Neidio i'r cynnwys

Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II/Y rhosyn boreol

Oddi ar Wicidestun
Cathl yr ucher Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II

gan Owen Wynne Jones (Glasynys)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Lleucu Llwyd

Y RHOSYN BOREOL

RHOSYN yn yr ardd
Y bore ledai,
Ei flaguron hardd
Yr awel chwifiai;
Ond cyn hanner dydd
Gwywo wnaeth y rhosyn
Gwelwai'i ddullwedd blydd,
Doi 'i oes i'w therfyn.

Gwelwyd llawer un
Ym more einioes
Yn dra hardd ei lun,
Heb brofi trymloes;
Ond cyn nawn ei oes
Gwywai dan law angau,
Trengai mewn rhyw loes,
Darfod wnaeth yntau.


Nodiadau

[golygu]