Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Odlig Serch
| ← Y Gwanwyn | Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I gan Owen Wynne Jones (Glasynys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Bugeileg delynegol → |
ODLIG SERCH.
(Cyflwynedig i Rian.)
CYFLIW flodau perthi gwynion
Ydyw gwedd fy mun lygadlon,
Claer fel caenen manod unnos,
Glain fel manwlith ar y deilios,
Deune'r breilw, gorne'r wendon,
Yw'r forwynig biau'm calon;
Och! na chawn yn gyflawn goflaid,
Wasgu mwynwen gymen gannaid;
Yn y glaslwyn mwyn yw meinir;—
Mwynwen yno a ddymunir.
O mor swynol yw cusanu
Gwefus ruddgoch mun lygeitu;
Sugno serch y ferch yn firain,
Lladryw fanon, eilw llwydrain;
Lleddir fi gan fanon feinael
Mud im ydyw rhaid ymadael;
Mwynwen irwen, lawen, liwus,
Clyw fi'n erfyn,—'rwyf yn glwyfus,—
"Dyro gusan, fwyn-gan fwyn-gu,
Gwisg diriondeb, tyrd i'm gwasgu
Dan y fedwen fonwen fanwallt,
Dal fy mhen yn llwyni'r wenallt;
Moes i'm gusan, ddynan ddenol,
Ing fy enaid sydd angeuol,
Cyn fy medd, O clyw fy ngweddi,
Cyn i'm calon dirion dorri,—
Ust! rho ymaith glust i wrando,
Dir, lliw'r hinon, y mae'n dryllio!
Gwrando, clyw, y syw fun swynol,
Rho dy wên i'r dyn awenol;
Croen lefn ydyw, fel y crinllys,
Ei glwys wenau,—medd Glasynys.