llawllech, Diffwys a'r Llethr ar un ochr, hafn ddofn Cwm Nancol ac uthredd Rhinog Fach a Rhinog Fawr ar yr ochr arall. Hyd yn oed heddiw, pan y mae bugeiliaid newydd ar yr hen fynyddoedd hyn, y mae rhywbeth oesol a digyfnewid i'w deimlo yn yr ardal honno, rhyw dawelwch a distawrwydd sydd fel pe buasai wedi parhau ar hyd y canrifoedd. Teimlaf, wrth gerdded ar hyd y ffordd gul, droellog heibio i Dy'n Llidiart a Gwern y Cynyddion a Chae'r Tlodion a Chae'r Meddyg, fy mod yn agos iawn at fy hynafiaid a fu unwaith yn cerdded ar hyd yr un llwybrau. Yr oedd un Richard Humphreys y gwn amdano yn byw yng Ngwern y Cynyddion yn nechrau'r ddeunawfed ganrif; yr oedd ei berthynasau yn byw yn Uwchlaw'r Coed cyn hynny.

Dyna gefndir Robert Griffith Roberts, gŵr yn hanu o hen deulu Llwydiaid Cwmbychan, ac yr oedd yn ymwybodol iawn ohono tra bu byw. Yr oedd llawer o dawelwch a chadernid a distawrwydd y wlad honno ynddo ef. Ni anghofiodd, ychwaith, fod y môr i'w weled ohoni a holl ogoniant mynyddoedd Arfon, o'r Wyddfa hyd at lwydni unig Enlli yn y pellter, dros y dŵr. Etifeddodd ei thawelwch a'i chadernid; etifeddodd hefyd ehangder ei gorwelion pell. Pa le bynnag y byddai, bu yn weinidog yn Nolgellau, ac yn y Cefn Mawr cyn dyfod i Gaernarfon i fugeilio eglwys enwog Caersalem, y bu Christmas Evans, Cynddelw a'r Dr. Owen Davies yn weinidogion arni,—gŵr o ffriddoedd Ardudwy oedd ef. Yr oedd y cefndir yn bwysig iawn yn ei hanes.

Yr oedd cefndir arall yn bwysig hefyd. Ffarmwr oedd ei dad, Morris Roberts, dyn ysgafn o gorff, chwim iawn ei symudiadau, ffraeth ei dafod a bywiog ei feddwl. Yr oedd Morris Roberts yn Fethodist Calfinaidd pendant iawn. Buasai dyn yn dweud ei fod yn rhagfarnllyd felly oni buasai yn gwybod am Morris Roberts a'i duedd i dynnu coes. Gan fod ei briod yn Fedyddwraig gadarn a'i ddau fab yr un fath yr oedd yn unol â natur Morris Roberts i gymryd arno bod yn fwy o Fethodist nag oedd mewn gwirionedd. "Dewch chi ddim i'r nefoedd, Morris Roberts", meddai rhywun wrtho, rhwng difrif a chwarae unwaith, "os na chymerwch chi'ch bedyddio". "'Does arna' i fawr o awydd mynd yno os oes yno lawer o rai fel ti!" meddai yntau. Yr oedd ynddo gryn lawer o ystyfnigrwydd; nid wyf yn meddwl y bu erioed yn gwrando ar ei fab yn pregethu. Hyd yn oed pan ddeuai i edrych amdano i Gaernarfon ai i un o gapeli y Methodistiaid ar y Sul yn lle mynd i Gaersalem. Gwyddem ni a oedd yn adnabod Morris Roberts faint o bwys i'w roi ar beth felly, ond yr oedd yn taro yn rhyfedd i ddieithriaid.

Un bore dydd Llun, a Morris Roberts yn aros yng Nghaernarfon, aeth am dro gyda chyfaill. Daeth aelod o Gaersalem i'w cyfarfod a chyfarchodd ef. "Tad ein Mr. Roberts ni, ynte?" meddai. "Ia", meddai Morris Roberts. "Wel", meddai'r llall yn geryddol braidd, "'roedd yn ddrwg iawn gen i na ddaethoch chi ddim i wrando ar eich mab ddoe". Sythodd Morris Roberts ac edrychodd arno. "Ho!" meddai, "y mae'n amlwg nad wyt ti ddim yn un o'r rhai callaf!" ac ymlaen ag ef. Yr oedd yn rhaid cymryd Morris Roberts fel yr oedd, a gwnai ei fab hynny. Yn y bôn, yr oedd gan y tad feddwl mawr iawn o'r mab, a buasai yn bur boeth ar neb a ddywedai air bach amdano. Yr oedd y ddau yn eu deall ei gilydd yn burion

Efallai y bydd dwy stori arall yn gymorth i adnabod Morris Roberts. Unwaith ymosododd tarw ieuanc arno, un o'i deirw ef ei hun. Llwyddodd i gael at yr adwy, ond yn lle dianc tynnodd bolyn oddiarni, aeth yn ôl i'r cae at y tarw a churodd ef nes oedd yr anifail yn beichio ac yn ffoi. Byth ar ôl hynny byddai'r tarw yn rhedeg i ben pellaf y cae pan welai Morris Roberts yn dyfod. Yr oedd Morris Roberts yn ddewr hyd at ddibristod. Am dano yn ei gysylltiadau crefyddol y mae'r stori arall. Pan oedd y teulu yn byw yn Nhy'n Llidiart ac yn Nhyddyn y Felin âi Morris Roberts i gapel y Gwynfryn, yr agosaf ato o ddigon. Ond parhaodd i fynd yno pan symudodd i fyw i Daltreuddyn Fawr ar lawr gwlad, er ei fod yn cerdded heibio drws capel Llanbedr i wneud hynny a'r daith yn un bur bell. Pan ddechreuodd heneiddio a llesgau teimlodd fod y daith honno yn ormod, eithr ni fynnai gydnabod hynny. Trawodd ar ffordd nodweddiadol i ddadrys y broblem. Llwyddodd i anghydweld â swyddogion eglwys y Gwynfryn ar ryw fater dibwys neu'i gilydd a bu hynny yn ddigon o esgus iddo drosglwyddo ei aelodaeth oddiyno i Lanbedr. Un felly oedd Morris Roberts.

Gwahanol iawn oedd nodweddion y fam, Catrin Roberts, merch y Wern Gron yn Uwch Artro, ac etifedd yr un traddodiad ag a geid yn ardal Ty'n Llidiart. Credaf mai hi oedd yn hanu o'r Llwydiaid. Yr oedd Morris Roberts yn chwim ac yn barablus; yr oedd hithau yn bwyllog ac yn ddistaw, yn wraig o synnwyr cyffredin cryf ac o gymeriad cyn gryfed a hynny. Magwyd hi mewn traddodiad crefyddol nodedig iawn. Yr oedd ei theulu yn aelodau ffyddlon gyda'r Bedyddwyr Albanaidd; yr oeddynt yn gyfeillgar â Dafydd Llwyd, tad Richard Lloyd, Cricieth, a thaid David Lloyd George. Pobl oeddynt wedi arfer a bod yn y lleiafrif ac wedi gorfod wynebu rhyw gymaint o erledigaeth; nid oedd arnynt ofn sefyll dros eu credo ac yr oeddynt yn barod i ddioddef dros y ffydd oedd ynddynt. Byddai Mrs. Roberts yn myned a'r plant i Gapel Uchaf Harlech o Dy'n Llidiart bob Sul. Chwe milltir, mwy neu lai, oedd y pellter, ond chwe milltir ar draws y mynydd a thrwy'r cymoedd, drwy ddyffryn Artro a thros ffriddoedd moel Uwch Artro. Ar gefn y gaseg yr âi, fel y dywedir yng nghofiant R. G. Roberts, gan y Parch. Henry Rees, gyda Robert yn ei chesail a William, y mab hynaf, wrth ei hysgil. Wedi ei fagu felly nid oedd yn rhyfedd yn y byd fod ôl ei gefndir, yn ddaearyddol ac yn grefyddol, ar R. G. Roberts tra bu byw.

Yr oedd yr un peth yn wir am William, ei frawd. Amaethwr fel ei dad oedd ef a bu byw yn ardal Ardudwy ar hyd ei oes. Nodweddion y fam oedd amlycaf o lawer ynddo yntau, fel ei frawd. Gallasech feddwl, pe na buasech yn ei adnabod, mai dyn tawedog oedd. Yr oedd cyffyrddiad o yswildod ynddo a chredaf mai ei duedd naturiol oedd osgoi yn hytrach na mynd i gyfarfod cwmni. Wedi i'r teulu ddyfod i fyw i Daltreuddyn Fawr yr oedd fy nghartref, Y Faeldref, am y terfyn â'u ffarm hwythau a bûm am flynyddoedd yn cydgerdded â William Roberts i'r Dyffryn ar ddydd Sul. Yr oedd gennyf filltir dda i gapel y Methodistiaid a chanddo yntau filltir a hanner neu fwy i gapel y Bedyddwyr, ond nid oeddym yn meddwl dim o'r peth yr adeg honno. Yr oedd ef gryn lawer yn hŷn na mi, tua deunaw mlynedd, y mae'n debyg,—ond byddai yn siarad yn rhwydd ac yn gyfeillgar, ac ni ellid bod yn hir yn ei gwmni heb ganfod fod yno rhyw synnwyr a diwylliant a gallu pell uwchlaw'r cyffredin. Yr oedd yn ddarllenwr mawr a deallus ac yn ymgomiwr diddan ryfeddol. Yr oedd yntau, fel ei frawd, yn etifedd hen draddodiad Ardudwy.

Yn ystod ei flynyddoedd yng Nghaernarfon hoffai R. G. Roberts son am yr hen fywyd. Dywedodd wrthyf fel y penderfynodd William ac yntau unwaith, pan oeddynt yn blant yn Nhŷ'n Llidiart, y medrent ehedeg, a'r lle yr aethant i brofi'r peth, o bob man yn y byd, oedd uwchben un o'r ffosydd sydd yn croesi'r weirglodd fawr yn ymyl Gwern y Cynyddion. Disgynnodd y ddau i'r ffos a methent a deall pa beth a aeth o'i le. Dro arall, yn Nhyddyn y Felin, penderfynodd y ddau frawd y gellid cael tatws cynnar iawn ond eu plannu yn gynnar ac yn ddigon dwfn, a dyna wnaed. "Gawsoch chi grop?" meddwn. "Y mae'n bosibl bod rhywun yn Awstralia wedi cael tatws cynnar", meddai "R.G." "ond chawsom ni yn Nhyddyn y Felin ddim un!" Unwaith aeth y ddau a defaid i ffair Dolgellau, gan fwriadu dal y trên olaf adref. Ond colli'r trên a wnaed a phenderfynu cerdded adref dros y Llawllech, trwy Gwm Ysgethin a thros y gefnen y tu ôl i'r Moelfre ac ar draws Cwm Nancol i Dyddyn y Felin,—llwybr sydd yn mynd trwy rai o'r mannau unicaf yng Nghymru, heb dŷ na thwlc yn agos. Yn ffodus yr oedd yn noson braf ac yr oedd y ddau yn cyrraedd yr adwy ar ben Llawllech am un o'r gloch y bore. "Yr oedd yn hollol ddistaw", meddai R. G. Roberts wrth ddweud yr hanes, "ac yn dlws ryfeddol. Ond yr oedd yn dda gen i fod William hefo mi, hefyd!" Yr oedd yn hen fore pan gyrhaeddasant Dyddyn y Felin.

Yng Nghaernarfon y deuthum i adnabod R. G. Roberts yn dda. Daeth yno yn olynydd i ŵr nodedig iawn, y Dr. Owen Davies, pregethwr mawr, arweinydd doeth, ysgolhaig a llyfrbryf. Gofynnais i Ddr. Davies unwaith faint o lyfrau oedd ganddo. "Wel", meddai, "y mae acw yn rhywle ar draws y deng mil, y rhan fwyaf ohonynt wedi eu dewis gyda graddau o ofal", a byddai Mr. Roberts yn rhoddi disgrifiad byw iawn o ofal Dr. Davies wrth brynu. Yr oedd enwogrwydd gŵr o'r fath yn gwneud y gwaith o'i ddilyn yn anodd, ond cymerodd R. G. Roberts ei le yn naturiol a thawel, a chafodd bob cynorthwy gan ei ragflaenydd. Yr oedd yn ysgolhaig pur dda, mi gredaf; athroniaeth oedd ei hoff bwnc ac yr oedd wedi darllen yn eang. Yr oedd yn bregethwr da iawn, yn ei ddull ei hun, a hwnnw yn ddull nodweddiadol o'i gefndir. Ni bu neb erioed pellach oddiwrth ymfflamychu; ei gryfder ef oedd meddwl clir, cywirdeb tryloyw, angerddol weithiau, a medr anghyffredin i lunio brawddegau cain a seinber. Yr oedd synnwyr cyffredin cadarn yn nodweddu popeth a ddywedai ac a wnai, a deuai ambell fflach o'i hiwmor nodweddiadol i'w gyflawniadau cyhoeddus, fel i'w sgwrs bersonol. Gwanhaodd ei iechyd ar y ffordd a rhwystrwyd ef rhag gwneud popeth a wnaethai pe cawsai nerth. Efallai nad oedd mor gyffredinol boblogaidd fel pregethwr â rhai; nid dawn i dynnu sylw oedd yr eiddo ef, ond yr oedd yn ddawn i barhau ac yr oedd ei hapêl yn ddifeth at ei wrandawyr mwyaf deallus. Un peth amlwg iawn yn ei bregethu a'i holl waith fel gweinidog oedd ei allu i adnabod pobl. Magwyd ef mewn ardal a roddai gryn lawer o bwys ar beth felly.

Unwaith soniodd wrthyf am ŵr a fynnai siarad yn bur aml mewn cyrddau cyhoeddus. "Chwarae teg iddo", meddai un a oedd yn y cwmni, "fydd o byth yn hir iawn". "Na fydd", meddai Mr. Roberts yn fyfyriol, "ond mi fydda' i'n amau ei bod hi'n darfod ynghynt nag y bydd o wedi meddwl, hefyd". Ffordd dwt o ddywedyd nad oedd adnoddau'r brawd hwnnw yn ddihysbydd o dipyn.

Nid oedd yn ddyn i gymryd ei gario gan bob awel dysgeidiaeth. Pan oedd llawer o foli ac o ddilyn anfeirniadol iawn ar Lloyd George safai R. G. Roberts o'r neilltu. Meddyliai yn uchel iawn o Richard Lloyd a mynnai mai ar ôl marw ei ewythr yr aeth Lloyd George ar gyfeiliorn yn wleidyddol. "Fuasai fo ddim yn gwneud rhai o'r pethau wnaeth o tase Richard Lloyd yn fyw", meddai, ac yr oedd ef yn adnabod Richard Lloyd yn bur dda. Yr oedd yr un mor bwyllog mewn cyfeiriadau eraill. Pan fu dathlu coffa John Richard Jones, Ramoth, yn 1922, bu'n siarad cryn lawer am y gŵr hwnnw â mi, a chredaf iddo ysgrifennu arno i'r Genedl ar fy nghais. Cofiaf ef yn dweud fod ganddo barch mawr i goffadwriaeth J. R. Jones; magwyd ef yn y traddodiad hwnnw. "Ond", ychwanegai, "y mae' nhw'n ei osod o'n rhy uchel wrth ddeud ei fod o'n ddyn cenedl. "Toedd o ddim". Yr oedd ei farn am y Parch. Evan Jones, Caernarfon, yn ddiddorol hefyd. Yr oedd Evan Jones yn weinidog yn y Dyffryn pan oedd "R. G." yn fachgen, cymerai ddiddordeb mawr ynddo, ac yr oedd yn ei adnabod yn bur dda. Yr oedd Anthropos ag yntau yn byw o fewn dau ddrws neu dri i'w gilydd a chai ddiddordeb dibendraw yn ei gwmni yntau. Ond nid oedd yn arwr-addolwr ar neb; mynnai ei farn ei hun ar bawb a phopeth a chafodd lawer o ddifyrrwch pan ddywedais wrtho fod Evan Jones wedi fy sicrhau unwaith mai "crancod oedd pobol y Dyffryn i gyd. Mae'n rhaid i chi argyhoeddi pob dyn ar ei ben ei hun yn yr ardal honno". Yr oedd yn rhaid gwneud hynny gydag R. G. Roberts, beth bynnag.

Yr oedd Mr. Roberts yn un o aelodau ffyddlonaf Clwb Awen a Chân pan oedd ei iechyd yn caniatáu iddo ddyfod i'r cyfarfodydd a byddai ei anerchiadau byr yno ymhlith y pethau gorau. Cofiaf am ei araith pan anrhegwyd Anthropos â hambord arian gan y gymdeithas. "Bydd y Llywydd o hyn allan", meddai, "yn edrych trwy ffenestri aur ac yn ysgrifennu ar fwrdd arian". Cymerai gryn lawer o ddiddordeb yng ngwaith y llenorion cyfoes ond rhyfeddais ddarganfod unwaith fod mwy o gydymdeimlad â'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ynddo nag a feddyliais. Tebygai ei farn i eiddo Gwili fel y'i ceir yn ei ragymadrodd i'w gyfrol o farddoniaeth. Y pregethu a apeliai ato oedd y pregethu meddylgar. Cofiaf ef yn dweud wrthyf iddo fod yn gwrando ar Dr. Miall Edwards a rhywun arall yn pregethu yn rhywle. "Y llall oedd yn tynnu pobl", meddai, "ond Miall Edwards oedd yn pregethu". Yr oedd y farn yn nodweddiadol o'r dyn.

Bu'n golygu Seren Gomer am gyfnod ac yr oedd yn llenor da. Byddwn yn troi ato yn aml am ysgrif neu adolygiad i'r Genedl a byddai graen ar ei waith bob amser, ar ei arddull ac ar ei feddwl. Cyhoeddwyd ychydig o'i ysgrifau yn y gyfrol goffa ond credaf y gallesid cael cyfrol werthfawr ohonynt eto. Prin, hwyrach, y cafodd ei weled yn llawn yn ystod ei fywyd. Yr oedd ynddo gyfuniad o alluoedd pur anghyffredin â dynoliaeth braf.

Soniais fwy am y cefndir yn yr ysgrif hon nag am ei waith fel gweinidog, a hynny am fy mod yn ystyried y cefndir yn bwysig ac na allwn byth weled R. G. Roberts ond fel darn o'r wlad y magwyd ef ynddi. Byddai ei sgwrs am yr hen amser gynt, ei farn ar bethau heddiw, ei areithiau a'i bregethau a'i ysgrifau yn peri i wlad Uwch Artro a ffriddoedd cefn y Dyffryn ymrithio o flaen fy llygaid. Gwelwn y niwl tywyll yn ysgubo ar hyd llethrau'r Moelfre; goleuni haul yr hwyr yn goreuro Glyn Artro a'i goed a mwg perliog ambell dŷ yn ymdroelli yn araf ar i fyny yn y golau; y glaw yn ysgubo yn llenni llwydion dros y creigiau ac heibio i hen dŷ Gwern y Cynyddion ac yn cuddio Ty'n Llidiart; gwelwn y coed criafol yn goch gan ffrwythau yn anialwch hen ardd Tan Darren; gallwn glywed sŵn y pistyll yn disgyn dros ymyl y graig i ddŵr Llyn Cystyllan a llais y gylfinhir yn gwanu distawrwydd y mynydd. Cofiwn am y ffermydd uchel, yr hen dai cerrig cadarn a llwydion, y caeau bychain, caregog, aroglau tân coed a bara yn y popty, y maen llifo ar y clwt glas wrth dalcen y tŷ, y gwyddau a'r lloi yn y cae, a swn gwichlyd y drol yn dyfod ar hyd yr hwylfa gul rhwng y gwrychoedd uchel o goed cnau. Y mae briallu o hyd yn y gwanwyn yn y coed yn ymyl Cae'r Meddyg; daw'r grug porffor ar y ffriddoedd y naill flwyddyn ar ôl y llall. Nid oes dim hyd heddiw yn torri ar y distawrwydd dan y tal-goed yn ymyl yr hen feudy ond sisial y dail.

Dyna gefndir bywyd Robert Griffith Roberts, y pethau yna a'r bywyd syml, cymdogol, caredig oedd yno o'r naill genhedlaeth i'r llall, bywyd y gymdeithas Gymreig a greodd ei thraddodiad a'i safonau a'i dynoliaeth ei hun yng ngwe bywyd y werin. Rhan o'r gymdeithas honno oedd ef; ynddi hi yr oedd tarddiad y nerth a'r prydferthwch a oedd yn ei gymeriad yntau.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Evan Roberts, y diwygiwr
ar Wicipedia

EVAN ROBERTS 1878-1951

Y mae diwygiad 1904-6 cyn belled o ran amser oddiwrth lawer erbyn hyn ag oedd diwygiad 1859 oddiwrthyf finnau pan oeddwn yn fachgen. Clywais lawer yn sôn am hwnnw yn fy hen ardal, ond nid oedd gennyf fawr iawn o syniad am y peth a ddigwyddodd bedair blynedd ar hugain cyn fy ngeni. Erbyn hyn gwelaf fod llawer o bobl yn yr un cyflwr ynghylch diwygiad 1904-6. Clywsant a'u clustiau sôn amdano ond ni all fod ganddynt syniad clir na chyflawn am y peth fel yr oedd. Ac wrth edrych yn ôl y mae'r cyfnod hwnnw a'i ddigwyddiadau bron a bod yn anhygoel hyd yn oed i ni a oedd, am wahanol resymau, yn digwydd bod yn ei ganol. Newyddiadurwr ieuanc oeddwn i ar y pryd, ar drothwy fy ngyrfa gyda'r papurau newydd, ac yn rhinwedd fy swydd fel gohebydd i'r Genedl Gymreig yn dilyn cyrddau'r diwygiad yn Lerpwl ac yng Ngogledd Cymru er mwyn eu disgrifio yn y papur. Bûm mewn oddeutu pedwar ugain ohonynt.

Daw llawer golygfa ryfedd a digwyddiadau anghyffredin yn ôl i'r côf wrth feddwl am yr amser hwnnw. Daeth y peth yn sydyn ar warthaf y rhan fwyaf ohonom, mi gredaf, ac er fy mod wedi clywed cymaint o sôn am ddiwygiad 1859 nid oeddwn yn hoffi yr hyn a welais ar don gyntaf y diwygiad newydd. Aeth cyrddau crefyddol yn anrhefnus; manteisiodd rhai ar y cyfle i edliw eu diffygion i weinidogion a swyddogion eglwysig (yr oedd y rhai nad oeddynt erioed wedi bod yn selog iawn gyda'r achos cynt yn bur dueddol i wneud hyn), ac yr oedd yn amlwg fod y cynhyrfiad yn drysu meddyliau rhai. Cofiwn fod fy nhaid, Edward Morgan, a oedd
EVAN ROBERTS

yn weinidog yn Nyffryn Ardudwy yn amser diwygiad 1859, wedi sefyll yn bendant yn erbyn cyrddau hwyr, a phan aeth pethau yn drech nag ef byddai ef yn myned adref am wyth o'r gloch bob amser fel protest. Gwnaeth hyn ef yn amhoblogaidd iawn am gyfnod, ond nid oedd hynny yn menu fawr arno ef, ac ymhen amser daeth llawer i deimlo mai ef oedd yn iawn. I mi, wedi fy magu mewn traddodiad felly, er mai traddodiad yn unig oedd, ymddangosai rhai agweddau ar y cynhyrfiad newydd yn ddigon annymunol. Yr oeddwn yn Nyffryn Ardudwy ar y pryd, ac yno yr oedd y sôn am y goleuadau rhyfedd a oedd yn dilyn cyrddau Mrs. Jones, Islaw'r Ffordd. Yr oedd Mrs. Jones, gwraig fucheddol a thawel a oedd yn aelod ffyddlon yn eglwys y Methodistiaid yn y Dyffryn, wedi ei thanio gan y mudiad ac yn myned o gwmpas i gynnal cyfarfodydd, a dywedid fod golau rhyfedd yn yr awyr yn ei dilyn. Nid yw yn unrhyw adlewyrchiad ar Mrs. Jones i ddweud nad oes neb bellach yn credu yn y goleuadau. Nid oedd llawer yn credu ynddynt ar y pryd ac ni ddigwyddodd i mi weled neb a'u gwelodd. Yr oedd digon o bobl a oedd wedi gweled rhywun arall a oedd wedi clywed am rywun a oedd wedi eu gweled, ond yr oedd yn amhosibl cael tystiolaeth uniongyrchol. Nid oedd peth felly yn ychwanegu dim at ffydd dyn, a oedd eisioes braidd yn amheus, yn y diwygiad newydd.

Yn yr ysbryd hwnnw yr euthum i Lerpwl ac y dechreuais ddilyn cyfarfodydd Evan Roberts yno. Yr oedd fy rhagfarn yn gref yn erbyn rhai arweddau, beth bynnag, ar y mudiad, ac nid oeddwn yn hoffi llawer ar yr hyn a ddarllenaswn am ddulliau Evan Roberts ei hun. Nid oeddwn yn hoffi'r olwg gyntaf a gefais arno yntau, ychwaith, yng nghapel Princes Road yn ei gyfarfod cyntaf yn y ddinas. Tybiwn ei fod, yn ochr ei wyneb, yn debyg i'r unig ddarlun sydd gennym o Hywel Harris, ac ni bu Hywel Harris erioed yn ŵr deniadol yn fy marn i, er ei bod yn rhaid ar bawb gydnabod ei fawredd. Daeth newid ar fy marn am Evan Roberts, fel y ceir gweled,—newid trwyadl. Newidiodd fy syniadau am y diwygiad, hefyd, ond cymysg fu fy argraffiadau am y mudiad ei hun i'r diwedd ac hyd yn oed heddiw y mae yn anodd cyfleu darlun clir ohono i'r sawl nas gwelodd.

Erys rhai pethau yn glir iawn yn y côf. Y tyrfaoedd mawr yn Lerpwl, er enghraifft, llond y capeli mwyaf ar nosweithiau yn yr wythnos; pobl yn torri eu calonnau am eu bod yn methu myned i mewn; tyrfaoedd yn sefyll y tu allan ar heolydd y ddinas ac yn canu (cofiaf, am ryw reswm neu'i gilydd, am dyrfa fawr yn canu

O! Dduw, rho im dy hedd,
A golwg ar dy wedd,
A maddau'n awr fy meiau mawr,
Cyn elwy' i lawr i'r bedd,

ar yr hen dôn "Andalusia", a thyrfaoedd eraill, o bob llwyth ac iaith am wn i yn sefyll o gwmpas ac yn gwrando); pobl yn dylifo ar draws y caeau ym Môn ar nosweithiau o haf i gyfarfod o gwmpas y wagen; parti o Saeson wedi myned i ben melin wynt yn Sir Fôn ac yn canu un o emynau Saesneg poblogaidd y diwygiad, y "Glory song" fel y'i gelwid, yn y fan honno, er cryn syndod i Gymry'r gymdogaeth: llond cerbyd o weinidogion Protestannaidd o Ffrainc yn dyfod i Gemaes i weled Evan Roberts; cyrddau poethion yng nghapeli Arfon gefn trymder gaeaf; teithiau hir i ben draw Llŷn gydag Evan Roberts ar ddyddiau oerion a'r bobl yn rhedeg at fin y ffordd i gael golwg arno; y cynnwrf a'r twrw, y dagrau a'r llawenydd, y pethau amrwd a ddywedid yn y cyrddau, a'r pethau gwych a ddywedid ynddynt hefyd; llais Thomas Williams, Gwalchmai, un o'r tri llais gorau yng Nghymru, fel cloch ar noson dawel o fis Mehefin, a'r gwair yn tonni o flaen awel ysgafn yn y caeau o'n cwmpas, yn dweud ei fod yn taeru yn wyneb uffern fod Iesu yn fyw; cyfarfod mawr yn Lerpwl ac Evan Roberts yn dweud na fedrai ddweud yr un gair am mai cywreinrwydd oedd yno ac nid dymuniad.

Cymysg iawn yw'r atgofion. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl nad oedd yno lawer o gymysgedd yn y mudiad hefyd. Clywais rai yn gweddio yn danllyd mewn cyfarfod ar ôl cyfarfod ac yn siarad yn goeglyd ar ôl i'r cyfarfod fyned heibio. Yr oedd yn weddol hawdd gweled fod rhai yn ceisio ac yn mwynhau cyhoeddusrwydd o ryw fath trwy y mudiad. Yr oedd lle i gredu fod llawer o deimlad arwynebol iawn a chryn lawer o rywbeth na ellid ei alw yn ddim ond hysteria yn y cyfarfodydd. Ond, wedi cydnabod hynny, y mae yn rhaid hefyd i'r neb a welodd lawer ar y mudiad ddwyn tystiolaeth fod yno rywbeth arall. Gŵr pell iawn oddiwrth deimladrwydd llac a gorohian poblogaidd oedd John Rhys Evans, prifathro Ysgol Ramadeg Porthmadog, ond y peth a ddywedodd wrthyf wedi bod yn un neu ddau o gyfarfodydd y diwygiad oedd eu bod yn peri i chwi deimlo fod crefydd yn beth gwirioneddol. Ac yr oedd y dylanwad yn newid bywydau llawer, ac yn eu newid am byth. Yr oedd llawer o rai selog yn disgyn yn ôl i'r hen ddull o fyw, meddid. Yr oedd hynny, wrth gwrs, yn anorfod. Ond, cyn sicred a hynny, yr oedd y dylanwad yn barhaol yn hanes llawer, ac wrth y safon hwnnw y mae yn rhaid ei fesur.

Deuthum i deimlo hynny wrth ddilyn y cyfarfodydd. Ni chefais fy ysgubo ymaith gyda'r llif; efallai fod yr hen draddodiad y magwyd fi ynddo yn rhy gryf i hynny ddigwydd. Cydnabyddaf mai fel sylwedydd, ieuanc y mae'n wir, ond gweddol ddiduedd, yr edrychwn ar y mudiad fel y gwelais ef mewn pedwar ugain neu ragor o gyrddau Evan Roberts. Fel y dywedais, yr oeddwn yn rhagfarnllyd iawn yn erbyn y diwygiad ar y cychwyn, ond yn raddol trodd y rhagfarn yn gydymdeimlad; nid oeddwn yn ddall i'r ochr wan, ond ffolineb yn fy marn i fuasai bod yn ddall i'r nerthoedd er daioni hefyd. Ac yr oedd Evan Roberts ei hun yn sicr yn un o'r nerthoedd hynny.

Yn raddol deuthum i'w adnabod yn dda. Buom yn lletya yn yr un mannau ac yn myned i'r cyrddau yn yr un cerbyd; buom yn cyd-gerdded ac hyd yn oed yn ceisio gwneud englyn gyda'n gilydd. Credaf ei fod ef yn gynganeddwr go lew, ond gwn yn dda nad wyf fi hyd yn oed yn gynganeddwr sâl,—a darganfu yntau hynny yn bur fuan. Po fwyaf a welwn arno dyfnhau yr oedd fy serch tuag ato a'm parch iddo. Yr oedd yn amhosibl peidio parchu ei allu meddyliol; yr oedd rhai o'i anerchiadau yn ddisglair; nid oedd ynddynt arlliw o apêl arwynebol at y teimlad, a chamgymeriad mawr ydyw tybio mai spell-binder crefyddol oedd Evan Roberts. Siaradwr tawel oedd, ei eiriau a'i ynganiad yn glir, ei ysbryd yn gariadus a'i feddwl yn drefnus. Yn aml iawn siaradai fel dyn ieuanc wrth ddynion ieuanc eraill—chwech ar hugain oed oedd ar ddechrau ei genhadaeth ym Môn—a siaradai yn naturiol bob amser. Ni chlywais dinc o'r hwyl ganddo erioed; ni byddai yn gwaeddi, ond byddai yn ofnadwy o ddifrifol ar adegau a'i natur fel pe buasai yn cael ei dirdynnu. Pethau felly a'r straen a osododd arno ei hun a dorrodd ei iechyd i lawr yn y diwedd.

Peth anffodus iddo ef oedd bod ar lawer o bobl ei ofn. Y mae'n anodd gwybod paham, ond yr oedd hynny yn wir. Un noson wlyb iawn a ninnau wedi cerdded trwy'r glaw o'r capel lle bu'r cyfarfod, gwelais ef yn eistedd yn y tŷ lle'r oeddym ein dau yn cael llety yn ei ddillad gwlyb ac yn gomedd eu tynnu. Yr oedd gŵr y tŷ yn rhyw dwtian o'i gwmpas yn ofnus ac yn meiddio awgrymu yn wan yn awr ac yn y man mai gwell fuasai iddo dynnu ei gôt fawr, ond ysgwyd ei ben heb ddweud yr un gair a wnai Evan Roberts. Dywedais innau wrtho am ei thynnu onide y byddai yn cael annwyd ac yn faich ac yn bryder i'w letywyr. Edrychodd pobl y tŷ arnaf fel pe buaswn yn cablu,—ond tynnodd Evan Roberts ei gôt. Y gwir, wrth gwrs, oedd ei fod wedi llwyr ddiffygio a phrin yr oedd yn clywed ymbiliadau bach, pet-rusgar ei letywr. Yr oedd mewn gwirionedd nid yn unig yn hawdd iawn ei drin ond hefyd yn ŵr caredig a bonheddig ei ysbryd; ni fynnai roddi trafferth na thramgwydd. Yn ystod ein teithiau yn y gaeaf yn sir Gaernarfon byddai yn ofalus iawn ohonof ac yn bryderus rhag i mi ddioddef oerfel na gwlybaniaeth. Yr oedd gwir dynerwch ynddo.

Nid oedd ganddo ddim o bendantrwydd ffyrnig rhyw fath o ddiwygiwr ac yr oedd ymhell o fod yn "dduwiol fach". Yr oedd yn gwbl naturiol, yn llawen yn y cwmni ac ar yr un pryd yr oedd urddas syml a hollol naturiol a'i gwnai yn amhosibl i neb fyned yn hyf arno. Ni amdiffynai ei hun pan ymosodid arno ac ni atebai feirniadaeth. Credai yn ddiysgog fod ganddo waith arbennig i'w wneud ac nid oedd dim arall yn bwysig yn ymyl hwnnw. Ni chefais le erioed i feddwl fod yr hyn a ddywedai pobl amdano ef na'r sylw a roddid iddo yn pwyso dim ar ei feddwl, ond yr oedd llwyddiant neu aflwyddiant ei genadwri yn faich llethol arno. Y mae'n anodd dweud dim i bwrpas am rai pethau a wnai, megis gwrthod siarad yn ambell gyfarfod, weithiau am ei fod yn teimlo fod yno "rwystrau" a thro arall am y credai mai chwilfrydedd yn unig a ddaeth a'r bobl yno. Torrai i lawr yn llwyr weithiau, ond dylid cofio iddo fod trwy bethau rhyfedd yn y De cyn dyfod i Lerpwl a'r Gogledd, ac mai dyn wedi bod dan straen a welsom ni yma. Tybiai rhai fod ganddo alluoedd rhyfedd i ddarllen meddwl; ni allaf ddywedyd a oedd hyn yn wir, ond gwelais ef yn gwneud pethau rhyfedd, megis dal i daeru fod rhywun mewn rhan neilltuol o'r gynulleidfa yn dymuno ei roddi ei hun i Grist ond yn methu mentro. Gwelais hynny yn cael ei wireddu fwy nag unwaith, ond ni allaf ddywedyd a oedd taerni a sicrwydd y diwygiwr yn peidio effeithio ar feddwl rhywun yn y rhan honno o'r lle.

Credaf ei fod yn neilltuol o graff i adnabod pobl; yr oedd ei edrychiad yn dreiddgar a'i farn yn bur sicr, ac y mae'n bosibl ei fod yn gweled, o'r pulpud neu oddiar y llwyfan, rywrai yr oedd eu hwynebau yn mynegi eu teimlad iddo ef. Ni chlywais ef erioed yn honni bod ganddo unrhyw alluoedd allan o'r cyffredin, ac fel yr oedd yr amser yn treiglo yr oedd pethau a barai i bobl gredu fod galluoedd felly ganddo yn myned yn brinnach. Yng nghyrddau Lerpwl y gwelais fwyaf o'r ochr honno; ychydig iawn o bethau felly oedd yng nghyrddau Môn a llai wedyn yng nghyrddau sir Gaernarfon. Cyn cychwyn ar ei genhadaeth ym Môn bu Evan Roberts yn gorffwys am rai wythnosau yng Nghapel Curig ac yng Nghemaes, dau le hyfryd, ac yr oedd yr hin yn hyfryd hefyd. Y mae'n bosibl bod hynny wedi llacio peth ar y tyndra dir-dynnol a oedd arno yn Lerpwl.

Beth bynnag am hynny, mewn cyrddau bychan y gwelais ef ar ei orau, yn eglwys y plwy, Llanddona, ar fin y Traeth Coch ym Môn, er enghraifft, y ficer ac Evan Roberts yn siarad a Dr. John Williams, Brynsiencyn, yn darllen y llithoedd, neu yng nghapel Rhydbach, yn Llŷn, yn hwyr un noson o Ragfyr, a ninnau ar ein ffordd adref o bellter Aberdaron. Dyma hanes y cyfarfod hwnnw a ysgrifennwyd ar y pryd, ym mis Rhagfyr, 1905:

Ar ôl gorffwys drachefn cychwynasom tuag adref. Yr oedd gennym ugain milltir o daith. Wedi teithio am rai milltiroedd y mae rhywun yn dweud fod goleuni i'w weled yng nghapel Rhydbach. "A allwn ni fyned heibio?"

"Na", meddai Evan Roberts, "i mewn".

Cyn pen hir yr ydym yn cyrraedd at y capel. Y mae'r goleuni yn parhau o hyd. Arhosodd y cerbyd a gofynnwyd faint oedd hi o'r gloch. Ugain munud i ddeg. Faint o amser eto i gyrraedd Pwllheli? Awr a hanner (cerbyd a cheffylau oedd gennym). Felly i lawr a ni ac at y capel.

Erbyn edrych i mewn nid oedd yno neb ond y swyddogion a'r gweinidog, ac yr oeddynt ar ddyfod oddiyno. Ond dyna ni i mewn. Gwnaethant wynebau rhyfedd, ond ar ôl ymgom fer aeth Mr. Roberts i'r pulpud a dechreuodd ddarllen yr emyn, "Maen' bryd i ni ganu, ni gawsom y fraint". Darllenodd yn ardderchog, a thra'r oedd yn darllen agorodd drws y festri. Gwraig y tŷ capel oedd yno. Rhoddodd un edrychiad tua'r pulpud, ac yna y mae'n myned yn ôl i'r tŷ. Ond ymhen eiliad neu ddau y mae yn ei hôl, gyda'r gŵr a'r plant.

Ar ôl darllen yr emyn y mae Mr. Roberts yn syrthio ar ei liniau ac yn dechrau gweddïo—y tro cyntaf i mi ei glywed yn gweddïo mewn cyfarfod cyhoeddus. Ar y canol y mae yn distewi, ac erbyn hyn y mae rhywbeth rhyfedd i'w deimlo yn y cyfarfod. Sylwais fod pobl wedi dyfod i mewn bob yn un ac un, nes bod yno oddeutu deg ar hugain ohonom. Torrodd y naill ar ôl y llall drwodd i weddïo —gweddïau byr, llawn teimlad. Paham y mae cyfarfodydd bychan bob amser,—neu bron bob amser,—yn fwy teimladwy? Fe gofir y cyfarfod hwn gan bawb oedd yno ar hyd eu hoes.

Y mae Mr. Roberts yn y distawrwydd yn gorffen ei weddi, ac yna y mae'r cyfarfod ar ben.

Dyna'r cwbl, ond erys yr atgof yn glir a byw ym meddwl un oedd yno. Y tawelwch oedd yn gadael yr argraff.

Bu argraff ar led mai apêl at y teimlad yn unig oedd gan Evan Roberts ac nad oedd ynddo fawr o allu meddwl. Cyfeiliornad oedd y naill dybiaeth a'r llall. Nid oedd ganddo unrhyw apêl at y teimlad fel ag a glywsom o bulpudau o dro i dro, y sôn am John a Mary bach, am ofnadwyaeth marw a phethau felly. Wrth edrych yn ôl, ac wedi troi i ryw raddau dros ddyfyniadau o anerchiadau Evan Roberts, credaf na byddaf ymhell o fy lle wrth ddweud mai apêl at y meddwl a'r gydwybod oedd ei apêl ef bron yn ddieithriad. Fel y dywedwyd, yr oedd rhai o'i anerchiadau yn wych. Nid oeddynt byth yn gywrain; yr oeddynt o fewn cyrraedd pawb ac ni byddai byth yn ymdrechu am effaith. Ond yr oedd ei gymhariaethau a'i ymresymiad yn aml yn bethau nodedig ac yn bethau ar eu pen eu hunain. Unwaith ceisiwn gyfieithu yr hyn a ddywedai i'r Saesneg i Almaenwr a oedd wedi dilyn amryw o'r cyfarfodydd, gweinidog yn un o ddinasoedd yr Almaen. "Ymha le y mae'r gŵr ifanc yma yn cael syniadau fel yna?" meddai'r gweinidog. "Ni chafodd o fawr o addysg, ac er hynny dyma fo yn siarad fel hyn".

Ni welais ef byth ar ôl y cyrddau yn sir Gaernarfon ddechrau 1906. Clywais fwy nag unwaith, wedi i'r eisteddfod fyned heibio, iddo fod yno ond ni wyddwn hynny ar y pryd ac ni chefais air ag ef. Y mae'n ddigon tebyg na buaswn wedi ei adnabod pe buaswn wedi ei weled, ac felly erys y côf amdano yn ddyn ieuanc lluniaidd, saith ar hugain oed, heb ei amharu i mi. Bu llawer o holi paham y ciliodd yn llwyr o olwg y cyhoedd ar ôl y diwygiad; ychydig iawn o ran gyhoeddus a gymerodd gyda dim ar ôl 1906 a bu hynny yn dramgwydd i rai. I ni, a fu yn agos ato yn y blynyddoedd cynhyrfus, nid oedd y peth yn rhyfedd iawn. Cofier i Florence Nightingale dreulio gweddill ei hoes o fwy na hanner can mlynedd ar ôl rhyfel y Crimea mewn neilltuaeth, rhan fawr o'r amser yn ei hystafell wely, canys ysigwyd ei hiechyd gan ei hymdrechion yn y Crimea. Y mae'n wir ei bod hi wedi gweithio yn egnïol am flynyddoedd o'i hystafell, ond yr oedd y gwaith hwnnw yn un y gallai ei wneud felly.

Y tebyg ydyw fod rhywbeth cyffelyb wedi digwydd i Evan Roberts. Rhoddodd straen lethol arno ei hun ym mlynyddoedd y diwygiad a daeth yr adwaith. Ac ni ellid disgwyl na dymuno i bethau aros yn hir fel yr oeddynt yn y blyn-yddoedd hynny. Y mae gwahanol farnau am y diwygiad ac am ddiwygiadau yn gyffredinol; fy amcan yn ysgrifennu yn awr ydyw dywedyd pa argraff a wnaeth gŵr amlycaf yr amser rhyfedd hwnnw ar un a welodd lawer arno. Beth bynnag yw fy syniadau am y diwygiad-cymysg ydyw y rhai hynny-nid oes gennyf ond un farn am Evan Roberts.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Thomas (Eifionydd)
ar Wicipedia

EIFIONYDD 1848-1922

YM mis Medi, 1912, yr oeddwn yn myned o Glynnog i Gaernarfon, mewn cerbyd motor. Yr oedd peth felly yn brofiad newydd i'r rhan fwyaf ohonom yn 1912; ychydig iawn o foduron oedd i'w gweled ac ychydig o bobl mewn cymhariaeth oedd wedi bod mewn motor. Ffordd dawel iawn oedd y ffordd honno'r pryd hynny, er ei bod yn bri-ffordd, a gallech ei cherdded yn ddigon hamddenol am filltir neu ddwy heb weled fawr ddim ond ambell drol neu feisicl. Yr oedd llwch yn drwch arni yn yr haf, fel ar bob ffordd arall, ond nid oedd yno fawr ddim i'w godi.

Ar y dde yr oedd cae sofl, ar godiad; nid oeddwn yn gweled y cae i gyd nes dyfod at adwy, ond wrth fyned heibio i honno gwelais ddyn yn sefyll fel delw ar ganol y cae, yn agos i grib y llechwedd. Ar gip gallasech feddwl mai bwgan brain parchusach o gryn lawer na'r cyffredin oedd yno canys nid oedd yn symud o gwbl. Ond er mai cip yn unig a gefais arno, ei ambarelo dan ei fraich a'i het feddal wedi ei gwthio ar ei wegil, gwelais mai Eifionydd oedd yno, a chan nad oedd llwybr o gwbl ar draws y cae hwnnw methwn ddyfalu beth oedd ei neges mewn lle o'r fath. Y tro nesaf i mi ei weled yng Nghaernarfon holais, ond ni chefais fawr o groeso. "Dianc i rywle rhag y llwch," oedd yr ateb cwta. Nid oedd yr un car arall yn y golwg na'r un wedi pasio, yr wyf yn bur sicr, ers awr beth bynnag.

Yr oedd llawer o fân bethau od fel yna yn John Thomas (Eifionydd). Ni byddai byth yn dyfod i edrych amdanaf i hen swyddfa'r Genedl yn y gaeaf heb ddal clustog y gadair wrth y tân cyn eistedd arno, nac yn myned oddi yno heb
EIFIONYDD

dwymo bagl ei ambarelo cyn gafael ynddo. Bu yn pregethu yn y Dyffryn unwaith a holais yr hanes wedyn. "Dyna'r dyn rhyfeddaf welais i erioed," meddai'r sawl y bu'n aros yn ei dŷ. "Pan welodd o mai llawr cerrig sydd ar y gegin acw mi ro'th ei ddau droed ar ffon y gadair yr oedd o'n eistedd arni, a thynnodd o mohonynhw odd'no ar hyd y fin nos." Gwelais ef yn cerdded ar hyd Stryd y Llyn yng Nghaernarfon ar ddiwrnod tesog; gwisgai gôt alpaca ysgafn, ond yr oedd ganddo un arall ar ei fraich rhag ofn iddi oeri yn sydyn. Yr oedd ganddo ambarelo agored, rhag yr haul, a rhes o dyllau o gwmpas corun ei het feddal "er mwyn cael awyr." Gwisgai esgidiau hoelion trwm. Canlyniad cyngor Powyson oedd y tyllau yn yr het. Cwynodd Eifionydd wrth ei hen gyfaill fod ei het yn boeth "Gofynnwch i'r crydd 'neud tyllau yni hi," meddai'r llall.

"A'r tro nesa' gwelais i o," meddai Powyson, wrth ddweud yr hanes, "'roedd o fel tase fo wedi bod yn y batl of Waterlw!" Poenodd Eifionydd lawer ynghylch ei iechyd a phoenodd gryn lawer ynghylch iechyd pobl eraill hefyd. Cynghorodd lawer arnaf i weithio ar fy sefyll wrth ddesc uchel yn lle eistedd wrth ddesc arferol. "Mi fydd yn well ar les y'ch corff a'ch meddwl chi," meddai yn bendant, a chredaf mai dyna ei arfer ef. Un tro, pan oeddwn yn cwyno, mynnai i mi roddi praw ar feddyginiaeth neilltuol, a phan wrthodais dywedodd yn bur ffrom mai yn Llanbeblig (mynwent y plwyf) y byddwn yn lled fuan. Dro arall gadawodd botel o ryw foddion wrth y drws, gan adael cenadwri iddo ef gael y peth hwnnw bron yn anffaeledig. Byddai yn yswilio wrth wneud pethau felly, a'i ffordd ef o ddangos ei fod yn swil oedd troi braidd yn chwyrn ac yn gwta. "Dyn od," meddai pawb bron wrth sôn am Eifionydd. "Dyn plagus," meddai llawer y byddai yn eu poeni am ysgrifau i'r Geninen, ac y mae'n wir ei fod yn barod i'w wneud ei hun yn fwrn ar bobl weithiau er mwyn cael yr hyn y byddai arno ef ei eisiau i'w gylchgrawn. Ond ni ddylid meddwl bod Eifionydd yn ddiurddas. Nid oedd felly, o lawer.

Ychydig a wn i am ei flynyddoedd cynnar; ni byddai byth yn sôn amdano'i hun. Ceir peth o'i hanes yn ysgrif Anthropos arno yn Yr Ymwelydd Misol, Chwefror, 1912. Ganed ef yn Eifionydd, heb fod ymhell o'r Clenennau, a phrentisiwyd ef—yn naw oed—yn argraffydd gyda Robert Isaac Jones (1813-1904), fferyllydd, hynafiaethydd, golygydd ac argraffydd, yn Nhremadog. Yr oedd Robert Isaac Jones, golygydd Y Brython a'r Gestiana, yn ddolen gydiol â chyfnod Dewi Wyn, Robert ap Gwilym Ddu, Eben Fardd ac Ellis Owen o Gefn y Meysydd, ac y mae'n sicr i'r gyfathrach â gŵr o'r fath ddylanwadu ar feddwl y prentis. Nid ymhob cyfeiriad ychwaith; Eglwyswr a Thori oedd Robert Isaac Jones, ond yr oedd Eifionydd a'i fryd ar fynd i'r weinidogaeth gyda'r Annibynwyr. Wedi bod yn gweithio fel argraffydd ym Mhwllheli, y Rhyl a Machynlleth (y mae'n bosibl mai ym Machynlleth y daeth am y tro cyntaf i gysylltiad ag argraffydd ieuanc arall, Thomas Jones, "Powyson", a fu yn gyfaill iddo ar hyd ei oes) aeth i Goleg Aberhonddu. Dywed Anthropos iddo aros yno dair blynedd; cafodd wely llaith ar daith gasglu, amharodd hynny ar ei iechyd weddill ei oes ac ni fynnai'r meddygon iddo fyned ymlaen i'r weinidogaeth. Pregethai yn weddol gyson hyd y diwedd.

Trodd yn ôl at ei hen alwedigaeth, a bu am dymor yn gweithio fel cysodydd yn swyddfa Eyre & Spottiswoode yn Llundain. Cydnabyddid ei fod yn un o'r cysodwyr cyflymaf a glanaf a hynny yn y dyddiau pan wneid yr holl gysodi â'r llaw. Fel rheol, byddai'r cysodydd yn dal y stic yn ei law chwith ac yn cadw'r llaw honno yn llonydd yn ei hunfan, gan estyn y llythrennau iddi gyda'i law dde, ond byddai Eifionydd, fel y clywais, yn myned â'i law chwith ar ôl y llall ar hyd wyneb y "case" ac yn ennill llawer mewn cyflymder trwy hynny. Bu yn swyddfa'r Genedl yng Nghaernarfon am flynyddoedd, yn yr adran olygyddol am beth amser, ac fel trafeiliwr ac ysgrifennydd y cwmni ar adegau eraill. Yr oedd, meddir, yn ddyn busnes pur dda, yn llawn gwell fel dyn busnes, ym marn Powyson, nag fel golygydd papur newydd. Gwelais nifer o'r llythyrau a ysgrifennodd pan oedd ar yr ochr fasnachol. Clywid llawer o sôn am ei lawysgrif fel un o'r pethau odiaf ynglŷn ag ef; bu hynny yn destun difyrrwch digon rhad i laweroedd ar un cyfnod. Y mae'n wir y medrai ysgrifennu yn grafagliog, eithr dengys ei lythyrau busnes y medrai ysgrifennu fel arall hefyd cyn gliried ag unrhyw ysgolfeistr.

Dengys hyn eto fod dwy ochr i Eifionydd, yr ochr od a'r ochr arall. Yr oedd ei lythyrau busnes, yn Saesneg ac yn Gymraeg, yn glir ac i'r pwrpas, ac yn sicr nid y "dyn od" y byddai rhai yn sôn amdano byth a hefyd a fuasai wedi gwneud Y Geninen yn llwyddiant am ddeugain mlynydd—yn llwyddiant mewn ystyr lenyddol a masnachol. Nid oes gennyf wybodaeth am yr ochr fasnachol, ond byddai Powyson yn dweud bod Y Geninen wedi talu yn dda i Eifionydd. Yn y cyfnod yr oeddwn yn ei adnabod nid oedd yn gwneud dim heb-law golygu'r Geninen. Dywedid nad oedd yn talu am ysgrifau; nid oes gennyf wybodaeth sicr am hynny ychwaith, ond clywais ei fod yn talu i rai, beth bynnag. Nid oedd peidio talu am ysgrifau yn beth eithriadol iawn yng Nghymru yr adeg honno.

I bob pwrpas yr oedd Y Geninen ac Eifionydd yn gyfystyr. Prin y buasai neb yn honni ei fod yn fardd, er iddo lunio llu o englynion a thoddeidiau a bod cynganeddu bron a bod yn wendid ynddo. Ni allai wrthod cyfle i'r glec. Bu'n golygu'r Werin ar un adeg, a chlywais y byddai penawdau'r papur hwnnw yn cynganeddu yn ystod ei deyrnasiad ef. Yr unig enghraifft a gofiaf ydyw pennawd hanes llys ynadon lle cyhuddid dyn o ddwyn ieir. "Dyna ffwl yn dwyn ffowls" oedd dull Eifionydd o hysbysu'r peth. Unwaith, pan ddaeth ar ei dro i ystafell y golygyddion yn hen swyddfa'r Genedl, ymhen blynyddoedd wedi iddo adael y lle, digwyddodd i un ohonynt besychu. "Cu lenor yn cael annwyd," meddai Eifionydd, a synnodd pan atebodd y "cu lenor" ef yn yr un dull. Nid wyf yn cofio'r llinell ateb erbyn hyn.

Ni chlywais ef yn pregethu, ond clywais eraill yn dweud mai pregethwr sychlyd oedd, a dyna a fuaswn yn ei ddisgwyl. Dywedid y byddai yn gweiddi llawer wrth bregethu yn y blynyddoedd cyntaf. Ychydig a bregethai yn y blynyddoedd olaf ac ni chofiai llawer ei fod yn bregethwr, er ei fod braidd bob amser yn tueddu i wisgo fel pregethwr. Bu'n amlwg ynglŷn â Gorsedd y Beirdd am gyfnod pur hir; ef oedd Cofiadur yr Orsedd, a'r argraff ar fy meddwl i oedd nad oedd yn ceisio diwygio fawr ar drefn na dull yr Orsedd. Wedi ei farw ef, pan benodwyd Beriah Evans yn Gofiadur, y daeth llanw mawr y cyfnewidiadau a'r diwygiadau. Ond dywed Anthropos, yn yr ysgrif y cyfeiriwyd ati, mai trwy ddylanwad ac ymdrech Eifionydd yn bennaf y rhoddwyd bod i Gymdeithas yr Orsedd, ac mai ef a luniodd ei rheolau ac a drefnodd yr arholiadau am urddau ofydd, bardd a phencerdd.

Fel ceidwadwr Gorseddol y byddwn yn meddwl amdano, ond ni lwyddais erioed i wybod beth oedd ei wir farn am yr honiadau a wneid y pryd hynny ynghylch hynafiaeth yr Orsedd. Yr oedd y ddadl yn boeth yr adeg honno a dadleniadau Syr John Morris-Jones yn gymharol newydd, eithr ni chlywais Eifionydd yn traethu barn ar y naill ochr na'r llall. Dywedais wrtho unwaith fod rhywbeth a welais yn eisteddfod Aberystwyth yn debyg iawn i angladd yr Orsedd, a chefais ateb pur chwyrn, fel yr oeddwn yn disgwyl. "Mi fydd yr Orsedd byw i'ch claddu chi, beth bynnag!" meddai. Y mae'n amheus gennyf a fuasai yn ddedwydd wedi newid yr hen drefn, neu'r hen anhrefn.

Eithr nid Gorseddwr nac englynwr na phregethwr oedd Eifionydd yn gyntaf oll ond golygydd Y Geninen, a gychwynnwyd ganddo ym mis Ionawr, 1883. Dyna oedd i Gymru gyfan. Mewn ffordd gul yn sir Frycheiniog lawer blwyddyn yn ôl cyfarfûm a gŵr wrth ei orchwyl yn trwsio'r gwrych. Aeth yn sgwrs rhyngom a gofynnodd o ba le yr oeddwn yn dyfod. "O Gaernarfon," meddwn innau. "O", meddai, "dyna lle y mae Eifionydd yn byw, yntê?" Tref Eifionydd oedd Caernarfon iddo ef ac i lawer un arall yng Nghymru'r adeg honno, y mae'n debyg. Fel golygydd yr oedd mewn gohebiaeth â rhywun ym mhob ardal bron. Ychydig o ddynion ieuainc yn dechrau cael blas ar lenydda ac wedi ennill ambell wobr am englyn neu draethawd mewn eisteddfod leol yn y cyfnod rhwng 1883 a 1914, dyweder, a fu heb gael llythyr oddi wrth Eifionydd, yn eu cyfarch fel "cymrawd llengar" ac yn gofyn iddynt dderbyn Y Geninen, sicrhau derbynwyr eraill, ac anfon cân neu englyn i'r Geninen Eisteddfodol.

Yr oedd enwadaeth yn uwch ei phen ac yn chwerwach yng Nghymru yn y blynyddoedd hynny nag ydyw heddiw. Gwyddai Eifionydd am y peryglon cystal â neb ond llywiodd ei long rhwng y creigiau a'r trobyllau hynny yn fedrus iawn. Yr oedd croeso i lueddwyr pob enwad ddweud eu barn—a'u rhagfarn—yn Y Geninen. Manteisiwyd ar y croeso yn helaeth, a dyna dudalennau diflasaf hen rifynnau'r cylchgrawn erbyn heddiw; y mae dyn ystyriol yn gwaredu wrth weled y fath wastraff ar ddoniau ac amser a phapur. Er hynny ni wyddai neb beth fyddai barn y golygydd ar faterion o'r fath; gofalu y byddai ef am gadw'r ddysgl yn wastad trwy adael i bob ochr gael Y Geninen yn faes i ffraeo arno, a chredai fod ffraeo o'r fath yn fantais i'r cylchgrawn. Nid oedd yn hawdd ei ddychryn, chwaith. Pan gyhoeddodd ysgrifau Siluriad yn 1885, ysgrifau chwerw, galluog a chyrhaeddgar iawn, bu cynnwrf mawr. Gwelais rai o'r llythyrau a dderbyniodd y golygydd y pryd hynny, llythyrau oddi wrth bobl led amlwg, yn bygwth peidio â derbyn Y Geninen ac yn tynnu eu haddewidion i ysgrifennu iddi yn ôl. Y mae'n amlwg fod y gwynt wedi codi'n uchel, eithr ni chynhyrfodd Eifionydd. Parhaodd i gyhoeddi'r ysgrifau ac y mae'n sicr y gwyddai yn ei galon y byddai'r storm yn fantais i'r Geninen ac iddo yntau yn y pen draw.

Credai hefyd mewn ysgrifau dienw. Bu ganddo lawer o rai felly o dro i dro, fel ysgrifau Siluriad ac eraill. Gwyddai fod cael pobl i geisio dyfalu pwy oedd yr awduron yn deffro diddordeb yn y cylchgrawn, ac yr oedd yn medru cadw cyfrinach fel y bedd. Ni thybiaf fod neb erioed wedi llwyddo i'w lithio i ollwng cath felly o'r cŵd. Gellir ymddiried bob amser mewn argraffwyr; y maent hwythau wedi hen arfer cadw cyfrinachau, a gwyddai Eifionydd hynny cystal â neb. Ond byddai yn copïo aml ysgrif nad oedd arno eisiau i neb wybod pwy oedd yr awdur â'i law ei hun cyn ei hanfon i'w chysodi, "rhag ofn i rywun diarth droi i mewn a busnesa," meddai. Pan ddeuai cyfrinach awduriaeth i'r amlwg-ac mi ddeuai yn lled aml yn y pen draw—yr awdur ei hun fyddai wedi dweud, yn ddieithriad. Yr oedd Eifionydd yn ddistaw, hyd yn oed pan fygythid cyfraith arno, fel y gwnaed ambell waith.

Cyhoeddodd amryw bethau y buasai unrhyw olygydd heddiw yn petruso yn hir iawn yn eu cylch, a rhai pethau y buasai'n well iddo beidio eu cyhoeddi. Soniais am ysgrifau Siluriad, sef y Parch. W. R. Jones (Goleufryn), a byddai yn werth troi i hen gyfrolau'r Geninen a darllen y rhai hynny unwaith eto. Newidiwyd a dofwyd tipyn ar y rhai a gyhoeddodd Alafon yn y gyfrol a olygodd o waith Goleufryn ar ôl ei farw, ac y mae'n rhaid darllen yr ysgrifau yn union fel y cyhoeddwyd hwynt y tro cyntaf i sylweddoli menter Eifionydd. Nid wyf yn meddwl y buasai un golygydd yng Nghymru yn mentro eu cyhoeddi heddiw, a bu helynt fawr yr adeg honno. Yr oedd hynny cyn fy amser i ac ni welais Eifionydd yn y dymestl, ond gwelais ef mewn rhai eraill diweddarach, ac yr oedd yn amhosibl dywedyd beth oedd ei wir deimlad. Cwta iawn fyddai ei air. "Mi eith peth fel hyn drosodd, mi eith peth fel hyn drosodd," meddai unwaith, a dyna'r cwbl. Nid oedd yn gwahodd ymholiad pellach, ac nid oedd Eifionydd yn ddyn yr âi neb yn hy arno—yn y bôn. Byddai rhai o'i gyfeillion yn tynnu ei goes, ond gwyddent hwythau pa bryd i beidio.

Yr oedd yn olygydd da; y mae hen gyfrolau'r Geninen yn ddarllenadwy ac yn werthfawr heddiw, a gwnaeth wasanaeth amhrisiadwy, nid i'w genhedlaeth ei hun yn unig ond i genedlaethau i ddyfod hefyd, trwy gasglu a diogelu'r wybodaeth am bersonau a geir yn rhifynnau Gwyl Ddewi'r Geninen ac yn yr ysgrifau personol yn y rhifynnau eraill, o ran hynny. Ni fodlonai ar ofyn—ac ail a thrydydd ofyn—i bobl am ysgrifau. Byddai yn pennu'r pwnc ac yn amlinellu'r driniaeth iddynt yn aml. Clywais Gwynn Jones yn dweud y byddai yn gwneud hynny gydag ef weithiau. Byddai ei feddwl ar rifyn nesaf Y Geninen o hyd. Pan ddeuai ar ei dro i swyddfa'r Genedl gofynnai am gael gweled pentwr o bapurau Cymraeg. Bûm yn gwylio'r oruchwyliaeth lawer gwaith. Byddai ganddo siswrn yn ei boced. Gwibiai trwy'r papurau yn gyflym ac yn ddistaw; torri darn yma ac acw, gan adael "gweddillion llenyddol" ar ei ôl, fel y byddai Robert Hughes, hen aelod o staff y Genedl, yn dweud. (Digrifwch na byddai Robert Hughes byth yn blino arno oedd hyn). Byddai'r darnau yn myned i boced ei drowsus, a byddai ganddo bentwr o englynion, enwau buddugwyr mewn eisteddfodau, a phroflenni yn gymysg yn y boced honno fel rheol. Byddai wedi ymadael mor sydyn ac mor swta ag y daeth i mewn, a byddai bron bob amser wedi cael hyd i englyn neu awgrym neu rywbeth arall ar gyfer Y Geninen nesaf. Credaf mai ychydig iawn o ddiddordeb a gymerai mewn dim arall yn ystod y cyfnod yr oeddwn yn ei adnabod. Yr oedd yn ddigon effro i gwrs y byd ac, yn enwedig, i gwrs bywyd Cymru, ond fel yr oedd y pethau hynny yn debyg o effeithio ar gynnwys neu ar werthiant Y Geninen yr oeddynt yn ddiddorol iddo ef.

Ni bûm erioed yn ei dŷ, ond clywais lawer o sôn am yr ystafell y byddai yn gweithio ac yn byw ynddi. Llwybr yn unig a oedd yn honno at fwrdd a thân; yr oedd y gweddill o'r llawr o dan deisi o bapurau newyddion, cylchgronau, copi i'r Geninen, proflenni a phethau o'r fath, crynhoad blynyddoedd, ac nid gwiw i neb eu cyffwrdd. Ychydig o gyfeillion oedd ganddo yng Nghaernarfon, ond yr oedd ganddo lawer iawn o gydnabod ar hyd a lled Cymru, a chlywais y byddai yn rhoi tro arnynt ar ei ffordd i eisteddfod. Byddai yn cychwyn i'r eisteddfod wythnos neu ragor ymlaen llaw ac yn gwneud y daith yn fath o wyliau bob blwyddyn,—ond gwyliau â'r Geninen ar y gorwel o hyd.

Bu farw yn 1922 a bu'n chwith amdano ar heolydd Caernarfon—y gŵr aflonydd a'r corff gweddol dal, tenau ac esgyrniog, y farf a'r gwallt wedi britho yn drwm ers blynyddoedd, y llygaid llwydlas yn llym braidd ar yr olwg gyntaf, y cyfarchiad yn gwta ac yn aml ar gynghanedd. "Nid oes un gyfathrach rhyngddo a'r adnod honno, 'Eich nerth yw aros yn llonydd", meddai Anthropos, ac ychwanegodd mai "rhywbryd yn y ganrif o'r blaen y ganed ef." Y mae'n debyg nad oedd y dyddiad i'w hysbysu. Beth bynnag am hynny, gŵr "y ganrif o'r blaen" oedd Eifionydd, cynnyrch ei dull o feddwl ac o fyw. Gwelodd ugain mlynedd cyntaf y ganrif newydd, ond ychydig o'i farn a draethodd arni hi a'i chyfnewidiadau. Onid oedd rhai o wŷr ieuainc y ganrif honno yn ysgrifennu i'r Geninen, a busnes golygydd oedd troi pob dŵr gwerth ei droi o'r ffrydiau newydd at felin ei gyhoeddiad. Dyna, y mae'n debyg oedd ei ymresymiad. Ar bethau fel hyn, fel ar lawer o bethau eraill, anodd oedd gwybod i sicrwydd beth oedd barn bersonol Eifionydd, er i chwi deimlo yn bur sicr fod ganddo farn.

"Y mae Eifionydd ei hun yn ŵr anrhydeddus," medd Anthropos yn yr ysgrif y cyfeiriwyd ati, "ac yn casáu pob culni a rhagfarn sydd yn anurddo llenyddiaeth ein gwlad." "Mi fydda i'n meddwl weithiau i fod o'n barod i aberthu peth hyd yn oed ar ei hunan-barch er mwyn Y Geninen," meddai'r Parch. William Hobley wrthyf wrth sôn amdano unwaith. Y mae gwir yn y ddwy farn, er na ddylid tybio iddo wneud dim dianrhydeddus fel golygydd. Yr oedd, fel y dywedais, yn barod i'w wneud ei hun yn blagus i rai er mwyn cael ganddynt ysgrifennu i'r Geninen. Y syniad cwbl anghywir am Eifionydd, a syniad a goleddid gan lawer, oedd mai dyn od a dim arall oedd, testun llinellau megis "gŵr nerfus o Gaernarfon," a gŵr y dywedid straeon digrif am ei lawysgrif a phethau felly. Rhan arwynebol o'i bersonoliaeth oedd y pethau od, er eu bod yn amlwg iawn ynddo. Y gwir am Eifionydd oedd ei fod yn ŵr pur alluog ac yn ŵr o ddynoliaeth gadarn. Nid aeth neb erioed yn hy arno yr eildro, ac yr oedd llawer o dynerwch a charedigrwydd yn ei natur, er bod ei ddull cwta yn eu cuddio rhag llawer. Dyn unig oedd ar lawer ystyr, ac yn y diwedd ymadawodd yn hollol fel ef ei hun, yn ddistŵr a heb fawr o siarad.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Beriah Gwynfe Evans
ar Wicipedia

BERIAH GWYNFE EVANS 1848-1927

YR oedd un o gyfarfodydd Evan Roberts yn sir Fôn, yn 1905, yn tynnu at y terfyn. Nos Sadwrn oedd hi, nos Sadwrn yn yr haf, ac yr oedd tyrfa fawr wedi dyfod at ei gilydd i'r maes lle cynhelid y cyfarfod. Yn eu plith yr oedd amryw o ohebwyr y papurau newyddion, Cymraeg a Saesneg, rhai ohonom wedi dilyn cyfarfodydd y diwygiad yn Lerpwl a Môn, ac ambell un, fel Gwilym Hughes, a gynrychiolai'r South Wales Daily News, wedi bod mewn amryw o'r cyfarfodydd yn y De hefyd.

Trodd un o'r gohebwyr ataf, dyn byr, yn gwisgo côt lwyd laes, côt "dau fotwm tu ôl" fel y gelwid hi mewn rhai ardaloedd, a het feddal, ddu. Yr oedd ganddo gadwyn aur ar draws ei frest a chaib fechan o aur yn crogi wrthi. Yr oeddwn wedi sylwi ei fod braidd yn hŷn na'r rhan fwyaf ohonom ni ohebwyr, a hefyd ei fod yn sgrifennu llawer iawn. Yr oedd Gwilym Hughes yn weithiwr eithriadol o galed bob amser, ond yr oedd y gŵr hwn yn gweithio llawn cyn galeted ag yntau. Sylwais hefyd ei fod yn sgrifennu'r cwbl gyda phensel blwm a honno wedi ei gwisgo a chôt o rwber trwchus nes ei gwneud gymaint deirgwaith o ffyrf. Ychydig a siaradai â neb ond yr oedd yn craffu ar y gynulleidfa ac yn rhoddi argraff arnoch ei fod yn gweled ac yn sylwi ar bob peth.

Y diwrnod hwnnw trodd ataf; yr oeddwn yn eistedd yn ei ymyl, ac os wyf yn cofio yn iawn, yr oedd gennym fwrdd o'n blaen. "Beriah Evans ydw i," meddai, mewn llais dipyn yn galed, "ac 'rwy'n deall y byddwch chi yma yfory. Y mae'n rhaid i mi fynd adref i Gaernarfon yn awr. A wnewch chi anfon adroddiadau yn fy lle i, ac mi rannwn yr ysbail?"

BERIAH GWYNFE EVANS

Yr oedd yn ddigon da gan fachgen yn dechrau ar ei yrfa ym myd y papurau newydd gael ysbail; heblaw hynny, yr oedd yn dipyn o anrhydedd cael bod yn ddirprwy i Beriah Evans, newyddiadurwr mwyaf adnabyddus Cymru ar y pryd, y mae'n debyg. Cytunais ar unwaith, ond nid oeddwn yn gwybod y pryd hynny â pha beth yr oeddwn yn cytuno. Dechreuodd Beriah Evans ddweud wrthyf, a gwelais er fy mraw ei fod yn anfon adroddiadau gwahanol i bedwar papur, adroddiadau byr, y mae'n wir, ond gwahanol serch hynny. Nid peth hawdd iawn ydyw gwneud adroddiadau gwahanol, diddorol a chywir, am yr un peth, ac yr oedd yn rhaid i'r cwbl fod yn barod i'w rhoddi yn llaw bachgen y teligraff fel y byddai'r cyfarfod yn gorffen. Heblaw hynny, yr oedd yn rhaid arnaf wneud adroddiad hefyd i'm papur fy hun.

Y ffordd orau i feithrin bachgen yng ngwaith papur newydd ydyw ei daflu i'w ganol, i nofio neu suddo. Rywfodd neu'i gilydd, deuthum trwy'r Sul hwnnw. Gwnaed y gwahanol adroddiadau ac yr oedd pob un yn ei bapur ei hun drannoeth, er mawr foddhad i mi. Daeth Beriah Evans yn ei ôl ddydd Llun, os wyf yn cofio'n iawn, ond nid dyna'r tro olaf i mi weithredu ar ei ran ar y Sul, gan "rannu'r ysbail" yn gyfartal rhyngom bob tro. Yr oedd yn brofiad da ac yn sylfaen cyfeillgarwch â Beriah Evans a barhaodd hyd ddiwedd ei oes.

Ni allech fod bum munud yn ei gwmni heb ddarganfod mai gŵr o'r Deheudir ydoedd; yr oedd hynny yn amlwg ar ei leferydd ac yn amlycach na hynny yn ei agwedd. A chyn pen ychydig byddech yn gwybod hefyd mai Annibynnwr oedd; yr oedd yn ddiacon yn eglwys Pendref, Caernarfon, a galwad Pendref arno a barai ei fod yn gadael cyrddau Evan Roberts dros y Sul. Yr oedd yn Annibynnwr o'r Annibynwyr. Lliwiai hynny ei farn ar lawer o bethau a allai ymddangos i rai o honom yn ddigon diberthynas a'r pwnc canolog.

Yn Nant y Glo, yn Sir Fynwy, y ganed Beriah Evans, yn 1848. Dechreuodd ei yrfa fel athro ysgol, a bu yn brifathro ysgol yng Ngwynfe, Sir Gaerfyrddin. Oddi yno y cymerodd ei enw canol. Yng nghyfnod Sir Gaerfyrddin y dechreuodd ddyfod yn adnabyddus; yr oedd ynni diderfyn a mynd diorffwys ynddo bob amser, hyd yn oed wedi iddo fyned yn hen ŵr ac ar waethaf iechyd digon symol, ac y mae'n rhaid ei fod yn ffrwydrol bron pan oedd yn ddyn ieuanc. Trodd yr ynni hwnnw i lawer cyfeiriad yn 1880 sefydlodd a golygodd Cyfaill yr Aelwyd, cylchgrawn misol a fu'n bur boblogaidd am gyfnod, ac y mae ôl egni a menter ac ysbryd arloesi y golygydd yn amlwg ar y cyfrolau a fu dan ei ofal.

Ar un cyfnod llyncodd syniadau am wella llythyraeth yr iaith Gymraeg, defnyddio v yn lle f, a phethau felly, gan wneud ei gylchgrawn yn anodd ac yn annifyr ei ddarllen, i mi, beth bynnag. Yr oedd darlun ohono ef ei hun uwchben colofn y gohebwyr; a barnu oddi wrth hwnnw, yr oedd y tebygrwydd i newyddiadurwr enwog arall, W. T. Stead, a oedd ynddo yn ei flynyddoedd diwethaf, yno yn gynnar hefyd. Yr oedd llun pen y ddau yn debyg, gwisgent farf o'r un ffurf, ac yr oedd yr olwg bell, freuddwydiol braidd oedd yn llygaid Beriah yn y lluniau cynnar i'w weled hefyd yn llygaid Stead. Ac yr oedd llawer o bethau eraill yn debyg, yn eu meddwl yn ogystal ag yn eu hymddangosiad.

Nid dyma'r lle i olrhain holl weithredoedd Beriah yn y cyfnod yma; ysgrifennodd storïau a dramâu, ac ym myd y ddrama yn enwedig bu yn gryn lawer o arloesydd. Yn eisteddfod Llanberis yn 1877 cynigiwyd gwobr am ddrama Gymraeg ar Owain Glyn Dŵr, "yn null Shakespeare," yr oedd y pwyllgor yn uchelgeisiol,—a Beriah Evans a orfu. Cyhoeddwyd y ddrama, ac er nad oes ynddi lawer o bethau sydd yn peri i ddyn feddwl am Shakespeare, y mae'n debyg, cystal â dim a gafwyd ar lun drama yn Gymraeg cyn hynny, er dyddiau Twm o'r Nant. Erbyn hyn yr oedd Beriah yn lled adnabyddus, cymerodd ran amlwg ynglŷn â'r mudiad o blaid dysgu'r iaith Gymraeg yn yr ysgolion, ac yr oedd yn gohebu i rai o'r papurau newyddion ers tro.

Y diwedd fu rhoddi'r gorau i'r ysgol a mynd i Gaerdydd ar staff y South Wales Daily News, a newyddiadurwr a fu Beriah Evans o hynny hyd y diwedd. Dywedodd rhywun na all gweinidog byth ymddihatru oddi wrth ddull ei swydd, i ba waith bynnag arall yr a; "Once a Parc, always a Parc," oedd dull y brawd hwnnw, Sais, o osod y gwirionedd, os gwirionedd hefyd. Beth bynnag am weinidogion, credaf fod y peth yn wir am athrawon; erys dull yr ysgolfeistr gyda llawer ohonynt ar hyd eu hoes beth bynnag a fônt, ac yr oedd hynny yn hollol wir am Beriah. Hyd yn oed pe na buasech yn gwybod dim o'i hanes, buasech yn deall yn fuan iawn mai â hen ysgolfeistr yr oeddych yn siarad, nid am fod dim yn annymunol yn ei ddull ond am fod y pendantrwydd a'r dinc braidd yn awdurdodol yn y llais yn hawdd eu hadnabod. Y mae'r peth i'w weled yn eglur iawn yn ei "Gyfarwyddiadau" ynglŷn â'i ddrama ysgrythurol, "Esther," er enghraifft.

Daeth i fod yn olygydd cynorthwyol y South Wales Daily News yn lled gynnar. Yr oedd erbyn hyn yn weddol adnabyddus mewn rhai cylchoedd yng Nghymru, yn ddigon adnabyddus, beth bynnag, i Lloyd George feddwl amdano pan oedd eisiau golygydd a rheolwr i bapurau'r Genedl Gymreig yng Nghaernarfon. Cychwynnwyd y papurau hynny yn 1877 a bu mwy nag un tro ar fyd arnynt cyn ffurfio cwmni newydd yn 1891, cwmni yr oedd amryw o aelodau Seneddol Rhyddfrydol Cymru yn hyrwyddo ei lansio, a Lloyd George yn ôl pob tebyg yn brif symbylydd iddo. Gwyddai Lloyd George yn dda beth oedd gwerth y wasg, yn enwedig gwasg yng nghanol yr etholaeth yr oedd newydd gael ei ethol i'w chynrychioli, iddo ef; yr oedd ers tro yn ysgrifennu yn achlysurol i'r North Wales Express ac i'r Genedl, ac yn awr, ar drothwy ei yrfa Seneddol, penderfynodd gael at ei alwad bapurau y gallai ddibynnu ar eu cefnogaeth bob amser.

Ni wn pa faint o ddiddordeb ariannol oedd ganddo yn y fenter; y mae'n anodd meddwl fod ganddo lawer, canys dechrau yr oedd ar ei yrfa fel cyfreithiwr a gwleidydd, a gellir casglu oddiwrth y pethau a ddigwyddodd ymhellach ymlaen nad oedd gan y cwmni newydd lawn digon o gyfalaf i gyfarfod â chynlluniau eang Beriah Evans a'r Cyfarwyddwyr. Ond gwyddai Lloyd George yn dda beth oedd gwerth golygydd profiadol ac egnïol; bu amryw yn golygu'r Genedl cyn hyn, yn eu plith W. J. Parry, Bethesda, gŵr pur dalentog ar lawer ystyr, ond gŵr nad oedd ganddo unrhyw brofiad newyddiadurol na dawn lenyddol. Yr oedd ar Lloyd George eisiau'r golygydd gorau y medrai ei gael; edrychodd o'i gwmpas; efallai iddo ymgynghori â Tom Ellis, y bu iddo beth cysylltiad â'r South Wales Daily News, a'r diwedd fu gwahodd Beriah Evans i ddyfod i Gaernarfon fel golygydd a rheolwr holl fusnes y swyddfa. Dechreuodd Beriah ar ei waith yng Nghaernarfon yn mis Ionawr, 1892. Ymadawodd o swyddfa'r Genedl ddiwedd 1894.

Tair blynedd-tymor byr, ond tymor a adawodd ei ôl ar y swyddfa yn hir ac ar fywyd Cymru i raddau hefyd. Ymhen mwy nag un mlynedd ar ddeg ar ôl teyrnasiad Beriah Evans yr oeddwn yn dechrau ar fy ngwaith yn hen swyddfa'r Genedl, y swyddfa y dywedodd Powyson amdani pan aeth ef yno gyntaf tuag 1879 fod "chwain fel crocodeils yn cyfarth arnoch chi pan fyddech chi'n mynd trwy'r drws." Dychymyg rhamantus Powyson oedd yn gyfrifol am y darlun hwnnw; ni welais i gymaint â chwilen ddu na llygoden yno, er bod yno ddigon o lwch a chasgliad blynyddoedd o bapurau a llawysgrifau mewn rhai mannau yr adeg honno. Yr oedd y traddodiad am reolaeth Beriah Evans yn gryf yno y pryd hynny, a chlywais lawer stori amdano ef a'i egni. Ymhen amser gwelais lawer o'r llythyrau a ysgrifennodd fel golygydd a rheolwr, ac wrth eu darllen y mae'n amhosibl peidio ag edmygu ei ynni a'i ddawn a'i ddewrder. Bu arno angen hynny o ddewrder a oedd ganddo gyda hyn.

Y mae'n amlwg oddi wrth yr hanesion a glywais fod tipyn o'r ysgolfeistr ynddo yn y swyddfa. Ar ddechrau ei dymor yno galwodd y staff at ei gilydd, yn olygyddion, clarcod ac argraffwyr, a dywedodd fod arno eisiau gwneud y swyddfa yn un y byddai pobl yn dyheu am gael dyfod iddi i weithio. "Swyddfa'r dyheu" oedd yr enw arni mwyach ymhlith yr argraffwyr, pobl lled anghrediniol eu hagwedd, fel rheol, at gynlluniau blodeuog iawn. Ymhen tipyn, pan sefydlwyd argraffiad De Cymru o'r Genedl a chael nifer o ohebwyr o'r dalaith honno, newidiwyd yr enw yn "Swyddfa'r Dehau". Yr argraff a adawyd ar fy meddwl wrth wrando ar y rhai oedd yn cofio'r oruchwyliaeth oedd fod Beriah Evans, gyda'i holl ddoniau, yn amddifad o'r ddawn i ennyn yn eraill y brwdfrydedd a oedd ynddo ef ei hun. Nid oedd, fel Lloyd George, yn medru mynd â chwi gydag ef a pheri i chwi deimlo mai chwi oedd y prif symbylydd. Nid oedd amheuaeth am ei allu, ond casglwn nad oedd ei frwdfrydedd a'i ynni yn heintus. Dyna ei fan gwan. Teimlais hynny fy hun lawer gwaith pan ddeuthum i'w adnabod; yr oedd y cyffyrddiad hwnnw o'r ysgolfeistr yn ei ddull yn eich pellhau ac weithiau yn codi eich gwrychyn hefyd.

Fel golygydd yr oedd yn fedrus iawn ac yn egnïol iawn, yn enwedig ynglŷn â gwleidyddiaeth. Ymladdodd fel llew dros Lloyd George yn etholiad 1892, pan ddaeth y diweddar Syr John Puleston, ewythr frawd ei fam i'r Parch. Ddr. Puleston Jones, i'w erbyn. Ysgrifennodd Beriah gymaint y pryd hynny nes cael cramp yn ei law a bu yn analluog i'w defnyddio am gyfnod. Dyna a barodd iddo roddi'r beipen rwber ffyrf am bob pensel a ddefnyddiai wedyn. Digiodd Syr John Puleston yn enbyd wrtho; dywedodd na siaradai ag ef byth mwy, ond y mae'n anodd gwybod pa le oedd ganddo ef i gwyno. Ni allai ddisgwyl dim ond gwrthwynebiad oddi wrth bapurau Rhyddfrydol, ond efallai nad oedd wedi disgwyl gwrthwynebiad mor bendant ac mor alluog. Yr oedd y Toriaid wedi gobeithio y buasent yn ennill y Bwrdeisdrefi y tro hwnnw a bu gan Beriah Evans ran fawr a phwysig yn y gwaith o siomi eu gobeithion.

Perthynas dyn hŷn â dyn iau oedd ei berthynas â Lloyd George yn y dyddiau hynny. Yr oedd Beriah Evans yn bedair a deugain oed yn 1892 a Lloyd George yn naw ar hugain, ac erbyn hyn, os na chofir hynny, y mae'n rhyfedd darllen ei lythyrau awdurdodol at yr aelod Seneddol ieuanc. Gorchmynnai iddo sgrifennu nodion Seneddol i'r Genedl a dywedai'r drefn os na byddent yn dyfod yn eu pryd; mynnai iddo bwyso ar eraill, megis Tom Ellis a Mabon, i ysgrifennu, a rhybuddiai ef fod rhai pobl yn ei etholaeth yn anfodlon ar ei ddistawrwydd a'i ddiffyg ynni—cyhuddiadau annisgwyl braidd yn erbyn Lloyd George. Ni welais yr un o lythyrau Lloyd George ato ef, ond y mae'n debyg nad oedd llawer ohonynt. Nid oedd Lloyd George yn hoffi ysgrifennu llythyrau; galwodd Dr. Thomas Charles Williams ef "y dyn mwyaf anllythrennog yng Nghymru"! Ysgrifennai Beriah Evans at wleidyddion eraill; gwelais lythyr oddi wrtho yn llongyfarch Tom Ellis ar ei benodiad yn Ail-Chwip ond yn dywedyd yn blaen y dylasai fod wedi cael lle yn y Cabinet gan fod addewid y dygid Mesur Datgysylltiad i'r Senedd, ac yn ychwanegu nad oedd o lawer mor hyderus â Tom Ellis a'i gyd-aelodau ynghylch bwriadau'r Llywodraeth ynglŷn â Chymru.

Gwnaeth y golygydd y papurau yn rym gwleidyddol am ysbaid; bu ei ysgrifau, "Dafydd Dafis," yn lled boblogaidd, ond clywais fod gwleidyddion ac aelodau Seneddol yn cael mwy o flas arnynt na gwerin gwlad; tueddai Beriah, efallai, i feddwl fod y werin yn cymryd mwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth a gwleidyddion nag a wnâi; ymhen blynyddoedd arferai un o berchenogion Y Genedl daeru fod cael pris yr ymenyn ym marchnad Caernarfon yn gywir yn y papur yn bwysicach o lawer na'r ysgrif arweiniol orau. Y mae'n amlwg oddi wrth y llythyrau a ysgrifennai ei fod yn gweithio yn galed iawn yn y blynyddoedd hynny, ac y mae'n amhosibl peidio â pharchu dyn sydd yn gweithio'n galed. Ond yr oedd, mewn gwirionedd, mewn safle amhosibl, a daeth hynny i'r amlwg yn bur fuan.

A siarad yn gyffredinol, camgymeriad ydyw disgwyl i ddyn gyfuno'r ddwy swydd o olygydd papur newydd a rheolwr yr ochr fasnachol i'r papur. Y mae angen cymwysterau gwahanol at y naill waith a'r llall, ac nid bob amser y ceir y cyfuniad hwnnw yn yr un dyn. Nid wyf yn meddwl ei fod yn Beriah Evans. Yr oedd yn olygydd da; yr oedd yn rheolwr busnes egnïol iawn, ond nid oedd cystal ar yr ochr honno yn ôl yr hanes a glywais, ac yr oedd ganddo gyfrifoldeb masnachol mawr yn y swyddfa, gofal am yr hysbysiadau, na all yr un papur newydd fyw hebddynt, am y cylchrediad, am y gwaith argraffu a'r holl gant a mil o fanylion y mae yn rhaid eu gwylio mewn swyddfa os am gadw y tu clytaf i'r clawdd. Y gŵr a fu yn rheoli yn swyddfa'r Genedl o flaen Beriah Evans oedd David Edwards, a fu wedi hynny yn rheolwr y Daily News yn Llundain. Nid oedd David Edwards yn meddu dawn Beriah Evans fel newyddiadurwr, ond yr oedd yn ddyn busnes da ac yn gwylio pob ceiniog a werid gyda llygad barcud. Yr oedd traddodiad yn swyddfa'r Genedl yn fy amser i mai "It must be done, notwithstanding the cost," oedd arwyddair Beriah Evans. Yn hynny yr oedd ef a David Edwards yn yr eithafion i'w gilydd.

Beth bynnag am hynny, brwydr ag amgylchiadau a fu ei dymor yn Y Genedl. Fel y dywedwyd, y mae'n bosibl i'r cwmni newydd gychwyn gyda rhy ychydig o gyfalaf ar gyfer yr holl ymgymeriadau; tuedd gwleidyddion sydd yn awyddus am sicrhau cefnogaeth papur newydd ydyw edrych yn unig ar hynny ac anwybyddu neu anghofio am y mil a mwy o bethau eraill y mae yn rhaid eu cael, ac efallai fod Lloyd George wedi gwneud hynny. Ni wyddai ddim, y mae'n sicr, am ochr dechnegol cyhoeddi papur. Cwynai'r cyfarwyddwyr nad oedd yr aelodau Seneddol a oedd wedi symbylu'r mudiad ar y cychwyn yn rhoddi'r gefnogaeth ariannol y gobeithid ei chael, ond y mae'n ddigon posibl fod y cyfarwyddwyr, a oedd o dan y baich, a'r aelodau Seneddol yn edrych ar bethau o gyfeiriadau gwahanol. Ymladdodd Beriah Evans yn ddewr a diflino i gadw'r llong i nofio; y mae ei ymdrech yn atgofio dyn am hanes ymdrech Moberly Bell gyda'r Times.

Y diwedd fu iddo ymddiswyddo. Honnid mewn un lle mai am resymau enwadol y gwnaeth hynny; mewn geiriau eraill, fod rhagfarn enwadol yn ei erbyn wedi gwneud ei le yn anghysurus. Ond dywedodd ef ei hun na bu hynny yn elfen o gwbl yn ei berthynas â bwrdd y cyfarwyddwyr. Yn ôl a glywais i gan rai a fu yn cydweithio ag ef yn swyddfa'r Genedl, ar yr ochr fasnachol ac ar yr ochr olygyddol, y safle ariannol anodd oedd y rheswm, ac i'r sawl a ŵyr am beth felly nid yw'n rhyfedd yn y byd fod Beriah Evans wedi blino ar yr ymdrech ac yn falch o gael ei draed yn rhydd. Bu papurau'r Genedl yn eiddo i fwy nag un cwmni arall ar ôl ei amser ef, a daeth adeg pan fyddai yntau yn ysgrifennu cryn lawer iddynt.

Bu'n Ysgrifennydd Cymru Fydd wedi gadael Y Genedl, ond ni ddaeth llawer o hynny. Fel newyddiadurwr y gwnaeth ei waith mwyaf, ac yn y cymeriad hwnnw yr oeddwn yn ei adnabod. Ysgrifennai i lu o bapurau ac yr oedd yn awdur amryw lyfrau. Bu cyffro go fawr ynghylch ei lyfr, Diwygwyr Cymru; ceisiais ddarllen y gyfrol honno er mwyn rhoddi barn ar yr helynt, ond methais yn lân. Nid oedd Beriah Evans yn hanesydd da. Nid yw Dafydd Dafis yn llyfr difyr i'w ddarllen erbyn hyn, chwaith; y mae'r brwydrau gwleidyddol a oedd mor bwysig pan ysgrifennwyd ef yn hollol farw a diystyr weithian, ond y mae'n rhaid darllen y llyfr hwnnw i gael syniad am wleidyddiaeth Cymru tua diwedd y ganrif, pan oedd Tom Ellis a Lloyd George yn arwain.

Ei lyfr gorau ydyw ei gyfrol Saesneg, The Life Romance of Lloyd George; nid oedd gyrfa Lloyd George wedi dyfod i ben o gryn lawer y pryd hynny, ond yr oedd Beriah Evans yn gwybod yn dda am y dechreuad ac wedi bod ynglŷn â llawer o'r pethau a'r mudiadau a ddisgrifid ganddo.

Gweithiodd bob amser yn ddiflino a gweithiodd hyd y diwedd. Bûm lawer gwaith yn yr ystafell fechan ym Mhen y Bryn y byddai yn gweithio ynddi. Yr oedd yno lwythi o bapurau newydd ac o lyfrau y byddai arno eisiau ymgynghori â hwynt. Ni welais ganddo dân yno erioed, hyd yn oed yn nhrymder gaeaf; pan fyddai'r hin yn oer gwisgai diped ffwr dros ei ysgwydd a chadwai ei draed mewn bocs wedi ei leinio â phapurau,—syniad rhagorol. Ofer fyddai chwilio amdano yn y prynhawn; ar hyd y blynyddoedd byddai yn myned i orffwys ar ôl cinio. Priodolai ef ei allu i weithio am oriau meithion, hyd yn oed ar ôl iddo fyned yn hen ŵr, i'r arfer hon. Y mae'n ddigon posibl ei fod yn iawn; yr oedd ei allu i weithio yn rhyfeddol.

Ysgrifennai yn gyflym ac yn ddestlus, ac ysgrifennai ar lawer iawn o bethau i lawer iawn o bapurau a chyhoeddiadau. Yn y byd newyddiadurol y mae traddodiad am is-olygydd a fu yn gweithio mewn gwahanol swyddfeydd o Inverness i Truro ac a welodd gopi Beriah ymhob un, ond rhan o'r apocryffa newyddiadurol ydyw'r stori honno, er ei bod yn dangos y fath syniad a oedd amdano. Taerai ef ei hun weithiau fod y newyddiadurwr fel bargyfreithiwr, ac y dylai ddadlau ar yr ochr y gelwid arno i ddadlau arni. Twyll ymresymiad oedd hynny, yn fy marn i, a chredaf mai mewn ysmaldod y byddai yntau yn ei defnyddio. Yr oedd ganddo argyhoeddiad cryf ar rai pethau. Ei brif wendid fel newyddiadurwr oedd bod yn rhy amleiriog a'i duedd i wneud melin a phandy o bethau digon dibwys weithiau.

Ar ddiwedd ei oes bu yn golygu'r Tyst, papur wythnosol yr Annibynwyr, ac yn Gofiadur yr Orsedd wedi marw Eifionydd. Tybiwn weithiau ei fod yn credu yn hynafiaeth yr Orsedd; galwai hi yn "Brifysgol y Werin." Gwnaeth lawer i ddiwygio ei threfniadau a'i seremonïau, ond ni chafodd ddigon o amser i wneud cymaint o'i ôl arni ag a adawsai pe buasai wedi cael ei gyfle ynghynt. Fel golygydd Y Tyst dangosodd lawer o'i hen ynni a'r hen annibyniaeth nodweddiadol; cychwynodd atodlen lenyddol ac yr oedd ganddo gyfoeth o fwriadau a syniadau, fel arfer, ond digiodd rhai wrtho am feirniadu rhai personau a threfniadau. Nid wyf yn credu fod hynny yn effeithio fawr arno ef. Unwaith, pan oeddwn yn golygu'r Genedl, digwyddais ddweud wrtho y byddwn weithiau yn amau fy marn fy hun. "Y mae'n rhaid i chwi beidio gwneud hynny yn y gadair yna," meddai yn ei ddull pendant. "Y mae'n rhaid i olygydd fod yn sicr yn ei feddwl ei hun." Ni welais i yr un arwydd erioed nad oedd ef felly. Ni thybiaf iddo fod yn boblogaidd ar unrhyw adeg; ychydig o swyn oedd yn ei ddull. Ond nid oedd amheuaeth am ei allu a'i ynni, ac yr oedd yn amhosibl peidio â pharchu ei ddiwydrwydd mawr. Ni bu erioed yn gryf ei iechyd, ond yr oedd yn feistr didostur arno ei hun ac ni pheidiai â gweithio hyd yn oed pan fyddai yn wael a churiedig iawn.

Nid oes iddo le ymhlith llenorion Cymru; nid yw hyd yn oed ei ddramâu yn debyg o fyw. Dramâu hanesyddol ydynt, ac yn fy marn i yr oedd eu hawdur yn gwbl amddifad o'r synnwyr hanesyddol. Prin iawn oedd ei gydymdeimlad â mudiadau llenyddol newydd ei gyfnod diweddaraf ef; y mae'n amheus gennyf a drafferthai i ddarllen gwaith pobl fel Gwynn Jones a W. J. Gruffydd. Ychydig a wyddai am yr hen lenyddiaeth Gymraeg, ac yr oedd yn anodd gwybod beth oedd cylch ei ddarllen. Digwyddiadau'r dydd oedd ei bethau ef, a'i gefndir oedd bywyd y De pan oedd yn ddyn ieuanc. Y mae iddo ei le diogel yn hanes newyddiaduraeth Cymru, a'i le hefyd yng nghof y bobl oedd yn ei adnabod, canys yr oedd yn bersonoliaeth. Ond faint a gofir amdano pan fyddwn ni, y bobl sydd yn ei gofio, wedi mynd?

Nodiadau

[golygu]
  1. Wrth gyflwyno Lloyd George am radd anrhydedd yn 1908 dywedodd Morris-Jones: "Fe syll Cymru ar ei esgyniad yn llawen, nid yn drist. Nid yw ef yn llai iddi hi am ei fod yn fwy i'r ymerodraeth. Y mae Cymru hefyd yn rhan o'r ymerodraeth, ac wedi gwneuthur ei rhan i'w saernio. Ni chyll Cymru mo'i hanes ef; fe'i trysorir ganddi fel aur, ac fe erys yn galondid ac yn ysbrydoliaeth i'w meibion dros byth. Os swynodd ef y Saeson â chyfaredd ei lais arian, nid anghofiodd iaith ei fam, yr iaith y dysgodd lefaru ynddi, ar ei enau mor ddilediaith ag erioed y mae 'sain y ber heniaith sy yn y bryniau'. Os rhoddes Prydain ei gwobrau iddo, a'i thrysor dan ei ofal, ni ddwg neb mo'i galon oddiar Gymru, ac ni phaid hithau â llawenychu ynddo ef".

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.