Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Dymuniad
| ← At berthynas galarus | Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I gan Owen Wynne Jones (Glasynys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Y coedwr, arbed di → |
IV.—DYMUNIAD.
YN ymyl y llwybr sy'n arwain i'r eglwys,
O dan y werdd ywen caf huno mewn hedd
A'm henaid yn trigo ardaloedd Paradwys,
A'm corff yn dawel dan lenni y bedd.
Fy meddrod a wisgir, pan ddelo y gwanwyn,
A glaswellt a blodau tegwychion eu gwedd;
Yr hedydd a gân ei garol yn hyfwyn
Ar doriad y wawrddydd uwch gwely fy hedd,
Y gwlith a eneiniant fy meddrod yn deraidd,
Rhydd natur ei dagrau uwch cysgle y bardd;
Danghosa fod Arvon[1] dan lenni gordoaidd,
'Rhwn unwaith fu'n geinwych fel rhosyn yr ardd.
Yno y gorffwysaf, caf huno fy ennyd,
A'm hysbryd yn lleraidd breswylydd yr hedd,
Hyd ddydd y cyfodiad, pryd deuaf i'r bywyd,
Yn hollol fuddugol ar angeu a'r bedd.
Fy Arglwydd, tra byddwyf yn nhaith yr anialwch,
Bydd imi yn gwmwl o nifwl bob dydd,
A cholofn ordanllyd yn y tywyllwch
Nes deuaf trwy'r afon i Ganan yn rhydd.
Duw Ior hollalluog, yr hanfod tragwyddol,
Bydd imi yn bopeth tra fwy yn y byd,
A phan bwy'n ymdrechu ag angeu oer ingol,
Ior, cymer fi adre i'r ddinas sancteiddiol,
I'r fangre ddymunol, i drigo ynghyd.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Arvon neu Arvoniensis oedd enw barddonol cyfnod bachgennaidd Glasynys.