Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Bedd-argraff
Gwedd
| ← Cymru fu, Cymru fydd | Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I gan Owen Wynne Jones (Glasynys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Murmuron y gragen → |
XXI.—BEDD-ARGRAFF.
DDYN, ystyria! Edrych, dyma 'r fan
Y mae fy nghorff yn gymysg gyda'r llwch;
Tra mae fy enaid yn y rhannau ban,
'Rwyf fi yn dawel dan y llenni trwch.
Meddylia, ddyn, am farw! Dyna'th ran,
Partô yn awr am gilfach gled a glan.