Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Y coedwr, arbed di
| ← Dymuniad | Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I gan Owen Wynne Jones (Glasynys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Nid marw a wnaeth → |
V.—CYFIEITHIAD O'R SAESNEG.[1]
Y COEDWR, arbed di yr anwyl goeden hon;
Na chyffwrdd arni hi, ond parcha hi yn llon.
Hi fu'n gysgodfa im yn nyddiau maboed chweg,
Gan hynny rhof fy ngrym i'w chadw hithau 'n deg.
Un o'm cyndadau cu â'i law roes hon i lawr,
O flaen ei fwthyn bu'n ei wylied e bob awr.
Gan hynny, 'r coedwr glân, gad iddi sefyll mwy,
A'th fwyell na wna'n fân, na chyffwrdd arni mwy.
Y goeden enwog hon, y mae ei chlod ar led,
Ym mysg pob gradd o'r bron, tros orau eang cred;
Ah ddyn! na feddwl am ei thorri hi i lawr,
Byth na wna y fath gam. O arbed hon yn awr.
Mae'r ddaear am ei bon yn gwasgu'n anwyl iawn,
O gwrandaw ar y dôn yn gwneyd erfyniad llawn,—
O arbed, arbed di yr oesol dderwen gref,
Yr hon sy a'i changau fry yn dyrchu tua'r nef.
Pan yr oeddwn gynt yn fachgen ieuanc glwys,
Bu'n dda i mi ar fy hynt ei chysgod hyfryd mwys,
Gael imi yn ddiau ymguddio rhag y plant,
Y fi a'm chwaer, ein dau, buom yma'n tiwnio 'n tant.
Dyma yr hyfryd fan fy mam im gusan rhoes,
A'm tad, a minnau'n wan, a wasgai'm llaw heb loes.
'Rwy'n gofyn iti'n awr; yn wlyb gan ddeigr mae ngrudd,
Na thor y dderwen fawr, 'rwy'n erfyn drosti'n brudd.
Mae'm calon arnat ti, o'th amgylch ogylch traidd,
Fel rhisgl wyt i mi, yn well na chyfaill braidd.
Oddiar ei changau ir yr adar gwyllt a gân,
Perorant yno'n glir o rhwng y brigau mân;
Y storm yn gerth barhai i ruthro 'n deryll iawn,
Y coedwr ymaith ai, byth mwy ei le a gawn;
Tra byddwyf fi yn fyw, os medraf cadwaf hon
Rhag y fwyell mwy tra ar y ddaear hon.