Neidio i'r cynnwys

Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Tinc hirllaes cloch yr eglwys

Oddi ar Wicidestun
Cloch-mebyn Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I

gan Owen Wynne Jones (Glasynys)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Adlef o'r glyn

TINC HIRLLAES CLOCH YR EGLWYS.
LLINELLAU COFFHAOL AM Y PARCH. D. WILLIAMS, LLANDWROG.

"Sed omnes una manet noх,
Et calcanda semel via leti."
HOR. LIB. і. 28.


I LANDWROG enwog anwyl, mae 'th olwg rhwng y coed
Yn ennyn ynnwyf deimlad dwfn am lawer un a roed
I gysgu hun yn dawel yng nghell marwoldeb prudd;—
Eu cofio bair i'm henaid ddod yn ddagrau hyd fy ngrudd.
Gardd wen yw'r fynwent blwyfol, ac Erw Duw i gyd,
Oherwydd dan ei llenni oer mae perlau penna'r byd.

Tinc hirllaes cloch yr eglwys, yn gymwys iawn sy'n gwadd,
Yr ieuanc llon, a'r henwr llesg, i weled beth fydd gradd
Cyd—wastad doeth ac annoeth,— cyfoethog a thylawd,—
Pan ballo nerth, pan dderfydd oes, cyd—gymysg llwch eu cnawd.
Lle prudd yw'r fynwent harddaf; argoelion ar bob llaw
Fod angau ingol yn barhaus yn llenwi celloedd braw.

Tinc hirllaes cloch yr eglwys a ddug adgofion fyrdd,
Ar edyn yr awelon lleddf, am dangnef gwyn a gwyrdd.
Peth anhawdd myned heibio lle beddrod tad a mam
Heb deimlo pwys rhyw arswyd oer yn gofyn in,—" Paham
Na weli,'n plentyn anwyl, y modd, y dull, a'r wedd,
Y byddi dithau'n fuan iawn, dan dywyll lenni'r bedd?"

Tinc hirllaes cloch yr eglwys a gyfyd fryd y fron
I syllu'n dawel ar y llu sy'n llawn o bob peth llon;
Maent wedi dianc allan o wlad y cystudd mawr,
A'r blodau prydferth sydd o'u cylch, gweithredoedd da y llawr.
"Maent yn eu gynau gwynion ac ar ryw newydd wedd,"
Yn debyg i'r Anwylyd Glân pan gododd ef o'r bedd,
Yn ernes syml i'r teulu nad erys neb yn hwy
Dan gloion tyn y beddrod du, ym mynwent llan y plwy,
Na'r adeg osodedig, pan glywo'r meirwon lef,
Ac yna'r saint yn un ac oll a unir yn y nef.
Gan hynny, sych dy ddagrau, na alarnada mwy,
Ond dilyn ffydd a rhinwedd pur, cei fyned atynt hwy

Wrth fedd y Person Williams, bob amser, fore Sul
Y gwelir y plwyfolion prudd yn gwlitho 'i wely cul;
Ei gofiant geir yn gryno gan lu o weddwon gwael,
A'r plant amddifad tystio wnant ei helaeth galon hael.
Yr oedd ei elusenau fel sypiau grawn ar goed,
Ni chadd y naill ddim gwybod beth roi'r arall law erioed.

Ei Dduw yn unig wyddai,—"Cyflawnai dda'n ddibaid,"
Oedd cwyn genethig uwch ei fedd,— " Fe fu yn dda i nhaid
Pan ydoedd yn orweiddiog; daeth ato drwy bob hin,
A geiriau dwys o nefol bwys oedd ganddo'n nefol win."

Glas lencyn o gwr arall ddywedai,—" Picell fain
I'm calon ydyw gweled bedd hen gyfaill pur fy nain."
"Pan oedd fy ngwraig yn curio, fel deilen lwyd—goch wyw,
Pwy ger ei gwely blygai 'i lin i ddadleu gyda Duw,
Gan erfyn am faddeuant, am haeddiant ar ei rhan,
Nes byddai' chalon, druan fach, yn codi'n uwch i'r lan?
Dywedai'r weddi'n bwysig, fu'n foddion codiad pen
I'm hanwyl wraig, gan ddangos Crist fel ffordd i'r nefoedd wen."
Fel yna cwynai gweddw, pan safai'n syn ei wedd
Ar fore Sul, a'i ddagrau'n flith yn hidlo hyd y bedd.

Tinc hirllaes cloch yr eglwys! Pwy acw welaf draw?
Offeiriad Duw,—hwn ar fy nghlyw gyhoedda'r farn a ddaw—
Paham mae ef yn dyfod ag afon ar ei rudd?

(Ha! bedd ei fam a'i frawd di-nam a bair ei fod yn brudd?)
Daeth hwn yn araf drymllyd am ennyd at y bedd,
A'r oll ddywedodd ydoedd hyn—" Mae brawd yng ngwlad yr hedd
Ac yna dofn ochenaid oedd enaid byw ei aeth,
Ac wedyn tua'r eglwys hardd unioni'n brysur wnaeth.

Ysgolion plwyf Llandwrog, colofnau heirdd ynt hwy,
Danghosant i ni ddiflin sel hen berson llan y plwy;
Pa ryfedd fod Rhos-nennan yn gwisgo galar nôd,
A Mynydd Cilgwyn yn ei ddull yn teimlo beth sy'n bod?
Mae'r Llifon fel yn siarad am gariad yn ddiball,
A Dinas Dinlle'n gwrando cri y Garrog gymen gall,
Oherwydd ciliodd ymaith y Cristion didwyll, da,
Fel gwennol hedeg wnaeth i ffwrdd i wlad tragwyddol ha.

Yr oedd yn wir ddiniwaid,—colomen oedd ei fryd,
Ac fel colomen dysgodd ef Gristnogaeth yn y byd.
Pregethai drwy'r holl wythnos, ac nid rhyw rigwm Sul,—
Pregethai ef o dŷ i dŷ, gan wrthladd crefydd gul;
Ei grefydd ef oedd cariad, cariadus oedd ei foes,—
A than ddylanwad cariad pur y treuliodd ef ei oes.

Llandwrog enwog anwyl, dy gofwyl byth a ga
Yn tystio'n wastad godiad pen wrth wneyd yr hyn sy dda;
Wrth rodio llwybrau rhinwedd a dilyn didwyll foes,
Ceir gorffwys eto'n dawel iawn dan gysgod hudd y groes.

Tinc hirllaes cloch yr eglwys! Mae swn Paradwys Duw
Yn araf ddisgyn ar fy nghlust,—"Er marw eto'n fyw,

Fe dyr y wawr wen oleu yn glir dros fryniau ffydd,
Ac ni bydd yno dywyll nos, ond digyfnewid ddydd."

Mae clychau Bodelwyddan yn cyngan fel wrth reddf
Yr hirllaes dinc nes yn ein bryd gynyrchu trymder lleddf;
"Mae'r glân offeiriad duwiol dan lenni oer y bedd—
A chofir am ei fuchedd bur gan engyl gwlad yr hedd."

A thra bo Dinas Dinlle gerllaw fel gwylan wen,
Fe gofir enw'r Cristion pur sy'n awr tu draw i'r llen;
Mewn cant o dai gwyngalchog rhyw ddrylliog lais a fydd
Yn uchel ddyrchu'n ddibaid, eu colled, nos a dydd;
Mae'r mawrion yn galaru yn gymysg â'r tylawd,
Oherwydd ynddo cadd y naill a'r llall un cywir frawd.
A thra bo'r Elwy ddiog, a'r Garrog droellog draw,
Fe gofir am yr hyn a wnaeth gan ddiddan oesoedd ddaw,—
Oblegid "coffadwriaeth y cyfiawn" ddengys hedd,
Pan gwyd yn fyw ar ddelw Duw yr olaf ddydd o'r bedd!
Gan hynny ei anwylion, na wylwch ddagrau trist,
Mae'r hwn a gerych eto'n fyw, yng nghwmni Iesu Grist.
Cewch yno uno'n llawen yng ngerddi heirdd yr hedd,
A phawb yn lân yn pyncio cân, heb arno ôl y bedd.


Nodiadau

[golygu]