Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I/Yr ewig wyllt
| ← O wyla dros y rhai | Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I gan Owen Wynne Jones (Glasynys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Dydd y farn → |
XV.—YR EWIG WYLLT.
(Cyfieithiad o The Wild Gazelle Byron.)[1]
YR ewig wyllt ar Judah fryn
A lam fel oen yn hardd,
Hi yf ffrydlifau pob rhyw lyn
Trwy'r sanctaidd dir a dardd;
Ei hysgafn gam a'i llygaid syw
A heibio'n chwim mewn hoender byw.
Bywiocach cam a threm mwy cu
A welodd Judah gynt,
Ac ar y dolydd yma lu
Y rhai yn awr nid ynt;
Y cedrwydd ban ar Liban chwardd
Fel cofawd o'r rhai oedd yn hardd.
Mwy dedwydd yw'r balmwydden ir
Nac Israel blant ar daen,
'Nol iddi gael ei gwraidd i dir
Arhoa yn ddichwaen;
O'i genedigol le nid a,
Mewn arall dir byth ni fywha.
Rhaid inni grwydro 'n welw 'n gwedd,
A marw 'n arall dir;
Lle llwch ein tadau, sef eu bedd,
Ni chawn ni,—dyna 'r gwir.
O'r deml ni 'dawyd maen ar faen,
A chwmwl gwawd dros Salem daen.