Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II/Cloch Mebyn
| ← Dedwyddawl fo preswyl | Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II gan Owen Wynne Jones (Glasynys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Myrddin Wyllt → |
CLOCH MEBYN[1]
(Snowdrop).
[Llinellau a gyfansoddwyd gan y bardd i'w fab-bedydd, William Roberts, plentyn Mr. a Mrs. Edwards, Towyn, Meirionnydd. Ysgrifennwyd hwy ychydig bach o amser cyn marwolaeth Glasynys.]
YN Ionawr oer, dan wên y lloer,
Dan dewglyd gnwd o eira,
Mae blodyn bach, a'i olwg iach
Yn dangos y cyfeiria
Ei olwg syn, a hwnnw'n wyn,
I fyny, nid i wared,
Dan ias y rhew, neu'r eira tew
Nid oes ond un ymwared.
Ymwared y fedyddfa bur
Heb gur a gadd y baban,—
Ymwared Duw i ddynol ryw
Ail eni y fedyddfan;
O! William Roberts, cofia hyn
Wrth ddechreu bywyd hirfaith,
Y daw i'th ran—nid gwyrdd a gwyn—
Ond tynged myrdd mewn effaith.
Yng ngardd Llwynrhudol, flodyn hardd,
(Mae honno'n ardd y gerddi),
Y tyfodd llawer egin bardd,
A hynny heb waherddi;
Boed William bach, yn iach ei fryd,
Yn Gymro 'i fryd gwastadol;
A'i dyniad fyddo yn y byd—
Llawn rheded i Llwynrhudol.
Llwyn Du fu gynt yn fawr ei fri,
Geir yma'n febyn glandeg;
Mae Willie bach yn ffraeth a ffri,
Gwir ydyw, mae'n gywirdeg;
Boed einioes hir a dedwydd oes,
Heb fawr o groesau bywyd,
Ond tyfu wnelo'n lân ei foes,
Nes cyrraedd "Cylch y Gwynfyd."
Nodiadau
[golygu]- ↑ Cerdd gwbl wahanol i'r un o'r un enw yn y gyfrol gyntaf