Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II/O wyla dros y rhai
Gwedd
| ← Lili'r Dyffryn | Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II gan Owen Wynne Jones (Glasynys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Dedwyddawl fo preswyl → |
WYLA dros y rhai wrth Babel draw
Sydd yn galaru am eu gwlad heb daw;
O wyla am delynau Judah'n awr,—
Galaetha am breswylfa'r Brenin Mawr.
O Israel, pa le rhoi'th waedlyd droed?
A cherddi Seion, pam mewn bedd eu rhoed?
Mawl-odlau Judah unwaith eto gawn,
Y galon lam wrth lais y nefol ddawn.
Crwydredig lwythau'r byd, pa bryd y dont
Idd eu gorffwysfa? (Ha!brysio yno bont!)
Mae i'r glomen nyth, a'r llwynog ffau er hedd,
Gwlad i'r cenhedloedd, i Israel dim ond bedd.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Adolygiad o'r gerdd yn y gyfrol gyntaf
- ↑ Oh! weep for those gan George Gordon Byron ar Wikisource