Neidio i'r cynnwys

Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Can wladol

Oddi ar Wicidestun
Y gog Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I

gan Owen Wynne Jones (Glasynys)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Tymestl Nos Galangauaf

CAN WLADOL.

ER gwawd a gwên, er bri a brad,
Mae'r Werydd tonnog, llydan, llaith
Yn bloeddio," Cymru, cadw 'th iaith!"
Mae'r corwynt cryf ag uthrol lais
Yn gwaeddi'n hyf,—" Er brad y Sais
Mae Cymru wen ymlaen y gad,
A'r Cymry'n caru'u hanwyl wlad!"
Mae'r adsain yn y Berwyn draw,
Ac ym Morgannwg yn ddi daw
Yn diaspedain—"Cymru wen,
Cyfoda 'th dywysogol ben."
O! wŷr Eryri, mawr eu dawn,
Mae'n ddydd; deffrowch! deffrowch yn iawn.
Cyd-unwn yn y floedd i gyd—
Ymladdwn byth o blaid ein gwlad.
"I'R IAITH GYMRAEG BOED OES Y BYD."


Nodiadau

[golygu]