Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Y golofn aur oedd ar y môr
Gwedd
| ← Golygfa oddiar ben Moel Orthrwm | Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I gan Owen Wynne Jones (Glasynys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Y Gog a Gwen → |
Y GOLOFN AUR OEDD AR Y MOR.
Y GOLOFN aur oedd ar y môr,
Fel heol glaer i'r heulog ddôr;
Yr haul a wenai waedlyd wrid
Nes cochai'r mân gymylau prid;
Ond O brydferthion! dyma'r brif,
Y golofn aur sydd ar y llif;
Mae'r tonnau'n llonydd deg eu llun,
A gwedd y môr fel gwyneb mun;
A'r haul yn araf fynd i lawr;—
Ond cyn ei fynd mae'r golofn fawr
Yn uno'r agos gyda'r pell,—
Y tir a'r nef—ororau gwell!
Fy enaid, O! na fedrem ni,
Deithio llwybr aur y lli;
Nes cyrraedd at y goleu rhydd,
I wyddfod y digwmwl ddydd;
Ac aros yno byth i fyw,
Yng ngwenau Haul Cyfiawnder Duw.