Neidio i'r cynnwys

Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Cadw'th feddwl fel dy law

Oddi ar Wicidestun
Y Gog a Gwen Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I

gan Owen Wynne Jones (Glasynys)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Bugeileg

CADW'TH FEDDWL FEL DY LAW.

SYCH dy ddagrau, eneth anwyl,
Nid yw'n amser cadw noswyl;
Paid, fy ngeneth wen, a phoeni,
Nid yw hynny ond dihoeni;
Y mae amser gwell gerllaw,
Cadw'th feddwl fel dy law.

Poen a gofid deimlir beunydd,
Poenau fory, poenau drennydd;
Ond mae rhywbeth eto'n rhagor—
Drws daioni sydd yn agor;
Y mae amser gwell gerllaw—
Cadw'th feddwl fel dy law.

Os bydd weithiau gwmwl du
Yn gorchuddio'r wybren gu,
Derfydd hwnnw heb ei dras,
Yna mwy cawn awyr las;
Y mae amser gwell gerllaw—
Cadw'th feddwl fel dy law.

Llawer bore bydd y gwlaw
Yn dyhidlo yn ddi-daw;
Ond cyn hanner y prydnawn
Tywydd teg o'r brafiaf gawn;
Amser gwell sy'n dod—a ddaw—
Cadw'th feddwl fel dy law.

Gobaith! Gobaith! y mae hedd
Tragwyddol gariad ar dy wedd;
Pan wrth farw, 'ngeneth wen,
Ar ei fynwes pwys dy ben;
Y mae amser gwell gerllaw—
Cadw'th feddwl fel dy law.


Nodiadau

[golygu]