Neidio i'r cynnwys

Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II/Dedwyddawl fo preswyl

Oddi ar Wicidestun
O wyla dros y rhai Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II

gan Owen Wynne Jones (Glasynys)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cloch Mebyn

DEDWYDDAWL FO PRESWYL
(Bright be the place of thy soul.—BYRON).[1]

DEDWYDDAWL fo preswyl dy ysbryd;
Un enaid hawddgarach ni fu
Yn dianc o rwymau marwol-fyd
I harddu gororau wlad gu.
Pan oeddyt yn trigo y ddaear
Fal adlun o'r modd byddi fyw,—
Fe dderfydd ein ochain a'n galar
Pan gofiom dy fod gyda 'th Dduw.

Yn ysgafn poed tyweirch dy feddrod
Yn irion a gleision eu gwedd,—
Na fydded na chaddug na chysgod
Ar dim a fo'n gofawd o'th hedd.

Irflodion a bythwyrdd fo yno
'N ei hulio yn delaid eu gwedd,
Ond na chaed prudd ywen ei guddio,
Pam wylwn am deulu yr hedd?


Nodiadau

[golygu]