Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Dydd y farn
Gwedd
| ← Yr ewig wyllt | Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I gan Owen Wynne Jones (Glasynys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cymru fu, Cymru fydd → |
XVI.—DYDD Y FARN.
MAE dydd i ddod, dydd mawr yr Ior,
Pan sigla 'r byd, pan ferwa'r môr,
Pan syrth y ser i lawr o'u lle,
Pan dwlla 'r haul a lloer y ne,
Pryd hyn y bydd y diwedd mawr
Ar holl weithredoedd daear lawr.