Neidio i'r cynnwys

Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II/O'r Eidaleg

Oddi ar Wicidestun
Y Gwanwyn Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II

gan Owen Wynne Jones (Glasynys)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Y bardd a'r blodyn

O'R EIDALEG.

Yn awr, fy Nefol Dad, 'rwy'n gweled
Pam yr ydwyt ti yn arbed
'R anuwiolion, yn lle 'u taro
Gyda 'th fflamfyllt, nes eu cwympo.

Dy farnau sydd yn cael eu hanfon,
I geryddu'r anuwiolion;
Neu ynte i berffeithio 'th weision,
Drwy ryw luoedd o dreialon.


Nodiadau

[golygu]