Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I (testun cyfansawdd)
| ← | Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I (testun cyfansawdd) gan Edward Morgan Humphreys |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I |

GWYR ENWOG GYNT
GWYR ENWOG GYNT
ARGRAFFIADAU AC ATGOFION PERSONOL
GAN
E. MORGAN HUMPHREYS
Y CLWB LLYFRAU Cymraeg
1950
Argraffiad Cyntaf-Gorffennaf, 1950
ARGRAFFWYD GAN J. D. LEWIS A'I FEIBION, CYF.,
GWASG GOMER, LLANDYSUL
CYNNWYS
RHAGAIR
Y MAE arnaf ddyled i ddiolch am ganiatâd i ddyfynnu neu am wybodaeth a dyddiadau i Archddiacon Wisbech (yr Hybarch Seiriol J. A. Evans); Mr. Lewis Noel Vincent Evans; Syr Ifan ap Owen Edwards; Mrs. R. W. Williams, Penygroes (am ganiatâd i ddyfynnu o ysgrif ei thad, y diweddar Mr. Evan Evans, Mynydd Llandegai, ar W. H. Williams); a'r Parch. W. A. Lewis, Lerpwl. Cyhoeddwyd yr ysgrifau ar John Bryn Roberts a Thomas Gwynn Jones yn Y Llenor, a diolchaf i'r golygyddion am ganiatâd i'w cynnwys yn y gyfrol hon. Darlledwyd rhannau o'r ysgrif ar Bryn Roberts a diolchaf i'r B.B.C. am ganiatâd i'w hail gyhoeddi. Ymddangosodd rhai o'r pethau yn yr erthygl ar Arglwydd Lloyd George mewn ysgrifau o'm heiddo yn y Liverpool Daily Post, a diolchaf i'r golygydd am ei ganiatâd i'w defnyddio.
Ynglŷn a'r darluniau, diolchaf i Mr. J. L. C. Cecil-Williams, Ysgrifennydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, am ganiatâd i ddefnyddio darluniau Syr Ellis Griffith a Syr Vincent Evans, allan o "Drafodion" y Gymdeithas; i Mrs. Gwynn Jones a Mr. Arthur ap Gwynn am ddarlun Dr. T. Gwynn Jones, i Lady Bowen Thomas am ddarlun John Arthur Price, a dynnwyd ger eglwys Llanfair ar y Bryn; i Mrs. Hilton Jones am ddarlun Robert Bryan; i Mr. A. Stanley Davies am ddarlun y Barnwr Bryn Roberts; i Mr. J. Merfyn Williams am ganiatâd i ddefnyddio darlun y Dr. John Williams; i swyddogion Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru am eu cymorth parod gyda darlun W. H. Williams ac i Mr. E. C. Pound, Caernarfon, am adgynhyrchu'r darlun hwnnw; ac i Mr. E. C. Pound am ei ganiatâd caredig i ddefnyddio ei ddarlun hawlfraint o Arglwydd Lloyd George. Y mae arnaf ddyled i ddiolch i'r Cyhoeddwyr hefyd am bob hwylustod.
E.M.H.

IARLL LLOYD GEORGE O DDWYFOR, 1863-1945
ERBYN heddiw prin y gall neb o dan ddeugain oed amgyffred y safle a fu gan David Lloyd George yng Nghymru am gyfnod maith. Cyfnod y colli dylanwad a'r heneiddio a welodd pob un nad yw ei gof am bethau a gwŷr cyhoeddus yn myned yn ôl ymhellach na 1922. Ymddiswyddodd Lloyd George fel Prif Weinidog flwyddyn cyn cyrraedd ei drigain oed, ni fu mewn swydd wedyn ac ni chafodd afael ar ei hen ddylanwad nac ar y naill na'r llall o'r ddau fath o boblogrwydd a fu'n eiddo iddo,—poblogrwydd fel arweinydd eofn plaid a phoblogrwydd arall fel arweinydd gwlad gyfan mewn cyfwng mawr yn ei hanes. Ni ellir dywedyd fod ganddo blaid ar ôl 1922; collodd llawer o aelodau ei hen blaid eu hymddiried ynddo, ni bu'r Toriaid erioed yn ymddiried ynddo ond fel arweinydd yn amser rhyfel, a chododd to newydd erbyn hynny na wyddai ond y nesaf peth i ddim amdano yn nyddiau ei rym.
Ac am ysbaid collodd yntau rywbeth a'i nodweddai gynt; daeth tinc cwynfannus i'w areithiau a mwy nag awgrym fod pawb yn cyfeiliorni ac wedi cyfeiliorni ond ef. Bu dan bwysau gwaith a chyfrifoldeb a fuasai wedi llethu dynion cyffredin, am flynyddoedd lawer, a gresyn oedd iddo beidio dilyn cyngor Garvin iddo ar ddiwedd y rhyfel, sef ymneilltuo i orffwys ar awr anterth ei ddylanwad a'i boblogrwydd, i ddychwel pan welai'r wlad ei angen drachefn. Eithr y mae'n sicr na buasai hynny yn gyson a'i anian ef; daliodd ati, a bu yn rhaid iddo yntau wynebu yr un peth ag a ddaeth i ran Mr. Winston Churchill ar ddiwedd yr ail ryfel mawr, gyda hyn o wahaniaeth pwysig—yr oedd gan Mr. Churchill blaid gyfan wrth ei gefn ond yr oedd Lloyd George wedi malurio y blaid hanesyddol a allasai fod yn gefn iddo ef y pryd hynny.
Etholiad 1918 oedd ei gamgymeriad mawr. Ni wnaeth gŵr craff a chyfrwys erioed un mwy.
Yn lled fuan wedyn dechreuodd y blynyddoedd wneud eu ôl arno. I ni a oedd yn cofio'r amser gynt yr oedd llawer o'r hen swyn yn aros yn yr areithiau a draddodai yn yr eisteddfod genedlaethol yn y blynyddoedd diwethaf y byddai yn dyfod iddi, ond sylwais fod y bobl ieuanc yn methu deall pa le yr oedd cuddiad ei gryfder na pha beth a oedd yn cyfrif am ei glod mawr fel areithiwr. Yr eisteddfod olaf y bu ynddi oedd un Aberteifi, yn 1942; i mi, y diwrnod hwnnw, yr oedd peth o'r hen swyn yn aros o hyd yn ei araith, er ei fod yn siarad yn araf ac yn betrus iawn, ond sylweddolais wrth wrando ar eraill wedyn mai yfed o win y gorffennol yr oeddwn innau, i raddau, beth bynnag. Cofiais am yr hen stori. "Chlywsoch chi mo John Elias erioed," meddai William Roberts, Amlwch, wrth ei fab yng nghyfraith, Owen Thomas. "Clywed John Elias!" meddai Owen Thomas mewn syndod. "Do, debyg iawn, ugeiniau o weithiau." "Na," meddai William Roberts, "chlywsoch chi erioed mo John Elias. Mr. Elias glywsoch chị."
Gallem ninnau, a oedd yn cofio pethau gwahanol iawn, ddywedyd wrth y rhai na chlywsant Lloyd George ond ym mlynyddoedd olaf ei oes, "Ni chlywsoch chwi erioed y Lloyd George yr ydym ni yn son amdano." Aethai'r awr anterth heibio.
Ond yr oedd i'r awr anterth honno ei phwysigrwydd yn hanes Cymru, ac erbyn heddiw y mae angen dywedyd fel y llanwodd Lloyd George feddwl a llygaid y rhan fwyaf o bobl Cymru, er gwell neu er gwaeth, yn ystod oes mwy nag un genhedlaeth. Dywedodd Syr Sidney Colvin am Gladstone ei fod "a man the sense of whose existence was constantly and forcibly present to the general mind," ac y mae yr un peth yn wir am Lloyd George, yng Nghymru yn enwedig. Ni ellir deall hanes diweddar Cymru yn iawn heb ddeall hynny, heb sylweddoli fel y bu ef yn rhan o fywyd y genedl, ac nid o'i bywyd gwleidyddol yn unig eithr o bob agwedd ymron ar ei hegnion a'i symudiadau. Ac y mae'n rhaid sylweddoli hefyd y gwacter a deimlid gennym ni a oedd yn cofio'r awr anterth pan glywsom am ei farw. Yr oedd yn anodd iawn i ni feddwl am Gymru heb Lloyd George. Bu ganddo ran ym mhob mudiad a llais ym mhob trafodaeth am hanner canrif. Efallai nad oedd y rhan yn amlwg iawn ymhopeth. Fe'i galwai ei hun yn eisteddfodwr brwd, er enghraifft, eithr darn o un diwrnod yn unig a roddai i'r eisteddfod ers blynyddoedd ond pan ddigwyddai fod yr eisteddfod o fewn terfynau ei etholaeth ef. Yr oedd rhywbeth tebyg yn wir amdano mewn cysylltiadau eraill hefyd. Ond ni waeth i chwi prun, yr oedd yn rhan o'r cefndir o hyd. Teimlech ei fod yno yn rhywle. Nid bob amser y byddai ar ei orau hyd yn oed pan fyddai yno, canys yr oedd cyfyngiadau rhyfedd i'w feddwl a'i wybodaeth. Cofiaf ef yn dadorchuddio'r maen coffa am Ellis Wynne ar fur Las Ynys Fawr flynyddoedd yn ôl. Daeth tyrfa ynghyd, am ei fod ef yno yn fwy nag o barch i awdur Y Bardd Cwsc, y mae'n debyg, a siaradodd yntau yn druenus, yn union fel dyn a oedd wedi clywed son am Ellis Wynne y noson cynt am y tro cyntaf erioed. Yr argraff a adawodd ar fy meddwl i oedd mai dyna'r pryd yr oedd wedi edrych ar Y Bardd Cwsc am y tro cyntaf. Ymhen blynyddoedd siaradai ym mhafiliwn Caernarfon, mewn cysylltiad ag un o uchel wyliau'r Methodistiaid Calfinaidd. Ei bwnc oedd pregethu Cymru. Siaradai'r Parch. Phillip Jones ar yr un mater, a siomedig iawn oedd y ddwy araith. Siaradodd Lloyd George am Daniel Rowland a Howell Harris a Thomas Charles, ac yr oedd yn amlwg nad oedd yn gartrefol yn y maes. Pe buasai wedi siarad ar y pregethwyr y bu ef yn gwrando arnynt y mae'n ddiamau y buasai yn ddiddorol dros ben. Yr oedd ganddo ddawn arbennig yn y cyfeiriad hwnnw ond nid oedd ei wybodaeth am hanes Cymru na helaeth na chywir. Cofiaf fy siom pan glywais ef yn siarad oddiar y Maen Llog am y tro cyntaf, yn eisteddfod Caernarfon yn 1906. Nid oedd ganddo ddim i'w ddywedyd.
Ond y mae gennyf atgofion eraill. Y tro diwethaf yn 1939—y bu'n siarad ym mhafiliwn Caernarfon prin yr oedd y lle yn fwy na hanner llawn, er ei fod i siarad ar y rhyfel. Cofiwn innau am gyrddau mawr 1909 a 1912 pan fyddai'r adeilad, a ddaliai ar ei orau tua deng mil, nid yn unig dan ei sang ond hefyd yn llawn o bobl a oedd wedi gwthio i fyny i'r distiau ac yn eistedd yng nghilfachau'r to. Deuai pobl yno yn lluoedd o holl siroedd y gogledd a byddai cynulleidfa fawr o'r tu allan fel rheol, wedi methu myned i mewn.
Yr oedd y wefr a'r cynnwrf a deimlir pan fo nifer mawr o bobl wedi ymgasglu yn cerdded trwy'r lle fel trydan a sŵn y dorf, yn canu neu yn siarad, fel sŵn dyfroedd lawer ac yn fy atgoffa am yr agoriad i Meistersinger Wagner—sŵn dylifiad pobloedd, llawenydd a chynnwrf a chyffro tyrfa yn cadw gŵyl, ond yn barod i wneud rhywbeth arall o dan gyffyrddiad hudlath y swynwr. Codai'r cyffro yn uwch o hyd fel y parhai'r disgwyl, miloedd o lygaid yn gwylio'r llwyfan, miloedd o ddwylo yn barod i guro, miloedd o leisiau yn barod i'w dyrchafu. Ac yna y llanw yn torri tros y glannau pan welid Lloyd George yn dyfod i'r golwg trwy ddrws ochr y llwyfan—pawb ar ei draed, pawb yn gwaeddi, pawb yn chwifio rhywbeth nesaf i law a'r twrw yn fyddarol o bob cyfeiriad nes i rywun, oddiar y llwyfan fel rheol, daro tôn y byddai mynd arni ar y pryd ac i'r bloeddio droi yn ganu.
Yng nghanol y sŵn a'r brwdfrydedd cerddai Lloyd George i'w gadair gyda'i gam pendant. Yr oedd ei wallt yn britho'n drwm y pryd hynny a braidd yn hir er nad cyn hired ag y bu wedyn. Yr oedd ei wên—ac yr oedd y wên ddireidus, chwareus honno yn rhan pur fawr o'i ddylanwad ar y dyrfa— fel pe'n goleuo'r llwyfan, ond sylwais lawer gwaith mai weithiau y byddai'n cyrraedd y llygaid. Llygaid eryr oedd y rhai hynny er fod crychni chwareus yn y croen o'u cwmpas, llygaid glaslwyd a fflam ynddynt, a byddai wedi gweled a phwyso a mesur ei gynulleidfa yn yr ychydig eiliadau cyntaf wedi iddo ddyfod ar y llwyfan. Yr oedd ei drem yn gyflym iawn; gwyddai yn bur dda ymhen munud neu ddau pwy a fyddai ar y llwyfan a phwy a fyddai yn y seddau blaen. Yr oedd ganddo holl deimladrwydd yr areithiwr mawr i'w amgylchedd ac i dymheredd ei gynulleidfa, a gwelais ŵg sydyn ar ei ael lawer gwaith os byddai rhywbeth heb fod wrth ei fodd yn y trefniadau. Yng Nghaernarfon y diweddar J. T. Jarrett a fyddai yn gyfrifol am y trefniadau fel rheol, ac ef hefyd oedd un o'r ychydig nad oedd arnynt ddim o ofn Lloyd George. Gŵr awdurdodol iawn oedd Lloyd George, wedi arfer gosod ei ofn ar bobl ac erbyn hynny wedi hen gynefino a chael ei ffordd ei hun. Gŵr digon amrwd ei ffordd oedd Jarrett, ysgrifennydd Cymdeithas Ryddfrydol y Bwrdeisdrefi, glân ei galon, ond un na bu erioed yn enwog am gwrteisi ei ddull. Gwelais Lloyd George yn troi ato yn chwyrn ar ddechrau cyfarfod ac yn gofyn paham na buasai'r peth yma neu'r peth arall wedi ei wneud, a chlywais Jarrett yn ei ateb yr un mor chwyrn. "Waeth heb siarad yn wirion!" meddai, a cherdded ymaith. Prin, mi gredaf, y meiddiasai yr un aelod o'i Gabinet ateb y Prif Weinidog fel y byddai Jarrett yn ei ateb yng Nghaernarfon, ond ar ôl i'r storm fyned heibio byddai Lloyd George yn cael hwyl wrth gofio'r helynt. "Un garw am frathu ydi Jarrett, ynte?" meddai wrthyf un tro. "Ond 'toes yna ddim gwenwyn ar ei ddannedd o, chwaith."
Pan godai i siarad byddai yn rhaid iddo aros am gryn ysbaid i'r curo dwylaw a'r gwaeddi ddistewi, ac yna, mewn distawrwydd sydyn, deuai'r llais clir, melodaidd a oedd, er hynny, â rhyw elfen o galedwch ynddo, rhywbeth a roddai asgwrn cefn ynddo ac a'i cadwai rhag myned yn ferfedd, yn hyglyw ar draws y distawrwydd. Erbyn heddiw ymddengys fod llawer yn meddwl mai bloeddiwr oedd Lloyd George. Dywedwyd lawer gwaith mai dawn y pulpud Cymreig oedd ganddo, ac y mae hynny yn ddigon gwir, eithr nid dawn gwaeddi oedd y ddawn honno. Y peth a oedd ganddo ef oedd yr oslef brydferth, y medr i dynnu cyffelybiaethau, a'r ddawn bwysicach i lunio broddegau yr oedd eu hystyr a'u sain yn swyno meddwl a chlust y gwrandawyr. Anaml iawn y byddai yn dyrchafu ei lais, er y gallai wneud hynny fel slâs chwip weithiau. Yr hyn a ddigwyddai yn ddieithriad pan ddeuai at rannau mwyaf effeithiol ei araith oedd gostwng y llais nodyn neu ddau. Y pryd hynny deuai'r oslef hudolus yn amlycach, y "dinc," a glywid yn y pulpud weithiau, yn gliriach. Yr oedd brawddeg ar ôl brawddeg fel miwsig, ac er fod y llais yn is yr oedd pob gair yn hyglyw yn y lleoedd pellaf yn yr adeilad. Dyna fel y llefarodd y diweddglo enwog am fyned i'r coed i gasglu cynnud ar ôl y dymestl, y peth mwyaf cofiadwy mewn areithyddiaeth a glywais erioed, ac yr oedd hwnnw yn fwy effeithiol oherwydd y gostwng yn y llais. Buasai gwaeddi wedi ei andwyo. Y tro hwnnw, megis llawer tro arall, yr oedd y miloedd gwrandawyr wedi colli arnynt ei hunain yn llwyr; teimlwn y gallasai'r gŵr ar y llwyfan wneud a fynnai a hwy'r pryd hynny, ac nid oes gan neb syniad am rym ofnadwy areithyddiaeth fawr os na welodd rywbeth tebyg i ddylanwad Lloyd George yn nyddiau ei nerth ar ei wrandawyr, hyd yn oed ar y rhai a anghytunai ag ef. "I hated his policy and I distrusted the man," ebe gŵr amlwg ym myd papurau newydd Lloegr wrthyf un tro ar ôl bod yn un o gyfarfodydd Lloyd George ym Manchester, "and there I was, laughing and cheering before he had been speaking for fifteen minutes!"
Peth arall a roddasai syniad am ddylanwad Lloyd George yn y dyddiau hynny fuasai golwg ar heolydd Caernarfon ddiwrnod etholiad 1906 neu 1910. Traddodiad yn unig yw'r hanes hwnnw i laweroedd erbyn hyn; yn 1906 yr oeddwn newydd ddyfod i Gaernarfon, yn newyddiadurwr ieuanc, a gwnaeth digwyddiadau'r diwrnod hwnnw argraff ddofn arnaf. Yr oedd yr heolydd yn orlawn trwy'r dydd; erbyn yr hwyr yr oedd yn anodd gwthio trwy'r dyrfa a oedd yn ymdaith dan ganu "Y Gwir Anrhydeddus David Lloyd George" ar dôn Y Sospan Fach. Y diwrnod hwnnw bygythiwyd Tori adnabyddus a fuasai yn amlwg iawn yn yr etholiad; y mae yn bosibl y buasai wedi cael niwed pe na lwyddasai i gael drws agored yn un o'r siopau i ddianc rhag y dyrfa. Ac yna, yng nghanol y berw, daeth cerbyd Lloyd George, yn gyrru yn araf (nid oedd dim arall yn bosibl) trwy'r tyndra at y Guild Hall. Wedi cyrraedd yno safodd y cerbyd a chododd Lloyd George ar ei draed. Uwch ei ben yr oedd bwa mawr y neuadd yn bont dros yr heol—hen Borth Mawr y dref. Yr oedd yn nos, ac yn nos wyntog, lawog, ond yr oedd goleuni y fflam-dorchau yn chwarae ar wyneb Lloyd George, ar y bwa maen uwch ei ben ac ar bennau'r dyrfa fawr a oedd yn dygyfor o ochr i ochr ac o ben i ben i'r heol. Pan gafwyd distawrwydd o ryw fath geiriau o gerydd llym a gafwyd gan Lloyd George—cerydd am dynnu gwarth ar yr achos trwy ymosod ar wrthwynebydd ac am beryglu ei enw da yntau. Gwyddwn wrth wrando arno y gallai wneud a fynnai a'r dyrfa o'i flaen ac yn sicr ni welais na chynt na chwedyn y fath enghraifft o arweinydd mawr yn bennaeth ymhlith ei bobl. I ychydig iawn o bobl yn unrhyw gyfnod y rhoddwyd y gallu a'r awdurdod yna. Ac efallai fod yn dda hynny.
Cafwyd golygfeydd tebyg yn un o etholiadau 1910. Y mae llawer erbyn hyn heb erioed glywed son am helynt "plismyn Manchester." Gan gofio am helyntion a fu yn etholiad cyntaf 1910 teimlai'r Prif Gwnstabl, y diweddar Cyrnol Ruck, un o hen deulu Pant Lludw, ger Machynlleth, braidd yn anesmwyth ynghylch pethau, a gofynnodd am gynhorthwy tua hanner cant o blismyn o Fanchester. Cafodd hwynt—Saeson talgryf, profiadol, oedd y rhai a welais i ohonynt, heb ddeall yr un gair o'r iaith a siaredid gan y bobl a oedd yn dygyfor o'u cwmpas trwy'r dydd. Gwelwyd y pethau arferol—miloedd o bobl, gorymdeithio diflino, canu a bloeddio a'r cwbl yn ddigon diniwed ag eithrio torri ffenestri clwb y Toriaid. Yr oeddis wedi hoelio planciau ar draws y ffenestri ac wedi gosod rhes o blismyn ar y palmant i'w gwylio. Ond dangosodd yr ymosodwyr—pobl o'r wlad o gwmpas ac ardaloedd y chwareli gan mwyaf yr un medr ag a ddangoswyd gan lawer ohonynt ymhen ychydig flynyddoedd ar feysydd rhyfel Ewrop a Gallipoli. Rhuthrodd un neu ddau o'r dynion lleiaf rhwng y plismyn, gan wyro yn isel, a chael gafael ar blanc neu ddau, eu tynnu yn rhydd, a llithro'n ôl rhwng y plismyn at eu cyfeillion ar yr heol. Bellach yr oedd gan y dyrfa ddau blanc hir a chryf; gwanwyd y rhai hynny rhwng y plismyn yn syth i'r gwydr a malwyd y ffenestri yn deilchion. Ni anafwyd, ac ni cheisiwyd anafu, neb.
Newydd i hyn ddigwydd siaradwn ag un o blismyn Manchester yn ymyl y Guild Hall. "I'd clear this street in five minutes if we were in Manchester," meddai. Dywedais fy mod yn amau a wnai hynny yng Nghaernarfon y noson honno, ond yr oedd yn bendant iawn ar y pwynt a gadewais ef, canys gwyddwn rywbeth am dymer y Cymry a oedd o'n cwmpas. Aethum i'r tŷ am swper ac yna i lawr i'r dref drachefn. Yr oedd y dyrfa mor fawr ac mor frwd ag erioed; yr oedd plismyn sir Gaernarfon a Sir Fôn yn sefyll yma a thraw yn rheoli'r cwbl yn ddigon distwr; "'Rwan, hogiau bach, peidiwch a phwyso ar y ffenestri," meddai un ohonynt, a'r hogiau bach yn ufuddhau yn siriol. Ond nid oedd yr un o'r hanner can plisman a ddaeth yno o Fanchester i'w weled—dim ond ambell helmet yn chwifio ar flaen ffon ambell fachgen o chwarelwr. Clywais wedyn mai yr hyn a ddigwyddodd oedd iddi fynd yn daro rhwng y dyrfa a'r estroniaid, fod yr hen deimlad rhwng Cymry a Saeson wedi deffro, a bod yr holl blismyn dieithr wedi eu gorfodi, yn eithaf cwrtais, fel y clywais, i gerdded i lawr i orsaf y plismyn dan ofal y dyrfa ac wedi cael gorchymyn caeth i aros yno. Trannoeth, "yn drist a distaw," aeth y plismyn estron adref, amryw ohonynt heb eu hetiau.
Dyna'r fath ysbryd a oedd yn bod yn nyddiau dylanwad mawr Lloyd George yng Nghymru. Yr oedd i'r peth ei ragoriaethau a buasai yn dda cael ychydig o'r pendantrwydd a'r brwdfrydedd hwnnw heddiw i wrthwynebu llawer o bethau sydd yn digwydd, yng Nghymru a mannau eraill. Eithr yr oedd iddo ei beryglon amlwg hefyd, a'r amlycaf ohonynt oedd y duedd gynyddol i adael i Lloyd George feddwl a gweithredu drosom, a cholli pob gallu i feddwl ac i feirniadu drosom ein hunain. Trodd y brwdfrydedd a welodd yn Lloyd George arweinydd cenedlaethol i genedl fechan yn waseidd-dra cwbl anfeirniadol pan drodd yr arweinydd i gyfeiriadau eraill, a gwelwyd pobl a oedd yn credu eu bod yn rhyddfrydol ac yn Gristnogion yn ddistaw ynghylch y Black and Tans yn Iwerddon yn unig am mai Lloyd George oedd y Prif Weinidog ac am ei fod ef, yn enwedig mewn araith yng Nghaernarfon, wedi amddiffyn polisi a wnaeth i enw Prydain ddrewi yn ffroenau'r byd gwareiddiedig. Dyna'r ochr arall i'r darian. Y tro diwethafi mi weled Lloyd George yr oedd yn hen ŵr methedig. Digalonnai am Gymru. "Anodd iawn ydyw cael yr aelodau Cymreig i uno i wneud dim dros Gymru," meddai.
" 'Does gan lawer ohonyn' nhw ddim syniad o gwbl am Gymru fel cenedl." Trist oedd meddwl, wrth wrando ar yr hen wlad-weinydd ar derfyn ei daith, ei fod ef ei hun yn gyfrifol, i raddau pur bell, am y peth y gofidiai o'i blegid.
II.
Pethau fel yna a oedd yn ei gwneud yn anodd deall Lloyd George. Nid wyf yn amau o gwbl nad oedd yn hollol gywir ei alar wrth weled Cymru mor ddiymadferth ac mor ddiddylanwad yn wleidyddol. Bu ganddo ef syniad clir am Gymru fel cenedl, ac er na fynnai Bryn Roberts fod teimlad hwnnw yn ddilys, ni allwn gytuno a'r hen farnwr craff ar y pen hwnnw. Troi ei gefn ar y delfryd o gael Cymru a oedd yn ei llywodraethu ei hun a wnaeth Lloyd George yng ngwres a rhuthr ei yrfa, ond gwyddai ef beth oedd Cymru, yr hyn na wyddai ac na ŵyr llawer o bobl. Yr oedd cefndir Cymreig ei feddwl yn hollol amlwg, er fod iddo gyfyngiadau cyn amlyced a hynny. Ofer a fuasai son wrtho am y gogynfeirdd neu'r cywyddwyr; arwynebol iawn, fel y gwelwyd, oedd ei wybodaeth am ddynion fel Ellis Wynne neu am ddigwyddiadau fel y Diwygiad Methodistaidd. Clywais ef yn mynnu gosod Charles o'r Bala ymhlith pregethwyr mawr Cymru. Ond yr oedd wedi ei drwytho yng Nghymru hanner olaf y bedwaredd ganrif a'r bymtheg. Cymru O. M. Edwards oedd ei Gymru yntau, ond ni feddai ef y cefndir hanesyddol a'r ysgolheictod a oedd yn eiddo Syr Owen.
"Pwy," meddai wrthyf un tro yn Churt, "sydd gennoch chi yng Nghymru heddiw i'w cymharu â Cheiriog a Daniel Owen fel ysgrifenwyr? 'Does yna neb yn yr un byd a nhw!" Dadleuais fod y tymor o 1900 ymlaen ymhell iawn uwchlaw tymor Ceiriog a Daniel Owen, a siarad yn gyffredinol, a bod llenyddiaeth Cymru wedi adnewyddu ymhob ystyr, ond ni fynnai gredu na gwrando. "Dyna i chi Gwynn Jones," meddwn. "Na," meddai, "ddim i'w gymharu a Cheiriog ac Eben Fardd." Nid oedd waeth heb ddadlau. Credai yr un fath am bregethwyr. Pregethwyr yr oes o'r blaen oedd ei arwyr. Medrai adrodd darnau o bregethau John Jones, Talsarn, a glywsai gan ei ewythr, Richard Lloyd; edmygai Dr. John Hughes, Caernarfon a Dr. Herber Evans, ac hiraethai am glywed yr hen dinc ym mhregethu heddiw. Un Sul eisteddwn gydag ef pan oedd y diweddar Barchedig Phillip Jones, Porthcawl, yn pregethu ar y radio. Yr oedd yr hen bregethwr yn tiwnio yn braf, yn ei ddull nodweddiadol ef. Distawodd, ac edrychais ar y cyn—Brif Weinidog. Yr oedd ei lygaid yn nofio mewn dagrau: "Mi gafodd afael arna' i," meddai. "Y mae'r hen dinc yn cael gafael arna' i bob amser." Ysgrifennodd gerdyn yn y fan a'r lle at Phillip Jones i'w longyfarch ac i ddiolch am "yr hwyl Gymreig ar ei gorau." "Seiniwch o," meddai, gan ei estyn i mi ar ôl torri ei enw arno. Ufuddheais, er fy mod yn credu y byddai'r pregethwr yn dyfalu bore drannoeth paham fod eisiau dau enw ar y cerdyn.
Y bore hwnnw, cyn dyfod yn ôl i wrando ar y bregeth, buom o gwmpas y ffarm. Yr oedd Lloyd George y pryd hynny yn ŵr deunaw a thrigain a minnau ugain mlynedd yn iau nag ef, ond blinais yn cydgerdded ag ef y bore hwnnw. Torrasom ar draws caeau mawr a thrwy wrychoedd tewion, edrychasom ar filoedd o goed afalau a gwsberins, rhoddasom dro ar genfaint ar ôl cenfaint o foch, gan holi achau rhai ohonynt yn fanwl. Yr oedd Mŵg, y ci, gyda ni, a mynnai gael cryn lawer o'i ffordd ei hun. "Tydi o'n gwrando fawr ar gyn-Brif Weinidog," meddwn, pan oedd Mŵg yn fwy clust-fyddar nag arfer. "Nac ydi," meddai ei feistr, "ond, o ran hynny, pwy sydd yn gwrando ar gyn-Brif Weinidog?" Efallai fod ias o dristwch yn y dywediad.
Cyn cychwyn allan yr oeddwn wedi galw ei sylw at erthygl flaen yn yr Observer y diwrnod hwnnw. "Y mae Garvin am i chwi fod yn Weinidog Amaethyddiaeth yn ystod y rhyfel," meddwn. "O dan Neville!" meddai, gan chwerthin. "Dim peryg'! Methu cael fy ffordd fy hun ar ddim ond cael y bai am bob peth fuasai'n mynd o'i le." Aeth ymlaen i sôn am Neville Chamberlain, y Prif Weinidog ar y pryd, ac yr oedd yn amlwg fod unrhyw gydweithrediad rhwng y ddau ddyn yn amhosibl. Wrth son am y safle ac am y rhyfel beirniadodd ddiplomyddiaeth Prydain yn bur chwyrn, ac o dipyn i beth aethom i son am ddiplomyddiaeth a pholisi tramor Prydain yn gyffredinol, a gwelais nad oedd ganddo feddwl uchel o'r diweddar Arglwydd Grey (Syr Edward Grey) fel gwladweinydd. Dywedais ei fod yr un farn a Bryn Roberts ar hynny; dywedodd Bryn Roberts wrthyf nad oedd yn credu fod Grey wedi gweled i ba le yr. oedd ei bolisi yn arwain. "Yr oedd Bryn yn ei le, yn fy marn i," meddai Lloyd George. "'Toedd Grey ddim wedi sylweddoli i b'le 'roedd o'n mynd a fynnai o ddim newid ei lwybr. 'Doedd o ddim i'w gyffelybu i Asquith o ran gallu."
"Mae'n dda gen i eich bod chi a Bryn Roberts yn cytuno ar rywbeth," meddwn innau—a dyna'r fflach i'r llygaid drachefn.
""Roeddan ni'n cytuno ar ryfel De Affrica," meddai, a dyna, wrth gwrs, oedd y gwir. Yr oeddwn wedi anghofio De Affrica, ond peth peryglus oedd anghofio unrhyw beth pan fyddech yn siarad a Lloyd George.
Siaradai yn uchel iawn am Asquith bob amser. "Y bobl oedd o'i gwmpas o oedd y drwg," meddai, gan enwi tri neu bedwar. "Buasai ef a minnau wedi ein deall ein gilydd yn iawn onibuasai amdanyn' nhw." Yr oedd newydd ddywedyd mai camgymeriad mawr y Rhyddfrydwyr oedd peidio symud yn bendant i'r chwith ar ôl y rhyfel cyntaf, a gofynnais a oedd yn credu y buasai Asquith wedi bodloni i hynny. "Onid chwi oedd y symbylydd tua'r chwith o'r blaen?" meddwn.
"Ie," meddai, "a fedrwn i ddim gwneud hynny tra 'roeddwn i yn bennaeth y Coalisiwn. Ac hwyrach eich bod yn iawn—'toedd yno neb arall i wneud hynny ar y pryd. Mi fuasai Asquith wedi sefyll wrth fy nghefn pe buaswn i mewn safle i symud—yr wyf yn bur sicr o hynny. Safodd wrth fy nghefn, yn erbyn pob aelod arall yn ei Gabinet, fwy nag unwaith gyda chyllideb 1909." Ei farn bendant oedd fod y Blaid Ryddfrydol wedi colli cyfle mawr ac nid wyf yn credu fod ganddo lawer o ffydd yn ei dyfodol—fel plaid.
Siaradem y tro hwnnw yn Churt am y rhyfel. Yr oedd hynny yn nechrau 1940 a'r gwaethaf heb ddatblygu eto. Ni chredai fod y rhyfel yn angenrheidiol, neu, efallai y buasai yn fwy cywir dywedyd y credai y gallesid bod wedi ei hosgoi. Credai fod ar Hitler a Ribbentrop eisiau rhyfel, eithr credai hefyd fod yn yr Almaen ar y pryd ddylanwadau eraill yn buasai yn erbyn rhyfel a fuasai wedi llwyddo i gario'r dydd pe buasai diplomyddiaeth Prydain wedi bod yn gadarnach. Yr oedd yn chwerw ynghylch hyn.
"Pe buasem wedi sefyll wrth gefn Czechoslovakia," meddai, "buasai Rwsia wedi sefyll ochr yn ochr gyda ni a buasai Hitler wedi ymbwyllo. Ond 'doedd Czechoslovakia ddim yn barchus—yr oedd yn werin-lywodraeth werinol mewn gwirionedd ac yr oedd yn rhaid iddi hi gymryd ei siawns. Yr oedd well gennym ni sefyll wrth gefn pendefigaeth bwdr Poland. A 'doedd dim gobaith i Rwsia ddwad efo ni'r ffordd honno." Diddorol yw cymharu ei farn ar hyn ag eiddo Mr. Winston Churchill yng nghyfrol gyntaf ei lyfr diwethaf.
Trwy'r cwbl, yr oedd yn amlwg fod Lloyd George yn edmygu rhai o'r pethau a wnaed yn yr Almaen o dan Hitler—y gwelliannau cymdeithasol a oedd yn rhedeg ar yr un llinellau a rhai pethau yn ei bolisi yntau. Y noson honno yn Churt gwelais y ffilmiau a gymerwyd yn ystod ymweliad Lloyd George a'r Almaen ac a Hitler ychydig flynyddoedd cynt, darluniau byw iawn o'r ddau yn cyfarfod ei gilydd ac yn cael te gyda'i gilydd, gyda Ribbentrop ac eraill yn y cefndir. Yn y lluniau hyn yr oedd Hitler yn chwifio ei ddwylaw yn ddi-baid ac, yn ôl pob golwg, yn siarad o hyd. Edrychai i mi fel dyn hollol niwrotig a gofynnais a oedd yn gwingo felly mewn gwirionedd ynteu a oedd rhywbeth yn y llun yn cyfrif am y peth, ond dywedodd Lloyd George ei fod yn hynod aflonydd. Ychydig a ddywedai ef wrth edrych ar y lluniau, ond dywedodd ar y diwedd y dylesid bod wedi rhybuddio dictatoriaid Ewrob ar y dechrau a pheidio gadael iddynt gasglu grym a oedd yn eu gwneud yn beryglus.
Clywais ddywedyd amdano ei fod yn dal dig. Dywedodd wrthyf nad oedd hynny yn wir. "Y mae'n anodd iawn gennyf gasau pobl ar ôl eu cyfarfod," meddai un tro, ac aeth ymlaen i ddweud nad oedd waeth ganddo ef os byddai dyn yn agored yn ei erbyn (yr oedd y papurau yr oeddwn i ynglŷn a hwy ar y pryd wedi bod yn feirniadol iawn ohono, ac efallai fod ergyd i mi yn y dywediad). "Gall dyn gredu, os myn, fy mod yn dwad o'r pwll diwaelod," meddai.
"Ac yn myned yn ôl yno," meddwn innau.
"Ie," meddai, "efo'r mwg a'r brwmstan o 'nghwmpas i! Mi wn i lle i gael dyn felly, a fydda' i ddim dicach."
Nid oeddwn yn tybio ei fod yn ei ddarlunio ei hun hollol gywir; yr oedd yn bur ddidostur tuagat wrthwynebydd a oedd ar ei ffordd, ond credaf ei fod yn gywir cyn belled a hyn, rhan o'r frwydr oedd yr ymosodiad ar wrthwynebwyr iddo ef, ac "wedi elwch tawelwch fu." Nid oedd yn dal dig, yn enwedig os credai y gallai ddefnyddio'r beirniad o'i blaid mewn cyfeiriad arall. Cefais enghraifft bersonol o hynny. Fel y dywedais, bu'r Genedl a'r North Wales Observer, a gyhoeddid yng nghanol ei etholaeth, yn feirniadol iawn ohono pan oedd yn Brif Weinidog. Ceisiais ymatal rhag unrhyw ymosodiad personol ond yr oedd yn amhosibl cefnogi llawer peth yn ei bolisi'r pryd hynny, ac yr oedd yn rhaid siarad yn blaen iawn ar y polisi Gwyddelig. Cafwyd dynion fel y diweddar Athro David Williams ac eraill nad oeddynt yn arfer cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth i wrthdystio yn erbyn y polisi hwnnw, a gwyddwn fod Lloyd George wedi teimlo, yn enwedig am fod y feirniadaeth yn dyfod o'i wlad a'i etholaeth ef ei hun. Nid oedd hynny ond peth naturiol.
Wedi iddo beidio a bod yn Brif Weinidog daeth achlysur i mi ei weled ar ddiwrnod pan oedd yn annerch cyfarfod mawr yn Llandudno. Gofynnodd i mi ei weled yn y neuadd ar ôl y cyfarfod ac aethum i'r cefn ar ddiwedd yr araith gan feddwl y cawsem funud neu ddau mewn ystafell y tu cefn i'r llwyfan i drafod y pwnc dan sylw. A chan mai hwn oedd y tro cyntaf i ni gyfarfod ar ôl y beirniadu a fu arno nid oeddwn yn sicr iawn pa fath dderbyniad a gawswn. Ni buasai yn rhaid i mi bryderu. Yr oedd yn sefyll ynghanol tyrfa o bobl pan aethum ato; daeth i'm cyfarfod gyda gwên siriol, gafaelodd yn fy mraich a dywedodd: "Dowch efo mi i'r stesion. 'Does yna ddim amser na llonydd i siarad yn y fan yma."
Ac felly y bu—myned allan i wyneb tyrfa fawr, frwdfrydig, fraich ym mraich, mynd i'r stesion yn y car gydag ef a Dame Margaret, hi yn holi hanes perthynas a fu yn yr ysgol gyda hi, ac yna, wedi cyrraedd y stesion, cerdded yn ôl a blaen, fraich ym mraich fyth, i drafod y mater dan sylw nes ei bod yn amser cychwyn. Nid myfi yn bersonol oedd yn cael y derbyniad ond y papurau. Y mae'n rhaid i mi ddweud na soniodd air erioed wrthyf am y feirniadaeth a fu ac ni chefais ddim ond croeso ganddo bob tro ar ôl hynny. Yn wyneb hyn, y mae'n anodd gennyf gredu ei fod yn dal dig er ei fod yn taro yn drwm yn y frwydr.
Yr oedd yn hynod o ddifloesgni ac hyd yn oed yn anwyliadwrus i bob golwg wrth draethu ei farn am gyfoedion a chydaelodau. "Mi wnaiff ddyn bach digon defnyddiol yn ei enwad," meddai am ŵr yr oedd ganddo uchelgais mwy o lawer na hynny. "Dyn oedd" meddai am bregethwr enwog, "oedd yn meddwl ei fod o'n athronydd, a 'toedd o ddim." "Pwy sydd yna yn y fan a'r fan heddiw?" meddai un tro, yn sôn am drefniadau gwleidyddol neilltuol, ac yn cymharu heddiw a'r dyddiau gynt. Enwais un gŵr lled amlwg. "Ie," meddai, "the resources of civilisation are not exhausted, ond y mae hi'n bur agos os ydi hi wedi dwad i hynna!" Ar y llaw arall, nid oedd yn brin o ganmoliaeth i rai; taerai nad oeddwn yn gwneud dim tebyg i chwarae teg â William Jones, a fu yn aelod dros Arfon. "Yr oedd William yn ddyn galluog iawn," meddai, "ac yn areithiwr mawr. "Dyn dewr ydyw Herbert Lewis," meddai dro arall. "Y mae'n gas ganddo ffrae a thwrw, ond er hynny mi aiff iddynt os bydd o'n credu ei bod yn ddyletswydd arno fynd. Nid oes gennyf fi wrthwynebiad mawr i dipyn o gyffro ac nid yw yn costio llawer i mi fynd i'w ganol, ond y mae yn costio i Herbert, ac y mae ganddo y dewrder prin hwnnw sydd yn wynebu Ar y cyfan, prin pethau y mae yn eu casau yn ei galon." oedd ei ganmoliaeth ddigymysg i unrhyw un; byddai yn cofio fel rheol fod rhywbeth ar ôl.
Yn ystod deng neu ddeuddeng mlynedd olaf ei oes y deuthum i gyffyrddiad personol gweddol agos a Lloyd George, er fy mod wedi ei gyfarfod droeon o'r blaen yng nghwrs fy ngwaith; nid oes gennyf atgofion personol amdano ym mlynyddoedd ei egni mwyaf. Ond yr oedd yn fwy egniol pan yr oedd ymhell dros drothwy'r deg a thrigain na'r rhan fwyaf o ddynion hanner ei oed. Y bore yr oeddwn yn gadael Churt, wedi cael ymgom ag ef am ei jiwbili seneddol, daeth i lawr yn ei byjamas a'i dressing gown i'm hebrwng at y drws. Yr oedd ganddo sigar fawr yn ei geg a cherddai yn ôl ac ymlaen ar hyd a lled yr ystafell yn meddwl am bethau ychwanegol yr oedd arno eisiau ei dywedyd yn yr ymgom. Edrychai yn ŵr llawn bywyd ac ynni ac yr oedd yr hen ddawn i beri i chwithau deimlo yn egniol a bywiog yno o hyd, y ddawn bwysig neilltuol iawn a oedd mor amlwg ynddo. Yn y blynyddoedd nesaf sylwais, wrth ei weled yn yr eisteddfod-bu yno ddwy- waith ar ôl 1939—fod y blynyddoedd yn gadael eu ôl arno. Yr oedd y fflam yn dechrau suddo.
Gwelais ef am y tro diwethaf yn y Tŷ Newydd, Llanystumdwy, ym mis Ionawr, 1945, rhyw ddeng wythnos cyn ei farw. Yr oedd y cyfnewidiad yn drychinebus ar yr olwg gyntaf yr hen dân wedi diffodd, yr hen ynni wedi llwyr ddarfod. Yr oedd wedi teneuo yn ei gorff ac yn ei wyneb—yr oedd yr wyneb wedi newid yn fwy na dim—ac nid oedd y meddwl cyn gyflymed a chynt. Soniai am yr hen ardal ac am ei phobl, am helyntion y byd ac am ei deitl newydd yntau. "'Dwn i ddim yn iawn sut i'ch cyfarch heddiw," meddwn. "A ydych yn Iarll Lloyd George o'r diwrnod yr hysbysir am y peth ynteu a oes yn rhaid aros am ryw seremoni?" Atebodd gyda'r hen bendantrwydd ei fod yn dechrau o'r hysbysiad cyntaf. A chofio ei fod ef ei hun wedi gwneud cymaint o arglwyddi, teimlwn y dylai fod yn awdurdod ar y pwnc hwnnw.
Y mae'n dda gennyf am un peth a ddigwyddodd yn ystod y prynhawn hwnnw. Aethom i sôn am bregethwyr a gofynnodd a glywswn i Herber Evans rhywdro.
"Naddo, erioed," meddwn innau.
"Yna mi gollasoch glywed yr areithiwr mwyaf a glywais ym mhulpud Cymru," meddai.
Aeth ymlaen i ddywedyd fel y bu'n gwrando ar Herber Evans yn pregethu ar y Beibl yn ardal Llanystumdwy lawer blwyddyn yn ôl. "Yr oedd llawer o ymosodiadau ar ddilysrwydd y Beibl y pryd hynny," meddai Lloyd George, "a phobl yn dywedyd nad oedd ei hanes na'i ddaearyddiaeth na llawer o bethau eraill yn gywir, a chyfeiriodd Herber at y feirniadaeth. A dyma fo'n dweyd ei fod o'n pregethu mewn capel bach ynghanol gwlad Eifionnydd rai wythnosau cynt ar noswaith stormus a thywyll. Ar ddiwedd yr oedfa daeth hen wraig ato. 'Efo ni 'rydach chi i aros heno, Mr. Evans,' meddai. Y mae'r llwybr yn bur arw ac y mae hi'n noson fawr iawn, ond y mae gen i hen lantar fach yn y fan yma. Y mae hi'n bur hen ac y mae yna amal i dolc yni' hi, ond mi goleuith ni adra.' A dyna Herber yn codi'r Beibl mawr oddiar y pulpud ar ei ysgwydd ac yn gwaeddi, 'Llusern i'n traed a llewyrch i'n llwybr, mi goleuith ni adra!'" Daeth y beroriaeth i'r llais a'r hen wefr i'r dull pan ddaeth yr hen wladweinydd at ddiwedd yr hanes. Yr oedd lleithder yn ei lygaid ef a minnau y pryd hynny, ac y mae'n dda gennyf gofio i mi glywed yr hyfrydlais cyn ffarwelio ag ef am y tro olaf.
Wedi ffarwelio edrychais yn ôl oddi wrth ddrws yr ystafell, gan gofio am y bore hwnnw yn Churt, bedair blynedd ynghynt, pan oedd mor llawn o nwyf ac ynni. Eisteddai yn ddistaw yn ei gadair yn awr, ei ddwylo yn gorffwys yn llonydd ar y breichiau, ei lygaid yn syllu trwy'r ffenestr fawr ar feysydd tawel Eifionnydd, y môr glas tudraw iddynt a mynyddoedd Ardudwy dros y dŵr. A dyna'r olwg olaf. Bu farw Mawrth 26. Wedi blynyddoedd o enwogrwydd a bri ac awdurdod digyffelyb bron daeth yn ôl i finion Eifionnydd ac i sŵn hen afon Dwyfor i farw. Ac yno, yn y llechwedd uwch-ben yr afon yn wynebu tua mynyddoedd Eryri draw, y mae ei fedd.
Efallai ei bod yn rhy fuan i geisio mesur ei ddylanwad ar Gymru. Yr wyf yn bur sicr o hyn, sef mai David Lloyd George oedd y grym personol mwyaf a welodd Cymru er dyddiau Hywel Harris, er y gwn na ellir cyffelybu dylanwad ei rym ef ar Gymru i eiddo Harris. Ond bu ganddo ddylanwad, a hwnnw yn ddylanwad mawr iawn. Am ysbaid rhoddodd asgwrn cefn ym mywyd cyhoeddus y wlad; gwnaeth bod yn Gymro yn rhywbeth y peidiodd pobl a chywilyddio o'i blegid; aeth a'i Gymreigrwydd gydag ef i bob man, cyhwfanodd ef ar bob llwyfan; nid oedd ynddo arlliw o snobyddiaeth gymdeithasol nac ymdeimlad dosbarth mwy nag a geid yn yr hen fywyd Cymreig naturiol. Yn y pethau hyn bu ei ddylanwad yn iach. Ar y llaw arall aeth Cymru i ddibynnu arno; aeth cyfangorff y blaid Ryddfrydol i fod yn blaid Lloyd George ac i beidio meddwl drosti ei hun hyd yn oed ar bynciau bywydol megis y "Black and Tans" a'r cytundeb heddwch. Edmygwyd y cyfrwystra a oedd y peth gwannaf yng nghymeriad Lloyd George a cheisiwyd ei ddynwared, ac esgeuluswyd y dewrder, yr annibyniaeth a'r parodrwydd i aberthu, nodweddion cryfaf a gorau ei gymeriad. Nid arno ef yr oedd y bai, ond dyna a ddigwyddodd, a dirywiodd bywyd cyhoeddus Cymru yn ystod ei oes ef.
Y gwir ydyw nad oedd Cymru iddo ef am flynyddoedd ond cadarnle ei ddylanwad gwleidyddol personol. Nid ei gwasanaethu hi oedd ei nôd. Nid wyf am foment yn amau ei gariad at Gymru, ond ni thybiodd y dylai droi oddiar ei lwybr i'w gwasanaethu fel cenedl. Y gymwynas a wnaeth a hi oedd peri i'r byd wybod fod Cymru wedi ei fagu ef a thrwy hynny roddi gwybod i'r byd ei bod. Amser a ddengys pa ddefnydd a wnaeth Cymru o beth felly.
JOHN BRYN ROBERTS, 1843-1931
UN noson dduoer yn ystod y rhyfel mawr cyntaf eisteddwn yn stydi Bryn Adda, ger Bangor, tŷ'r Barnwr John Bryn Roberts. Bu ef a minnau yn trafod llawer agwedd ar y rhyfel ac ar gwestiynau eraill y dydd am oriau, a rhywbryd yn ystod y sgwrs, a hithau yn tynnu at un o'r gloch y bore, digwyddais ofyn i'r hen ŵr beth oedd ei farn am ddatganiad a wnaed, ychydig ddyddiau cyn hynny, gan weinidog adnabyddus iawn. Edrychodd arnaf, cododd y mwstás trwm fel gwrychyn, a dyna'r ateb yn dyfod: "Tydi barn merch, pregethwr, neu athro coleg ddim yn werth ei chael ar unrhyw bwnc!" Hyd y medrwn weled, llefarai oddi ar argyhoeddiad llwyr, ac yr oedd gan Bryn Roberts argyhoeddiadau clir a phendant iawn, heb sôn am ragfarnau cryfion. Hen lanc, blaenor Methodus, heliwr cadarn a chyfreithiwr craff a dysgedig oedd, a bu'n cynrychioli hen etholaeth Eifion (pen deheuol Sir Gaernarfon) yn y Senedd am fwy nag ugain mlynedd.
Y tro cyntaf i mi ei glywed yn siarad ar wleidyddiaeth oedd pan oeddwn yn fachgen yn Nyffryn Ardudwy. Bryn Roberts a'r "Hen Idris" oedd y ddau brif siaradwr yn y cyfarfod hwnnw, yr hen areithiwr o Abergynolwyn yn llawn tân a brwdfrydedd a dawn, yn berwi'r gynulleidfa, a Bryn Roberts yn traethu, yn annioddefol o sychlyd fel y tybiwn i'r pryd hynny, ar fasnach rydd. Ond ymhen mwy nag ugain mlynedd ar ôl hynny yr oedd ffermwyr yn y Dyffryn yn cofio ymresymiad yr araith honno ac yn gweithredu yn ôl y goleuni a gawsant ynddi. Siaradwr felly oedd Bryn Roberts—afrwydd, clogyrnog, ond yn ymresymu mor glir ac anatebadwy nes argyhoeddi pobl oedd yn barnu yn wahanol iawn cyn myned i wrando arno. Bûm yn gwrando arno wedyn, tua
1905, yn Llanrug, yn trafod y gwrthryfel Cymreig yn erbyn Deddf Addysg 1902; yr oedd y rhan fwyaf o'i wrandawyr yn frwd o blaid y gwrthsafiad ac wedi eu tanio gan areithiau Mr. Lloyd George, ond yr oedd yn anodd credu llawer yn y peth ar ôl gwrando ar araith Bryn Roberts y noson honno. Ymhen blynyddoedd lawer wedyn dywedodd wrthyf mai gamble oedd y gwrthryfel,' ac nad oedd gan neb hawl i gamblio mewn gwleidyddiaeth. " Rhoddodd y gwrthryfel esiampl o herio deddf gwlad," meddai. "Dilynwyd yr esiampl gan Ulster ymhen ychydig flynyddoedd a chan ferched y bleidlais, a rhwyddhaodd hynny y ffordd i ryfel 1914."
Y tro diwethaf i mi ei weled oedd pan oedd yn hen, hen ŵr, yn angladd Syr John Morris-Jones, ym mynwent Llanfair Pwll Gwyngyll, ar lan Menai. Cerddem trwy'r fynwent gyda'n gilydd a galwodd fy sylw at yr argraff oedd ar garreg las ar fin y llwybr. "Does dim curo ar garreg las," meddai. "Edrychwch ar honna; y mae hi yma ers yn agos i gan mlynedd ac y mae'r llythrennau arni cyn gliried ag erioed." Edrychais arno yntau hefyd, gan feddwl nad oedd y garreg yn ddim ond rhyw bymtheng mlynedd yn hŷn nag ef—ac yr oedd yr argraff arno yntau cyn gliried ag erioed. Y diwrnod hwnnw gwahoddodd fi i ddyfod adref gydag ef yn ei gar, ond yr oedd yn dda gennyf allu dywedyd fy mod yn mynd adref gyda chyfaill arall. Yr oedd Bryn Roberts tua phedwar ugain oed pan ddysgodd yrru motor, a chan ei fod wedi arfer marchogaeth ar hyd ei oes, yr oedd ynddo duedd i drin y car fel pe buasai'n geffyl. Weithiau, mewn cyfwng, byddai yn tynnu yn yr olwyn ac yn gweiddi "We!"
Rhoddodd dros chwarter canrif o'i oes i wleidyddiaeth; bu yn fargyfreithiwr prysur, a diweddodd ei ddiwrnod gwaith fel barnwr yn y Llys Sirol, yn y De i ddechrau, ac yna yn y Gogledd. Bu ar y fainc am tuag ugain mlynedd. Gwn rywbeth am waith caled, a digon anniddorol y rhan amlaf, barnwyr y llysoedd sirol, a gofynnais iddo unwaith paham y dewisodd adael gwleidyddiaeth a'i waith fel bargyfreithiwr. Ei ateb oedd ei fod yn teimlo oddi wrth faich y cyfrifoldeb o roddi cyngor cyfreithiol. "Buaswn yn meddwl," meddwn innau, "y buasai eich cyfrifoldeb fel barnwr yn llawn cymaint, a dweud y lleiaf." "Dim o gwbl," meddai yntau. "Mi wn i, fel barnwr, os byddaf yn cyfeiliorni, fod yna lys uwch i'm rhoi yn fy lle." Aeth ymlaen i ddywedyd mai tair graddfa barnwr oedd yn y pum mlynedd cyntaf y mae'n sicr ei fod yn iawn; yn yr ail bum mlynedd y mae'n sicr ei fod yn methu; yn y trydydd pump nid yw yn waeth ganddo pr'un. "Penderfynais i," meddai Bryn Roberts, "ddechrau yn y trydydd cyfnod." Y gwir oedd ei fod yn gyfreithiwr dysgedig a chraff iawn; yr oedd yn ddewr ac yn glir ei feddwl. "Mr. Bryn Roberts," meddai barnwr diamynedd wrtho un tro, "'fedra i ddim gweled eich pwynt chwi." Gosododd Bryn ei wydrau yn sythach ar ei drwyn ac edrychodd ar y barnwr dros ei fwstás. "If your lordship will have a little patience," meddai, "your lordship will see." Ac mi welodd. Un tro, ym Miwmaris, gwrthwynebai Barnwr Darling i dyst roddi ei dystiolaeth yn Gymraeg ar y tir ei fod yn medru Saesneg. "Y mae'n ddiamau," meddai Bryn Roberts wrtho, "eich bod chwithau yn medru Ffrangeg ond a hoffech chwi roddi eich tystiolaeth mewn achos pwysig yn yr iaith honno?" Dyna'r tro diwethaf i Darling ddyfod i Gymru.
Pan aeth yn farnwr i'r De, fel olynydd i'r diweddar Gwilym Williams, yn 1906, cafodd amser ystormus. Bu yn hynod o amhoblogaidd yno am gyfnod ac apeliwyd yn erbyn ei ddyfarniadau dro ar ôl tro. Credaf fod y llysoedd uwch wedi cadarnhau ei farn bob tro. Yng ngrym ei uniondeb diwyro a'i ddewrder a chryn ddogn o ystyfnigrwydd cynhenid daeth trwy'r helynt i gyd, a chlywais fargyfreithwyr profiadol ar gylchdaith y De yn dywedyd nad oedd neb yn fwy derbyniol na Bryn Roberts erbyn i'r adeg ddyfod iddo symud i'r Gogledd. Enillodd ymddiried a pharch pawb.
Deuai'r un nodweddion i'r golwg yn ei wleidyddiaeth hefyd. Am ran fawr o'i yrfa fel gwleidydd safodd dros achosion amhoblogaidd. Gwrthwynebodd ryfel Deheudir Affrica hyd y carn, a galwyd ef i gyfrif am hynny gan ei etholwyr. Aeth yntau i'w cyfarfod i Bwllheli, gwrandawodd ar bopeth a oedd ganddynt i'w ddywedyd, ac yna dywedodd ei fod eisoes wedi gwneud ei syniadau ar y rhyfel yn ddigon clir, nad oedd yn bwriadu newid na lliniaru dim arnynt, ac y caent hwy wneud fel y mynnent. Y diwedd fu mabwysiadu pleidlais o ymddiried llwyr ynddo. Yr oedd ganddo ddirmyg at bopeth a ystyriai ef yn sentimentaliaeth neu yn ffug mewn gwleidyddiaeth neu grefydd, a dyna, y mae'n debyg, oedd wrth wraidd ei ddiffyg cydymdeimlad â rhai agweddau ar genedlaetholdeb yng Nghymru. Ni chredai o gwbl yn niffuantrwydd rhai pobl a siaradai am hawliau Cymru, a chafodd y gair o fod yn wrth-Gymreig oherwydd hynny. Clywais ef yn chwyrnu ac yn dweud Flapdoodle!' yn ei ddull mwyaf dirmygus wrth sôn am ambell araith, ond gwelais ef hefyd wedi cynhyrfu drwyddo ynghylch apwyntiad neilltuol pan ofnai y rhoddid Sais mewn swydd y credai ef y dylid cael Cymro i'w llanw. Credaf ei fod yn well cenedlaetholwr nag aml un a fu'n siarad yn groch am hawliau Cymru—heb wneud fawr iawn, os dim, erddynt. Gellir dywedyd hyn, beth bynnag; nid edrychodd erioed ar Gymru fel ysgol i ddringo ar hyd-ddi.
Teimlwn bob amser mai anodd oedd ei leoli yn wleidyddol. Rhyddfrydwr oedd, ond yr oedd elfen gref o geidwadaeth ynddo (mynnai mai ffurf eithafol ar Protection oedd undebau llafur er enghraifft), ac yn niwedd ei ddyddiau bu ar lwyfan Plaid Llafur. Yr adeg honno yr oedd wedi digio i waelod ei enaid wrth Lloyd George a'r Rhyddfrydwyr Cöalisiwn. Cofiaf i ni lwyddo i'w ddenu i gynhadledd a fu gan Gymdeithas y Rhyddfrydwyr Rhydd yn Aberystwyth pan oedd Mr. Lloyd George yn Brif Weinidog a'r llywodraeth göalisiwn mewn awdurdod, i bob golwg, am amser amhenodol. Ystyrid cael Bryn Roberts yno yn gryn beth; yr oedd ei enw yn adnabyddus ac yn barchus trwy Gymru, ac yr oeddym ninnau yn y lleiafrif amhoblogaidd y pryd hynny ac yr oedd yn dda iawn gennym gael gŵr o'i fath ef i ymuno â ni.
Daeth dydd y cyfarfod. Yr oedd yno aelodau Seneddol o Loegr, ac yn y gynhadledd bu siarad plaen ynghylch beiau'r Llywodraeth, ac yna galwyd ar Bryn Roberts a chafodd dderbyniad croesawus iawn. "Credaf," meddai, ar ôl rhagymadroddi am ychydig, "fod Lloyd George wedi bradychu'r blaid Ryddfrydol," a daeth storm o gymeradwyaeth. Wedi i hynny ddistewi, aeth Bryn Roberts ymlaen yn yr un llais yn union: "Ac nid yw Asquith fawr iawn gwell, yn fy marn i." Disgynnodd distawrwydd llethol ar y cynulliad, ond aeth Bryn ymlaen heb gymryd sylw o gwbl. Fel Burke, credai mewn plaid. Clywais ef yn cyfeirio at eiriau Burke ar y pwnc hwn:
That connexion and faction are equivalent terms is an opinion which has been carefully inculcated at all times by unconstitutional statesmen. The reason is evident. Whilst men are linked together, they easily and speedily communicate the alarm of any evil design. They are enabled to fathom it with common counsel and to oppose it with united strength . . . When bad men combine, the good must associate; else they will fall, one by one, an unpitied sacrifice in a contemptible struggle.
Pechod gwleidyddol yn ei farn ef oedd rhwygo plaid. Credai fod Lloyd George wedi gwneud hynny yn etholiad 1918 i'w amcanion ei hun, a chredai yr un mor gryf fod Asquith a'i gyd Liberal-Imperialists wedi llithio'r Blaid Ryddfrydol oddi ar lwybr heddwch a chynildeb ac wedi paratoi'r ffordd i ryfel 1914-18. Ac yr oedd gwladweinydd a arweiniodd ei wlad i ryfel wedi pechu'r pechod anfaddeuol ym marn Bryn Roberts. Pan oedd y papurau Saesneg i gyd yn canmol Edward Grey (Arglwydd Grey) gofynnais i Bryn Roberts beth oedd ei farn ef amdano. "A stupid fellow," meddai. "I don't say he didn't do his best to ensure peace when he saw where his policy led him, but he should have seen the inevitable result of that policy from the first." Nid oedd cofiant Arglwydd Rosebery wedi ei gyhoeddi pan ddywedodd Bryn Roberts hyn, ond yn y llyfr hwnnw ceir fod Rosebery wedi dywedyd rhywbeth tebyg pan glywodd am y dealltwriaeth gyda Ffrainc, a seliwyd pan oedd Lansdowne yn Weinidog Tramor ac a fu yn sylfaen i'r polisi tramor Prydeinig o hynny ymlaen.
Yn nechrau 1917 methodd ymatal rhag traethu ei farn am y rhyfel. Yr oedd yn Farnwr ac ni theimlai y dylai roddi ei enw wrth yr ysgrif; cyhoeddais hi yn Y Goleuad am Ebrill 6, 1917, uwch ben yr enw Pax Nobiscum. Y pennawd oedd "Ai Byth?" ac ar y dechrau dyfynnodd yr adnod: "Ai byth y difa y cleddyf? Oni wyddost ti y bydd chwerwder yn y diwedd?"—cwestiwn Abner. Dadleuodd yn feistraidd, gyda llu o ffeithiau ac ystadegau, o blaid gwneud heddwch yn fuan. Disgrifiodd y tlodi a'r caledi a oedd yn rhwym o ddilyn y rhyfel, ac ar y diwedd trodd oddi wrth y canlyniadau economaidd at effeithiau eraill. Dyma frawddegau olaf yr ysgrif: "Y mae cwynfan galarwyr eisioes yn aml yn y wlad; ond os goddefwn i'r blaid ryfelgar gael ei ffordd, bydd y llais a glywyd yn Rama yn dyrchafu o bob stryd a phentref, a bron o bob cartref yn y wlad oblegid bydd nifer y lladdedigion wedi dyblu a threblu cyn i'n byddin gyrraedd i derfyn yr Almaen. Da fyddai gennym oll weled yr Almaen yn cael ei churo i'r llawr, fel yr haedda, ond nid ar draul y fath aberth, os gellir cael y status quo ante hebddi. Canys pa fodd y gallwn edrych ar y drygfyd a'r tlodi a gaiff ein pobl? A pha fodd y gallwn edrych ar ddifetha ieuenctid ein cenedl? Ai byth y difa y cleddyf?"
Nid oedd dim arwrol yn ei syniad ef ei hun am ei gyflawniadau gwleidyddol. Yr oedd yn farchogwr mentrus ac yn heliwr llwynogod, a dywedodd wrthyf un tro: "Fydda i byth yn neidio dros y gwrych wrth hela nac mewn gwleidyddiaeth os bydd adwy i'w chael." Dro arall, dywedodd: "'Rydw i'n barod i sefyll dros fy egwyddorion hyd ryw bwynt, ond 'tydw ddim yn barod i gerdded ar haearn poeth na dim byd felly drostyn' nhw, chwaith. Wnaed mohonof fi i fod yn ferthyr. Ond 'doedd neb a oedd yn ei adnabod yn credu hynny; buasai rhai yn barod i ddywedyd y buasai ei ystyfnigrwydd cynhenid yn ddigon i'w arwain i dân y merthyr pe bai raid. Clywais un a oedd yn ei adnabod yn dda ac yn perthyn iddo yn taeru na chytunai â neb. "Ac os tybia yng nghwrs y ddadl," ebe hwnnw, "ei fod yn debyg o gytuno â chwi, newidia ei ddadl er mwyn osgoi'r trychineb hwnnw." Tipyn o ormodiaith oedd hynny, y mae'n wir, eithr yr oedd elfen o wir yn y peth hefyd. Clywais amdano, pan oedd yn ddyn cymharol ieuanc, wedi myned gyda'i chwaer i gynhadledd ynglŷn â'r Ysgol Sul, a gynhelid yn y Rhyl. Thomas Gee oedd yn annerch, ac ar ddiwedd y cyfarfod aeth i'r llawr i ofyn am addewid gan bob un yr âi i'r Ysgol Sul o hynny ymlaen. Daeth at Bryn Roberts, a oedd yn hollol ddieithr iddo, a gwrthododd yntau yn bendant roddi addewid o gwbl. Aeth Thomas Gee, gŵr pur awdurdodol, i bwyso arno, ac aeth Bryn Roberts yn fwy pendant fyth yn ei wrthodiad. O'r diwedd methodd ei chwaer â dal. "Oh, Mr. Gee," meddai, "y mae o'n athro Ysgol Sul ac yn arolygwr ers blynyddoedd." Yr oedd hynny yn wir, ond ni fynnai Bryn Roberts gymryd ei wastrodi gan neb. Galwai rhai ef yn granc, ond os oedd yn granc, yna crancod ydyw halen y ddaear. "Mi fydda i yn leicio crancod, welwch chi," meddai'r Parch. Evan Jones, Caernarfon, wrthyf un tro, ac y mae llawer i'w ddywedyd dros hynny.
Ar yr un pryd, camgymeriad dybryd fuasai meddwl mai dyn gorddifrifol oedd Bryn Roberts. Yr oedd ganddo hiwmor a chraffter i adnabod pobl ac i gael tipyn o hwyl am eu pennau ac am ei ben ei hun. "Dyna chi," meddai un tro, oddi ar y fainc, wrth ŵr mewn oed a oedd wedi cael iawn pur sylweddol. "Ewch adref a gadewch i'ch teulu wybod y gallwch chi adael yr arian yna i'r neb a fynnoch. Mi fyddant yn ffeind ryfeddol wrthych chi tra byddwch chi byw." Un tro cyflwynais gyfaill iddo nad oedd wedi ei gyfarfod erioed yn ei gymeriad preifat. "Y tro diwethaf y gwelais i chwi," meddai'r cyfaill wrtho, "bygythiasoch fy anfon i garchar." "Ac y mae'n siŵr eich bod chwi. wedi haeddu mynd yno os gwnes i hynny," meddai'r hen farnwr, a goleuni direidus yn ei lygaid.
Bu ef a'i gâr, y diweddar Arthur Bodvel Roberts, yn croesi cleddyfau unwaith. "It's very cold because there's snow on the mountains," ebe Bodvel Roberts. "No, no," meddai Bryn Roberts, "There's snow on the mountains because it's very cold." Gofynnais iddo a oedd hyn yn wir. "Ydyw," meddai. "'Ddylai dyn ddim cymysgu achos ac effaith."
Dywedodd wrthyf unwaith mai yng Nghlynnog Fawr, yn Arfon, y gwnaeth ei araith gyntaf ar wleidyddiaeth. "Mi es yno," meddai, "i siarad ar hanes Rhyddfrydiaeth, ac wedi bod wrthi am tua dwy awr mi welais nad oeddwn i ddim wedi dwad yn nes adref nag oes y Frenhines Anne, ac mi roddais y gorau iddi yn y fan honno." Fel y dywedais, siaradwr clogyrnog oedd, a chryn lawer o ryw fath o atal arno. Dibynnai ar ei ymresymiad am ei effaith, ond ambell dro, pan gynhyrfid ef, ceid ysbeidiau o wir huawdledd ganddo, ysbeidiau a oedd yn effeithiol iawn gan eich bod yn gwybod mai gwir deimlad ac argyhoeddiad oedd yn eu hachosi.
Bu farw yn 1931, yn wyth a phedwar ugain oed. Yr oedd ei atgofion yn myned ymhell iawn yn ôl, i gyfnod ym mywyd Cymru a ddaeth i ben cyn cof i neb sydd yn fyw heddiw. Weithiau gellid ei berswadio i siarad am y pethau a gofiai, ond yn anffodus methwyd ei berswadio i ysgrifennu ei atgofion. Clywais ef yn dywedyd fel y byddai morwyn Bryn Adda—yr hen dŷ, sydd wedi diflannu ers llawer dydd—pan oedd ef yn fachgen, yn cerdded y tair milltir i Fangor bob wythnos, a llond basged ddillad o ymenyn ar ei phen. Cerddai yn ôl yr un modd, gyda'r fasged yn llawn o nwyddau siop. Wedi'r holl flynyddoedd, cofiai'r hen ŵr enw'r eneth—Rebecca. Dywedai fel y byddai ei dad yn derbyn yr Herald Cymraeg bob wythnos ac yn rhoddi ei fenthyg i'r cymdogion ar yr amod ei fod yn ei gael yn ôl, gan y byddai'r wraig yn ei ddefnyddio ar y silffoedd. Damwain, meddai, oedd iddo fynd yn gyfreithiwr o gwbl. Pan aeth y tad o Fryn Adda i ffarmio Trefarthen, ym Môn, penderfynodd Bryn Roberts aros gartref i amaethu, ac aeth brawd iddo dros y dŵr i Gaernarfon i ddysgu bod yn gyfreithiwr. Un noṣon daeth y brawd adref gan gwyno yn ddifrifol ar ei fyd. "Aros di yma i ffarmio, ynteu," meddai Bryn Roberts, "ac mi af innau i Gaernarfon i ddysgu bod yn dwrnai." Ac felly y bu. Ymhen rhai blynyddoedd wedyn yr aeth yn fargyfreithiwr. Hoffai sôn am yr hen fywyd, ac yr oedd cryn lawer o'r amaethwr a llawer iawn o'r gwladwr ynddo i'r diwedd.
Dywedais ei fod yn ymresymwr cadarn, ac yr oedd felly ar yr aelwyd yn ogystal ag ar y llwyfan. Gwyddai'r llu pregethwyr a fu yn lletya gydag ef ym Mryn Adda dros y Sul—yr oedd ef yn flaenor yng nghapel y Graig gerllaw—hynny yn dda, a 'does neb a ŵyr faint fu ei ddylanwad ar feddwl Cymru trwy'r cyfrwng hwnnw yn unig. Dywedodd Arglwydd Lloyd George wrthyf, y tro diwethaf y gwelais ef, fod gan Bryn Roberts ddylanwad mawr yn ei sir ond nad oedd ganddo ddim yn y Senedd. Beth bynnag am y Senedd, nid oedd unrhyw amheuaeth am ei bwysau yn ei wlad ei hun. Yr oedd ei wybodaeth mor eang ac mor drylwyr, ei feddwl mor graff ac mor glir a'i argyhoeddiadau mor bendant fel na allai lai na bod yn ddylanwad mawr yn ei gylch, ac yr oedd y cylch hwnnw yn un pur eang. Ymgollai yn gyfan gwbl yn ei ymresymiad ar adegau. Unwaith daeth i edrych amdanaf, a dechreuodd ar ei bwnc ar unwaith. Cawsom de gyda'n gilydd, ond ymlaen yr oedd yr ymresymiad yn mynd, a neb arall yn dweud fawr, os dim. Euthum i'w ddanfon i'r stesion, tua milltir o ffordd, ac ni chefais ddim ond datblygu'r ddadl ar hyd y filltir honno. Buom yn disgwyl peth am y trên, ond yr oedd y lli ffeithiau, rhesymau, enghreifftiau a dadleuon yn parhau i ddygyfor o'm cwmpas o hyd, ac yr oedd un frawddeg ar ei hanner pan oedd ei drên yn gadael y stesion. Gwyddwn, pe buaswn wedi ei weled drannoeth, y buasai wedi myned ymlaen gyda'r ymresymiad yn union yn y fan lle gadawodd ef y diwrnod cynt. "He is unanswerable even when he is unconvincing," meddai un gŵr amdano.
Ac felly yr aeth trwy fywyd—yn gywir, yn anhyblyg, yn garedig, yn glir ei welediad a'i farn ac yn ddewr ei ysbryd. Yr oedd y corff cnodiog, y llygaid bychan, craff, y talcen mawr, y mwstás trwm fel gwrychyn, yr het galed sgwâr, hen-ffasiwn, yr ymbarelo a'r bagl gwyn a garid bob amser gyda'i ddwy law ar ei feingefn, yn ddarlun pur dda o'r dyn. Ni bu arno ofn neb erioed, ni fedrodd neb erioed ei ddychryn na'i ddenu i adael y llwybr a gyfrifai ef yn llwybr iawn. Ni thybiaf i neb erioed lwyddo i daflu llwch i'w lygaid. Yr oedd ganddo ei derfynau, wrth gwrs, a'r rhai hynny yn rhai pur gyfyng mewn ambell gyfeiriad. Yr oedd pethau nad oedd yn eu deall ac nad oedd ganddo, o ganlyniad, ddim cydymdeimlad â hwy. Meddwl y cyfreithiwr, neu, yn hytrach, meddwl y barnwr, a oedd ganddo, ac yr oedd iddo gyfyngiadau'r math hwnnw o feddwl. Er hynny, a'i gymryd trwodd a thro, yr oedd yn un o'r dynion gorau a fu ym mywyd cyhoeddus Cymru ac yn un o'r rhai mwyaf galluog hefyd. "That very learned judge," ebe un o farnwyr Llys Apêl wrth gyfeirio at un o'i ddyfarniadau. "Gwyddoch pa le y mae'n sefyll," meddai Lloyd George, wrth ffarwelio ag ef yn Llys Chwarter sir Gaernarfon, "ac ni bu erioed yn fyr o adael i chwithau wybod pa le, yn ei farn ef, y byddwch chwithau yn sefyll." Efallai fod tipyn o frath yn y dywediad, ond mae gwir ynddo hefyd. Safai Bryn Roberts dros rywbeth a gwyddai pawb ar ba ochr y byddai.
Yn ei flynyddoedd olaf y mae yn fwy naturiol dywedyd hynny na sôn am ei henaint—cafodd dipyn o afiechyd a bu yn rhaid iddo fynd dan driniaeth pan oedd yn ymyl os nad oedd wedi cyrraedd ei bedwar ugain oed. Yr oedd y ffordd yr wynebodd ar hynny yn hollol nodweddiadol. Dywedodd y meddyg cyntaf yr ymgynghorodd ag ef fod cancer yn ei wddf ond na fentrai roddi triniaeth lawfeddygol iddo yn ei oed ef. "Nid oeddwn am dderbyn hynny," meddai Bryn Roberts, yn union fel pe buasai yn gwrthod derbyn barn ar fater cyfreithiol. Aeth at feddyg arall a chafodd yr un ddedfryd, ond yr oedd hwnnw yn barod i roddi'r driniaeth os oedd yr hen Farnwr yn barod i wynebu'r perygl. Trefnwyd iddo gael y driniaeth yn Llundain. Trefnodd yntau yr amser fel y gallai fyned i arwerthiant ceffylau yn Llundain ddiwrnod neu ddau cyn myned i'r ysbyty. Yn yr arwerthiant prynodd geffyl hela. Daeth trwy'r driniaeth yn dda iawn a bu fyw i farchogaeth y ceffyl a brynodd. Ymhen dwy flynedd neu dair ar ôl hyn cyfarfûm ef ar yr heol yng Nghaernarfon a gofynnais iddo sut yr oedd yn teimlo. Nid anghofiaf ei ateb. "'Rydw i'n dda iawn, diolch," meddai. "Wrth gwrs, y mae'r cancer yna yn y gwddf ac mi fyddaf yn cael cyffyrddiad o angina yn awr ac yn y man, ond ar wahân i hynny 'rydw i'n dda iawn." Ar wahân i hynny!
Gorffwys ei lwch ym mynwent Llanfair is y Gaer, yn un o'r llecynnau prydferthaf ar lan Afon Menai. Gellir darllen cryn lawer o hanes cymharol ddiweddar Cymru yn y mynwentydd ar hyd y glannau hynny. Dros y dŵr, ar gyfer Llanfair is y Gaer, ym mynwent Llanidan, ar godiad tir Môn, y gorwedd Ellis Jones Griffith, gwleidydd, cyfreithiwr, bardd, a gŵr yr oedd ei arabedd fel min cledd. Yn nes at y Borth, ar y llechwedd glas ym mynwent Llanfair Pwll Gwyngyll, y mae'r maen sydd yn nodi bedd John Morris-Jones, sein a philer yr iaith yn ei ddydd. Yn ynys Llandysilio, yn lli Menai, y mae Thomas Charles Williams a bedd Henry Rees. Ac yn nes i'r môr, ar gyfer Traeth Lafan, yng ngolwg holl gadernid Eryri, dan gysgod y coed ac yn nhawelwch y meysydd, y mae'r ddau areithiwr mawr, yn fud—John Elias a John Williams, Brynsiencyn, ochr yn ochr ym mynwent Llanfaes. Y mae'r hen farnwr mewn eithaf cwmni.
EVAN JONES, 1836-1915
FEDRWCH chi neud dim byd o ddyn duwiol! Wnaiff o na thwsu na thagu!" Yr oedd argyhoeddiad yn y llais a'r ystum, fflach o ddicter ac o ddireidi yn y llygaid llwydlas disglair, a brath yn y llais prydferth, gydag acen Maldwyn yn glir yn y geiriau. Evan Jones, Caernarfon, oedd yn siarad, gweinidog enwog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, pregethwr mawr, gwleidydd pendant a diflino, ac un o wŷr cyhoeddus amlycaf Cymru yn ei ddydd. Yr oedd y fraich dde yn ysgwyd yn ôl a blaen, fel pe buasai yn paratoi i daro. Yr oedd Evan Jones wedi ei drechu mewn pwyllgor gan rywun a oedd, yn ei farn ef, yn un o'r bobl "dduwiol fach, ddiddrwg-ddidda" yr oedd ganddo'r dirmyg llwyraf tuag-atynt.
Aeth yn agos i bymtheng mlynedd ar hugain heibio er pan fu farw Evan Jones, yn 1915, yn ddeunaw a thrigain oed, ac erbyn heddiw ychydig yw nifer y rhai sydd yn ei gofio. Ni wnaed cofiant iddo, er ei fod yn un o wŷr mwyaf diddorol ei gyfnod. Y gŵr a fuasai wedi medru gwneud cofiant da iddo oedd Puleston Jones; yr oedd ef yn ei adnabod yn drwyadl ac yn medru mwynhau'r gwahanol agweddau ar ei gymeriad cymhleth. Collwyd y cyfle hwnnw, ac efallai fod y cymhlethdod wedi cadw eraill draw, canys nid oedd Evan Jones yn ŵr hawdd ei adnabod na'i ddeall. Erbyn hyn, prin y mae hyd yn oed yn enw i'r rhan fwyaf o bobl.
Fel un o bennaf lueddwyr y frwydr o blaid datgysylltiad y cyfrifid ef gan lawer yn ei ddydd, ac y mae dywedyd hynny yn peri i rai heddiw feddwl am ŵr tenau, tywyll ei bryd, sarrug a phenboeth—syniad cyffredin am bobl "y gydwybod Ym- neilltuol" ym meddwl y rhai na wyddant fawr am Ymneilltuaeth na'i phobl. Yr oedd Evan Jones yn ddigrif o
anhebyg i'r darlun dychmygol hwnnw. Yr oedd yn un o'r dynion harddaf yng Nghymru yn ei ddydd, gyda wyneb a phen fel cerflun Groegaidd neu un o'r ymherodron Rhufeinig gorau. Yr oedd ffurf y pen yn wych a'r gwallt ariannaidd yn fodrwyau gloyw drosto, talcen ysgwar, trwyn Groegaidd, dau lygad glaslwyd gyda'r mwyaf byw a fu ymhen neb erioed, gwefusau tenau a gên benderfynol, brydferth. Yn y blynyddoedd pan yr oeddwn yn ei adnabod yr oedd yn drwm o gorff ac ysgwyddog,—y mae ysgwyddog yn well gair na chrymu canys nid crymu o henaint yr oedd, yn gwisgo du bob amser, tei wen, a het ddu feddal gyda chantel llydan. Unwaith, pan fu ar dro yn Ffrainc, ni feddyliodd neb yn amgen nad offeiriad Catholig urddasol a thadol oedd; gofynnwyd am ei fendith fwy nag unwaith a rhoddodd yntau hi. Yr oedd hiwmor ac arabedd i'w gweled yn y genau a'r llygaid, ond gallai'r naill a'r llall fod yn ddirmygus ac yn beryglus, canys yr oedd Evan Jones yn ymladdwr yr oedd yn rhaid gwneud cyfrif ohono.
Ar lawer cyfrif yr oedd Evan Jones yn anhebyg iawn i'r syniad cyffredin am weinidog Methodus. Byddwn weithiau yn amau a fwriadwyd erioed iddo fod yn weinidog, ac ymddengys y byddai pobl eraill yn amau hefyd. Pregethodd yn neilltuol o rymus yn y Dyffryn unwaith a chlywais wraig ddeallus yn dweud ar ddiwedd yr oedfa, "Choelia'i ddim nad ydi o yn ddyn duwiol!" Yr oedd yn amlwg fod peth amheuaeth wedi bod yn ei meddwl, ac, wrth gwrs, yr oedd yntau, gyda dywediadau fel hwnnw a ddyfynwyd ar y dechrau a phethau tebyg, yn peri amheuaeth ddofn ym meddwl y dihiwmor—er cryn lawer o ddifyrrwch iddo ef ei hun.
Nid oedd yn arbed neb na dim pan deimlai fod angen taro, ac weithiau byddai yn myned yn rhy bell. "Hen lwynog ydi o!" meddai un gŵr mewn cyfarfod gwleidyddol cynhyrfus iawn, a gŵr Eglwysig a oedd yn Ganon, yn torri ar draws araith Evan Jones. "Hen iar ydi o!" meddai Evan Jones, ond teimlodd ymhellach ymlaen ei fod wedi mynd yn rhy bell a meddyliodd am ymddiheuro i'w wrthwynebydd. Methodd ymatal rhag pel deg wrth wneud hynny, ac os drwg cynt gwaeth wedyn. "Y mae'n dda gen i weld fy hen gyfaill, Canon, yma," meddai, "ac y mae'n dda gen i eu bod nhw wedi'i wneud o'n Ganon. Y mae'n gysur meddwl fod ambell bistol go fach yn mynd yn gannon weithiau!"
Unwaith, mewn sasiwn, rhoddwyd penderfyniad gerbron ynghylch mesur dirwestol a oedd yn myned trwy'r Senedd ar y pryd. Evan Jones oedd yn llywyddu. Rhoddodd cynhigydd y penderfyniad bwys neilltuol ar y ffaith mai fel mesur moesol yr oeddis yn trafod y peth yn y Sasiwn ac nad oedd ef yn credu mewn dwyn gwleidyddiaeth i mewn i le o'r fath. Dywedodd yr eilydd rywbeth tebyg, ac ychwanegodd nad oedd ef na'i frawd megis y llywydd, yn ymladdwyr enwog ar faes gwleidyddiaeth, gan fwrw braidd fod peth felly allan o'i le mewn gweinidog. Yr oedd braich y llywydd yn dechrau ysgwyd pan gyfododd i roddi'r penderfyniad i'r cyfarfod—arwydd ddiffael ei fod yn cynhyrfu. Yr oedd yn dda ganddo, meddai, glywed ei frodyr yn siarad mor gryf ar y mater, ac nid oedd waeth ganddo ef iddynt ymddihatru yn gyfan gwbl oddi wrth wleidyddiaeth, os dyna a ddymunent. "Y mae'n dda gen i iddyn' nhw gael bwyta'r 'sgwarnog mewn mesur fel hwn," ychwanegai, yn y llais nad oedd yn dyrchafu dim ond a oedd yn hollol hyglyw yn y cyrrion pellaf er hynny, "ond y mae gofyn iddyn' nhw gofio, hefyd, fod rhywun wedi gorfod rhedeg i'w dal hi iddyn nhw." Gwelodd pawb yr ergyd, ac eisteddodd y llywydd, yn fodlon ei fod wedi talu'r pwyth.
Clywais amdano mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghaernarfon adeg un o etholiadau cynhyrfus cyntaf rhai o'r cynghorau lleol. Gwyddid ei fod yn myned i siarad, a disgwylid yn neilltuol am ymosodiad ganddo ar un ymgeisydd yn arbennig a oedd wedi ei dynnu yn ei ben ac a oedd hefyd yn ŵr pur huawdl. Daeth y dydd a'r cyfarfod. Siaradodd Evan Jones ac adolygodd gymwysterau a nodweddion yr ymgeiswyr bob yn un. "A dyna Mr. ," meddai, gan enwi y gŵr neilltuol, a phawb yn dal ei anadl i wrando am ymosodiad ysgubol. "Bow-wow, ynte, bow-wow!" Dyna'r cwbl-ac yr oedd yn ddigon. Yn ystod diwygiad 1904-6 aeth aelod yn eglwys Evan Jones (Moriah, Caernarfon) ato. Yr oedd wedi digio wrth ei weinidog ers blynyddoedd ac ni byddai yn myned i wrando arno. Yng ngwres y diwygiad teimlodd nad oedd peth felly yn deilwng a phenderfynodd gymodi. Aeth. Dywedodd ei bod yn ddrwg iawn ganddo am y dieithrwch a'i fod yn dymuno cael anghofio'r gorffennol. "Oh, beth oedd yn bod, Hwn a Hwn?" meddai Evan Jones. "'Toeddwn i ddim wedi sylwi fod dim byd." Yr oedd y peth yn enghraifft o'r direidi ac hefyd o'r caledwch a oedd yn Evan Jones. Yr oedd swyn anghyffredin yn ei bersonoliaeth ond medrai fod yn greulon ar air weithiau, a hynny heb edifarhau wedyn, fel y gwna llawer.
Yr oedd yn ddadleuydd cyhoeddus peryglus a defnyddiai bob arf a fyddai yn y cyrraedd. Credai llawer mai bargyfreithiwr a ddylasai fod, ac ar lawer ystyr dyna'r fath feddwl a oedd ganddo—meddwl y dadleuydd a oedd wedi penderfynu ennill ei achos. Medrai ddadlau yn alluog a medrai ddefnyddio twyll-ddadleuon hefyd, er y byddwn yn amau weithiau a oedd yn peidio ei dwyllo ei hun yr un pryd. Ei duedd bob amser oedd credu ei fod yn iawn. Yr oedd yn amau llawer o bethau ond ni welais arwydd erioed ei fod yn ei amau ei hun. Tueddai i fod yn ddidrugaredd os gwelai fod dyn am ymostwng iddo. Byddai yn llawer mwy gwyliadwrus os teimlai fod y gwrthwynebydd yn myned i sefyll ar ei wadnau a chefais le i wybod fod yr hyn a ddywedodd cyfaill wrthyf yn wir, sef mai'r ffordd orau i'ch amddiffyn eich hun rhag ymosodiad gan Evan Jones oedd ymosod yn ôl cyn ffyrniced ag y gallech. Bygythiodd arfer ei ddylanwad i gael fy nhroi o fod yn olygydd y Genedl unwaith am na chytunai ag agwedd y papur ar ddatgysylltiad. Nid oeddwn yn hoffi ffraeo a gŵr a oedd gymaint yn hŷn na mi, ond gwelais ei bod yn rhaid gwneud rhywbeth a dywedais os oedd ef yn myned i ymosod yr ymosodwn innau. Synnais ei weled yn petruso'n sydyn. "Be' wnewch chi?" meddai. Atebais y cai weled hynny pan ddeuai'r adeg (nid oedd gennyf syniad beth i'w wneud, mewn gwirionedd) ond fy mod yn sicr o daro'n ôl. Ni ddaeth yr ymosodiad o'i du ef a buom yn eithaf cyfeillion byth wedyn.
Dechreuodd ei yrfa fel argraffydd, ond wedi penderfynu myned i'r weinidogaeth bu yng Ngholeg y Bala ac o dan ddylanwad treiddgar Dr. Lewis Edwards. Darllenodd lawer mewn rhai cyfeiriadau; credaf fod llyfrau Herbert Spencer i gyd ganddo, ac yr oedd Herbert Spencer yn ei fri yn y cyfnod hwnnw. Athroniaeth a diwinyddiaeth oedd ei brif bynciau, ac er iddo fod yn barddoni peth pan yn ieuanc, fel y rhan fwyaf yn y cyfnod hwnnw, ac er fod ganddo ffugenw—Ieuan Dyfi, os iawn y cofiaf—nid oedd ganddo fawr o flas ar farddoniaeth ac yr oedd cyfyngiadau rhyfedd i'w wybodaeth yn y cyfeiriad hwnnw. Pan oedd yn ysgrifennu ei atgofion i'r Genedl priodolodd linell adnabyddus Keats "A thing of beauty is a joy for ever," i Kirke White, ac nid oedd yn hoffi i mi ei gywiro. Cofiaf ei fod yn tueddu i ddadlau o blaid y dadogaeth ryfedd, ond rhan oedd hynny o'r amharodrwydd cynhenid i gydnabod ei bod yn bosibl iddo ef gamgymeryd. Ysgrifennodd lawer iawn, ysgrifau i bapurau a chylchgronau gan mwyaf, llawer ohonynt yn bethau hollol dros amser o ran eu diddordeb, ac fel llenor yr oedd yn debyg i'r hyn oedd fel pregethwr. Gallai fod yn dda ac yn ddiddorol a gallai fod yn drychinebus o sâl. Ysgrifennodd ei atgofion i'r Genedl tua 1910 neu 1911 a dechreuodd yn dda iawn. Y mae llawer blwyddyn er pan welais i'r ysgrifau ond y cof sydd gennyf amdanynt ydyw iddynt ddechrau yn rhagorol, gyda disgrifiad y talai ei ail-gyhoeddi o fywyd ar ororau Meirion a Maldwyn ym mhedwar a phumdegau'r ganrif o'r blaen, ond nad oeddynt cystal at y diwedd. Wrth gwrs, yr oedd yn hen ŵr pan ddechreuodd eu hysgrifennu; er ei fod tua dwy flynedd yn fyr o gyrraedd ei bedwar ugain pan fu farw, yr oedd wedi heneiddio yn ei ddull o feddwl ac o edrych ar bethau flynyddoedd cyn hynny.
Yn nyddiau ei anterth yr oedd yn ddiamau yn newyddiadurwr pur effeithiol; bu son am ei ysgrifau yn y Cambrian News pan oedd yn weinidog yng Nghorris, bu'n golygu'r Goleuad pan oedd yn weinidog yn Nyffryn Ardudwy, ac, yn ychwanegol at ei gysylltiad a'r Genedl yng Nghaernarfon, sefydlodd Yr Amserau yn y dref honno a bu'n ei olygu am gyfnod. Cyn iddo fyned i'r weinidogaeth, pan oedd yn argraffydd wrth ei alwedigaeth, bu mewn cysylltiad a'r Pwnsh Cymraeg. Ni welais i erioed mo'r cyhoeddiad hwnnw, a sefydlwyd yn 1858, ond bu llawer o son amdano ar un adeg fel papur beirniadol ac ymosodol. Ber fu perthynas Evan Jones ag ef; ni pharhaodd yn hwy na haf 1859, medd y Parch. T. M. Jones yn ei lyfr, Llenyddiaeth fy Ngwlad, ond y mae'n debyg fod y papur wedi tynnu nifer o bobl yn ei ben ac ni anghofiwyd cysylltiad Evan Jones a'r Pwnsh. Bu cryn chwyrnu hefyd, ynghylch rhai pethau a ymddangosodd yn Y Goleuad yn ystod ei olygyddiaeth ef. Ysgrifennodd lawer o erthyglau arweiniol maith i'r Goleuad, rhai ohonynt yn ddat- ganiadau da a phendant ddigon ar bynciau'r dydd, a chafodd y bai, y mae'n ddiamau, am rai pethau nas ysgrifennodd. Ni buasai hynny yn menu fawr arno ef.
Teimlaf mai darlun heb fod yn atdyniadol a dynnwyd o Evan Jones hyd yn hyn, ac yr oedd ochr felly iddo. Eithr yr oedd agweddau eraill hefyd. Ni allai neb wadu ei fod yn bersonoliaeth neilltuol; yr oedd swyn yn ei wên, yn ei lais, yn ei ddull o lefaru. Yr oedd grym a phwysau yn ei feddwl ac y mae'n ddiamau y buasai wedi gwneud enw iddo ei hun wrth y Bar pe buasai wedi dewis y cyfeiriad hwnnw; buasai yn y werth ei glywed yn croesholi tyst anfoddhaol. Mewn achosion troseddol y buasai ar ei orau yn hytrach nag wrth Far y Sianseri; rhywun fel David Charles Davies a fuasai wedi llwyddo yn y fan honno, gyda'i feddwl dadansoddol, manwl a threiddgar. Wrth drin tystion anhydrin ac wrth apelio at y rheithwyr y buasai Evan Jones ar ei orau; yr oedd yr olwg arno, ei lais a'i watwareg ddeifiol yn ei gymhwyso at y gwaith, a thybiaf iddo yntau, o dro i dro, fwrw golwg hiraethus braidd ar y llwybr nas cymerodd. Bu yn amlwg yng ngwleidyddiaeth Cymru am gyfnod hir, ond y mae'n amheus gennyf a oedd yn wleidydd wrth reddf. Hyd y gwelais i, ychydig o ddiddordeb a gymerai mewn pynciau gwleidyddol ar wahan i ddatgysylltiad ac, efallai, pwnc y tir, er ei fod yn gweled yn bur bell ar adegau. "Y mae hi'n siwr o fynd yn rhyfel rwan, " meddai wedi clywed am yr entente rhwng Prydain a Ffrainc, "y mae nhw wedi dewis eu partneriaid!" Yr oedd Rosebery o'r un farn.
Edrychid arno fel Radical eithafol yn wleidyddol. Mewn gwirionedd, Tori hen ffasiwn oedd ond ei fod yn casáu yr Eglwys fel sefydliad gwladol ac yn gwrthryfela wrth reddf yn erbyn yr hualau ar Ymneilltuaeth. Magwyd ef o dan gysgod Plas Machynlleth, ac yr oedd ganddo gryn lawer o barch hen ffasiwn i arglwyddi tir ac hyd yn oed o duedd i gydnabod eu hawdurdod. Nid oedd ganddo fymryn o gydymdeimlad a'r syniadau cymdeithasol newydd a oedd yn lefeinio Rhyddfrydiaeth ac yn troi yn sylfaen i'r Blaid Lafur yn ystod ei flynyddoedd olaf ef. Dadleuai unwaith nad oedd yr un dyn heb waith os oedd ganddo galon i weithio; tueddai, megis y gwnai llawer o ddynion ei gyfnod, i edrych ar dlodi naill ai fel rhan anorfod o drefn Rhagluniaeth neu fel canlyniad rhyw ddiffyg neu gamymddygiad yn y dyn ei hun. Yr oeddwn ar y pryd yn olygydd Y Genedl ac yn dadlau bob wythnos o blaid mesurau cymdeithasol, ac yr oedd dirmyg gwatwarus yn ei lygaid a'i lais yntau wrth drafod y dadleuon. "Mi ddowch yn gallach wrth fynd yn hŷn!" meddai.
Yr oedd yn amheuwr wrth natur; ei agwedd gyntaf at bob peth oedd ei gwestiyno. Nid wyf yn bwrw am eiliad nad oedd wedi ei argyhoeddi ei hun o wirionedd y grefydd a bregethai, ond yr wyf yn bur sicr y gallasai hynny fod yn fwy o dasg iddo ef nag i lawer o weinidogion. Yr oedd yn amheus o gymhellion dynion ymhob cylch, yn amheus o bob dysg ac athrawiaeth newydd. Byddai ei wefusau yn troelli a'i lygaid yn ddirmygus wrth wrando ar ambell un; ni thrafferthai i wrthwynebu bob amser, ond yr oedd yr olwg arno yn ddigon. Byddai pob ystum ar ei gorff, pob mynegiant yn ei wyneb cystal a dywedyd mai ffol oedd y sawl a lefarai. "Dywedodd Dafydd," meddai wrthyf unwaith, "Mi a ddywedais yn fy ffrwst, Pob dyn sydd gelwyddog.' Mi fuaswn i yn dweud yr un peth heb fod yn fy ffrwst. O, buaswn siwr, heb fod yn fy ffrwst!" Hwyrach y buasai dogn o'r amheuaeth yma yn lles i ninnau yng Nghymru heddiw.
Ond yr oedd ochr arall. Edrychid arno yn ei oes fel gelyn pennaf defodaeth ac offeiriadaeth, ond offeiriad oedd yntau wrth reddf. Edrychai fel cardinal yn ei hen ddyddiau, a medrai ymddwyn fel cardinal hefyd. Aeth unwaith i gyfarfod misol dieithr. Derbynid nifer o flaenoriaid newydd a gofynnwyd i Evan Jones eu holi. Gofynnodd iddynt a fedrent Gredo'r Apostolion, ond ni fedrai yr un gymaint a brawddeg. Yna, gan sefyll uwch eu pennau fel un ag awdurdod ganddo, adroddodd yntau y geiriau mawreddog o'r dechrau i'r diwedd, a disgynnodd distawrwydd a rhywbeth tebyg i ofn ar y lle. Gallaf ddirnad hynny yn hawdd; clywais ef yn pregethu ambell dro gydag urddas a difrifwch a oedd yn peri i'r gynulleidfa welwi ger ei fron. Cytunaf a barn Puleston, sef mai yn y pulpud yr oedd Evan Jones fwyaf. Medrai bregethu yn drychinebus o sal; gwnai hynny yn lled aml ar fore Sul yn ei eglwys ei hun, ond, yn wahanol i lawer sydd yn pregethu'n sal, gwyddai Evan Jones ei fod yn pregethu yn sal, ac nid oedd waeth ganddo. Weithiau byddai'r gŵr a ymffrostiai, yn hollol gywir, y gallai ei wneud ei hun yn glywadwy ymhen pellaf pafiliwn Caernarfon heb waeddi, yn gwbl anhyglyw mewn capel cymedrol iawn ei faint. Cwynodd rhywun am hynny yn uchel yn ystod y bregeth unwaith. Gostyngodd Evan Jones ei lais yn is fyth. Ond pan fyddai yn ymdaith yn amlder ei rym, fel y gwnai weithiau, gyda'i feddwl miniog, ei arabedd, ei huawdledd a'i angerdd oll ar eu heithaf, prin yr oedd neb yng Nghymru i'w osod o'i flaen. Ac ar yr adegau hynny deuai tynerwch rhyfedd ac annisgwyliadwy i'w ddull ac i'w lais, rhywbeth mwyn ac urddasol yr un pryd oedd yn swyno hyd yn oed y rhai a fu dan ei draed mewn ysgarmes a dadl. Y mae swyn felly ymhob dyn mawr, mi gredaf—rhywbeth sydd yn denu ac i raddau, beth bynnag, yn gorbwyso elfennau eraill yn y cymeriad.
Deuai'r urddas a'r difrifwch i'r amlwg weithiau yn ei ymgom a'i ddywediadau achlysurol. Pan oedd yn weinidog yn y Dyffryn, tua phymtheng mlynedd a thrigain yn ôl, gofynnodd i was dyn pur amlwg yn yr ardal sut yr oedd ei feistr.
"Mae o'n iawn," meddai'r gwas, yn ddigon didaro, "ond y mae o'n deud y bydd o farw fel mochyn rhyw ddiwrnod."
"Dywed ti wrtho fo oddiwrtha' i," meddai Evan Jones, "mai byw fel mochyn y mae o, ac y bydd yn rhaid iddo fo farw fel dyn."
Bu'r dywediad ar gof yr ardal yn hir.
Dywedais y gallai bregethu yn sal ar adegau, ond hwyrach mai cywirach fuasai dywedyd y byddai yn pregethu yn ddifater. Bu ganddo bregeth ar y geiriau, "Os bydd dyn Y ddau ben oedd, marw, a fydd efe byw drachefn?" "Yn gyntaf, na fydd. Yn ail, bydd." Pregethodd hi unwaith a'r diweddar Barch. Ddr. Thomas Charles Williams yn gwrando.
"Mr Jones," meddai "T.C." ar ôl yr oedfa, "os byddwch chi'n pregethu'r bregeth yna eto mi fuaswn i yn eich cynghori chi i roi trydydd pen iddi hi."
"Be' fuasai hwnnw, T.C.?" meddai yntau.
"Wel, fel hyn," meddai Thomas Charles Williams. "Os bydd dyn marw, a fydd efe byw drachefn?' Yn gyntaf, na fydd yn ail, bydd; ac, yn drydydd, tydi o ddim botwm corn o wahaniaeth prun!" Ni ddywed hanes pa beth a ddywedodd Evan Jones; y tebyg ydyw y gwyddai yn eithaf da iddo bregethu yn ddifater ac yn ddigon diafael.
"Sut y doth hi heddiw, Sam?" meddai wrth y diweddar Samuel Maurice Jones, yr arlunydd ac un o flaenoriaid Moriah, Caernarfon, wrth gerdded adref o'r capel un bore Sul.
"Sobor iawn!" meddai Maurice Jones, yn onest.
"Ie, ynte, Sam?" meddai yntau. "Go ddigroen oedd hi. Mi awn ni i Iago heno. Siawns na chawn ni rywbeth yn y fan honno." Yr oedd eisiau dyn go fawr i siarad fel yna.
Fel gŵr cyhoeddus, fel ymladdwr diarbed ar lwyfan gwleidyddiaeth, fel arweinydd eofn a phenderfynol yn ei enwad, fel newyddiadurwr difloesgni ei farn, fel pregethwr ar ei ben ei hun y meddyliai Cymry am Evan Jones. Yr oedd yn bob un o'r pethau hyn, ond gwyddai pobl ei ofal yng Nghaernarfon ei fod yn rhywbeth arall hefyd. Ni bu erioed fugail eglwys mwy ymroddedig a gofalus. Gwyddai hanes yr holl braidd ac ymwelai a'r bachgen mewn llety mor ofalus a chyson ag a'r aelodau mwyaf blaenllaw. Yr Hen Barchedig oedd enw arferol pobl Moriah arno,—hynny, neu Y Reverend,—
ac yr oedd y ddau enw yn gweddu iddo. Yr oedd yr offeiriad yn gryf ynddo ac yr oedd yn gwbl gywir yn ei grefydd, er efallai fod agweddau ar ei fynegiant o'r grefydd honno nad oeddwn i nac eraill o'r un to a mi yn eu hoffi. Ond yr oedd Evan Jones yn ddigon sicr o'i seiliau i wneud yr hyn ag ef y buasai pobl mwy difrifol ond heb fod gymaint o ddifrif yn ei alw yn wamalu yn eu cylch.
O fewn ychydig ddyddiau i'r diwedd dywedodd ei feddyg wrtho, "Mynd i'r nefoedd 'rydach chi, ynte?"
Agorodd y ddau lygad craff, direidus, symudodd y gwefus- au gwelw. "Hei lwc!" meddai'r llais bloesg.

SYR VINCENT EVANS, 1852-1934.
CHWILIWN am rywbeth y dydd o'r blaen yn y rhes hir o'r Cymmrodor a Thrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion sydd ar yr astell. Yr wyf yn aelod o'r Gymdeithas ers 1919 ac y mae'r cyhoeddiadau hyn oll gennyf o'r flwyddyn honno hyd y dydd hwn. Y mae rhesi hir o'r cyfrolau, rhai cul a rhai trwchus, a chynhwysant, a'u cymryd at ei gilydd, doreth o bethau diddorol a gwerthfawr hefyd. Y mae'n rhaid troi iddynt yn weddol aml am wybodaeth a goleuni ar faterion ynglyn a Chymru, a bob tro y byddaf yn gwneud hynny byddaf hefyd yn meddwl ei bod yn fwy na thebyg na buasent yn bod o gwbl oni buasai am ynni a llafur a phenderfyniad un dyn. Y gŵr hwnnw oedd Evan Vincent Evans—Y Finsent,—ymgorfforiad yn ei ddydd o "Gymro Llundain," a hynny mewn cyfnod pan oedd "Cymro Llundain" yn bwysicach ac yn llanw mwy o le ym mywyd Cymru nag yr ymddengys ei fod heddiw.
Bu adeg o fewn fy nghof i pan fyddai sôn am "Gymry Llundain" yn peri i rai pobl fyned yn gynddeiriog. Y mae'n anodd gwybod paham yn iawn, os nad oedd duedd yn rhai o Gymry'r brifddinas i siarad yn oraclaidd am Gymru ac i'n dysgu ni a oedd, yn ein dallineb, yn parhau i fyw ynddi, sut i wynebu ein problemau. Yn wir, credai rhai ohonynt, a Syr Vincent Evans yn eu plith, fod pellter o Gymru nid yn unig yn ychwanegu at swyn y wlad iddynt hwy ond hefyd yn eu galluogi i weled Cymru yn well ac yn eglurach.
"Pam na ddowch chi i Lundain yma i fyw?" meddai Syr Vincent wrthyf unwaith, a ninnau yn cael te yn ystafell gefn ei swyddfa yn Chancery Lane.
Atebais mai wrth ysgrifennu am Gymru a materion Cymreig yr enillwn i fy mywoliaeth gan mwyaf a'i bod yn rhaid i mi fyw yng Nghymru er mwyn gwneud hynny.
"Lol i gyd!" meddai Syr Vincent, yn ei ddull mwyaf pendant. "Mi fyddech yn gwybod beth sydd yn mynd ymlaen yng Nghymru yn llawer gwell oddiyma nag wrth fyw yn Sir Gaernarfon. Dyma'r lle i chi."
Ni chytunwn, ond gwyddwn nad oedd dadlau yn debyg o dycio dim. Nid oedd Vincent Evans yn ŵr hawdd ei argyhoeddi, ac yr oedd ei ragfarnau yn gryfion hyd yn oed pan fyddai ei resymau yn wan. Yn wir, fel rhagfarnau yn gyffredin, byddent yn cryfhau fel y byddai'r rhesymau yn gwanhau. Ond y mae'n deg dywedyd ei fod ef yn caru Llundain. Yr oedd wedi hen blwyfo yno; 'Roeddwn i yn Llundain cyn y'ch geni chi, 'machgen i," meddai wrthyf un tro a minnau wedi gofyn iddo oni buasai yn well ganddo, gŵr a aned yn ymyl Cadair Idris ac a faged yn Nhrawsfynydd, fyw yn nhawelwch y wlad.
"Tawelwch, wir!" meddai yn ddibetrus. ""Does dim llonydd na thawelwch i'w cael yn y wlad. Y mae yno rhyw geiliog yn canu neu hen fuwch yn brefu trwy'r nos a chewch chi ddim distawrwydd i gysgu. Y mae Chancery Lane yn llawer distawach yn y nos na ffermydd Trawsfynydd." A dyna, fel y gwyddwn, y gair olaf ar y mater.
Pechais braidd y tro hwnnw trwy gymryd yn ganiataol, megis y gwnaethai naw o bob deg y pryd hynny, ei fod yn frodor o Drawsfynydd. Yno y gwelais i ef am y tro cyntaf erioed a siaradai pobl y fro amdano fel un o blant yr ardal.
"Wyddoch chi mo hanes y'ch gwlad y'ch hun yn well na hynna?" meddai yn ffrom. "Nid yn Nhrawsfynydd y ganed fi."
"Ymhle, ynteu?" meddwn innau.
"Ond yn Llanfihangel y Pennant, sir Feirionydd, yn ymyl hen gartref Mary Jones y Beibil," meddai, "mewn lle o'r enw Nancaw."
"Oh," meddwn, "'rydw i'n gweld 'rwan."
Gwelodd yntau hefyd ei fod wedi myned gam ymhellach nag a fwriadodd, a throdd y stori. Nid oedd hyd hynny wedi cydnabod wrthyf mai ef oedd y Nancaw Hen a ysgrifennai nodion Seneddol bob wythnos i'r Brython, ond yr oedd y rhan fwyaf o'i gydnabod, beth bynnag, yn amau.
Yr oeddwn cyn hynny wedi clywed amdano yn gwrthod dywedyd wrth un aelod Seneddol ymchwilgar beth oedd enw'r tŷ lle ganed ef,—rheswm da paham, canys yr oedd yn ei ddefnyddio fel ffug- enw. Daeth yr enw allan heb iddo fwriadu hynny, mi gredaf, uwch ben y bwrdd te y diwrnod hwnnw a sylweddolodd yntau ar y foment iddo ollwng y gath o'r cwd. mae'n dda gennyf feddwl ei bod yn haws ganddo wneud hynny gyda mi na chyda llawer canys yr oeddym yn gryn gyfeillion er yr holl wahaniaeth yn ein hoed,—ac er yr holl wahaniaeth yn ein barn ar faterion gwleidyddol ar un adeg. Daliodd y cyfeillgarwch y praw trymaf y gallesid ei osod arno gydag ef, fel y cawn weled ymhellach ymlaen.
"Coffa da am Drawsfynydd," meddai mewn llythyr ataf ym mis Ebrill, 1919, "yno y'm magwyd ond nid yno y'm ganwyd, ond wrth droed y Gader ym mhlwy Celynin. Yn Nhrawsfynydd er hynny y cefais fy magu." A dyma air arall oddi wrtho, ym mis Tachwedd, 1922, gair pur ddiddorol ynghylch ei syniad am ei waith ei hun: "Ie, Sir Feirionydd pia fi ers oesoedd! Os ydi Fleure yn deyd y gwir (iaith Sir Feirionydd ydi 'deyd') fe ddaethum i yma gyda bagad o fôrladron y Mediterranean ganrifoedd lawer yn ôl. Ond y mae gen i gariad mawr at Lundain Cymreig, ac uno'r Cymry ar wasgar a'u cadw ynghylch y berthynas fu prif nod fy mywyd."
Aeth Syr Vincent Evans i Lundain o Drawsfynydd (symudodd y teulu i'r ardal honno o Lanfihangel y Pennant pan oedd ef yn blentyn) yn ieuanc iawn, fel clerc. Ymhen amser penodwyd ef yn ysgrifennydd y Chancery Lane Safe Deposit Co. Yn Chancery Lane yr oedd y swyddfa, ac yno hefyd, uwchben y swyddfa, y bu Vincent Evans yn byw am flynyddoedd, megis mewn uchelgaer uwch llif didor trafnidiaeth Llundain. Ni wn pa bryd yr aeth yno i fyw ond yno y gwelais i ef ac yno y bu hyd y diwedd. Yn ddyn ieuanc daethai i fod yn ŵr pur amlwg ym myd Cymry Llundain, byd sydd yn ei ffordd ei hun llawn mor bentrefol â bywyd unrhyw bentref yng Nghymru. Dechreuodd ysgrifennu, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bu ganddo ysgrifau ar George Eliot a llenorion eraill yn Y Traethodydd; bu'n ohebydd i'r Faner ac yn ohebydd Llundain, mi gredaf, i fwy nag un papur dyddiol Saesneg. Yr oedd yn ohebydd Llundain i'r Brython hyd o fewn ychydig i'r diwedd.
Treuliodd lawer iawn o'i hwyrnosau am gyfnod maith yn lobi, ystafell ginio ac ystafell smocio Tŷ'r Cyffredin. Cyfnod bore Tom Ellis, Lloyd George, William Jones ac Ellis Griffith oedd hwnnw, cyfnod pan gydnabyddid fod y Blaid Seneddol Gymreig yn cynnwys rhai o ddynion galluocaf y Senedd, ac yr oedd Vincent Evans yn eu hadnabod bob un. Nid wyf yn meddwl iddo fwriadu bod yn aelod Seneddol ei hun. Bu si, mor ddiweddar a 1922, y gwelid ef yn ymgeisydd ond gwadodd yn bendant. "Hwyrach," meddai, "y byddwch mor garedig a dweyd yn eich 'papur clodwiw' (dyna'r fel, onide?) nad oes ac na fu rhithyn o sail i'r sibrwd fy mod i yn ymgeisydd am gynrychioli Sir Fôn (nac unrhyw gynrychiolaeth arall) yn y Senedd." Ysgrifennai am yr aelodau â'u gwaith i'r papurau; gwnai hynny yn feirniadol weithiau, ond yr oedd y cyhoeddusrwydd yn werthfawr ffordd bynnag y byddai'r gwynt, a chlywais y byddai ambell un yn cwyno os na byddai ei enw yn ymddangos yn weddol amlwg yn y naill neu'r llall o golofnau Vincent Evans. Ei arwr mawr ar hyd yr amser oedd Lloyd George.
Clywais Syr Vincent yn beirniadu aelodau Cymreig eraill yn bur ddifloesgni o dro i dro, ond ni byddai byth yn beirniadu'r "dyn bach," chwedl yntau, a gallai droi yn ddiflas ddigon gyda'r sawl a wnai hynny yn ei wydd ef. Medrai fod yn ddiflas, ac os na byddai mewn tymer dda gallai fod yn chwyrn ac yn gyrhaeddgar. Un tro yr oedd nifer o aelodau Seneddol yn trafod awduraeth cyfres o erthyglau dienw ac yn canmol yr ysgrifau. "Cyhuddwyd fi o'u hysgrifennu," meddai un ohonynt, gydag awgrym yn ei ddull y gallai'r cyhuddiad fod yn wir. Edrychodd Vincent arno yn ei ddull mwyaf sarhaus. "Dyn a'ch helpo!" meddai. "'Does neb a ddarllenodd ddim a ysgrifenasoch chwi erioed wedi meddwl hynny am eiliad!" Gallai droi felly ar ei gyfeillion weithiau, ond ni byddai yn beirniadu Lloyd George nac yn goddef i bobl eraill wneud hynny os gallai ef eu hatal. Bu'n deyrngar iddo hyd y diwedd, a'r syndod i mi oedd ei fod wedi parhau yn gyfeillgar â mi pan oeddwn, fel golygydd Y Genedl, yn beirniadu Mr. Lloyd George a'r rhan fwyaf o'i weithredoedd fel pennaeth y Weinyddiaeth Goalisiwn. Yn eisteddfod Abertawe yn 1927 cyflwynodd fi i Mr. Runciman (y diweddar Arglwydd Runciman) a oedd ar y pryd yn aelod dros y dref honno. "Dyna chi," meddai wrthym, "mi fyddwch chi eich dau yn cytuno ynghylch y dyn bach!" a chiliodd oddi wrthym. Ni allaf feddwl am brawf cryfach o gyfeillgarwch Syr Vincent Evans na'r weithred honno.
Ond prin y buasai neb yn cofio amdano fel newyddiadurwr nac fel dylanwad yng ngwleidyddiaeth Cymru erbyn hyn. Yr hyn a hir gofir ydyw ei waith fel ysgrifennydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ac fel golygydd cyhoeddiadau'r gymdeithas honno. Bu hefyd yn ysgrifennydd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a bu beirniadu arno lawer tro am ei fod, meddid, yn cadw trysorau o gyfansoddiadau eisteddfodol heb eu cyhoeddi. "Diolch i mi ddylen nhw," meddai wrthyf un tro, "am gadw cymaint o ysbwriel o'r golwg!" Y mae'n debyg fod tuedd i fod yn dra-awdurdodol ynddo erioed; yr oedd golwg felly arno, gyda'r gwallt du, crych, a drodd yn frith at y diwedd, y llygaid craff a'r genau penderfynol. Ac fel yr heneiddiodd aeth y duedd hon yn gryfach, gryfach. Anodd oedd cael dim o'i law ac nid oedd yn fodlon gwneud dim ond yn ôl ei ffordd ei hun. Byddai yn ysgrifennu'r cyfeiriad a'i law ei hun pan byddai yn anfon rhifynnau'r Cymmrodor a'r Trafodion i'r aelodau, a bûm yn ymliw ag ef fwy nag unwaith ynghylch hynny. Ond ysgwyd ei ben yn ystyfnig a wnai ef. "Na," fyddai'r ateb yn ddieithriad, "y mae'n llai o drafferth i mi wneud y peth fy hun." 'Doedd dim rheswm yn y byd dros hynny, wrth gwrs, ond dyna fel yr oedd hi i fod.
O dan ei deyrnasiad ef ni byddai'r Anrhydeddus Gymdeithas byth yn myned allan o Lundain ond i'r ddau gyfarfod a gynhelid yn ystod wythnos yr eisteddfod genedlaethol. Yr wythnos honno oedd wythnos fawr Syr Vincent, ac anodd i lawer ohonom oedd meddwl am yr eisteddfod hebddo ef. Yn fuan ar ôl i mi ddechrau myned i'r eisteddfod bob blwyddyn dywedodd wrthyf ei fod ef wedi bod yn myned yn ddifwlch am hanner canrif, a chofiaf i'r Dr. Mary Davies ddweud yr adeg honno ei bod hithau wedi bod yn myned am gyfnod tebyg. Yr oedd yn aelod o'r Orsedd, ond yn yr Orsedd fel yr oedd cyn i'r drefn newydd ar bethau ddyfod i rym yr oedd ef yn gartrefol. Yr adeg honno byddai gan rai o'r Gorseddigion wisgoedd a ddyfeisiwyd ganddynt hwy eu hunain, a gwisg felly a oedd gan y Finsent—mantell laes o wyrdd tywyll a chap tebyg i gap Doethor Prifysgol, gwisg heb fod mor gobanaidd yr olwg arni a'r gwisgoedd uniongred. A chredaf, er nad wyf yn hollol sicr ynghylch hyn, iddo barhau i wisgo felly o dan yr oruchwyliaeth newydd, am gyfnod os nad i'r diwedd. Buasai gwneud hynny yn hollol nodweddiadol ohono, beth bynnag.
Bu fyw i gyfnod, eisteddfodol ac fel arall, nad oedd ganddo lawer o gydymdeimlad ag ef. Gyda gwên dosturiol braidd y soniai am rai datblygiadau mewn barddoniaeth yn ein cyfnod ni. Ond trwy'r cwbl cadwai mewn cyffyrddiad â bywyd Cymru fel yr oedd ac adlewyrchir aml ochr ar y bywyd hwnnw yn Y Cymmrodor a'r Transactions. Nid oedd mor gaeth i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ag oedd Lloyd George, er enghraifft: yr oedd yn barod i gydnabod fod beirdd wedi codi ar ôl Ceiriog a nofelwyr ar ôl Daniel Owen. Edmygai Syr John Morris-Jones a Dr. Gwynn Jones, gwelodd addewid Mr. Saunders Lewis yn gynnar ar ei yrfa, mynnodd iddo annerch y Cymmrodorion yn ystod wythnos Eisteddfod yr Wyddgrug yn 1923, a chafodd gan Gymry ieuanc eraill roddi eu gwasanaeth i'r Anrhydeddus Gymdeithas. Yn hynny o beth yr oedd yn olygydd craff a da—yn well golygydd, yn fy marn i, ag a sylweddolwyd yn ystod ei fywyd. Rhifynnau'r Cymmrodor a'r Transactions yw ei gofgolofn. Bu yn gyfrifol am lawer o bethau eraill hefyd, megis y gwahanol lyfrau a gyhoeddwyd dan nawdd y Cymmrodorion o dro i dro a'r cyfrolau blynyddol o gyfansoddiadau'r eisteddfod genedlaethol. Ofer a fyddai ceisio rhoddi rhestr yn y fan yma, ond pan gofiwn am lyfrau fel Hanes Llenyddiaeth Gymraeg Gweirydd ap Rhys, Hanes Llenyddiaeth Gymreig Charles Ashton, Iolo Morgannwg a Chywyddau'r Ychwanegiad yr Athro J. G. Williams, The English Element in Welsh yr Athro T. H. Parry-Williams, a llyfrau Dr. Thomas Richards ar Buritaniaeth yng Nghymru, y cwbl wedi eu cyhoeddi dan nawdd naill ai Cymdeithas yr Eisteddfod neu'r Cymmrodorion, y mae cysylltiad agos Syr Vincent Evans a llyfrau Cymraeg a llyfrau ynglyn a Chymru dros gyfnod hir yn amlwg. Prin cafodd y clod a haeddai am y gweithgarwch mawr hwn; credaf y byddai yn teimlo hynny, ond os byddai, cynnil iawn oedd y mynegiant. Yr oedd yn rhy falch i fod yn un o wŷr y mawr gam. Dywedai air cynnil weithiau. Mewn llythyr yn diolch am rywbeth a ddywedais amdano yn 1922 dywedodd: "Nid wyf yn haeddu llawer o'r pethau da a ddywedir (na'r oll o'r pethau drwg a ddywedir gan eraill) ond nid yn ôl ei haeddiant y dymunai hyd yn oed y gorau ohonom gael ei farnu! Felly diolchaf i chwi am bob gair da a phob meddwl tyner a arferwch am yr eiddoch fyth yn ffyddlon, Vincent."
Yn Nhrawsfynydd y gwelais ef gyntaf erioed ond yn Llundain, fel yr. awgrymais, yr oedd yn ei elfen. Gŵyr y sawl a fu'n cael pryd o fwyd gyda Syr Vincent yn un o westai Llundain gyda pha awdurdod a gwybodaeth y byddai yn trefnu'r cinio neu pa bryd bynnag a fyddai. Byddai'r gwasanaethyddion yn ei adnabod ac yn ei gydnabod fel gŵr a wyddai beth oedd be'; byddai yntau yn canmol neu yn beio yn feistraidd, ac yn amlwg yn ei fwynhau ei hun. Yr oedd yr un mor awdurdodol yn Nhŷ'r Cyffredin; gwelodd do ar ôl to o aelodau Seneddol ac nid oedd y rhan fwyaf o'r rhai diweddar ond megis bechgyn—a bechgyn digon dibrofiad weithiau yn ei olwg ef. Gallech feddwl arno ar brydiau mai gŵr chwyrn oedd, ond cefais i ef bob amser yn hynod o garedig a meddylgar, ac nid oes amheuaeth nad un felly oedd yn y bôn. Yr oedd ganddo gyfoeth o atgofion am Gymry enwog ac anenwog ei ddydd ac yr oedd yn gydymaith eithriadol pan fyddai yn yr hwyl. Nid oedd yn ofni traethu ei farn ar bobl a phethau. "Ddeudith William ddim byd am neb," meddai Syr Henry Jones wrthyf un tro, wrth siarad am y diweddar William Jones, a fu'n aelod Seneddol dros Arfon, "ac y mae rhywbeth dymunol iawn yn hynny. Ond"—a daeth golau direidus i'w lygaid rhyfeddol, "mi fuasai'n beth reit annifyr tase pawb yr un fath!" Nid oedd Syr Vincent "yr un fath"; gallai lathennu, ond nid oedd bychander na gwenwyn ynddo.
Unwaith, mewn eisteddfod genedlaethol, flynyddoedd yn ôl, cyn dechrau cyngerdd yr hwyr, eisteddai Syr Vincent gyda mi wrth fwrdd y wasg a siaradai yn rhydd am bobl a phethau. Yr oedd y meicroffon yn beth newydd iawn yn yr eisteddfod honno, a chyn bo hir sylwodd Syr Vincent ar feicroffon ar ymyl y llwyfan, yn union ar ei gyfer. "Be' 'di hwnna?" meddai. Eglurais innau, ac ychwanegais, "Mi fuasai'r sgwrs yma'n bur ddiddorol i lawer pe buasai hwnna yn digwydd bod yn fyw." Edrych yn bur amheus ar y peiriant newydd a wnaeth Syr Vincent, a bu peth gwaith perswadio arno nad oedd berygl o gwbl.
Un o amcanion mawr ei fywyd oedd cael Cymry a oedd wedi eu henwogi eu hunain mewn gwahanol gyfeiriadau yn aelodau o'r Cymmrodorion, ac i gyrraedd yr amcan hwnnw yr oedd yn rhaid troi yn eu plith a myned ar eu hôl. Llwyddodd i fachu llu o Gymry a phobl o dras Gymreig wrth gerbyd y Gymdeithas, pobl a fuasai wedi colli pob cyffyrddiad a Chymru a phethau Cymreig oni buasai am y cysylltiad hwnnw. I ba raddau y bu hynny o fudd i Gymru y mae yn anodd dywedyd, ond yr oedd amcan Syr Vincent Evans yn dda, ac y mae'n amlwg oddi wrth ei eiriau ef ei hun ei fod yn credu ei fod yn gwasanaethu Cymru yn y modd yma.
Eisteddfod Wrecsam yn 1933 oedd yr olaf iddo fod ynddi. Yr oedd yn hen ŵr dros ei bedwar ugain oed erbyn hynny ac wedi myned yn bur fyr ei gam. Bu farw yn 1934 a theimlodd rhai ohonom, er fod yr holl flynyddoedd rhyngom, ein bod wedi colli cyfaill cywir. Pan oeddwn yn Llundain dro yn ôl aethum ar hyd Chancery Lane gan gofio am Syr Vincent a'r ystafell glyd yng nghefn y swyddfa lle bûm yn cael cwpanaid o de a sgwrs lawer gwaith. Yr oedd yr ystafell a'r swyddfa wedi mynd; nid oedd yno ddim ond y sylfeini adfeiliedig yn aros ar ôl y dinistr.

JOHN WILLIAMS, 1853—1921.
DEUDWCH Wrth bobl y Genedl am beidio gadael i X 'sgrifennu nonsense," meddai'r Parchedig John Williams, a oedd ar y pryd yn weinidog eglwys Princes Road yn Lerpwl. Dyna'r tro cyntaf i mi siarad ag ef, ag eithrio un tro am ychydig funudau rai blynyddoedd cyn hynny pan ddaeth i edrych amdanaf i'r Royal Infirmary a phan yr oedd ef a minnau mor dawedog a'n gilydd. Ar riniog drws ei dŷ yn Kingsley Road y rhoddodd y neges i mi i'w throsglwyddo i "bobol y Genedl." Yr oeddwn wedi galw i'w weled, ar gais y bobl hynny, i gael ymgom ag ef am y diwygiad—diwygiad 1904-6,-a oedd ar y pryd ar ei lawn anterth. Nid oeddwn fawr fwy na bachgen ar y pryd a chryn oruchwyliaeth i mi oedd wynebu un o wŷr enwocaf Cymru a'i holi, a hynny pan oedd yntau, fel y diwygiad, ar ei awr anterth. Yn wir, ni bu'r gorchwyl hwnnw—o fyrddio pobl a'u holi—erioed yn un hawdd i mi hyd yn oed ar ôl blynyddoedd o brofiad ac o ymdaro yn y byd, ac nid oedd John Williams, ar yr olwg gyntaf, yn ŵr hawdd iawn myned ato. Yr oedd yn dal ac yn urddasol ei osgo, yr oedd y talcen mawr a'r trwyn bwaog a'r ddau lygad agored yn peri ei fod yn ymddangos yn herfeiddiol ei drem, ac nid oedd ei ddull ychwaith yn rhwyddhau llawer ar y ffordd i fachgen swil fyned yn agos ato. Yr oedd braidd yn gwta a phrysur ei ffordd, fel pe buasai ganddo lawer o bethau eraill ar ei feddwl ac yn galw amdano, a dim llawer o amser i roddi sylw i chwi.
Ychydig a gofiaf am yr ymgom a fu rhyngom ag eithrio'r frawddeg a ddyfynwyd, ond yr oedd honno, ar lawer ystyr, yn nodweddiadol o'r dyn. Ni chlywswn i son erioed o'r blaen am yr X y cyfeiriai ato, er ei fod yn ŵr adnabyddus yn ei ddydd. Heblaw hynny, ychydig a wyddwn i am y Genedl ac yn sicr nid oeddwn wedi sylwi fod X wedi dywedyd dim y gellid ei alw yn nonsense. Ond nid oedd ei olygiadau ar y diwygiad wrth fodd John Williams, a'i duedd ef bob amser oedd datgan ei anghytundeb pendant a phopeth a oedd yn groes i'w farn ef ar y pryd. Ymhen blynyddoedd galwodd lawer o'r pethau a ysgrifennais innau yn nonsense. Ac os felly y teimlai, felly hefyd y llefarai, canys un felly oedd John Williams. Dywedodd y diweddar Athro David Williams wrthyf unwaith, "Y mae John Williams yn fyrbwyll ac yn cyfeiliorni yn amal, ond y mae o fel y gwelwch chi o." Camddeallwyd a chamliwiwyd llawer arno oblegid y duedd yma, ond ei onestrwydd cynhenid oedd wrth wraidd y peth.
Gwelais gryn lawer arno wedyn, yn ystod y diwygiad ac ar ôl iddo fyned heibio, a deuthum i'w adnabod yn weddol drwyadl. Bûm yn anghytuno ag ef yn bendant iawn ymhen amser—a chredaf hyd heddiw ei fod yn cyfeiliorni mewn barn yn ystod y rhan fwyaf o gyfnod y rhyfel mawr cyntaf. Yr oedd yn hawdd ei hud-ddenu gan rai pethau a rhai pobl. Yr oedd yn hygoelus iawn mewn rhai cyfeiriadau ac, fel llawer o bregethwyr, tybiai ei fod yn gwybod mwy nag a wyddai am wleidyddiaeth ac amgylchiadau'r dydd. Ond, wedi pwyso'r cwbl ynghyd, nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl nad oedd John Williams, Brynsiencyn, yn ddyn mawr iawn ac yn ddyn serchog iawn hefyd. Aeth Cymru yn wacach ac yn llai diddorol lle pan fu ef farw. "Does yma neb i wneud camgymeriadau 'rwan," meddai aelod o Gyfarfod Misol Môn wrth gwyno ei golled ar ei ôl, a gwyddem ni a oedd yn adnabod John Williams beth oedd ystyr y dywediad. Nid oedd ef, fel y rhelyw ohonom, yn rhy wyliadwrus ac ofnus i wneud camgymeriadau. Gwnai hwynt—a chamai drostynt yn ddigon dihidio.
Dywedais nad oedd, ar yr olwg gyntaf, yn ŵr hawdd myned ato. Dywedais hefyd ei fod yn ŵr serchog. Ac y mae'r ddau osodiad yn wir. Difrif oedd ei wedd y rhan amlaf, ond yr oedd swyn rhyfeddol yn ei wên, rhywbeth dengar ac agos atoch, rhyw gymysgedd prydferth o fawredd athrylith a'r plentyn. Y mae'n debyg fod yn rhaid i'r nodwedd honno fod yn rhywle ymhob dyn a swynodd y miloedd; yr oedd yn amlwg yn Napoleon, yn Lincoln, yn Gladstone, yn Garibaldi, yn Disraeli ac yn Lloyd George, a gellid amlhau enghreifftiau. Byddai Napoleon yn pinsio clust milwr cyffredin, yn ei gyfarch fel hen gydymaith—ac yn ei ennill am byth. Y mae'n amheus gennyf a fu yr un arweinydd mawr iawn heb y swyn personol yna ac y mae yr un peth yn wir am areithwyr mawr, y bobl sydd yn medru ysgwyd a rheoli miloedd o bobl a'u gair, ac hyd yn oed a'u golwg a'u trem. Yr oedd yn John Williams, ac yn y peth cyfrin hwnnw yr oedd rhan fawr o guddiad ei gryfder.
Yn ystod diwygiad 1904-6 bûm yn dilyn cyfarfodydd Mr. Evan Roberts yn Lerpwl, ym Môn ac yn Arfon, ac yn anfon adroddiadau i'r Genedl amdanynt. Nid dyma'r lle i roddi argraffiadau am y cyfnod rhyfedd hwnnw, ond gallaf ddywedyd un peth am y cyfarfodydd y bûm i ynddynt, gryn bedwar ugain ohonynt, sef mai John Williams oedd un o'r pethau hynotaf ynddynt. Nid oedd yn arbed dim arno ei hun; credai yn y diwygiad ac yn y diwygiwr a'i holl galon—ni allai gredu fel arall ynglyn â dim—a thaflodd ei hun gyda'i holl adnoddau a'i holl athrylith i'r mudiad. Camddeallwyd ef gan rai. Cyhuddid ef o geisio meddiannu'r diwygiwr, o gymryd lle rhy flaenllaw yn y cyrddau, o droi mudiad eang a chyffredinol i rigolau Methodistaidd, ond ni thybiaf fod dim o'r pethau hyn yn ei feddwl ef. Yr oedd ei weled yn un o'r cyrddau a'i glywed yn apelio, ei wyneb yn aml yn foddfa o ddagrau a'r wên weithiau yn pelydru trwyddynt, yn ddigon i fy argyhoeddi i ei fod yn hollol ddilys. Yr oedd ganddo ragfarnau cryfion ac nid bob amser y byddai yn gofalu ymha le nac yng nghlyw pwy y byddai yn eu traethu.
Cyfeiliornai yn ei farn am ddynion hefyd, eithr yr oedd ei gywirdeb bob amser y tuhwnt i bob dadl.
Bûm yn trafod y diwygiad gydag ef o dan amgylchiadau digon od. Yr oedd Mr. Evan Roberts yn aros gyda John Williams yn yr Wylfa, yng Nghemaes, Môn. Yr oeddwn innau yn lletya yn ymyl, yn barod i'w ddilyn pan ail ymaflai yn ei waith, ond yn y cyfamser ychydig iawn oedd gennyf i'w wneud. Un noson braf ym mis Mai neu ddechrau Mehefin yr oeddwn wedi myned am dro heibio'r Galan Ddu ar draws y marian ac i gyfeiriad y creigiau ar lan y môr, a daeth John Williams heibio, mewn siwt lwyd, clos pen-glin, a hen het lwyd, ddilun iawn, am ei ben. Yr oedd ganddo wn dan ei gesail. "'Ble 'rydach chi'n mynd?" meddai. Atebais nad oeddwn yn mynd i unlle neilltuol. "Rydw i yn mynd i drio am wnhingen," meddai yntau. "Dowch efo mi," A ffwrdd a ni. Ni chododd yr un pry y noson honno, ni chwiliwyd llawer, ond aeth y sgwrs yn naturiol at y mudiad a oedd yn cynhyrfu'r wlad ar y pryd. Siaradai am y diwygiad yn ddi-rodres; beirniadai rai pethau, yn bur graff hefyd, ond yr oedd yn ddigon amlwg fod y nerthoedd wedi ei gyffwrdd i'r byw. Yr oedd tynerwch ac argyhoeddiad a nwyd y pregethwr yn y pethau a ddywedodd y noson honno, gyda'r gwn yn segur dan ei gesail a ninnau yn cerdded trwy'r eithin a'r rhedyn yn sŵn y môr.
Ymhen wythnos neu ddwy wedi hynny yr oeddwn yn gwrando arno yn pregethu yn yr awyr agored yn Llangefni neu Lannerchymedd—nid wyf yn sicr iawn p'run erbyn hyn. Ond cofiaf yr argraff a adawodd arnaf. Amaethwyr a gweithwyr tir Môn a'u teuluoedd oedd yn tyrru o'i gwmpas—pobl wedi eu magu ar y tir ac yn byw wrth drin y tir, pobl y cefndir gwledig a thraddodiad hir cefn gwlad. A theimlwn mai un ohonynt hwy eu hunain oedd yn siarad wrthynt— ffarmwr fel hwythau, dyn wedi ei fagu yn yr un traddodiad ac heb ymadael ag ef, ffarmwr yn siarad wrth ffermwyr mewn iaith a oedd yn ddealladwy i bob un ohonynt, iaith bob dydd y bobl ond ei bod wedi ei chyffwrdd a marworyn oddiar allor athrylith. "Ffarmwr gogoneddus" oedd deffiniad Gwynn Jones o John Williams, ac os yr ystyr oedd mai gwladwr, ond gwladwr o athrylith, oedd, yna yr oedd y deffiniad yn ddigon cywir. Dyna oedd—amaethwr o sir Fôn a ddigwyddai fod hefyd yn berchen athrylith ac yn rheng flaenaf areithwyr Prydain yn ei ddydd. Y mae'n amhosibl deall John Williams heb gofio am y cefndir ym Môn. Carai ef Fôn mor angerddol ag y carai Goronwy hi, a gwasanaethodd hi yn ffyddlon iawn ar hyd ei oes. Un tro ceisiai berswadio gweinidog i ddyfod i Fôn i fyw, ac yr oedd gweinidog arall yn y cwmni.
"Y mae'n rhaid i chi ddwad i Sir Fôn acw," meddai John Williams yn bendant, yn ôl ei arfer. "Dyna'ch lle chi."
"Ie, Dr. Williams," meddai'r llall, yn wylaidd iawn, "ond beth os na bydd Rhagluniaeth yn agor drws i mi yno?"
"Twt, lol!" meddai'r trydydd gweinidog, "wyddost ti ddim mai Dr. Williams ydi Rhagluniaeth yn Sir Fôn!"
Nid oedd ef yn hoffi'r dywediad, ond yr oedd elfen o wir ynddo. Ym Môn yr oedd ei wreiddiau ac am Fôn yr ymglymodd ei serch.
Y mae'n debyg bod dydd y "pregethu mawr" wedi myned heibio yng Nghymru. Newidiodd chwaeth y cynulleidfaoedd—a defnyddiaf y gair chwaeth yn fwriadol, canys y mae llawer o arwyddion fod y diddordeb yn aros. Llenwir capeli mawr ar ddyddiau'r uchelwyliau, er y gellid amau mai ffurf ar adloniant ydyw gwrando pregethau i rai; beth bynnag am hynny, y mae'n amlwg fod diddordeb yn aros o hyd. Ond y mae'r chwaeth wedi newid. Cofiaf glywed John Williams yn pregethu ym Moriah, Caernarfon, ar nos Sul, ddeuddeng mlynedd ar hugain neu fwy yn ôl. Yr oedd y capel mawr o dan ei sang, yr oriel a'r llawr wedi eu llenwi a'u gorlenwi a llu mawr o bobl ieuanc yn y gynulleidfa. Pregethodd yntau am awr, pregeth lafurus, drom, ar dadolaeth Duw, a gwrandawodd y gynulleidfa yn astud o'r dechrau i'r diwedd. A fuasai peth felly yn bosibl heddiw?
Y mae'n wir mai John Williams oedd yn pregethu a bod ei enw ef y pryd hynny yn air teuluaidd yng Nghymru. Y cof sydd gennyf ydyw nad oedd y bregeth yn un o'i "bregethau mawr," ond traddodai gyda'r grym a'r urddas a oedd yn nodweddiadol o'i ddull bob amser, ac y mae un peth yn aros ar fy nghof hyd heddiw. Defnyddiodd gyffelybiaeth a fuasai wedi gwneud llongddrylliad ar bregeth pregethwr gwannach—ci yn rhedeg ar ôl trên, ac ambell gi, meddai, yn amlwg yn meddwl mai rhag ei gyfarthiad ef yr oedd y trên yn ffoi. Peth felly, ychwanegai John Williams oedd dyn yn beirniadu trefn Duw. Teimlwn ar y pryd fod medru gwneud peth fel yna heb golli urddas o gwbl, eithr yn hytrach ychwanegu at effaith y bregeth, yn dangos nerth a meistrolaeth berffaith ar ei gelfyddyd. Ond y mae'n anodd gennyf gredu y gellid cael cynulleidfa fel honno i wrando ar bregeth felly yng Nghymru heddiw. Daeth pen ar ddydd y bregeth fawr, gywrain ei saerniaeth, gyda'r is-uchafbwynt ar ddiwedd traethu ar bob pen, a'r prif uchafbwynt huawdl ar y diwedd. Ac am hynny y mae'n anodd gwybod a fuasai pregethu John Williams mor dderbyniol gan y cynulleidfaoedd erbyn hyn.
Ar yr un pryd y mae'n rhaid cofio ei fod yn areithiwr mawr iawn, yn feistr y gynulleidfa yng ngwir ystyr y gair. Dywedais yr hanes o'r blaen, ond ni allaf wneud braslun cywir o John Williams heb ddywedyd unwaith eto yr hyn a welais ym mhafiliwn Caernarfon yn Sasiwn 1905, yn yr oedfa chwech o'r gloch y prynhawn, pan bregethai ef ar ddameg yr hauwr. Eisteddwn ar y llwyfan, dipyn y tucefn i'r pregethwr, ac yr oeddwn mewn lle da i sylwi ar y gynulleidfa, tua chwe mil o rif, y mae'n debyg. Y mae'n rhaid cofio mai un o flynyddoedd y diwygiad oedd hi a bod teimladau llawer yn frwd. Ond dyma a ddigwyddodd. Yr oedd John Williams yn adeiladu ei bregeth o'r cychwyn, bron fel pe bai'n saer yn codi pont ac yn rhoddi pob carreg yn ei lle yn ofalus. Gwyddech mai dyna yr oedd yn ei wneud, ac fel yr ai ymlaen disgwyliech am yr adeg i roddi'r maen clo yn ei le a gorffen y bont. Nid oedd yn gwaeddi—anaml iawn y byddai yn gwneud hynny. Urddas, difrifwch, eglurder, a broddegau caboledig, cryfion, oedd nerth ei arddull ef, a siaradai gyda hamdden meistraidd, gan ddilyn llinell glir o feddwl o'r cychwyn. Yr oedd hynny, gyda llaw, yn ei nodweddu bob amser; bûm yn gwneud adroddiadau o gyfarfodydd lle'r oedd ef yn un o'r siaradwyr ac ni bu neb erioed yn haws ei ddilyn, canys yr oedd rhediad ei araith yn drefnus bob amser—yn symud yn naturiol o'r naill bwynt i'r llall, y ffrâm neu'r adeiladwaith yn gymhesur ac yn gadarn. Ac felly yr oedd y diwrnod hwnnw; bron nad oedd dyn yn dal ei anadl wrth wylio yr ymresymiad a'r bregeth yn dirwyn ymlaen.
Yr oedd hynny yn wir am y gynulleidfa. Yr oeddwn wedi hen arfer gwylio cynulleidfaoedd y pryd hynny yn rhinwedd fy swydd fel gohebydd papur newydd yng nghyrddau'r diwygiad, ac yr wyf yn gwbl sicr ynghylch yr hyn a welais yn y Pafiliwn y diwrnod hwnnw. Wedi cyrraedd tua canol y bregeth yr oedd John Williams yn ysgwyd ei fraich estynedig yn ôl a blaen dros astell y pulpud—symudiad araf, cyson, yn ôl a blaen, ac hollol naturiol iddo ef. A gwelais fod y gynulleidfa ar ganol y llawr yn siglo yn araf yn ôl a blaen hefyd fel pe buasent yn cadw amser gyda'r fraich, neu fel y llanw yn siglo gyda'r lloer. Ffolineb fuasai ceisio gosod terfynau i'r hyn y gallai dyn a fedrai effeithio felly ar filoedd o bobl ei wneud yn ein hoes ninnau.
Y noson honno cerddwn o'r Pafiliwn gyda John Williams. Ar yr allt safodd a dywedodd, "'Rydw i wedi gadael fy mhregeth yn y Beibl ar y pulpud; rhaid i mi fynd yn ôl i'w chael hi." Dywedais yr awn fy hun, ac aethum. Y cwbl oedd yno oedd tri neu bedwar o gardiau o faint cardiau post ac ychydig linellau ar bob un. Ymhen blynyddoedd wedyn gofynnais iddo a fyddai yn ysgrifennu ei bregethau. Gwyddwn ei fod yn paratoi yn ofalus hyd yn oed ar gyfer anerchiad byr mewn angladd neu bwyllgor, ond nid oeddwn sicr a fyddai yn ysgrifennu'r cwbl.
"Na fyddaf," oedd yr ateb. "Mi fum yn gwneud ar un adeg, hefyd. Pan oeddwn i'n weinidog ym Mrynsiencyn mi deimlais fy mod i'n mynd i ymddiried yn fy nawn ac yn pregethu yn rhwydd a llac, heb roi digon yn y bregeth. Mi es ati hi i ysgrifennu pregeth y nos yn y Bryn yn ofalus, bob gair, a hynny am gryn amser, gyda'r canlyniad fod pobl yn dweud fy mod i'n pregethu yn well o lawer yn y bore nac yn yr hwyr!"
Yr oedd yn feirniad pur fanwl ar bregethu, a chanddo syniad pendant iawn ynghylch sut y dylid pregethu.
"Glywsoch chi Prytherch yn ei methu hi?" meddai wrthyf un tro ar ôl oedfa mewn sasiwn lle'r oedd ef a'r diweddar William Prytherch wedi cyd-bregethu. "Glywsoch chi'r fath beth erioed."
"Be' 'dach 'n i feddwl?" meddwn innau, yn gweled fod y gwres wedi codi'n uchel.
Rydw i wedi deud wrtho fo dro ar ôl tro," meddai ffrom iawn, "ond waeth i mi heb! Mae o'n gneud y peth o hyd ac mi gwnaeth o heddiw-cyrraedd cleimacs ei bregeth ar ddiwedd y chwarter awr cyntaf ac yna mynd ar i waered o hynny i'r diwedd. 'Dwn i ddim be' sydd arno fo—pregethwr mawr iawn tase fo'n peidio gneud pethau fel yna." Gwyddwn ei fod yn ystyried William Prytherch y pregethwr mwyaf yng Nghymru yn ei ddydd ac ar ei uchelfannau, a dyna a barai ei fod mor ddig wrth weled ei arwr yn methu cyrraedd y nôd. Buasai wedi dweud yr un peth yn union wrth William Prytherch ei hun pe buasai yn y cyrraedd ar y pryd.
Nid oedd arno ofn siarad yn blaen. Unwaith, ar ôl oedfa'r nos, yr oedd ef a minnau yn cael swper yn nhŷ cyfaill, gŵr cyhoeddus pur adnabyddus. Dechreuodd John Williams ein beirniadu ein dau am na roddem fwy o wasanaeth i'r eglwysi y perthynem iddynt. Ceisiodd gŵr y tŷ droi'r stori.
"Gymrwch chi halen, Dr. Williams?" meddai.
"Hitiwch befo'r halen," meddai Dr. Williams, yn chwifio ei law yn awdurdodol ar draws y bwrdd. "Y gwir ydi nad oes yr un ohonoch chi wedi rhoi owns o'ch pwysau o dan yr achos erioed!" Yr oedd eisiau gonestrwydd a thipyn o ddewrder i siarad felly o dan yr amgylchiadau. Y mae'n deg ychwanegu, hefyd, fod gŵr y tŷ wedi gweithio cryn lawer gyda'r achos.
Arweiniai ei duedd i ddywedyd ei feddwl yn blaen a difloesgni i gyfyngau digrif weithiau. Unwaith, pan oeddwn yn golygu'r Goleuad, gofynnodd i mi sut y byddwn yn dewis dyn i ysgrifennu ar y sasiwn—yr oedd yn ffasiwn y pryd hynny cael ysgrif arweiniol heb enw wrthi yn adolygu gweithrediadau sasiwn cyn gynted ag y byddai wedi myned heibio. Atebais y byddwn yn ceisio dewis rhywun a wyddai gryn lawer am y gwaith ac a fyddai yn debyg o fod mewn cydymdeimlad ag ef.
"Da iawn," meddai yntau, "ond 'tydyn nhw ddim felly i gyd. Dyna chi'r dyn a 'sgrifennodd ar Sasiwn Beaumaris i'r rhifyn diwethaf, dyn na wyddai fo ddim am y Cyfundeb, ddyliwn i, ac na fuo fo erioed mewn sasiwn o'r blaen!"
Ni ddywedodd neb yr un gair, ond yr oedd yn galed arnaf. Yr oedd awdur yr ysgrif yn ŵr blaenllaw iawn yn y Cyfundeb, ac yn eistedd yn ymyl John Williams ar y pryd. Yr oedd yn rhaid cofio fod sasiwn yn sir Fôn, a sasiwn ym Meaumaris yn anad unman, canys un o ardal Beaumaris oedd ef ei hun, yn rhywbeth uwchlaw pob uchelwyl i John Williams, ac y mae'n debyg na aned y dyn a allasai wneud cyfiawnder a hwy yn ei farn ef. Y gwir oedd fod yr ysgrif yn un dda.
Cwynir weithiau fod pregethwyr yn eiddigeddus wrth ei gilydd ac nad ydynt yn hoffi clywed gormod o ganmol ar eu brodyr. Os yw hynny yn wir am rai, yr oedd ymhell iawn o fod yn wir am John Williams. Nid oedd derfyn ar ei ganmoliaeth i ambell un o'i frodyr, ac os byddai wedi clywed pregethwr ieuanc addawol canai glodydd hwnnw ar hyd a lled Cymru ac yn aml iawn rhoddai gynorthwy iddo mewn ffordd sylweddol. Yr oedd ei fawrfrydigrwydd yn yr ystyr yma yn nodedig; clywais amdano yn ymosod yn ffyrnig ac ar goedd ar flaenoriaid ei sir ei hun am beidio rhoddi cyhoeddiadau i "un o'r pregethwyr gorau a ddaeth i sir Fôn erioed," meddai ef, a thrwy hynny yn newid byd y gweinidog hwnnw. Yr oedd nodwedd arall ynddo yn amlycach i mi fel newyddiadurwr nag i lawer, efallai,—ni byddai byth yn ceisio cyhoeddusrwydd. Gŵyr pob un a fu ynglyn a phapur newydd fod llawer o hela cyhoeddusrwydd, o ofalu fod symudiadau a dywediadau yn cael eu croniclo, o beidio dodi'r gannwyll dan lestr, a dweud y lleiaf. Y mae'r peth yn gelfyddyd gain gan rai—yn gelfyddyd, beth bynnag. Nid oedd dim o hynny yn John Williams; ni cheisiodd gennyf roddi gair amdano mewn unrhyw bapur y bûm ynglyn ag ef erioed—ag eithrio unwaith. Dywedodd wrthyf ychydig ymlaenllaw fod Prifysgol Cymru yn rhoddi gradd D.D. iddo, "rhag," meddai, "i'r hen bapurau bach yna ei gael o'ch blaen chi." Ac yr oedd yn amlwg ei fod yn swil wrth ddweud cymaint a hynny.
Gallech fod yn hollol sicr o'i onestrwydd bob amser ond nid bob amser y gallech ddibynnu ar ei farn.
Byddaf yn cofio amdano un diwrnod yn nechrau y rhyfel mawr cyntaf. Yr oedd y Weinyddiaeth wedi cyhoeddi yr oedid rhoddi Mesur Datgysylltiad mewn grym tra byddai'r rhyfel. Gofynnodd John Williams i mi groesi Menai i'w weled yn ei dŷ yn Llwyn Idris. Aethum, ar brynhawn teg, a chael fod y diweddar Barchedig Thomas Hughes, o'r Felinheli y pryd hynny, un o weinidogion amlycaf yr Eglwys Fethodistaidd, yno hefyd. Eisiau codi gwrthryfel yn erbyn y Mesur Oedi oedd ar John Williams, ac yr oedd yn ffrom iawn. Penderfynwyd galw cynhadledd yn y Rhyl i wrthdystio, a ni ein tri a ysgrifennodd y rhybuddion yn ei galw, os wyf yn cofio yn iawn. Cofiaf yn eithaf da i ni fod wrthi yn ysgrifennu trwy'r prynhawn, er na wn i erbyn hyn pa awdurdod oedd gennym na pha fodd y gwnaed y trefniadau. John Williams oedd y mwyaf tanllyd ohonom yn ei wrthwynebiad, a bygythiodd roddi Cymru ar dân os mynnai'r Weinyddiaeth oedi estyn cyfiawnder iddi ar ôl yr holl flynyddoedd.
Daeth diwrnod y gynhadledd a daeth llu o bobl i'r Rhyl. Yr oedd yn amlwg fod Lloyd George wedi anesmwytho; yr oedd ysgrifau yn y papurau Saesneg yn ceisio darbwyllo Cymru rhag peri anhwylustod i'r Weinyddiaeth yn y fath gyfwng. Cofiaf apêl mewn un papur dylanwadol at arweinwyr Cymru i beidio bod "yn ddynion bychan mewn cyfwng mawr," neu eiriau i'r un perwyl. Yr oedd yr arwyddion yn hawdd eu hadnabod i'r rhai ohonom a oedd yn arfer dilyn symudiadau gwleidyddol yng Nghymru yn y blynyddoedd hynny, pan yr oedd ei ddylanwad yng Nghymru a'i allu i sicrhau ei theyrngarwch yn rhan pur bwysig o ddylanwad Lloyd George yn y Senedd ac yn y Weinyddiaeth. Yr oedd y tir yn cael ei baratoi ganddo yn ofalus ar gyfer y Rhyl. Nid oedd yn hoffi annibyniaeth yng Nghymru.
Eithr nid oedd hynny wedi menu dim, hyd y gallwn weled, ar y gynhadledd. Yn hytrach, yr oedd y cyfeiriad at "ddynion bychan" wedi peri i lawer ffromi ac wedi cryfhau eu penderfyniad i wrthwynebu bwriad y Weinyddiaeth. Ond yr oedd un eithriad, a John Williams oedd hwnnw. Gwyddem oll erbyn hynny ei fod wedi bod yn Llundain a'i fod wedi gweled Lloyd George, a gwyddem oll hefyd pa beth a olygai hynny. Gallai Lloyd George swyno John Williams; yr oedd ganddo hoffter tuag ato yn bersonol ac edmygedd, diderfyn bron, o'i athrylith. Teimlad hollol onest felly oedd, yn fy marn i, yn cyfrif am y dylanwad aruthrol a oedd gan Lloyd George arno am flynyddoedd, ac nid oedd neb a wyddai am y dylanwad hwnnw yn well na Lloyd George ei hun. Defnyddiodd ef er mwyn lleddfu dig John Williams o flaen cynhadledd y Rhyl. Ni allai ddyfod yno ei hun, megis y gwnaeth yng Nghaerdydd yn fuan ar ôl iddo ddyfod yn Weinidog y Goron a phan gyfodwyd baner gwrthryfel o'r blaen. Ond gofalodd fod y gŵr a oedd fwyaf cyfrifol am alw'r gynhadledd yno i liniaru ac i ddofi ac i roddi ei achos ef ger bron hyd y byddai hynny yn bosibl. Gwnaeth John Williams araith ddof, eto heb droi ei gefn ar y gwrthwynebiad, a defnyddiodd un frawddeg a andwyodd lawer ar ei ddylanwad. "Gwyliwch chi ddigio hwn," meddai am Lloyd George, ac nid oedd y rhybudd yn dderbyniol.
Yr oedd y digwyddiad yn nodweddiadol o'r dyn, yn ei nerth a'i wendid. Mewn gwirionedd, ni fwriadwyd ef i fod yn arweinydd gwleidyddol nac, efallai, hyd yn oed yn wleidydd eglwysig. Yr oedd yn rhy dueddol i gymryd ei gario gan deimlad y foment ac i ffurfio barn o dan ddylanwad eraill. Hwyrach na buaswn yn rhoddi'r peth yn rhy gryf pe dywedaswn ei fod yn rhy onest. Eto oni buasai am y gwendidau hyn ni buasai mor ddwfn yn serch y rhai a oedd yn ei adnabod orau. Trwy'r cwbl, nid oedd gan neb ohonom amheuaeth am ei wir fawredd. Yr oedd yn llinach y cewri; ni allech fod yn ei gwmni heb feddwl am John Elias a Christmas Evans, Williams o'r Wern a John Jones, Talsarn. Dyna ei draddodiad ef, traddodiad pregethwyr mawr Cymru, ac yr oedd yn byw yn awyrgylch y traddodiad hwnnw. Gyda'r gwn dan ei gesail a'r hen siwt lwyd amdano neu yn ffroc-côt a het silc y sasiwn, ni ellid amau ei darddiad yn uniongyrchol o'r egni a ffrwydrodd yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Ar rai ystyron yr oedd yn un o'r rhai olaf yn y traddodiad digamsyniol hwnnw.
Y tro olaf i mi ei weled oedd yn eisteddfod Caernarfon yn 1921. Nid oeddwn wedi ei gyfarfod ers tro cyn hynny a Yr oedd brawychais wrth weled yr olwg guriedig oedd arno. yn amlwg fod rhywbeth pur fawr wedi digwydd. Buom yn siarad, ef, Ellis Davies, Syr Vincent Evans a minnau, am ysbaid wrth fwrdd y wasg cyn i'r cyngerdd ddechrau un noson, a sylwais fod yr hen ynni fel pe'n gwanhau, er fod cryn lawer o'r hen bendantrwydd yn aros. Siaradem am gofiant i Evan Jones, Caernarfon, a bu'n trafod ei nodweddion am ysbaid. Yna ffarweliasom, a minnau yn teimlo fod rhywbeth difrifol o'i le ar iechyd y gŵr a fyddai mor gawraidd ei olwg gynt. Cyn pen hir daeth y newydd am ei waeledd, ac un diwrnod ym mis Tachwedd, 1921, clywais, ar heol Caerdydd, fod John Williams, Brynsiencyn, wedi marw. Daeth distawrwydd dros y cwmni; credaf fod pawb oedd ynddo yn teimlo, fel finnau, fod rhywbeth mawr a byw iawn wedi myned allan o fywyd Cymru. Ni welwyd ac ni welir neb yr un fath ag ef. Y mae'n gorwedd yn ymyl John Elias ym mynwent Llanfaes, ac ni theimla neb fod dim anghydweddol yn yr agosrwydd hwnnw.
Rhai blynyddoedd ar ôl ei farw troais i'r fynwent dawel honno yng nghanol caeau distaw Môn ac yn ymyl lli Menai. Holais wraig a oedd yn cerdded ar hyd un o'r llwybrau ynghylch y beddau.
"Y mae'n debyg," meddwn, "fod llawer yn dwad yma i weled bedd John Elias a bedd Dr. John Williams?"
"Oes, lawer iawn," meddai hithau, "ond dim cymaint erbyn hyn ag a fu. Tir angof ydi o, ynte?"
Ie, ond y mae rhai yn gorwedd yno na ddylai Cymru eu anghofio.

JOHN ARTHUR PRICE, 1861-1942.
Bu John Arthur Price farw yn 1942, yn bedwar ugain oed. Ychydig iawn o Gymry a wyddai amdano ac nid oedd ei enw yn cyfleu dim i'r rhan fwyaf o bobl a ddarllenodd yn y papur fod Canghellor Esgobaeth Bangor wedi marw. Yn wir, ni bu yn adnabyddus i lawer iawn o'i gyd-wladwyr ar hyd ei oes, ond i'r sawl a oedd yn ei adnabod yr oedd yn un o wŷr mwyaf diddorol ei gyfnod ac, ar lawer ystyr, yn un o'r rhai hoffusaf. Cofiaf yn dda fy nghyfarfyddiad cyntaf ag ef, dros ddeugain mlynedd yn ôl. Newyddiadurwr ieuanc oeddwn i ac yntau yn fargyfreithiwr, yn ysgolhaig ac yn ŵr a oedd eisoes wedi ennill ei le fel ysgrifennwr i rai papurau pur ddylan- wadol. Yr oedd yn myned i briodi merch o Feirion, a chael y manylion am hynny oedd fy neges i fel dyn papur newydd gydag ef ar y pryd.
Yr oedd yn hawdd gweled ar yr olwg gyntaf ei fod yn ŵr hynod; yr oedd yn dal ac yn fain y pryd hynny—trymhaodd ymhen blynyddoedd—ac yr oedd yr amhariad a oedd ar ei leferydd yn amlwg iawn y diwrnod hwnnw. Y mae'n anodd ei ddisgrifio; ni ellid ei alw yn atal dywedyd; yn hytrach dywedyd diatal ydoedd, y geiriau megis yn rhuthro allan yn gyflymach nag y gallai ef eu trefnu a'i wefusau fel pe na buasai ganddo reolaeth lawn arnynt. Parhaodd hyn i'w nodweddu hyd y diwedd; "John is always spluttering," meddai un a'i hadwaenai yn dda, ac am wn i nad oedd hynny cystal deffiniad a dim y gallaf ei roddi o'i ddull o siarad. Chwythai yn galed trwy ei ffroenau weithiau, hefyd, a gallai edrych yn bur syn. Y tro cyntaf hwnnw bûm am beth amser yn methu gwybod yn iawn pa beth i'w feddwl ohono.
Ond cyn bo hir dechreuodd fy holi ynghylch fy ngwaith a siarad yn gynnil am ei waith yntau fel newyddiadurwr, yn gymwys fel pe buasem ar yr un tir yn union o ran oed a phrofiad, heb unrhyw arlliw o nawddogaeth nac o siarad i lawr at un a oedd flynyddoedd lawer yn iau nag ef. Yr oedd hynny yn nodweddiadol o John Arthur Price; yr oedd yn ŵr bonheddig trwyddo draw—yn ŵr bonheddig od, os mynnwch, ond yn un trwyadl y tuhwnt i bob dadl. Ac o'r dydd hwnnw buom yn gyfeillion. Ai blynyddoedd heibio weithiau heb i ni gyfarfod, ond byddwn yn clywed oddiwrtho yn lled aml ac yr oeddwn yn sicr yn fy meddwl fod gennyf gyfaill cwbl ddidwyll ynddo ef ac un y gellid ymddiried ynddo hyd y carn. Ni thybiaf y buasai twyll na ffug na dichell yn bosibl iddo.
Yr oedd yn gyfreithiwr dysgedig. Y mae'n amheus gennyf a fu yn ymddangos yn aml mewn llys, eithr yr oedd iddo air uchel iawn fel awdurdod ar y gyfraith eglwysig ac ymgynghorid ag ef byth a beunydd ar faterion o'r fath. Ysgrifennai gryn lawer i bapurau a chylchgronau Lloegr, yn enwedig y rhai Eglwysig, a bu ar un adeg yn ysgrifennu yn weddol gyson i'r Manchester Guardian. Ond nid ei wybodaeth o'r gyfraith na'i waith fel newyddiadurwr a'i gwnai yn ddiddorol ac yn bwysig hefyd—i Gymro, eithr ei ddiddordeb dwfn a'i gariad eirias at Gymru a'i gred diball ynddi fel cenedl. Yr oedd John Arthur Price yn genedlaetholwr argyhoeddedig a chadwodd ei ffydd hyd y diwedd.
Yr oedd hynny yn beth digon rhyfedd, ar lawer ystyr. Ganed ef yn yr Amwythig, yn 1861, yn fab i gyfreithiwr adnabyddus yn y dref honno. Cefndir y dosbarth tiriog, a dosbarth tiriog y cyfnod hwnnw, pan yr oedd y peth yn golygu rhywbeth neilltuol, oedd ganddo yn ei ieuenctid. Bu yn ysgol enwog yr Amwythig. Ni chlywodd, hyd y gwn i, air o Gymraeg yn ei gartref erioed; ni siaradai yntau Gymraeg i'r diwedd. Nid wyf yn sicr faint a ddeallai; y mae argraff ar fy meddwl ei fod yn darllen Cymraeg i ryw raddau. Gwn y byddai yn derbyn Y Genedl. Gwn hefyd na fynnai ysgrifennu Cymraeg. Magwyd ef yn Eglwyswr mewn adeg pan yr oedd bod yn Eglwyswr bron yn gyfystyr, ym meddwl llawer o Gymry, a bod yn wrth—Gymreig; ac Uchel-Eglwyswr argyhoeddedig a defosiynol,—Catholig a fuasai'r ansoddair a ddefnyddiasai ef,—a fu hyd ddiwedd ei oes. Pan wahoddwyd ef, yn y blynyddoedd olaf, i fod yn Ganghellor Esgobaeth Bangor anfonodd ataf i ddywedyd yr ofnai fod ei iechyd yn rhy fregus iddo allu derbyn y swydd, ond ceisiais ei berswadio i gydsynio—y pryd hynny ni wyddwn ei fod cyn hyned—a gwyddwn ar ei lythyrau fod y gwahoddiad wedi ei foddhau yn fawr iawn. Byddai yn dyfod i Lanaber, ger yr Abermaw, gyda'i fam pan oedd yn fachgen ac yn ddyn ieuanc; yr oedd ganddi hi beth eiddo yn y gymdogaeth, mi gredaf. Daeth felly i wybod rhywbeth am Gymru ac i adnabod rhai Cymry. Eithr ni thybiaf y buasai hynny wedi deffro ei gariad at wlad ei dadau—canys teulu Cymreig oedd y teulu—oni buasai am ddylanwad arall.
O ysgol yr Amwythig aeth i Rydychen ac yno cyfarfu a Chymro o Lerpwl, John Edward Lloyd. John Edward Lloyd a enynnodd y fflam o wladgarwch a fu'n llosgi ym mynwes John Arthur Price o hynny hyd ei fedd. Dywedodd wrthyf lawer gwaith fel y bu ef a'i gyfaill yn cyd-gerdded ac yn sôn am Gymru ac fel y deallodd am y tro cyntaf erioed wrth wrando ar y gŵr ieuanc o Lerpwl beth a olygai Cymru i'w phlant a'r cariad cryf a dwfn a oedd yn llosgi yn eu mynwesau tuagati. Ni buasai trem arwynebol ar y gŵr a ddaeth yn enwog fel athro ac hanesydd yn peri i chwi feddwl y buasai yn lladmerydd tanllyd iawn dros Gymru. Gŵr hamddenol ei ddull a thawel ei air oedd ef, yn dal y ffrwyn yn dynn i bob golwg ar ei deimladau ac hyd yn oed ar ei frwdfrydedd. Ond gwyddai'r sawl a oedd yn adnabod Syr John Edward Lloyd yn iawn pa mor ddwfn oedd ei gariad at ei wlad, cariad a brofodd trwy roddi oes hir o wasanaeth tawel a gwerthfawr iawn iddi.
"It was from Professor Lloyd," medd John Arthur Price, yn yr atgofion a ysgrifennodd i'r Genedl flynyddoedd yn ôl, "while he was under the spell of Welsh Liverpool, that I learned my first lesson in modern Welsh Nationalism, as we took many a walk together in the country roads round Oxford, and passed scenes immortalized by men like Newman and Matthew Arnold in modern times and Fair Rosamond' and Amy Robsart in the days that are far away. Lloyd explained to me that Welsh Nationalism was not a memory of the ages that were past but a real power in the hearts of modern Welshmen. And from him I learned that Welsh Nonconformists were really interested in the past of Wales and proud of it."
Tori oedd Price o ran ei syniadau gwleidyddol ar y pryd ac am beth amser wedyn; ffraeodd ag Owen Morgan Edwards ynghylch ymreolaeth i Iwerddon yn ystod eu cyfarfyddiad cyntaf yn Rhydychen. Yr oedd "O.M." yn ddig iawn am fod yr aelod tros Feirion, Henry Robertson, gŵr y bu ef yn gefnogol iddo yn hytrach nag i Morgan Lloyd, wedi pleidleisio yn erbyn ymreolaeth, a dywedodd John Arthur Price rywbeth dirmygus am Iwerddon. Trodd "O.M." i ymosod ar yr Eglwys yng Nghymru a rhwng popeth ni bu'r cyfarfyddiad cyntaf hwnnw rhwng dau wladgarwr yn un dedwydd iawn.
Ymhen peth amser, wedi gadael Rhydychen, a phan oedd yn Llundain yn paratoi ar gyfer y Bar, aeth Price gydag un arall a oedd yn Rhydychen yr un pryd ag ef i gyfarfod o gymdeithas Cymru Fydd a gynhelid mewn ystafell yn Fetter Lane. Ymhlith y rhai oedd yno enwa T. J. Evans, a fu'n golygu Celt Llundain am flynyddoedd, Ifor Bowen, a fu wedyn yn farnwr y Llys Sirol, Phillip Williams, a Lleufer Thomas (Syr Lleufer Thomas, ynad yn y Rhondda wedyn). "Here," medd John Arthur Price, "were young men who had none of the Oxford cynicism or of the St. Asaph pessimism, young men who had an unselfish love for Wales, a real desire to help her to make herself a nation. . . I left the gathering a convinced Welsh Home Ruler." Ac felly y parhaodd ar hyd ei oes.
Yr oedd ar un olwg yn naturiol iddo fyned i'r cyfeiriad yna pan ystyriwn y dylanwadau y daeth i gysylltiad a hwy. Unwaith y cyfarfu a Tom Ellis tra yr oedd y ddau yn Rhydychen, ond yr oedd yn aelod o'r un coleg, sef Balliol, â Puleston Jones, ac yr oedd Hartwell Jones a Llywelyn Williams a John Rowlands, mab y Parch. Daniel Rowlands, Bangor, a gŵr pur alluog, ymhlith ei gyfeillion. Ond yr oedd ochr arall i'r darlun. Gyda dosbarth anghymreig yr oedd ei gysylltiadau agosaf yng Nghymru, y dosbarth tiriog a'r dosbarth canol cefnog ac Eglwysig. Yr oedd ei gyfathrach a'r bywyd Eglwysig yn agos iawn er ei fod wedi colli ei afael ar ei ffydd am ysbaid wedi myned i Balliol. Amheuaeth ymchwilgar ac anesmwyth iawn oedd ei eiddo ef, hefyd, a daeth yn ôl i'r gorlan yn ei ddull ac yn ei amser ei hun. Yn ystod yr amser y byddai yn aros yn Llanaber gyda'i fam y sylweddolodd fod rhywbeth mewn Ymneilltuaeth; dywed fel y dysgodd ryfeddu at "ffydd syml" ei gymdogion Ymneilltuol yno a sonia am ei barch cynyddol tuagatynt. Er ei fod yn un o'r Eglwyswyr "uchaf" a adnabum erioed, yr oedd yn deall Ymneilltuaeth Cymru yn well na llawer o'r Ymneilltuwyr eu hunain ac yr oedd ei barch iddi yn ei phethau gorau yn ddwfn ac yn gywir iawn.
Yr oedd ei droedigaeth oddiwrth amheuaeth dyddiau Balliol at Gatholiciaeth Anglicanaidd gweddill ei oes yn drwyadl; ni allai neb fod yn hir yn ei gwmni heb gael ei argyhoeddi ei fod yn ddyn duwiol, mewn dull gwahanol iawn i'r hyn yr oedd y rhan fwyaf ohonom wedi arfer ag ef, y mae'n wir, ond yn hollol ddiffuant. Ei droedigaeth fawr arall oedd
oddi wrth Doriaeth at Ryddfrydiaeth a Chenedlaetholdeb,—y ddau beth ar y pryd yn gyfystyr, neu bron a bod felly, yng Nghymru. Pan oedd yn Rhydychen ac yn darllen am y Bar yr oedd yn Dori cydwybodol. Cymysgai lawer â chlerigwyr Esgobaeth Llanelwy ar un adeg, ac yr oedd Rhyfel y Degwm yn chwerw yn y rhanbarthau hynny. Credai John Arthur Price yr hyn a glywsai ac a ddarllenasai am elyniaeth y ffermwyr Cymreig at y meistri tir ac at yr Eglwys, a dywed ei fod, megis llawer o'i gydnabod, yn disgwyl clywed unrhyw ddydd fod y guerre aux chateaux wedi torri allan, fel yn y chwyldroad yn Ffrainc. Byddai yn cael tipyn o hwyl am ei ben ei hun wrth adrodd yr hanes, ond yr oedd yn amlwg iddo fod ar un adeg yn adlewyrchiad pur gywir o farn a dull meddwl y dosbarth tiriog yng Nghymru a'u hefelychwyr y pryd hynny. Aeth y dull hwnnw o feddwl heibio i raddau pell erbyn hyn, er fod anwybodaeth rhai pobl sydd yn byw yng Nghymru am Gymru yn parhau yn rhyfeddol o hyd, eithr ychydig iawn a aeth trwy'r datblygiad yr aeth John Arthur Price trwyddo. Parhaodd yn Eglwyswr teyrngar a defosiynol, ond daeth i fod yn Rhyddfrydwr, yn gefnogwr i ddatgysylltiad, yn awyddus am ddiwygio deddfau'r tir, ac, uwchlaw'r cwbl, yn Gymro a garai Gymru a'i holl galon.
Yr oedd yn ŵr diddorol ei gwmni. Bûm fwy nag unwaith yn cydfwyta ag ef ac yn trafod naill ai gwleidyddiaeth neu grefydd. Yr oedd, meddir, yn awdurdod ar winoedd ac ar seremonïau ynglyn a gwinoedd. Llefarai fel un ag awdurdod ganddo wrth benderfynu pa winoedd a fynnai gyda'i ginio a byddai'r gwŷr a oedd yn gofalu am y gwin mewn clybiau a gwestai yn gwrando arno gyda pharch. I mi, wedi fy magu o dan amodau a chyda syniadau pur wahanol, yr oedd hyn oll yn gyfrinach y tuhwnt i'm cyrraedd, ond rhoddai John Arthur Price bwys mawr arni ac yr oedd ganddo syniadau pendant ynghylch y ffordd briodol o yrru'r botel win o gylch y bwrdd, hyd yn oed os na byddai yno neb ond ef ei hun yn yfed. Tybiaf ei fod yn parchu egwyddor llwyrymwrthodwyr, ond parch tosturiol oedd; credai eu bod yn ymwrthod heb reswm ag un o fendithion rhagluniaeth. A rhag ofn i rywun dynnu camgasgliadau, hwyrach y dylwn ddywedyd ei fod yn ddirwestwr diargyhoedd yn ystyr briodol y gair.
Fel yr oedd yn heneiddio credaf fod ei ddiddordeb yn y byd o'i gwmpas yn gwanhau; hen bethau oedd pynciau ei lythyrau ataf gan mwyaf yn y blynyddoedd olaf, ag eithrio pan ysgrifennai ynghylch ryw bwnc neu berson Eglwysig. Un o'r ysgrifau olaf a gefais ganddo oedd un ar y diweddar Tra Pharchedig William Williams, Deon Tyddewi, ac y mae y pethau a ddywed yn honno yn bur nodweddiadol. "He impressed me," meddai am y Deon, "as a man who was at once in a religious sense a keen Welsh Nationalist and a High Churchman, though of a peculiar kind. I never knew a man in Wales, Churchman or Nonconformist, who was more deeply attached to the Welsh language than was William Williams. On one occasion a Welsh Calvinistic Methodist who had wandered to St. Davids attended a morning service in the cathedral to hear Dean Howell, of whose fame as a preacher he had heard great things, deliver a sermon. He was disappointed. In the first place Howell preached in English, and secondly that particular sermon was not very impressive. However, the Calvinistic Methodist attended the evening service and heard William Williams (who was then Canon of St. Davids) preach in Welsh. He told his friends when he got home that Canon Williams was indeed a great Welsh preacher. . . He was a High Churchman of a particular nationalist type. He desired the Church to be in all respects a national institution, using the Welsh language and having an Archbishop of its own. He longed in other words for a sort of Nationalist Welsh sacerdotal Church, the ideal, perhaps, of the ancient pre—Norman Bishops of St. David's and of Giraldus Cambrensis, but one hardly suited to his own time. He was at the same time strongly hostile to the Church of Rome and somewhat suspicious of the Church of England. Still, like most contemporary Welsh clergymen, he was strongly opposed to Welsh Disestablishment and at the end of the contest expressed his disgust that the English voters had not rallied more enthusiastically to the cause of the Church in Wales. But after Disestablishment was an accomplished fact his opinion' changed. The Church, especially that section of the Church to which he belonged, had, he freely admitted, gained by the change, and he had the kindness to tell me that in advocating Disestablishment I had realised the true interests of the Church in Wales more correctly than he had done. In spite of his Nationalism and High Church theories William Williams had something in common with the Evangelical movement. He was a total abstainer, a strong advocate of temperance and in his general attitude to social life he was something of a Puritan." Yr oedd John Arthur Price wrth ei fodd pan yn dadansoddi cymeriadau yn y dull yna a cholled i'r Eglwys yng Nghymru ac i Gymru gyfan oedd na buasai wedi ysgrifennu llyfr ar hanes diweddar yr Eglwys.
Bu adeg pan obeithiai yn aiddgar am weled Cymru yn ei mynegi ei hun yn wleidyddol ac yn mynnu ymreolaeth, ond credai fod pob gobaith am hynny wedi diflannu am genedlaethau o'r dydd y cymerodd Tom Ellis swydd yng Ngweinyddiaeth Gladstone. Ar yr un pryd, gwyliai bob tuedd tuagat annibyniaeth wleidyddol yng Nghymru gyda'r diddordeb mwyaf a chyda graddau o obaith. Cymerai ddiddordeb mawr yn Mr. Saunders Lewis ac yr oedd ganddo feddwl uchel iawn ohono. Credaf ei fod yn parhau hyd y diwedd yn gwbl argyhoeddedig mai mewn ymreolaeth yr oedd unig obaith Cymru fel cenedl, a gellir dywedyd hyn yn ddibetrus amdano—yr oedd ganddo drylwyrach gwybodaeth am hanes a datblygiadau diweddar Cymru yn wleidyddol nac odid neb y gwn i amdano. Ei ysgrif ef ar Tom Ellis yn Welsh Political Leaders of the Nineteenth Century ydyw un o'r pethau gorau a ysgrifennwyd erioed ar y gŵr hwnnw ac ar wleidyddiaeth Cymru yn y cyfnod hwnnw.
Dywedais fod ei feddwl yn troi yn fwy at yr amser a fu fel yr heneiddiai. Y mae'n wir iddo dderbyn Cangelloriaeth Esgobaeth Bangor ychydig cyn iddo farw a'i fod yn falch o'r ymddiried a osododd yr Eglwys arno, eithr gwyddai yn ei galon ei fod yn rhy guriedig i allu gobeithio bod am dymor hir yn y swydd. Collasai ei briod ac yr oedd yn aros yn Nhrawsfynydd, yn fregus iawn ei iechyd. Yr oedd tinc o ddigalondid yn ei lythyrau, ond yr oedd rhai o'r hen ddiddordebau yn parhau o hyd. Ebrill 27, 1942, yw dyddiad y llythyr diwethaf a gefais ganddo, llythyr o naw tudalen yn ei lawysgrif ryfeddol, na allai ond ychydig iawn ei darllen. Y mae hwnnw yn hollol nodweddiadol o'r dyn; traethawd yw ar y Syr Watkin Williams Wynn a oedd yn gefnogydd i Charles Stuart yn 1745, a'i amcan oedd rhoddi gwybod i mi am rai ffeithiau diddorol a allai fod o ddefnydd i mi. Yr oedd y caredigrwydd mor nodweddiadol a'r pwnc. Ac efallai fod yr ôl-ysgrif yn fwy nodweddiadol fyth. Nid yw ond brawddeg, ar dudalen olaf y llythyr hir ynghylch digwyddiad ddwy ganrif yn ôl. "Is not the war wearisome?", a dyna'r cwbl—yn 1942.
Nid oeddwn wedi ei weled ers rhai blynyddoedd cyn hynny. Yng Nghaernarfon y bu'r cyfarfyddiad hwnnw, a gofynnodd i mi gyd-gerdded ag ef i'r stesion. Brawychais wrth weled mor fyr oedd ei gam ac mor araf ei symudiad. Pwysai ar fy mraich ar hyd y ffordd. Ond er fod y corff yn amlwg yn llesgau yr oedd y meddwl mor finiog ag erioed a'r diddordeb mor fyw hynny ydyw, yn y pethau y cymerai ef ddiddordeb yn meddu y fath allu i ynddynt. Ni chyfarfûm i neb erioed anwybyddu y pethau nad oeddynt yn apelio ato ef; gallasech feddwl nad oeddynt yn bod. A llyncid ef yn llwyr gan y peth y byddai yn ymddiddori ynddo ar y pryd. Er hynny gofalai na byddai yn blino ei gydymaith ar unrhyw bwnc. Buasai yn dda i Gymru pe buasai ganddi ychwaneg o rai tebyg i John Arthur Price i'w charu a'i gwasanaethu.

ANTHROPOS, 1853-1944.
I FEDDU syniad clir am fywyd llenyddol Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y mae'n rhaid darllen llu o lythyrau beirdd a llenorion, llythyrau megis y rhai a geir yn Atgof Uwch Angof Myrddin Fardd, gohebiaethau yn y cylchgronau a'r papurau newydd ac, am flynyddoedd olaf y cyfnod, rifynnau'r Geninen Eisteddfodol. Yr argraff a adewir ar eich meddwl ydyw fod yma weithgarwch mawr, ynni di-hysbydd a diddordeb diderfyn mewn llu o bethau dibwys iawn. Cenid awdlau a cherddi maith ac enillai eu hawduron safle a chlod am eu gwaith, ond pan holir pwy oedd yn darllen y cerddi y mae'n anodd iawn cael ateb. Llenwid colofnau'r papurau newydd â dadleuon ynghylch dyfarniadau eisteddfodol, ymohebai'r beirdd a'r llenorion a'i gilydd ynghylch manion eisteddfodol a chystadleuol fel pe buasai anfarwoldeb yn y glorian, a siaradent amdanynt eu hunain fel pobl oedd yn teimlo eu bod yn perthyn i urdd a dosbarth ar wahan. "Ni'r beirdd," meddent, a chyfarchent ei gilydd gan ofyn "Sut mae'r awen?" Cyfyng iawn oedd gorwelion llawer ohonynt a chyfyngedig iawn oedd eu gwybodaeth, hyd yn oed am lenyddiaeth eu gwlad eu hun. Ansicr oedd eu safonau, ac yr oeddynt wedi colli cyffyrddiad a'r hen draddodiad Cymreig bron yn llwyr.
Yr oedd y bywyd egniol yma yn cydoesi â bywyd arall nad oedd yn cymryd y sylw lleiaf ohono. Yn ddiweddar bûm yn darllen pentwr o lythyrau a ysgrifennwyd gan bregethwr poblogaidd iawn yn ystod y cyfnod rhwng 1840 ac 1870, gŵr a oedd yn byw mewn ardal hollol Gymreig, yn troi bron yn gyfangwbl yn y cylch Cymreig, ac yn gryn feistr ar arddull Gymraeg ei hun. Nid oes gymaint a chyfeiriad at fardd na llenor Cymreig, cyfoes nac fel arall, yn yr un o'r llythyrau hyd y gwelais i. Cymerai'r gweinidog ran amlwg ym mudiadau crefyddol a gwleidyddol ei ddydd, ond ni buasai neb yn casglu wrth ddarllen y llythyrau fod y fath beth a llenyddiaeth Gymraeg mewn bod—a ninnau heddiw yn gwybod am y bywyd toreithiog, brwd, a oedd yn berwi yn ei ymyl. Yr oedd ysgrifennydd y llythyrau yn olygydd ei hun, ac yn olygydd lled lwyddiannus y mae'n debyg, wedi ei drwytho yn llenyddiaeth Lloegr ac yn nhraddodiad yr Alban, a gellir casglu y buasai ganddo gryn ddirmyg tuag at rai agweddau ar y bywyd llenyddol Cymreig fel y gwelai ef hwy. Yr oedd mwy o'r dieithrwch yma tua chanol y ganrif nag yn y blynyddoedd cyntaf; yr oedd tad yng nghyfraith awdur y llythyrau yntau yn weinidog lled adnabyddus yn ei ddydd, ac yr oedd ef yn gyfaill i Dewi Wyn ac i Eben Fardd. Eithr y mae argraff ar fy meddwl mai cynyddu yr oedd y pellter rhwng y ddau fywyd yng Nghymru fel yr oedd y ganrif yn heneiddio.
Rhag creu camargraff, dylid egluro nad wyf yn bwrw nad oedd beirdd a llenorion da yng Nghymru yn y cyfnod hwn. Ffolineb a fuasai dywedyd hynny. Ond, ar wahan i dri neu bedwar y fan bellaf, pa faint o bobl y cyfnod y gellir eu henwi fel rhai oedd yn gwneud gwaith creadigol gwych? Gellir nodi ambell waith unigol mewn meysydd eraill, Hunangofiant Ap Vychan, rhai o draethodau Lewis Edwards, er enghraifft, ond y mae'r pethau gwych mewn barddoniaeth yn brin iawn, ac y mae'n hawdd dychmygu am ŵr a ymgydnabyddodd a llenyddiaeth orau'r byd—neu a llenyddiaeth orau Lloegr yn unig, os mynnwch-yn diflasu ar lawer o'r hyn a elwid yn lenyddiaeth yng Nghymru'r cyfnod hwnnw.
Yn y traddodiad hwnnw y magwyd Anthropos, y Parchedig Robert David Rowland, ac ar un ystyr ef oedd ei gynrychiolydd olaf. Bu fyw ymhell y tuhwnt i derfynau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg nes bod yn hen ŵr deuddeg neu dair ar ddeg a phedwar ugain, ond ynddi hi yr oedd ei wreiddiau a'i feddwl. Ef oedd y ddolen bersonol olaf, efallai, â rhai o'i beirdd a'i llenorion; yr oedd yn adnabod Ceiriog a Daniel Owen, siaradai am Ioan Arfon—"yr Ioan" yn ôl arfer yr urdd, fel hen gydnabod, medrai adrodd hanesion am Lew Llwyfo na buont erioed ar glawr, ac yr oedd wedi cyfarfod bron bawb a fu'n cyfrif ym myd llenyddol a newyddiadurol Cymru yn ystod deng mlynedd a thrigain. Yr oedd ef yn llawer iawn gwell llenor na'r rhan fwyaf o wŷr y traddodiad; bu yn ffodus i ddyfod o dan ddylanwad Lewis Edwards yn fore ac ni fethodd Lewis Edwards erioed a rhoddi syniad, beth bynnag, i'r rhai a fu gydag ef yn y Bala, am fyd eangach na'r cylch llenyddol Cymreig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Heblaw hynny, yr oedd gan Anthropos athrylith—nid yw athrylith yn air rhy gryf,—ac arabedd.
Er hynny, yr oedd nôd digamsyniol y cyfnod arno yntau. Prin iawn oedd ei ddiddordeb yn hen lenyddiaeth Cymru, a phrin oedd ei wybodaeth amdani hefyd. Diflas braidd fyddai ei gyfeiriadau at athrawiaethau llenyddol ac ieithyddol newydd, ac er ei fod yn gyfaill ag amryw o feirdd diweddar, prin y gellid dywedyd ei fod yn edmygydd brwdfrydig o'u gwaith. Mewn gwirionedd, ni bu cylch ei ddarllen erioed yn eang; yn Saesneg yr oedd yn hynod gyfyngedig, a'r peth a apeliai yn bennaf ato yn ôl pob golwg oedd teimladrwydd beirdd fel Mrs. Hemans a Longfellow, sentimentaliaeth a adlewyrchid gan amryw o'i ganeuon ef ei hun ac yn ei ysgrifau hefyd—weithiau. Gallesid tybio, wrth eu darllen, mai y "mwyn" a'r "prydferth" oedd y pethau a apeliai ato ef ac a edmygid ganddo, ac y mae'n ddiamau fod llu o'i ddarllenwyr—ac yr oedd ganddo lu o ddarllenwyr ar un adeg—wedi synio amdano fel gŵr felly. Nid oedd modd iddynt hwy, nad oeddynt yn ei adnabod yn y cnawd, wybod am y tafod miniog, y llygaid llym, yr anallu i oddef ffyliaid yn llawen. Yn wir, ai llawer hyd yn oed o'r rhai a wyddai am ei arabedd ar gyfeiliorn wrth son amdano fel gŵr llawen. Efallai y buasai yn amhosibl cael hyd i air anghymwysach. Fel llawer un arall yn meddu ar yr un ddawn, tuedd Anthropos oedd bod y ŵr pruddglwyfus. "Mi fyddaf yn dwad i lawr y stryt acw yn y bore yn debycach i farwnad nag i ddim arall," meddai amdano ei hun unwaith. Ac yr oedd gwir dwfn yn y dywediad. Yr oedd yn yr eithaf arall i fod yn ŵr llawen. Yr oedd yn ddoniol y tuhwnt, a gallai fod yn ddigrif iawn, ond digrifwch gŵr a chleddyf llym, daufiniog yn ei law ydoedd. Gwanu y byddai a gwanu hyd at waed yn aml iawn. "Y mae Hwn a Hwn," meddwn wrtho unwaith, gan enwi gŵr pur amlwg, "yn dweud ei fod fel aeroplane, yn medru dal ati wrth fynd o hyd." "Felly," meddai yntau. "Airship oedd o'n ei feddwl mae'n debyg. Mae yna ddigon o inflation." Nid oedd yn rhaid i chwi ond edrych ar y gwefusau tenau, penderfynol, a ddaeth i'r golwg ar ôl iddo eillio ei farf, a'r llygaid gwyliadwrus, llym, a sylwi fel yr oedd yn sythu ar ei draed, i weled mai cleddyfwr oedd Anthropos. Gwnai i eraill chwerthin yn ddilywodraeth weithiau, ond byddai ef ei hun yn edrych o gongl ei lygaid ac yn gwylio'r effaith ar rywun neilltuol. A oedd hwnnw wedi teimlo pigiad a gwaniad y cledd? Yr oedd yr un peth yn Lloyd George, y gallu i beri i eraill chwerthin ond y chwerthin heb gyrraedd ei lygaid ef ei hun o gwbl. Llygaid gwyliadwrus a oedd gan y ddau, llygaid a oedd yn parhau felly er i wên ymledu dros weddill yr wyneb.
Gan mai gwlad fechan ydyw Cymru a phawb ohonom yn adnabod ein gilydd ac yn cyfarfod ein gilydd yn yr eisteddfod a mannau eraill ffrwynwyd cryn lawer ar hynny o ddawn dychanu a all fod gennym. Y mae'r ddawn yn fwy cyffredin nag a dybir, a cheir hyd iddi ar air ac mewn sgwrs, ond pan eir ati i ysgrifennu y mae cofio am gyfraith athrod ac am y cyfarfyddiad posibl â rhywun y byddis wedi ei bigo yn pylu ei min ac, yn aml iawn, yn peri fod y dychanwr yn rhoddi ei gleddyf yn y wain heb ei ddefnyddio. Dychanwr oedd Anthropos wrth natur; dyna ei arf briodol ef, ac un miniog ac effeithiol iawn ydoedd, ond ni ddefnyddiodd ef ond i raddau cyfyngedig iawn. Gwyddai yn dda am ei ddawn,—ni allai beidio gwybod,—a rhoddodd y ffrwyn ar ei gwar weithiau mewn ymgom. Byddai yn teimlo ias o euogrwydd wedyn, mi gredaf. Meddyliai fod y gwrthrych wedi clywed yr hyn a ddywedwyd amdano a'i fod yn ddig. Ai yntau o dipyn i beth i ddychmygu y teimlid gelyniaeth tuag ato ef am yr hyn a ddywedodd, a bu'r teimlad hwn,—teimlad cwbl ddisail y rhan amlaf, yn faen tramgwydd iddo ar hyd ei oes. Credai fod pobl yn ei erbyn; yr oedd yn anhygoel o deimladwy ar bethau felly, ac yr oedd gweled, neu feddwl ei fod yn gweled, rhywun mewn cynulleidfa yn gwrando yn ddicra yn ddigon i'w daflu oddiar ei echel ar unwaith.
Dyma'r pwynt; ni ddefnyddiodd Anthropos yr arf yr oedd yn feistr arno i ddim byd tebyg i'r graddau y gallasai fod wedi ei ddefnyddio. Gŵyr y rhai ohonom a gafodd ei rigymau sydyn, byrfyfyr o dro i dro pa mor ddeifiol y gallai fod mewn pedair llinell neu bump. Gallasai fod wedi ei wneud ei hun yn rym ym mywyd Cymru, yn enwedig pe buasai wedi rhoddi cyfle i'r ddawn honno ar y radio. Cofiaf am un tro pan ddaeth a chân i mi i'w chyhoeddi yn Y Genedl, cân ar ddigwyddiad a oedd wedi tynnu cryn lawer o sylw'r wlad. Ni fynnai roddi ei enw wrthi a bûm yn petruso peth ynghylch ei chyhoeddi. Ond ei chyhoeddi a wnaed, a bu'r effaith yn ffrwydrol. Gwnaeth rywbeth tebyg adeg yr ymgais i droi enw Dyffryn Ardudwy yn Dyffryn on Sea, a daeth allan o dan ei enw ei hun y tro hwnnw. Chwarddodd am ben y ffolineb a gwnaeth yr enw newydd yn chwerthinllyd trwy Gymru. Pe buasai wedi mentro mwy yn y cyfeiriad yma ac wedi rhoddi'r ffrwyn yn llacach ar war y ddawn nodedig a oedd ganddo gallasai fod yn ŵr i'w ofni megis yr ofnid Twm o'r Nant yn ei ddydd. Soniais am debygrwydd rhwng Anthropos a Lloyd George. Yr oeddynt yn debyg mewn peth arall hefyd, sef y gallu i wneud peth yn chwerthinllyd a'i ladd felly. Anthropos, Ellis Griffith, Lloyd George,— meddai'r tri hyn ar ddawn halltu a allasai fod wedi iachau llawer ar fywyd cyhoeddus a llenyddol Cymru. Trodd Ellis Griffith--bardd wrth reddf a dawn,—a Lloyd George eu doniau i wleidyddiaeth. Cadwodd Anthropos hi o dan reolaeth fanwl a chanodd i bethau megis seren min yr hwyr a chanwyllbren y capel. Yr oedd yn hollol gywir wrth wneud hynny ond un ochr yn unig i'r dyn oedd yn y gwaith hwnnw. Deuai ambell fflach o'r ddawn gynhenid i'r golwg yn ei ysgrifau. Ysgrifennodd unwaith ar Nainyddiaeth, sef egwyddor fawr
Cân di bennill mwyn i'th nain
Mi gân dy nain i tithau,
ac yr oedd yn amlwg ei fod yn ei fwynhau ei hun wrth y gwaith. Crafodd rai pobl yn bur agos at y gwaed unwaith neu ddwy. Yr oedd gair yn ddigon iddo weithiau. Soniasom unwaith am ŵr yr oeddym ein dau yn hoff ohono. "Ie," meddai Anthropos yn ystod y sgwrs, wedi ennyd o ddistawrwydd, "ond y mae o yn dipyn o Betsan, hefyd." Unwaith, wrth lywyddu mewn cyfarfod amrywiaethol yn Beulah, yr eglwys yr oedd Anthropos yn fugail arni, dywedodd y cadeirydd, yn ddifeddwl ddigon ac er mwyn cael rhywbeth i'w ddywedyd, y mae'n debyg, fod ganddo gadair fwy cysurus gartref ond ei fod yn hoffi gwneud rhywbeth i gynorthwyo'r achos bach. Gwyddwn ei fod wedi rhoddi ei droed ynddi ac nad oedd ond yn ei haros hi. Daeth ei awr. Diolchodd Anthropos iddo yn foesgar iawn ar y diwedd. "Gŵyr pawb ohonom," meddai, yn ei ddull mwynaf, "fod gan Mr. Cadeirydd gadeiriau lawer adref sydd yn esmwythach na hon. Ond meddyliwch, syr," gan droi at y llywydd di-feddwl- ddrwg, "fel y bydd aml i gennad blin, yn eistedd yn y gadair yna yn ddigon digalon ar nos Sul ac yn teimlo fod ei waith yn ofer—meddyliwch fel y bydd hwnnw yn sirioli pan ddywed y blaenoriaid wrtho, fel y maent yn siŵr o wneud, mai dyna'r gadair y buoch chwi, syr, yn eistedd ynddi!" Yr oedd gŵr a fedrai wneud pethau fel yna yn beryglus. Nid wyf yn bwriadu ymhelaethu ar yr ochr yma; casglodd Mr. Llew Owain lawer o'i ddywediadau yn ei lyfr diddorol ar Anthropos yn ei berthynas â Chlwb Awen a Chân. Fy mhwynt i ydyw mai yn y cyfeiriad hwn yr oedd cuddiad ei gryfder ac na roddodd ei llam a'i thramwy i'r ddawn.
Fel llenor y meddyliai y rhan fwyaf o bobl amdano, a bydd gennyf air am hynny ymhellach ymlaen. Hoffwn ddywedyd gair amdano yma fel pregethwr, canys yr oedd yn bregethwr ar ei ben ei hun. Pe dymunasai, gallasai fod yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yng Nghymru, ond ni chredai hynny ac ni cherddodd y llwybr i boblogrwydd. I'r "lleoedd bach," meddai ef, yr hoffai fyned, i gapeli bach y wlad. Weithiau ni ai i le o gwbl; byddai rhywun wedi troseddu neu ni byddai yn teimlo yn yr hwyl. Weithiau, hefyd, deuai adref ar ganol y Sul am yr un rhesymau—neu ddiffyg rhesymau. Os llwyddid ar dro i'w gael i rai o eglwysi mwyaf y cylch ni fynnai fyned i'r pulpud. Pregethai o'r set fawr, ac nid oes dim sydd yn sicrach o ddifetha pregeth na'i thraddodi o'r set fawr. A dylid ychwanegu, hefyd, y medrai bregethu yn ddigon sâl a diafael.
Ond wedi cydnabod yr holl anfanteision hyn, yr oedd, ar ei orau, yn bregethwr da iawn, hollol ar ei ben ei hun ac yn dra effeithiol. Pan oeddym yn byw yn yr un heol byddai yn hawdd ganddo ddyfod i'm tŷ ddiwrnod neu ddau cyn y Sul y byddai i fod yn Beulah a myned tros amlinelliad o'i bregethau. Gwnai hynny os byddai ganddo feddwl go lew ohonynt; os fel arall y byddai'n teimlo ni welid golwg arno. Yr oedd rhai o'r pregethau a glywais ganddo felly yn wych; yr oedd ganddo un yn enwedig ar "Y garreg wen a'r enw newydd" yr hoffwn yn fawr ei gweled. Bûm lawer gwaith yn ceisio ei berswadio i gasglu rhai o'i bregethau a'u cyhoeddi. Lled addawodd wneud hynny, ond ni ddaeth dim o'r bwriad, os bwriad hefyd. Buasai hwnnw yn llyfr da. Traddodwr tawel oedd fel rheol, a deuai ambell ergyd lawchwith nodweddiadol. Capel od oedd Beulah i fyned iddo os byddai ef yn pregethu yno. Cofiaf fyned a fy nhad yno un bore Sul, gan fod arno eisiau clywed Anthropos, ac eisteddasom yn un o seti'r ochr, sêt cyfaill. Daeth y gweinidog i mewn ac i'r pulpud. Gwelais ef yn llygadu arnom ond dechreuodd y gwasanaeth ac aeth ymlaen gyda'r canu, y darllen a'r weddi. Ond cyn ledio'r emyn o flaen y bregeth dyma fo yn troi atom.
"Mr. Humphreys," meddai yn awdurdodol o'r pulpud, "dowch chi a'ch tad ymlaen i un o'r seti ffrynt yma yn lle 'mod i'n gorfod pregethu i seti gweigion." Ac yr oedd yn rhaid ufuddhau.
Nid yn unig yr oedd yn bregethwr eithriadol—ar brydiau—ond dywedai pobl ei ofal ei fod yn rhagorol am gadw seiat. Ond byddwn yn amau weithiau a fuasai wedi mynd i'r weinidogaeth o gwbl pe buasai wedi ei eni rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Yn ei gyfnod ef y pulpud oedd unig ddrws agored bachgen tlawd yng Nghymru a fynnai alwedigaeth ar wahan i weithio a'i law, ac i'r pulpud yr aeth yntau, bron, gallwn dybio, o'i anfodd, canys rhoddodd brawf ar fod yn ysgolfeistr ac ar waith papur newydd. Gyda'r papurau newydd yr oedd yn ei elfen, a bu ar staffy Genedl, yr Amseroedd a'r Herald yng Nghaernarfon yn y dyddiau gynt, dyddiau Llew Llwyfo, Alfardd, James Evans a'r Cwilsyn Gwyn. Pregethai ar y Suliau, a phan briododd penderfynodd gymryd eglwys. Derbyniodd alwad o Beulah ac felly yr aeth yn weinidog. Nid unrhyw amheuaeth am ei gymhellion na'i gywirdeb a barai imi amau weithiau y byddai yn edifar ganddo am y dewis. Nid oedd trefniadau na rheolau Cyfundebol wrth ei fodd, a haws fuasai gennyf feddwl amdano yn ddedwydd fel person plwy yng nghyfnod Alun ac Ieuan Glan Geirionnydd.
Byddai'n ymhyfrydu weithiau mewn pigo'r cyfundeb y perthynai iddo, a byddai ei farn am ambell gyfarfod misol a sasiwn ac ambell arweinydd cyfundebol yn gyrhaeddgar,—ond nid i'w chyhoeddi. Perswadiwyd ef unwaith i agor y mater mewn sasiwn; y pwnc oedd "Y Cyfundeb a'r genedl." Yr oedd yn ŵr dieithr ond wrth ei enw i'r rhan fwyaf a oedd yn gwrando arno. Dechreuodd yntau trwy ddywedyd ei fod yn myned i wneud gosodiad a fyddai yn newydd ac yn ddieithr iawn i lawer ohonynt hwy, sef fod y genedl yn bod o flaen y Cyfundeb! Eithr yn anaml iawn y gwelid ef mewn safle felly; gwrthod a wnai, ac ar yr un pryd yr oedd ynddo ias o siom na buasai yn cael lle amlycach. Yr oedd ynddo duedd i chwenychu'r llawryf heb orfod wynebu'r llwch.
Y mae'r pregethwr wedi mynd ac nid yw'r gŵr arabus ond atgof i'r sawl a'i hadnabu. Erys y bardd a'r llenor, ac yn y cymeriad hwnnw y cofir am Anthropos. Os cofir o gwbl, medd rhywun. Ie, y mae hwnnw yn gwestiwn, ac yn gwestiwn y gellir ei ofyn am y rhan fwyaf o bobl gyfoes, canys ni allwn ddyfalu beth a fydd amgylchiadau na barn yr oes a ddêl. Gellir dywedyd hyn: bu adeg pan yr oedd Anthropos y llenor mwyaf poblogaidd yng Nghymru a chanddo nifer mawr o ddarllenwyr ffyddlon. Wrth gofio am ei golofn lenyddol yn Y Faner o 1904 i 1916 ac am lyfrau megis Oriau yn y Wlad, Y Pentre Gwyn, Awel a Heulwen, a'r Ffenestri Aur, ni ellir gwadu ei le iddo yn hanes llenyddiaeth Cymru. Methiant, yn fy marn i, oedd ei storïau, megis Tŷ Capel y Cwm a phethau tebyg. Unwaith, gyda'i gymorth ef, gwneuthum restr o'i lyfrau, o adeg Y Blodeuglwm (1878) hyd at Stryd Ni (1928), ffrwyth llafur hanner can mlynedd. Yr oedd y rhestr yn cynnwys tri llyfr a olygwyd ganddo, sef detholiad o farddoniaeth Talhaiarn, argraffiad o Lyfr y Tri Aderyn, ac Yn y Trên gan Andronicus, ac yr oedd y cyfanswm yn chwech ar hugain o lyfrau. O 1912 i 1932 bu'n golygu Trysorfa'r Plant; ef oedd olynydd Thomas Levi, golygydd cyntaf a sylfaenydd y cylch grawn hwnnw, ond ni ellir dweud iddo etifeddu dawn nodedig Thomas Levi i arlwyo ar gyfer plant. Yn ei flynyddoedd diwethaf ymddangosai ei ysgrifau yn wythnosol yn Yr Herald Cymraeg ac yr oedd darllen mawr arnynt.
Talodd y ddirwy anorfod am fyw yn hen. Bu byw i gyfnod newydd, cyfnod o syniadau newydd a chwaeth wahanol a safonau eraill. Gwanhaodd yr hen draddodiad, ac nid oedd gwaith Anthropos yn sefyll yn uchel ym marn pobl y traddodiad newydd. Ond y mae iddo ei le, a'i le pur bwysig, yn hanes datblygiad yr ysgrif yng Nghymru. Yn y cyfeiriad hwn y gwnaeth ei waith gorau; yr oedd yn arloesydd yn y maes. Yn ddiweddar bum yn darllen rhai o lyfrau Anthropos, ei ysgrifau a'i farddoniaeth, a theimlaf ei bod yn bryd cael ail-fesur arno. Medrai fod yn ddigon rhwydd ac arwynebol, ond ar ei orau yr oedd yn ysgrifennwr da iawn. Yr oedd ganddo sylwadaeth, cyffyrddiad ysgafn a gallu i ddisgrifio. Yn ei farddoniaeth yr oedd ar ei orau pan roddai ffordd i'w ddawn epigramatig. Yn ei ryddiaith yr oedd ar ei orau yn ei atgofion am bobl, ei ddisgrifiadau o olygfeydd a phan roddai'r ffrwyn ar war ei arabedd. Magodd gariad at ddarllen mewn llawer; swynodd lu i ymddiddori mewn llyfrau, mewn barddoniaeth ac mewn natur. Os oedd ôl traddodiad llenyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar ei feddwl a'i waith, yr oedd llawer o dawelwch a sicrwydd y cyfnod ganddo hefyd, cyfnod na all yr oes hon fforddio dirmygu safonau ei wareiddiad na'i foesoldeb.
Buasai yn werth cael detholiad o'i farddoniaeth a'i ysgrifau ac argraffiad newydd o r Pentre Gwyn. Dychmygaf ei glywed yn dweud yn ei ddull mwyaf sychlyd: "Detholiad, aie? Felly. Dim peryg', frawd!"

SAMUEL EVANS, 1859-1935.
AR un adeg byddai pobl o bellteroedd byd yn dyfod i Gaernarfon ar eu tro, a theimlem ni oedd yn byw yn yr hen dref y pryd hynny ein bod mewn cysylltiad â llawer o wledydd nad oedd fawr obaith i ni eu gweled byth. Deuai Eluned Morgan, R. J. Berwyn ac eraill o'r Wladfa ag awel y paith gyda hwynt. Ar dro deuai Cymru eraill o fannau mwy dieithr fyth yn Ne America, pobl a dreuliodd flynyddoedd mewn cymoedd anhygyrch yn yr Andes neu ar lechweddau Chili. Weithiau ymwelai Cymro a oedd yn byw yn Jerusalem â ni, ac yr oedd y brodyr Bryan, Edward, Robert a Joseph, Eifftwyr trwy fabwysiad, yn ymwelwyr cyson bob haf. Teimlem y pryd hynny ein bod yn hollol gartrefol yn yr Aifft, yn gynefin a chryn lawer o eiriau Arabeg—gwnaeth Gwynn Jones ddarn o gywydd yn gymysg o Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg ac Arabeg, os nad oedd iaith neu ddwy arall ynddo hefyd,—ac yn gwybod yn dda, trwy glywed, am arferion ei phobl ac awyrgylch yr anialwch. A thrwy y brodyr Bryan y daethum i wybod gyntaf erioed am Samuel Evans, eu cefnder.
Cyn hynny bûm yn dyfalu pwy oedd awdur ysgrifau ar y Dwyrain yn Y Llenor—Llenor O. M. Edwards. Yr oedd yn amlwg fod y rhai hynny yn waith rhywun a wyddai yn bur dda trwy brofiad personol ac anghyffredin am y gwledydd, rhai ohonynt yn wledydd dieithr iawn i'r rhan fwyaf o bobl y Gorllewin, yr ysgrifennai yn eu cylch. Amheuthyn oedd dyfod ar draws peth fel hyn mewn ysgrif yn Y Llenor am Ionawr, 1895:—
Yn nechrau mis Mohram, 1891, yr oeddwn yn Bodjnwrd, tref lewyrchus mewn dyffryn rhamantus a phrydferth ym mynyddoedd Atrac, ar gyffiniau Twrcestan, a hanner y ffordd rhwng Môr y Caspian a Herat. Serch na welodd y Bodjnwrdiaid erioed ond rhyw dri o Ewropeaid, cefais dderbyniad croesawus iawn ganddynt, a chefais hefyd y fraint o'u gweled yn actio merthyrdod Husein o'r dechrau i'r diwedd. . . Welais i erioed y fath olygfa arswydus. Dôf a difywyd iawn mewn cydmariaeth yw chwareu Oberammergau. Yr oedd y gynulleidfa yn tynnu at bymtheg mil o eneidiau ac yr oedd effaith y chwareu arnynt yn gyfryw ag i'w gyrru yn berffaith wallgof ar adegau. Am oriau maith nid oedd un llygad sych yn y lle,—pawb yn ymddangos fel pe buasent mewn ing a phoen angerddol oherwydd dioddefiadau Husein a'i deulu. Am rai munudau ceid distawrwydd llethol i wrando ar alargan Ali Acbar, y llanc tal a lluniaidd; ar adegau eraill y mae y bloeddiadau a'r crochlefain yn syfrdanol . . . Fel y gallwch feddwl, tipyn yn bryderus yr oeddwn yn teimlo fel yr unig Gristion ynghanol torf anferth o grefyddwyr wedi eu soriant. Gallasai cynddeiriogi gan lidiowgrwydd eu chwerthin neu wenu dan yr amgylchiadau gostio i mi fy mywyd, ac nid peth hawdd yw byw ar gopa uchaf eich gwyliadwriaeth am ddeg awr a hanner. Yr oedd yn dda iawn gennyf pan ddygwyd y chwareu i ben.
Yr oedd hwn yn nodyn newydd; yr oedd Cymro yn rhywle a oedd yn cael profiadau rhyfedd a dieithr—a diddorol dros ben. Pwy ydoedd? Credaf mai Robert Bryan, y bardd a'r cerddor o'r brodyr, a ddywedodd wrthyf mai Samuel Evans, cefnder iddo ef, oedd yr awdur, a chanddo ef y cefais beth o'i hanes.
Ymhen blynyddoedd wedyn deuthum i adnabod Samuel Evans. Yn Neheudir Affrica yr oedd yn byw erbyn hynny, yn gadeirydd y Crown Mine, mwnglawdd aur enwog yn Johannesburg, ac yn cael ei gydnabod yn awdurdod trwy'r holl wledydd ar y farchnad aur. Deuai i Gymru yn lled aml, tuag unwaith yn y flwyddyn ar un adeg, mi gredaf, ac yn ystod rhai o'r ymweliadau hynny y dywedodd beth o'i hanes wrthyf. Clywais bobl yn dywedyd weithiau nad yw Cymry yn bobl anturus, eu bod yn rhy hoff o aros gartref ac nad yw'r môr na mannau gwyllt y ddaear yn apelio atynt. Nid yw hynny yn gywir; aeth Cymry i bob cwr o'r byd ac i bob antur. Cyfarfûm a chryn nifer o bobl felly o dro i dro, ond efallai mai gyrfa Samuel Evans oedd y ryfeddaf y clywais amdani, o ran amrywiaeth, antur a llwyddiant.
Ganed ef ym mis Chwefror, 1859, yn ffermdy Pant y Garn, ar lethr Cyrn y Brain, ym mhlwy Rhiwabon, sir Ddinbych. Bu farw ei dad pan nad oedd y bachgen ond deuddeg oed. Yr oedd ei fam yn hannu o blwy Llanarmon yn Ial ac yn gyfnither i John Parry, un o wŷr amlycaf Rhyfel y Degwm yn 1886, ac yn chwaer i fam y brodyr Bryan. Cafodd Samuel beth ysgol yn Wrecsam, ond nid llawer, gan fod yn rhaid iddo droi allan i ennill cyn gynted ag y gallai, a chafodd le i gynorthwyo yn swyddfa Hughes a'i Fab. Gwelwyd, y mae'n debyg, ei fod yn fachgen deallus a rhoddwyd y gwaith o ddal copi i ddarllenwr y proflenni iddo. Yno, a phan wrth y gwaith hwnnw, daeth i adnabod Islwyn. Nid oes ddyddiad ar Ganiadau Islwyn, a, gyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab, ond y mae'n bosibl mai adeg argraffu'r llyfr hwnnw y byddai'r bardd yn troi i mewn i swyddfa'r cyhoeddwyr. Beth bynnag am hynny, cymerodd ddiddordeb yn y bachgen, tybiodd fod deunydd llenor ynddo a chynghorodd ef i ddarllen ac astudio Y Bardd Cwsc. Gwnaeth yntau hynny gyda'r trylwyredd a'i nodweddai, a chadwodd ei gopi, gyda'i nodiadau ar ymyl y ddalen, am flynyddoedd, gyda chanlyniadau diddorol ymhellach ymlaen.
Yn y cyfamser ymroddodd i ddysgu llawfer, yr allwedd i fyd y papurau newydd y pryd hynny, a chyn pen hir, yn 1878, cafodd le ar staff yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon, am gyflog o ddeg swllt ar hugain yn yr wythnos—eithaf cyflog fel yr oedd pethau yr adeg honno. Yr oedd popeth o'r gorau ar yr Herald Cymraeg; yr oedd Samuel Evans wedi arfer ysgrifennu Cymraeg ac wedi ennill ar draethodau mewn eisteddfodau lleol. Ond yr oedd papur Saesneg, y Caernarvon and Denbigh Herald, yn yr un swyddfa a disgwylid i'r bachgen droi ei adroddiadau Cymraeg i'r Saesneg ar gyfer hwnnw, a gorchwyl anodd iawn oedd hynny iddo ef. "Byddwn yn llafurio," meddai wrthyf unwaith, "am oriau efo geiriadur wrth fy ochr, ond golwg go ryfedd oedd ar y Saesneg yn y diwedd." Y mae'n rhaid ei fod wedi meistroli'r Saesneg yn fuan, hefyd, canys yn 1880 cafodd le fel reporter ar bapur yn Swydd Efrog.
Y cam nesaf oedd cael lle, trwy arholiad, fel ysgrifennydd cyfrinachol i Syr Edgar Vincent (Arglwydd D'Abernon wedi hynny) a oedd ar y pryd yn bennaeth Gweinyddiaeth Ariannol yr Aifft. Priodolai Samuel Evans ei lwyddiant y tro hwnnw,—bachgen amrwd ddigon a dibrofiad yn cystadlu â gwŷr a gafodd addysg prifysgol yn Lloegr,—i'w fedr a'i gyflymder yn crynhoi a thalfyrru yr adroddiadau a osodwyd o'i flaen, peth a ddysgodd yn ei waith ar y papurau newydd. Beth bynnag am hynny, i'r Aifft yr aeth, a dyna ddechrau'r cysylltiad â'r Dwyrain a barhaodd am gyfnod lled faith. Yr oedd hyn yn 1883, a chyn pen pedair blynedd yr oedd y bachgen o Bant y Garn yn bennaeth gwasanaeth Gwylwyr y Glannau yn yr Aifft. Nid oedd eto yn ddeg ar hugain oed.
Pan oedd yn dal y swydd honno daeth y Khedive Tewfik Pasha heibio i'r swyddog ieuanc ar ymweliad swyddogol ac aeth gydag ef i'w lety. Yno sylwodd ar ei lyfrau a thynnodd un ohonynt oddiar yr astell. Yr oedd ymylon y dalennau yn yn ddieithr llawn nodiadau, yr oedd iaith y llyfr a'r nodiadau i'r Khedive, a mynnai gael esboniad. "Ac felly," meddai Samuel Evans ymhen llawer blwyddyn, "bu yn rhaid i mi gyfieithu darnau o'r Bardd Cwsc orau y medrwn ac egluro i'r Khedive ystyr rhai o'm nodiadau i fy hun." Y mae'n debyg mai i'r Ffrangeg y bu'n rhaid cyfieithu.
Yn 1890 daeth cam newydd arall. Penodwyd Samuel Evans yn Arolygydd Cyffredinol canghenau Asia yr Ottoman Bank, Caercystenyn, ac y mae'n amlwg mai yn y cymeriad hwnnw y treiddiodd i ardaloedd a threfi nad oedd ond ychydig iawn o Gristnogion wedi eu cyrraedd o'r blaen. Yr oedd ganddo lawer o hanesion diddorol am y cyfnod hwnnw, hanesion am ymweliadau â mannau na chlywodd y rhan fwyaf ohonom amdanynt o'r blaen ac a phobl o wareiddiad gwahanol iawn i'r eiddom ni. Yr oedd yn hawdd meddwl am Samuel Evans yn ei wneud ei hun yn hollol gartrefol ym mhabell y Bedawin ac ym mhlasty'r pendefig mewn tref na welwyd ond ychydig o Ewropeaid ynddi erioed o'r blaen canys gallesid meddwl amdano yn ymgolli yn y dyrfa ddwyreiniol. Gŵr tal, main, ei wallt a'i farf yn frithlwyd, ydoedd pan adwaenwn ef; pe buasai wedi ei wisgo mewn gwisg ddwyreiniol tybiaf y gallai basio fel un o bobl y wlad unrhyw ddydd, ag eithrio gwyndra ei groen. Siaradai amryw ieithoedd, gwyddai am arferion a chredoau pobl y Dwyrain, edmygai lawer o bethau yn eu dull o fyw ac o edrych ar fywyd a gadawsant eu hol arno hyd ddiwedd ei oes, er iddo dreulio blynyddoedd mewn awyrgylch pur wahanol.
Eithr ni feddiannwyd ef gan dawelwch y Dwyrain. Newidiodd ei waith drachefn ac aeth i Bersia, ar wahoddiad y Shah, i reoli'r fasnach dybaco ar ran llywodraeth y wlad honno. Aeth a Chymro arall gydag ef fel ysgrifennydd y mudiad, sef Ellis Jones Griffith o Sir Fôn, Syr Ellis Griffith, yr aelod Seneddol adnabyddus, ar ôl hynny. Ni pharhaodd y gwaith hwnnw lawer hwy na blwyddyn; daeth y ddau oddiyno, Ellis Griffith i ddychwelyd i Brydain ac i Gymru, a Samuel Evans i fyned ymhellach fyth oddicartref, i Ddeheudir Affrica. Yn 1896 aeth i Johannesburg fel cynrychiolydd Syr Edgar Vincent. Yn 1898 daeth i gysylltiad ag Eckstein a'i Gwmni; yn 1902 yr oedd yn bartner yn y Cwmni hwnnw, gan ymneilltuo yn 1909, y flwyddyn y penodwyd ef yn gadeirydd a phrif reolwr y Crown Mine. Parhaodd y cysylltiad hwn hyd ddiwedd ei oes; bu farw ym mis Hydref, 1935. Yr adeg honno disgrifiwyd ef fel un o awdurdodau pennaf y byd ar y fasnach aur. Ymgynghorid ag ef gan frenhinoedd a gwladweinwyr, ac er nad oedd ei enw yn adnabyddus i'r cyhoedd yn gyffredinol y tuallan i Dde Affrica, yr oedd, yn ei gylch ei hun, yn un o wŷr enwog y byd. Gyrfa ryfedd, ar lawer cyfrif, i fachgen o lethrau Cyrn y Brain.
O dro i dro, pan gyfarfyddem, dywedai dipyn o'i hanes ei hun. Yn ystod rhyfel Deheudir Affrica bu ar staff Arglwydd Roberts, a phan gwympodd Johannesburg yr oedd yn un o'r tri swyddog a anfonwyd i dderbyn ymostyngiad yr amddiffynnwyr. Ymhellach ymlaen bu'n gyfrifol, o dan yr awdurdodau milwrol, am weinyddiad llywodraeth leol y dref honno. Casglodd gryn lawer o anrhydeddau, gan gynnwys medal filwrol Deheudir Affrica, gyda thri bar, aelodaeth o Urdd Mejidieh, ac o Urdd Tyrcaidd Osmanieh. Yr oedd yn Ll.D. o Brifysgol Witwatersrand ac o Brifysgol Cymru. Gweithiodd yn ddygn dros Brifysgol Witwatersrand a thros benodi. J. F. Hofmeyer yn brifathro cyntaf. "Cefais waith mawr i berswadio pobl i fodloni i benodiad Hofmeyer," meddai wrthyf unwaith. "Mynnent ei fod yn rhy ieuanc, ond ffwlbri oedd hynny. Eisiau pobl ifanc sydd i swyddi pwysig."
Ar y cyfan, y mae'n debyg mai'r gwaith yr oedd falchaf ohono—er nad oedd yn hawdd iawn gwybod beth oedd ei deimlad ar unrhyw fater a'r argraff arwynebol a roddai ar lawer oedd mai gŵr oeraidd, pell, oedd ei waith dros iechyd y gweithwyr brodorol yn y mwngloddiau. Pan aeth ef i Affrica gyntaf yr oedd cyfartaledd y marwolaethau ymhlith y bobl hyn yn uchel iawn. Penderfynodd Samuel Evans fod yn rhaid gwella pethau. Gwnaeth astudiaeth arbennig o'r moddion a fabwysiedid mewn gwahanol wledydd i wrthweithio afiechydon y gwledydd poethion; teithiodd yn Ffrainc a'r Almaen a gwnaeth daith arbennig i astudio dulliau llwyddiannus yr Americaniaid yn Panama. Yna, gyda'r ynni oer oedd yn nodweddiadol ohono, cymhwysodd y dulliau gorau a diweddaraf at amgylchiadau ei fusnes ei hun—a daeth nifer y marwolaethau i lawr i'r dim mewn cymhariaeth. Un diwrnod yn ystod ei ymweliad olaf a Chymru dywedodd yr hanes wrthyf. "Budreddi oedd gwraidd y drwg," meddai. "Rwan mi dyffeia i chi gael hyd i gymaint ag un chwannen yn nhai'r brodorion yn y gwaith acw!"
Flynyddoedd yn ôl aeth cyfaill i mi, dyn busnes a oedd hefyd mewn cysylltiad a phapur newydd Cymraeg, ar ei dro i Ddeheudir Affrica. Pan ddaeth yn ôl dywedodd nad oedd wedi llwyddo i weled Samuel Evans. Dywedais innau wrtho, y byddai Samuel Evans yn galw i edrych amdanaf fi yng Nghaernarfon.
"Oh," meddai, "y mae'n fod dynol, y mae'n ddigon tebyg, pan fydd yng Nghymru, ond y mae'n anodd iawn cael ei weld o yn Affrica."
"Wel," meddwn innau, "y mae'n siwr y buasai wedi eich gweled pe buasech wedi dweud am eich cysylltiad efo'r papur."
Edrych yn amheus a wnaeth fy nghyfaill; nid oedd wedi meddwl am hynny ac yr oedd rhywrai wedi argraffu ar ei feddwl mai gŵr anghyffwrdd oedd Samuel Evans. Pan welais Samuel Evans ar ôl hynny dywedais wrtho fod fy nghyfaill wedi methu ei weled.
"Do, mae'n debyg," meddai yn ddigon didaro, "fedrwn i byth ddwad i ben efo fy ngwaith pe buaswn i yn gweld pawb sydd yn galw ar fusnes."
"Ond beth pe buasai wedi dweud ei fod ynglŷn a'r papur?" meddwn.
"Pe buasai o wedi dweud hynny," oedd yr ateb, "mi fuaswn wedi ei weled ar unwaith."
Credaf mai'r agwedd a ddisgrifiwyd gan fy nghyfaill oedd yr un a welai'r cyhoedd yn gyffredin yn Samuel Evans, ac y mae'n sicr ei bod yn rhan, ac efallai yn rhan pur fawr, o'i bersonoliaeth. Pan fu farw soniodd un papur Saesneg am ei ddull sych a phell, gan ychwanegu iddo wneud llawer tro caredig, yn enwedig â phobl ieuanc. Yr oedd rhywbeth pell yn ei agwedd, ar yr olwg gyntaf beth bynnag yn yr wyneb main, y llygaid treiddgar, llym, y dull cwta, pendant o siarad. Ni welais i ef mewn busnes erioed, ond gallwn yn hawdd gredu y buasai yn ŵr y buasai yn rhaid gwneud cyfrif ohono; yr oedd yn benderfynol, yn alluog, yn chwyrn, ac ni allai oddef ffyliaid yn llawen. Nid gwaith hawdd i neb fuasai taflu llwch i'w lygaid na'i droi oddiar ei lwybr. Yr oedd rhaid i ŵr a lwyddodd ym myd masnach Deheudir Affrica fel yr oedd yn yr adeg pan aeth Samuel Evans yno wrth lawer o benderfyniad. Ac yr oedd yn rhaid i'r gŵr a eisteddodd ynghanol y Moslemiaid i weled chwarae merthyrdod Husein yn Bodjnwrd wrth lawer o feiddgarwch ac o ddewrder oer—y math prinnaf o ddewrder.
Yng Nghymru y gwelais i Samuel Evans, ar faes eisteddfod, yn fy nhŷ fy hun ac yn y gwestai lle'r arhosai ar ei dro, ac yn y lleoedd hynny deuai ochr i'r golwg na wyddai rhai heb fod yn Gymry ddim, y mae'n debyg, amdani. Clywais amdano, pan yn ddyn ieuanc yn dechrau llwyddo yn y Dwyrain, yn dyfod ar ei dro i Rosllannerchrugog, lle'r oedd ei fam weddw yn byw erbyn hynny, ac yn myned a hi allan mewn cerbyd a phar o geffylau, uchafbwynt moethau teithio y pryd hynny, a chlywais am ei ofal cyson amdani tra bu byw.
Clywais ef, yn eisteddfod genedlaethol Caergybi, yn dweud oddiar y llwyfan fel yr oedd Cymru yn galw ei phlant ac yn tystio fod
clychau arian yn y gwynt
Yn galw, galw'n ôl.
Nid oedd eu galwad arno ef yn un effeithiol, ond oedd yn mwynhau ei ymweliadau a Chymru ac nid oedd nam ar ei Gymraeg i'r diwedd.
Gwelais ef yng Nghaernarfon y tro olaf y bu yng Nghymru, yn haf 1935. Tri ohonom oedd yn y cwmni, ac yr oedd dau, Samuel Evans a D. J. Williams, gŵr o'r Garn Dolbenmaen, yntau wedi marw ers blynyddoedd bellach, wedi byw yn hir yn Affrica. Sonient am Affrica ac am Gymry Affrica, ac yng nghanol y sgwrs dywedodd Dr. Evans fel yr oedd, pan ar daith yn yr Unol Daleithiau, wedi cyfarfod a dyn du na fedrai air o unrhyw iaith ond Cymraeg. Yna dywedodd D.J. Williams fel y bu iddo unwaith ymweled ag un o fwngloddiau dyfnaf Deheudir Affrica,—peiriannydd mwngloddiau oedd wrth ei swydd. Arweinid ef o gwmpas gan fforman du, deallus, ac yn ystod y sgwrs dywedodd hwnnw ei fod yn casglu oddi wrth yr enw mai Cymro oedd Mr. Williams. "Ie," meddai yntau. "O ba ran o Gymru 'rydach chi'n dwad, syr?" meddai'r dyn du. "Oh," meddai D.J., "o le bach digon anadnabyddus na chlywsoch chi erioed son amdano, lle o'r enw Garn Dolbenmaen." "Tewch da chi!" meddai'r dyn du, mewn Cymraeg glân, "Mi fum i'n cadw cyfarfod yn y Garn ers talwm!" Yr oedd eglurhad ar hyn, ond cymerai ormod o amser i fanylu arno yma.
Yr wyf wedi dweud hanes diwedd yr ymgom honno mewn lle arall, ond ni byddai'r ymgais yma i ddarlunio Samuel Evans yn gyflawn heb i mi ddweud y stori eto.
"Rydach chi wedi gweled newid mawr ar Gymru, Dr. Evans, er pan aethoch chi oddiyma gyntaf," meddai D. J. Williams. "Ar arferion Cymru gynt . . ."
"Newid ddaeth o rod i rod", "meddai Cadeirydd y Crown Mines.
"Mae cenhedlaeth wedi mynd", "meddai D.J.
"A chenhedlaeth wedi dod", "meddai Samuel Evans. Ac yna dyna'r ddau yn gorff adrodd llinellau Ceiriog gyda'i gilydd fel côr adrodd:— {{center block| <poem> Wedi oes dymhestlog hir Alun Mabon mwy nid yw; Ond mae'r heniaith yn y tir, A'r alawon hen yn fyw. A dyna'r tro diwethaf i mi ei weled.
Dychwelodd i Affrica a bu farw cyn bo hir.

SYR ELLIS JONES GRIFFITH, 1860-1926.
YR oedd cyfarfod mawr ym Mhafiliwn Caernarfon yn ystod un o etholiadau 1910. Disgwylid Mr. Lloyd George yno i siarad ond yr oedd yn annerch cyfarfod ym Mangor cyn hynny ac ni wyddid yn iawn pa bryd i'w ddisgwyl. Yr oedd yno siaradwyr eraill; nid wyf yn cofio pwy oedd y cadeirydd, ond yr oedd Syr Ellis Griffith yno a dau neu dri o weinidogion lleol. Yr oedd hynny ar yr adeg pan gymerai gweinidogion ran amlwg mewn gwleidyddiaeth, er nad oedd pob un yn awdurdod ar y pwnc. Yr aelod Seneddol dros. Sir Fôn oedd Ellis Griffith, bargyfreithiwr, K.C., gŵr a gafodd yrfa ddisglair yng Nghaergrawnt ac a wnaeth enw iddo ei hun fel dadleuydd medrus yn y llysoedd, a siaradwr miniog ar y llwyfan. Gŵr tal oedd ef, gyda gwallt du, crych, yn dechrau britho erbyn hynny, wyneb hir, nodweddiadol o un teip o gyfreithiwr, dau lygad mawr, hardd, herfeiddiol braidd, a llais hyfryd a fedrai ddatblygu rhywbeth crafog, cyrhaeddgar, pan fyddai angen. Daeth y crafiad yn amlwg iawn y noson honno.
Galwyd ar ddau weinidog lleol i siarad yn gyntaf. Yr oedd y ddau yn ddynion rhagorol ac yn bregethwyr uwchlaw'r cyffredin. Hyd y cofiaf, siaradasant yn eithaf y noson honno; cawsant hwyl, beth bynnag, a diweddodd y naill a'r llall ar nodau uchel. Y drwg oedd y bu'r naill fel y llall braidd yn hir yn diweddu, a phan ofynnwyd i Ellis Griffith siarad gwyddai pawb ei bod yn tynnu at yr adeg i Lloyd George gyrraedd ac na byddai ar y gynulleidfa eisiau gwrando ar neb arall wedi iddo ef ddyfod. Gwyddai Ellis Griffith hynny yn dda ac ar y dechrau gwrthododd siarad o gwbl. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi ei gythruddo, braidd, ond o'r diwedd bodlonodd a chododd ar ei draed.
"Ychydig iawn," meddai, a'r crafiad a'r llusgiad yn amlwg yn ei lais, "sydd gen i i'w ychwanegu at yr hyn a ddywedodd fy mrodyr annwyl, sydd wedi traethu yn helaeth o fy mlaen i heno, ond ni geisiwn ddweud ychydig wirioneddau, gan esgeuluso y rhagymadrodd a gadael allan y floedd ar y diwedd." Nid oedd "y brodyr annwyl" yn edrych yn hapus o gwbl, ond yr oedd y gynulleidfa yn cael hwyl. Yr oedd y digwyddiad yn nodweddiadol o Ellis Griffith. Hwyrach y dylwn ychwanegu nad oes neb o'r rhai a gymerodd ran yn y cyfarfod hwnnw yn fyw heddiw.
Gallesid casglu llu mawr o hanesion tebyg am ei ddywediadau ef, er yr ofnaf fod llawer iawn ohonynt wedi mynd ar ddifancoll weithian. A dyna sydd yn rhyfedd. Yn ei ddydd yr oedd nid yn unig yn un o ddynion disgleiriaf Cymru ond hefyd, yn ôl tystiolaeth pur gyffredinol, yn un o ddynion disgleiriaf Tŷ'r Cyffredin. Yr oedd ei arabedd fel cleddyf llym, yn gwanu yn gyflymach ac yn fwy angeuol na hyd yn oed ddigrifwch Lloyd George. Meddai Lloyd George ar allu digymar bron i beri i bobl chwerthin am ben ei wrthwynebwyr, ond hiwmor fel hiwmor Dickens oedd ei eiddo ef ar y cyfan. Brathiad arabedd oedd gan Ellis Griffith, tebycach i arabedd Disraeli, ac ni allaf benderfynu prun o'r ddau a fuasai fwyaf anodd ei ddioddef, a bwrw eich bod yn gwrthwynebu'r ddau. Ni byddech yn chwerthin cymaint am ben dywediadau Ellis Griffith—ond gwyddech fod y gwrthwynebydd wedi ei ladd. Dywediad o'i eiddo na anghofir byth mohono oedd hwnnw yn Nhŷ'r Cyffredin yn ystod rhyfel Deheudir Affrica: "While the Empire expands the Chamberlains contract."
Nid yn unig yr oedd yn effeithiol yn Nhŷ'r Cyffredin ac ar y llwyfan ond yr oedd hefyd yn effeithiol iawn mewn rhyw fath o achosion yn y llysoedd. Dywedir na chyfrifid ef yn gyfreithiwr dysgedig iawn, ond fel dadleuydd o dan rai amgylchiadau yr oedd yn anodd cael ei well. Medrai chwerthin ambell achos allan o'r llys; gwelais ef yn gwneud hynny fwy nag unwaith. Yr oedd ei watwareg yn ddeifiol a byddai hynny, a threm ei ddau lygad mawr, yn dychryn ambell dyst fel na wyddai ar ba ben yr oedd yn sefyll. Weithiau byddai fel pe yn amcanu at beri i dyst golli ei dymer, ac fel rheol llwyddai yn ei amcan—a byddai'r tyst hwnnw at ei drugaredd wedyn. Byddai ganddo froddegau cofiadwy. "When the lawyer comes in at the door," meddai un tro, mewn achos o dor amod priodas, "love flies out of the window." Mewn achos arall dywedodd: "As your lordship knows, every man in financial difficulties draws large overdrafts on the Bank of Hope."
Un tro, diweddodd areithiwr huawdl iawn ei araith gyda'r geiriau: "Duw a wyr mor annwyl yw Cymru Lân i mi!"
"Y mae Duw yn gwybod," meddai Ellis Griffith wrth gyfaill i mi ar ôl y cyfarfod. "Y mae'n dda nad ydi o ddim yn dweud!"
Dro arall, wrth edrych ar un o'i gyd-aelodau dywedodd wrth un arall," "Does dim posib' fod neb mor dduwiol ag y mae o'n edrych!" Dywedodd Lloyd George wrthyf mai'r unig dro iddo ef glywed Emrys ap Iwan yn pregethu oedd unwaith yn Rhuthyn pan orfodwyd ef ac Ellis Griffith i fwrw'r Sul yn y dref honno gan fod y frawdlys wedi parhau hyd yr wythnos wedyn. Aeth y ddau i wrando ar Emrys, ac yn ystod y bregeth cyfeiriodd yntau at Pharaoh fel "hen grocodil afon y Nilus." Ar hynny dyna Ellis Griffith yn sibrwd yng nghlust Lloyd George, "Mi allai Pharaoh gael iawn am hynny, a hynny heb brofi special damages!" Y mae—neu yr oedd llawer o bethau tebyg ar gof amdano. "Yr oedd" sydd yn iawn, yn ddiamau, canys yr hyn sydd yn rhyfedd am Ellis Griffith ydyw fod ei wlad wedi ei anghofio, i bob pwrpas. Soniwch amdano wrth bobl heddiw a gwelwch ar unwaith nad yw yn ddim ond enw iddynt—os ydyw hyd yn oed yn enw.
Ni welsant ef, ni wyddant ddim amdano, ni chlywsant ddim o'i hanes.
Y mae dwy broblem, a dweud y lleiaf, yn hanes gwleidyddol diweddar Cymru. Y naill ydyw dylanwad aruthrol—nid yw yn air rhy gryf—Tom Ellis ar un adeg, a'r llall ydyw methiant Syr Ellis Griffith. Nid oes a wnelom a'r gyntaf yma, ond hoffwn wneud awgrym neu ddau ynglyn a'r ail. Beth oedd cyfrinach methiant gŵr mor ddisglair, mor hoffus ar lawer cyfrif, a gŵr a gafodd y fath fantais a'r fath gyfle?
Am Fôn y byddai pawb ohonom yn meddwl pan sonid am Ellis Griffith ond yn Birmingham y ganed ef, yn 1860. Gŵr o Feirion oedd Thomas Morris Griffith, ei dad, a'i fam o Fôn, a phan ymneilltuodd ei dad o'i fusnes fel adeiladydd yn Birmingham aeth y teulu i fyw i Fôn. Yno y magwyd Ellis Griffith a dyna ei gefndir. Tŷ Coch oedd enw'r cartref, rhwng glan afon Menai a Brynsiencyn. Bu Ellis Griffith yng Ngholeg Aberystwyth yn yr un to o efrydwyr a Tom Ellis, Syr S. T. Evans a Syr John Edward Lloyd; cymerodd ei radd ym Mhrifysgol Llundain—nid oedd Prifysgol Cymru mewn bod eto—ac aeth ymlaen i Gaergrawnt, i Goleg Downing. Yn 1886 yr oedd yn Llywydd yr Undeb yno. Graddiodd yn y dosbarth cyntaf mewn cyfraith a hanes ac etholwyd ef yn Gymrawd y Coleg. Cymerodd ran pur amlwg ym mywyd y coleg a'r Brifysgol; bu nid yn unig yn llywydd yr Undeb ond hefyd, yn 1886, yn llywydd pwyllgor mabolgampau ei goleg, gan gystadlu mewn amryw bethau. Galwyd ef i'r Bar yn 1887.
Yr adeg honno yr oedd cryn nifer o Gymry ieuanc yn troi eu hwynebau i gyfeiriad gwleidyddiaeth a'r Senedd, a gwnaeth Ellis Griffith yr un peth. Wedi ymgais aflwyddiannus i ennill un o seddau Lerpwl i Ryddfrydiaeth, dewiswyd ef yn aelod dros Fôn yn 1895, ar ymneilltuad Thomas Palestina Lewis. Bu Môn yn ffodus yn ei phlant tua'r adeg honno, dynion fel John Williams, Brynsiencyn, John Morris Jones, Thomas Charles Williams ac Ellis Griffith, "pobl sir Fôn" i'r carn, yn credu yng ngwaelod eu calonnau nad oedd yr un wlad debyg iddi ac yn ei charu mewn gwirionedd.
Bu Ellis Griffith yn aelod dros Fôn am dair blynedd ar hugain. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu llawer o ddarogan ac o ddyfalu yn ei gylch; cofiaf fel y byddai sibrydion ei fod ar fin cael ei benodi yn farnwr yn yr Uchel Lys i'w clywed yn awr ac yn y man, ac fel y disgwylid yn sicr iddo gael swydd uchel yn y Weinyddiaeth Ryddfrydol a ddaeth i awdurdod yn 1905. Yr oedd yn hollol naturiol fod y bobl a oedd yn adnabod Ellis Griffith fel gwleidydd a dadleuydd galluog a ffraeth yn gobeithio am bethau gwych i'w ran. Eithr ni ddaethant. Y mae'n wir iddo gael ei wneud yn farwnig ac yn aelod o'r Cyfrin Gyngor, ond ei ddyrchafiad uchaf fel gwleidydd oedd ei benodi yn olynydd i Masterman fel Is-Ysgrifennydd y Swyddfa Gartref o dan Reginald McKenna, a'i swydd uchaf yn y gyfraith oedd bod yn Gofiadur Birkenhead. Wrth ystyried ei allu a'i ddisgleirdeb, siomedig oedd ei yrfa mewn gwleidyddiaeth ac yn y gyfraith, ac y mae lle i gredu iddo yntau deimlo yn siomedig. Yr oedd hynny yn naturiol ac yn rhesymol. Swydd a fuasai yn gweddu i aelod Seneddol ieuanc addawol oedd yr Is-Ysgrifenyddiaeth; ni ellid disgwyl iddi fodloni gŵr a oedd erbyn hynny dros ei hanner cant oed ac wedi bod yn y Senedd am un mlynedd ar bymtheg. Yr oedd bum mlynedd ar ôl Lloyd George yn cyrraedd i'r Senedd, ond erbyn 1912 yr oedd Lloyd George, a oedd dair blynedd yn iau nag ef, yn Ganghellor y Trysorlys ac yn un o wleidyddwyr amlycaf a mwyaf dylanwadol ei ddydd. Pe buasech yn cymharu manteision y naill a'r llall, buasech yn dywedyd mai Ellis Griffith a ddylasai fod ar y blaen. A phe cymherid eu galluoedd, ni ellid dywedyd, ar yr wyneb, fod llawer iawn rhyngddynt. Am rai blynyddoedd credid eu bod yn bur gyfartal o ran gallu a rhagolygon.
Yn 1918, fodd bynnag, y daeth ergyd chwerwaf ei yrfa wleidyddol i'w ran. Yn etholiad y flwyddyn honno gwrthodwyd ef gan ei sir ei hun. Etholwyd y diweddar Gadfridog Syr Owen Thomas, yntau yn ŵr o Fôn, yn aelod Llafur dros y sir. Teimlodd Ellis Griffith yr ergyd i'r byw, ac er iddo gael ei ddewis yn ymgeisydd Rhyddfrydol wedyn, ciliodd o'r maes ym Môn yn 1921. Ni chollodd ei gariad at Fôn ac ni chollodd Môn ei serch ato yntau. Bu golygfa i'w chofio yn eisteddfod y sir yn Aberffraw rai blynyddoedd ar ôl yr etholiad; yr oedd Ellis Griffith yn llywyddu, aeth i son yn ystod ei araith am yr hen amser gynt, ac yr oedd ef a'r gynulleidfa oll yn eu dagrau.
Yn 1923 dewiswyd ef yn aelod Rhyddfrydol dros Gaerfyrddin, ond, er syndod i lawer, ymneilltuodd yn 1924, gan wneud lle i'r diweddar Arglwydd Melchett—Syr Alfred Mond y pryd hynny. Bu llawer o ddyfalu ynghylch y peth a llawer ymgais i'w esbonio. Credaf mai'r gwir esboniad ydyw fod Ellis Griffith erbyn hynny wedi blino ac wedi torri ei galon cyn belled ag yr oedd gwleidyddiaeth yn myned.
Bu farw yn Abertawe, yn 1926. Daeth y diwedd yn sydyn iawn, yn ystod dyddiau'r frawdlys yn y dref honno. Clywais y diweddar Farnwr Syr Thomas Artemus-Jones yn dweud yr hanes. Yr oedd y bargyfreithwyr ar y gylchdaith yn aros gyda'i gilydd yn yr un gwesty yn ystod y frawdlys. Sylwyd gyda'r hwyr nad oedd Ellis Griffith yn edrych yn dda a pherswadiodd ei gyfeillion ef i fyned i'w wely yn gynnar i orffwys, Cytunodd yntau ac aeth. Cyn pen ychydig dywedodd Artemus-Jones ei fod yn teimlo yn anesmwyth yn ei gylch gan ei fod yn edrych mor wael, ac aeth ef ac un arall i'r llofft i weled a oedd popeth yn iawn. Erbyn cyrraedd yno cawsant ef ar ei liniau wrth erchwyn y gwely, wedi llewygu. Galwyd ar eraill a gwnaed popeth a oedd yn bosibl, ond bu farw heb ddadebru.
Ychydig fisoedd cyn hynny yr oedd gyda chyfeillion yn y tren rhwng Caernarfon a Bangor; sylwyd ei fod yn edrych dros Fenai ar Fôn a Brynsiencyn ac eglwys Llanidan ar y bryn. "Mi fydda' i'n cadw golwg ar Lanidan bob tro y bydda' i'n mynd heibio," meddai.
"P'am?" meddai un o'r cwmni.
"Oh," meddai yntau, "dacw fan fechan fy medd." Ac yno, ym mynwes Môn, y claddwyd ef.
Yr oedd disgleirdeb Syr Ellis Griffith y tuhwnt i bob amheuaeth, ond fel y treiglai'r blynyddoedd gofynnid a oedd yno bwysau cyfatebol. Clywais lawer o drafod ar ei yrfa o dro i dro, weithiau gan bobl heb fod yn ei hoffi, ond yn llawn amlach gan bobl a oedd yn ei garu ac yn ei edmygu. Tinc siom oedd yn y feirniadaeth a'r dadansoddiad fel rheol.
Ymha le yr oedd cuddiad y methiant? Mewn diffyg difrifwch, meddai rhai, y cyhuddiad cyffredin a ddygir yn erbyn pobl arabus gan bobl amddifad o hiwmor. Diffyg gweithgarwch ac argyhoeddiad, meddai eraill. Diffyg dewrder, meddai'r lleill, ac y mae'n debyg mai dyma'r esboniad a glywid amlaf. Nid oedd, meddid, yn ddigon o ymladdwr. Dywedid hynny amdano fel bargyfreithiwr; yr oedd yn rhagorol mewn rhyw fath o achosion, meddid, ond nid cystal yn y rhai yr oedd angen dycnwch ynddynt. Nid oedd amheuaeth am ei ddawn fel croesholwr nac am ei allu i apelio at reithwyr, ond nid oedd ganddo gymaint o ddylanwad ar farnwyr.
Yr oedd ansicrwydd i'w deimlo ynghylch ei safle wleidyddol weithiau. Teimlid nad oedd nac oer na brwd ar rai pethau. Dadleuodd lawer dros hawliau Cymru, a bu unwaith, tua 1906, yn dipyn o wrthryfelwr gwleidyddol ei hun. Ond yn 1911, pan oedd yn Gadeirydd y Blaid Gymreig yn y Senedd a phan drefnwyd iddo ef a John Redmond annerch cyfarfod yng Nghaergybi, gwrthododd gymryd y diweddar E. T. John, yr aelod Seneddol dros Ddwyrain Dinbych, yn gadeirydd. Yr oedd John yn dadlau dros gael ymreolaeth i Gymru ac Iwerddon yr un pryd. Yn ystod rhyfel 1914-18 yr oedd Ellis Griffith yn cefnogi gorfodaeth filwrol yn bur gynnar. Gofynnais iddo ef a'r diweddar Llewelyn Williams, a oedd ar y pryd yn aelod Seneddol dros Gaerfyrddin, drafod y pwnc ar dudalennau'r Goleuad, y naill o blaid a'r llall yn erbyn. Pe buasent wedi cyfarfod ar y llwyfan y mae'n bosibl mai Ellis Griffith fuasai'r trechaf, ond yr oedd Llewelyn Williams yn fwy medrus nag ef ar bapur y tro hwnnw, ac yn llawer nes at farn Cymru yn gyffredinol fel yr oedd ar y pryd. Dylid dywedyd i Ellis Griffith lywio Mesur Datgysylltiad yn fedrus trwy Dŷ'r Cyffredin. Ond rhywfodd yr oedd fel pe wedi colli cyffyrddiad â meddwl gwleidyddol Cymru am rai blynyddoedd. Bu hynny yn golled iddo ef ac i Gymru.
Y mae'n debyg fod y diweddar Ddr. Thomas Charles Williams yn ei adnabod cystal a neb; yn yr ysgrif goffa yn Y Cymro (Dolgellau) cyfeiriodd ef at ei deimladrwydd, ei swildod, a'i duedd i guddio ei wir ragoriaeth. Clywais eraill oedd yn ei adnabod yn well na mi yn dweud rhywbeth tebyg. Gallai dyn feddwl am Ellis Griffith ei fod yn sinic ac nad oedd waeth ganddo am lawer o bethau, ond arwynebol iawn oedd y coegni; nid oedd ond llen i guddio ei deimladrwydd a'i dynerwch. Yr oedd ei gyfeillion yn ei garu. Gwyddent hwy y gellid ymddiried bob amser yn anrhydedd a chywirdeb Ellis Griffith.
Hwyrach iddo gamgymeryd ei lwybr mewn bywyd. Pan oedd ef yn ddyn ieuanc yr oedd drws gwleidyddiaeth yn agor o flaen Cymry tebyg iddo ef o ran oedran a chefndir; denwyd hyd yn oed Owen Edwards i'r cyfeiriad hwnnw am ychydig, ond sylweddolodd ef yn fuan nad oedd ar ei lwybr priod yn y Senedd. "Not here, O Apollo, are haunts meet for thee." O dro i dro aeth llawer o Gymry i'r pulpud, dynion y buasai'n well iddynt fyned i alwedigaethau eraill, yn unig am mai'r pulpud oedd y llwybr cyffredin yn eu cyfnod hwy. Digwyddodd rhywbeth tebyg mewn cyfnod diweddarach ynglyn a gwleidyddiaeth. Hwyrach i Ellis Griffith fyned yn far-gyfreithiwr ac yn aelod Seneddol am mai dyna'r ffordd arferol i ddynion tebyg iddo ef yn y cyfnod hwnnw. Credai rhai a oedd yn ei adnabod yn dda nad dyna'r llwybrau gorau iddo, ac mai ysgolhaig a bardd a llenor oedd wrth reddf. Beth bynnag am hynny, gwn iddo gyfansoddi peth barddoniaeth Gymraeg; edmygai lenyddiaeth fawr, darllenodd lawer, ac yr oedd yn hyddysg mewn llenyddiaeth Gymraeg ddiweddar. Ofer dyfalu bellach. Ni ellir ond cofio am y disgleirdeb a fu.
Yr oedd apêl neilltuol yn ei bersonoliaeth, rhywbeth bachgenaidd a chariadus a mwyn a lechai dan y watwareg finiog a'r balchter arwynebol. A'r tucefn i'r cwbl, i'r disgleirdeb yng Nghaergrawnt a'r Senedd, i'r bywyd cymdeithasol yn Llundain, i'r uchelgais mewn cyfraith a gwleidyddiaeth, yr oedd ymlyniad wrth fywyd Cymru a chariad angerddol at ei wlad ac at Fôn.
Ni ellir honni fod Syr Ellis Griffith yn bwysig yn hanes gwleidyddol Cymru. Ond yn sicr yr oedd yn bersonoliaeth y dylai Cymry'r dyfodol wybod rhywbeth amdano. Yr oedd yn rhan, ac yn rhan pur bwysig, o'r bywyd lliwgar, egniol, gobeithiol a diddorol a oedd yn bod yng Nghymru ym mlynyddoedd olaf y ganrif o'r blaen a dechrau hon.
W. H. WILLIAMS, 1848-1917.
BOB bore dydd Llun am rai blynyddoedd byddwn yn troi i mewn i oruwchystafell yn y Bont Bridd, Caernarfon, i gael sgwrs gyda "W.H." Swyddfa Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru oedd yn yr ystafelloedd hynny yr adeg honno, ac ysgrifennydd ariannol yr Undeb, W. H. Williams, oedd "W.H." fel y byddai pawb ohonom yn ei alw. Cyfeiriai'r papurau newydd Saesneg ato yn awr ac yn y man fel "the quarrymen's Gladstone"; enwogodd ei hun fel arweinydd y chwarelwyr ym Methesda adeg yr ymdrech fawr dros hawl y gweithwyr i drin eu hachosion gyda'r perchenog trwy gyfrwng eu hundeb. Yr oedd yr helynt hwnnw wedi hen fyned trosodd pan ddeuthum i adnabod W.H., ac nid oes gennyf wybodaeth bersonol amdano. Eithr yr oedd ei ôl a'i greithiau ar W.H. o hyd. Nid oedd wedi suro; buasai yn amhosibl dychmygu amdano ef yn gwneud hynny, a medrai chwerthin a chael hwyl wrth adrodd am rai o droeon trwstan cyfnod y streic. Yr oedd ei lond o hiwmor heulog, ac adroddodd lawer stori wrthyf am gymeriadau Bethesda a Chwarel Cae Braich y Cafn yn yr adeg honno, straeon y buasai yn dda iawn gennyf allu eu dwyn ar gof heddiw. Nid oedd dim o'r ffanatic yn W.H.
Ond ni byddai yn rhaid i chwi siarad yn hir ag ef i weled fod dur o dan yr hiwmor a'r athroniaeth oddefgar, hamddenol, a oedd mor nodweddiadol ohono. Yr oeddym yn gyfeillion ers blynyddoedd ac wedi trafod y byd a'r betws o lawer cyfeiriad erioed. Awgrymodd bwnc mwy nag un ysgrif arweiniol i'r Genedl a buom yn trafod y polisi i'w fabwysiadu gan y papur hwnnw lawer gwaith. Yn 1912 bu streic a chload allan yn swyddfa'r Genedl, helynt y buasai yn hawdd iawn bod wedi ei osgoi, yn fy marn i, ac yr oedd barn W.H. ar y peth yn hollol

Yr wyf yn ddyledus i ysgrif gan ei hen gyfaill, y diweddar Mr. Evan Evans, Mynydd Llandegai, am y manylion a ganlyn am yrfa W. H. Williams. Ganed ef yn Arafon, Llwybr Main, Mynydd Llandegai, Awst 8, 1848, ac fel "William Arafon" y soniai llawer o'i gyfoedion amdano. Bu yn ysgol Bodfeirig am ychydig, a dechreuodd weithio yn Chwarel Cae Braich y Cafn pan oedd tua deg oed. "Ag eithrio cael dau ddiwrnod yn yr wythnos yn yr ysgol yn 1879, pan oeddynt yn gweithio pedwar diwrnod yn y chwarel," medd Mr. Evans, "dyna yr holl fanteision addysg a gafodd." Cyn bod yn dair ar ddeg oed yr oedd yn gweithio wrth y dydd, prawf, ychwanega Mr. Evans, ei fod wedi meistroli ei gelfyddyd yn dda er mor ieuanc ydoedd. Yn lled fuan daeth yn aelod lled amlwg yn y gymdeithas feirniadol, graff a chwareus a geid ym mhob chwarel yn Arfon a Meirion y pryd hynny, cymdeithas ddiwydiannol hollol Gymreig ei hiaith a'i chefndir, a rhan, beth bynnag, o'i gwreiddiau yn y tir. Darllenid papur newydd yn y caban yn ystod yr awr ginio, ac ymhlith y papurau a ddarllenid yr oedd y Times. W. H. Williams a fyddai yn ei ddarllen, a chlywodd Mr. Evan Evans un a fyddai yno yn dweud ei fod wedi meddwl am amser hir mai darllen y Faner y byddai, "gan mor rhwydd a naturiol y darllenai ef yn Gymraeg." Yr oedd cyfieithu felly wrth fynd ymlaen yn gryn gamp.
Bu farw ei dad pan yr oedd W.H. rhwng pedair ar ddeg a phymtheg oed, gan adael ei fam gyda deg o blant i'w magu. Wynebodd yntau yr amgylchiadau fel y buasid yn disgwyl iddo wneud, yn garedig ac yn ddewr. Bu streic yn y chwarel yn 1874 a chymerodd beth rhan yn honno, gan wneud argraff ddofn ar ei gydweithwyr. Yn streic 1896 daeth i amlygrwydd mawr, yng ngeiriau Mr. Evans, "fel un o'r arweinwyr doethaf a diogelaf a fu gan weithwyr Gogledd Cymru". Meddai y diweddar John Williams, 'Rynys, yn ei fraslun ohono a gyhoeddwyd adeg y streic: Mae yn gynhenid am wrthod pob swydd gyhoeddus, ac nid oes gennyf gyfrif i'w roddi am ei gyhoeddusrwydd presennol os nad ydyw Rhagluniaeth wrth ei benelin ac wedi sibrwd yn ei glust Os tewi a son a wnei, a'i wthio i'r adwy.' Y mae'n wir na feddyliodd ef erioed am fod yn ddyn cyhoeddus, ond yr oedd y fath gymhwysterau ynddo fel yr oedd yn amhosibl iddo fod yn guddiedig."
"Yn y drafodaeth fawr ar yr hawl i gyfuno," ychwanega Mr. Evans, "y ceir ei weled yn ei ogoniant. Fe brofodd ei hun yn y drafodaeth hon yn arweinydd doeth a diogel a'i fod yn sefyll ar ei ben ei hun ymhlith ei gyd-weithwyr. Credwn y bydd i'r hyn a wnaeth yr adeg hon gael lle amlwg yn hanes Llafur yng Nghymru yn y cyfnod hwn. Y mae ennill hawl i uno yn un o gerrig milltir pwysicaf hanes Llafur. Yn y frwydr hon daeth ei gryfder, ei benderfyniad a'i welediad clir i'r golwg. Yr oedd yn gwbl argyhoeddedig mai dyma'r cam cyntaf i'r gweithwyr ei sicrhau, sef gwneud achos un yn achos pawb, er dod i mewn i'w holl ragorfreintiau fel gweithwyr Wedi cael y weledigaeth, nid oedd allu a'i rhwystrai i'w sylweddoli."
Gŵr byr, cydnerth, oedd W.H., ei wallt a'i farf gwta wedi britho pan oeddwn yn ei adnabod, genau penderfynol, a llygaid byw a oedd yn disgleirio gan ddoethineb a hiwmor. Nid oedd yn drigain oed y pryd hynny, ond rhywfodd rhoddodd yr argraff arnaf fi ac eraill ei fod yn hŷn nag oedd mewn gwirionedd; y mae'n debyg fod rhywbeth yn hen-ffasiwn yn ei ffordd, dull gwladwyr a chwarelwyr Arfon flynyddoedd yn ôl. Yr oedd wedi ei drwytho yn yr hen fywyd a'r hen draddodiadau. Ymhyfrydai mewn straeon am hen gymeriadau ac yr oedd ganddo ddull cwta ac effeithiol iawn o'u hadrodd. Hoffai ddweud ambell stori yn ei erbyn ei hun, fel honno am yr holi ysgol yn Ysgol Sul Mynydd Llandegai, pan nad oedd neb ond W.H. yn ateb, o'i sêt yn y galeri gyda'i ddosbarth. Blinodd John Williams, yr holwr, ar y ddeuawd honno o'r diwedd, a throdd at yr atebwr.
"Rhyw sgwrs rhyngom ni'n dau sydd yma, 'ddyliwn, Wiliam," meddai. "Sut 'rwyt ti, Wiliam Wilias? Tydi hi'n dywydd gwlyb?"
Yr oedd dywediadau a digwyddiadau fel yna wrth ei fodd; y dull o fyw a oedd yn rhoddi cyfle a bod iddynt hwy oedd ei gefndir yntau. Gwyddai am wendidau ac am ochr ddigrif y dull hwnnw yn dda. Ar ei ffordd o'r stesion i'r swyddfa yng Nghaernarfon ar fore dydd Llun byddai yn hawdd ganddo alw heibio llythyrdy Stryt Fangor—sydd wedi peidio a bod ers llawer blwyddyn. Cedwid hwnnw a'r siop oedd ynglyn ag ef gan Richard Griffith, "Richard Griffith y wagan" fel y'i gelwid am ei fod ar ryw adeg ar ei oes wedi bod yn canlyn wagan y stesion. Un o geidwaid yr athrawiaeth fanylaf ym Moriah oedd Richard Griffith, hen frawd diniwed a charedig ddigon a chroes ddigon hefyd ar rai pethau, ac yr oedd W.H. wedi ei adnabod yn iawn ac yn ei dynnu allan bob tro. Byddai D. R. Daniel, a oedd y pryd hynny yn gyd-swyddog yn Undeb y Chwarelwyr, gydag ef y rhan amlaf ac yn ei fwynhau ei hun. Un tro, a Richard Griffith yn trin yn huotlach nag arfer ar yr Hen Gorff a'i swyddogion a'i holl drefniadau, dyna W.H.--nid oedd gan Richard Griffith syniad pwy ydoedd yn dechrau dadlau ar yr ochr arall.
"Fyddwch chi ddim yn falch weithiau," meddai, "eich bod chi'n perthyn i Gyfundeb mor fawr ac mor gyfoethog?"
Edrychodd Richard Griffith, dyn byr, llydan, barfog, yn chwyrn arno. "Ydach chi'n flaenor?" meddai.
"Pam rydach chi'n gofyn?" meddai W.H., cyn sobred a sant.
"'Rydach chi'n siarad 'run fath a nhw'n union," meddai Richard Griffith, gan droi ar ei sawdl. Clywais Daniel a W.H. yn adrodd yr hanes hwnnw lawer gwaith.
"Aros di, ngwas i," meddai W.H. un tro wrth gyfaill oedd mewn safle bwysig. "Paid a meddwl fy mod i'n dy dderbyn di yn awdurdod ar bob peth, chwaith! Os ei di i siarad fel yna mi fydd yn rhaid i mi ddeud yr un fath wrthat ti ag y deudodd Twm Huws wrth Wil Jones erstalwm pan aeth hwnnw yn ormod o lanc."
"Beth oedd hynny?" meddai'r cyfaill, yn gwybod fod ergyd i ddyfod.
"Dyna ddeudodd o," meddai W.H., "Cymar di yn ara deg, 'ngwas i. Rydw i'n dy gofio di a dy wallt trwy dy gap a dy wyneb di yn ddigon budr"." Chwerthin a wnaeth y ddau gyfaill, ond yr oedd y dywediad a'r stori yn nodweddiadol iawn o W.H.
Nid oedd arno ofn neb ac nid oedd ganddo y parch lleiaf i ymhoniad na safle, ar wahan i'r safle a enillwyd trwy allu a grym cymeriad. Nid oedd arlliw o'r ymhonwr ynddo yntau na dim o'r duedd i ddywedyd, "Gweithiwr ydwyf fi ac yr wyf cystal a chwithau." Yr oedd W.H. yn llawer rhy urddasol ac yn rhy falch i osio i'r cyfeiriad hwnnw; yr oedd ei urddas yn syml ac yn naturiol, yn sylfaenedig ar ei barch iddo ef ei hun ac ar ei barch i bawb arall fel dynion. Fel y rhan fwyaf o weithwyr Cymru, yr oedd yn ŵr bonheddig, ac, fel y rhan fwyaf o weithwyr Cymru yn y cyfnod hwnnw, beth bynnag, yn ŵr bonheddig diwylliedig. Ychydig iawn o ysgol, yn ystyr arferol y gair, a gafodd, ond cafodd yr ysgol Sul ar ei gorau, cafodd bulpud a oedd yn denu iddo rai o feddyliau gorau Cymru, a chafodd gymdeithas y chwarel, lle'r oedd meddyliau a thafodau miniog,—cystal manteision, a dweud y lleiaf, ag a geir mewn llawer cwrs addysg heddiw. Y tu cefn i'r cwbl, mi gredaf, yr oedd traddodiad teuluaidd o hunan-barch a disgyblaeth a'r ymdeimlad hwnnw a oedd yn bod y mhob cymdogaeth Gymreig y pryd hynny, ac yn arbennig yn ardaloedd y chwareli, o fod yn rhan o gymdeithas yr oedd iddi safonau cydnabyddedig a chefndir a thraddodiad yr oedd y gymdeithas gyfan yn etifedd iddynt. Yr oedd gŵr a fagwyd yn y gymdeithas honno yn sicr o'i le a'i safle ynddi.
Ni buaswn yn ceisio dywedyd nad oedd cyfyngiadau i ddiddordeb W.H. Yr oedd. Nid wyf yn tybio iddo ymhoffi llawer mewn barddoniaeth ar ôl ei flynyddoedd bore, a byddai yn cau ei feddwl yn dynn rhag rhai pynciau a llyfrau. Byddai yn bur ysgornllyd ynghylch rhai pethau a ddarllenwn i. Ond darllenodd History of Civilisation Buckle deirgwaith, gan ddarllen Guizot ar yr un pwnc, er mwyn cymharu. A medrai gymharu a barnu. Yn ei ddyddiau bore yr oedd Athrawiaeth yr Iawn gan Dr. Lewis Edwards yn llyfr mawr; darllenodd W.H. hwnnw fwy nag unwaith.
"Ddaru chi sylwi," meddai unwaith, gan gymryd yn ganiataol yn gyfeiliornus,—fy mod innau wedi gwneud yr un peth, "fel y mae Lewis Edwards yn dweud, pan ddaw o at rhyw bwnc anodd iawn, y daw o yn ôl at hwnnw eto? Ond, ddaru chi sylwi hefyd, na bydd o byth yn dwad?" Yr oedd y dywediad yn nodweddiadol iawn.
Fel y dywedais, ni welais ef yn nyddiau ei arweiniad adeg y streic fawr. Yr oeddwn yn rhy ieuanc i hynny ac yn byw ar y pryd mewn sir arall. Ond clywais lawer o sôn am ei bwyll, ei ddoethineb a'i gryfder yn y cyfnod tymhestlog hwnnw pan chwalwyd sylfeini bywyd ardal gyfan. Erbyn yr adeg yr oeddwn yn ei adnabod gallai chwerthin am ben rhai o'r pethau a ddigwyddodd, ac yr oedd ei allu i weled yr ochr ddigrif i bobpeth yn nodedig. Eithr yr oedd cyn belled ag y gallai fod oddi wrth wamalrwydd. Medrai chwerthin a pheri i chwithau chwerthin wrth ddweud rhai o'r helyntion, ond yr oedd rhai pethau a rhai pobl na allai faddau iddynt. Nid ffyrnigo y byddai wrth sôn amdanynt eithr troi yn ddirmygus, ac yr oedd dirmyg W.H. yn anos ei ddioddef na ffyrnigrwydd llawer. Unwaith y byddai wedi digio wrth ddyn ar dir egwyddor byddai wedi darfod a'r dyn hwnnw. Byddai wedi myned allan o fyd W.H. ac yn peidio a bod iddo ef. Y mae'n deg dywedyd mai ar bwnc o egwyddor y byddai yn digio ac nid ar bynciau personol, ond unwaith y collai dyn ymddiried W.H. gwaith anodd iawn os nad amhosibl oedd ei ennill i ymddiried ynddo'r eildro. Y peth a'i toddai tuagat un felly oedd i hwnnw syrthio i brofedigaeth.
"I be' 'rydach chi'n helpu Hwn a Hwn?" meddai cyfaill wrtho unwaith. "Y mae o wedi gwneud tro sâl iawn efo chi, y mae o wedi byw yn wastraffus ac wedi bod yn ddyn digon sâl ar hyd ei oes."
"Waeth gen i beth fuo fo," meddai W.H. "Creadur o ddyn mewn trueni ydi o rwan." A dyna'r gair olaf ar y mater.
Yr oedd ganddo farn dda iawn ar ddynion; ar y cyfan credaf mai ef oedd y gŵr doethaf a adnabum erioed. Teimlaf fod hyn yn ddweud pur fawr, ond, wedi ystyried, ni theimlaf awydd i'w newid. Cefais lawer gwers ganddo ar ddynion, eu gwendidau a'u rhagoriaethau, a chlywais ef yn traethu lawer gwaith ynghylch y dynion a gyfarfu yn ystod ei yrfa— ac yr oedd wedi cyfarfod llawer o wŷr enwog. Diddorol oedd ei glywed yn pwyso a chymharu Tom Ellis a Lloyd George, er enghraifft. Yr oeddwn i'r pryd hynny yn llawn brwdfrydedd dros Lloyd George a dywedais na buasai Tom Ellis, pe cawsai fyw, wedi cyrraedd i'r fath enwogrwydd a dylanwad. Eithr ni chytunai W.H., a welodd lawer iawn ar y naill a'r llall.
"Pe gofynnech chi gwestiwn i Tom Ellis a George ar yr un adeg," meddai, "George fyddai yn ei ateb gyntaf ac mi fyddai yn ei ateb yn well na Tom, hwyrach. Ond pe buasech chi'n gofyn yr un cwestiwn i'r ddau drannoeth, yn yr un fan yn union y buasai George y pryd hynny, ond mi fuasai Ellis wedi gweled ymhell i'r cwestiwn ac yn rhoi ateb llawer llawnach a gwell na'r llall." Nid wyf yn cofio clywed neb arall yn dweud yr un peth, ond y mae gennyf barch mawr i farn W. H. Williams.
Ei hoff bregethwr a'i hoff awdur ar faterion Beiblaidd a chrefyddol oedd David Charles Davies, gŵr ysgolheigaidd yn meddu ar feddwl miniog, dadansoddol, pregethwr a ddywedodd nad oedd yn credu iddo achub neb erioed ond ei fod yn gobeithio ei fod wedi adeiladu'r eglwysi. Ar ddiwinyddiaeth, David Charles Davies oedd y gair olaf gan W.H. Yr oedd yn wirioneddol grefyddol; yr oedd y capel a'i drefniadau yn wir bwysig yn ei olwg a bu am flynyddoedd yn flaenor doeth a ffraeth ym Mynydd Llandegai. Ond ni ofnai feirniadu'r trefniadau a'r syniadau. "Y mae pobol yn annog ac yn annog pobol eraill i fynd i'r ysgol Sul," meddai wrthyf un tro, "ond waeth i chi heb os ydi'r diddordeb wedi darfod, tasech chi'n annog am dragwyddoldeb. Fedrwch chi wneud dim heb ddiddordeb. Diddordeb ydi amod cyntaf pob gwaith." Yr oedd ef ei hun yn athro ffyddlon yn yr ysgol Sul.
Yn wleidyddol, y cyfnod pan oedd Rhyddfrydiaeth Cymru yn tynnu tua terfyn ei goruchafiaeth a Phlaid Llafur yn ymddangos ar y gorwel pell oedd ei gyfnod ef. Ar lwyfan Rhyddfrydol, yn siarad o blaid Ellis Davies, y gwelais ac y clywais ef gyntaf erioed, ac yn siarad yn wych iawn, yn ymresymu yn glir ac yn argyhoeddiadol, heb ymfflamychu dim ac yn trin ei ffeithiau fel meistr. Rhyddfrydwr Radicalaidd ac Undebwr y buasid yn ei alw y pryd hynny, mi gredaf. Yn y cyfnod hwnnw byddai Rhyddfrydwyr megis Ellis Davies a Syr Henry Jones a gwŷr Llafur megis Philip Snowden yn dyfod yn eu tro i annerch y chwarelwyr yn eu Gŵyl Lafur flynyddol oddiar yr un llwyfan ac yr oedd chwarelwyr Arfon yn pleidleisio i William Jones a Bryn Roberts ac Ellis Davies ac yn selog dros Lloyd George.
Daeth newid, a newidiodd—neu yn hytrach, symudodd W.H. efo'r amseroedd. Efallai nad oedd yn Sosialydd yn llawn ystyr y gair hyd y diwedd ond i'r graddau yr oedd Radicaliaid yn Sosialwyr yn ei gyfnod ef. Ar ddiwedd cyfarfod Ramsay MacDonald yng Nghaernarfon flynyddoedd yn ôl gofynnodd y diweddar Pentir Williams i mi, "Be' ddeudodd o heno nad oeddan ni yn i ddeud o ugain mlynedd yn ôl, ond ein bod ni yn fwy eithafol?" Ond yr oedd W. H. Williams yn Undebwr i'r carn ac o'r safle honno yr edrychai ar wleidyddiaeth i raddau pur bell. Os oedd Undebiaeth Llafur yn myned trosodd i wersyll y Sosialwyr ai yntau gyda hi, pa amheuon bynnag a allai fod yn ei feddwl wrth fynd. A cheid agweddau annisgwyl ym meddwl y Radical a'r blaenor Methodus a'r gwerinwr hwn. Yr oedd yn glaf ac wedi ei gaethiwo i'r tŷ yn ystod y rhan fwyaf, beth bynnag, o ryfel 1914-18—bu farw yn 1917—a byddwn yn myned i edrych amdano weithiau. Ar un o'r troeon hynny aeth yn sgwrs am y gwrthwynebwyr cydwybodol a rhyfeddais glywed yr hen arweinydd yn eu condemnio yn ddiarbed. Ni fynnai wrando ar air o'u plaid. "Na, na," meddai yn ei ddull mwyaf pendant, "os ydi dyn yn derbyn manteision a nodded gwlad y mae o'n rhwym o'i hamddiffyn hi hefyd. A 'does geno fo ddim hawl i osod 'i farn 'i hun yn erbyn barn mwyafrif pobol ei wlad, chwaith." Credwn, a dywedwn, fod yr athrawiaeth yn un llawn peryglon, ond nid oedd dim yn tycio. Gwnaethai W.H. ei feddwl i fyny ar y pwnc ac ni syflai.
Nid oedd ei syflyd ar unrhyw fater y byddai ef wedi myfyrio a phenderfynu arno yn beth hawdd ar unrhyw adeg yn ei fywyd. "Speak English, Mr. Williams, you can very well," meddai'r diweddar John Menzies wrtho yng Nghyngor Sir Arfon unwaith. Yr oedd John Menzies yn gadeirydd a W.H. wedi dechrau siarad yn Gymraeg. Edrychodd W.H. rhadlon ac hamddenol arno. "Siaradwch Gymraeg, Mr. Menzies, mi fedrwch yn iawn," meddai, ac aeth ymlaen fel y dechreuodd.
Ychydig sydd yn ei gofio erbyn heddiw, hyd yn oed o chwarelwyr. Y mae aelodau'r to y perthynai ef iddo wedi mynd yn brin. Y mae'r traddodiad y perthynai ef iddo, traddodiad yr Undebwr Cymreig a oedd wedi ei wreiddio nid yn unig yn egwyddorion Undebiaeth Llafur ond hefyd yn niwylliant yr ysgol Sul, pregethu mawr Cymru a doethineb cefn gwlad, yn gwanhau. Ond ni ddylai ei wlad ei anghofio na'r hyn a wnaeth dros ei gydweithwyr. Dylai rhywun ysgrifennu'r hanes hwnnw; y cwbl y ceisiais ei wneud yma ydyw rhoddi fy argraffiadau personol fy hun am ŵr galluog, cywir, a doeth iawn ar gof a chadw. At y pethau hyn oll yr oedd yn un o'r dynion mwyaf diddan a diddorol. Ymbiliais arno ysgrifennu ei atgofion lawer gwaith eithr ni fynnai wneud hynny; yr oedd meddwl am ysgrifennu, meddai ef, yn torri ei galon, ac y mae'n ddigon posibl na buasai blas ei siarad byw a bachog ar ei ysgrifennu. Gresyn na buaswn wedi cofnodi rhai o'i bethau ar y pryd, ond dyna fel y mae hi, ac nid oes gennyf bellach ond dibynnu ar fy nghof.
ROBERT BRYAN, 1858-1920.
BYDDAF weithiau yn cofio am fin nos yn ystafell fwyaf y tŷ yr oedd Robert Bryan yn byw ynddo pan fyddai yng Nghaernarfon. Nid oedd yn ystafell fawr, ond yr oedd ynddi lawer o lyfrau; yr oedd un mur, beth bynnag, wedi ei orchuddio gan lyfrau, a llawer o'r rhai hynny yn llyfrau pur ddiddorol, mewn amryw ieithoedd. Eisteddai'r diweddar Tim Evans, yr arlunydd, wrth y lle tân. Yr oedd ef newydd ddychwelyd i Gymru o Holland, lle bu'n byw, os wyf yn cofio'n gywir, am beth amser. Eisteddwn innau yn ei ymyl. Yr ochr arall i'r ystafell yr oedd Robert Bryan, gŵr ysgafn a byr o gorff, ei wallt trwchus yn britho, mwstas anferth yn cuddio ei enau a'r rhan fwyaf o ran isaf ei wyneb, a dau lygad byw, direidus, yn pefrio arnom dan aeliau trymion. Safai ef yn ymyl y silffoedd llyfrau, a bob hyn a hyn cymerai ddarlun o'r portfolio a oedd ar y bwrdd a gosodai ef ar un o'r estyll fel y gallem ei weled yn iawn, a'r goleuni gorau yn disgyn arno.
Neu, yn hytrach, fel y gallwn i ei weled, canys nid oedd Tim Evans yn edrych. Nid oedd yn rhaid iddo edrych canys gwyddai beth oedd pob un o'r darluniau. Ef a'u gwnaeth—darluniau dyfrlliw gan mwyaf, o olygfeydd yn Holland ac yng Nghymru. Heb droi i edrych, dywedodd yr arlunydd fod Cymru yn anodd—o safle'r arlunydd a olygai,—fod rhywbeth cyfrin yn ei hawyrgylch ac yn ei golygfeydd, a bod yr hin a'r golau yn newid mor aml ac mor sydyn fel mai gwaith anodd oedd i frws na phwyntil ddarlunio'r wlad yn gywir. Credaf mai rhywbeth a ddywedais i am un o'r darluniau a barodd iddo ddywedyd hyn. Ni welais y llun hwnnw byth ond hynny ond y mae gennyf gof gweddol glir amdano. Cefndir tywyll o fynydd oedd ynddo, congl ffridd garregog, clawdd
cerrig a llidiart fel llidiart y mynydd, a chawod yn myned heibio. Y gawod, a llwyddiant yr arlunydd yn dangos y tywyllwch a'r golau, y cwmwl du-las a'r clwt o awyr las, a wnaeth y darlun yn un cofiadwy; gallech deimlo crawcwellt y ffridd yn wlyb dan eich traed, gweled y clawdd cerrig yn diferu ar ôl y gawod ac ochr y mynydd yn disgleirio trwy'r glaw. Edrychodd Robert Bryan a minnau yn hir ar y llun hwnnw a Tim Evans yn dywedyd drachefn, fel pe buasai siarad wrtho ei hun, "Ydi, y mae Cymru'n anodd."
Yr oedd yr olygfa yn y tŷ'r noson honno yn nodweddiadol o Robert Bryan. Byddai ganddo rywbeth neu rywun i'w ddangos i chwi bob amser. Weithiau darn o gerddoriaeth a gyfansoddodd ef ei hun a fyddai, ac ai trwy'r scôr ar y piano. Dro arall byddai ganddo gasgliad newydd o'i farddoniaeth, a darllenai rai o'r cerddi. Weithiau byddai yn frwd ei ganmoliaeth i lyfr neu ysgrif a ddarllenasai, ac weithiau hefyd byddai yr un mor frwd ei gondemniad ar lyfr neu sefydliad neu berson. Ond nodwedd amlycaf Robert Bryan oedd ei gariad at y cain mewn llenyddiaeth a chelfyddyd, ei ddiwylliant eang, a'i gariad eirias at Gymru ac at yr iaith Gymraeg.
Buasai ef, yn ddiamau, yn disgwyl i mi ddywedyd mai ei nodwedd amlycaf oedd ei ddawn fel cerddor neu ei athrylith fel bardd, ond ni byddai dywedyd hynny yn gywir. Yr oedd yn gerddor, ac yr oedd yn fardd ac yn llenor, eithr nid oes llawer o'i gerddoriaeth na'i farddoniaeth wedi byw. Ni pherthyn i mi ddywedyd dim am ei gerddoriaeth; gallaf yn hawdd gredu ei bod yn dwyn yr un nodau a'i farddoniaeth. Dengys honno feddwl diwylliedig a choeth, eang ei ddiddordebau, a gallu i drin mydr a geiriau yn gwbl ddidramgwydd. Prin y gellir dweud mwy na hynny. Yr oedd ei gyffyrddiad ysgafn yn well na'i waith mwy uchelgeisiol; ceir pertrwydd mewn cân fel A Ddeui di Allan, sydd yn peri i ni feddwl y buasai'n well iddo fod wedi taro'r nodyn hwnnw yn amlach. Ond ofer yw dyfalu. Nid Robert Bryan a fuasai pe buasai wedi gwneud hynny. Gwaith fel a wnaeth a'i denai ef, ac yn hwnnw y gwelir y dyn.
Gŵr o Lanarmon yn Ial ydoedd. Ganed ef Medi 6, 1858. Cafodd addysg dda, ond llesteiriwyd ei gwrs fwy nag unwaith gan waeledd iechyd. Bu'n athro ysgol am gyfnod ond bu'n rhaid iddo roddi'r gwaith heibio oherwydd cyflwr ei iechyd. Yr oedd gaeafau'r wlad hon yn greulon wrtho, ac yn fuan ar ôl i'w frodyr ymsefydlu yn yr Aifft dechreuodd yntau fyned i'r wlad honno pan fyddai'r hydref yn dangos ei ddannedd yma. Y mae hanes y brodyr yn ddiddorol. Yr oedd tri ohonynt heblaw Robert, sef John, yr hynaf, Edward, a Joseph. Ar un adeg bu John ac Edward yn cadw siop yn y Bont Bridd, Caernarfon; aeth Joseph i Goleg Aberystwyth.
Torrodd iechyd John i lawr a pherswadiwyd ef gan ei gefnder, Samuel Evans, a oedd yn dal swydd bwysig dan lywodraeth yr Aifft, i fyned i'r wlad honno i geisio adferiad. Yr oedd llawer o bobl yn myned i'r Aifft i geisio adferiad iechyd y pryd hynny. Bu Tom Ellis yno, a chlywais Samuel Evans yn dywedyd iddo fyned ag ef i hela ewigod yn anialwch Libya unwaith. Aeth John Davies Bryan i'r Aifft a gwelodd gyfle i sefydlu masnach yno. Rhoddwyd y gorau i'r siop yng Nghaernarfon ac aeth Edward at ei frawd i'r Aifft. Cyn bo hir bu farw John a gadawyd Edward a Joseph i ofalu am y fasnach. Gwŷr penderfynol a diofn oedd y ddau; yr oedd Edward yn ddyn byr, cydnerth a phendant ei ddull; yr oedd Joseph yn dalach ac yn fwy hamddenol ei ddull, ond mor benderfynol a'i frawd. Yr oedd cryn lawer o duedd yr ysgolhaig yn Joseph a chymerai'r ddau frawd ddiddordeb byw ac agos mewn llenyddiaeth Gymraeg.
Llwyddodd eu masnach yn fawr. Daeth eu penderfyniad i'r amlwg yn gynnar ar eu gyrfa yn yr Aifft. Penderfynasant mai un pris sefydlog oedd i fod yn eu siop hwy a chafwyd trafferth di-ben-draw i argyhoeddi'r Dwyreinwyr eu bod o ddifrif. Bargeinio oedd arfer y Dwyrain, a chlywais Edward Bryan yn dweud fel y daeth Pasha at y siop, gyda'i gerbyd gwych a'i osgordd o weision, i brynu bag lledr. Mynnai gynnig llai na'r pris; gwrthododd Edward ostwng yr un ddimai, ac aeth y gŵr mawr ymaith yn ffrom. Ymhen deuddydd neu dri daeth yn ei ôl, yn barod erbyn hynny i roddi'r pris, ond yr oedd y bag wedi ei werthu i rywun arall. Yr oedd yn rhaid anfon am un yr un fath, a gwnaed hynny. Pan ddaeth hwnnw, mynnai'r Pasha fargeinio drachefn! Aeth blynyddoedd heibio cyn i'r bobl gredu nad oedd waeth heb fargeinio yn siop Davies Bryan, ond y brodyr a drechodd yn y diwedd ac yr oedd y peth yn hollol nodweddiadol ohonynt, o'u gwydnwch a'u penderfyniad. Gwŷr syml a diymhongar iawn eu dull oeddynt, gyda dynoliaeth gadarn, barn gydbwys, a gwelediad pell yn nodweddion amlwg ynddynt. Yr oedd gan y naill a'r llall gryn lawer o hiwmor, hiwmor direidus, nodweddiadol Gymreig. Yr oeddynt yn wŷr nodedig yn eu ffordd. Y mae gan y Parch. W. A. Lewis ysgrif ddiddorol ar y brodyr yn Y Ford Gron, Mehefin, 1935.
Pan ddeuthum i'w hadnabod yr oeddynt ymhlith masnachwyr mwyaf llwyddiannus yr Aifft, gyda siopau yn Cairo, Alexandria, Khartum, ac, mi dybiaf, ym Mhort Said. Cofiaf glywed y diweddar Syr William Preece yn dywedyd mor falch oedd o weled masnachdy yng Nghairo tebyg i un o siopau mwyaf Llundain a gwybod mai Cymry o Gaernarfon, ei dref enedigol ef ei hun, oedd wedi codi'r busnes ac yn ei reoli. Enillodd y brodyr enw da am eu cywirdeb ymhlith holl genhedloedd cymysg y rhan honno o'r Dwyrain; gwyddai pawb y gellid ymddiried yn eu gair ac yn eu gweithred. Ac enillasant yr enw hwnnw fel Cymry ac i Gymru, canys gwyddai pawb mai Cymry oedd y brodyr Bryan. Cymraeg oedd eu prif iaith ymhlith yr amryw ieithoedd a siaradent, Cymru'r capel a'r Ysgol Sul oedd eu cefndir, a mawr a fu eu croeso a'u caredigrwydd i'r Cymry a ddeuai i'r Aifft ar eu tro ar hyd y blynyddoedd, ac yn enwedig yn ystod y rhyfel mawr cyntaf.
Fel y dywedwyd, bregus ddigon oedd iechyd Robert a threuliodd y rhan fwyaf o'i aeafau yn yr Aifft, gan ddyfod yn ôl i Gymry yn yr haf. Byddai'r ddau frawd arall a'u teulu—oedd yn dyfod i Gymru hefyd, bob haf, Edward Bryan un flwyddyn a Joseph Bryan y flwyddyn wedyn. Nid oedd yn rhyfedd yn y byd fod cefndir dwyreiniol i lawer o ganu Robert Bryan a bod swyn iddo yn hen wlad yr Aifft. Crwydrodd lawer i'r anialwch ar ei ben ei hun, astudiodd hynafiaethau'r wlad, dysgodd Arabeg, a llwyr feddiannwyd ef gan swyn yr hyn a alwai yn oleuni'r Dwyrain. Mawr a fyddai ei ddirmyg at y rhai a soniai am "wyll y Dwyrain"; "Goleuni," meddai, "ydyw nodwedd y Dwyrain, goleuni tanbaid yr haul o awyr ddigwmwl." Braidd na thybiech chwi weithiau ei fod yn edrych ar y Dwyrain fel math o eiddo personol, ac nad oedd gan neb arall hawl i siarad nac ysgrifennu llawer amdano. Credaf ei fod yn gwybod cryn lawer am hynafiaethau'r Aifft, gwelodd lawer o'r hen feddau a'r temlau, a dringodd y pyramidiau; yn ddiamau rhydd y cyffyrddiad hwn a'r Dwyrain liw a diddordeb yn ei ganu. Yr oedd ganddo rywbeth i'w ddweud am yr Aifft, ond teimlwn yn aml y buasai wedi ei ddywedyd yn well ac yn fwy effeithiol mewn rhyddiaith. Yn wir, teimlaf fod ei ryddiaith bob amser yn well na'i farddoniaeth, er y gwn na fynasai ef gredu hynny am bris yn y byd. Yr oedd ganddo gyffyrddiad ysgafn a chryn lawer o hiwmor yn ei ryddiaith; deuai ei ddawn dychan i'r golwg weithiau.
Anffawd Robert Bryan yn llenyddol oedd ei fod yn cloffi rhwng deufyd. Ni allai gŵr o'i allu a'i ddiwylliant ef ymwrthod yn gyfangwbl a'r ddysg a'r dylanwadau newydd a oedd yn ail-lunio llenyddiaeth Gymraeg yn y cyfnod hwnnw, eithr ymglymai ei deimlad a'i galon am yr hen drefn. Ychydig sydd yn cofio am frwydr "yr Ysgol Newydd" erbyn hyn, ac aeth y peth yn ddiflas i'r sawl sydd yn cofio. Eithr ni ellir ei anwybyddu wrth son am gyfnod Robert Bryan, ac yr oedd yn fyw iawn iddo ef. Cwynai lawer ynghylch rhai agweddau ar y mudiad; tueddai i weled "dylanwad sych-ddysgedig a thrahaus yr Almaen" mewn rhai pethau a gwingai wrth feddwl "fod deddfau iaith yn bwysicach yng ngolwg rhai na deddfau bywyd." Yr oedd yr ansicrwydd hwn ynghylch pa fyd—neu pa ysgol, os mynner,—y mynnai ef ei hun berthyn iddo neu iddi yn llesteirio llawer ar ei waith.
Nid yn aml y ceid neb yn caru Cymru yn fwy nac yn ffyrnicach na Robert Bryan, a'r cariad hwnnw a oedd yn cyfrif, mewn rhan, beth bynnag, am ei agwedd at yr "Ysgol Newydd" o feirdd a llenorion. Eiddigeddai rhag i ddim lychwino pethau'r Cymru y dysgodd ef ei charu, Cymru canol y ganrif ddiwethaf, ei delfrydau, ei llenyddiaeth, a'i safonau, a Chymru a oedd, er na fynnai ef gydnabod na gweled hynny, yn diflannu hyd yn oed yr adeg honno. Yr oedd hen drefn yn myned heibio; anffawd Robert Bryan oedd iddo gael ei fagu megis rhwng deufyd llenyddol a diwylliannol, yr hen fyd a oedd ar ddarfod amdano, a'r byd newydd yr oedd dynion fel John Morris-Jones, Gwynn Jones a W. J. Gruffydd yn cludo ei faneri. Ni pherthynai yn hollol i'r naill fyd na'r llall; ni feddai ddawn Syr Owen Edwards i uno'r ddau, na medr Alafon i gymryd math o ddiddordeb tadol, mwyn, yn y newydd, a byw ar delerau da a'r hen yr un pryd. Mewn canlyniad yr oedd Robert Bryan yn aml yn boenus ei deimladau, fel y bydd pawb ohonom pan yn cloffi rhwng dau feddwl ac y mae'n bosibl i hynny atal ei dwf fel llenor. Gwelir cip ar yr agwedd yn ei gân, "Ymson Mympwy Cyson," a gwyddai'r sawl a oedd yn ei adnabod yn weddol dda fel yr anwadalai rhwng y naill begwn a'r llall beunydd.
Tristach na'r ddeuoliaeth yma oedd y breuddwydio am bethau mawr yr oedd i'w gwneud rhyw ddydd. Yr oedd yn heneiddio pan ddeuthum i'w adnabod, er y buasai yn anodd cael sicrwydd am ei oed y pryd hynny, canys yr oedd yn "hen lanc" yn ôl traddodiad manylaf yr urdd honno. Siaradai lawer am ei fwriadau mewn cerddoriaeth a barddoniaeth, a hynny yn gwbl hyderus, heb betruso dim, hyd y gwelwn, ynghylch ei allu i'w sylweddoli, a chwithau yn teimlo wrth wrando fod y dydd wedi rhedeg braidd yn bell, fod yr ewyllys wedi gwanhau a'r ynni wedi pallu i raddau gormodol iddo allu sylweddoli'r bwriadau bellach. Fel y dywedais, yr oedd yn ddiwylliedig, yn eang ei wybodaeth a'i ddiddordeb, wedi gweled llawer ar y byd ac ar bobl, yn ymgomiwr diddorol ac yn ŵr galluog. Ond nid oedd y gallu yr hiraethai am ei feddu ganddo. Rhoddodd y Tylwyth Teg lawer o bethau iddo yn ei grud, ond yr oedd yr un peth y rhodd- asai ef y byd am ei feddu ar ôl.
Y mae'n debyg mai fel cyfansoddwr y rhangan i gorau meibion, Y Teithiwr Blin, y cofir orau amdano erbyn hyn. Clywais ganmol yn ddiweddar iawn ar ei fiwsig yn nrama Beriah Evans, "Owain Glyndwr," hefyd. Ond amheuaf a oes llawer o ddarllen ar ei farddoniaeth bellach er fod ganddo lawer o bethau a dalai am eu darllen, yn enwedig rhai o'i gerddi dwyreiniol. Ond yr oedd rhywbeth ar ôl. Gwyddai yn dda am "dymuniadau pell eu hamcan," a chredaf iddo gael llawer o fwynhad wrth gynllunio ar gyfer gwaith. Yr wyf yn sicr iddo gael llawer o fwyniant wrth arfer ei ddawn ac wrth eangu ei ddiddordebau ac yr oedd ei fywyd yn hapus ar waethaf y llesteirio a fu arno oherwydd gwendid iechyd. Efallai mai ni, a oedd yn ei weled yn heneiddio ac yn amau am hynny na sylweddolid byth mo'r breuddwydion a'r bwriadau yr hoffai son amdanynt, oedd yn meddwl fod y peth yn drist. Yr oedd ef yn cael dedwyddwch y cynllunio mewn ffydd.
Beth bynnag am hynny, erys y cof am ŵr bonheddig cwrtais, diwylliedig, diddan, digrif ei stori, pur a difeth ei chwaeth, sydyn ei gripiad weithiau a thenau ei groen, ond parod iawn i faddau, ac hyd yn oed i chwerthin am ei ben ei hun ar adegau. Cofiaf am ei lyfrgell amrywiaethol gyda'i llyfrau Cymraeg, Saesneg, Sbaeneg, Eidaleg a Ffrangeg, am ei bentyrrau o lawysgrifau a darnau cerddorol, ei frwdfrydedd o blaid y llenor yma neu'r arlunydd acw a'i sêl danbaid dros gael sylw iddynt a chael Cymru i gydnabod eu gwerth. Iddo ef yr oedd Cymru'n genedl, yr oedd y bywyd Cymreig yn rhywbeth a oedd yn bod mewn gwirionedd, ac yr oedd yn sicrach o'r naill beth a'r llall am fod ganddo orwelion eang ac am ei fod yn medru gweled Cymru yn ei lle, nid yn ei pherthynas a Lloegr yn unig ond yn ei pherthynas a'r byd. Cynrychiolai do o bobl a oedd yn ymwybodol eu bod yn perthyn i genedl. Aeth ef a'i frodyr a'r teimlad hwnnw gyda hwynt i bob man, ac ni feddyliodd neb erioed eu bod yn ddim amgen na Chymry.
O'r Aifft y cefais y llythyrau olaf oddi wrtho, amryw ohonynt yn ystod y rhyfel. "Y mae yma gannoedd o filwyr Cymreig," meddai yn 1916, "a theimlad rhyfedd ydyw gwrando llafar gwŷr Eryri ar yr heolydd yma ac yn y trams, ar ôl i'r glust gynefino cyhyd ag acenion dieithr iddi gynt. . . . A phe gwelech wynebau rhai o'r bechgyn yn yr ysbytai pan siaredir Cymraeg a hwy chwi deimlech, fel finnau, mai calon wrth galon ydyw'r peth mwyaf pwysig yn y byd."
Cwsg y pedwar brawd yn yr Aifft a gellir cymhwyso dywediad enwog atynt hwythau. Trodd tywod hen wlad yr Aifft yn ddarn o Gymru pan roddwyd hwy i orwedd ynddo.
THOMAS GWYNN JONES, 1871-1949
A rodiwn-ni eto fyth Hiraethog y grug a'r eithin,
A gerddwn-ni yn y niwl, pan fo gorddu yno nos?
A wyliwn-ni eto haul, liw tân, yn gloywi'n y tyle,
A welwn-ni liwiau di-rif gan loywne leuad ar ros?
AM ryw reswm daw'r llinellau yna o Atgof Gwynn Jones, cerdd a gyflwynwyd i "W.J.G. ar fwrdd llong adeg rhyfel," i'm meddwl o hyd wrth feddwl am ei hawdur. Dyna'r ochr i Gwynn Jones a apeliodd gyntaf erioed ataf, ei gyffyrddiad agos â natur, yn enwedig "y grug a'r eithin." Ni chlywswn amdano—fel y digwyddai, nid oedd gennyf ar y pryd ddiddordeb mewn eisteddfodau na llenyddiaeth Gymraeg, am resymau penodol—nes i Silyn Roberts agor fy llygaid a'm clustiau un hwyrnos o wanwyn yn 1905 a ninnau yn cydgerdded yn nhueddau Tanygrisiau, lle'r oedd Silyn yn weinidog. Medrai ef Ymadawiad Arthur ar dafod leferydd, ac adroddodd lawer o'r awdl honno wrth fachgen a oedd, fel yr oedd Silyn, y mae'n sicr, yn gweled, yn hurt o anwybodus ynghylch ei wlad ei hun. Yr oedd ef yn rhy garedig, ac yn athro rhy dda, i ddangos na syndod na dirmyg. Yr hyn a wnaeth oedd adrodd llinellau megis,
Yn dres fraith ar draws y fro
'Roedd prydferth flodau'r perthi,
Unlliw ôd neu ewyn lli;
Dibrin flodau'r eithin aur
Mal haen o glych melynaur;
Mân flodau'r grug yn hugan
Ar y geillt o borffor gwan.
Lledai'r hwyl gain mal adain ar ledwyr,
Yntau a glywodd o gant gloyw awyr
Ddwsmel ar awel yr hwyr,—melysdon
Yn bwrw ei swynion ar bob rhyw synnwyr.

"Dibrin flodau'r eithin aur," "o gant gloyw awyr,"—teimlwn fod yma rywbeth newydd, rhyw sylwadaeth a dawn i fynegi yr hyn a welwyd, nad oeddynt, hyd y gwyddwn i cyn hynny, yn bod mewn llenyddiaeth Gymraeg yn y cyfnod hwnnw. Dyn y "grug a'r eithin" oedd bardd a fedrai ganu fel yna, nid "bardd-bregethwr"—credwn mai pregethwyr oedd y rhan fwyaf o lawer o lenorion Cymreig,—na dyn yn ysgrifennu ar ei gyfer am fyd yr awyr agored. Yr oedd yn gwybod am y bywyd gwyllt, yn caru yr un pethau â minnau, ac yn medru gwneud yr hyn yr oeddwn innau yn dyheu am allu ei wneud, sef mynegi ei brofiad am y bywyd hwnnw. Daeth newid byd a chyflwr arnaf yn ystod y tro hwnnw gyda Silyn Roberts, gŵr y bydd gennyf barch i'w goffadwriaeth byth.
Aeth peth amser heibio cyn i mi ddyfod i adnabod Gwynn Jones. Pan euthum i Gaernarfon yn ddiweddarach yn 1905 yr oedd ef ar gychwyn i'r Aifft, a'r unig olwg a gefais arno oedd cip un diwrnod ar ŵr tal, tenau, ac fel y tybiwn, pur oeraidd a digroeso ei ddull. Yn Eisteddfod Caernarfon y flwyddyn wedyn daethom i adnabod ein gilydd yn well, ond ni ddaeth cyfathrach agos nes iddo ddychwelyd i Gaernarfon i fyw, tua 1908. Cymerodd fy lle yn swyddfa'r Genedl am bythefnos pan oeddwn yn priodi, ac yn bur fuan ar ôl hynny daeth yno atom i weithio o hyd. Am fwy na blwyddyn bu ef a minnau yn wynebu ein gilydd wrth y bwrdd yn yr ystafell y sonia amdani yn Sanctum,
Nid oedd ond rhyw gut o ystafell
Ynghanol adeilad di-lun,
A dau ŵr prudd yn y gafell a geid
Wrthi yn ddistaw bob un.
Nid mor brudd, o ran hynny, na distaw bob amser, ychwaith, a bydd yn dda gennyf feddwl am yr amser hwnnw, er mor galed y gweithiem ac er lleied ein tâl. Credem ni, yn gam neu yn gymwys, ein bod yn gwneud ein hôl ar fywyd Cymru, ac wrth edrych yn ôl, ymhen blynyddoedd wedyn, dywedodd Gwynn i'w brofiad yn yr hen swyddfa fod yn un hapus.
"Nid hyfryd iawn fuasai fy mhrofiad i ers blynyddoedd," medd, yn ei ysgrif ar jiwbili'r Genedl, yn 1927, "rhwng caled-waith a gwaeledd iechyd, ac nid hawdd i mi fyddai anghofio'r gwanwyn pan ddeuthum i gysylltiad â pherchenogion, golygyddion a gweithwyr Y Genedl y cyfnod hwnnw. Y mae'n debyg bod cryfhad iechyd unwaith eto yn adfywio hyder a gobaith, ond yr oedd ymddiried, caredigrwydd a chydweithrediad yn llawn cymaint o gysur. Dynol, ac nid masnachol a pheiriannol yn unig, oedd ein cysylltiad â'n gilydd yn y dyddiau hynny, ac yr oeddym i gyd eto yn hanner heulog yr yrfa."
Gwelais yn lled fuan nad oedd y pellter a'r oerfelgarwch y sylwais arnynt gynt yn ddim ond pethau ar yr wyneb. Yr oedd yno urddas, urddas a oedd yn rhan gynhenid ohono, ac ni allai oddef hyfder anghwrtais. Yr oedd yno dymer, hefyd, a fyddai yn berwi trosodd ar adegau, a gair chwyrn, cyrhaeddgar, a thro dirmygus ar y gwefusau dan y mwstas trwm. Yn y dyddiau hynny dywedai bethau a darfai rai am enwadau ac am bregethwyr. Clywais gwyno y byddai weithiau, os na byddai pregeth wrth ei fodd, yn darllen neu yn ysgrifennu. Ni wn a oedd hyn yn wir, ond gwn na allai oddef rhai mathau o ffyliaid yn llawen. Cafodd y gair ei fod yn ddigrefydd (y mae'n rhaid gwybod rhywbeth am awyrgylch a chefndir bywyd Cymru yr adeg honno i ddeall yn iawn paham), er na bu nam erioed ar ei gymeriad a bod ei fywyd ar ei hyd yn un o'r rhai puraf. Ond mentrai feddwl drosto ei hun a llefaru, a dychrynodd rhai. Ni bûm yn cydweithio ag ef yn hir yn yr ystafell fach cyn dywedyd wrtho ei fod yn sicr o ddiweddu ei yrfa fel blaenor gyda'r Methodisitiaid. Gwnaeth ddau lygad mawr arnaf am eiliad ac yna chwerthin. Ni allai wadu; yr oedd y traddodiad yn ei waed, ac ni allech chwithau fod yn hir yn ei gwmni heb adnabod y dull o feddwl ac o edrych ar bethau. Agwedd y Piwritan oedd ei agwedd ef at fywyd yn y bôn. Nid gŵr digrefydd oedd y dyn a oedd yn un o gyfeillion agosaf Alafon.
Peth arall a ddaeth i'r golwg yn fuan oedd cefndir yr awyr agored. Mab i amaethwr oedd Gwynn fel finnau, ac er ei fod ddeuddeng mlynedd bron yn hŷn na mi, eto cawsom brofiad o fywyd cyffelyb ac edrychem ar lawer o bethau o'r un cyfeiriad. Yn wir, am bethau felly y siaradai yn fwy o lawer nag am lenyddiaeth, ac, yn sicr, yn fwy o lawer nag am ei waith ei hun. "Dalen o lyfr gwybodaeth Gwynn fab Iwan," meddai, yn album fy mhriod, lawer blwyddyn yn ôl bellach, "gŵr a fu amaethwr gynt eithr a werthodd ei fraint ac a aeth i wneuthur papurau newyddion, Duw a faddeuo iddo." Carai faes a ffridd a mynydd; gwyddai am brydferthwch cudd gwrych a mân flodau ochr y ffos; ymhyfrydai yng nghampau ambell gi, gallai gynnal sgwrs â mochyn, sgwrs a oedd, gellid tybio, yn ddiddorol iawn i'r naill ochr a'r llall, gwelais ef yn galw nifer o foch ar draws cae trwy wneud sŵn wrth y llidiart, ac er na fedrai, fel y medrai Alafon, ddenu aderyn o'r llwyn, gwyddai yn dda amdanynt hwythau ac yr oedd yn adnabod eu cân. Nid canu gwneud oedd ei ganu natur ef.
A haen ledrith niwl hydref
Yn hug rhwng daear a nef,
Ag ambr wawl dros gwm a bryn
Trwyddo fal gwrid rhuddfelyn,—
darllenodd y llinellau yna i mi newydd iddo eu hysgrifennu, a chofiais innau ar unwaith am y diwrnod y gwelsom y peth, yn rhywle yng nghyffiniau hen Felin Bodrual. Etifedd cenedlaethau o amaethwyr Hiraethog a Chwm Penamnen,— yr oedd Angharad Jâms ymhlith ei hynafiaid ac yr oedd felly yn perthyn i'r un teulu â John Jones, Talsarn, y gŵr a feithrinodd ei ddawn yn unigrwydd Nant y Tylathau—oedd Gwynn. Ar y sylfaen gadarn honno yr adeiladwyd popeth arall a oedd ynddo.
Ffrwyth sylwadaeth uniongyrchol oedd ei ganu natur. "Ni ddisgrifiais i erioed olygfa onid a welais," meddai mewn llythyr ataf, "ni chwbl ddychmygais olygfa erioed. Byddaf yn cymysgu, ond rhaid i mi gael deunydd a welais a'r llygaid." Yr oedd ei lygaid yn gweled llawer na welai'r sylwedydd cyffredin ac yr oedd ganddo'r athrylith i ddisgrifio yr hyn a welai, ond yr oedd yn ostyngedig iawn wyneb yn wyneb â natur; "Ni waeth beth a ddywedo'r dychmygwyr clodwiw," medd yn yr un llythyr," . . . ni fedrant hwy na neb arall ddychmygu dim byd yn debyg i weithredoedd natur wedi'r cwbl."
Credai ef, yn ddiamau, mai'r awyr agored oedd ei briod amgylchedd ac mai oddi wrth natur y tynnai ei rin a'i nerth. Mewn llythyr ataf yn 1912 soniodd am "yr hen Ossian- Macpherson os mynnwch,-a'r hen feirdd Gwyddelig, meib- ion Natur wyllt ardderchog, heb angen to uwch eu pennau, a'u gwallt yn gynefin a gwynt y nos!" Yna a ymlaen: "Na, ni bu farw rhamant erioed. Allan y mae hi, a rhaid i ni wrth ambell ddyrnod gan Natur fel y gorffo arnom droi ati oddi wrth fân gampau dyn yr antimacasser a'r het silc, y llyfrau meirwon a'r gelfyddyd ddi-fywyd, ac y goleuo ein llygaid unwaith yn rhagor fel llygaid plant gan lawenydd y byd byw! Ie, fel y dysgom iaith a anghofiasom ac y deallom seiniau a aeth yn ddieithr i'n clustiau ers llawer dydd. Ac wedyn? Wel, dyna'r rhyddid mawr. Ni osodir cadwyn amdanom mwy. Daeth arnom fawr dawelwch bywyd. Gwelsom ef yn gwyro'i ben yn ddistaw ac yn ddirwgnach ac yn hardd yn yr hydref, ac yn cyfodi drachefn, mor ddistaw, mor ddirwgnach ac mor hardd, yn y gwanwyn. Ni alarodd yn chwerw ac ni lawenychodd tros fesur." Ac yna daw brawddeg hollol nodweddiadol o ochr arall i Gwynn Jones. "Ni wybu ddim," meddai, "am y dymer lenyddol nag am orchestion y gohebydd lleol!" Ni ellir deall barddoniaeth Gwynn yn iawn heb ddeall fod ei wreiddiau yn y pridd. Y mae'r grug a'r eithin yn y cefndir o hyd.
Cofiaf am enghraifft ddigrif braidd o hynny. Daeth Gwynn atom i aros a threfnais i fyned am dro ar draws caeau'r Parciau gydag ef a chyfaill arall. Nid oedd hwnnw erioed wedi gweled Gwynn Jones; yr Athro Gwynn Jones oedd iddo ef, ac yr oedd yn yswil wrth feddwl am fod yn ei gwmni. Cefais dipyn o waith ei berswadio i ddyfod, ond yr oeddwn yn awyddus iawn am i ddau o'm cyfeillion gorau gyfarfod ei gilydd, a chychwynnwyd am dro. Ar y cyntaf yr oedd fy nau gyfaill yn hynod foesgor ac urddasol; "Doctor," meddai'r naill; "Proffesor," meddai'r llall. Gwelwn nad oedd dim i'w ddisgwyl y ffordd honno. Llwyddais i droi'r sgwrs ar rywbeth ynglŷn â bywyd gwlad, a daeth y meiriol yn y man. Yn rhywle ar y llwybr hwnnw, wedi cyrraedd tua hanner y ffordd, yr oedd fy nau gyfaill yn uno i ganu hen rigwm a ddaeth i gof Gwynn
Peidied neb â bod yn ddig
Wrth Ddafydd Dene am ddwyn y cig;
Eisiau bwyd oedd ar y bol
Pan aeth y cig i ffwrdd o'r drol,
Mor gynnar yn y bore, &c., &c.
Yr oedd cof Gwynn yn llawn o bethau fel yna a byddai yn eu hadrodd â goleuni direidus yn ei lygaid ardderchog. Un tro yr oedd fy mhriod yn canu'r hen gainc, "Molawd y Brâg," allan o "Alawon fy Ngwlad" Nicholas Bennett, ar y piano. "Rydw i'n cofio clywed canu honna yn Nyffryn Clwyd erstalwm," meddai Gwynn yn sydyn, ac ar ôl ychydig feddwl cofiodd y geiriau hefyd. Dyma hwy fel y canodd Gwynn hwynt y noson honno, flynyddoedd lawer yn ôl:
Gŵr tŷ tafarn, y bwlcyn tew,
Pen fel llwynog a bol fel llew;
Jwg dwy ddolen a dwbl bêg—
Yn enw dyn! ac yn ara deg.
O, gwrw da, ti wy'n garu ore,
O, gwrw da, ti wy'n garu ore,
Ti yw 'nifyrrwch yn hwyr ac yn fore,
O, gwrw da!
Yn wir, medrai wneud pethau fel yna ei hun pan fyddai alw amdanynt—rhigymau am ddigwyddiadau a phobl leol, a baledi oedd yn dynwared tinc yr hen faledi pen-ffair i'r dim. Mewn gair, yr oedd Gwynn Jones, fel pob dyn mawr, yn amlochrog ac yn bersonoliaeth gyfoethog a diddorol. Yr oedd yr awyrgylch yn newid pan ddeuai ef i'r cwmni. Gallai eistedd am oriau weithiau heb ddywedyd llawer, ond yr oedd yn un o'r bobl braf hynny sydd yn medru bod yn ddistaw heb yn eich tarfu. Teimlech mai am ei fod yn ddedwydd yr oedd yn ddistaw, nid am ei fod yn annifyr ei fyd. Dro arall byddai yn llathennu yn bur drwm ar y peth yma neu'r peth arall, ac yn dweud pethau a ymddangosai yn eithafol os na byddech yn sylwi ar y direidi yn ei lygaid. Ar un adeg cymerid yn ganiataol gan lawer mai gŵr chwyrn ydoedd. "Y mae Gwynn Jones yn rhoi ambell gic go eger yn yr ysgrif yna," meddai rhywun wrth Anthropos unwaith. "Ydi," meddai Anthropos, "fydd Gwynn byth yn sgrifennu heb ei 'sgidiau am ei draed." Y gwir, wrth gwrs, oedd fod rhyw fawrfrydigrwydd tadol yn elfen gref iawn ynddo, a bod honno yn cryfhau fel yr heneiddiai. Yr oedd yn garedig at feirdd a llenorion ieuainc, os na byddent, yn ei eiriau ef, yn ormod o lanciau, ac yn dyner (byddwn yn meddwl ei fod yn rhy dyner weithiau) ei feirniadaeth ar eu gwaith. Bu yn rhaid iddo ymladd yn erbyn llawer o anawsterau ar ddechrau ei yrfa a dioddef cryn lawer o feirniadaeth anwybodus a hurt. Magodd yntau fath o gragen galed er diogelwch iddo ei hun a chredodd mai ymosod oedd y dull gorau i'w amddiffyn ei hun. Ni chofir erbyn hyn am y gwrthwynebiad chwerw i'r "Ysgol Newydd" a'u gwaith, nac am y pethau ffôl ac angharedig a ddywedid amdanynt, ond dylid sylweddoli y bu yn rhaid i bobl fel Gwynn Jones a Silyn Roberts a W. J. Gruffydd ymladd am eu lle. Fel yr oedd yn heneiddio ac yn ennill ei le daeth yr elfen dadol, garedig, yr elfen naturiol a oedd yn Gwynn, yn fwy i'r golwg. Ni byddai neb y byddwn yn falchach o'i weled pan fyddwn yn wael, er enghraifft; yr unig anfantais ynglŷn â hynny oedd y byddai ef bob amser yn llawer iawn mwy pryderus yn fy nghylch nag y byddwn i ynghylch fy nghyflwr fy hun. Gwelais ef yn ffarwelio â mi â dagrau lond ei lygaid fwy nag unwaith.
Gallech feddwl ei fod yn ddidaro iawn ynghylch rhai pethau, ac yr oedd felly ar ryw ystyr. Yr oedd yn rhaid i chwi ei gymryd fel yr oedd. Dyma enghraifft. Flynyddoedd yn ôl yr oedd yn aros gyda ni. Amser cinio un diwrnod dywedodd yn sydyn ei fod wedi addo mynd i'r Ysgoldy, i gael te gydag Alafon. Aeth,—ac ni welsom ef am dridiau na chlywed gair oddi wrtho. Yr oeddem yn adnabod Gwynn, ac am hynny yn cymryd peth felly yn ei gwrs. Ond y tu ôl i fân bethau fel yna yr oedd dynoliaeth gyfoethog, gref. Nid yw'r bobl sydd yn meddwl am feirdd fel creaduriaid gwyllt, anghyfrifol yn adnabod beirdd mawr. Buasai cystal gennyf gael cyngor Gwynn ar fater o waith bob dydd neu ymddygiad â neb y gwyddwn amdano; yr oedd yn fanwl a meddylgar ynghylch y pethau a oedd yn cyfrif, ac yma drachefn yr oedd y cefndir gwledig yn amlwg. Barn ac agwedd y gwladwr oedd yr eiddo ef. Wrth drafod rhywbeth gydag ef teimlwn fel pe buaswn yn siarad ag un o amaethwyr pwyllog, hirben Ardudwy neu Hiraethog; yr un oedd yr agwedd at ddynion ac at fywyd. Dywedodd ef ei hun, mewn sgwrs un diwrnod, mai "ffarmwr gogoneddus" oedd Dr. John Williams, Brynsiencyn. Dyna oedd yntau, y naill yn cynrychioli Môn ar ei gorau a'r llall yn ddarn o fywyd Hiraethog—pobl y meysydd eang a'r grug a'r eithin.
Ychydig, fel rheol, a siaradai am ei farddoniaeth. Weithiau rhoddai argraff arnoch ei fod yn ddibris o'i farddoniaeth o'i chymharu â'i ysgolheictod; gallai hynny fod am fod ei ysgolheictod wedi costio llafur mawr iddo ac mai dawn Duw oedd ei athrylith fel bardd. Beth bynnag am hynny, yr oedd ei reddf fel ysgolhaig yn rhan o'i fawredd fel bardd hefyd; gosododd ei safon yn uchel a chadwodd y safon honno yn rhyfeddol o gyson, fel bardd ac fel llenor, ar hyd yr yrfa. Dirmygai'r llacrwydd a'r rhwyddineb a fu ac y sydd yn fagl i gynifer o lenorion, ac yr oedd, gydag ychydig iawn o eithriadau, yn feirniad llym ar ei waith ei hun mewn barddoniaeth. Hwyrach nad oedd llawn mor fanwl ynghylch ei ryddiaith, er y dylid cofio i gryn lawer o'i waith gael ei ysgrifennu ar gyfer papurau newyddion ac mewn brys. Y mae'n rhaid cofio mai mewn swyddfeydd papurau newyddion y cafodd y rhan fwyaf o'i hyfforddiant, a'i fod yn newyddiadurwr profiadol a medrus, prydlon a threfnus ei waith bob amser, ac yn medru ysgrifennu yn dda ac yn gyflym pan fyddai yn rhaid wrth gyflymder.
Ac wrth sôn am y rhan yma o brofiad Gwynn Jones, credaf ein bod yn cyffwrdd ag un o'r dylanwadau pwysig a fu arno. Gŵyr pawb am ddylanwad Emrys ap Iwan arno ond ni chofir cymaint am ddylanwad Daniel Rees. Ef oedd golygydd yr Herald Cymraeg a phapurau eraill y swyddfa honno pan ymunodd Gwynn â'r staff. Gŵr o Sir Benfro oedd Daniel Rees, gŵr tal, du ei bryd, sarrug ei wedd, ac annibynnol iawn ei feddwl. Yr oedd yn newyddiadurwr da ac yn ŵr pur ddiwylliedig, yn medru Lladin yn dda ac yn ymhyfrydu mewn Eidaleg a gwaith Dante. Cyfieithodd y Ddwyfol Gân i'r Gymraeg ac ysgrifennodd Gwynn ragymadrodd i'r cyfieithiad. Mwy na hynny, cydweithiodd y ddau ar ddrama Saesneg, Dante and Beatrice, ar yr un testun. Anaml y byddai Daniel Rees yn cytuno â'r mwyafrif; yr oedd, er enghraifft, yn wrthwynebwr pendant i ryfel De Affrica, a hwtiwyd ef a'i olygydd cynorthwyol gan dyrfa ar Faes Caernarfon yr adeg honno. Clywais Gwynn yn sôn am y profiad hwnnw ac yn dweud mor ddidaro oedd Daniel Rees yn cerdded trwy'r dyrfa elyniaethus. Yr oedd y ddau yn gyfeillion pur agos, a chredaf ei bod yn rhaid arnom gymryd Daniel Rees i ystyriaeth wrth geisio deall Gwynn Jones.
Ceisiais dynnu darlun, anghyflawn iawn, o'r Gwynn Jones yr oeddwn yn ei adnabod orau—Gwynn Jones "Hiraethog y grug a'r eithin," gŵr yr awyr agored a chefndir y tyddyn a'r maes. Yr oedd yn fwy byw na'n hanner ni, er y gallai eistedd drwy'r dydd bron heb wneud dim, heb ddarllen na hyd yn oed edrych ar lyfr. Ond pan âi ati i weithio gweithiai gydag egni ac ymroddiad a oedd yn ddigon i beri i'r gweddill ohonom gywilyddio; y rhyfeddod, wrth gofio fel y gweithiodd ar hyd ei oes, oedd iddo fyw i fod yn ddwy ar bymtheg a thrigain oed. Yr oedd yn un o'r gweithwyr caletaf a threfnusaf a fu erioed mewn swyddfa papur newydd. Ond ni byddai byth yn ffwdanllyd; byddai ganddo hamdden i ymgomio bob amser, ac yr oedd yn un o'r ymgomwyr difyrraf pan siaradai'n rhydd gyda'i gyfeillion. Nid oedd cystal nac mor naturiol os byddai rhywun dieithr yn y cwmni. Yr hyn yr hoffwn allu ei wneud ydyw cyfleu rhyw syniad am fawredd a hoffusrwydd y dyn, fel dyn. Y mae ei waith yna i bawb ei weled, ond ni ellir adnabod y dyn bellach ond trwy i rai a oedd yn ei adnabod geisio dywedyd pa fath un ydoedd. Rhyw deirgwaith neu bedair yn fy oes y cyfarfûm â dynion y teimlwn eu bod yn ddynion mawr yng ngwir ystyr y gair, ac unwaith bûm yng nghwmni dau o'r dynion hynny gyda'i gilydd. Douglas Hyde oedd y naill a Gwynn Jones oedd y llall—dau ddyn mawr yn ddiddadl. Dyna fel yr hoffaf feddwl am Gwynn heddiw, personoliaeth fawr, dyn cariadus, naturiol cyfaill teimladwy a gŵr y gallech fod yn gwbl sicr amdano ei fod yn bur a diddichell.
Flynyddoedd yn ôl galwodd i'm gweled ar ei ffordd adref o Ddinbych, os wyf yn cofio'n iawn. "Fedrwch chi wrando am dipyn bach?" meddai, yn wylaidd braidd. Medrwn, a dechreuodd yntau ddarllen:
Wylai cyfeiliorn awelig yn llesg yn yr hesg a'r llwyni,
Nos, dros y bryniau dynesai, dydd, ymbellhai dros y don.
Aeth ymlaen hyd y diwedd, y tro cyntaf erioed i mi glywed Madog, a'r tro cyntaf, efallai, i Gwynn ei darllen yn uchel ar ei hyd. Gafaelodd y stori ynom ein dau; yr oedd dagrau yn ei lygaid ef ac, efallai, yn fy llygaid innau pan gyrhaeddwyd y diwedd, ac yna trodd Gwynn ataf yn sydyn. "Be' fedrech chi 'neud efo fo ond i foddi o?" meddai. Yr oedd y trawsgweiriad yn hollol nodweddiadol. Y mae yn rhaid ei fod yn gwybod ei fod wedi cynhyrchu un o gampweithiau llenyddiaeth Gymraeg, cyffyrddwyd ei deimladau ef ei hun a gwyddai gyffwrdd fy rhai innau. Ond nid oedd am ymhelaethu ar hynny a daeth â ni yn ôl i'r ddaear yn sydyn gyda'i gwestiwn
Yr unig anghydwelediad o bwys a fu rhyngom ynglŷn â'i waith erioed oedd na allwn oddef ei glywed yn bychanu Ymadawiad Arthur. Tueddai i wneud hynny weithiau, a minnau yn credu, fel y credaf heddiw, fod gwlith a phrydferthwch y bore ar y gerdd honno hyd byth. Ynglŷn ag Ymadawiad Arthur y clywais amdano gyntaf erioed. Ac yn awr
Yn y pellter, fel peraidd Anadliad, sibrydiad braidd, Darfu'r llais, ond erys yr atgof am fardd a llenor mawr, a redodd yr yrfa ac a gadwodd y ffydd, ac am gyfaill na welwn ei debyg eto, tra byddom. Bydd yn dda gennyf gofio fel y daeth yr hen oleuni i'r llygaid a'r hen dinc i'r llais pan siaradai ym mis Medi, 1948 am y dyddiau gynt. A dyna'r tro olaf.

Nodiadau
[golygu]Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.