Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Rhagymadrodd
| ← Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I | Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I gan Owen Wynne Jones (Glasynys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cynhwysiad → |

TY'N Y FFRWD, RHOSTRYFAN.
RHAGYMADRODD.
ER hoffed yw ei wlad o gan Glasynys, hyd yn hyn nid oes iddo gofiant, nid oes yr un casgliad cyflawn o'i waith, ac nid oes carreg ar ei fedd. Ysgrifennodd Llew Llwyfo erthygl gampus ar ei fywyd, ac ysgrifennodd Glaslyn bennod o adgofion sydd gyda'r pethau goreu ysgrifennwyd am un llenor Cymreig erioed. Nis gallaf i ysgrifennu cofiant, fel y medrai Glaslyn neu Lew Llwyfo; ond yr hyn a allaf a wnaf,—cyhoeddaf waith barddonol Glasynys, a mynnaf garreg ar ei fedd.
Wele'n dilyn fyr-gofiant, y rhagymadrodd i "Adgofion" Glaslyn.
"Ganwyd Owen Wynne Jones (Glasynys), yn Nhy'n y Ffrwd, Rhostryfan, ger Caernarfon, Mawrth 4, 1828. Pan o saith i wyth oed cyfarfyddodd damwain trwy i garreg syrthio arno a thorri asgwrn ei glun. Yr unig beth a'i cadwai yn ddiddig yn ei wely yr adeg yma oedd llyfrau, a bu mor ffodus a dyfod o hyd i Ddrych y Prif Oesoedd, a rhoddodd y llyfr hwn y fath gyfeiriad i feddwl ieuanc y bachgen fel y daeth yn un o'r gwladgarwyr mwyaf brwdfrydig a feddai Cymru. Wedi hyn yr ydym yn ei gael yn gweithio gyda'i dad yn y chwarel, a phan oddeutu pedair ar ddeg neu bymtheg oed, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Rhostryfan. Wedi cynhilo ychydig arian yn y chwarel aeth i Ysgol Bron y Foel, a bu yno hyd y parhaodd ei arian, ac yna aeth yn ol i'r chwarel, ac yr wyf yn ei gofio yn gweithio am beth amser yn Ffestiniog ac yn lletya yn Nhy'n Ddol, Tan y Grisiau. Rywbryd tua'r adeg yma y gadawodd efe y Methodistiaid, ac yr ymunodd a'r Eglwys Wladol. Yr oedd ei syched am addysg yn angerddol, ac aeth i Glynog o dan addysgiaeth Eben Fardd, ac oddiyno i Goleg Athrawol Caernarfon. Wedi gorffen tymor ei addysg yng Nghaernarfon aeth drachefn i Glynog, ond nid at Eben Fardd y tro hwn, ond i fod yn athraw yr Ysgol Wladwriaethol.
" Yr oedd Glasynys erbyn hyn wedi rhoi ei fryd ar gael urddau eglwysig, a chyda'r amcan hwn gadawodd yr ysgol yng Nghlynog, ac aeth at Ab Itheli Lan y Mawddwy, a bu o gryn wasanaeth i'r eisteddfodwr enwog i ddwyn oddiamgylch Eisteddfodau Dinas Mawddwy 1855 a Llangollen 1858. Yn ystod ei arosiad hefo Ab Ithel cyhoeddodd lyfryn bychan pris grot, yn yr hwn, ymysg pethau ereill, yr ymddanghosodd y rhiangerdd gyntaf a gyfansoddodd, sef Lleucu Llwyd, yr hon oedd yn ail oreu yn Eisteddfod Dinas Mawddwy, —Ab Ithel oedd y goreu,—ac arwisgwyd ef a blodeuglwm arian.
"Wedi ei drwytho yn ysbryd a chyfrinion barddas gydag Ab Ithel, gadawodd Glasynys Lanymawddwy a daeth i Feddgelert i gartrefu hefo'r Parch. William Hughes, periglor; ac yma y bu yn fawr ei barch hyd nes y derbyniodd urdd diacon gan Esgob Bangor. Yn niwedd y flwyddyn 1860 aeth oddiyma i wasanaethu swydd diacon yn Llangristiolus, Mon, ac oddi yno drachefn aeth yn gurad i Bontlotyn, sir Fynwy:
"Ni bu ei arosiad yn hir ym Mynwy, dychwelodd yn ol a bu yn aros am beth amser ym Mhorthmadog, ond yn awr (fel y digwyddai yn aml gyda'r Prydydd Hir o'i flaen), heb ddim curadaeth. Oddiyma efe a briododd â Mrs. Jones, gynt o'r Sportsman Hotel, Porthmadog, ac aethant i fyw i Dywyn, Meirionnydd, ac yma y bu farw Glasynys, Ebrill 4ydd, 1870, yn 42 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Llandwrog, heb ddim i nodi man fechan ei fedd."
Yn y rhifyn hwn ceir rhai o ddarnau cyntaf anaddfed Glasynys, rhai o'i ddarnau enwocaf, a'i ddarnau olaf. Codais hwy, gan mwyaf, o'i lawysgrif, a ymddiriedwyd imi gan ei chwaer ac ereill.
Bydd y gweddill o waith barddonol Glasynys mewn un rhifyn arall. Defnyddir yr elw i roddi carreg ar ei fedd.
O. M. EDWARDS.
- LLANUWCHLLYN, 1897.
