Neidio i'r cynnwys

Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Cwynfan pechadur

Oddi ar Wicidestun
O! aros gyda mi Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I

gan Owen Wynne Jones (Glasynys)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Tu draw i'r cwmwl du

CWYNFAN PECHADUR.

YN amser fy adfyd, clyw, Iesu, fy nghri,
Rhag ofn i mi'n ynfyd ymadael â thi;
Pan weli fi'n crwydro, O galw fi'n ol,
Na ad i mi lithro, na syrthio yn ffol.

A'i roddion yn ceisio fy hudo mae'r byd,
Pleserau sy'n llithio fy enaid o hyd;
Yn angof nad elo chwys gwaedlyd yr ardd,
A'm cysgod a fyddo croes Calfari hardd.

Pan gosbi fi, Arglwydd, mewn cariad am ddrwg,
O! dyro'n gyfarwydd dy fendith heb wg;
Ar allor dy gariad fy aberth a fydd,
Os egwan y teimlad, fe 'i nerthir gan ffydd.

Pan elwyf i'r ceufedd, yn welw fy ngwedd,
Boed goleu trugaredd ar wyneb fy medd;
Ar fynwes gwirionedd, gorffwysaf o hyd,
A phan ddaw y diwedd, caf fywyd ail fyd.


Nodiadau

[golygu]