Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Nos gainc
Gwedd
| ← Rhys Cwm Dyli | Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I gan Owen Wynne Jones (Glasynys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Seren y Gogledd → |

ABER GLASLYN.
NOS GAINC.
MAE GWEN MEWN HUN (MY LADY SLEEPS).
Ar ddelw Longfellow.
SER gloew'r hafaidd hwyr!
Draw yn yr asur cun,
Ynghudd bo 'ch goleu 'n llwyr;
Mewn hun, mae Gwen mewn hun!—
Hun!
Lloer wen yr hafaidd hwyr,
Y llewin geidw 'i llun,
Ymsudd mewn arlliw cŵyr;
Mewn hun, mae Gwen mewn hun!—
Hun!
Awel yr hafaidd hwyr,
Lle crina'r gwyddfid cun,
Plyg, plyg dy aden gŵyr,
Mewn hun, mae Gwen mewn hun-
Hun!
Breuddwydion 'r hafaidd hwyr,
Dywedwch wrth fy mun
Fy mod mewn gwiliad llwyr;
Mewn hun, mae Gwen mewn hun!—
Hun!