Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Cloch-mebyn
| ← Caersalem eurog ddinas | Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I gan Owen Wynne Jones (Glasynys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Tinc hirllaes cloch yr eglwys → |
CLOCH-MEBYN (SNOWDROP).
BETH yw hwn? Mae'n dlws a hardd,
Yn fy ngwyneb siriol chwardd;
Er fod eira ar y bryn,
Er fod rhew yn do i'r llyn,
Chwertha'n wŵyl ar noethni'r byd
Yn ail i febyn llon ei fryd.
Plentyn cyntaf Gwanwyn yw,
Yn yr awel oer mae'n byw;
Gwynder odliw'r breiliw bach
Ddengys rin ei uchel ach;
Er bod dan farugog len,
Ceir ynddo nodau Gwynfa Wen.
Rhew-wynt oerllyd, ffyrnig, oer,
Lled ei ddail dan wên y lloer,
Chwery yn y rhynllyd hin,
Chwardda dan ei deifiog fin;
Cysgod o wyryfol wedd
Pur, diniwed teulu'r bedd.
Gwanwyn oes yw mebyd mwyn,
Urddir hon a delw swyn,
Ac edmygir ceinion hardd,
Tebyg i rai nefol ardd;
O! dlysineb heb ei ail
Yng ngwyrddlesni tirf y dail.
Pwy mor gu a'r Iesu gwyn?
Pwy mor dda a'r hwn a fyn
Lwyr ddileu pechodau'r byd,
Ac adferu rhadol fryd?
Hardd yw ef! O nefol rôs,
"Te rogamus, audi nos."[1]
Nodiadau
[golygu]- ↑ Rydym yn erfyn arnat, clyw ni.