Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Can Eisteddfod
| ← Y crwydryn | Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I gan Owen Wynne Jones (Glasynys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Rhys Cwm Dyli → |
CAN EISTEDDFOD.
MESUR,—Dygwyl Dewi.
EISTEDDFOD Cymru, dyma'r wyl
I ennyn gwladol dân;
Mae'r awen nefol yn ei hwyl
Yn pyncio ceinion cân.
Eisteddfod Cymru! er pob gwawd,
"Tra môr, tra Brython," fydd
Yn gwneuthur dyn i ddyn yn frawd.
Ac arno urdd a rydd.
Cydgan,
Hen Gymru am oesau'n gu,
A ddalio yn ddi-len;
A Chymru fydd, tra nos a dydd,
Yn ben yr Ynys Wen.
Yr Awen noddid, hoffid cân
Gan bawb yng Nghymru gynt;
Gwladgarwch gyda'i gwenau glân
A daenid gan y gwynt;.
Pob cwm a nant, pob bryn a phant,
Yng ngwên yr Awen rydd,
A draethant heirdd ragorion beirdd
Awenol "Cymru fydd."
Cydgan,
Hen Gymru am oesau'n gu,
A ddalio yn ddi-len;
A Chymru fydd, tra nos a dydd,
Yn ben yr Ynys Wen.
O! melus marw dros ei wlad,
Dros anwyl Walia hen,
Anwylach hon na mam na thad,
A llonnach yw ei llen;
Eryri ydyw tref y bardd,
A'i ardd Morgannwg rydd;
Ei awen ynddynt heinif chwardd,
A chana "Cymru fydd."
Cydgan,
Hen Gymru am oesau'n gu,
A ddalio yn ddi-len;
A Chymru fydd, tra nos a dydd,
Yn ben yr Ynys Wen.