Neidio i'r cynnwys

Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Hywel Wyn yr Hafod

Oddi ar Wicidestun
Murmuron y gragen Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I

gan Owen Wynne Jones (Glasynys)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Golygfa oddiar ben Moel Orthrwm


YN NYFFRYN BEDD GELERT.

"Cawn yno deulu newydd,
Bugeiliaid megis cynt."


HYWEL WYNN YR HAFOD.

CYNHWYSIAD.— Hafod Lwyfog ar noson yn y gaeaf—Y teulu—Eu gwaith—Eu dull a'u moes—Adrodd chwedlau—Dadl—Bwrw golwg drosti—Hywel Wynn y taid a Hywel Wyn yr ŵyr—Marwolaeth ddisyfyd chwaer fach, yr olaf ar ol blysio ffon ei thaid—Arferion bywyd bugail—Rhagluniaeth yn trefnu popeth—Anhawsder deall pethau—Tawelwch Hywel Wynn.

NOSWYL IFAN.—Cyfnewidiad a ddygodd deugain mlynedd—Adgof am yr hen ddull—Teulu newydd Chwedlau Neina Noswyl Ifan—Golygfa fynyddig—Hywel Wynn yn marw Ei fedd wrth y goeden onnen—Ei blant yn hulio ei fedd hefo blodau bob bore Sul—Gorffen y gân trwy annog dyn i ddilyn rhinwedd a diniweidrwydd, a dysgu byw er mwyn dysgu marw.

RYW noson oer ddryghinog yn Hafod Lwyfog lân,
O dan y simneu fawr yn glyd, yn profi blas y tân,
Eisteddai tair cenhedlaeth, y plant,—y tad a'r fam,
A Neina yn ei chadair wellt,—a Theida'n hen a cham
Mewn cadair freichiau dderw, yn trin y tân â'i ffon—
A'r plant yn cydymryson bod dan ei lygaid llon.
Hen arfer Hafod Lwyfog, er dyddiau Cymru fu,
Oedd adrodd chwedlau wrth y plant ar hirnos gaeaf du;
Un hynod iawn oedd Neina am gofio naw neu ddeg
O'r pethau glywodd gan ei nhain am gampau'r Tylwyth Teg
Wrth gribo gwlan ddechreunos, a'i merch yn diwyd wau,—
A'r gŵr yn diwyd wneyd llwy bren neu ynte efail gnau.
Ond Teida oedd y goreu am hen gofiannau gwlad,
Y rhai a ddysgodd yn y cwm wrth gadw praidd ei dad.
Rhai brithion iawn mae'n debyg a fyddai'n plesio 'r plant,
Ac nid oedd un a hoffent fwy na "Bwgan Plas y Nant."
Er fod y gwynt yn chwiban, a'r gwlaw yn dod i lawr
Nes gwneyd y fargod ar ei hyd yn ail i bistyll mawr;
Dechreuodd Teida ysgwyd—a phwnio'r tân â'i ffon,—
Yr hyn oedd arwydd iddynt hwy ei fod am chwedl gron.
"Mae," ebai, "drigain mlynedd er pan fu farw mrawd,
Ond mae'r diwarnod ar fy nghof fel doe, a'r hyn a wnawd,—
Yr oedd hi'n fore hyfryd, yr hedydd brith uwchben
Dywalltai gân o'r awyr lân oddeutu'r Garreg Wen;
Y gôg y bore hwnnw a bynciai gwc-cw'n gu,
Ac yn y drain y clywid sain y dwyfol dderyn du.
A'r hen weryrwr gwirion a dyrfai yn ddi-daw,
A bywiog ddawnsiai 'r cudyll coch fel cennad angau draw.
Daeth Gwen y y Garreg atom a'i chwn, i'r Cae Maen Bras,
A ffwrdd a ni yn llon ein tri hyd lepen Moel y Gwas.
Yr oedd y cwn yn annos yn fwy na buasai raid,
A ninnau'n para'u hysio'n tri, heb neb yn gwaeddi paid.

Peth drwg oedd hynny, cofiwch, a sylwch beth mor sur
A ddaeth i'n rhan ni yn y man,—yn gerydd cawsom gur.
Fe redodd oen yn wirion i ddannedd hylla 'r graig,—
I le na welwyd dim yn fyw ond cigfran fras ei saig.
Fe waeddodd Owen arnom,—' Mae'n resyn colli 'r oen,
Mae'n gas ei adael acw 'n wir i lwgu 'n fawr ei boen.'
Fe dynnodd ei ddwy glocsan, ac yna megis mynn
I fyny 'r aeth i nol yr oen,—a ninnau ar y bryn
Yn chwerthin wrth ei weled,—yr oedd o'n ddringwr iawn.
Ymgripiai 'n gyflym hyd y grug fel copyn hyd y gwawn!
Aeth at yr oen yn rhyfedd i ddannedd hylla 'r graig,
Ac yno bu yn canu cerdd,—' Y bugail mwyn a'i wraig.'
Fe fethai'r cwn fynd ato,—er ceisio, methu'n glir,—
A'r geifr a'r defaid glywid draw yn brefu 'mhen y tir.
Yr oen oedd yn ei freichiau! ond och! fe ddaeth i lawr
Yn bendramwnwgl hefog ef! ac wrth y garreg fawr
Ar fin y llyn yn llonydd, a'i wyneb glân yn waed
Y cefais ef, yr oen roes fref,—a gwingodd yntau 'i draed!
Cyfodais ef i fyny, ond ni ollyngai 'r oen,
Ac angau drwy ei lygaid gwyllt ddanghosai ingol boen.
Dolefai Gwen yn arw, 'O! Owen, Owen fwyn;'
A gorfu imi gario'r ddau, a'u rhoi mewn tocyn brwyn.
Ac yna rhedeg adref, a gwaeddi wnes bob cam,
'O! Owen bach! O! Owen bach, pa beth a wna fy mam?'
Cyrhaeddais yma'n fuan, ac O! fel criai mam!
A nhad fel milgi redai 'n chwim ar draws y cymoedd cam.
Ond erbyn iddo gyrraedd, bugeiliaid wyth neu naw
Oedd yno 'n cludo'r ddau i lawr, a phawb yn llawn o fraw;
'Mae Owen wedi marw! O! Owen, Owen bach,'
Dolefai nhad,— fy machgen gwyn fy anwyl fachgen iach.'
A Gwen, yr eneth wirion, oedd wallgof; gwaeddi 'r oedd,
A'r garreg adsain yn y cwm watwarai 'i chwerw floedd.
Ni welwyd wedi hyn mo mam dros drothwy 'r drws,
A thridiau wedyn ddygodd Gwen ar ol ei chariad tlws.
Ac wrth y goeden onnen mae beddi 'r ddau 'run wedd,
Yn ymyl claddfa nhad a mam, yn anwyl yn y bedd."
"Mae mwy na thrigain mlynedd er pan ddigwyddodd hyn,
Oblegid braidd yr ydwyf fi yn cofio Owen Wynn;
Ond mae rhyw adgof egwan yn aros yn fy ngho',
Im glywed, pan yn eneth fach, fod Gwen yn rhoi naw tro
O gwmpas muriau 'r eglwys y Nos Glangauaf cynt,
Ac iddi weled rhywbeth hyll a chlywed twrw gwynt;
Ac hefyd ryw nos Difiau, wrth droi y crysau glân,
I arch ddod yno at ei chrys, ac aros wrth y tân.
A chlywodd Ifan Owen, oddeutu 'r Garreg Wen,
Aderyn corff yn rhoi ysgrech, gan guro ffenestr Gwen.

Dyn anwyl, mae 'n beth rhyfedd! mae'r byd i gyd o'i go,
Nid oes yn awr ddim arwydd mawr cyn dyry angau dro.
Mae'r byd yn mynd o chwithig! pa beth fydd diwedd hyn?"
Fel yna 'r ymddiddanai 'n rhydd y ffyddiog Lowri Wynn.
"Ond," ebai 'r mab-yng-nghyfraith, mewn math o araeth lem,—
"Mae ofer-goelion wedi ffoi, a'u holl andwyol drem.
Breuddwydion gwag fel yna, fu gynt yn blino 'r wlad,
A ddylid ymlid bob yr un i'w cartref at eu tad.
Mae'r cyfryw bethau gwrthun yn drysu synwyr plant,
A dygant ddyn yn gaethwas gwyn yn lle 'i ddyrchafu 'n sant."
"Wel! wel! mae'n rhyfedd gennyf im' fyw i glywed hyn
(A'r dagrau 'n afon ar ddwy foch y tawel Deida Wynn),—
'Mae eisiau coelio popeth a pheidio coelio dim,'
Sydd hen ddiareb lawn o bwyll a ddysgwyd rywbryd im,
Gwell gormod coel na bychan am bethau diddan doeth.
Y ddafad farus ymhob man a fydd yn llom a noeth.
Mae'r eithin hyd y ffriddoedd yn ateb diben da,
Ac nid peth gwael cyn hyn eu cael ar lawer dechreu ha
Yn lle i'r gwan famogiaid, oherwydd tyf yn gynt
Nag unlle feddwn ar y tir oblegid cysgod gwynt;
Pur debyg traddodiadau,—cysgodant borfa fras,
Ac ond eu harfer hwy yn iawn fe gynorthwyant ras."
Ni fynnai 'r plant ddim dadleu. Pa ryfedd? Nid oes maeth
I enaid dyn mewn geiriau sych; na, hoffder oen yw llaeth.
Cyffelyb wyn dynoliaeth; rhaid iddynt ymhob gwlad
Gael yfed llaeth Dychymyg flith, a sugno awen rad.
Chwibianai 'r gwynt yn wichlyd, a Theida syllai 'n syn
Ar lygaid byw ei fochgoch ŵyr—ei anwyl Hywel Wynn.
Chwareuai 'r eneth leiaf yn ddiflin hefo 'i ffon,
A gwaeddodd, 'Teida, teida bach, i bwy y rhowch chwi hon?'
Ei chwaer a dorrodd allan, i wylo, tros y tŷ,—
A chofier mae galarnad merch, fel serch, yn fawr, a chry,
Yn dyner, eto 'n donnog; yn feiddgar, eto 'n fwyn;
Fel cawod drom ar fore Mai yn curo twf i'r brwyn.
Yr hyn a berodd iddi—fel yma ganddi gawn,
Dywedodd, "O! fy anwyl daid, pan ow'n i 'nol y mawn,
Mi glywais ryw aderyn yn rhoddi cleglais hyll,
A gwn ei fod yn dod i lawr hyd lwybyr Bryn y Cyll;
Mae angau am ddod yma! mi welais ganwyll werdd
Ar ben y gist gyffylog fawr, ac fel y dwed y gerdd;—
'Mae 'r deryn corff a'r ganwyll yn crybwyll i bob un
Y daw yr awr pan a i lawr yn welw iawn ei lun."
A chyn i'r bore ddyddio 'roedd angau 'n swrth ei wedd
Yn hwylio cwsg i'r fechan lon, y leiaf—yn y bedd;
Fe flysiodd ffon ei Theida, gofynnodd, "Pwy gaiff hon?"
Ond aed a hi i arall wlad lle nad oes eisiau ffon.

Peth rhyfedd gweled egin pan fydd yr Hydref gwyw
Yn taenu mantell felen goch dros wyneb pob peth byw;
Ond os yw'r dail yn marw yn welw ar y coed,
Daw gwanwyn gwyrdd ag eraill fyrdd gyn hardded ag erioed.
Rhyw fath o ail-argraffiad blynyddol ydyw hyn,
O'r tesog ddydd i'r adeg bydd y rhew yn toi y llyn;
Bob Ebrill daw briallu, bob Rhagfyr eira gwyn,—
Cyffelyb hefyd deddfau'r nef yn enaid Hywel Wynn.
Yn anian gwelir adlun o'r pethau dwyfol sydd
Yn wir sylweddau pur a glân yn nhawel wlad y dydd.
Mor anwyl bywyd bugail, yn darllen meddwl Duw
Wrth gerdded hyd y bryniau serth,—yn dysgu dynolryw!
Yr haf a'r gaeaf hefyd a ddygai ger ei fron
Ieuenctid llon a henaint llesg, yn arlun einioes gron.
Yng nghegin Hafod Lwyfog, 'roedd Teida 'n aeaf oer,
Ei wallt yn wyn, ei gam yn fyr, a'i en fel corniog loer;
Er hynny 'roedd anwyldeb a phurdeb yn ei foes,
Yn goron wen o gylch ei ben, yn addurn diwedd oes.
Ei ŵyr oedd fel Mehefin, yn wridog fywiog fel
Yr awel droellog ar y bryn ar fore diwrnod hel;
Neu fel symudliw enfys ar wyneb cwmwl du,
Yn fywyd oll o ben i ben ar fron yr hyn a fu.
Yr oedd yn fugail campus, ac os ae'r praidd ar wib
Ar hyd y cymoedd clywid ef yn chwiban hefo 'i bib—
Pîb wernen fyddai ganddo, a chanai hefo hon
Fesurau ddysgodd gan ei daid yn llawen ac yn llon;
Ond nid oedd un a hoffai yn fwy o ben i ben
Na 'r alaw leddf a ganai Nain, sef Dafydd Garreg Wen.
Ond cymysg ydyw bywyd rhaid bod yr oer a'r poeth,
Y du a'r gwyn, yr hardd a'r hyll, yr ynfyd ffol a'r doeth,
Cyn gellir cael dedwyddwch,—rhaid yfed diod sur,
Ond os ceir 'chydig bach o fêl fe leddfa 'r chwerw gur.
Dechreuodd Hywel fywyd yng nghanol gwenau 'r byd,
A pharodd yntau i wenu 'n llon fel baban yn ei gryd;
Os byddai 'r wyn yn meirw, fe ganai fel y gôg,
Oblegid gwyddai am yr Un a dalai gyda llog.
Pan fyddai 'r clafr yn ysu,—neu'r clwyf yn diflin ladd,
Neu 'r llwynog melyn wrth ei waith yn dangos urdd ei radd
Drwy ddwyn yr ieir a'r gwyddau, ni fynnai rwgnach gair,
Oblegid coeliai fod y byd i gyd yn burol bair.
Rhagluniaeth arno wenai—epiliai 'i braidd yn fwy
Nag eiddo neb bugeiliaid mwyn a drigent yn y plwy.
Ond mae i'r môr ei lanw; ac felly Hywel Wynn;
Cadd ef ei ran o bethau 'r byd,—o lawnder bro a bryn;
Mae hefyd drai bob amser yn dilyn llanw 'r môr,
A thebyg amgylchiadau dyn yn llaw Rhagluniaeth Ior.

Yn wir mae deugain mlynedd yn newid gwyneb gwlad;
A'r bachgen bochgoch odid fydd a'i blant yn gwaeddi "Nhad."
Gan hynny awn i'r Hafod i weled Hywel Wynn,
Pan oedd ei blant yn trin y praidd hyd ochrau 'r mynydd gwyn.
'Roedd Teida wedi marw, a hithau Neina lon,
A gŵr y ferch roed yn y bedd er's llawer blwyddyn gron;
A chladdwyd amryw ereill o'r plant oedd wrth y tân,
Y noson oer ddryghinog, hyll, yn Hafod Lwyfog lân.
Yr oedd yr hen gadeiriau o dan y simneu fawr,
Ond ereill oedd yn chwareu 'n llon a llawen hyd y llawr.
Cawn yno deulu newydd; bugeiliaid megis cynt,
Yn byw a bod ymysg eu praidd, gan hoffi 'r cyfryw hynt.
Dilynent fywyd syber, heb ry nac eisiau fawr,
Cael codi hefo 'r hedydd brith, a gorffwys hefo'r wawr;
Cael uwd, a llaeth, a llymru, a chaws, ac weithiau faidd,
A bara ceirch, ac ambell dro ceid bara rhyg neu haidd;
Pob ffynnon oedd fuwch iddynt pob afon besgai bysg,—
Pa ryfedd fod dedwyddwch pur yn aros yn eu mysg?
Traddodiad oedd yn wastad o flaen eu llygaid llon,
A phob hanesyn chwythai dân dynoliaeth yn eu bron;
Ni fedrai 'r las genfigen ddim aros yn y cwm,
Oblegid 'roedd y meddwl dwys i'r faeden yn rhy drwm,
Ac os ceid cweryl weithiau, darfyddai yn ddi ôl,
Fel caenen eira, ni bydd dim o honi ar y ddôl.
Ond deuwn Noswyl Ifan i'r Hafod i roi tro,
Pan oedd y ddraenen wen yn gnu, a'i hoglau 'n llenwi 'r fro;
Mae'r hogiau yn y buarth yn chwareu hefo'r wyn,
A dwy enethig wrth y drws yn prysur bilio 'r brwyn.
Mae'r forwyn wrth y pistyll yn golchi 'r gunog laeth;
A Hywel Wynn a'i fam, fel hyn, mewn ymddiddanion ffraeth—
Ryw Noswyl Ifan, Hywel, 'r oedd Morfudd Lluest Wen
Yn gwneuthur coelion yn yr ardd drwy blethu gwallt ei phen
Yn gymysg hefo 'r rhedyn, a chysgu dros y nos
Mewn gwely gwair; heb ddwedyd gair, daeth ati eneth dlos,
A rhoddes iddi fodrwy, a dwedodd,—' Cymer hon,
Cyn pen y flwyddyn byddi 'n wraig.' Yr oedd o'n newydd llon!
Ond ebai wrthi wedyn,—'Mae rhywbeth wedi hyn,
Pan fyddi 'n fam, un arall fâg dy anwyl blentyn gwyn!'
Ac o'r pryd hwnnw allan ni wenodd Morfudd mwy,
Ac er priodi marw wnaeth er galaeth i'r holl blwy.
Oherwydd nid oedd geneth, yr un mor eurbleth lân
A hon o fewn y cwm i'w chael am gymwynasau mân.
"Ar Noswyl Ifan arall, aeth Llio Hafod Llan,
A thair neu bedair hefo hi, i 'mofyn am eu rhan;
Daliasant lwdn gwlanog gerllaw i'r Gluder Fawr,
Ac yno buont oriau maith yn disgwyl am yr awr

Y ganed y Bedyddiwr, oblegid coelient fod
Rhyw fendith fawr i'r ddaear lawr, oddiwrtho ef i ddod.
Fe ganent gerdd fugeiliol wrth ddisgwyl ar y bryn,
Am weled gwawr dros gaerau 'r dydd yn twynnu ar y llyn,—
'Awn allan fwyn forwynion, fe ddaeth Gwyl Ifan ddoeth,
Boreuddydd y Bedyddiwr gwyn sy 'n euro'r bryniau noeth:
Awn allan hefo 'n gilydd i droed y Mynydd Mawr
I rwymo 'r llwdwn gwyn ei wlân â blodau teg eu gwawr,
Cyn yfo 'r haul y man-wlith o gwpan-flodau 'r waen,
A chyn i'r tês a'i wridog wres ymwibio 'n ol a blaen,
Awn allan hefo 'n gilydd i droed y Mynydd Mawr
I blethu grug yn gorlan glws cyn iddi dorri'r wawr.
'Awn allan, fwyn forwynion, mae 'r cloddiau'n wyrddion lâs,
A'r adar glân yn ceincio cân rhwng brigau'r brysglwyn bras;
Awn allan hefo 'n gilydd. O awel, saf yn syn
I weled llun y crinllys cun, yn llonydd ddwfr y llyn!
Awn allan yn gariadlon i droed y Mynydd Mawr,
I ddisgwyl cân rhyw fugail glân cyn agor dorau'r wawr!
Awn! Deuwn! hefo 'n gilydd a dawnsiwn ar y bryn,
Nes delo'r dydd i roddi 'n rhydd y gwlanog lwdn gwyn.'
"Fel yna canai Llio a'r lleill am oriau rai,
Ond ni ddaeth neb o'r llanciau llon i wneyd eu poen yn llai,
Ac felly tyfodd Llio yn hen ferch ifanc sur,
Er dawnsio hefo'r llwdwn gwyn ni chafodd gariad pur.
Mi glywais neina'n adrodd fod Meirig Blaen y Cwm,
Ryw Noswyl Ifan, wedi bod ymlaen y gweunydd llwm
Yn canu ac yn dawnsio yng nghylchau 'r Tylwyth Teg,
A hwythau 'n lluchio iddo aur nes iddo roddi rheg,
A chlywais na fu llewyrch ar neb o'r epil fyth,
A bod y diafol wedi gwneyd y teulu fel yn nyth.
Ond gŵr yr Hafod Lydan o bawb Wyl Ifan gadd
Anrhegion gan y Tylwyth Teg pan roisant iddo wadd
I ddyfod i'w cyfarfod, i ymyl Craig y Llam,
I agor bedd rhyw globen frech a elwid Gwrachen Gam;
Cadd fendith ar ei ddefaid, ac nid oedd buches well
Yn unman; sonnid am y caws yn agos ac ymhell.
Ond troes y byd i'w erbyn yn sydyn ar ol hyn,—
A da oedd iddo fod dy daid yn gyfaill, Hywel Wyn."
Gwrandawai Hywel arni, a'r plant yn glust i gyd
Oedd yno 'n gwrando ar eu nain yn son am gampau 'r byd.
Rhyw ddarlun pur hynafol oedd yno gylch y drws,—
Gwledig a bugeiliol oedd a phrydferth iawn a thlws;
Y plant a'u bochau cochion, a'u crwyn mor wyn a llaeth,
A'u tad mor heinif ar ei droed ag oedd ei wraig o ffraeth. '
Roedd yma drai a llanw, ar ol y naill a'r llall,
Y naill yn mynd a'r llall yn dod, a hynny yn ddiball.

Yr oedd hi 'n amlwg ddigon fod Neina'n dipyn oed,
(A'r ci yn gorwedd ar ei hyd fel clustog dan ei throed,)
Yr oedd hi'n prysur ddirwyn, a'r 'styllod droent yn chwim,
Ond 'r oedd ei meddwl hefo 'i gŵr, a'i thad, a'r "coelio dim."
Daeth dunos dros y mynydd a thaflodd fantell ddu
Dros war y bryn, y cwm a'r glyn, a chysgai anian gu;
Ac erbyn bore drannoeth pur debyg oedd pob man,
Ond fod y clochydd hefo 'i raw yn gweithio wrth y Llan.
Daeth ton o fôr marwolaeth a chipiodd Hywel Wynn,—
Rhyw awr a hanner bu o'n sâl nad ydoedd yn y glyn,
Ac yna rhydd anadliad ei enaid at ei Dduw
I fyd lle bydd y teulu 'n un, lle cânt anfarwol fyw.
Ac hefo 'i daid a'i a'i deidiau mae'r distaw Hywel Wynn,
Yr hwn drwy 'i oes oedd lân ei foes, yn addurn bro a bryn.
Darllennid marwnad iddo yn nagrau hallt y tlawd,
A phob cymydog ar ei ol a wylent am eu brawd;
Ac wrth y goeden onnen ei blant bob bore Sul
A welid yn rhoi blodau glân yn do i'w wely cul;
Yn arwydd Anfarwoldeb, yn adlun gwlad yr hedd,
A gobaith gil-agorai ddrws y plas tu draw i'r bedd.

Mae'r defaid ar y mynydd, mae annos yn y cwm,
Mae swn bugeiliol fel o'r blaen oddeutu'r Buarth llwm,
Mae'r gwartheg hyd y ffriddoedd, mae'r gweunydd eto 'n frith,
A'r ddôl mor weiriog ag erioed, a'r fuches lawn mor flith;
Ond teulu Hafod Lwyfog,—maent hwy er's llawer dydd
Tu draw i'r llen, yn un ac oll o'u rhwymau caeth yn rhydd.
Mae ereill ar yr aelwyd yn son am drin y praidd,
A'r plant mor iachus ag erioed ar fara ceirch a maidd;
Mae Rhinwedd eto 'n aros rhwng bryniau serth ein gwlad,
A diniweidrwydd wena'n ŵyl er gwaethaf llid a brad.
Mae coelion ac arferion bugeiliaid yn parhau,
A chrefydd wrthi, yn ei swydd, yn ceisio 'u llwyr wellhau;
Wrth drin eu preiddiau gwirion maent hwy yn dysgu byw,
A dysgu marw, fel cânt fod yn dawel deulu Duw.


Nodiadau

[golygu]