Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II/Myfanwy Fychan
| ← Myrddin Wyllt | Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II gan Owen Wynne Jones (Glasynys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cân Serch → |
MYFANWY FYCHAN O GASTELL DINAS BRAN.[1]
WEDI EI GYFLWYNO I MYFANWY A BRONWEN, DWY RIAN ANWYLFRYD SYDD A'U CALON YN LLAWN O GARIAD AT GYMRU, GWLAD Y GAN.
"Gofyn ni allaf namyn—gofwy cur
Dug mewn cariad fwy-fwy:
Fynawg eirian Fyfanwy,
Fuchudd ael, fun hael, fyw'n hwy."
—Hywel ap Einion Llygliw.[2]
I.
Y GLASLWYN tawelgain, a'i wylaidd awelon,
Trigfanle y cysgod, cartrefle perorion;
Y parlas[3] briallog, yn geinwiw dryliwiog,
Yn lledu dan neithdar y cangau blodeuog;
Y dolydd gwyrddleision yn dryfrith feillionog,
Y meusydd yn llwythog o gnydau toreithiog;
Y defaid yn lluoedd ar lethrau'r mynyddoedd,
Y pysgod yn filoedd yn heigio'r aberoedd;
Syganu y gwenyn o flodyn i flodyn,
Y lasberth gysegrid gan fwynlais aderyn;
Y goedwig urddasol a'i deri hynafol,
Y masarn a'r bedw a'u golwg tyfiannol;
Y gwyddfid[4] amglyma o gwmpas y wernen,
Yr eiddew ymledol a wisga y ceubren;
Yr helyg ir hyblyg gusanant yr afon,—
A'u blaenau cyffyrddant y dyfroedd tryloewon;
Y ceunant allwestog[5] a'r ddolgwm borfelog,
Gyd-unent i ddangos serchogrwydd ardderchog.
O! geined golygfa hen anian awenol,
Mae cariad yn adran o'i chread cynhwynol.
Mae cariad yn gerfiol ar greigydd daneddog,
Ymrithia rhwng holltau callestraidd cyllellog;
Pan fflachia y fellten, pan rua y daran,
Pan sigla colofnau cadarngryf pedryfan,
Pan rwygir cymylau, pan uda y corwynt,
Bydd cariad yn chwerthin yng nghanol yr helynt.
Pan leda y ddunos ei llenni mantellog,
Bydd cariad yn edrych yn nwyfus a serchog;
Pan gollir goleuni aur—dlysau'r seronwy
Amranta yn llygaid cariadgar Myfanwy.
Tra britha blodionos dorlennydd y Dyfrdwy,
Fe guria fy nghalon o eisiau Myfanwy.
Tra sibrwd y manddail—tra sigla y brigau;—
Tra'r cnuog niwl llwydwyn yn amwisg i'r bryniau;
"Tra'r hwdiog gymylau yn hidlo defnynnau,
Fel difrif fynachod yn cyfrif paderau"[6]
Bydd flithach fy nagrau, a thostach fy ngofwy,
O eisieu cusanau'r wen-rian, Myfanwy.
II.
Myfanwy Fychan hoffai gân,
A cheid yng Nghastell Dinas Brân,
Ym mrig yr hwyr fawl-odlau serch,
Yn nodi ceinion mwynion merch.
A "Mabinogion" glewion gwlad,
A champau arwyr yn y gâd.—
Y bardd adroddai lawer hynt,
Wrth "fraint a defod" Cymru gynt.
Alawon pêr y delyn fwyn,
A lanwai'r lle a hudol swyn;
Llawenydd gyda'i wenau glân,
A drigai 'Nghastell Dinas Brân.
A'r deg Fyfanwy, O mor hardd
Ei llun a'i lliw yng ngherdd y bardd!
A'r gadair yn y neuadd lawn,
Gwynosai'n llon yng nghanol dawn
A difyr ddull,—Myfanwy lân!—
Ac yn ei thro pêr-bynciai gân;
Mor swynol ydyw odlau serch,
Yn llifo dros wefusau merch!
Ei llais fel llinos yn y berth,
Neu eos fach is gelltydd certh,
A ddiaspedai yn y mur,
A chreai yn ei galon gur.
Ond serch ac ofn fel dafnau gwlith
Ar ddeilios mân y rhosyn brith,
Gyd-gymysgent yn y gân
A bynciai meinir Dinas Brân.
Ond wrth y lle un hwyr-nos lwyd,
Fe glywid cyngan lawn o nwyd;
Gerllaw y porth, prudd-glwyfus lef,
Fel hŷdd am ddwr yn rhoddi bref,
A dreiddiai drwy y tyrau ban,
Yr oedd yn gryf er bod yn wan.—
Toddedig lais galaethus un,
Yn cwyno am ei fwynol fun;
Yr oedd yn bêr, a'i dyner dant
Yn dynwaredu'r nefol blant.
Yr oedd gwylltineb yn ei ddull,
A'i wedd fel gwyw fathredig wull,[7]
A gwe ei gân oedd llon a lleddf,
Ar anwe sidan nwyfus reddf.
Myfanwy Fychan aeth yn syn,
Ei dwy-rudd cochion droent yn wyn,
Dulasai'n grin ei gwefus goch,
Ac yn ei bron ymgronnai och.
Meddylid mai rhyw angel glân,
Neu wyddan,[8] oedd yn ceincio cân,
Neu'r tylwyth teg yn dawnsio'n sionc
O gylch magien[9] ar y bonc;
Neu glychau gosper Glyn y Groes,[10]
Yng nghlust y nos yn dweyd eu moes:
Ond calon mun, trigfanle serch
A chwyddai! O! anwylder merch!

CASTELL DINAS BRAN.
"Yn craffu'n syn ar gastell teg Myfanwy."
Mae'n gryfach na holl lengau'r byd,
Ac angau 'i hun mewn cadwyn ddyd.
Gwreichionen fach! fe leibia'r môr!
Y gwelltyn gwan! fe ddarnia ddôr!
Y gwlithyn glân, diffodda des
Gwallt felyn haul a'i ddeifiog wres!
Fe dreiddia drwy'r castellog fur,
A mala farrau'r dorau dur;
Mae'n hollalluog,—nid yw'r byd
Ond baban ganddo yn ei gryd!
Ond er ei nerth fe ddofir serch
Yn llonydd fwyn ym mynwes merch.
III.
Yr oedd yr eurwawr hefo 'i bysedd rhuddain,
Yn prysur, brysur agor dôr y dwyrain;
Y ddunos lonydd wthid i'r gorllewin,
A'r "moch ddwyreog huan haf dyffestin,"[11]
A wenai ar ei lun mewn llynnoedd gloyw,
Wrth esgyn dringfa'r dydd ag amsang hoyw.
Yng nghil y llwyn o dan ganghennog dderwen
Eisteddai'r bardd! O'i flaen'r oedd cafniog geubren,
Aneddfan ddidryf llu o ddyllhuanod;
A'r llyn gerllaw a frithid gan alarchod.
Yr wynos draw ar war y bryn a brancient
A'r côr asgellog yn felusber byncient.
Plygeiniol gân!—nid ydyw dy gynghaniad
Ond oergri leddf—hiraethgwyn poenus cariad.
Pen-eurog ddydd!—sudd, sudd i'r eigion brigwyn.
Nid yw dy wedd yn ddim i wedd fy morwyn.
Gwen—felen loer, cudd, cudd dy gyrn o arian,
Yng nghysgod blodau cain y nefol farian.
Aderyn doeth, mae'r bardd yn serch-gwynofi;
Mae'n wyllt! mae'n amhwyll! beth a eill ei ddofi?
O'r ceubren tyllog, creglais groch ofnadwy
A rwygai'r awyr,—Twhw-hw, Myfanwy!
Ar hyn o'i guddfan dawel codai Hywel,
A chanodd gerdd yng nghlust y dyner awel,—[12]
"Mae swyn mewn serch,
Mwyn, mwyn yw merch,
O draserch drysaf;
Lliw blodau'r ardd
Mor bêr a'r nardd
Mor fwyn y chwardd arnaf!
O! Myfanwy, y mae f' enaid
Yn dy garu,'r fun deg euraid,
Ar fy nwy—rudd llwyd a gwelw
Gwel fe gerfiodd serch ei ddelw;
Mae fy nghariad yn weladwy,
Mae fy enaid am Myfanwy.
Ei lliw sydd wyn,
Fel trochion llyn,
Neu ewyn y wendon;
Dau rosyn coch,
Un ar bob boch,
A welir yn wiwlon;
Pwy na chân i'r fwyn Fyfanwy?
Croenwen ydyw megis Creirwy,[13]
Glân rianon fel Aranrod,[14]
Deu-ne Gwen,[15] neu gaenen manod!
Tlysach hon na'r lon Wenonwy,[16]
Mae fy enaid am Myfanwy!
Ei dannedd mân
A'i minion glân,
O! rian gariadus!
Ail Ddwynwen[17] yw,
Yr hardda'n fyw,—
Llawn o'r lliw lladus.[18]
Irwedd, lanwedd, loyw—wedd Lili,
Edrych! gwel fy nagrau heli;—
Megis dafnau'n tyllu ogof,
Ysa dagrau 'nghalon ynnof!
Y mae nghariad yn ofnadwy!
Clyw fy nghwynfan, O! Myfanwy!
Meillionen wiw,
Ei llun a'i lliw,
Eilun yw Ngwenfron;
Ei dwyael main,
Uwch perlau cain,
Delw'r glain nidron![19]
O! mor swynol yw cusanu
Gwefus rudd—goch mun lygeitu;
Dan y fedwen fonwen fanwallt,
Neu gerddinen llwyn y wenallt,—[20]
Dwfn yw ngalar, afar ofwy
Am y feinir deg Myfanwy.
Mae nghân a nghwyn
Yn llenwi'r llwyn,
O eisiau'r fwyn fanon;
Fel eos lwyd
Ar ddreiniog glwyd
Yn tywallt ei chalon![21]
Ail y wylan, yn cwynfannu,
Cwyno, cwyno,—byth yn canu;
Trydar beunydd fel colomen
Am y fywiol siriol seren;—
Dos yn llatai[22] ddwfr y Ddyfrdwy,
Dwed fy nghwyn i'r fwyn Fyfanwy.
Fel alarch gwyn,
Ar loyw lyn,
Neu forwydd[23] wrth farw;—
Mae nghalon lân,
Yn deilchion mân,
O! rian, mae'n arw!
Ust! rho yma'th glust i glywed!
Dere Euron galon galed![24]
Min fy medd,—tydi a'm lleddaist,
Do, fy nghalon dirion dorraist;—
Rhof er hyn wastadol ofwy,
I fy anwyl, lân Fyfanwy.'
Pan gwedi dweyd ei gwyn yng nghlust yr awel
Ym mreichiau esmwyth cwsg fe hunai Hywel;
Ond ysbryd nwyfus bardd ni fydd yn llonydd,
Mae fel helygog lwyn ar fin afonydd;
Neu ben yr enfys, neu wenoliaid gwibiog,
Neu wedd amryliw glyn, neu ardd rosynog;
Ysgafndroed grwydra
Werddonau irdwf broydd anfarwoldeb.
Mae fel aderyn gweddw ar y gangen,
Yn trydar beunydd boenus ingoedd angen,
Ond pan y gwena heuldes melyn cariad
Fel gloyn Duw daw allan o'i garchariad,
A chwery'n hoyw yn y maws awelon,—
Fe nawf y nefoedd fel gwna'r pysg yr eigion.
Breuddwydiodd Hywel. Gwelai wlad oludog,
Ei choed yn wyrddlas ir, a'i blodau'n wridog;
Y perthi'n wynber, brithion dryliw'r gwrychoedd,
Y llysiau llawndwf yn oreu—wisg glynnoedd;
Yng nghwr tawelfrig lwyn canfyddai adail,
Ei rwydwaith blethid gydag irion wiail;
Y glas-ddail lanwent ei holl dyllau rhwyllog,
A gwyllt rosynau oedd ei dô blodeuog;
O'i flaen'r oedd hwylfa dywell a chysgodol
Yn arwain i berllannau; ac o'u lledol
Ymgodai teg goedlannoedd;— "Llannau'r eos,—
A hendref bronfraith,—llety llon y llinos,—
Mor fwynber oedd eu chwiban yn gogleisio
Clustiau anian, pan fa 'i yn noswylio.
Ac yn y deildŷ hardd, eisteddai meinwen,
Ei gwisg oedd wenllaes, llygaid fel mwyaren,
Ei gwddf can wynned ag yw'r donnog luwchfa,
Neu fan-od unnos ar lechweddi'r Wyddfa.
Modrwyog hir-wallt, eiliw gloewddu gigfran,
A thalcen llyfndeg fel trybelid arian!
Ei gruddiau crynion, delw gwaed a gwyngalch,
A'i gwingoch wefus, cyfliw coes y fwyalch,
A'i mynor ddannedd! O! ei llais soniarus,
Fel clychau seinber neuadd y Clodforus,[25]
Neu dannau tyner telyn yr awelon,
Pan alarnadant dranc rhianedd tirion.
Ac yn ei dwylaw yr oedd eurog delyn,
A'i bysedd chwarai, ac a'i llais yn dilyn
Perorai odlau,—hen alawon tyner
Sydd wedi tynnu deigr o lygaid amser.
Dynesu'r oeddwn at y rhian brydferth,
Ond Och! o'i blaen cordeddai neidr anferth
Yn gantro yn yr irwellt,—rhith-ymguddiai,
Ond gwastad syllu arnaf'r oedd, a chwythai,—
Awgrymai'r fun a'i llaw am i mi frysio,
Ond wrth ei phen mi welwn ddraig yn gwylio,
A'i glafoer tidog fel edafedd arian,
Neu bibau rhew, yn llysnafeddog gyfran,
A'i llygaid fflachlyd yn goddeithio nghalon,
A'i cholyn fforchog megis arf ellyllon;
Ond yn eu canol gwenai'r fanon fwynol,
Ac arnaf lefai gyda phwyslais hudol,—
'O! brysia, brysia, brysia fy anwylyd,
Tydi yn wir yw f' oedfa ymhob adfyd."
Ar hyn, fel rhuthra llew ar gefn ysglyfaeth,
Y rhuthrais innau, am ei phur gwmniaeth,”—
Ond deffrodd Hywel. Syllai ar y gwrychoedd,
Ni fynnai goelio neb mai breuddwyd ydoedd.
Yn ebrwydd clywai dwrf cerddediad rhywun,
Yn dod trwy'r prysglwyn ceufrig. Ofnai Anhun.[26]
Ond dyma floedd ei ffyddlon was Llywelyn
Yn symud ymaith ingoedd pob arofyn.
Derbyniodd linell, llinell amhrisiadwy,
Oddiwrth ei anwyl serchog fun, Myfanwy.
IV.
Ar bwys y Dyfrdwy hen ar faen mwsoglyd,
A'r hin yn frwd a mwll, a'r chwa'n ddioglyd,
Mewn llwyn o fedw deiliog wrth yr afon,
Yn clust—ymwrando ar ei lleddf sisialon,
Eisteddai'n ddifrif fun,—y fwyn Fyfanwy,
A'r prudd-der dybryd ydoedd gwisg ei gofwy.
A thros ei dwy-rudd llifai dagrau digron,[27]
Mae dagrau serch yn meddu mwy rhagorion
Na melus ddafnau neithdar,—diod ddwyfol
A yfir gan gerddorion pur ysprydol
Yn nhawel-lannau hyfryd gwlad bytholdeb
Pan yn perori canau anfarwoldeb.
Ochenaid ddwys ddilynai drom ochenaid,
Ffynhonnydd gloewon oedd ei thyner lygaid,—
Mae cariad pur fel chwyddog fôr eangfaith
Wrth ymgreuloni, hyawdl yw ei araith.
Mae ton ar don, a moryn ar ol moryn,
Yn ewyn claerwyn wrth gyffinio'r terfyn;
Efelly cariad pur ym mynwes meinwen,
Mae'n cynddeiriogi os bydd rhyw aflawen
Haid yn ceisio atal ei deg rediad,
A myn ei ffordd—ysguba wrthwynebiad.
Fe lwnc gilwgus epil mân gwiberod,
Yr unwedd ag y llynca'r môr y gafod,—
Neu fel y cymer llyn yr eiry oerwyn
I'w dawel fonwes—neu y perlog wlithyn
Pan yfir ef gan'r haul o'r cwpan-flodau
I dorri syched crasboeth ei belydrau;
Cyffelyb hefyd nerthol rym ochenaid,
A wesgir allan o gruddfannau dwfn yr enaid;
Mae glendid dwyfol, delw anfeidroldeb
Ynglŷn â serchog adlun bron tiriondeb.
Fel ag y cwyna draw yng nghwr y goedfron,
Y lwyd ysguthan am ei di-nerth gywion,
Neu fel y clywir alarch balch yn llarw[28]
Adrodd galar ar y llyn wrth farw;
Efelly hefyd tery mun gariadlon
A lleddf alaethgerdd dannau y serchiadon.
Myfanwy Fychan ganai gerdd deimladwy,
Ei llais goslefol, peraidd, oedd glywadwy;
Ac er ar brydiau fod ei chri wylofus
Yn ymgymysgu gyda'r sain soniarus,
Yr oedd ei chân yn cydgymlethu'n anwyl,
Fel mwyn beroriaeth glaslwyn gôr ar noswyl;
Pan fydd awelon tyner hyd y twyni
Yn dynwaredu cyngan lon y llwyni;—
Yn adlun ceindlws gwlad yr aur—delynau
Lle seinber dethlir ceinion yr awenau;
Fe ganai'r feinir gân i'w hanwyl Hywel,
A'i llais fel eos oedd yn llys yr awel.
Lliw meillion mân,
A blodau'r ardd;
Lliw eira glân
Yw gwedd y bardd;
Er ei fod yn llwyd a gwelw,
Arno rhoddes serch ei delw.
Fy nghariad cu,
Mae'n dlws a hardd:
O'i lygaid du,
Serch hudol dardd;
Mae ei wallt yn grych fodrwyog,
A'i ddwy foch yn goch rosynog.

GLYN Y GROES (Valle Crucis).
"Erbyn heddyw crug anferth o adfail ydyw,"
Dan fedwen las
Y deiliog lwyn,
Y profais flas
Ei gusan mwyn;
Fel gwna gwenyn gyda blodau,
Sugnodd yntau fy serchiadau.
Gysgodol wig,
Pa le mae'th swyn?
Mae dadwrdd dig
Mewn glaswig lwyn!
Och! Dyllhuan frech yn 'sgrechian,
Cri piogen fraith yn crecian!
Mae'r breilw mân
Yn gu eu gwedd;
Mae mron yn dân –
O! na chawn fedd!
Mynnaf, mynnaf, clyw fi'r awel,
Mynnaf garu f' anwyl Hywel.
Er llid a gwawd,
Fy eilun yw—
Mae'n gâr a brawd
I'm cadw'n fyw.
O! mae'n ysu gwraidd fy nghalon,
Feddwl colli Hywel dirion.
Tlws rosyn gardd,
Yr impyn per;
Serch arno chwardd
Drwy'r gloew ser;
Hywel gerais, Hywel garaf,
Doed a ddelo, Hywel fynnaf.
Ehedydd lon,
Yn llatai dos;
Rhyddha dy fron,
Uwch gwaen y rhos—
Traetha gwyn Myfanwy Fychan,
Wrth asgellog gôr y wiglan.
Galaethwch serch,
Cyhoeddwch farn;
Nid amhur merch
A'i serch yn sarn;
Pan y byddwyf wedi marw,
Traethwch oll fy nhywydd garw.
Aderyn pur,
Clyw, clyw fy nghri—
Gan boen a chur
Wyf ail i ti.
Yr wyf yn bur;—tra haul a lleuad,
Hywel anwyl fydd fy nghariad.
Er cryfed trais
Mae eto 'n fyw;
O!'i swynol lais,
Rhyw angel yw;
Hwn yn wir a biau 'nghalon,
Hwn yw nghariad, hwn yw 'nghalon.
Doed fel y del,
Mi garaf hwn;
Ei eiriau mel
Ysgafna 'm pwn;
Doed a ddelo, Hywel fynnaf,
Hywel gerais, Hywel garaf.
V
Gerllaw yn eistedd, yn y llwyn cauadfrig,
Yn dyfal wrando ar ei pheraidd fiwsig,
Yr hwn berorid gyda thrwm deimladau,
Y geiriau'n fynych foddid gan ochneidiau,
Pwy? pwy ond Hywel yno oedd yn disgwyl,
Am gael ymgom a'i gariad ar ryw egwyl;
Oblegid ni bydd dunos byth yn aros
Heb ddod o'i hol y wenrydd wawr eiriandlos;
Ni phery rhoch y corwynt blwng tymhestlog,
Ond ennyd fach i fygwth yn anelog,—
Daw i'w ddisodli dywydd tawel distaw,
A phawb a phopeth oll yn llonydd ddifraw.
Daeth hindda fer i Hywel a'i anwylyd
I sisial geiriau serch yn encil adfyd.
Cyfododd Hywel, ac â hoender bywiog,
Prysurai at y fan a'r lle yn serchog;
Ac yno'n ebrwydd, pwy oedd yn ei freichiau
Ond "haul rhianedd"—duwies y duwiesau.
Awgrymed serch pa fodd yr ymgofleidient,
A'r geiriau melus mwynion a sisialent.
Mae rhywbeth byw, aflonydd, llawn o deimlad,
Yn ennyn dyn,—yn estyn iddo'n wastad
Gwpanau chwerw, a chostrelau perion,
I'w gyfareddu yn ei hynt gariadlon.
Mae'r byd yn darfod,—nid oes dim ond angau
A ddichon luddias serch a'i rydd weniadau.
Mae aur ac arian—enaid mab y crinwas,
Yn sorod surion, salw, diwerth, diflas,—
Mae enw mawr, ac yntau'r unben hunan,
Yn nhiroedd cariad, megis o'r tu allan,
Yn ysgerbydau drewllyd, yn furgynod
Mathredig. Ond mae serch ar frig ei heulrod
Yn ymddadeni yn ei lasliw nefoedd,
Gan ymdecau â thlws addurnau filoedd.
Pa ryfedd fod caneuon anfarwoldeb
Yn dathlu oll ragorion ei dlysineb?
Mae cariad croew, megis blodau glanbryd,
Yn sypiau per ar ddreiniog lwybrau bywyd.
Mel-gafod ydyw serch o gwmwl cariad,
Yn traws-sylweddu'r byd i lun y Penllad.[29]
VI.
Ond pan yng nghanol gwynfyd eu cyfrinach
Dychrynnwyd hwy! ni welwyd gwaith creulonach.
Fe lusgwyd Hywel ymaith dros y bryniau
Gan hyllig haid; ac er pob ymbiliadau,
Mewn oer ddaeargell ddofn yng Nghastell Ceiriog[30]
Y dodwyd ef i wywo'r blodyn gwridog.
Ac yno bu yn gaeth am gamwedd enbyd,
Sef ennill serch Myfanwy deg oleu-bryd.
Ei olaf air wrth groesi'r afon Dyfrdwy
Oedd—"Ffyddlon fyddaf i ti, O! Myfanwy,
A'r ateb gafodd,—O! mae geiriau cariad
Yn meddu swynion goreu nefol deimlad,—
Oedd gwên anwylgu, ac un gair priodol,
A'r adsain draw a fynnai ateb, "bythol."
Dihangodd hithau megis gwyllt aderyn,
Pan fydd adarwr dig o'i ol yn erlyn.
VII.
Gwelai Hywel rhwng y barrau cryfion,
Weniadau'r dydd yn prysur roi argoelion;
Ac ar gyfencyd gwelai y mynyddoedd
Yn derbyn bendith landeg haul y nefoedd;
A chlywai gôr y glasgoed deiliog tawel
Yn canu plygain, gan gysegru'r awel;
Ond yn ei gell unigol, mewn cadwynau,
Yr oedd y bardd cariadlon ei serchiadau.
Pan ddeuai'r nos a'i mantell ddu bruddglwyfus
I guddio'r byd â chaddug tew, twyllodrus,
Syn-dremiai ar y nef, a'i dirif flodau,
Yn geindlws addurn teg yr uchelderau,
A chraffai ar y lleuad wyl yn gwenu
Fel glân rianon ar yr olwg bygddu;
Ond yn ei garchar yr oedd Hywel ffyddlon,
Yn goddef ingoedd poenau tra echryslon.
Un noson dywell wrth y ffenestr rwyllog
Ymgrymai'n lluniaidd, fenyw lawen, serchog,
A phwy oedd hon ond morwyn i Myfanwy,
Yn dod a llinell iddo—gymeradwy.
VIII,
Mae cofion yn adrodd eofndra dewrfrydig
Enwogion uchelfryd a'u campau arbennig,—
Y modd y gloddestodd yr arfau tryloewon,
Wrth yfed o'r waedlin nes byddent yn feddwon;
Ond neb ni chaed eto mor barod—galonnog,
I ymladd dros ryddid, a llanciau Rhiw-waedog.
Yn gadlu arwrol, un noswaith ddu dywyll,
Heb loer nac un seren i'w harwain yn hybwyll,
Dros Ferwyn prysurent, yn llidiog a gwrol,
A'u bryd am gael Hywel o'i feddrod amserol.
Cyn dydd cyrhaeddasant y carchar cadarngryf,
A'r oll benliniasant a'u pwys ar eu cleddyf,
I dderbyn gollyngdod a bendith yr abad
A ddaethai i'w cyfwrdd i le eu gofwyad.
Ac yna fel llewod rhuthrasant yn hyfion
A thros y tal furiau ar hyd yr ysgolion,
Ac ebrwydd marwolaeth oedd cyfran y ceidwad,
A'i filwyr yr unwedd a laddwyd heb frwydrad,
A'r arlwydd ardderchog, perchennog y castell,
A ddygwyd yn yspail o'i orwech ystafell;
Yn fuan caed gafael ar geuddor y carchar,
A chyda'r agoriad,—y colyn aflafar
A wichiai;—cyhoeddai i'r truan ymwared,
Daeth dydd yn lle dunos i ymdrin â'i dynged,
O'i ddugell ofnadwy fe 'i dygwyd ef allan,
Ei gadwyn drom rydlyd a dynnwyd yn fuan,
Ac erbyn i eurbyst yr huan ymchware,
A'r las-wawr oleuglir ddynoethi—y bore,
Angau a'i weision ellyllaidd a chwarddent
Yng ngwyneb y milwyr, ac arnynt mingament;
Ac arlwydd y castell ar gopa y mynydd
A frathwyd â chleddyf, a mawr y llawenydd,
Wrth edrych ar anrhaith, gweinyddes difancoll,
Yn llusgo ei enaid ef allan drwy'r archoll.
IX.
Dan fedwen ben walltog, wrth gastell ardderchog,
Yn disgwyl yn ffyddiog am arwydd;
A'i chalon yn chwyddo—mewn ofn yn gobeithio;
Hynodai waith tynged anedwydd.
Edrychai yn ddyfal, a gwelai yr ardal,
Dan wlanog niwl gwamal yn gwelwi;
Y bryniau a guddid, rhyw ddrwg a argoelid,
Yr ydoedd mewn dulid yn delwi.
Ac felly yn sydyn, mewn llewyg am feityn,[31]
Y syrthiai y forwyn dda fwriad;
Pwy welai yn dyfod, yn llawen ei weddnod,
Ond Hywel fwyn hynod, ei chariad.
Dadebrai yn fuan, a gwelai yr huan,
A'i belydr goleulan yn gwenu;
A gwelai gyferbyn, was Hywel, Llywelyn,
Ac eraill i'w ganlyn yn nesu.
Sisialai yr awel, a'r hedydd yn uchel
Gyhoeddai," Mae Hywel gerllaw,"—
Ei chalon a chwyddai, ei llygaid a bylai,
Ni choeliai ei ddyfod yn ddifraw.
Ond arlliw yr abad, gŵr hynod ei gariad,
At wan ac amddifad, ganfyddai;
A llu o wŷr arfog, sef llanciau Rhiw—waedog,
O'u hol yn rhes dalog, ystyriai.
Dynesu a wnaethant, ac ati y daethant,—
Gadawer i seibiant arlunio;—
Distawrwydd a chwarddodd, a galar ymgiliodd,
A chariad orffennodd eu huno.
X.
Bu beth ymholi, do, a dybryd frudio,
Pa beth a ddaeth o'r arlwydd ar ol cwympo,—
Ei ysbryd blin ar brydiau oedd gynhyrfus,
Yng Nghastell Ceiriog, ac yn dra chythryblus,
Ond byth ni ddeuai dros y Ddyfrdwy, meddynt,
I ddangos dim o'i gampau drwg eu helynt.
Cofier, Sais, estronol, ciaidd, ac yspeilgar,
Oedd hwn a laddwyd am ei waith anrhugar.
Ac er mor ffrwythlon ydoedd yr hen goelion,
Mae gwir yn aros ynddynt fel argofion,
O'r tywydd garw—tywydd erchyll, creulon,
A fu yng Nghymru gynt, a'i flwng fygythion,
Fel adfail candryll o ryw hardd adeilad,
Neu deg gerfiadau wedi mynd yn afrad,
Rhwng bysedd meinion amser, yn ysgyrion,
A chrebwyll yn coroni y rhagorion.
XI.
Yn un y fun a'i hanwyl fardd,
Mewn glân briodas ddiwahardd,
A wnaed gan Abad Glyn y Groes,
A'r ing a'r ofni ar fyr a ffoes;
A throwyd Castell Dinas Brân,
Yn llys y beirdd a neuadd cân.
Llawenydd eto ddaeth yn ol,
A pher—ganiadaeth yn ei gol.
Corelwest hoenus,—pob rhyw ddawn,
A geid yn wastad yn y fan;
A holl ddanteithion lleoedd llawn,
A'r tlawd a'r unig yn cael rhan.
Y delyn ber a'r cerddor mwyn,
Gymysgent aceniadau llon,
Gwladgarwch gyda 'i radol swyn,
Enynnid yno ymhob bron.
Eu cydgan hyfryd nos a dydd
Oedd," Cymru fu a Chymru fydd."
XII.
Blodeuodd ceinion gwynfa hardd
Yn sypiau per ar goed yr ardd;
Pwy faidd ddrwgliwio calon merch,
A dweyd mai rhagrith noeth ei serch?
O! Hywel fardd a'i rian dlos,
Y lili deg, a'r gwridog ros,
A blethwyd, impiwyd hwy yn un,
Yn un o ran eu lliw a'u llun.
Fel hyn daeth gwyn i'r rhosyn coch,
Yn adlun teg o undeb pur,
Cyffelyb hefyd lliw ei boch,
Cyn gwywo dan awelon cur;
Mae'r ddeuliw yno fyth yn un,
Yn addurn pennaf glendid bun.
Yn un mewn serch, yn un mewn moes,
Treuliasant hir ddedwyddol oes;
Gan ymhyfrydu'n noddi cân
Ac annog pob rhagorgamp lân;
Myfanwy Fychan, eilun serch,
A Hywel fwyn, a'i awen dlos,
A genynt gerddi gyda'r nos,
Yn gof o'r gân a'r effaith dderch,—
Y gần a hudodd fryd y ferch!
Y gân a genid wrth y ddor,
Yn ail i gerdd seraffaidd gôr;
Y gân a sugnodd galon bur
Myfanwy dlos, er cloion dur;
Y gân anfarwol, ddwyfol ryw,
A roes i'w cariad fodd i fyw;
Y gân a'u hunodd hwy yn hardd—
Myfanwy deg a Hywel fardd.

LLYN TEGID.
"Llyn y Bala, megis llen dryloew,"
Nodiadau
[golygu]- ↑ MYFANWY FYCHAN oedd rian nodedig o brydweddol, a swyn-hudodd ei thlysni Hywel ap Einion Lygliw i'w mawl-odli mewn dull a modd a enillodd iddi gilfach yn nheml anfarwoldeb. Hannai o wehelyth Tudur Trefor, a threfai yng nghastell Dinas Brân gerllaw Llangollen. Yr oedd yn ei blodau tua'r flwyddyn o.c. 1390.
- ↑ HYWEL ap EINION LLYGLIW. Cyfoeswr ydoedd ef i'r feinir harddlun, ac fel amryw o'r beirdd, yr oedd yn wan yn ochr cariad. Oes yr awen riangar ydoedd y pedwerydd cant ar ddeg. Dyma'r pryd y canodd "Dafydd ei gywydd gwin," i'w Forfudd fain, ac y plethai y tri brawd o Farchwiail (y rhai oeddynt garenydd i Myfanwy), geinion serch yn ddestlus gywreinfodd. Bernir mai yn ymyl y Bala yr aneddai y bardd.
- ↑ Dernyn hirgrwn o dir yng nghanol coedlan. Parlasg y gelwir ef weithiau.
- ↑ Gwyddfid, wood-vine.
- ↑ All-gwest-og—lle a digon o borfa rywiog.
- ↑ Dwy linell ar ddelw Longfellow, y bardd Americanaidd syber. Dyma llinellau,"And the hooded clouds like friarsTell their beads in drops of rain."
- ↑ Gwull,—flowerets, wild flowerets
- ↑ Gwyddan,—Nymph
- ↑ Magien, Gwyllon,—Glow-worm. Tân bach diniwaid
- ↑ GLYN Y GROES,—Valle Crucis. Llanegwestl, Mynachlog y Glyn. Un o'r hen grefydd-dai ardderchocaf a feddai Cymru gynt, ond erbyn heddyw crug anferth o adfail ydyw.
- ↑ Hen linell dlos o eiddo Gwalchmai, o Dre Walchmai, ym Môn. Blodeuodd о.с. 1170
- ↑ Golygir yr olygfa ar lannau Llyn Tegid, ym Meirion, gerllaw yr hwn le y trigai Hywel, ebe traddodiad, ond ysywaeth distaw-fud yw hanes ar y pen hwn, a chan hynny teg i'r prydydd ei fan ei hun; ond yn bendifaddeu, coeliwn nad oes achos sennu am rodio yng nghwmni yr awen gerllaw"Cyfrinol ddwfr Dyfronwy hen."
- ↑ CREIRWY, medd yr hen gofiannau, oedd un o "dair gwen—rian Ynys Prydain." Merch ydoedd i Tegid o Čeridwen. Y mae Celtig Davies, yn ol ei fympwy, wedi gwneyd Ellylles genhedlig o'r fûn gariadgar hon, a myn haeru mai yr un ydyw a Proserpine, ond fod y flaenaf o fewn cylch yr Ynys Wen.
- ↑ ARANROD. Merch Don, a chwaer Gwydion, a ystyrrid drwy'r oesoedd y rian decaf a harddaf yng Nghred. Darllenner cân Taliesin iddi yn y Myf. Arch. cyf. I. 66. Byddai olrhain ei chysylltiad â syniadau rhiengar cenedl y Cymry yn ormod o drafferth ar hyn o bryd, digon yw dweyd mai'r ail o'r "tair gwen-rian" ydoedd.
- ↑ GWEN, merch Cywryd ap Croydon, bardd o'r chweched cant, oedd y drydedd o'r "tair gwen-rian."
- ↑ GWENONWY. Rhian nodedig o dlos ag y mae'r beirdd drwy yr oesoedd wedi bod yn ymryson canmol ei glendid a'i lledneisrwydd. Efallai mai Gwenonwy, merch Meurig brenin Morgannwg a Garth-fadryn, ydoedd. Ei gŵr oedd Gwyndaf Hen ap Emyr Llydaw. A hi ydoedd mam S. Meugan, &c., &c. Gwenonwy hefyd oedd enw merch Ifor Hael.
- ↑ DWYNWEN. Merch i Brychan Brycheiniog. Ystyrrid hi yn santes gyfryngol cariadon. Yr oedd ei heglwys ym Môn, a mynych gyrchid yno gynt i roi aberth ar ei hallor gan ddisgwyl lles o'i heiriolaeth. Bu Dafydd ap Gwilym yno amryw droiau.
- ↑ Lladus,—llad, glân, pur, peth croes i an-llad
- ↑ Nidron,—boglynau, neu wyau neidr, a wisgid gan y derwyddon. Yr oeddynt fel dwyfronneg Aaron, yn meddu dwyfoldeb, ebe'r cofion.
- ↑ Gwenallt,—the holy grove.
- ↑ Dywed traddodiad am yr eos, y cân ei hun i farwolaeth o alar ar ol ei chydmar. Tybia rhai o'r hen awduron y byddai yn dwyn ei chydmar, pan wedi marw, o dan berth ddreiniog, a chan wthio draen blaenllym i'w bron, y pynciai nodyn neu ddau clir, sef ei galargerdd; ac yna, fel wedi i effaith cyntaf y boen ddarfod, cymysgai odl brudd glwyfus,"Nes allan yr anadla,Ei henaid yn ei cherdd;Ac yna tawel huna,Yng nghil y goedlan werdd."
- ↑ LLATAI, gwas caru, a love messenger
- ↑ MORWYDD, môr forwyn, a sea-nymph. Dywedir y bydd y rhai hyn ar brydiau yn wylo mor dorcalonnus nes y bydd y morwyr didoriad yn gorfod"Cymysgu heli'r llygaidA heli hallt y môr."
- ↑ EURON GALON GALED. Gelwir hi weithiau gan rai o'r beirdd yn Euronwy.. Dodwyd yr addasair calon-galed iddi gan Myrddin. Blodeuai yn y chweched cant. Merch ydoedd i Clydno Eiddin, ac yr oedd iddi frodyr a chwiorydd rai, oblegid sonnir yn fynych am Cynon, a thra bo Mabinogi ar gael, caiff ei chwaer Eurnaid ran o'r oesoldeb cyffredin.
- ↑ CLODFORUS. Un o addaseiriau dewisol yr Anfeidrol fel derbynnydd clod y gwynfydedigion.
- ↑ ANHUN. Ystyrrid Anhun yn yr amseroedd gynt yn anferthach na'r Hunllef wrthyn, a melldith ofnadwy oedd cael ei farchog gan yr ellylles hon.
- ↑ Digron "Mae tonnau dagrau digron." G. Owain. Moryn, tonnau mawrion, cesig y tonnau.
- ↑ Llarw, tyner mwyn, yr un peth a llary yr hen feirdd. Dywedir y bydd yr alarch yn canu cyn marw,
"There swanlike let me sing and die."
- ↑ PENLLAD. Y da penaf. Summum bonum y paganiaid uchelddysg gynt.
- ↑ CASTELL CEIRIOG, Chirk Castle, lle a gyfaneddid gynt gan Saeson trahaus; gwelais sylw fod yno arlwydd unwaith mewn trybini enbyd am ferch Dinas Brân, ac ar y cof hwnnw y seiliwyd y darn a ddilyn.
- ↑ MEITYN, hen air da ar lafar gwlad am funud, neu funudyn; dywedir beunydd er ys meityn," yng Ngwynedd a'r Deheubarth.