Neidio i'r cynnwys

Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II (testun cyfansawdd)

gan Owen Wynne Jones (Glasynys)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
I'w darllen cerdd wrth gerdd Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Owen Wynne Jones (Glasynys)
ar Wicipedia


ERYRI.
"Tydi oedd noddfa dawel ein hynafiaid.


Y LLENOR, Llyfr xiv.

GWAITH BARDDONOL

GLASYNYS.

★ ★

GLASYNYS



Gwrecsam:
HUGHES A'I FAB, 56, HEOL ESTYN.
Ebrill, 1898.



SENEDD-DY OWEN GLYN DŴR, DOLGELLAU.

RHAGYMADRODD I'R AIL GYFROL.

Y MAE'R ddwy gyfrol yma'n cynnwys bron yr oll o waith barddonol Glasynys. Yr eithriadau yw rhai o ganeuon bore ei oes, ac, feallai, ganeuon diweddarach nas gwn i am danynt. Credaf fod pigion o'i ganeuon cyntaf yn ddigon ar hyn o bryd; rhoddais bob peth fedrais gael o ffrwyth addfed ei awen.

Cefais gynorthwy parod gan lawer o lenorion ac eraill; gwn, erbyn hyn, at bwy i fynd pan fydd arnaf eisiau cymorth parod a serchog i wneyd unrhyw gymwynas i lenyddiaeth Cymru ac i goffadwriaeth y rhai a'i carodd.

Codwyd rhai darnau o hen rifynnau'r Herald a'r Taliesin, a rhan fawr o lawysgrif Glasynys.

Ni fynnwn gymeryd arnaf fy hun benderfynu lle Glasynys ymysg beirdd Cymru. Yr wyf yn ei hoffi fy hun am ei naturioldeb, am ei gariad at y mynyddoedd, am ei awydd i addoli popeth yn hanes Cymru, ac am ei duedd i weled ac i ganmol neillduolion goreu ei genedl. Mae rhyw swyn cyfareddol yn ei ddarnau goreu; ac yr wyf yn sicr y dylasai ei ganeuon fod yn feddiant i Gymru cyn hyn. Nid esgeulusdod ei garedigion yw achos yr oediad, ond digwyddiadau nas gallesid eu rhagweled.

Hoffwn i'r ddwy gyfrol hyn fod yn gymorth i gadw ei gân a'i enw. Ac yr wyf yn disgwyl y daw digon o elw oddiwrthynt, o hyn i ddiwedd y flwyddyn, i roddi un o gerrig geirw Arfon i nodi'r fan yr hun Glasynys.

OWEN M. EDWARDS.
RHYDYCHEN, 1898.


PONTYPŴL.


CYNHWYSIAD YR AIL GYFROL.

Y CANEUON.


Y DARLUNIAU.

ERYRI (H. Gastineau, H. G. Watkins)—Wyneb-ddarlun.
GLASYNYS. Gan J. Thomas, Cambrian Gallery
GER PONTYPWL (H. Gastineau, S. Lacey)
Castell Aberystwyth (H. Gastineau, J. C. Varrall)
Yn y Deheubarth-Afon Teifi (H. Gastineau, S. Fisher)
Castell Rhuddlan (H. Gastineau, H. Adlard)
Nant y Glo (H. Gastineau, S. Lacey)
Mwynder Powys (H. Gastineau, J. C. Varrall)
Machynlleth (H. Gastineau, H. G. Watkins)
Berw Rhondda (H. Gastineau, T. H. Shepherd)
Castell Dinas Bran (H. Gastineau, W. Wallis)
Glyn y Groes (H. Gastineau, W. Radclyffe)
Llyn Tegid (H. Gastineau, T. Barber)
Pont Cenarth (H. Gastineau, S. Fisher)
Pont Menai (H. Gastineau, T. Barber)


CASTELL ABERYSTWYTH.
"Es i lan y môr i syn-fyfyrio."


ENW AR Y TYWOD.
"A'i le nid edwyn ef mwy."

ES i lan. y môr i syn-fyfyrio,
Ar fawr waith yr Ior, a welir yno;
Wrth im rodio'r traeth canfyddais gragen—
Tynnu'm sylw wnaeth, i wneyd ysgrifen.

Ar y tywod mân y gwneis fy enw,
Mewn llythrennau glân, fel byddai hwnnw
Yn goffhaol nod ar ol im' farw;
Ac yn traethu 'nghlod, neu 'nhywydd garw.

'Nol ei wneyd yn ferth, i ffwrdd yr aethum;
A'r môr â'i ruad certh, yn gaddaw'n awchlym
'Storom yn yr hwyr, pan guddiai'r Huan
Ei weniadau'n llwyr tu draw i'r geulan.

Drannoeth es drachefn i chwilio am dano;
Ond, yn ol y drefn, gwnai'r môr ei guddio—
Ymaith golchwyd ef gan donnau'r cenllif,—
Ymaith aed âg ef i'r eang ddyfnlif.—

Fel fy enw bydd fy niwedd innau,
Pan yr af yn rhydd o'm holl gadwynau;
Amser yn ei hynt a'm teifl yn fuan,
I'r fan llu bu'm gynt, sef priddlyd drigfan.

Pridd wyf fi yn wir, i'r pridd dychwelaf;
Am fy nghyntyn hir y dwys fyfyriaf.
Dan yr ywen werdd y caf orffwyso,
Heb ddim galar—gerdd i'm serchog gofio.

Fel yr enw wnaed gynt ar y tywod,
Dim ond ei gerfio gaed, ac yna—darfod.
Felly byddaf fi yn fuan fuan;
Neb ni roddant gri uwchben fy hunfan.

Ond mi welaf fan i roi fy enw,
A barhao pan fo'r môr yn ferw;
Sef, ym marmor pur y Graig dragwyddol,
Gyda phin o ddur i bara bythol.



YN Y DEHEUBARTH,
"Ar fin aberoedd gloewon."


Y GWANWYN.
(Efelychiad o'r Eidaleg.)

DAETH y Gwanwyn unwaith eto,
Gyda gwên i flodau'r ardd;
Daeth'r awelon maws i suo,
Idd y blagur, teg a hardd;
Y dail ar gangau'r coed ymledant
A'r briallu'r nant a huliant;
Ond, och! i mi ni ddychwel mwy,
Y galon fâd, heb ynddi glwy!

Meiriola'r haul, yn glaer ei wedd,
Y rhew oddiar y bryniau;
Ymdrwsiant hwythau yn eu tro
Mewn gwisg o amryw liwiau.
Yr afon fach sibrydol
Furmura yn wastadol;
Wrth dreiglo gwna ei glannau'n wyrdd,
A hulia hwynt å blodion fyrdd.

Y derw talgryf, hen,
Yng nghwr eanglwyn;
A wisgant urddol wên,
Heb rew—mae'n Wanwyn,—
Blodionos lu ymrithiant
Am harddu'r llawr 'mrysonant,
Heb gael eu mathru gan 'run troed,
Wrth deithio'r lle y tyfant;
A gŵg yr aradr 'chwaith ni roed,
I ddarnio eu haddurniant.

O'r broydd pell i'w didryf nyth,
Dros yr eangfor brigwyn,
Dychwela'r wennol yno'n syth,
Gan hollti'r aêr a'i hedyn;
Ymwibia'n chwim heb feddwl am
Y rhai gynhygient iddi gam.

Y lodes fynyddig wrth wylied ei phraidd,
A'i bochau yn gochion fel rhosyn;
Ei mwyn lais gogleisiol drwy'r creigiau a draidd
Nes hudo fy nghalon i'w dilyn;
I dreulio fy oes,
Heb ingoedd na gloes,
Ar fin aberoedd gloewon, i ddysgu ei hardd foes.


Ond prysura'r diadelloedd
Idd y ffriddoedd sydd gerllaw;
A'r pererin yntau frysia
I'w orffwysfa'r ochr draw.
Y tywod mân er maint eu 'stôr,
A ymgyflymant tua'r môr

Y gwelw lywiedydd yn awr,
I hyfryd ororau ei dadau
Ddychwelodd, ac arno mae gwawr
Ddychrynllyd peryglon y tonnau;
Caiff weled yr angor yn suddo i lawr,
A phawb o'i gyd—forwyr yn canu;
Ei ofnau a'i arswyd ddarfuant yn awr,
Caiff yntau ymweled â'i deulu.

O! Gweno anhylon, pam 'rwyt mor anffyddlon,
Fel pe bae y galon a glwyfaist heb lid;
Os deuaf o'th rwymau 'rwy'n gwybod o'r goreu
Pa fodd yr arferaf fy rhyddid.

Fy nghariad, fy nghariad, mae 'th enw'n anwylfad,
Fe fydd dy goronbleth o wyrdd—ddail yn hardd;
Ond os y gwnai eto barhau yn ddigyffro
Fy nig innau gyfyd—ni oddef ei flino,
I wneyd amddiffyniad i gariad y bardd.

Na, na, fy anwylyd! na, maddeu fy ffoledd!
A'm geiriau digofus, anghofia bob un;
Arwyddion it' ydynt dy fod yn gyfannedd
Yng nghanol fy meddwl—yn llednais dy lun;
Cymer fi, Gweno! O! cymer fi 'rwan,
Neu ynte gwrthoda fi mwyach am byth;
Er hynny ti fyddi, yn niwedd y cyfan
Yn enaid fy mywyd yn nodded—yn nyth.


O'R EIDALEG.

Yn awr, fy Nefol Dad, 'rwy'n gweled
Pam yr ydwyt ti yn arbed
'R anuwiolion, yn lle 'u taro
Gyda 'th fflamfyllt, nes eu cwympo.

Dy farnau sydd yn cael eu hanfon,
I geryddu'r anuwiolion;
Neu ynte i berffeithio 'th weision,
Drwy ryw luoedd o dreialon.


Y BARDD A'R BLODYN.

—————et nimium brevis
Flores amcenæ ferre jube rose."
HOR. Lib. ii., Carm. 3.


AR fore teg, a'r awel chweg
Yn chware rhwng y deilios mân,
A'r blodyn brith yn wlyb gan wlith,
A'r lili wen a'i bron yn lân;
Ar ael y nant y clywid cant
O adar bach yn pyncio'n bêr;
Y fronfraith fwyn yn llenwi'r llwyn
A'i molawd gerdd i'r Arglwydd Ner.

Yr hedydd yntau hefyd,
A eiliai ganiad hyfryd,
Pan yn dyrchu tua'r nef;
Fel pe yn dweyd wrth ddynion,
Cyfodwch eich golygon
Fry, i'w drigfan sanctaidd Ef."

Yr adeg hon yng nghwr yr ardd,
Blodeyn dynnai sylw'r bardd,
Ei ddull a'i wedd oedd hynod hardd,
A'i arogl pêr oedd fel y nardd.

"O!" meddai wrtho 'i hun,
"Nawr cefais wrthrych cun,
Yn ebrwydd dof a'm hardd-deg fun
I'w weled ef yn deg ei lun,
Yn gwenu yn ei geinder;

"Oherwydd mae ei olwg syw
Yn tynnu'm sylw.
Tybed 'r a hwn yn wyw,
A'i wedd yn welw?"

Pan guddiai'r haul ei ben
O dan y fachlud len,
Y bardd a'i forwyn wen
I'r ardd a aethant.



Ond erbyn hyn, y blodyn gwyn
A blygai'n syn ei ben i lawr;
Ei olwg teg a'i arogl chweg,
Oedd 'nawr yn freg—fe ddaeth ei awr,

Ei dlysni gwiw, a'i lonwedd liw,
O'i dyner ffriw a aeth ar ffrwst!
Yn wael ei wawr edrychai'n awr,
Er na chadd brofi fawr o drwst;

Ond darfu ei holl degwch cu,
Dilynodd ef ei frodyr lu
I dywyll wlad yr hyn a fu,
Sef bro y diflant.

Edrychai'r fanon arno yn bruddglwyfus;
Ac yn y fan dywedai yn wylofus,—
"Pa beth yw f'oes ond megis orig fechan,
Pan o fy mlaen'r ymleda'r fythol drigfan!
Fel blodyn tyner wyf, o ran fy nynol anian;
Ond mwy na'r blodyn wy oherwydd f'enaid purlan."


LILI'R DYFFRYN.

"Neu desint epulis rosæ
Neu vivax apium, neu breve lilium.”
Hor. Lib. i. Carm. 36.


PAN oedd emrynt aur y dwyrain
Yn agoryd yn dra mirain,
A morwynion glân y wawrddydd
Yn ymddangos yn ysblenydd,

Y cysgodion araf-gilient,
Rhag yr haul hwy oll ymguddient;
Anian dlos, o'i chwsg ddeffroai,
Yn ei chwrlid tarth ymguddiai.

Sisial, sisial, wnae'r awelon
Gyda'r dail, a'r brigau meinion;
Yr afonig fach furmurai,
Pan i'r môr yn araf nesai.


Y pryd hyn y gwenai 'n dirion
Lili wen, o dan ei choron,
Ymddigrifai gyda'r awel,
'Rhon a siglai iddi 'n dawel.

Yn ei gwedd yr ydoedd arwydd
Teilwng odd ei diniweidrwydd;
Gwrth-ddywedai ar fyr eiriau,
Nad oes blodyn heb ei bigau.

Golwg dyner lili'r dyffryn,
Dynnai sylw tri o fechgyn;
A phob un o'r tri a ddysgodd
Wers oddiwrth yr hyn a welodd.

Meddai Idwal, yn fwyneiddlon,—
Dyma adlun o fy nghalon;
Fel y lili yn ei cheinder
Y dymunwn fod bob amser.

Gwên bob adeg ar fy wyneb,
Ddengys effaith pur tiriondeb;
Dengys hefyd fod tawelwch
Yn melysu cwpan tristwch.

Ah! y lili, ebai Hywel,
Sydd yn chwerthin yn yr awel;
Arlun têg o wir foddlonrwydd,
A chartrefle diniweidrwydd.

Gwên ei gwyneb trwy ei heinioes,
A ddymunwn er pob oerloes;
Pan yn marw gwena'r lili,
A gwasgara ei thirioni.

Fechgyn anwyl, ebai Merfyn,
Gwych yw canmol y blodeyn,
Ond, gwrandewch, peth darfodedig
Ydyw 'r ceinder tra nodedig.

Yn y bore y blagura,
Erbyn hanner dydd hi wywa,—
Cyn y ceunos ni bydd inni
Ddim ond adgof am y lili.

Gwell o lawer ydyw peidio
Edrych arni yn blaguro;
Os na chofiwn am ei gwywder,—
Adlun teilwng 'stad marwolder.


Ond ar hyn dechreuai 'deryn
Ganu marwnad llili 'r dyffryn,-
"Wi, wa, wiw," pa le mae'r lili!
"Wo, wa, wa," pa le ma 'i thlysni?

"Tiw, tw, tw," mae wedi gwywo,
"Ar-ri-ro," oferedd wylo;
Lili lân, y liwlwys lili,
Wywodd er ei holl dirioni!


XIV.—O WYLA DROS Y RHAI.[1]
(Cyfieithiad o O weep for those Byron.)[2]

 
WYLA dros y rhai wrth Babel draw
Sydd yn galaru am eu gwlad heb daw;
O wyla am delynau Judah'n awr,—
Galaetha am breswylfa'r Brenin Mawr.

O Israel, pa le rhoi'th waedlyd droed?
A cherddi Seion, pam mewn bedd eu rhoed?
Mawl-odlau Judah unwaith eto gawn,
Y galon lam wrth lais y nefol ddawn.

Crwydredig lwythau'r byd, pa bryd y dont
Idd eu gorffwysfa? (Ha!brysio yno bont!)
Mae i'r glomen nyth, a'r llwynog ffau er hedd,
Gwlad i'r cenhedloedd, i Israel dim ond bedd.



DEDWYDDAWL FO PRESWYL
(Bright be the place of thy soul.—BYRON).[3]

DEDWYDDAWL fo preswyl dy ysbryd;
Un enaid hawddgarach ni fu
Yn dianc o rwymau marwol-fyd
I harddu gororau wlad gu.
Pan oeddyt yn trigo y ddaear
Fal adlun o'r modd byddi fyw,—
Fe dderfydd ein ochain a'n galar
Pan gofiom dy fod gyda 'th Dduw.

Yn ysgafn poed tyweirch dy feddrod
Yn irion a gleision eu gwedd,—
Na fydded na chaddug na chysgod
Ar dim a fo'n gofawd o'th hedd.

Irflodion a bythwyrdd fo yno
'N ei hulio yn delaid eu gwedd,
Ond na chaed prudd ywen ei guddio,
Pam wylwn am deulu yr hedd?


CLOCH MEBYN[4]
(Snowdrop).
[Llinellau a gyfansoddwyd gan y bardd i'w fab-bedydd, William Roberts, plentyn Mr. a Mrs. Edwards, Towyn, Meirionnydd. Ysgrifennwyd hwy ychydig bach o amser cyn marwolaeth Glasynys.]

YN Ionawr oer, dan wên y lloer,
Dan dewglyd gnwd o eira,
Mae blodyn bach, a'i olwg iach
Yn dangos y cyfeiria
Ei olwg syn, a hwnnw'n wyn,
I fyny, nid i wared,
Dan ias y rhew, neu'r eira tew
Nid oes ond un ymwared.

Ymwared y fedyddfa bur
Heb gur a gadd y baban,—
Ymwared Duw i ddynol ryw
Ail eni y fedyddfan;
O! William Roberts, cofia hyn
Wrth ddechreu bywyd hirfaith,
Y daw i'th ran—nid gwyrdd a gwyn—
Ond tynged myrdd mewn effaith.

Yng ngardd Llwynrhudol, flodyn hardd,
(Mae honno'n ardd y gerddi),
Y tyfodd llawer egin bardd,
A hynny heb waherddi;
Boed William bach, yn iach ei fryd,
Yn Gymro 'i fryd gwastadol;
A'i dyniad fyddo yn y byd—
Llawn rheded i Llwynrhudol.

Llwyn Du fu gynt yn fawr ei fri,
Geir yma'n febyn glandeg;
Mae Willie bach yn ffraeth a ffri,
Gwir ydyw, mae'n gywirdeg;
Boed einioes hir a dedwydd oes,
Heb fawr o groesau bywyd,
Ond tyfu wnelo'n lân ei foes,
Nes cyrraedd "Cylch y Gwynfyd."



CASTELL RHUDDLAN.
"A Difrod dros y Morfa mawr farchogai,"


MYRDDIN WYLLT.
SEF CAN DDESGRIFIADOL O GYMRU.

"Pa wlad, wedi'r siarad, sydd
Mor lân a Chymru lonydd?"


O'M hogof greigiog yng nghilfachau'r Wyddfa—
Y lle gysegrwyd yn gyfriniol guddfa,
Cychwynnais ar fy hynt un bore tawel,
Yng nghwmni difyr y sibrydol awel,—
I weled Cymru, anwyl wlad fy nhadau,
Y wlad a sugnodd fywyd fy serchiadau;
I edrych ar ei thrumawg fan fynyddoedd,
A'u cribau'n ysgwyd tyner lesni'r nefoedd;
Ei bryniau cefngam fel ar ben eu gliniau,
Yn methu cynnal pwysau y cymylau;
Y moelydd cestiawg yn ymsynnu beunydd,
Ac wrth eu sodlau lu o grynion fronnydd;
I syllu ar ddyffrynnoedd heirdd yn cysgu,
A'r afon loew fel pe yn eu dysgu
Gyfrinion mud, y llynnoedd llonydd llawnion,
A thraddodiadau tryfrith yr encilion;
I weled tlysni'r glynnoedd ymgordeddog,
A chel gudd-fannau'r cymoedd ymgornelog
I wrando trwst taranllyd y rhaiadrau,
Yn diflin rygnu'r creigiau yn rhigolau;
Neu'r daran ynte yn dyruo'n greclyd,
A'r du-lwyd greigiau yn ochneidio'n enbyd;
I graffu ar goedwigoedd derw durol,
Yn ymfawrygu yn eu swydd frenhinol;
Ac irlas lwyni yn bargodi'r faenol,
Lle clywir pluog gôr yn pyncio 'u carol.

Cychwynnais ar fy hynt, yn llawn awyddfryd,
Am unwaith weled maesydd cad y cynfyd;
Y lle bu rhyddid gynt yn cael ei throchi
Yng ngwaed y glewion,—hithau'r nef yn brochi
Wrth orfod edrych ar yr afrad diraid,—
Tynerwch wylai uwch eu pen ei henaid;

Ac hefyd hen adfeilion gwyrdd y cestyll;
Er bod y ffodau wedi bwyta tefyll
O'u muriau cedyrn, y mae swyn yn aros
O'u cylch, fel ser yn britho pen y ddunos.
Mae olion hen nawddleoedd dysg a chrefydd
Yn greiriau gwerthfawr yn urddasu'r gwledydd;
Ac er bod difrod yn eu mân friwsioni,
Ar eu carneddau gwena'r fwyn Dirioni,
Sef chwaer Tynerwch, a gofala'n wastad
Am hulio'r adfail gyda blodau teimlad.

Pa wlad mor dlos ag anwyl Walia wiwlan?
Mae'n gain, mae'n glws, a llawn o gofion diddan;
Mae yn ardderchog,—Cymru lawen enwog,
Ei cheinder byw sydd megis gardd rosynog;
Yn llawn o addurniadau pennaf anian,
O'r cribog greigiau i'r gwastadlyfn farian.
Mae lliwiau'r enfys uwch ei phen yn dawnsio,
A'i llawr gwerddonog yn blodeuog befrio;
Ac fel ei gwedd yw'r bobl mewn diniweidrwydd;
Mae'r sypiau ceinion yn eu dysgu'n ddedwydd,—
Yn magu ynddynt yspryd addoliadol,
Ac yn eu tywys i rodfeydd rhinweddol,

Y mae'r delweddau daenwyd hyd ei gwyneb
Yn arlun cywir unwedd o'r tlysineb
Sydd yng ngwyrdd—lannau teg yr ardal lonydd,
Yn byw ar fêl gawodau gwir awenydd;
Cyfetyb anian, fel mewn drych, y gwyneb,
Y sylwedd pur sy'n nhiroedd Anfarwoldeb.

II.
Cychwynnais gyda glannau'r Laslyn loew,
Yr hon amdroella tua'r traeth yn hoew,
Gan rygnu'r bryniau yn agenau dyfnion,
A rhuglo'r meini gyda 'i chrychwyn drochion;
Yr oedd ei berw suawg yn fy nghymell
I droi yn ol, ac aros yn fy nghafell.

Ond o'r ewynog lyn gerllaw, yn ddillyn,
Cyfodai, ac i'm cyfwrdd deuai morwyn;—
Mor laned oedd a gwyryf Glyn Rhianon,
A'i llygaid byw yn toddi rhew fy nghalon.
Dynesu wnaeth; a minnau berlewygais,
Oblegid gwelwn wedd y fun a gerais,

Yn llwyni tawel ac encilion Argoed,
Pan yno gynt y crwydrem yn ysgafndroed;
Cyferchais well. Ymgrymai hithau'n llednais.
Ac wrthi'n bwyllus fy nheimladau draethais;
Crybwyllais hefyd am fy hynt ramantus,
A lled-awgrymais ofn bod yn ffuantus.
Dywedai hithau,—"Na fydd lwfr, f' anwylyd;
A gaf fi ddod i'th ganlyn am ryw ennyd,—
I weled Cymru, gwlad y Mabinogion?
Ei lleiniau oll sy'n llawn o wridog feillion,—
A'r nentydd gloewon lithrant rhwng briallu,
A'r gwenyn mân a'u sugnant yn ddiballu;
Ac hefyd i gael golwg ar ei chyrion,
Ei theg ddyffrynnoedd, a'u dirif gudd encilion?"

"Fy mun enethaidd, angyles deg fy nghalon,
Mae f' enaid wedi dryllio 'i rydlyd gloion;
Mae'n awr yn fyw—mae'n llawn o aspri dwyfol,
Wrth feddwl cael dy gwmni,'r fun wyryfol."

Ac felly cychwynasom tua Nanmor,
Gan syllu ar ddaneddog drem yr oror,
A'r llwyni derw'n gwasgu'r creigiau beunydd;
O'r braidd na thybiem weled yno Dafydd
Yn naddu cywydd llatai dan y cysgod;
A Rhys Eryri draw yn dala pysgod,
A'r brydferth Gwen o ddeutu Dôl y Friog,
Yn cadw'r paun rhag cyfrwys ystryw'r llwynog.

O'n blaen mae'r traeth, ond erbyn hyn mae'n forfa—
Y lle cregina yn feillionog borfa;
A'r morglawdd hir yn dangos yn ardderchog
Eangder yspryd anturiaethus Madog.

Mae'r weilgi ffromwyllt wedi cael ei ffrwyno,
A'r fan lle byddai'r wylan lwyd yn cwyno
Yn cael ei sangu gan y gwartheg blithion,
A threfi'n awr lle chwariai'r nwyfus wendon.

Mae bryniau Meirion yn ymgodi'n dalog,—
Ai neuadd gain yw dyffryn tlws Ffestiniog?
O! dere Gwenddydd, craffa ar ei dlysni!
Y grugog lethrau—gwaelod o wyrddlesni,
Yn dynwaredu tyner liw yr wybren,
A'r coedydd îr—ni welir cafniog geubren.


Ond rhaid in' esgyn bryniau mud Ardudwy,
A syllu ar y ceinion sy'n weladwy,
O'u pennau miniog. Ha! mae'r cefnfor llydan
Yn tawel huno ar ei wely graian;
A chastell Harlech ar y graig yn gwrando
A glyw ef swn ysprydion yn ymruo.

Mae'r dyffryn teg yn llefnyn hir—fain ffrwythlon,
Ei faesydd ydynt fras, a'i goed yn irion;
Ond pennaf urdd y dyffryn yn gyfannedd,
Nid castell Harlech, na'r holl olion rhyfedd,
Na'r dewder digyffelyb yma welwyd
Yn cael ei fagu'n anwyl ar yr aelwyd.
Na; pan y bydd y pethau hyn yn anghof,
Bydd enw'r hybarch Edmund Prys yn wiwgof;
A thra bo byw syberwyd a doethineb,
Cyfoesa Elis Wyn ag Anfarwoldeb.

III.
Mae gweindir uchel, crinlyd, caled, Meirion,
Y grugog ffriddoedd, a'r gweirgloddiau geirwon,
Yn llwm eu gwedd; ond goreu man am enllyn
Yw o Ardudwy i ben pellaf Penllyn.
Mae rhwng y cerrig glytiau pur felusion,
A blodau'r rhosydd sydd fel hadau blithion;
Oblegid goreu man am ddaoedd duon
Yw bryndir Meirion wyllt, a dolydd irdwf Eifion.

"Ust! gwrando Myrddin, clyw! y llais melusber,
Mae'n lleddf oslefol, ac yn gryf a thyner!
Gwel, edrych acw! Onid yw'r morwynion,
A'u golwg ddiwair serchog, yn gariadlon?

"Pa beth yw gwynder can y lili lanwedd
I wddf y feinir brydferth lawn o rinwedd?
Mae fel y llaeth a yf, a'i gruddiau crynion
Fel blodau'r grug, a'i llygaid mwyar duon.

"O! mae gwyleidd-dra—coron harddaf cariad,
Yn aros dan eu dunos wallt yn wastad;
Tra bydd tynerwch a gwarineb calon,
Fe folir tlysni glân rianod Meirion."

Wi! dacw'r Gader, harddaf gastell anian,
Fel caer gadarngref a'i thal—furiau'n gyfan,

Er maint fu'r gwrdd ymhyrddio a'r terfysgu,
Mae megis mun yn tawel ddiboen gysgu;
Ei phen sy'n pwyso ar y tew gymylau,
A thros ei thraed mae'r llwydwyn darth yn llodrau;
Er gwau o'r gwamal luched yn ddiflino,
A'r cras daranau greclyd ddwfn ddyruo,—
Mewn melus hun mae'r Gader, ni fyn ddeffro;
Breuddwydia pan fydd parthau'r nef mewn cyffro.
Ond bu adegau pan oedd hithau'n llamu,
A'r Aran gadarn hefyd yn gwargrymu,—
A'r bryniau mân yn codi ac yn gostwng
Fel tonnau'r eigion pan font yn ymollwng
O dan ffrewyllau erchyll y corwyntoedd,
A Neifion wrol yn bygythio'r nefoedd.

Yr Aran bylgryf saif yn awdurdodol,
Yn frenin Meirion, ar ei sedd urddasol,
A gwrando ddameg, Gwenddydd,—"Mae rhianod
Ddwy yn aros, mewn parhaus forwyndod,—
Mae'r ddwy yn hen, yn gyfoed o ran oedran,
Ac eto ieuanc ydynt a diweirlan;
Nid ydyw amser yn eu llwyd heneiddio,
Bob dydd ymsioncant, fel pe yn herfeiddio
Pwysau trymion einioes, a sibrydant
Eu bod hwy wedi cyrraedd henaint ieuant?"
Mae genedigol fan y glân rianod,
Ar bwys yr Aran, mewn rhyw gornel ddinod;
Brudia, Gwenddydd, enw'r gwyn forwynion,
A dywed pwy yw rhiaint y gwyryfon.

"O dan gragenau crystiog crug yr Aran,
Mae Creiglyn Dyfi yn bwrlymu allan
Ferch y Cawr o'r Gawres; o'r tu arall
Mae Dyfrdwy dêg yn ymsidellu'n ddiball;
Dwy odiaeth lân, a'u glennydd yn friallog,
A'u manro clws yn hoffaf man yr eog."

Ond beth yw grym yr edlym ffawdus ffodau?—
Mae Garwen wedi symud gwely ffrydiau;
A Gwrddrym wedi taflu ban fynyddoedd,
A'u cloi yng ngwaelod eithaf dyfnion lynnoedd.

Ond rhaid in' frysio. Dyma'r serth esgynfa,—
Mae cripio blin cyn eistedd ar ei chopa;
O! uchel drum: arsyllfa ser wyddonol
Y medrus Idris mewn rhyw oes foreuol,

Pan roddid hanfod i gyfrinion crebwyll
Heb eu brithnodi gyda ffol oferbwyll.
Mae'r golygfeydd golygwel amrywiaethog
Oddiar dy war—o'r ceunant dwfn grisialog
I'r llynnoedd duon llonydd sydd yn meirw
O eisiau nerth i redeg dros y geirw
I lawr i'r glyn,—i gwrdd yr Wnion groew
Sy'n ymddolennu megis gwyryf hoew;
Neu ynte'r Maw, sy'n diog lesg ymlusgo,
A'r gwyllt ddelweddau ar ei bron yn dawnsio.

Yn iach i chwi! yr hen neuaddau oesol,
A'r llysoedd gynt oedd heirddion drefa wladol;
Y maent yn awr yn diflin ymgarneddu,
A Difrod weplas ar eu seiliau'n seddu;
Ac Anghof, mab difancoll, gydag Amser,
Yn tynnu trostynt ogau trwch diflander.
Er hyn mae swyn yng nghofion yr hen oesoedd,
Fel arogl lili'r dŵr ar wyneb llynnoedd.

Mae'r tai gwyn-galchog sydd yn hardd addurno,
Y coediog elltydd a'r llanerchau cryno,
A'r mân berllannau ffrwythlon, yn odidog,
Yng nghyda'r gwrychoedd trefnus gwyllt rosynog;
Maent oll yn taflu lledrith amrywiaethog,
Ac arswyn ceinder dros y gantref fryniog.
Glanweithdra, nith duwioldeb, welir yma
Yn dibaid aros yn ei gwisgoedd eira.

Mae trefydd bychain a thref-lannau lawer,
Yn ymorweddian ogylch godre'r Gader;
Ac olion caerau, cestyll, a thomennydd,
Yn llwydion grugiau ar lechweddi'r moelydd.
Pob peth yn syml ddiaddurn a diffwdan,—
Ond rhaid in' frysio, Gwenddydd, er mor ddiddan
Yw syn-fyfyrio ar y gwyllt aruthredd,—
Y creigiau cedyrn yn arddangos teyrnedd;
Y meini geirwon yn hyll-dremu'n guchiog,
A'r nant yn ymladd gyda'r graig gyllellog.
Rhaid gadael bro anwadal fryniau Meirion,
Ac ymrodianna gyda glan yr afon
Dyfi lanwedd, a'i phur risialddwr croew,
I weled llun y bryniau yn ei gloew;
Mae'r Gader fawr a chwmwl ar ei choryn,
A'r gwynt yn udo yng nghilfachau'r clogwyn.


IV.
Fel neidr ddolennog rhwng y gwyrddion ddolydd
Yr ymgordedda'r Ddyfi'n araf lonydd;
A'r dyffryn teg sydd megis gardd amryliw,
A'r glasfrig wigoedd fel pe yn cyfymliw;
A'r gelltydd draw yn crymu uwch y maesydd;
Ac odd eu deutu graddol gwyd y moelydd
Yn rhes addurnol,—hithau morwyn anian,
Sisialog lithra hyd ei gwely graian.

Yn sypyn llwyd, mewn cêl, mae tref Machynlleth,
Yn ddyllhuanfa,—o dan droed difrodaeth;
Senedd—le olaf Cymru pan fu Owen
Yn ceisio ad-genhedlu'n breintiau llawen.
Ni welir ynddi'n awr ddim talp yn tystio
Fod yma gynt adeilad gwerth ymffrostio
Yn ei harddwych, gywrain gynlluniadau,
Oblegid llyncodd amser rhwth ei furiau.

Gerllaw mae Aber-cuawg a Mathafarn,
Ac amryw olion o'r gwrhydri cadarn
A wneid i atal rhaib ac ystryw'r estron—
Rhag gwneyd ein brodir yn wersyllfa lladron,
Ond darfu oes y trin a'r twrf dychrynllyd,
Pan nad oedd diogelwch am y bywyd;
Dim byd ond glewder a dewrineb yspryd,
A'r gwan yn gorfod cuddi ei wynepryd.
Nid oes yn awr ddim grill—ddim tincian arfau,
Ddim bwa dur ac edlym swp o saethau,—
Na meirch gweryrog yn braeneru'r maesydd,
A'r gwaed y yn llifo dros eu gwrdd egwydydd;
Na; bloedd y plant yn chwareu sydd i'w chlywed,
A'r garreg adsain rugog yn diasped,—
Y gwartheg blithion borant y cad—lannau,
A hedd a llonder ddawnsiant ar wynebau
Arwyr enwog, pan yn esmwyth huno,
A'u bri a hwythau wedi llwyr falurio.
Nid oes ym Mawddwy mwy ddim dibris ddiriaid,
Er's oesoedd meithion darfu am y Gwylliaid.

V.}}
Plinlimon wargam! cantref Ceredigion
Sydd o dy gwmpas yn ymdaenu'n dirion,
Ac ac ar ei phwys ymdreigla'r tonnog weilgi,
Gan wgus fygwth, megis brwnt ddywalgi;



NANT Y GLO.
Berw, berw, twrf; a nos heb argoel bore,"


Y mae'r arfordir yna'n ffrwythlon hynod,
A'r bryniau mân, cerigog drwg eu gwedd—nod,
Yn eithaf lle am gerrig calch yn wrtaith;
Ond yma'n uwch ni welir dim ond artaith
Y blwng elfennau yn llurgunio anian,
Yn tynnu'r cnawd, yn ysu nerth y cyfan.
Mae'r cafniog nentydd yn ymweithio'n raddol,
O dan sylfaeni cestiog fryniau oesol,
A'r gwynt a'r gwlaw a'r gwres yn bwyta'r creigiau,—
Y pridd a'u cuddiai unwaith, wnaed yn seigiau;
Fe ddarfu hwnnw; mwy nid oes ymryson
Ond am yr esgyrn sydd yn noeth ysgyrion.

Plinlimon groendew! mae dy ddyfrllyd grombil,
Yn bwrw allan ffrydiau yn ddiymbil;
O'th ochr y tardd yr Hafren hirgam enwog;
Fel rhyw lygiedyn bychan uwch y fawnog
Y gwylaidd gyfyd—bron yn anweledig—
Ac yna cerdda hyd y llyfnion gerrig
Yn araf deg, heb obaith fawr o gynnydd;
Mae fel edefyn gwawn ar lethr y mynydd.
Ond a ymlaen, ymlaen, gan ymddolennu,
A'r mân dorlennydd yn ei chroes ddirdynnu;
Cyrhaedda'n bwyllog y gwastadedd llyfndeg,
A thrwyddo 'mlaen mae'n diball ddiflin redeg;
Ac wrth ymdreiglo'n ddibaid myn briodi
A phob afonig sydd o dani'n codi;
Mae'n ennill nerth. Cyn hir abera beunydd
I'w mynwes eang, liaws o afonydd.

Pan gyll yr Hafren olwg ar Blinlimon,
Mae'n dechreu swnio ar garegryd geirwon;
Fe fyn ei ffordd ysguba, gyrra ymaith
Bob gwrthwynebiad yn ysbeilgar anrhaith;
Ymruthra dros y terfyn i'r bargodion,
Ac a ymlaen i herio gwlad y Saeson,
Nes cyrraedd pen ei thaith, ac yna marw
A rhoi ei chorff yn fwyd i'r tonnau garw.

O'r llethr gerllaw yn ffrydig rhed y Rheidol,
Gan chwyrn sidellu dros y talpiau lluddol;
Tryferwa, gwylltia, rhusia'n brysur, brysur—
Mae megis gwallgof yn gorweithio natur;
Ymgynddeirioga, lluchia'r meini mawrion,
A rhugla'r nentydd; mala yn ysgyrion

Y creigiau celyd,—llifia rych i redeg
Yn nyfnder daear-tylla ar bob adeg
Gyn-seiliau cedyrn,—gwreiddiau cyff y bryniau,
Ac yn eu gwaelod chwyrna mewn rhigolau.
Mae'r trochion crychias yn yr iselderau—
Ym mru'r ddaearen—mewn ymgynghoriadau,
Ac yn awgrymu am ei heon ymgais,—
Mai'r hyn a'i gyr mor ffrom yw nwyd uchelgais,
Sef gwneuthur mwy gwrhydri na'i chwiorydd,
Cyn cyrraedd dinod fedd dan donnau'r Werydd.

Mae boglyn byw, neu berlyn glanbryd croew,
O'r cwrlid glas yn llifo'n afon loew;
O fron y mynydd, di-swn gwyd yn wastad,
Ac araf dreigla heb ystŵr na dwnad;
Ond daw ei hawr. Ymddigia, neidia'n nwydwyllt,
Dyrwyga'r creigiau, a chroch rua'n ffrochwyllt;
Y Gwy yw hon! Dylyma'r dwfn gwympiadau,
Ac ymfawryga yn ei thrystiog gampau;
Ffyrniga wrth y dolydd am ei lluddias,
Ac ymfileinia wrth ymdroi o gwmpas
Y teg fargodion,—dan goedlannau tirfion,
Ac yna dyry gŵyn hiraethus am y wendon.

VI.
Anwastad wyneb—bryn a phant a mynydd,
Ac ambell lannerch fain ar fin afonydd;
Mân nentydd serth, a'u gelltydd oll yn goediog,
A noethlwm rosdir o dan rug a mwsog,
Yw gwedd y wlad a welaf yn ymledu;
Fel pe buasai wedi ei thynghedu
Yn gêl-encilion gwyllon bach ysgafndroed,
Neu gonglog guddfan elfod yn ei mangoed.

Ond Gwenddydd fwyn, pa fan mwy llawn o geinion,
Na'r llecyn bychan acw,—Ciliau Aeron?
Mae'n dlysni byw,—mae'n rhosyn yn yr anial—
Nid oes yn hwn ddim creigiau yn ymgernial;
Ond mwyn dawelwch yn yr irber lwyni,
A phob prydferthion yn addurno'r twyni
A chwardd o'u blaen; mae gwyrdd a gwyn yn britho
Ei wisg urddasol, nes mae yn ymbefrio;
A'r coed blodeuog yn dyhidlo neithdar,
Pan ar eu mân-frig y perora'r adar.


Cymerwn drem o bell ar Benrhyn Dewi,—
Mae "ust" yr awel agos a distewi;
Os felly fydd, daw'r corwynt yn ei gerbyd
I roddi tro er dangos ei wynepryd;
Mae'n awr yn rhwym mewn ogof yn Eryri,—
Y creigiau celyd yw ei gaeth gadwyni;
Ond rhag mai dyma'r ffawd, mae'n rhaid prysuro
Dros fryniog fronnydd. Clyw y môr yn rhuo!
O! Gwenddydd deg! mae 'th olwg fel colomen,
Yn ddôf a gwâr, a'th wallt fel plisg cneuen.
O! Gwenddydd, cana rai o'r hen alawon,
A genit gynt ar lannau lleddf y Llifon.
Mae dolef reibus y cyforiog eigion
Yn treiddio trwy dynerwch penna 'm calon;
Ac edrych ar y creigiau cadr yn grugiau,
Yn gandryll ddarnau o dan draed ei donnau,
A gyffry 'm bryd—a ennyn ddawn addolgar,
Gan dystio'n wastad anwadalwch daear.

"Mae'm llais yng nghlo, a 'nghalon yn ddifywyd,
Wrth bererinio hyd y lleoedd welwyd
Gynt yn dryfrithog o lesg deithwyr truain,
Yn dod i'r eglwys draw, am rad cyfunsain.
Ond erbyn hyn mae'r llwybrau fel y llennyrch,
Yn anial diffaeth, dyrys, ac anhygyrch."

Os darfu oes y diflin bererinio,
Mae'r môr gerllaw â'r creigiau yn ymherio;
Ac os na chaf dy odlau di i'm noddi
Pan mae fy meddwl ynnof yn ymdoddi,
Mi fynnaf eistedd ennyd ar y clogwyn
Uwch ben y don, i edrych arni'n trochwyn
Dyllu ogofeydd i'r môr-forwynion
Amdrwsio'n drefnus eu llywethau hirion.

O fôr eangfaith! mae dy ruad treiddgar,
Yn treiddio trwy ddwfn gelloedd cudd y ddaear.
Rhyw lygad anferth,—dyma ran o'th amrant,
Yn craffu beunydd ar y nef uchel-gant.
Rhyw ardeb mawr, neu rithyn o'r Anfarwol,—
Mae 'th donnau diflin wrthi yn wastadol.
Yr wyt ar brydiau'n hynaws ac yn dawel,
O'r braidd na chili rhag yr ysgafn awel;
Ond nid yn hir y byddi'n hyfwyn lonydd,
Na, cwyd dy donnau'n uwch na phen y mynydd;

Ymsudd dy feirch i eigion y dyfnderoedd,
Gan ddwyn trysorau o dy lythog gelloedd.
Dylynci wledydd i dy wancus grombil;
A gwelwyd bryniau o dy flaen yn ymbil
Am gael estyniad ar eu heinioes hygryn,
A'r moelydd draw yn llesmair oll mewn dychryn;
A thithau'n gwatwar,—a'th wyn donnau'n codi,
Gan ddynwaredu fel y gwnant wastrodi
Ar hyd eu hochrau, pan fydd eu corynod
Yn drigle Gwyn ap Nudd, fel Cantre'r Gwaelod

VII.
Nid ydyw Dyfed yn rhyw dra mynyddig;
Mae glan y môr yn faes-le gwir foneddig,
Yn dwyn cynyrchion goreu amaethyddiaeth,
A'r lleoedd uchel sydd o dan hwsmonaeth;
Coedwigoedd aml a digon o bob ffrwythau,
Yn llwythog lethol nes goblygu'r cangau;
A mân ddyffrynnoedd hirion, culion, ceulog,
A glân afonydd yn ymgreinio'n ddiog
Trwy dir meilliondwf rhwng gwerddonau irdeg,
A'r yd o'u deutu'n donnau yn ymredeg.

Ni flinir llygad llonydd gan aruthredd—
Ni welir cribog drumau yma'n eistedd
Ar fan erchwynion uchel gantau'r nefoedd,
Ac yn glaswenu ar eu llun mewn llynnoedd;
Ond rhyw gyforiog olwg; isel dwyni
Yn methu'n glir ag edrych dros y llwyni;
A'r gwastad lethri coediog, llawn cysgodion,
Yn clust-ymwrando ar y maws awelon
Yn suo-ganu hyd y parlas perlog,
Neu'r pluog gôr yng nghel y goedlan frigog.

Mae'r Tywi deg yn llawn o bysgod gwisgi,
Ac yn y Cothi myn y brithyll besgi;
A'r luniaidd Teifi, afon decaf Dyfed,
Sydd yma'n gwamal rodio, ac mor hyfed
A phan yr ydoedd Pwyll ar hyd ei glennydd,
Neu Dafydd bêr, yn tlysu gwên awenydd.

"Fel awel droellog ar flodeuog ambawr,
Neu ridens eurog yn tryfritho'r laswawr,
Fel seinber glychau, neu delynau'n dathlu,
Neu eos lwydlas yn y berth yn cathlu,

Neu gyngan wyllt oslefol môr-forwynion,
Pan fydd y llanw wedi ffoi o'r feisdon,
A'u gadael hwy i wylo'n drwm eu calon
Am eigion môr, a chwmni eu cariadon,—
Yw ceinion melus, per lateion Dafydd,
Pan ganai 'gywydd gwin' i'r firain Forfudd.
Mae delw landeg y gororau ceinmyg,
I'w gweld yn amlwg ar ei glaer ddychymyg.
Hyweddus fro! a hygain dawel fronnydd,
Poed hedd a llawnder yn blaguro beunydd,—
A rhyddid pur yn taenu ei fendithion
Ar goed, a maes, a mynydd, a phob afon,—
A Dyfed deg yn llawn o feillion rhinwedd,
Briallu moes, a lili'r nef—trugaredd."

Fel yna canai Gwenddydd pan yn crwydro
Yng nghanol olion darniog lleoedd brwydro,
A minnau'n syllu ar y carpiog gestyll,
A'u muriau talgryf wedi hollti'n estyll;
A chofion oesol yn fy mryd yn plethu
Adeilad gwiail am fy nghof i'w lethu.

Pan welais gip aneglur ar Cydweli,
Bwrlymai o fy llygaid ddagrau heli
Wrth feddwl am gieidd-dra felldigedig
Y Norman brwnt at fenyw wrolfrydig.

Wyryfon Cymru! Clywch yr hanes creulon!
Daeth Maurice Londres yma a'i arfogion,
I wneuthur yspail o dreftadaeth lydan,
Fel cidyll coch ar gefn aderyn truan;
Gwrthsafwyd ei honiadau uchelgeisiol,
Gan ferch—a chynnull wnaeth ei llu dewrfrydol;
Ond trechwyd hwy,—a daliwyd hi a'i meibion,—
A'r fam oedd feichiog,— MAM!—mae'n hollti calon
I feddwl munud am yr erchyll ysgelerder,
A'r modd y merchyg trais yng ngherbyd anghyfiawnder;
Torrwyd pen y fam. Ei chorff a fathrwyd,—
A'i meibion glewion, hwythau druain ddarniwyd.

Na wyla, Gwenddydd, dere i'r brysglwyni,
Rhown dro, cyn gorffwys, eto hyd y twyni;
I oror fryniog Brychan mae fy nhyniad,
Ond gwelaf yn dy lygaid ddagrau cariad
At hen Esyllwg, gwlad y dewr a'r doethion,—
Bu'n ardd cyn hyn, a'i meusydd oll yn feillion;

Ond er mor ddudew ydyw'r llenni du-fwg,
Esgynnwn lethri bryniau hen Forgannwg.

VIII.
Berw, berw, twrf! a nos heb argoel bore,
Yr haul ynghudd, a'r gwyllon yn ymchwareu,
A'r loergan wylaidd ddiwair ei golygon,
Yn methu gweld "Morgannwg muriau gwynion."
Y mwg yn dorchau troellog yn ymddyrchu,
A gwreichion chwim ffwrneisiau yn ymgyrchu
Mewn blys goddeithio'n ffaglog aeliau'r nefoedd—
Maent yn dygynull gan ymuno'n llengoedd.

Mae tan ein traed yn llawn o weithwyr diwyd,
Yn eigion daear, heb nac ofn nac arswyd,
Yn dyfal gloddio yn ei dwfn goluddion,—
Yn sugno 'i gwaed o'i phur wythienau'n hyfion.
Mae'r anweledig lwybrau tan-ddaearol,
Yn dangos antur dyfais yn effeithiol,
Ac yn egluro rhannau mân o'r gallu
Sydd yn dynodi ol y nerth diballu;
Mae'r clogwyn llwyd yn gyfrol wedi'i rhwymo,
A'r dail i gyd sydd wedi eu haddurno;
Agorer hwn—ceir ynddo wir gywreindeb,
A gwersi eglur, trylawn o ddoethineb.

Arglwyddes gwledydd ydoedd gwlad Esyllwg,
Mae felly'n para, er pob nwydus gilwg;
O'r oesoedd cyntaf,—draw, pan ydoedd henoed
Yn laslanc heinif, nwyfus, llon, ysgafndroed,
Fe safai hon ymlaen y gâd urddasol,
A saif yn awr ar uchaf ris yr ysgol.
Er brad a gormes a gorthrymder creulon,
Ac ysgelerder gwaedlyd treiswyr trawsion,
Mae wedi byw a chadw ei gwladoldeb,
A phery tra parhao Anfarwoldeb.
Fel afon yn ddihysbydd ddiball dreiglo,
Er cael ei maeddu, buan myn ymglirio;
Cyffelyb hefyd, ffrwd y traddodiadau,
Drosglwyddwyd yma drwy'r holl newidiadau;
Dysgeidiaeth gywrain, foesol, y derwyddon
A geir yn awr yn fyw ar fedd y Gwyddon;
A chofion am helyntion ein hynafiaid
Yn cadw draw rymusder y Rhufeiniaid,—

A mwy na hyn, ceir yn y llawnbwyll drioedd
A gadwyd yma'n bur, er rhaib yr oesoedd,
Gofiannau cywir am y mwyn genhadon
A gyhoeddasant "ryddid pur i'r caethion;"
Sef "Mab y Forwyn,"— "Duw yng nghnawd" yn Geidwad,
Y GAIR tragwyddol, a'i anfeidrol gariad;
A'r seintiau duwiol fuant wedyn yma
Yn adrodd hanes aberth bryn Calfaria.

Llenoriaeth Cymru noddid yn Esyllwg,
A'r Awen nythai gynt yng nghoed Morgannwg;
Mae yno eto ar rai prydiau'n chware
Yng ngoleu clir y laswen wybren fore;
Ond goror arall, hen Eryri anwyl,
Er's oesoedd lawer, yw ei chadarn breswyl.

IX.
Mae'r haul melynwedd yn ymsuddo'n raddol
I'w wely llaith,—y dyfnfor gorllewinol;
A'r rhudd-goch wybren uwch ei ben yn brochi,
Wrth weld y Wawr eiriandeg yn ymdrochi,
Cyn mynd ar ol ei phriod i'w gorffwysfa;—
A'r Nos a'i phlant yn sefyll ar y wylfa
Gerllaw eu hogof ym mynyddau'r dwyrain,
A'r sêr chwerthinllyd gyda'r lloer yn llemain;
Afagddu gethin, hynaf fab y ddunos,
Sydd draw yn llechu dan y graig gyfagos;
Mae'r Hwyr a'r Ucher eisoes yn rhodianna,
A'r Llwyd-wyll araf wrthi yn chwilenna,
Ac ebrwydd daw y Nos mewn mantell loewddu,
A siffrwd bydd ei dillad wrth arweddu
Urddasoldeb yn ei neuadd. Gwasga
Yn ei breichiau esmwyth Gwsg; a llusga
Lu o ddrychiolaethau a breuddwydion;
A'i morwyn, Hunllef, a'i gwas Angeu digllon,
A weiniant iddi yn ei thaith ddiddarfod;
A'u tâl fydd popeth a ddaw i'w cyfarfod.

Bu farw'r dydd, ei fedd fydd tonnau gerwin
Y Gwerydd fôr dan gaerau y gorllewin.

Χ.
O wlad Esyllwg rhaid i'n brysur hwylio
Drwy gantref Brychan bantiog i archwilio
Ceinion anian yno geir yn filoedd,
Yn huno'n drwm ar fronnau y mynyddoedd.



MWYNDER POWYS, Y TRALLWM.
"Y wlad a alwodd Llywarch Hen—Paradwys."


Mae'r Bannau serth yn gwgu ar y Fforest,
A'r Epynt draw yn bygwth ymladd gornest;
Cydrhwng eu cuwch-drem, yn y dwfn waelodion
Ar hyd y cleidir, araf lithra'r afon,—
Yr afon Wysg, ac arni ofn ystwyrian,
Rhag ennyn cyffro blwng yn Llyn Safaddan.

Fel pawb a phob peth yn y byd helbulus,—
Mae yma ambell ddyffryn ffrwythlon destlus,
A llawer byd o hen fawnogydd gwrthun,
Siglennydd dyfrllyd, a phob rhyw ysgymun
Leoedd anolygus,—y diffrwythdir grugog
Yn ysgyrnygu ar y llawr meillionog;
Ond draw ar bwys y gwastad-deg fargodion
Mae coedydd ir a dolydd eang gwyrddion;
Tiriondeb anian yn ei dillad gore
Yn dod i'r maesydd i ofwyo'r bore;
A llawnder bodlon gyda'r hwyr yn tawel
Rydd ymgomio hefo'r nwyfus awel.
Ond draw mi welwn gwmwl du yn crogi,
A mellt digllondeb llidiog yn fforchogi
O gylch ei ben, ac yna fel glafoerion
Yn disgyn tua glan yr afon Irfon;
A'r taran folltau'n crensian yn y creigiau,
A'r glyn yn cael ei fathru gan y dreigiau.
Ac yn y cwmwl gwelwn arwr enwog
Mewn gwenllaes wisg, a'i wallt yn ddu-gudynog;
Ei wyneb yn disgleirio fel yr huan,
A'i lygad treiddgar megis gloew arian;
O dan ei draed gorweddai draig yn llonydd,
Ac wrth ei gefn syth—safai llewod beunydd;
Gerllaw, ar lawr, 'r oedd eurog dannog delyn,
Ac yn ei law, ei gledd â gwaed ei elyn
Arno'n amlwg redeg, fel defnynnau;—
A choron lawryf ogylch ei arleisiau.
Dyruai Dial yng nghelfannau'r mynydd,
A Phrudd-der wylai yn y lleddf afonydd;
Tynerwch addfwyn droai draw ei gwyneb,
Rhag iddi edrych ar yr erch drychineb.
A Gwenddydd lanfryd a lesmeiriodd, druan,
Wrth wrando ar y dymestl yn gorhoian;—
Dychmygwn glywed dolef yn yr orallt,—
"Gwae, gwae ergydlym fo i fradwyr Buallt;"
Dychrynnodd hyn fy nghalon. Ond yn sydyn
Daeth i fy nghof alaethus gwymp Llywelyn.


XI.
Nid oes yng ngwlad Elystan ddim nodedig,—
Mae'n wir fod Gwy yn rhuo'n uchelfrydig,
Ac ambell ffrydig swnllyd draw ac yma,
A brwynog weunydd yn ddi fai bugeilfa;
Ond nid oes yma ddim a gyffry'n syndod
O'r Fforest ddigoed, hyd Ffynhonnau'r Drindod;
Rhyw noethlwm fryniau cawnllyd, a thomennau
Yn grugiau hyllion, o dan bwys gofidiau;
Ac er bod gelltydd coediog Aberedw
Yn dlws, mae yno felldith dan y bedw;—
Tra saif gwladoldeb Cymru wen i fynu,
Bydd cof am frad y Coch, fel gwyddan bygddu,
Uwch ben y fro, a'r oesoedd hir yn synnu
Wrth weld ei chyflwr,—hithau fel yn dyddfu,
Yn gorfod byw, heb urdd na nod; yn gwegian
Dan bwysau llethol gwawdus elfod anian.

Yn rhimyn drylliog gwelir olion Offa;
Ond ysodd amser ef—nid gwerth ei goffa
Ydyw mwyach. Darfu ei wasanaeth,
Nid oes mewn llawer lle ond adgof o'i fodolaeth.

Wrth gyffwrdd â'r cyffiniau, neu'r bargodion,—
Eu dolydd deiliog yn crechwenu'n dirion,
Eu maesydd llwythog a'u porfeldir biithog,
Eu gerddi irber a'u perllannau gwridog,
A'u gwrychoedd cryno'n plygu dan afalau,
A ffrwythydd eraill yn gordoi canghennau,
Coedydd llathraidd y tew-lwyni llonydd,
A phrysgoed iraidd glannau'r mân afonydd;—
Gwastadedd eang-hendref amaethyddiaeth,
Yw brodir Pengwern, hynod ei darbodaeth;
A chofion, sypiau, megis mês ei derw,
Yn dwyn i'n meddwl ddyddiau croesion chwerw—
Yr hen flynyddoedd pan fu'r dewr Garadog
Yng-nghad-yng-nghilfin gyda'r Eryr llidiog
Sydd yn ymrithio gan ein hudo ennyd
I roddi tro trwy ei llanerchau hyfryd.
Pa le mae'r Digoll? Gwelaf Gaer Caradog,
A'r llengoedd di-rif,—y Rhufeiniaid cadog,
Mewn dur-lurigau, a haiarngaen dewglyd,
I gadw draw arfogion eon creulyd;
A'r Gordofigion a'r Esyllwyr glewion
Yn dyfal barotoi am eu gelynion.


Bu'r wlad yn crynnu dan eu pwysau enbyd,
A dewrder yno'n marchog yn ddychrynllyd,
Gan fwydo'r llawr â gwaed calonnau miloedd,
Nes cochi llygad gloewon yr aberoedd.

Y mae teimladau amwyth wrth Amwythig,
Wrth gofio am y weithred dra adwythig,
A wnaed ar Dafydd, brawd Llywelyn Olaf,
Pan ddarniwyd ef gan haid o'r âl greulonaf
A welodd byd, er pan ddaeth o ddiddymdra;
Mae'r byd yn grwn yn dyst o'u holl erchylldra.

Ond, ffarwel, frodir hyfryd—tud Cynddylan,
Er bod tirioni ar bob perth a gwiglan,
Gwell gennyf filwaith rodio bryniau Powys,
Y wlad a alwodd Llywarch Hen—Paradwys!
O! fryniog fronnydd, "Powys hen bau awen,"
Mae 'th las fynyddoedd oll a golwg lawen;
A rhyngddynt lynnoedd a dyffrynnoedd tirion,
Ac wrth eu godreu lwyni tawel tirfion.

O lannau'r Hafren hyd y Ddyfi landeg,
Cawn fryniau, pantiau, cymoedd yn ymredeg,
Ar draws, ar hyd—croes-ym-groes ymgordeddant,
Ac ambell dro, mewn ciliau rhith ymguddiant.
Yn borfa fras i'r cnuog ddiadelloedd
Ceir bryniau Maldwyn; ac ar bwys ei glynnoedd
Mae '1 tyndir teg, a'r caeau jd yn codi,
Gan ymlid ymaith wgus wedd tylodi.
Mae dyffryn Meifod yn arddangos ceinder
A'r Fyrnwy ddi-swn rhwng gwerddonau llawnder,
Yn araf ddirwyn dan y llwyni gwiail,
Gan drydar cwyn am serchog feirdd Marchwiail;
A'r mynydd draw o dan ei wisg gymylog
Yn gwylio olion breiniog bro Cyfeiliog;
Ond digon ar y cyrion,—dacw'r Berwyn
Yn gwisgo mantell dew o nifwl llwydwyn,
A'r glyn fel môr cyforiawg yn ymdonni,
A'r Ceiriog yn yr encudd yn ymlonni,
Wrth weld y grug a'r deri yn ymddiddan
Am fywyd doniol Eos Ceiriog ddiddan.

XII.
Eisteddaf ennyd ar ben Cader Ferwyn,
I edrych ar y Ddyfrdwy hen yn cychwyn

O fron yr Aran, ac yn sibrwd beunydd
Am dawel geinion anian yn y mynydd.

Mae Llyn y Bala, megis llen dryloew,
A'r afon drwyddo fel edefyn croew;
Ni chydgymysga'r afon hefo'r morlyn,
Ond llusg ymlaen yn ddistaw ddifwlch rimyn.
Mae'r llyn fel drych disgleiriol ad-belydrol,
A'r wlad fel pe o dan ei donnau hydrol;
Coedwigoedd glasfrig, prysgoed deiliog llonydd,
Y llethri serth yn frithion o afonydd;
Palasau heirdd a theg, amaethdai luoedd,
O chwith, yn aros dan ei loewon ddyfroedd.
Ai perlyn ydyw Tegid? Ai Ceridwen
A'i berwodd ef yng nghrochan dysg Hyfrydwen?
Ai defnyn yw o'r hylif gafas Gwion,
Pan ddaeth i'w ran wybodaeth o'r cyfrinion?
Ai deigryn angel ydyw? Sylla, Gwenddydd,
Y ddistaw lanfun, beth sydd ar ei lennydd?
Ai tylwyth teg yn cadw noswaith lawen?
Ai elfod gwawl o dan arweiniad Mwynwen
Yn hoenus ddawnsio'n nwyfus eu corelw,
A'r llyn yn gwenu ar eu lluniaidd ddelw?
O dlos olygfa! neuadd decaf anian!
Nid rhyfedd bod Tirioni yn cwhwfan
Ar edyn sidan yr awelon tyner,
Goruwch y lle, yng nghwmni hudol Ceinder.

O'r llyn yn llonydd, daw y Ddyfrdwy lawen
Gan ddiog redeg tua pharthau Corwen;
Darwena'n swynol ar y doldir tonnog,
Y llwyni hudd a'r bronnydd mân twmpathog;
Ond pan ddynesa llys yr arwr enwog,
Dechreua rydwst fel pe bae yn ofnog,
A brysia heibio gan sidellu'n hyfrwyn,
Alargan Owen mewn goslefol arswyn.
Trwy'r pantle coediog, rhwng y bryniau cysglyd,
A dwyfol wenau ar ei gwyneb glanbryd;
Dan lwyni bedw, encil hoff cariadon,
Ymlwybra'n dawel tua gwlad y wendon.

"Mae 'mron yn dân wrth syllu ar y Ddyfrdwy,
Yn craffu'n syn ar Gastell teg Myfanwy;
O'r braidd na welwn Hywel a'i golomen,
Dan fedwen fanwellt a'i arweddiad cymen
Yn ysgwyd cangau'r goeden i'w gusanu,—
A'r fronfraith lawen uwch ei ben yn canu;

A'r lednais wyryf yn y tŵr gyferbyn
Yn dwys hiraethu am yr awr i'w dderbyn
Dan gel y nos, i'w chafell gain i siarad
Am siriol serch a phur brydferthion cariad;—
Mae llais melusber y rienaidd forwyn
Yn diaspedain drwy encilion Berwyn,—
'Drwy gydol dydd am Hywel y myfyriaf
Yn eigion nos am dano ef breuddwydiaf.'

"Mae'r suol awel heddyw'n ddiflin, ddibaid,
Fel pan y bu yn ocheneidio 'i henaid,
Yn chware'n nwyfus gyda'r man flodionos,
Yn sychu'r gwlith o lygaid brith yr effros;
A'r gloyn byw yn sugno mêl y gruglwyn.
O! Myrddin hygar! dyma 'wallt y forwyn,'—
Mae'n awr yn tyfu ar hyd glan y Ddyfrdwy
Yn gof o lendid pur y fwyn Fyfanwy."

Mae'r olion mynych yn tryfritho'r dyffryn,
O'r oesoedd blinion, oesoedd yr arofyn,
Ond olion ydynt; darfu oes yr ymladd,
Mae'r byd yn araf osod pawb yn gydradd;
Mae'r gyllell hir, fradwrus, wedi rhydu,
A'r hen elyniaeth gadd ei diofrydu
I gelloedd pygddu anghof, gan warineb,
A'i rwymo'n gadarn yng nghadwyni undeb.
Mae'r ddraig a'r llew yn dangos yn oradain
I'r byd cwmpasgrwn nerth Unbennaeth Prydain.

XIII.
Er nad yw'r awen fwyn yn hoffi clywed
Gwichiadau creglais fel pe yn dynwared
Oernadau dieflig tir anobaith gwelw,
A rhosydd distryw,—lle rhoes Coll ei ddelw;
A'r lle mae Anras yn ysglifio'n flysig,
Fudrogod drewllyd o'r llysfanedd ysig;
Nid da gan awen swn y fath oer-ingoedd—
Ei thynfa hi sy'n wastad tua'r nefoedd.
Ond ust! mae chwiban! a phwffiadau hefyd!
Pa beth, ai hwn yw'r cyflym ager-gerbyd?
Wel! mae dy waith yn well na 'th swn a'th olwg,
Neu ynte gwae i Gymru weld dy gilwg;
Mae Dyffryn Maelor druan wedi dychryn,
A'r Alun hen yn synnu gan ddaeargryn;

Y niwlog fwg yn othro dros dlysineb,
Ac anian hardd a chreithiau ar ei gwyneb.
Mae'r Ddyfrdwy'n cilio draw i Nant y Bela,
Rhag bod yn llygad dyst o'r hell olygfa.
Masnach! masnach! arian, bydol eilun—dduwiau,
A meibion llafur yn yr iselderau
Yn tynnu aur o galon y ddaearen,
Gan dyllu'r creigiau megis cafniog geubren.

Er mwyn cael golwg deg ar wyneb fryniog
Y wlad sydd weithian oll o dani'n dyllog,
Eisteddaf awr ar goryn Moel y Fama,
I lygad-rythu ar yr oror yma
Sydd yn ymestyn tua'r culfor basdon
Lle cysga'r Ddyfrdwy hun yng nghryd y wendon.

Ond tal ffumerau welir yma'n ddiball;
Pob bryn a phant yn lleoedd antur gibddall;
A theios fyrdd yn sypiau cynglŷn beunydd,
A thraw ac yma, amryw boblog drefydd,
A'u masnach yn flodeuog a chynyddlawn,
Ac yn argoeli tymer dawel foddlawn;
Ymhell y bo grwgnachrwydd crintach dynion,
Ac anfoddlondeb, hen uffernol ffynnon.
Mae gwlad anfoddog wedi ei melldithio,—
Rhyw fwystfil rheibus ydyw yn anrheithio
Tawelwch teyrnas,—gelyn rhinwedd moesol,
Yn llwyr ddinistrio llwydd a ffyniant gwladol.

Hen lennyrch llawn o gofion gwaedlyd frwydrau,
Rhwng pleidiau dewrion yn y cyn-amserau;
Mae hedd a llonder ar adenydd arian
Yn gwibio'n nwyfus amgylch Maen Achwynfan,
A'r mwyn aradrwr wrth fraenaru'r meusydd,
Yn pyncio canu ar eu hargel lonydd.

XIV.
Mae'r copog fryniau croendeg yn ymgodi,
A llwyni gwyrddion yn eu gwâr gysgodi;
Ac ar gyfencyd ambell fynydd pennoeth,
Yn swyddol warchod, fel arlwyddi cyfoeth;
A'r dyffryn eang, ffrwythlon yn ymledu;
A phob dillynion iddo yn teyrngedu;
Yr afon sydd yn siarad ar y graian,
A'r chwaon gweog chwarient ar y marian;

Y dolydd llydain llawndwf sydd urddasol,
A'r maesydd mawrion o dan yd addfedol
Yn siglo'n hygryn,—yntau'r enwd toreithiog
Yn chwerthin ar yr olwg deg, gyforiog;—
Melynwawr wenith, brigwyn haidd ddigonedd,
A phendrwm geirch yn gogwydd i'w led-orwedd;
Blagurog lysiau yn amdoi y gwernydd,
A gwyllt flodionos yn gorchuddio beunydd
Y gwyll gysgodion, yn y llwyni llawen
Lle cysga'r crinllys a'r fendigaid dderwen;
A'r gwyddfid per ymgreinia uwch y parlas
Lle trig Blodeuwedd yn ei ddillyn balas.
Y gwartheg draw a borant yn hyweddus,
A'r meirch disgleiniol acw sydd chwareus;
Y defaid dofion gan y gwellt a guddir,
A'r wyn aflonydd yma ni chanfyddir;
Y coed pigyrnol, fel colofnau glanwedd,
A phrysgyll gyda'r afon yn gyfrodedd,
A pherthi brithion, llannau'r firain fronfraith,
A'r mangoed hudd i'r fwyalch ddweyd ei haraith;
Blodeuog ddaear laswerdd yn blaendarddu,
Y coed, y maes, a'r mynydd yn ei harddu;
A'r afon ddifraw rhwng ceulennydd gleision
Yn methu edrych ar y dirif geinion—
Yn clust-ymwrando ar y suol wenyn
Yn sugno mêl o enaid byw y blodyn.
Ddyffrynnoedd byd! Er cymaint eich haddurniant,
Eich godidogrwydd, a'ch blodeuog falant,
Mae Dyffryn Clwyd yn llawnach o dlysineb
Yn meddu mwy rhagorion ar ei wyneb
Na'r holl a roddwyd i chwi o dirioni;
Pa ryfedd i Hyfrydwch ei goroni?
Mae megis gardd ddillyn-ber, llawn o geinion—
Ei ffrwythau'n felus, a'i rosynau perion,
Yn taenu per-aroglau dros ei wyneb,
A'r awel feichiog esgor ar diriondeb;
Y mêl-gawodau hidlir ar y twyni,
A'r neithdar iraidd wlitha gel ei lwyni,
Ac Anian beunydd hefo 'i glân forwynion
A rodia hyd y ddolgoed a'i gysgodion;
Lletyodd ceinder yma lawer noson,
A chysgai'n dawel ar yr esmwyth feillion.
Tirionaf ddyffryn, brasaf—harddaf hefyd
A. wel yr haul, o fryniau claer dwyreinfyd,
I ruddgoch byrth yr hen orllewin dirion,—
O'r crasboeth gylch, i'r tiriogaethau oerion



MACHYNLLETH.
"Yn sypyn llwyd, mewn cel, mae tref Machynlleth."

Lle'r erys eira oesol! Ddyffryn hygain,
Coron Cymru wen, a gwir "Baradwys Prydain!"

Pan welaf Iâl yn troi ei wedd rhag edrych
Ar degwch bro yn dawnsio yna'n hoenwych,
Mae arnaf flys cael tro am unwaith eto,—
O tyred, Gwenddydd, cyn i'r dydd noswylio,
I'r dyffryn hardd i wrando cân y forwyn
Wrth hel y gwartheg o dan hudd y coedlwyn;
Neu ynte bynciau nwyfus plant chwareugar,
Nes ennyn yn ein calon ddawn addolgar;
Neu swn trydanllyd y tuchanllyd eigion
Wrth fethu taflyd ei wanegau gwynion.

"Wel! cychwyn, Myrddin, minnau a'th ddilynaf,
Ac ar dy ddesgrifiadau mud-wrandawaf;
Ond cofia nodi olion yr hen oesoedd,
Sydd wedi cael eu mathru gan flynyddoedd
Trwch anedwydd,—dyddiau'r blin drallodion,
Cyffelyb i waith Gwallawg yng Nghelyddon.
Mae'r dydd peneurog a'r ddihalog wawrddydd,
Yn prysur bwyso ar ei ddyfrllyd gaerydd;
A ninnau weithian gerddwn faes cyflafan—
Y gwastad hwn yw'r gwaedlyd Forfa Rhuddlan.
Eisteddwn, Myrddin, traetha dithau'r cofion,—
Mae'r awel leddf yn goglais fy myfyrion!
Ac edrych draw, mae'r Lloer wen-felen, gorniog,
Yn tywallt gwawl ar ben y mynydd cribog,
A'r las-wen wybren fel briallog farian,
A'r llawr allwestog oll yn berlog arian.
Mae'r hen ddylluan draw yn adrodd oedran
Yr oll a wel, cyn dod uwch ben i hwtian;
Desgrifia'n awr olygfa y gyflafan,
Pan welid llif o waed dros Forfa Rhuddlan."

Dewrineb Cymru welwyd ar y morfa,
Yn ymfawrygu'n wrol, er bod tyrfa
Y gelyn gwgus draw yn aniferog,
Fel dail y goedlan ar foreuddydd hafog; Fe safai'r
Cymry megis llewod llidiog,
A'u blaenor eon heb un meddwl bradog,
A safai yn y canol. Gwaeddodd allan,
"Mae'r Ddraig yn chwifio!
Dyma Forfa Rhuddlan
Mae gwragedd hoff a'n hanwyl blant yn lluoedd,
Yn erfyn drosom am weniadau'r nefoedd;

Mae'r brodyr hwythau yn y mynachlogydd
Yn canu ymbiliadau drosom beunydd;
Mae'r beirdd awenber yma'n beiddio'r gelyn,
Mae'r Nef ei hun yn gwrando ar y delyn;
Er mwyn ein gwlad, er mwyn ein dewrion dadau,
Er mwyn ein hanwyl rai, er mwyn ein breintiau,
Gadewch i'r Haul pen—felyn, unwaith eto,
Roi gwên fuddugol ar wroldeb Cymro!
Edrychwch! Gwelwch gestyll bryniog Arfon!
Mae acw'n gwylio filoedd o ysbrydion;
Maent oll yn syllu ar eu draig gynhennid,—
Fy milwyr! Angau, neu fuddugol ryddid!"

Fel yna yr areithiodd y tywysog,
A chyda hyn dechreuwyd yn anelog;
Cawodydd saethau dincient ar dariannau,
Fel cesair celyd glywir ar ein gwydrau;
Yr ymladd glew,— Dewrineb yn ymwylltio,
A'r cleddyf meddw yn y gwaed yn crestio;
Afonydd cochion llifog, a chorbyllau,
A'r cyrff a'r clwyfog yng ngafaelion Angau;
Llid yn fflachio,—Dial gynddeiriogai,
A Difrod dros y morfa mawr farchogai;
Ond cwympodd blaenor Cymru! O!'r gyflafan
A welwyd wedyn ar hen Forfa Rhuddlan!

Mae'r llwyni brwynog welir draw ac yma
Yn cuddio gwyneb gynt oedd fel yr eira
O ran ei wynder,—cyn y flin gyflafan,
A'r waedlyd ffrwgwd a ferwinodd anian.
Yng nghwr y maes, er gwaethaf llid y gelyn,
Ym mrig yr hwyr chwareuai'r bardd ei delyn
Ac ar ei thannau seiniai leddf erddigan,
Yr alaw drom alaethus "Morfa Rhuddlan. "

XV.
Y bore'n glirdeg, glesni'r nef yn dawel,
Distawrwydd yn cofleidio'r ledoer awel;
Y tarth orweddai'n llonydd ar y gwastad,
Y môr o danom yn ei loewaf wisgiad;
Llongau llwythog heb ddim hwyliau crothog,
Yn dwys hiraethu am drochionfor tonnog;
Y morlan hirgain, a mân gregin filoedd,
Yn trydar wrth y don am y dyfnderoedd,

Y Gogarth greigiog yn cysgodi'r morfa,
Lle bu'r Fâd Felen yn ei hymgynghorfa;
A Maelgwn ofnog yn ei adfyd rhyfedd,
Yn ceisio noddfa rhagddi'n nhy Tangnefedd,
Ceubantiau lu, a chymoedd bychain tlysion,
A moelydd aml, ac yn eu mwyn encilion
Landrefi glanwaith a thrigolion llawen,
Yn gwybod beth yw byw heb gilwg cynnen.

Hiraethog! Garw ddiffrwyth ac eithinog
Yw gwedd dy fryndir. Hefyd llawer mawnog
A welir ar dy uchel fannau grugog,—
Mae tyfiant yma'n mynnu bod yn ddiog.
Ond rhwng yr aelau gwgus magwyd llawer
Sydd wedi ennill sylw dibris Amser;
Maent fel y gwenyn—casglant fêl gwybodaeth
Oddiar y grug sy'n hulio'r bryndir diffaith.
A thra bo Conwy lawen drwy y dyffryn
Yn cael ei chludo gan y Llugwy sydyn;
Fe gofir am y doethion yn anwesog
A fagwyd yng nghilfachau cel Hiraethog.

XVI.
O ddyffryn hardd, ai gardd y gwyllt fynyddoedd
Ydwyt? Ceindeg eiliw'r laswerdd nefoedd,
Dy âr yn llawn o nerthol rym i'r ydau,
A'th faesydd yn griddfanu dan gynydau;
Blagurdardd weunydd dan y deiliog gysgod,
A'r ffrydiau'n heigio pob rhyw chwaethus bysgod;
Blodeuog glwydi i'r perorion pluog,
Meillionog leiniau ger y llwyn perllennog,
A gerddi llawnion wrth y llannau llonydd,
Briallog nentydd dan y creigiog fynydd,—
Nid rhyfedd gweled Nefydd Hardd mor hardded,
Cadd fan i fyw heb ynddi riw na gwared
Nad ydyw swyn a thlysni yn addurno
Y rhannau hynny gawsent gynt eu murnio
Gan flin elfodau; ac yn gwahodd Ceinder
I dynnu drostynt fantell werdd Dwyfolder.

Pruddglwyfus Yw yng nghesail gled y bryniau,
Yn syn-fyfyrio uwch y distaw feddau;
Anfarwol Yw, yn gwylio llwch marwoldeb,
Yn Yw o hyd fel llwyni gwyrdd bytholdeb;—
A'r awen dyner rhwng y cain ganghennydd,
Yn cadw beddrod Ieuan Glan Geirionnydd.


XVII.
Y ddistaw Wenddydd, wele'r nos yn nesu,
A'm henaid drwyddo'n graddol ymgynhesu;
Cawn bellach dynnu tua'r fro hyfrydol,
Lle cysga Mawredd gyda 'i frawd Aruthrol,—
Y chwyrnant weithiau nes bydd y mynyddoedd
Yn crynnu megis coedydd dan gorwyntoedd;
Y tynnant dân o grombil cwmwl bolwyn,
A gwneyd i'r daran eistedd ar y clogwyn;
A'r gwichlyd wynt yn chwiban ar y ffodau
Ddod allan ato i gilfachau'r creigiau;
A'r elfod druain yn ymguddio'n lluoedd,
O dan lifogydd, yng ngwaelodion llynnoedd,
Neu ynte lonydd a distawrwydd siriol,
Yn ymgofleidio gyda'r creigiau oesol.

Dilynaf di, O! Myrddin, hyd y diwedd,
I glywed am ragorion llawn dillynwedd,
Sydd megis enfys, fyth o gylch Eryri;
Er nad oes mwyach ar ei serthog lethri
Ddim coedwig anferth; eto erys purdeb
Yn afon lifol lân o ffynnon Anfarwoldeb."

XVIII.
Mae'r rhaiadr bloeddfawr yn dyrygnu'r creigle,
A'i grychwyn drochion yn gorchuddio trigle
Didryf gorddwfn y gwyddanod croenlan
Fydd wedi blino ar y ddistaw goedlan,
Ac yn ymflysio clywed crochddwr crychias
Yn ffrochwyllt rwygo'r creigiau celyd dulas;
Ewynbost claerwyn! neidia i'r dyfnderau,
A rhua megis llew yng nghudd gronellau
Rhugog greiglyn; bydd toc ei donnog ddistyrch,
Yn lluwch cawodog yn cymylu'r entyrch;
Gwreichiona'n lafoer ar hyd gên y clogwyn,
Dygrecia'n hydrwyllt yn ei wallgof orllwyn;
Ymluchia draw ei ddwndwr a gorferwa,
Yn wgus agwyr yr ymorfoledda;
A'i wyneb garw fel y môr yn tonni,
Ac yn argoeli digllon ymgreuloni.
O dalp i dalp dylama—mala ewyn,
Dolefa, gwylltia wrth ddyrwygo'r clogwyn;
Mae'r orgri leddf yn adsain yn y mynydd,
A'r swn hir—seiniol yn rhyw ddaroganydd

Fod anian a'r ellyllon yn ymfrwydro,
A'r awel lwythog wedi blino'n crwydro,—
Yn sefyll uwch eu câd-gyrch i ohebu
Y modd y mae'r galluoedd yn gwynebu
Y flwng gyflafan, ac yn ymheddychu,
A'r irlas goed o'u cylch yn llawenychu.

Raianllawr nant, na fydd mor hoff o sennu,
Dos rhwng y bryniau heb y brwnt gynhennu;
Cei cyn bo hir ddigonedd o derfysgu,
Pan fyddi, ffrydlif fach, â'r eigion yn cymysgu.

XIX.
Esgynnaf serth ar-drumog dŵr Eryri,
Yr uchaf fan i syllu ar uchelfri
Ac anfeidroldeb, o dan ddwylaw uthredd,
Yn mesur hyd a lled castellau Mawredd.
Esgynnwn, Gwenddydd, ceir o ben y Wyddfa
Olygfa ar Eryri a'i gorseddfa,
Lle yr eistedd Gwrnerth i lywyddu'r cyfan,—
Efe yw'r hynaf o epiledd Anian.
Mae'n awr yn nosi, clyw y geifr yn brefu,
A'r wynos draw am laeth eu mam yn crefu;
Y grawe a glywaist ydoedd creglais cigfran,
A'r swn uwchben yw trydar y gornchwiglan;
Mae aeliau'r nefoedd yn gorchuddio 'i llygaid,
Mae cwyn y gwynt yn awgrym fod ryw ddiriaid
Yn magu cynnwrf! Ust! mae swn! Ai'r Gluder
Sydd ar ei gliniau'n ceisio dweyd ei phader?
Pa le mae'r ser? ysmotiau aur y nefoedd—
Pa beth sydd draw? ai cerbyd y corwyntoedd
Yn dwyn Afagddu allan i ladrata?
Ai ynte'r elfod yn mynd i gardota?
Na, mynd y maent i wrando'r gwynt yn udo
Mewn ogof gadarn lle cadd ei gadwyno;
Mae'n ysgwyd ochrau ei garchardy creigiog,
Ac yn melltennu mae ei lygaid dreigiog;
Mae'n cnoi'r cadwyni mewn gwylltineb enbyd,
A hwythau'n ysu 'i esgyrn yn ddychrynllyd;
A'r hyll Afagddu hefo'r duon luoedd
Yn ceisio ei ryddhau, a'i blant—y gwyntoedd;
A'r Gluder fawr yn pwyso arno'n garnedd
Ac yn ei gloi, er cymaint ei gynddaredd.


XX
Wi! dacw'r Laswawr, morwyn Lleufer firain,
Yn araf rodio ar fynyddau'r dwyrain;
A hithau'r wenglaer hefo'r dlos beneurog,
Yn chwareu'n nwyfus ar y gaer wybrennog;
A Lleufer wen-deg acw yn ysblenydd,—
Yn dod i'r amlwg hefo'i ferch y Wawrddydd.
Mae'r Nos yn ysgurlwgach i'r gorllewin,
Ac yn ei mantell cudd Afagddu erwin;
Ac ar y nef, yn arwr gwrol prydferth,
Olwyna'r Huan yng ngherbydau Gwrnerth,
A'i osgordd ddisglaer yn eu dillad newydd
Yn rhoddi gwên uwchben encilion dedwydd,
A ddawnsient ar bigyrnau'r ban fynyddoedd,
A'r awel chwery delyn y coedwigoedd.
Mae'r Nos cyn hyn ym mreichiau Arawn guchiog,
Ym mro'r tywyllwch, hwnt i'r môr trochionnog;
A'r byd yn canu—cwm a nant yn pyncio,
A llonder hoew ar y bryniau'n prancio;
Y côr asgellog yn telori'n fwynber,
A'u halaw yn gogleisio clustiau Ceinder.
O olwg hardd! rhosynog ardd yw Cymru,—
Pa ryfedd fod ei phlant trwy'r oesoedd yn ei charu.

XXI.
Mae Ynys Mon yn onglog, fylchog lannerch,
A'r tonnau gwrdd o'i hamgylch yn ymannerch,
Crigyllau aml, a chreigiog gafnog forfan,
Ac ambell geule, a chornelog gilfan;
Nid oes ym Môn ond bryniau isel, corrog,
Yn cywilyddio o flaen caerau tyrog
Hen Eryri; ond mae ei gwastadedd
Yn wlad doreithiog yn dwyn grawn trugaredd;
"Mam Cymru" ydyw,—ei maenolydd llwythog
Sydd yn gwargrymu dan ei chynnyrch ffrwythog;
A'i hudd goedwigoedd derw yn ymledu,
Yn glosydd glaswyrdd tewfrig, gan ymgedu
Uwch ben y mannau gynt lle bu'r derwyddon
Yn dysgu moes, athroniaeth, a chyfrinion;
Cysegrwyd daear werdd ei lleiniau llonydd
Gan waed dihalog; do, a'i glesin weunydd
A fwydwyd gan y llidiog lengoedd beiddgar—
Ni pherchid glendid na doethineb treiddgar;
Mae'r awen eto, er cynifer oesau,
Uwch ben y fan yn tywallt heilltion ddagrau.


Mae'r "Ynys Dywyll" yn parhau yn goediog,
Ac yma gwelir maesydd eang enydiog,
A thraw borfeldir gwelltog yn blaendarddu,
A choedlan gopog ar y fron yn harddu
Tirion olygfeydd gwerddonau tonnog,
A llawer maenol werdd, a llwyn perllennog.
Mae drwyddi draw yn drylawn o gofiannau
Am lewion gwlad, ac urddir ei holl rannau
Gan draddodiadau am ei beirdd awenber,
Sydd wedi sugno bronnau Mon felusber,
A dod yn fawr ac aml ar hyd ei gwyneb,
A gosod arni ddelw Anfarwoldeb.
Tra byddo Mon a thonnau iddi'n furiau,
Tra tyf ei derw, a thra chwardd ei blodau,
Tra gwelir gwylan megis morlan ringyll,
Tra golcha'r distyrch arw Greigiau Crigyll,
Tra nos a dydd, a thon ar afon Gonwy,
Bydd plygu glin pan sonnir am Goronwy.

XXII.
Mae pentir Lleyn fel braich i'r môr yn estyn,
A thraw, fel bâd, mae Enlli bach yn grystyn
Llwydaidd ddigon, a'r cyforiog eigion
O'i chylch yn marchog ei wanegau gwynion;
Ryw noethle llwm, anghysbell, cleiog, di-goed,
Er hynny mae ffrwythlondeb yn ysgafndroed
Grwydro dros ei wyneb ac yn gwenu,—
Yw Lleyn a'i lleindir llonydd yn llawenu.
A goreu man am haidd a rhyg melynog
Yw'r oror hon, er pan fu Coll rygyngog
Yn rhodio hyd-ddi gyda'r hwch nodedig,
Ac yn gwasgaru'r hadau cysegredig.

Mae'r Eifl yn driphig, awchlym, yn dyrwygo
Cymylau'r wybr pan font yn gorffwyso
Yn swrth flinedig ar ol crwydro'n hirfaith,
Uwch ben y môr, a gwrando ar ei araith;—
Fel yn wyllt dremio ar y weilgi wawdlyd
Yn bwyta'r creigiau ac yn llyncu'n wawdlyd
Diroedd tirion, llawndwf,—ymysgyrnyga,
Ac yntau'n eon, yn ei rawd a rua.

XXIII.
Eifionnydd dawel! chware mae'r awelon—
Maent yn ysmalio hefo 'th lwyni irion;



BERW RHONDDA.
"A'r awen nythai gynt yng nghoed Morgannwg."


Ar hyd dy wyneb bronnog a meillionog,
Lle taflodd hud ei holl ragorion tlysog,
Ceir mwynder, ceinder, llonder, a thirioni,
Yn plethu talaith flodau i'th goroni.
Mae'r adar mân a'u doniau'n dân awenol,
Yn dathlu cerdd yng nghoedlan werdd y faenol;
Colomen wâr sy'n trydar yn ddiballu,
Ar olwg lon mân feillion a briallu;
Afonydd glân ar wely graian glanwedd,
Helygog lwyn sy'n llawn o swyn a rhinwedd;
Dy dir yn llawn o irlawn lesol lysiau,
A'th goed yn drwm gyfunglwm o afalau;
Dy dduon da, yn hinon ha'n ymhoeni,
Nid oes ond bardd yn diwahardd ymboeni.
Eifionnydd hardd! tydi yw gardd y gerddi,
Yng ngwyneb nef a llawen lef y chwerddi;
Aneddle beirdd, a fydd yn heirdd eu hurddas,
Tra bydd y môr a'i donnau'n gôr o'th gwmpas,
Bydd Dewi Wynn ar ben y bryn awengar,
A'r doniol Du ymysg y lluoedd llafar;
Mae eraill byw yn meddu rhywiau'r awen,
Ymlaen ar gant o hiliog blant Ceridwen.

XXIV.
Mae Afon Menai megis gwyryf geindeg,
A'i thlws ororau glasdwf ar bob adeg
Yn llawn o gynnyrch, a'u hirlasgoed brigog
Yn taflu swyn dros wyneb bro ardderchog;
A'r pontydd trosti fel cadwyni tidog,
Yn gwastad dystio nerth celfyddyd wridog;
Ac ar ei glannau ceir rhodfeydd Hyfrydwen—
O dan ei thraed tyf meillion, luoedd llawen;
A'i golwg pair i'r llysiau oll flaendarddu,
A'i thyner law sydd wrthi'n ddibaid harddu
Y llennyrch gwyrddion ar ororau'r afon,—
A'i gwên rydd fywyd i'r planhigoedd tlysion.

O Glynog lon i'r Penmaenmawr ystyfnig
Mae'r gwastad dir yn ffrwythlon, ac arbennig
Am fangoed deiliog yn bargodi'r caeau,
A llawrlen frith wrth draed yr uchel—gribau;
Y bryniau llethrog dan fwthynod gwynion,
Lle'r erys mwynder a diwydrwydd cyson,
A gadwant olwg ar y trumau trymion
Yn herio'r nefoedd â'u gwynepryd digllon,

A gwg aruthrol drostynt yn ymgrogi,
A'u hesgyrn darniog wedi lliosogi
O dan faluriol effaith y tymhestloedd,
A dig anaele arlwydd y mynyddoedd.

Ysgythrog grugiau, talpiau, tyrau teryll,
Yn bygwth syrthio—eto'n gwastad sefyll,—
Daneddog greigiau'n dibaid ysgyrnygu,
A gwawd uchelfryd arnynt yn dirmygu
Eu gwedd afluniaidd, ac yn uchel chwerthin
Wrth weld anurddiant yn ei ddull ysgethrin
Yn tyllu'r creigiau—yn eu hysu'n wastad,—
Yn enoi'r clogwyni, ac yn gwneuthur afrad
Ar y meini anferth, a'u chwyrn-luchio,—
Ac ar y llynnoedd duon mynna guchio,
A phlygu esgyrn cedyrn y mynyddoedd
A'u gwneyd yn friwsion i wrteithio'r cymoedd.

Eryri gribog! Malwyd dy golofnau,
Maent yn dy nentydd ar y llawr yn llafnau;
Mae'r grug yn methu cuddio'th noethni amlwg,
A'r llysiau gwyllt ymolchant rhag dy gilwg;
Mae Carnedd Dafydd yn ei nwydau llidiog
Yn bygwth claddu rhamantus Nant y Benglog;
A cheunant Aber mewn angeuol ddychryn,
Rhag ofn cynddaredd Carnedd fawr Llywelyn;
A'r hen Elidir fel yn hanner marw,
Yn cael ei darnio gan ergydion garw;
A'r Eilio lyfndeg yn osgoi'r Mynydd-mawr,
A'r Silin fratiog fel pe ar ei helawr;
A'r llynnoedd llonydd wrth eu traed yn huno,
Yn cael gan anian heddwch i'w haddurno.

Tal-frigog fynydd! mynydd y mynyddoedd,
A'i ben ymysg gwerddonau gwyrdd y nefoedd;
A'th glod a'th urddas dros y byd yn adsain
O'r eang fôr i eurog ddôr y dwyrain,—
Tydi oedd noddfa dawel ein hynafiaid
Pan sennid Cymru gan yr hyf Rufeiniaid,
Tydi oedd castell cadarn ein llywyddion
Pan fethrid Gwalia gan y llidiog Saeson;
Cysegrwyd dy gilfachau, a bendigid
Dy greigiau caerog gan rinweddus Ryddid;
Er bod dy fforest wedi ei difrodi,
Mae uthr a mawredd yn dy wâr gysgodi;

A phan bydd tymestl yn ysgubo'r dyffryn,
O gylch dy fron ymdroa nifwl llwydwyn,
Tra ar dy ben yr eistedd bythol oleu,
Ac ar dy rudd pelydron chwim yn chwareu.

Ar garreg arw mud-eisteddai Gwenddydd,
Yn dyfal wrando ar fy llesg awenydd,
Fel saflun marmor, a'i golygon llonydd
Yn diflin syllu ar y bryniog wledydd;
Ni fynnai siarad dim ond trwy awgrymiad—
Fe gloid ei llafar gan ei nerthol deimlad;
Ac ambell dro sibrydai drom ochenaid
Yn argoel poen yng nghyfrin rannau'r enaid.
Ymgrymai'n brydferth, sefais innau'n sydyn,
Ac wrth ei hochr mi welwn angel claerwyn;
Gwaredol angel Cymru, yn ei chyrchu,
A thrwy'r las wybren, gan arafaidd ddyrchu,
Yr aeth y ddau, a glân wyryfon filoedd
O'u cylch yn gwau wrth hedfan uwch ein glynnoedd;
A'u per-lewygol leisiau yn syganu
Alawon mwynber—hen alawon Cymru.

Ymdaenai Gwalia dan eu cysgod tywyll,
A'r awel droellog fel pe yn cyfynbwyll,
A wasgai yn ei chôl y rhoslwyn breiliog,
A'r peraidd sawr gyfodai'n golofn ddosog;
Disgynnais innau hyd y llithrig lethrau,
Gan adfyfyrio ar y tirion barthau;
A phan yn rhoddi'r olaf drem amrywiog
Ar Gymru hen, dolefais yn fyfyriog,
"Hen wlad fy nhadau, gwelais dy daleithiau,
Maent oll yn llawnion o bob rhagoriaethau;
Mae dy fynyddoedd yn drysordai mwnau,
A'th fryniau aml yn feichiog o adnoddau;
Dy heirdd ddyffrynnoedd ydynt fraisg gynhyrchiol,
A'th lynnoedd llawndwf o bob ffrwythau llesol;
Dy fryndir gwyllt sydd yn rhagorol hafod
I'r defaid gwirion, ac i'r geifr diorfod;
Ar hud y creigiau grugog ymddifyrrant,
Ac ar eu dannedd miniog y chwareuant;
A'r bugail tawel a'i felusber goed-bib,
A fwyn berora rhwng clogwyni talgrib.
Yr wyt yn llawn o bob amrywiaeth mwnol,
Nid oes yn eisiau ond dadblygiad gwladol.


"Ysguber ymaith bob croesineb enbyd
Sydd yn anurddo dy olygon glanbryd;
Poed rhinwedd, moes, dysgeidiaeth, a theyrngarwch,
Ac undeb pur, a mwy o râd brawdgarwch,
Fel blagur gwyrdd sydd ar dy goedydd irion
Yn tarddu allan ym mhob rhandir dirion.
Cenfigen bigog, a chasineb lwydlas,
Creulondeb gwaedlyd, a chynhenau diflas,—
Ac anwybodaeth gibddall ac uchelgais,
Ynghyd âg anfodlondeb brwnt, a malais,
A yrrer ymaith i dragwyddol wallgof,—
Yn gyd-drigianwyr ar wyllt—leoedd Anghof.
Llenoriaeth Cymru fyddo yn flodeuog,
A'i hawen ddwyfol, megis gardd rosynog,
Yn dwyn i'r amlwg gyfrin hud y galon,
Ac yn tyb-lunio dirgel ddwfn feddylion. /

"O! angel glandeg, llefa yn gyfarwydd
Uwch ben ein gwlad—YMLYNA WRTH DDIWYDRWYDD!

"I fyny, mwyach fyddo'n cyswyn diball,
I fyny ag adnoddau cêl y deall;
I fyny â'r afrifed gudd syniadau,
I fyny â'r ysbrydol bêr deimladau,—
I fyny at gywreinion gwlad bytholdeb,
Fel yr enillom lawryf anfarwoldeb.
Fel enfys yn yr wybren yn ymddawnsio,
Fel rhoslwyn brithwyn o dan wlith yn pefrio,—
Fel gwerddon laswyrdd, broydd y tlysineb,
Yn llawn o ddysg a dawn a phob rhyw burdeb,—
Y byddo'r Cymry,—tra bo môr a mynydd,
A bydd eu gwlad fel hyn yn ben y gwledydd,—
A'r nef yn hidlo arni bob tiriondeb
O gwmwl beichiog cariad anfeidroldeb."



MYFANWY FYCHAN O GASTELL DINAS BRAN.[5]

WEDI EI GYFLWYNO I MYFANWY A BRONWEN, DWY RIAN ANWYLFRYD SYDD A'U CALON YN LLAWN O GARIAD AT GYMRU, GWLAD Y GAN.

"Gofyn ni allaf namyn—gofwy cur
Dug mewn cariad fwy-fwy:
Fynawg eirian Fyfanwy,
Fuchudd ael, fun hael, fyw'n hwy."
—Hywel ap Einion Llygliw.[6]


I.
Y GLASLWYN tawelgain, a'i wylaidd awelon,
Trigfanle y cysgod, cartrefle perorion;
Y parlas[7] briallog, yn geinwiw dryliwiog,
Yn lledu dan neithdar y cangau blodeuog;
Y dolydd gwyrddleision yn dryfrith feillionog,
Y meusydd yn llwythog o gnydau toreithiog;
Y defaid yn lluoedd ar lethrau'r mynyddoedd,
Y pysgod yn filoedd yn heigio'r aberoedd;
Syganu y gwenyn o flodyn i flodyn,
Y lasberth gysegrid gan fwynlais aderyn;
Y goedwig urddasol a'i deri hynafol,
Y masarn a'r bedw a'u golwg tyfiannol;
Y gwyddfid[8] amglyma o gwmpas y wernen,
Yr eiddew ymledol a wisga y ceubren;
Yr helyg ir hyblyg gusanant yr afon,—
A'u blaenau cyffyrddant y dyfroedd tryloewon;
Y ceunant allwestog[9] a'r ddolgwm borfelog,

Gyd-unent i ddangos serchogrwydd ardderchog.
O! geined golygfa hen anian awenol,
Mae cariad yn adran o'i chread cynhwynol.
Mae cariad yn gerfiol ar greigydd daneddog,
Ymrithia rhwng holltau callestraidd cyllellog;
Pan fflachia y fellten, pan rua y daran,
Pan sigla colofnau cadarngryf pedryfan,
Pan rwygir cymylau, pan uda y corwynt,
Bydd cariad yn chwerthin yng nghanol yr helynt.
Pan leda y ddunos ei llenni mantellog,
Bydd cariad yn edrych yn nwyfus a serchog;
Pan gollir goleuni aur—dlysau'r seronwy
Amranta yn llygaid cariadgar Myfanwy.
Tra britha blodionos dorlennydd y Dyfrdwy,
Fe guria fy nghalon o eisiau Myfanwy.
Tra sibrwd y manddail—tra sigla y brigau;—
Tra'r cnuog niwl llwydwyn yn amwisg i'r bryniau;
"Tra'r hwdiog gymylau yn hidlo defnynnau,
Fel difrif fynachod yn cyfrif paderau"[10]
Bydd flithach fy nagrau, a thostach fy ngofwy,
O eisieu cusanau'r wen-rian, Myfanwy.


II.
Myfanwy Fychan hoffai gân,
A cheid yng Nghastell Dinas Brân,
Ym mrig yr hwyr fawl-odlau serch,
Yn nodi ceinion mwynion merch.
A "Mabinogion" glewion gwlad,
A champau arwyr yn y gâd.—
Y bardd adroddai lawer hynt,
Wrth "fraint a defod" Cymru gynt.
Alawon pêr y delyn fwyn,
A lanwai'r lle a hudol swyn;
Llawenydd gyda'i wenau glân,
A drigai 'Nghastell Dinas Brân.
A'r deg Fyfanwy, O mor hardd
Ei llun a'i lliw yng ngherdd y bardd!
A'r gadair yn y neuadd lawn,
Gwynosai'n llon yng nghanol dawn

A difyr ddull,—Myfanwy lân!—
Ac yn ei thro pêr-bynciai gân;
Mor swynol ydyw odlau serch,
Yn llifo dros wefusau merch!
Ei llais fel llinos yn y berth,
Neu eos fach is gelltydd certh,
A ddiaspedai yn y mur,
A chreai yn ei galon gur.
Ond serch ac ofn fel dafnau gwlith
Ar ddeilios mân y rhosyn brith,
Gyd-gymysgent yn y gân
A bynciai meinir Dinas Brân.
Ond wrth y lle un hwyr-nos lwyd,
Fe glywid cyngan lawn o nwyd;
Gerllaw y porth, prudd-glwyfus lef,
Fel hŷdd am ddwr yn rhoddi bref,
A dreiddiai drwy y tyrau ban,
Yr oedd yn gryf er bod yn wan.—
Toddedig lais galaethus un,
Yn cwyno am ei fwynol fun;
Yr oedd yn bêr, a'i dyner dant
Yn dynwaredu'r nefol blant.
Yr oedd gwylltineb yn ei ddull,
A'i wedd fel gwyw fathredig wull,[11]
A gwe ei gân oedd llon a lleddf,
Ar anwe sidan nwyfus reddf.
Myfanwy Fychan aeth yn syn,
Ei dwy-rudd cochion droent yn wyn,
Dulasai'n grin ei gwefus goch,
Ac yn ei bron ymgronnai och.
Meddylid mai rhyw angel glân,
Neu wyddan,[12] oedd yn ceincio cân,
Neu'r tylwyth teg yn dawnsio'n sionc
O gylch magien[13] ar y bonc;
Neu glychau gosper Glyn y Groes,[14]
Yng nghlust y nos yn dweyd eu moes:
Ond calon mun, trigfanle serch
A chwyddai! O! anwylder merch!



CASTELL DINAS BRAN.
"Yn craffu'n syn ar gastell teg Myfanwy."


Mae'n gryfach na holl lengau'r byd,
Ac angau 'i hun mewn cadwyn ddyd.
Gwreichionen fach! fe leibia'r môr!
Y gwelltyn gwan! fe ddarnia ddôr!
Y gwlithyn glân, diffodda des
Gwallt felyn haul a'i ddeifiog wres!
Fe dreiddia drwy'r castellog fur,
A mala farrau'r dorau dur;
Mae'n hollalluog,—nid yw'r byd
Ond baban ganddo yn ei gryd!
Ond er ei nerth fe ddofir serch
Yn llonydd fwyn ym mynwes merch.

III.
Yr oedd yr eurwawr hefo 'i bysedd rhuddain,
Yn prysur, brysur agor dôr y dwyrain;
Y ddunos lonydd wthid i'r gorllewin,
A'r "moch ddwyreog huan haf dyffestin,"[15]
A wenai ar ei lun mewn llynnoedd gloyw,
Wrth esgyn dringfa'r dydd ag amsang hoyw.
Yng nghil y llwyn o dan ganghennog dderwen
Eisteddai'r bardd! O'i flaen'r oedd cafniog geubren,
Aneddfan ddidryf llu o ddyllhuanod;
A'r llyn gerllaw a frithid gan alarchod.
Yr wynos draw ar war y bryn a brancient
A'r côr asgellog yn felusber byncient.
Plygeiniol gân!—nid ydyw dy gynghaniad
Ond oergri leddf—hiraethgwyn poenus cariad.
Pen-eurog ddydd!—sudd, sudd i'r eigion brigwyn.
Nid yw dy wedd yn ddim i wedd fy morwyn.
Gwen—felen loer, cudd, cudd dy gyrn o arian,
Yng nghysgod blodau cain y nefol farian.
Aderyn doeth, mae'r bardd yn serch-gwynofi;
Mae'n wyllt! mae'n amhwyll! beth a eill ei ddofi?
O'r ceubren tyllog, creglais groch ofnadwy
A rwygai'r awyr,—Twhw-hw, Myfanwy!
Ar hyn o'i guddfan dawel codai Hywel,
A chanodd gerdd yng nghlust y dyner awel,—[16]


"Mae swyn mewn serch,
Mwyn, mwyn yw merch,
O draserch drysaf;
Lliw blodau'r ardd
Mor bêr a'r nardd
Mor fwyn y chwardd arnaf!
O! Myfanwy, y mae f' enaid
Yn dy garu,'r fun deg euraid,
Ar fy nwy—rudd llwyd a gwelw
Gwel fe gerfiodd serch ei ddelw;
Mae fy nghariad yn weladwy,
Mae fy enaid am Myfanwy.

Ei lliw sydd wyn,
Fel trochion llyn,
Neu ewyn y wendon;
Dau rosyn coch,
Un ar bob boch,
A welir yn wiwlon;
Pwy na chân i'r fwyn Fyfanwy?
Croenwen ydyw megis Creirwy,[17]
Glân rianon fel Aranrod,[18]
Deu-ne Gwen,[19] neu gaenen manod!
Tlysach hon na'r lon Wenonwy,[20]
Mae fy enaid am Myfanwy!

Ei dannedd mân
A'i minion glân,
O! rian gariadus!

Ail Ddwynwen[21] yw,
Yr hardda'n fyw,—
Llawn o'r lliw lladus.[22]
Irwedd, lanwedd, loyw—wedd Lili,
Edrych! gwel fy nagrau heli;—
Megis dafnau'n tyllu ogof,
Ysa dagrau 'nghalon ynnof!
Y mae nghariad yn ofnadwy!
Clyw fy nghwynfan, O! Myfanwy!

Meillionen wiw,
Ei llun a'i lliw,
Eilun yw Ngwenfron;
Ei dwyael main,
Uwch perlau cain,
Delw'r glain nidron![23]
O! mor swynol yw cusanu
Gwefus rudd—goch mun lygeitu;
Dan y fedwen fonwen fanwallt,
Neu gerddinen llwyn y wenallt,—[24]
Dwfn yw ngalar, afar ofwy
Am y feinir deg Myfanwy.


Mae nghân a nghwyn
Yn llenwi'r llwyn,

O eisiau'r fwyn fanon;
Fel eos lwyd
Ar ddreiniog glwyd


Yn tywallt ei chalon![25]

Ail y wylan, yn cwynfannu,
Cwyno, cwyno,—byth yn canu;
Trydar beunydd fel colomen
Am y fywiol siriol seren;—
Dos yn llatai[26] ddwfr y Ddyfrdwy,
Dwed fy nghwyn i'r fwyn Fyfanwy.


Fel alarch gwyn,
Ar loyw lyn,
Neu forwydd[27] wrth farw;—
Mae nghalon lân,
Yn deilchion mân,
O! rian, mae'n arw!
Ust! rho yma'th glust i glywed!
Dere Euron galon galed![28]
Min fy medd,—tydi a'm lleddaist,
Do, fy nghalon dirion dorraist;—
Rhof er hyn wastadol ofwy,
I fy anwyl, lân Fyfanwy.'

Pan gwedi dweyd ei gwyn yng nghlust yr awel
Ym mreichiau esmwyth cwsg fe hunai Hywel;
Ond ysbryd nwyfus bardd ni fydd yn llonydd,
Mae fel helygog lwyn ar fin afonydd;
Neu ben yr enfys, neu wenoliaid gwibiog,
Neu wedd amryliw glyn, neu ardd rosynog;
Ysgafndroed grwydra
Werddonau irdwf broydd anfarwoldeb.
Mae fel aderyn gweddw ar y gangen,
Yn trydar beunydd boenus ingoedd angen,
Ond pan y gwena heuldes melyn cariad
Fel gloyn Duw daw allan o'i garchariad,
A chwery'n hoyw yn y maws awelon,—
Fe nawf y nefoedd fel gwna'r pysg yr eigion.


Breuddwydiodd Hywel. Gwelai wlad oludog,
Ei choed yn wyrddlas ir, a'i blodau'n wridog;
Y perthi'n wynber, brithion dryliw'r gwrychoedd,
Y llysiau llawndwf yn oreu—wisg glynnoedd;
Yng nghwr tawelfrig lwyn canfyddai adail,
Ei rwydwaith blethid gydag irion wiail;
Y glas-ddail lanwent ei holl dyllau rhwyllog,
A gwyllt rosynau oedd ei dô blodeuog;
O'i flaen'r oedd hwylfa dywell a chysgodol
Yn arwain i berllannau; ac o'u lledol
Ymgodai teg goedlannoedd;— "Llannau'r eos,—
A hendref bronfraith,—llety llon y llinos,—
Mor fwynber oedd eu chwiban yn gogleisio
Clustiau anian, pan fa 'i yn noswylio.
Ac yn y deildŷ hardd, eisteddai meinwen,
Ei gwisg oedd wenllaes, llygaid fel mwyaren,
Ei gwddf can wynned ag yw'r donnog luwchfa,
Neu fan-od unnos ar lechweddi'r Wyddfa.
Modrwyog hir-wallt, eiliw gloewddu gigfran,
A thalcen llyfndeg fel trybelid arian!
Ei gruddiau crynion, delw gwaed a gwyngalch,
A'i gwingoch wefus, cyfliw coes y fwyalch,
A'i mynor ddannedd! O! ei llais soniarus,
Fel clychau seinber neuadd y Clodforus,[29]
Neu dannau tyner telyn yr awelon,
Pan alarnadant dranc rhianedd tirion.
Ac yn ei dwylaw yr oedd eurog delyn,
A'i bysedd chwarai, ac a'i llais yn dilyn
Perorai odlau,—hen alawon tyner
Sydd wedi tynnu deigr o lygaid amser.
Dynesu'r oeddwn at y rhian brydferth,
Ond Och! o'i blaen cordeddai neidr anferth
Yn gantro yn yr irwellt,—rhith-ymguddiai,
Ond gwastad syllu arnaf'r oedd, a chwythai,—
Awgrymai'r fun a'i llaw am i mi frysio,
Ond wrth ei phen mi welwn ddraig yn gwylio,
A'i glafoer tidog fel edafedd arian,
Neu bibau rhew, yn llysnafeddog gyfran,
A'i llygaid fflachlyd yn goddeithio nghalon,
A'i cholyn fforchog megis arf ellyllon;
Ond yn eu canol gwenai'r fanon fwynol,
Ac arnaf lefai gyda phwyslais hudol,—

'O! brysia, brysia, brysia fy anwylyd,
Tydi yn wir yw f' oedfa ymhob adfyd."
Ar hyn, fel rhuthra llew ar gefn ysglyfaeth,
Y rhuthrais innau, am ei phur gwmniaeth,”—
Ond deffrodd Hywel. Syllai ar y gwrychoedd,
Ni fynnai goelio neb mai breuddwyd ydoedd.
Yn ebrwydd clywai dwrf cerddediad rhywun,
Yn dod trwy'r prysglwyn ceufrig. Ofnai Anhun.[30]
Ond dyma floedd ei ffyddlon was Llywelyn
Yn symud ymaith ingoedd pob arofyn.
Derbyniodd linell, llinell amhrisiadwy,
Oddiwrth ei anwyl serchog fun, Myfanwy.

IV.
Ar bwys y Dyfrdwy hen ar faen mwsoglyd,
A'r hin yn frwd a mwll, a'r chwa'n ddioglyd,
Mewn llwyn o fedw deiliog wrth yr afon,
Yn clust—ymwrando ar ei lleddf sisialon,
Eisteddai'n ddifrif fun,—y fwyn Fyfanwy,
A'r prudd-der dybryd ydoedd gwisg ei gofwy.
A thros ei dwy-rudd llifai dagrau digron,[31]
Mae dagrau serch yn meddu mwy rhagorion
Na melus ddafnau neithdar,—diod ddwyfol
A yfir gan gerddorion pur ysprydol
Yn nhawel-lannau hyfryd gwlad bytholdeb
Pan yn perori canau anfarwoldeb.
Ochenaid ddwys ddilynai drom ochenaid,
Ffynhonnydd gloewon oedd ei thyner lygaid,—
Mae cariad pur fel chwyddog fôr eangfaith
Wrth ymgreuloni, hyawdl yw ei araith.
Mae ton ar don, a moryn ar ol moryn,
Yn ewyn claerwyn wrth gyffinio'r terfyn;
Efelly cariad pur ym mynwes meinwen,
Mae'n cynddeiriogi os bydd rhyw aflawen
Haid yn ceisio atal ei deg rediad,
A myn ei ffordd—ysguba wrthwynebiad.
Fe lwnc gilwgus epil mân gwiberod,
Yr unwedd ag y llynca'r môr y gafod,—

Neu fel y cymer llyn yr eiry oerwyn
I'w dawel fonwes—neu y perlog wlithyn
Pan yfir ef gan'r haul o'r cwpan-flodau
I dorri syched crasboeth ei belydrau;
Cyffelyb hefyd nerthol rym ochenaid,
A wesgir allan o gruddfannau dwfn yr enaid;
Mae glendid dwyfol, delw anfeidroldeb
Ynglŷn â serchog adlun bron tiriondeb.
Fel ag y cwyna draw yng nghwr y goedfron,
Y lwyd ysguthan am ei di-nerth gywion,
Neu fel y clywir alarch balch yn llarw[32]
Adrodd galar ar y llyn wrth farw;
Efelly hefyd tery mun gariadlon

A lleddf alaethgerdd dannau y serchiadon.
Myfanwy Fychan ganai gerdd deimladwy,
Ei llais goslefol, peraidd, oedd glywadwy;
Ac er ar brydiau fod ei chri wylofus
Yn ymgymysgu gyda'r sain soniarus,
Yr oedd ei chân yn cydgymlethu'n anwyl,
Fel mwyn beroriaeth glaslwyn gôr ar noswyl;
Pan fydd awelon tyner hyd y twyni
Yn dynwaredu cyngan lon y llwyni;—
Yn adlun ceindlws gwlad yr aur—delynau
Lle seinber dethlir ceinion yr awenau;
Fe ganai'r feinir gân i'w hanwyl Hywel,
A'i llais fel eos oedd yn llys yr awel.


Lliw meillion mân,
A blodau'r ardd;
Lliw eira glân
Yw gwedd y bardd;
Er ei fod yn llwyd a gwelw,
Arno rhoddes serch ei delw.

Fy nghariad cu,
Mae'n dlws a hardd:
O'i lygaid du,
Serch hudol dardd;
Mae ei wallt yn grych fodrwyog,
A'i ddwy foch yn goch rosynog.



GLYN Y GROES (Valle Crucis).
"Erbyn heddyw crug anferth o adfail ydyw,"


Dan fedwen las
Y deiliog lwyn,
Y profais flas
Ei gusan mwyn;
Fel gwna gwenyn gyda blodau,
Sugnodd yntau fy serchiadau.

Gysgodol wig,
Pa le mae'th swyn?
Mae dadwrdd dig
Mewn glaswig lwyn!
Och! Dyllhuan frech yn 'sgrechian,
Cri piogen fraith yn crecian!

Mae'r breilw mân
Yn gu eu gwedd;
Mae mron yn dân –
O! na chawn fedd!
Mynnaf, mynnaf, clyw fi'r awel,
Mynnaf garu f' anwyl Hywel.

Er llid a gwawd,
Fy eilun yw—
Mae'n gâr a brawd
I'm cadw'n fyw.
O! mae'n ysu gwraidd fy nghalon,
Feddwl colli Hywel dirion.

Tlws rosyn gardd,
Yr impyn per;
Serch arno chwardd
Drwy'r gloew ser;
Hywel gerais, Hywel garaf,
Doed a ddelo, Hywel fynnaf.

Ehedydd lon,
Yn llatai dos;
Rhyddha dy fron,
Uwch gwaen y rhos—
Traetha gwyn Myfanwy Fychan,
Wrth asgellog gôr y wiglan.

Galaethwch serch,
Cyhoeddwch farn;
Nid amhur merch
A'i serch yn sarn;

Pan y byddwyf wedi marw,
Traethwch oll fy nhywydd garw.

Aderyn pur,
Clyw, clyw fy nghri—
Gan boen a chur
Wyf ail i ti.
Yr wyf yn bur;—tra haul a lleuad,
Hywel anwyl fydd fy nghariad.

Er cryfed trais
Mae eto 'n fyw;
O!'i swynol lais,
Rhyw angel yw;
Hwn yn wir a biau 'nghalon,
Hwn yw nghariad, hwn yw 'nghalon.

Doed fel y del,
Mi garaf hwn;
Ei eiriau mel
Ysgafna 'm pwn;
Doed a ddelo, Hywel fynnaf,
Hywel gerais, Hywel garaf.

V
Gerllaw yn eistedd, yn y llwyn cauadfrig,
Yn dyfal wrando ar ei pheraidd fiwsig,
Yr hwn berorid gyda thrwm deimladau,
Y geiriau'n fynych foddid gan ochneidiau,
Pwy? pwy ond Hywel yno oedd yn disgwyl,
Am gael ymgom a'i gariad ar ryw egwyl;
Oblegid ni bydd dunos byth yn aros
Heb ddod o'i hol y wenrydd wawr eiriandlos;
Ni phery rhoch y corwynt blwng tymhestlog,
Ond ennyd fach i fygwth yn anelog,—
Daw i'w ddisodli dywydd tawel distaw,
A phawb a phopeth oll yn llonydd ddifraw.
Daeth hindda fer i Hywel a'i anwylyd
I sisial geiriau serch yn encil adfyd.
Cyfododd Hywel, ac â hoender bywiog,
Prysurai at y fan a'r lle yn serchog;
Ac yno'n ebrwydd, pwy oedd yn ei freichiau
Ond "haul rhianedd"—duwies y duwiesau.
Awgrymed serch pa fodd yr ymgofleidient,
A'r geiriau melus mwynion a sisialent.


Mae rhywbeth byw, aflonydd, llawn o deimlad,
Yn ennyn dyn,—yn estyn iddo'n wastad
Gwpanau chwerw, a chostrelau perion,
I'w gyfareddu yn ei hynt gariadlon.
Mae'r byd yn darfod,—nid oes dim ond angau
A ddichon luddias serch a'i rydd weniadau.
Mae aur ac arian—enaid mab y crinwas,
Yn sorod surion, salw, diwerth, diflas,—
Mae enw mawr, ac yntau'r unben hunan,
Yn nhiroedd cariad, megis o'r tu allan,
Yn ysgerbydau drewllyd, yn furgynod
Mathredig. Ond mae serch ar frig ei heulrod
Yn ymddadeni yn ei lasliw nefoedd,
Gan ymdecau â thlws addurnau filoedd.
Pa ryfedd fod caneuon anfarwoldeb
Yn dathlu oll ragorion ei dlysineb?
Mae cariad croew, megis blodau glanbryd,
Yn sypiau per ar ddreiniog lwybrau bywyd.
Mel-gafod ydyw serch o gwmwl cariad,
Yn traws-sylweddu'r byd i lun y Penllad.[33]

VI.
Ond pan yng nghanol gwynfyd eu cyfrinach
Dychrynnwyd hwy! ni welwyd gwaith creulonach.
Fe lusgwyd Hywel ymaith dros y bryniau
Gan hyllig haid; ac er pob ymbiliadau,
Mewn oer ddaeargell ddofn yng Nghastell Ceiriog[34]
Y dodwyd ef i wywo'r blodyn gwridog.
Ac yno bu yn gaeth am gamwedd enbyd,
Sef ennill serch Myfanwy deg oleu-bryd.
Ei olaf air wrth groesi'r afon Dyfrdwy
Oedd—"Ffyddlon fyddaf i ti, O! Myfanwy,
A'r ateb gafodd,—O! mae geiriau cariad
Yn meddu swynion goreu nefol deimlad,—
Oedd gwên anwylgu, ac un gair priodol,
A'r adsain draw a fynnai ateb, "bythol."
Dihangodd hithau megis gwyllt aderyn,
Pan fydd adarwr dig o'i ol yn erlyn.


VII.
Gwelai Hywel rhwng y barrau cryfion,
Weniadau'r dydd yn prysur roi argoelion;
Ac ar gyfencyd gwelai y mynyddoedd
Yn derbyn bendith landeg haul y nefoedd;
A chlywai gôr y glasgoed deiliog tawel
Yn canu plygain, gan gysegru'r awel;
Ond yn ei gell unigol, mewn cadwynau,
Yr oedd y bardd cariadlon ei serchiadau.
Pan ddeuai'r nos a'i mantell ddu bruddglwyfus
I guddio'r byd â chaddug tew, twyllodrus,
Syn-dremiai ar y nef, a'i dirif flodau,
Yn geindlws addurn teg yr uchelderau,
A chraffai ar y lleuad wyl yn gwenu
Fel glân rianon ar yr olwg bygddu;
Ond yn ei garchar yr oedd Hywel ffyddlon,
Yn goddef ingoedd poenau tra echryslon.
Un noson dywell wrth y ffenestr rwyllog
Ymgrymai'n lluniaidd, fenyw lawen, serchog,
A phwy oedd hon ond morwyn i Myfanwy,
Yn dod a llinell iddo—gymeradwy.

VIII,
Mae cofion yn adrodd eofndra dewrfrydig
Enwogion uchelfryd a'u campau arbennig,—
Y modd y gloddestodd yr arfau tryloewon,
Wrth yfed o'r waedlin nes byddent yn feddwon;
Ond neb ni chaed eto mor barod—galonnog,
I ymladd dros ryddid, a llanciau Rhiw-waedog.
Yn gadlu arwrol, un noswaith ddu dywyll,
Heb loer nac un seren i'w harwain yn hybwyll,
Dros Ferwyn prysurent, yn llidiog a gwrol,
A'u bryd am gael Hywel o'i feddrod amserol.
Cyn dydd cyrhaeddasant y carchar cadarngryf,
A'r oll benliniasant a'u pwys ar eu cleddyf,
I dderbyn gollyngdod a bendith yr abad
A ddaethai i'w cyfwrdd i le eu gofwyad.
Ac yna fel llewod rhuthrasant yn hyfion
A thros y tal furiau ar hyd yr ysgolion,
Ac ebrwydd marwolaeth oedd cyfran y ceidwad,
A'i filwyr yr unwedd a laddwyd heb frwydrad,
A'r arlwydd ardderchog, perchennog y castell,
A ddygwyd yn yspail o'i orwech ystafell;

Yn fuan caed gafael ar geuddor y carchar,
A chyda'r agoriad,—y colyn aflafar
A wichiai;—cyhoeddai i'r truan ymwared,
Daeth dydd yn lle dunos i ymdrin â'i dynged,
O'i ddugell ofnadwy fe 'i dygwyd ef allan,
Ei gadwyn drom rydlyd a dynnwyd yn fuan,
Ac erbyn i eurbyst yr huan ymchware,
A'r las-wawr oleuglir ddynoethi—y bore,
Angau a'i weision ellyllaidd a chwarddent
Yng ngwyneb y milwyr, ac arnynt mingament;
Ac arlwydd y castell ar gopa y mynydd
A frathwyd â chleddyf, a mawr y llawenydd,
Wrth edrych ar anrhaith, gweinyddes difancoll,
Yn llusgo ei enaid ef allan drwy'r archoll.

IX.

Dan fedwen ben walltog, wrth gastell ardderchog,
Yn disgwyl yn ffyddiog am arwydd;
A'i chalon yn chwyddo—mewn ofn yn gobeithio;
Hynodai waith tynged anedwydd.

Edrychai yn ddyfal, a gwelai yr ardal,
Dan wlanog niwl gwamal yn gwelwi;
Y bryniau a guddid, rhyw ddrwg a argoelid,
Yr ydoedd mewn dulid yn delwi.

Ac felly yn sydyn, mewn llewyg am feityn,[35]
Y syrthiai y forwyn dda fwriad;
Pwy welai yn dyfod, yn llawen ei weddnod,
Ond Hywel fwyn hynod, ei chariad.

Dadebrai yn fuan, a gwelai yr huan,
A'i belydr goleulan yn gwenu;
A gwelai gyferbyn, was Hywel, Llywelyn,
Ac eraill i'w ganlyn yn nesu.

Sisialai yr awel, a'r hedydd yn uchel
Gyhoeddai," Mae Hywel gerllaw,"—
Ei chalon a chwyddai, ei llygaid a bylai,
Ni choeliai ei ddyfod yn ddifraw.


Ond arlliw yr abad, gŵr hynod ei gariad,
At wan ac amddifad, ganfyddai;
A llu o wŷr arfog, sef llanciau Rhiw—waedog,
O'u hol yn rhes dalog, ystyriai.

Dynesu a wnaethant, ac ati y daethant,—
Gadawer i seibiant arlunio;—
Distawrwydd a chwarddodd, a galar ymgiliodd,
A chariad orffennodd eu huno.

X.
Bu beth ymholi, do, a dybryd frudio,
Pa beth a ddaeth o'r arlwydd ar ol cwympo,—
Ei ysbryd blin ar brydiau oedd gynhyrfus,
Yng Nghastell Ceiriog, ac yn dra chythryblus,
Ond byth ni ddeuai dros y Ddyfrdwy, meddynt,
I ddangos dim o'i gampau drwg eu helynt.
Cofier, Sais, estronol, ciaidd, ac yspeilgar,
Oedd hwn a laddwyd am ei waith anrhugar.
Ac er mor ffrwythlon ydoedd yr hen goelion,
Mae gwir yn aros ynddynt fel argofion,
O'r tywydd garw—tywydd erchyll, creulon,
A fu yng Nghymru gynt, a'i flwng fygythion,
Fel adfail candryll o ryw hardd adeilad,
Neu deg gerfiadau wedi mynd yn afrad,
Rhwng bysedd meinion amser, yn ysgyrion,
A chrebwyll yn coroni y rhagorion.

XI.
Yn un y fun a'i hanwyl fardd,
Mewn glân briodas ddiwahardd,
A wnaed gan Abad Glyn y Groes,
A'r ing a'r ofni ar fyr a ffoes;
A throwyd Castell Dinas Brân,
Yn llys y beirdd a neuadd cân.
Llawenydd eto ddaeth yn ol,
A pher—ganiadaeth yn ei gol.
Corelwest hoenus,—pob rhyw ddawn,
A geid yn wastad yn y fan;
A holl ddanteithion lleoedd llawn,
A'r tlawd a'r unig yn cael rhan.
Y delyn ber a'r cerddor mwyn,
Gymysgent aceniadau llon,

Gwladgarwch gyda 'i radol swyn,
Enynnid yno ymhob bron.
Eu cydgan hyfryd nos a dydd
Oedd," Cymru fu a Chymru fydd."

XII.
Blodeuodd ceinion gwynfa hardd
Yn sypiau per ar goed yr ardd;
Pwy faidd ddrwgliwio calon merch,
A dweyd mai rhagrith noeth ei serch?
O! Hywel fardd a'i rian dlos,
Y lili deg, a'r gwridog ros,
A blethwyd, impiwyd hwy yn un,
Yn un o ran eu lliw a'u llun.
Fel hyn daeth gwyn i'r rhosyn coch,
Yn adlun teg o undeb pur,
Cyffelyb hefyd lliw ei boch,
Cyn gwywo dan awelon cur;
Mae'r ddeuliw yno fyth yn un,
Yn addurn pennaf glendid bun.
Yn un mewn serch, yn un mewn moes,
Treuliasant hir ddedwyddol oes;
Gan ymhyfrydu'n noddi cân
Ac annog pob rhagorgamp lân;
Myfanwy Fychan, eilun serch,
A Hywel fwyn, a'i awen dlos,
A genynt gerddi gyda'r nos,
Yn gof o'r gân a'r effaith dderch,—
Y gần a hudodd fryd y ferch!
Y gân a genid wrth y ddor,
Yn ail i gerdd seraffaidd gôr;
Y gân a sugnodd galon bur
Myfanwy dlos, er cloion dur;
Y gân anfarwol, ddwyfol ryw,
A roes i'w cariad fodd i fyw;
Y gân a'u hunodd hwy yn hardd—
Myfanwy deg a Hywel fardd.



LLYN TEGID.
"Llyn y Bala, megis llen dryloew,"


CAN SERCH.

MAE gwenau fy anwylyd
Yn hyfryd ac yn hardd;
Cusanu'r foch wen wridog goch
Yw hoffder pennar bardd.

Mae rhywbeth byw mewn cariad,
Mae'n wastad dan fy mron;
A swynion serch y firain ferch,
Mae'n llenwi'r fynwes hon.

O! moes dy gusan Gweno,
Mae honno'n amod merch;
Er gwg y byd, dy wefus ddyd
Hudolion swynion serch.

Y mae dy gusan, Gweno,
Im' heno'n well na gwin
Dy finion mel sy'n llawn o gel
Gyfrinion dwyfol rin.

Yr wyf yn caru Gweno,
Wrth huno daw o'm blaen;
Mewn gwyrdd a gwyn, lliw glân y glyn,
Fel Morfydd ar y waen.

Prioder fi a Gweno,
Ein huno fydd yn hawdd;
Fel eira gwyn ar fynwes llyn
Fy mron i'w bron a dawdd.

Wrth hel y mwyar duon,
Lliw llygaid gloewon Gwen,
Y carem gynt mewn hoew hynt,
O dan gysgodol bren.

Cariadon gwynion Gweno,
Yn rhwydd mi fynna 'm rhan;
Nid dau, ond un, myfi a'r fun,
Wrth allor deg y Llan.

Cawn yno'n cyfan ieuo,
Ein cydio'n dau yn dyn;
Yn un hyd dranc bydd hon a'i llanc,
Sef Gwen ac Owen Wyn.


CATHL YR UCHER, NEU FYFYRDODAU HWYROL.

PAN bynciai'r eos lwyd ei cherdd,
Rhwng brigau mân y goedlan werdd
Pan glywid llais y llinos fwyn
Is glasddu berth yn dweyd ei chwyn,
Yr hedydd mawr a'i hudol gân
A'r bronfraith a'i beroriaeth lân.
Ac ar y clawdd'r oedd robin goch,
Yn seinio'n gu ei osper gloch;
A hithau'r hen ddylluan wyr
Pa bryd y daw cysgodau'r hwyr,
A unent mewn gwasanaeth rhad
Mewn nefol nwyf i'r dwyfol Dad.
Yr awel suai yn y dail,
A rhoddai fiwsig heb ei ail;
Cusanai flodau'r waen a'r ddôl,
A'r llysiau wasgai yn ei chôl.
Symudliw wedd yr irdwf faes
Yn awr a urddid gan Gymraes,
Yr hon delorai ganig dlos
Wrth fynd i odro gyda'r nos.

O'i blaen ymledai'r eigion maith,
A llongau'n llwybro 'i wyneb llaith;
A'r llwyd orllewin oedd yn goch,
Arddelw lliw ei thyner foch,
Y nwyfre lasliw, tawel oedd,
Heb erchyll ru tymhestlog floedd.
Edrychai pedwar ban y byd,
Heb un digofaint yn eu bryd;
Llonyddwch mwyn, a thawel hedd,
A wnaent yr asur faith yn sedd;
Y cysgod cudd o'i ogof ddwyr
Yn fantell dros ysgwyddau'r hwyr.

II.
Pan edrychwyf draw i'r dwyrain,
Pwnc y claer oleuni mirain,
Clywaf yno rith y Gwanwyn,
Adnewyddwr anian addwyn,

Mebyd natur—adeg egwan,—
Pethau'n dechreu torri allan,—
Ambell fan yn geni blodyn,
Blodau'r dydd a'r odfill dillyn,
Bywyd eto yn y goedlan,
Yn ei blisg—yn wanllyd fychan;
Ond er gwanned, tyf yn raddol,
Bydd ar gynnydd yn wastadol;
Ar y mynydd llwyd a noethlwm,
Ac ar lawes deg y ddolgwm,
Gwelir wynos sionc yn neidio
Dros eu mamau yn ddiflino.
Ambell un o'r ffyddlon adar
Glywir yn y llwyn yn trydar
Pan yn nythu. O mor swynol
Ydyw gwrando ar eu carol!
Nid yw'r haul ond gŵr o hirbell
Fel yn llochi yn ei gafell,
Os y dyry wên ysplenydd,
Buan cilia dan ei gaerydd.
Awel lem yw rhan y gwanwyn,
Barrug llwyd, a nifwl bolwyn;
Iasoer finiog hwyr awelon,
Methant beidio bod yn ddigllon;
Ond er hynny, mae rhyw londer
Ynddo'n aros er ei oerder.
Edrych! draw, mae'r bugail mwynlan
Yn ei bleser tua'r gorlan.
Gyda'r nos, bydd yn ofalus
Am i'r defaid fod yn drefnus;
Gesyd hwy mewn lle i orwedd
Clyd a thawel yn gyfannedd.
Hithau'r forwyn fwyn yn fanol
Ddyry laeth i'r wyn yn siriol,
Ac wrth wneuthur tery ganiad
Telynegol llawn o deimlad;—

CAN GWEN.
"Hoff gân rai yw twrw tref,
Lle nad oes bref y ddafad,
Hoff gan eraill fyw ymhell
Mewn unig gell anynad,
Ond gwell gan i gael trin yr wyn,
A gwenau mwyn fy nghariad.

"Onid yw yr oen a'r myn
Ar war y bryn yn heini?
Felly finnau, mae fy mron
Heb ynddi don o gyni;
Y mae amser da yn dod,
'Rwy'n barod i briodi."

Hwyr y dydd a ledai'n dawel
Ei fantelli dros y gorwel;
Gwas y ddunos, llwyd gyflychwyr,
Wnai y ser yn llygaid rythwyr.
Dyry glo ar y gorllewin,
Egyr ddor i'r caddug gerwin;
Gyda 'i law arweiniai'r elfau
I wneyd campau mewn cornelau.
Gwthia'r haul yr huan melyn
Dros y geulan—dros yr erchwyn
I ororau annwn bygddu,
Gwlad y gwydlawn felltigeidlu.
Dyma adlun o farwolaeth,
Adeg ing ac oer argyllaeth.
Hwyr yr oes yw porth y beddrod—
Codir gwedi cysgu cyfnod.
Cyfnewidir llygredigaeth
I'r un ddelw a naturiaeth
Ddifrycheulyd yr Aberthog,
Aeth yn bridwerth dros yr euog.
Hwyr yng ngwanwyn oes credadyn
Egyr iddo ryw ddiderfyn
Eangderau anherfynol
O Radlondeb, bywyd nefol;
Symud ef o afael adfyd
I fwynderau cylch y gwynfyd.

III.
Dacw'r De, y ban sy'n llawn
O fŷg ragorion natur lân;
Edrych arno ar brydnhawn,
Clustfeinier ar yr hudol gân;
Delorion mwyn y wiglan werdd,
Pa fyrdwn sydd i'ch swynol gerdd?
O'r allt y clywir trydar cwyn,
Fe gedwir gwylnos yn y llwyn.
Rhyw fwynber osper yno fydd
Yn gof o'r ymadawol ddydd.

Yr haul a suddai idd y lli,
Ac wrth noswylio clywid cri
Awelon lleddf yn nail y coed;
A'r nos yn awr a roddai' throed
Ar ben y dydd a chilia'n llwyr
Yng nghanol caddug lwyd yr hwyr

Wi! merch y nos a ddawnsia'n sionc,
Ar wastad dôl, ar ben y bonc,
A chenid iddi alaw mwyn
Ar delyn ddail y deiliog lwyn.
Mae hud i'w ganfod ar bob twyn,
Mae ol ei fysedd ar y llwyn,
Mae'r môr yn loew megis drych.
A'r cregin mân fel seinber glych;
Blodeuog gangau wneir yn glwyd
Perorion pluog llawn o nwyd,
Y dolydd hulir gyda meillion,
Nant a chwm â briall tirion,
Cwmwd, maenol, ael, a dyffryn,
Guddir gyda glaswisg ddillyn,
Ceinder swynol a ganfyddir,
Adlun cywrain, perffaith, cywir,
O'r tirioni a'r tlysineb
Urddant froydd anfarwoldeb.
Ymdroi yn swrth o gylch y garth
Y mae y gwlanog bolwyn darth,
Ac ar y morfa, fel diogyn,
Dyry hun dan ortho llwydwyn.
Sua'r tonnau iddo'n wastad,
Ymddigrifant yn eu dwnad.

Hwyr yw hi! Ei llenni pygddu
Gaiff y nos i'w hymddadblygu;
Edrych! gwel y llan a'r dreflan,
Cysgu maent ym mreichiau anian;
Cloch yr ucher a ddistawodd,
Twrf y plant chwareugar beidiodd.
Y mae Gweno wedi tewi,
Do! rhoes heibio ei thelori,
Udiad ci a 'sgrech dylluan—
Hefyd, ambell lencyn penwan,
Wrth drafaelio'r nos i garu,
Dyna'r cwbl sydd yn tyrfu.
Dacw llenni glasliw'r wybren,
Dafnau aur yn britho'r gromen,

Blodau'r nef, o geined arwel—
Megis tlysau 'nghlust y gorwel.
Rhwng dau oleu, adeg cwynos,
Dyma'r pryd, rhwng dail yr effros,
Y llewyrcha'r tân diniwaid,
Ac o'i gylch y gwyllon euraid
Chwarient gyda hoender bywiog
Er dychrynnu llawer ofnog.

Hwyr yw hi. Wrth law mae'r ddunos;
Hwyr yw mebyd tywyll gyfnos;
Gwthia'r nos yr hwyr i wared
I ororau duoer Tynged.
Hwyr! mor swynol yw i'r unig
Gerdded yn y llwyn cauadfrig,
Edrych ar dy law yn tynnu
Llenni'r cysgod o dy ddeutu.
Hwyr! mae ynnot fyrdd o gofion
Am yr adeg ddiniweidlon
Pan yn fochgoch gynt y'm gwelwyd
Gyda'm brodyr ar yr aelwyd,
Yn ymryson dweyd penillion,
Neu yn adrodd mân chwedleuon;
Ie'r pryd, pan heb y croewder,
Y bloesg geisiwn ddweyd y pader.
Hwyr! mae 'nglyn a thi ryw adgof
Nas gall amser wneyd yn anghof.
Yn yr hwyr y genir gwlithnos
I addurno dail blodionos,

Dagrau'r hwyr yw'r perlau gloewon,
Dagrau serchog anian dirion.
O mor geindlos natur dawel,
Pan sygana iddi'r awel!
Rhith cydweddol bywyd hyfryd
Ar werddonau teg y gwynfyd,—
Yno dathla per awenydd
"Aur delynau'r ardal lonydd."

IV.
Hwyr yn Hydref, pan fydd anian
Falch yn marw, dyna'r pryd,
Hwyr y flwyddyn fyn ymddiddan
Gydag awydd am y byd;
Hwyr y dydd a hwyr y flwyddyn
Gyfeillachant yn ddifraw—

Yma megis dau fu'n elyn
Mynnant siriol ysgwyd llaw.

Hwyr y dydd yn dweyd ei helynt
Yn cigyddio natur lân;
Hwyr y flwyddyn megis corwynt
Pan wna'r coed yn 'sgyrion mân; –
Ymgofleidia'r ddau yn serchog,
Cyd-ddinystriant yn eu rhawd;
Anian, gynt fu mor ardderchog,
Gyll ei gwedd wrth golli 'i chnawd.

Hwyr y dydd sydd gysgod amlwg
O farwolaeth yn ei grym;
Hwyr y flwyddyn ddug i'r golwg
Ddiwedd byd a'i dynged llym;
Dug y ddau flin adeg nychdod
Pan friwsiona einioes frau,—
Nesa dyn at nos y beddrod
Pan fo'r bywyd yn hwyrhau.

Hwyr y dydd a hwyr y flwyddyn,
Arlliw ydynt hwy o hon,
Hwyr y byd; pan ddaw i derfyn
Einioes benna'r ddaear hon.
Pan ddirwynir edau amser,
Pan fo'r diwedd yn neshau,
Yna ni bydd oes ond ofer,
Nosa hithau wrth hwyrhau.

Hwyr yw'r Gauaf wedi gorffen
Colli holl weniadau'r haf;
Y goleuni'n llwyd aniben,
Yntau'r huan fel yn glaf;
Metha edrych ar yr agwedd
Lom ddifywyd oer ei llun,
Cilia draw ac etyl fwynwedd,
Ceidw 'i wres i'w gorff ei hun.

Rhyw lwyd gysgod hanner tywyll
Ydyw dydd y gauaf oer;
Hwyr yw'r bore—bydd y mentyll
Heb eu codi gan y lloer;
Nis gall tlysau aur yr wybren,
Pan yn gwenu ar y gwyll,
Symud ymaith o'r ddaearen
Y tywyllwch mwrllyd, hyll.



PONT CENARTH.
"A'r luniaidd Teifi, afon decaf Dyfed."


Rhew ac eira fydd i'r bryniau
Yn orchuddiad rhag y gwynt;
Haul y nefoedd fydd ar brydiau
Fel ar ymgudd rhag y pwynt;
O! mae'r hwyr yn nhrymder gauaf
Yn dylenwi'r fron a braw;
Clyw! galara anian fwynaf,
Wyla'n hidl y dafnau gwlaw.
 
Trydar bydd am rydd oleuni,
Hedd a llonder amser gwell;
Cofia'r haf a'i gampau heini—
Yna troa yn ei chell;
Dyry gwyn—ac yna griddfan,
Angau'r flwyddyn ddaeth yn awr,—
Mewn galarwisg cuddir anian,
Hithau'n farw ar y llawr.

Hwyr! O air sy'n llawn o gofion
Amser arall ar y byd;
Dug i'n cof yr adeg dirion
Pan oedd pechod yn ei gryd;
Ond yn awr, mae och a gofid
Dros y byd yn ymfwyhau;
Arwydd amlwg y daw oerlid—
Y mae amser yn hwyrhau.


Y RHOSYN BOREOL

RHOSYN yn yr ardd
Y bore ledai,
Ei flaguron hardd
Yr awel chwifiai;
Ond cyn hanner dydd
Gwywo wnaeth y rhosyn
Gwelwai'i ddullwedd blydd,
Doi 'i oes i'w therfyn.

Gwelwyd llawer un
Ym more einioes
Yn dra hardd ei lun,
Heb brofi trymloes;
Ond cyn nawn ei oes
Gwywai dan law angau,
Trengai mewn rhyw loes,
Darfod wnaeth yntau.


LLEUCU LLWYD.

LLEUCU LLWYD ydoedd rian dlos, gariadus, o Bennal, swydd Feirion. Ei phrydferthwch ceindlws a hudai lu o gariadon i gynnyg eu hunain fel rhai cymwys i gadw ei serch; ond o bawb, yr un a gaffai ei sylw ydoedd Llywelyn Goch ap Meurig Hen. Ei thad ni fynnai mo'r bardd yn ddyweddi i'w anwylferch, ac nid oedd unpeth yn ormod ganddo i'w wneyd er mwyn lluddias y garwriaeth. Ond efe oedd y dyn drwy'r cwbl. Rywbryd aeth Llewelyn i'r Deheudir i roi tro, a chlybu tad Lleucu iddo fyned, a phenderfynodd dorri'r cariad ryngddynt. Un prydnawn hir felyn tesog, daeth at ei ferch, a dywedai wrthi fod Llewelyn Goch wedi priodi yn nhir y De; pan glywodd hithau hyn, syrthiodd mewn llewyg, ac nis dadebrodd mwy. Pan ddaeth Llywelyn adref, a deall yr anffawd flin, canodd un o'r galaethau mwyaf teimladwy a thorcalonnus. Y mae cofnod am y rhian yn eglwys Llaneurgain fel tystiolaeth a rhybudd i rieni o ddiysgogrwydd cariad, a'r perygl o gynnyg ei dorri gyda moddion anghyfreithlawn. Gwel "Jones's Bardic Museum," "Enwogion Cymru," a "Geirlyfr Owen Williams," &c.

I.
AR lan afon Dyfi eisteddaf yn unig
I lunio rhiangerdd is glaslwyn tawelfrig,
Lle chwery'r awelon rhwng blagur a blodau,
Lle teifl y gwigoedd eu hynaws gysgodau,
Lle sua y gwenyn eu canig awenol,
Lle'r hidla yr adar eu hodlau perswynol,
Lle'r hulir y dolydd gan wyllt—ddail a meillion,
Lle dawnsia mân donnau y dyfroedd tryloewon,.
Lle'r afon arianliw fel neidr a ddolenna,
Lle'r crinllys a'r briall pob torlan addurna,
Lle clywir gwyryfon ar laswawr wrth odro
Yn uno â'r bugail eu cerddi diguro;—
Pa fan mwy dymunol i dynnu darluniad
O'r feinir a syrthiodd yn aberth i gariad?

II.
Is bedwen lâs un bore teg,
Y gwelwyd dau, heb galon freg,
Yn adrodd eu teimladau mwyn;
A'r feinwen weithian draethai'i chwyn.
Cyd-ryddgymysgent alaw leddf
Ag acen bêr eu serch wrth reddf;
Galaethant effaith gofid du,
Yn llenwi'r byd âg aethau lu;
Cusanai'r ddau. Pa beth mwy hardd
Na gweled mun yn caru bardd?
O'u deutu gwenai'r briall têr,
A'r rhosyn gwyllt aroglai'n bêr,

Y crinllys mân a'r clychlys gwiw,
A'r llygad siriol tlws ei liw,
Addurnent lawrlen werdd y fan
Lle mynnai cariad wneyd ei ran;
Y bardd a wasgai law y fun,
A hithau'r lili deg ei llun
Estynnai gusan ar ei fin
Melusach fyrdd na'r puraf win.

Ynghwr y llwyn ysguthan lwyd
A lefai'n brudd yn llawn o nwyd;
Dylluan frech o'r ceubren hyll
Ysgrechai fel yn oriau'r gwyll;
Y prudd—der daenai dros y fan,
A darogenid drwg i'w rhan;
Ond codai serch—llewyrchai'n gu
Ei belydr ar y ceunos du.

Mae swyn mewn serch a huda'r fron
I fyw ar seigiau cariad llon.
Llewelyn Goch ap Meurig Hen
Fel hyn yn fyr a draetha 'i len,
Sef canu'n iach wrth fynd i ffwrdd,
Mewn hyder y caent eto gwrdd;
Fel hyn, a'i lais yn llawn o nwyd,
Y canai gerdd i'w Leucu Llwyd;—

"O fy anwyl Leucu Llwyd,
Harddach fyrdd na'r manod wyd.
Er maint yw urdd y lili wen
Pan fydd y gwlithos ar ei phen,
Mae gwên dy wyneb, feinwen deg,
Yn dlysach na'r holl flodau chweg,—

"Dy fanwallt aur—dy dalcen can—
Dy lygaid glasliw—dwyrudd, man
Lle chwery'r gwrid yn brid a hardd
Fel rhosyn coch ynghwr yr ardd;
Dy ddannedd mân, a'th wefus bêr—
Dy en ireiddgron sydd yn dêr.

"Yr wyt yn hardd a theg dy lun,
Yn arlun byw o serch ei hun,—
Y dlosgain rian—harddach fyrdd
Dy olwg di na'r gwanwyn gwyrdd;
Mae yn fy nghalon bictiwr gwir
O honot ti, fy nuwies glir.


"Dy ddiwair drem, O forwyn hardd,
Sydd wedi swyno bryd y bardd;
Dy amsang sionc, fel ŵyn ar fryn;
Dy lais fel alarch ar y llyn;
Dy gŵyn fel gwen golomen fach—
Tydi sy'n cadw 'm bron yn iach.

"Mae swyn yn wir ym mriwiau serch,
O! gwyn ei fyd a gân i ferch.
Gwyn fy myd, fy nghalon gwyd
Wrth feddwl am fy Lleucu Llwyd;
Fel rhed yr afon ar i lawr

Y daw fy serch i'th fron bob awr.
"Tra yn y byd, fy eilun wyd,
Fy anwyl, anwyl Leucu Llwyd!
O! dyro gusan ar fy min,
Mae'th wefus goch yn well na gwin.
Pan yn y De fy hiraeth gwyd,
Am danat ti, fy Lleucu Llwyd."

III.
Mantell loewddu'r nos ddynesai,
Ar ysgwyddau'r hwyr i lawr;
Anian dawel dani ledai,
I orffwyso'n deg ei gwawr;
Hwyliai'r haul i wely'r heli,
A'r lloer ni roddai ddim goleuni.

Ar gadair yn yr ardd
Eisteddai Lleucu Llwyd;
Myfyriai am y bardd—
Ei ruddiau teneu llwyd,
A berent aeth yng nghiliau 'i bron—
Dygyfor wnai fel ton ar don.

Y rhosyn coch yn flith,
A blygai'n awr ei ben,
Oherwydd pwys y gwlith—
A hithau'r lili wen;
Ond blodyn serch ei ddagrau gwyd;
Efelly cariad Lleucu Llwyd.


Yn araf i'r ardd ei thad a ddynesai,
Ei laesfarf a chwardd, a syn yr edrychai—

Dywedai yn hyf wrth Lleucu y newydd,
A droes ar fyr air yn dynged anedwydd.

TAD.
"Mae Llywelyn Goch, y bardd,
Wedi cymryd menyw hardd,
Yn nhir y De, yn briod fwyn;
Wel, Lleucu bach—pwy wrendy 'th gwyn?

LLEUCU.
Fy nhad, ai gwir? Llywelyn Goch?
Fy nhad mae'n glir fod gwae ac och
Yn llenwi 'mron. Ffarwel fy nhad!
Llywelyn Goch?" * * *

Lleucu Llwyd lewygodd,
Ow! druan, ac fe drengodd,
Oherwydd aeth ei chalon lân,
O do, fe aeth yn ddarnau mân.
Byth mwy ni syflodd law na throed,
Ond huno wnaeth y bura 'rioed;
Bu farw 'r anwyl Leucu Llwyd,
Yr hon a hudai'r byd i'w rhwyd,-
O serch at fardd fe drengodd hon;
Agorwyd briwiau dan ei bron;
Ei thad ei hun a las ei ferch.
Mae Lleucu Llwyd yn ferthyr serch.

IV.
Yn fuan pwy dros Ddyfi lân
A hwyliai 'n llawn o nwyd y gân,
Ond ef, yr hwn a fu cyn hyn
Yn caru'r ferch ar hyd y glyn;
Ond och! mae cyfaill iddo 'n dod
A'r newydd athrist oedd yn bod,
Dywedai wrtho farw 'r ferch,
Ei angor siwr ynghôr y serch.
Llywelyn Goch, mewn aethus nwyd,
Alarai am ei Leucu Lwyd;
Fel hyn ei alar pur ei rin
Ddylifai dros ei grinllyd fin,—


"Pa le mae lili'r ardd? O Lleucu Llwyd!
Ei dail ront addysg hardd; O Lleucu Llwyd!
Y bore tan y gwlith,
Y rhoddent wenau blith;
Cyn nawn fydd ond eu rhith, O Lleucu Llwyd.

"Pa le mae dail y ddôl? O Lleucu Llwyd,
Pa le mae'r wen ei chôl? O Lleucu Llwyd,
Yr hon a'i gwenau glân,
Gynheuai serchus dân,
Nes byddai'n fyw y gân? O Lleucu Llwyd.

"Mae'r feinir yn y bedd; O Lleucu Llwyd,
Mae'n welw iawn ei gwedd, O Lleucu Llwyd,
Y wefus goch yn wyw,
A'r ddwyrudd teg eu rhyw
A'i mwynlais, pwy a'i clyw? O Lleucu Llwyd.

"Llaneurgain—dyna'r fan, O Lleucu Llwyd,
Y cwsg dy farwol ran, O Lleucu Llwyd;
Ond mae dy ysbryd mwyn,
O hyd yn gwrando 'm cwyn,
Pan fyddaf yn y llwyn, O Lleucu Llwyd,

"Yn adrodd aeth fy mron, am Lleucu Llwyd,
Fel gwylan ar y don, am Lleucu Llwyd;
Neu eos yn y wig,
Ar ol i'r heliwr dig,
Ro 'i gymar dan y brig! O Lleucu Llwyd!

"O Eurgain, santes hardd, mae Lleucu Llwyd
Yn aros yn dy ardd; O Lleucu Llwyd!
Bydd iddi'n dyner chwaer,
Yw fy neisyfiad taer,
Ym mroydd Gwynfa glaer. O Lleucu Llwyd.

"Poed blodau ar ei bedd, O Lleucu Llwyd;
Ac ywen lâs ei gwedd, O Lleucu Llwyd,
A fyddo'n gysgod gwir,
I le ei chyntun hir,
Nes cwyd i'r tawel dir. O Lleucu Llwyd!

"Tra rhedo'r Ddyfi lân, O Lleucu Llwyd,
Fe urdda 'th enw'r gân, O Lleucu Llwyd;
Tra'r Wyddfa 'i phen a gwyd,
Tra rhua'r môr mewn nwyd,
Fe gofir Lleucu Llwyd. Fy Lleucu Llwyd.


Tydi yw 'm cariad fyth, O Lleucu Llwyd,
Mae 'th fynwes i mi'n nyth, O Lleucu Llwyd;
Fel gwennol dof ryw ddydd,
O'm rhwymau oll yn rhydd,
A'm hedfan atat fydd, O Lleucu Llwyd.

"Eneiniaf er dy fwyn, O Lleucu Llwyd,
Y blodau sy'n y llwyn—O Lleucu Llwyd,
Poed tawel le dy hedd,
Er bod yn wael dy wedd,
Daw gwawr ar nos y bedd. O Lleucu Llwyd."


ARTHUR LLYWELYN.[36]
Cyflwynedig i Mr. a Mrs. W. E. Morris, Porthmadog, ar enedigaeth eu nawfed a'u ieuangaf fab.

TRA byddo'r hen Wyddfa yn ben ein mynyddoedd,
Tra byddo Llyn Tegid y mwyaf o'n llynnoedd,
Tra byddo yng Nghymru lân awen a thelyn,
Bydd Arthur yn enwog a'r anwyl Llywelyn.

Dau arwr nodedig, dau unben coronog,
Dau oeddynt na wyddent pa beth bod yn ofnog;
Dau'n wrol safasant yng ngwyneb pob gelyn,
Oedd Arthur yr arwr a'r Twysog Llywelyn

Bob gwanwyn mae'r ddaear yn ymadnewyddu,
Mae'r coed yn blodeuo, a'r dail yn blaendarddu;
Pob gauaf a haf mae'n laswyrdd y celyn,
Fel adlun o Arthur a'n "holaf Llywelyn."

Naw einioes a uner i'r nawfed mab tirion,
Na phrofed ryw lawer o'r chwerw ddail surion;
Ond bydded ei enw mor laswyrdd a'r celyn
Yn gofeb anfarwol, yn Arthur Llywelyn.

Anfarwol a fyddo yn unol a'i enw,
Boed bendith yn goron i'r mebyn glân hwnnw
Sydd eisoes yn meddu ar enw di elyn—
Anrhydedd ac urddas i Arthur Llywelyn.



PONT MENAI.
"Mae cychod ar yr afon yn araf llithro i lawr,"


Y GOG.[37]

Y GWCW lwydlas dery gerdd
Yng nghoedwig werdd y faenol;
Ei hunodl ydyw anadl ha
Mae'r eira wedi meiriol;
Cw-cw! cw-cw! Awelon mwyn
Sy'n llawn o swyn hudolus,
Mae'r briall glân a'r meillion brith
Dan berlog wlith yn felus.

Yn iach, yn iach i'r gauaf oer,
Mae gwên y lloer yn gwynnu;
Yn iach i'r olwg noethlwm hyll,
Mae'r closydd cyll yn glasu;
Cw-cw! cw-cw! Mae'r irion ddail
A'r gwiail yn blaendarddu,
Mae gwên ar wyneb glân y glyn,
Mae bro a bryn yn tyfu.

Cw-cw! cw-cw! Mae'r adar mwyn
Yn dweyd eu cwyn i'w cymar;
Cw-cw! cw-cw! Mae'r deiliog lwyn
Yn llawn o swyn caniadgar;
Cw-cw! cw-cw! Awelon mwyn
Sy'n llawn o swyn hudolus,
Mae'r briall glân a'r meillion brith
Dan berlog wlith yn felus.


GOLYGFA AR YR AFON.
(ALEGORI.)

MAE cychod ar yr afon yn araf lithro i lawr,
Rhai bychain destlus, eraill mwy, a llawer o rai mawr.
Fe dynnodd un fy sylw yn fwy na'r lleill i gyd,—
Nis gwn paham y denodd hwn mor llwyr fy ngwibiog fryd;
Ymlithrai hyd y tonnau, fe ddawnsiai hyd eu brig,
Fel adar llon, foreuddydd haf, hyd flaen y werddlas wig.
Yr afon oedd mewn mannau i gyd yn greision gwyn,
A chwyrnai'n uchel—rhuthrai 'mlaen, gan fygwth bro a bryn.
Ond ar ol dangos ennyd ei nerth a'i hanian hyf,
Llonyddai'n raddol, fel rhyw gi, er chwyrnu wedyn llyf
Yn dyner law ei elyn, a gorwedd yn ddidrwst;
Cyffelyb hithau; cysgai'n drom yn ymyl ffrydle 'i ffrwst.
Ni welid ar ei gwyneb ddim ol un gribog don,
A'r blodau wenent ar eu llun oedd dan y dwfr, yn llon.

Pan welais yn y crychias, y cwch, fel dyn mewn lluwch
Yn cael ei guddio gan y plyf, a'r corwynt rhoch ei ruwch
Yn rhewi gwisg am dano,—pur debyg oedd y cwch
Pan gleddid ef yng nghanol llif glafoeriog tonnau trwch.
Dolefais," Wedi colli! fe suddodd, druan bach!"
Ar hyn, pa beth a welwn draw, yn hwylio'n ddigon iach,
Ond ef, y cwch a gollais,—aeth drwy'r rhyferthwy certh,
A llithrai 'mlaen, a'i hwyl ar daen, dan arolygiad nerth
Ar hyd y llifddwfr gloew, a'i gysgog yn y dwfr
Ddanghosai'n eglur wers o bwys, sef "paid a bod yn llwfr."
Ond cyn pen hir fe safodd,—ni chwimiai o'r un fan,
Er rhwyfo'n galed, yno 'roedd, ymhell oddiwrth y lan,
Ar faesle yn yr afon, yn glynu yn y llaid,
Ond o'r diwedd aeth yn rhydd, ac yna fel ar naid
Cadd ddyfnder. Yna hwyliodd o'm golwg tua'r môr,
A'r cychod eraill ar ei ol yn mynd yn hwyliog gôr.
Ond mynych byddai anffawd, ai'r naill ar draws y llall,
Gwrthdrawai rhai heb hidio dim, na malio, mwy na'r dall
Pan ddigwydd iddo daro yn erbyn pren neu faen,
Ni etyl hynny ddim o'i flys na 'i awch i fynd ymlaen.
Cyffelyb yr olygfa! difethai'r naill y llall;
Ar draws eu gilydd rhedeg wnaent yn filain a diball.

Draw, draw, fforchogai'r afon,—y ffrydlif aeth yn ddwy,
A'u creigiau wasgent uwch ei phen, gan fygwth mwy na mwy.
Ond megys rhwng dwy agen, dirwynent am y môr,
Ac wrth ymddirwyn rhoddent gerdd alarus gylch y ddôr.
Un ffrwd oedd loew landeg, a'r llall oedd ddu a hyll,
Ond ar eu gwyneb cychod geid o amryw faint a dull,
Rhai cychod aent yn hyfryd ar hyd y ffrydlif lân,
A'r tonnau wrth eu cludo draw a swnient felus gân.
Ac eraill, fel o'u hanfodd, a droent i'r aswy ffrwd,
Y ffrwd a guddid yn barhaus gan ortho tew o rwd,
A chollid hwy yn ebrwydd, ac anghof trwm ei law
Afaelai ynddynt fel ei ran, ar draeth y byd a ddaw.
Ond gwelaf eraill gychod, a'r cychwyr glân eu moes
Ar ben pob hwylbren gosod wnant y faner wen a'r groes.
Maent hwy mewn pur ddedwyddyd yn canu alaw lon,
Wrth nesu tua'r hyfryd wlad, wrth fynd o don i don.
Y cwch a welais gyntaf, cyrhaeddodd ben ei daith,
A chadd fynedfa helaeth iawn i'r porthladd eang maith;
Glaniasant oll dan ganu hen gerddi'r afon ddofn,
Ond llyncai'r llon y lleddf yn llwyr oherwydd darfu ofn,
Ac yn y cartref newydd, mewn digyfnewid oes,
Fe chwifia anfarwoldeb pur y faner wen a'r groes.


DYFFRYN MAWDDACH.
(Nodiadau eglurhaol ar "Yr olygfa oddiar ben Moel Orthrwm.")

MOEL ORTHRWM sy fynydd bychan cestiog, ym mhlwyf Llanfachraith, wrth Ddolgellau, Meirion. Cymerir ystod diwrnod i ddesgrifio'r golygfeydd yn y gân,—"Golygfa oddiar ben Moel Orthrwm.

ARAN MAWDDWY ydyw yr uchaf o fynyddoedd Meirion. Ystyrrid y Gader felly am lawer oes gan deithwyr, ond mynnai pobl Mawddwy bob amser mai eu mynydd hwy oedd yr uchaf; a rhag ofn eu bod yn methu, aethant yn un côr yno rywbryd, a chynullasant garnedd anferthol ar ben yr Aran, a byth er hynny y mae eu mynydd amryw lathenni yn uwch na'i gymar.

CRAIG CYWARCH sy swbach o fynydd twmpathog ar bwys yr Aran, a Chywarch y gelwir cwm dwfn yr ochr de-ddwyrain iddi.

YR HENGWM ydyw'r ceunant a red o Gywarch ar draws, ac a ysgar yr Aran oddiwrth y graig uchod.

"Bw na be." Geiriau dychymygol; yn debyg i'r rhai a arferai yr anfarwol Fardd Cwsg—,"hydyd-yd-yd-eian," yr oedd angeu annwyd yn ei yngan. "Soc soc, dy gloc, dy gloc," medd mewn lle arall, wrth ddynwared swn padell yn berwi ar y tân. Hen arfer ydyw hon. Dywed W. Lleyn am fen,—"wich wech yn ol chwech ei cham." A Dafydd ab Gwilym i'r biogen fel hyn

"Cricerec, ni 'm dawr pe 'i crocid."

Ceir yr arfer ymysg beirdd Groeg a Rhufain. Llyma'r wedd yr efelychai yr digrif Aristophanes grawg oer gegog y llyffant,— "Brececececs coacs coacs." Ac Ennius, udgornfloedd gyda'r gair "Taratantara." Y mae engreifftiau afrifed o hyn yng ngwaith beirdd pob gwlad. Gwel Nodiadau ar y Bardd Cwsg, gan Hirlas, t.d. 34.

BWLCH OERDDRWS sydd un o'r bylchau uchaf yng Nghymru ag y ceir prif—ffordd yn ei groesi.

PENNANT TIGI. Ffermdy yng nghwr uchaf Ceris, yr ochr bellaf o Ddolgellau i Fwlch Oerddrws.

Cyfeiriad at Owain Glyndwr yn cyfarfod ei farchogion sydd yn llinell 33. Aml, medd y cofiannau, yr ymgynullid i'r lle hwn i drefnu pethau.

MYNYDD GWANAS a MOEL Y LLAM, ydynt rês o fryniau o Fwlch Oerddrws i Fwlch y Llyn Bach.

YSPYTY (Hospitium). Lle yn perthyn i Farchogion o urdd y Deml, neu urdd Caersalem. Adeiladwyd y lleoedd hyn ar ol dychwelyd o Ryfeloedd y Groes. Ystyrrid yr yspytai yn fwy fel meddygdai na lleoedd crefyddol. Yr oedd yno nawdd a nodded i'r tlawd heb ofyn elusen undyn. Gynt, crefydd edrychai ar ol pob peth fel hyn, yn addysg ac yn elusen; ond y mae'r llywodraeth wladol erbyn hyn yn cymeryd arni wneyd y gwaith yn ei lle; barned y byd pa ddull oedd y goreu, yr hen ynte'r newydd. Coffeir yn un o Englynion y Beddau am danynt fel hyn,

"Y beddau hir yng Ngwanas,
Ni chafas eu di oes,
Pwy fynt ai pwy eu neges."—ENG. Y BEDDAU.


GWYLLIAID COCHION MAWDDWY a fuant yn haid ladronllyd am llawer oes a chanrif, yn byw ym Mawddwy. Dechreuasant, medd y Brut, yn amser Cadwgan ab Bleddyn ab Cynfyn, ac Owain ei fab, yr hwn a elwid Owain Fradwr a Syr Owain, oblegid iddo fyned i lŷs Lloegr a chael parch ac urddas; ar ol dianc oddiyno, a gwneyd llawer byd o ystrywiau anfad, efe a ddechreuodd y Gwylliaid; a bernir i epil ei garenydd Gwilym Coch neu Wilcoc, Arlwydd Mawddwy, fod yn cadw i fyny yr ysbeiliaeth am oesoedd. Yr oeddynt yn peri cymaint blinder, fel y gorchymynnwyd eu dal o hil gerdd; a'r Barwn Owen, o'r Llwyn, ger llaw Dolgellau, a Sion Wyn ab Meredydd, o Wydir, oeddynt y rhai mwyaf blaenllaw yn eu herlyn. Dyfarnwyd, gan y Barwn Owen, swp o honynt i'r crogbren, a chawsant eu crogi, er pob ymbil a wnaed erddynt. Ceisiai mam chwech o honynt am fywyd un, yr ieuengaf; ond ni wrandawid ar ei deisyfiad. O'r diwedd, pan ganfu mai ofer ei chais, gwaeddai ar y Barwn, a diosgai ei bronnau,—" Edrych," ebai, "sugnodd rhai y bronnau hyn, a olchant eu dwylaw yng ngwaed dy galon." Ac felly fu. Ym mhen ennyd ar ol hyn yr oedd y Barwn yn myned heibio i'r Amwythig neu i'r Trallwm (fe enwir y ddau le), a dyna'r Gwylliaid ar ei warthaf, a lladdwyd ef yn y fan, ac o'r braidd y medrodd ei fab yng nghyfraith ddiane, na chafas yntau yr un driniaeth. Yn ol hyn bu cythrwfl ofnadwy. Diangodd cyflawnwyr y cyflafan, ac yng Ngwanas, gyda châr iddynt, o'r enw Sion Rhydderch, yr ymguddiasant, ac mewn tâs o wair, yr hon a wnaed yn wag o'r tu fewn, yr oedd eu cuddfan. Bradychodd Sion Rhydderch hwynt, a bu ei enw yn adgas am oesoedd yr ochr draw i Fwlch Oerddrws; ac y mae "mor ffalsed a Sion Rhydderch" yn ddiareb heddyw ym Mawddwy. Gwelais amryw grybwyllion am y pladuriau oedd yn simneuau Dugoed Fawr; a phob amser byddid yn ceisio gosod y rhai hynny fel prawf o'r ofn a feithrinid ym mynwesau gwŷr Mawddwy tuag at y Gwylliaid; ond pe creffid ychydig ar y cofiannau, a'u cymharu hefo thraddodiadau yr hen bobl, ceid mai yn Nugoed yr oedd eu cartref, ac mai diben y pladuriau yn simneuau oedd atal neb ddyfod i mewn atynt yn ddirybudd. Lle amddiffynnol y Gwylliaid oedd y Dugoed. Heb fod ym mhell oddi yno y mae Llidiart y Barwn, y fan lle lladdwyd y Barwn Owen. Gelwir hwy yn aml yn Wylliaid y Dugoed, &c.

CAERYNWCH. Hen amddiffynfa Gymreig gynt, ond erbyn hyn y mae'r cerrig agos oll wedi eu symud i ffwrdd. Syr R. Richards, un o arlwyddi ynadol Prydain,—mab ydoedd i Tomos Richard, y Coed, a Catrin Parry, merch y Cae Ceirch. Yr oedd brawd i'r Catrin hon yn un o athrawon Ysgol Ramadegol Rhuthyn, a chymerth ei nai yno ato; a daeth yr olaf ymlaen yn gyflym, ac esgynnodd i ben pinacl enwogrwydd.

DAFYDD ELIS, Person Cruccaith, oedd fab Hafod y Meirch. Casglodd lawer iawn o law ysgrifau, a chafodd D. Ddu Eryri amryw ohonynt ar ei ol. Efe a grynhodd lythyrau Gronwy Owen, o anfarwol goffadwriaeth; a llawer dernyn llychlyd heb law hyn. Yr oedd yn fardd lled dda hefyd, fel y dengys ei englynion.

GLYN YR WNION sy ddyffryn tlws rhwng tref Dolgellau a'r Garneddwen.

Cydmarer "The Deserted Village," Goldsmith, llin. 3, 4, â llinell 82.

IEUAN GWYNEDD. Bardd da a llenor gwych. Y mae enw Ieuan wedi ei gerfio yn ddwfn ar feddwl gwerin Cymru, yn yn enwedig y rhyw fenywaidd, oherwydd ei amddiffyniad campus i nodwedd foesol ein cyd-genedl yn amser cyhoeddiad y Llyfrau Gleision. Bu farw yn ddyn ieuanc.

RHYS JONES, Yswain, Blaenau, oedd fardd tra awenyddol. Y mae yn wir ei fod yn ymgyffelybu mwy o barth dull a moes i'r beirdd awdurol na neb Cymro; eto, os yw rhan o'i waith yn ysgafn a nwyfus, y mae ganddo darnau eraill, na chanodd neb eu hamgen, oddieithr pur ychydig, er ys oesau. Casglodd "Orchestion Beirdd Cymru," hen lyfr a adnabyddir yn gyffredin o dan yr enw y "Bais Wen," oblegid y papur gwyn oedd gydag ochrau y colofnau argraff.

BRAD Y CYLLILL HIRION. Gwadir hyn gan haneswyr pengoll yr oes anwadal—fryd hon. Pa beth fydd diwedd yr angrhed wrthun a ffiaidd sydd yn ffynnu ym mysg dosbarth o bobl ymhongar? O! na wadent eu neiniau, druain gwerin! Coelied a goelio, mae'r desgrifiad a roddais yn y llinellau hyn yn ddilys wirionedd, a gallwn yn hawdd ei ategu â chyfrol o ffeithiau; gan hynny dywedaf gyda'r hen fardd,

"Yn y gwir y mae'r rhagoriaeth,
O'm lleddir am wir, pa waeth?"

Dim; oblegid dyma'r gwir,—"Dulce est pro patria mori"; h. y., melus marw dros fy ngwlad.

IDRIS GAWR. Yr oedd ef yn un o Dri Gwyn Seryddion Ynys Prydain. Y ddau arall oedd Gwydion ab Don a Gwyn ab Nudd. Dywedir yn y Trioedd hyn, fod eu gwybodaeth yn gyfryw, fel, trwy dderwyddoniaeth, y medrent ddywedyd pa beth a ddigwyddai, os mynnent, hyd ddydd brawd. Trioedd 8, 9. (Myf. Arch. Cyf. i.) Cynnwys y darn yma gyfeiriadau at ddysgeidiaeth gyfrin derwyddiaeth, a'r coelion cysylltiol â'r gwyrthiau cyntefig a gyflawnid gan offeiriaid crefydd dadol Prydain. Yr oedd ein hynafiaid yn brif seryddion y byd, a gellir olrhain holl gyfundrefnau y cynfyd atynt. Ond dylid dywedyd ymhellach, fod yn rhaid y meddiannai y rhai a roddssant enw i'r Sidydd, a'r Deuddeg Arwydd, ryw wybodaeth eglurach a gloewach na phaganiaid oesoedd mwy diweddar. Ni feddai'r haneswyr Iddewig ddim meddylddrych cywir am ddull y ddaear, ac ni ddanghosir yn eu gwaith eu bod yn dirnad dim o drefn yr wybren. Gwelir son am yr haul "yn codi," yn "myned yn ei ol," &c., yr hyn sy groes i drefn anian. Ond cofier, nid llyfr i athronyddu ydyw yr Ysgrythyr Lân; mae iddo swydd bwysicach, sef gosod allan feddwl Duw ynghylch trefn iachawdwriaeth. Ac Anian oedd llyfr y gwyddon. Rhyfedd ydyw dylanwad cofion mebinol cenedl. Y mae coflyfrau cyfrin y Brahminiaid yn dry-lawn o gofidiau am Idris; ac o'r braidd na welwn ef yn nhraddodiadau boreuaf Groeg hefyd.

DAFYDD IONAWR a ystyrrir yn un o brif-feirdd Meirion. Parha ei enw yn dra chymeradwy, ymysg awdwyr, oblegid ei ddichlynder a'i foesol ymarweddiad. Canodd fwy na neb bardd a fu yng Nghymru er yr oes neu ddwy o'i flaen, a'i farddoniaeth oll a thuedd ddyddanus a duwiol arni, a ddyry iddo hawl i gael ei alw yn Fardd Cristionogol Cymru.

Cododd amryw o ddynion tra nodedig yn Nolgellau, megis y Dr. Henri Owen, Tan y Gader; y Dr. Jones, y Dr. Ellis, perigloriaid y lle; a thorf anifeiriol o feirdd a llenorion, ond am yr awen o ddeutu Dolgellau, y lle goreu a fedd Cymru i fardd fyw; eto, nid ydym yn hoffi'r lle rywfodd; y mae rhywbeth yn peri pob peth.

AFON MAW a gwyd i fyny ym mlaenau Trawsfynydd, ac a rêd i lawr tua'r Ganllwyd. Tu isaf i'r Pistylloedd abera'r Cain iddi. Yng Nglyn Eden, sef y rhan uchaf o'r Ganllwyd, abera'r Eden iddi. Yna daw drwy Waelod y Glyn; ac yn ymyl Llanelltyd, abera yr Wnion iddi. Ystyrrir yr Afon Maw a'i gororau yn nesaf at lennydd y Rhein o un man ym Mhrydain; a dywedai Syr R. C. Hoar eu bod "yn anarluniadwy o arddunol a thlws."

GWYDDNO GARAN HIR, arlwydd Cantref y Gwaelod, yr hwn y torres dwfr dros ei drefdadaeth, pan oedd un Seithenyn Feddw yn cadw y llif-ddorau. Gwelais yn "Llyfr Du Caerfyrddin " hanes o'r trybini gerwinol. Yn awr, y mae'r môr yn cyforio dros y "dolydd teg a'r meusydd chweg," y du-lif yn toi'r delyn.

GWYN AB NUDD. Soniwyd eisys am dano yng nglŷn âg Idris a Gwydion. Dynodir ef dan wahanol nodweddion; a gelwir tonnau'r weilgi yn gesyg Gwyn ab Nudd yn Nhrioedd yr Addurnau. Y mae "Ymddiddan rhwng Gwyddno a Gwyn ab Nudd," yn y gyfrol gyntaf o'r Myf. Arch., yn dra chyfrinol..

MONACHLOG Y FANER, neu'r Cymer, ar lan y Maw, gerllaw Llanelltyd. Bernir yn gyffredin iddi gael ei hadeiladu a'i gwaddoli gan Maredydd a Gruffydd, dau o linach O. Gwynedd.

Er y dywed Tanner, yn ei Notitia Monastica, mai Llywelyn mab Gervas, neu Llywelyn ab Iorwerth Drwyndwn, yn ol dehongliad amryw, a'i sefydlodd, y mae yn sicr y fod yma adail yn y flwyddyn O.C. 1198, tra nad oedd yr olaf, yn ol Tanner ei hun, yn blodeuo hyd O.C. 1200. Dilys mai adwaddoli a wnaeth hwn, ac i'r gŵr dysgedig yna gamgymeryd gwaddoli am adwaddoli. Hyn sy sicr, iddo yn y flwyddyn O.C. 1209, gadarnhau rhoddion rhai ereill, ynghyd â rhoddi amryw waddoliadau ei hunan; ond nid oes dim argoel mai efe oedd y sylfaenwr. Y Cisterciaid oedd yma, a daethant o'r Cwm Hir, ym Maesyfed, rywbryd fel cenadaeth, ac ymffurfiasant yn frawdoliaeth yn y lle hwn. Y mae yr adfeilion a welir yma yn bur luosog, ac yn lled gyfan. Yr oedd wedi cael ei chyflwyno i'r Forwyn Fair, yr un wedd a'r rhan fwyaf o fynachlogydd heirdd yr oesoedd canol.

Y mae cryn debygolrwydd yn y llinellau o 216 ymlaen i bennill tlws Alun, sef,—

"Pa sawl gwaith, ar wawr a gosper
Swniai'r gloch ar hyd y glyn!
Pa sawl Ave, cred, a phader,
Ddwedwyd rhwng y muriau hyn?"


MYNYDDOEDD ARDUDWY, neu drum o fynyddoedd ar bwys morlan Meirion.

RHAIADR DU, ger llaw Dôl Melynllyn.

BRENHINBREN Y GANLLWYD, neu'r Pren Teg, mae yn debyg, oedd y goeden harddaf a'r fwyaf a welwyd er ys oesoedd yng Nghymru. Cofnodir am dani yn yr hen bennill a ganlyn,

"Miliwn o bennau moelydd a welir
O waelod Trawsfynydd;
Arennig ym Meirionnydd,
Beunes hen yn benna sydd."


NANNAU, ym Meirion, a ystyrrid gynt yn un o'r neuaddau godidocaf yng Nghymru. Yr oedd hen Lys Nannau ar lethr y bryn uwch ben yr ardd, a rhywbryd yn ystod y bymthegfed, neu yr unfed ganrif ar bymtheg, y symudwyd ef ac yr adeiladwyd y palas presennol. Bernir ei fod yn un o'r neuaddau uchaf ym Mhrydain, ac eto, yr oedd yn ei ymyl ardd yn amser yr hen Syr Robert a hynodid o ran ei chynarwch drwy y wlad o graig i gastell. Coedwigfa anferth oedd yr holl fan gynt, a gellir gweled yn awr ryw ychydig o dderw wedi cyrraedd eithaf pennod eu hoes, oblegid nid oedd y rhai hyn yn werth eu difodi yn ystod oes yr olaf o Farwniaid Nannau. Nid oes dim rhyw lawer o gywreindeb adeiladaeth o gwmpas y lle, ond edrych, er hynny, yn gastellfa gadarn, syml, a Chymreig. Y diweddar anfarwol Syr Robert, yr hwn a elwid "yr hen Syr Robert" ar lafar gwlad, oedd, mae yn debyg, y meistr tir caredicaf, y сутydog tirionaf, a gwladwr hynotaf, a'r haelwr mwyaf diball, y welodd Cymru er ys oesoedd; ac, ysywaeth, nid oes fawr o argoel yn y dyddiau cibddall, ariangar, a hunan-dybiol hyn, am neb yn dilyn ei ol ef. Byddai desgrifio Nannau yn amser y Barwn hwn yn ddigon o lyfr, ac un doniol fyddai, os ysgrifennid ef yn debyg i'r hyn a glywir gan y werin am oriau euraidd, llon, a llawen Nannau yn yr hen amser. Y mae llinach Nannau ar ben, a'r olaf o'r welygordd dan y maen mawr ym meddrod ei dad ym mynwent Llanfachraith; a chymhwys y gellir adrodd uwch ben yr hen neuadd, yr hon sy'n prysur adfeilio, eiriau pruddglwyfus Ieuan Brydydd Hir am Lys Ifor Hael;

"Y llwybrau gynt lle bu'r gân
Yw lleoedd y ddylluan."

HYWEL SELE, Arglwydd Nannau, a laddwyd gan Owain Glyndwr.

HIL POWYS. Hil neu epil Cadwgan ab Bleddyn ab Cynfyn, Tywysog Powys, am yr hwn y canodd y bardd fel hyn,

"Bleddyn ab Cynfyn bob cwys
Ei hun bioedd hen Bowys."

Blodeuai O.C. 1073. Yr oedd y Fychaniaid yn disgyn lin o lin o Cadwgan, ac felly hefyd Llwydiaid Cwm Bychan a Blaen y Glyn, &c.

ANIAN, Abad Valle Crucis, neu Llanegwestl, ger llaw Llangollen. Gelwir ef Anian Ddu, a'r Brawd Du o Nannau.

LYWELYN GOCH ab Meirig Hen o Nannau. Bardd a ganodd alarnad drom, alaethus, ar oll Lleucu Llwyd o Bennal, ei gariad

Cydmarer â llinell 308 Horat. Lib. ii. Carm. 20.

"Ac sepulcri
Mitte supervacuos honores,"

sef yw hynny,—"symuder ymaith orwag ogoniant y bedd."

Nodiadau

[golygu]
  1. Adolygiad o'r gerdd yn y gyfrol gyntaf
  2. Oh! weep for those gan George Gordon Byron ar Wikisource
  3. "Bright be the place of thy soul!" gan yr George Gordon Byron ar Wikisource
  4. Cerdd gwbl wahanol i'r un o'r un enw yn y gyfrol gyntaf
  5. MYFANWY FYCHAN oedd rian nodedig o brydweddol, a swyn-hudodd ei thlysni Hywel ap Einion Lygliw i'w mawl-odli mewn dull a modd a enillodd iddi gilfach yn nheml anfarwoldeb. Hannai o wehelyth Tudur Trefor, a threfai yng nghastell Dinas Brân gerllaw Llangollen. Yr oedd yn ei blodau tua'r flwyddyn o.c. 1390.
  6. HYWEL ap EINION LLYGLIW. Cyfoeswr ydoedd ef i'r feinir harddlun, ac fel amryw o'r beirdd, yr oedd yn wan yn ochr cariad. Oes yr awen riangar ydoedd y pedwerydd cant ar ddeg. Dyma'r pryd y canodd "Dafydd ei gywydd gwin," i'w Forfudd fain, ac y plethai y tri brawd o Farchwiail (y rhai oeddynt garenydd i Myfanwy), geinion serch yn ddestlus gywreinfodd. Bernir mai yn ymyl y Bala yr aneddai y bardd.
  7. Dernyn hirgrwn o dir yng nghanol coedlan. Parlasg y gelwir ef weithiau.
  8. Gwyddfid, wood-vine.
  9. All-gwest-og—lle a digon o borfa rywiog.
  10. Dwy linell ar ddelw Longfellow, y bardd Americanaidd syber. Dyma llinellau,
    "And the hooded clouds like friars
    Tell their beads in drops of rain."
  11. Gwull,—flowerets, wild flowerets
  12. Gwyddan,—Nymph
  13. Magien, Gwyllon,—Glow-worm. Tân bach diniwaid
  14. GLYN Y GROES,—Valle Crucis. Llanegwestl, Mynachlog y Glyn. Un o'r hen grefydd-dai ardderchocaf a feddai Cymru gynt, ond erbyn heddyw crug anferth o adfail ydyw.
  15. Hen linell dlos o eiddo Gwalchmai, o Dre Walchmai, ym Môn. Blodeuodd о.с. 1170
  16. Golygir yr olygfa ar lannau Llyn Tegid, ym Meirion, gerllaw yr hwn le y trigai Hywel, ebe traddodiad, ond ysywaeth distaw-fud yw hanes ar y pen hwn, a chan hynny teg i'r prydydd ei fan ei hun; ond yn bendifaddeu, coeliwn nad oes achos sennu am rodio yng nghwmni yr awen gerllaw
    "Cyfrinol ddwfr Dyfronwy hen."
  17. CREIRWY, medd yr hen gofiannau, oedd un o "dair gwen—rian Ynys Prydain." Merch ydoedd i Tegid o Čeridwen. Y mae Celtig Davies, yn ol ei fympwy, wedi gwneyd Ellylles genhedlig o'r fûn gariadgar hon, a myn haeru mai yr un ydyw a Proserpine, ond fod y flaenaf o fewn cylch yr Ynys Wen.
  18. ARANROD. Merch Don, a chwaer Gwydion, a ystyrrid drwy'r oesoedd y rian decaf a harddaf yng Nghred. Darllenner cân Taliesin iddi yn y Myf. Arch. cyf. I. 66. Byddai olrhain ei chysylltiad â syniadau rhiengar cenedl y Cymry yn ormod o drafferth ar hyn o bryd, digon yw dweyd mai'r ail o'r "tair gwen-rian" ydoedd.
  19. GWEN, merch Cywryd ap Croydon, bardd o'r chweched cant, oedd y drydedd o'r "tair gwen-rian."
  20. GWENONWY. Rhian nodedig o dlos ag y mae'r beirdd drwy yr oesoedd wedi bod yn ymryson canmol ei glendid a'i lledneisrwydd. Efallai mai Gwenonwy, merch Meurig brenin Morgannwg a Garth-fadryn, ydoedd. Ei gŵr oedd Gwyndaf Hen ap Emyr Llydaw. A hi ydoedd mam S. Meugan, &c., &c. Gwenonwy hefyd oedd enw merch Ifor Hael.
  21. DWYNWEN. Merch i Brychan Brycheiniog. Ystyrrid hi yn santes gyfryngol cariadon. Yr oedd ei heglwys ym Môn, a mynych gyrchid yno gynt i roi aberth ar ei hallor gan ddisgwyl lles o'i heiriolaeth. Bu Dafydd ap Gwilym yno amryw droiau.
  22. Lladus,—llad, glân, pur, peth croes i an-llad
  23. Nidron,—boglynau, neu wyau neidr, a wisgid gan y derwyddon. Yr oeddynt fel dwyfronneg Aaron, yn meddu dwyfoldeb, ebe'r cofion.
  24. Gwenallt,—the holy grove.
  25. Dywed traddodiad am yr eos, y cân ei hun i farwolaeth o alar ar ol ei chydmar. Tybia rhai o'r hen awduron y byddai yn dwyn ei chydmar, pan wedi marw, o dan berth ddreiniog, a chan wthio draen blaenllym i'w bron, y pynciai nodyn neu ddau clir, sef ei galargerdd; ac yna, fel wedi i effaith cyntaf y boen ddarfod, cymysgai odl brudd glwyfus,
    "Nes allan yr anadla,
    Ei henaid yn ei cherdd;
    Ac yna tawel huna,
    Yng nghil y goedlan werdd."
  26. LLATAI, gwas caru, a love messenger
  27. MORWYDD, môr forwyn, a sea-nymph. Dywedir y bydd y rhai hyn ar brydiau yn wylo mor dorcalonnus nes y bydd y morwyr didoriad yn gorfod
    "Cymysgu heli'r llygaid
    A heli hallt y môr."
  28. EURON GALON GALED. Gelwir hi weithiau gan rai o'r beirdd yn Euronwy.. Dodwyd yr addasair calon-galed iddi gan Myrddin. Blodeuai yn y chweched cant. Merch ydoedd i Clydno Eiddin, ac yr oedd iddi frodyr a chwiorydd rai, oblegid sonnir yn fynych am Cynon, a thra bo Mabinogi ar gael, caiff ei chwaer Eurnaid ran o'r oesoldeb cyffredin.
  29. CLODFORUS. Un o addaseiriau dewisol yr Anfeidrol fel derbynnydd clod y gwynfydedigion.
  30. ANHUN. Ystyrrid Anhun yn yr amseroedd gynt yn anferthach na'r Hunllef wrthyn, a melldith ofnadwy oedd cael ei farchog gan yr ellylles hon.
  31. Digron "Mae tonnau dagrau digron." G. Owain. Moryn, tonnau mawrion, cesig y tonnau.
  32. Llarw, tyner mwyn, yr un peth a llary yr hen feirdd. Dywedir y bydd yr alarch yn canu cyn marw,

    "There swanlike let me sing and die."

  33. PENLLAD. Y da penaf. Summum bonum y paganiaid uchelddysg gynt.
  34. CASTELL CEIRIOG, Chirk Castle, lle a gyfaneddid gynt gan Saeson trahaus; gwelais sylw fod yno arlwydd unwaith mewn trybini enbyd am ferch Dinas Brân, ac ar y cof hwnnw y seiliwyd y darn a ddilyn.
  35. MEITYN, hen air da ar lafar gwlad am funud, neu funudyn; dywedir beunydd er ys meityn," yng Ngwynedd a'r Deheubarth.
  36. Arthur Llywelyn Morris 1869-1924, Peiriannydd morwrol
  37. Cerdd gwbl wahanol i'r gerdd o'r un enw yn y gyfrol gyntaf

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.