Neidio i'r cynnwys

Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/O wyla dros y rhai

Oddi ar Wicidestun
Nid marw a wnaeth Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I

gan Owen Wynne Jones (Glasynys)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Yr ewig wyllt

XIV.—O WYLA DROS Y RHAI.
(Cyfieithiad o O weep for those Byron.)[1]

 
WYLA dros y rhai wrth Babel draw
Sydd yn galaru am eu gwlad heb daw;
O wyla am delynau Judah'n awr,—
Galaetha am breswylfa'r Brenin Mawr.

O Isräel, pa le rhoi'th waedlyd droed?
A cherddi Seion, pam mewn bedd eu rhoed?
Mawl odlau Judah unwaith eto gawn,
Y galon lam wrth lais y nefol ddawn.

Crwydredig lwythau'r byd, pa bryd y dont
Idd eu gorffwysfa? Buan yno bont!
Mae i'r glomen nyth, a'r llwynog ffau er hedd,
Gwlad i'r cenhedloedd, Israel dim ond bedd.


Nodiadau

[golygu]