Neidio i'r cynnwys

Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II/Y Gôg

Oddi ar Wicidestun
Arthur Llywelyn Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II

gan Owen Wynne Jones (Glasynys)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Golygfa ar yr afon

Y GOG.[1]

Y GWCW lwydlas dery gerdd
Yng nghoedwig werdd y faenol;
Ei hunodl ydyw anadl ha
Mae'r eira wedi meiriol;
Cw-cw! cw-cw! Awelon mwyn
Sy'n llawn o swyn hudolus,
Mae'r briall glân a'r meillion brith
Dan berlog wlith yn felus.

Yn iach, yn iach i'r gauaf oer,
Mae gwên y lloer yn gwynnu;
Yn iach i'r olwg noethlwm hyll,
Mae'r closydd cyll yn glasu;
Cw-cw! cw-cw! Mae'r irion ddail
A'r gwiail yn blaendarddu,
Mae gwên ar wyneb glân y glyn,
Mae bro a bryn yn tyfu.

Cw-cw! cw-cw! Mae'r adar mwyn
Yn dweyd eu cwyn i'w cymar;
Cw-cw! cw-cw! Mae'r deiliog lwyn
Yn llawn o swyn caniadgar;
Cw-cw! cw-cw! Awelon mwyn
Sy'n llawn o swyn hudolus,
Mae'r briall glân a'r meillion brith
Dan berlog wlith yn felus.


Nodiadau

[golygu]
  1. Cerdd gwbl wahanol i'r gerdd o'r un enw yn y gyfrol gyntaf