Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II/Arthur Llywelyn
| ← Lleucu Llwyd | Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II gan Owen Wynne Jones (Glasynys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Y Gôg → |
ARTHUR LLYWELYN.[1]
Cyflwynedig i Mr. a Mrs. W. E. Morris, Porthmadog, ar enedigaeth eu nawfed a'u ieuangaf fab.
TRA byddo'r hen Wyddfa yn ben ein mynyddoedd,
Tra byddo Llyn Tegid y mwyaf o'n llynnoedd,
Tra byddo yng Nghymru lân awen a thelyn,
Bydd Arthur yn enwog a'r anwyl Llywelyn.
Dau arwr nodedig, dau unben coronog,
Dau oeddynt na wyddent pa beth bod yn ofnog;
Dau'n wrol safasant yng ngwyneb pob gelyn,
Oedd Arthur yr arwr a'r Twysog Llywelyn
Bob gwanwyn mae'r ddaear yn ymadnewyddu,
Mae'r coed yn blodeuo, a'r dail yn blaendarddu;
Pob gauaf a haf mae'n laswyrdd y celyn,
Fel adlun o Arthur a'n "holaf Llywelyn."
Naw einioes a uner i'r nawfed mab tirion,
Na phrofed ryw lawer o'r chwerw ddail surion;
Ond bydded ei enw mor laswyrdd a'r celyn
Yn gofeb anfarwol, yn Arthur Llywelyn.
Anfarwol a fyddo yn unol a'i enw,
Boed bendith yn goron i'r mebyn glân hwnnw
Sydd eisoes yn meddu ar enw di elyn—
Anrhydedd ac urddas i Arthur Llywelyn.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Arthur Llywelyn Morris 1869-1924, Peiriannydd morwrol