Neidio i'r cynnwys

Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Adlef o'r glyn

Oddi ar Wicidestun
Tinc hirllaes cloch yr eglwys Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I

gan Owen Wynne Jones (Glasynys)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Can y telynor wrth farw

ADLEF O'R GLYN.
YN ATEB I "CATHL BLINDER" GLASLYN.

O! GWRANDO, Glaslyn anwyl, mae serch yn llenwi 'mron—
Mae rhywbeth dwyfol yn dy gân, er dyfned ydyw'r "don;"
Os ydwyt ti ar fyned, daw arall Las yn wir,
A chawn lawenydd nefol feirdd yng ngoleu'r purdeb clir.
Cawn wrando swn y Gragen—y Gragen, gyfaill mwyn,
Y Gragen honno fu i'r GLAS yn un o ferched cwyn;
Ond cofia hyn, fy nghyfaill, ar fin tragwyddol fyd,
Proffwydo'r wyf daw Angel Gwyn i'n dwyn ni'n dau ynghyd.

Mae adsain Tragwyddoldeb yn distyll ar fy nghlust,
Ond sibrwd Angel arall hyn,—"Bydd ddistaw'r Glas—ust! ust!"
Pwy ŵyr na welir eto ddau Las mewn gwyn a gwyrdd,
Yng NGHYLCH Y GWYNFYD hwnnw sydd yn llawn o seintiau fyrdd;
Cawn yno weld y dwyfol, y Ceugant mawr dilyth,
A bod yng nghwmni Iesu Grist am oesoedd bery byth.
Y Gair, y Gair a anwyd o'r lân ddihalog Fair,
Ddanghosodd yn ei Berson pur, yn wir mai gwir yw'r gair
Ei ddyfod ef o'r nefoedd i wared dynolryw,
A'n gwneyd ni pan yn hyn o fyd yn dawel deulu Duw.


Nodiadau

[golygu]