Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Seren y Gogledd
| ← Nos gainc | Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I gan Owen Wynne Jones (Glasynys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Boddi yn ymyl y lan → |
SEREN Y GOGLEDD.
PAN a'r haul o dan ei gaerydd,
Anian ynddynt gwsg yn llonydd,
Fel mewn hudol gell;
Daw'r tywyllwch yn fantellydd,
Ni rydd y lloer anwadal
Ond llewyrch anghyfartal,
Newid bydd o ddydd i ddydd,
A'r nos fe drydd yn wamal;
Gedy hon y llongwr tirion
Heb arweinydd ar y wendon
I'w hyrwyddo o'i fro dirion
Draw i'r gwledydd pell.
Ond fe welir yn yr wybren
Yn ysmicio siriol seren,
Ddengys iddo yn ei angen
Lwybyr hyd y don;
Edrych tua'r gogledd,
A chenfydd yno'n geinwedd,
Yn yr Arth yn llywio'r parth
Yn rhadol ei hanrhydedd,
Yr hen seren hardd a chlodus,
Ter y ceidw yr Arcturus
Ei nodweddiad canmoliaethus
A'i gweniadau llon.
Pan y byddo'r môr yn wgus,
A'r corwyntoedd yn echrydus,
Bywyd morwr yn beryglus,
Ofn yn llenwi'r fron;
Y cwmpawd wedi drysu,
Dysgyrchiad nid yw'n tynnu,
Haul nid yw, na lleuad syw,
Mae'r wybren wiw yn bygddu;
Yr amserydd, orydd eirian,
Ni ddynoda amser allan,
Anherfynol ydyw'r cyfan,
Storom hyll yw hon.
Dylem foli ein Creawdydd
Am roi inni'r fath arweinydd
I'n cyfarwyddo adre'n hyrwydd
Dros wyllt donnau'r môr,
Llewyrch siriol seren
A welir yn y wybren,
A'i golau gwiw fel llygad byw,
Yr enwog lyw goraddien;
Hon wasanaetha er daioni,
Yr athronydd ga 'i thirioni,
Yn ogonawl bydd yn gweini,
Ceidw ddeddfau'r Ior.