Neidio i'r cynnwys

Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/O! aros gyda mi

Oddi ar Wicidestun
Can y telynor wrth farw Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I

gan Owen Wynne Jones (Glasynys)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cwynfan pechadur

O! AROS GYDA MI.
WEDI EI GYFIEITHU O WAITH LYTE.[1]

O! AROS gyda mi, y mae'n hwyrhau;
Tywyllwch, Arglwydd, sydd o'm deutu'n cau;
Pan gilia pob cynorthwy, O! bydd Di
Cynhorthwy pawb, yn aros gyda mi.

Cyflym ymgilia dydd ein bywyd brau,
Llawenydd, mawredd daear sy'n pellhau;
Newid a darfod y mae'r byd a'i fri—
O! 'r Digyfnewid, aros gyda mi.

Mae arnaf eisiau 'th gymorth ar bob awr,
'Does ond dy ras ddyrysa'r temtiwr mawr;
Pwy eill fy arwain, Arglwydd, fel Tydi?
Bob dydd a nos, O! aros gyda mi.

Nid ofnaf neb os byddi Di wrth law,
Ni theimlaf ddim o ingoedd poen a braw,
Pa le mae colyn angau? Ple mae'r bedd?
Gorchfygaf hwynt, os caf ond gweld Dy wedd.

O! dal Dy groes o flaen fy llygaid llaith,
Rho 'th bresenoldeb nefol ar fy nhaith,
Mae'r wawr yn torri, cyll y byd ei fri,
Yn fyw, yn farw, O! bydd gyda mi.


Nodiadau

[golygu]