Neidio i'r cynnwys

Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I (testun cyfansawdd)

gan Owen Wynne Jones (Glasynys)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
I'w darllen cerdd wrth gerdd Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Owen Wynne Jones (Glasynys)
ar Wicipedia



Y LLENOR, Llyfr xiii.

GWAITH BARDDONOL

GLASYNYS.

GLASYNYS



Gwrecsam:
HUGHES A'I FAB, 56, HEOL ESTYN.
IONAWR, 1898.



Aberglaslyn


"Lle llithra'r Laslyn loew yn ddistaw tua'r Traeth,
Wrth borth yr hen Gymwynas, hoff drigfa'r awen ffraeth,
Mae'r meddwl yn ymsynnu, mae'n mynnu gwneuthur hynt
Yng nghwmni glân fyfyrdod i fro yr amser gynt."


TY'N Y FFRWD, RHOSTRYFAN.

RHAGYMADRODD.

ER hoffed yw ei wlad o gan Glasynys, hyd yn hyn nid oes iddo gofiant, nid oes yr un casgliad cyflawn o'i waith, ac nid oes carreg ar ei fedd. Ysgrifennodd Llew Llwyfo erthygl gampus ar ei fywyd, ac ysgrifennodd Glaslyn bennod o adgofion sydd gyda'r pethau goreu ysgrifennwyd am un llenor Cymreig erioed. Nis gallaf i ysgrifennu cofiant, fel y medrai Glaslyn neu Lew Llwyfo; ond yr hyn a allaf a wnaf,—cyhoeddaf waith barddonol Glasynys, a mynnaf garreg ar ei fedd.

Wele'n dilyn fyr-gofiant, y rhagymadrodd i "Adgofion" Glaslyn.

"Ganwyd Owen Wynne Jones (Glasynys), yn Nhy'n y Ffrwd, Rhostryfan, ger Caernarfon, Mawrth 4, 1828. Pan o saith i wyth oed cyfarfyddodd damwain trwy i garreg syrthio arno a thorri asgwrn ei glun. Yr unig beth a'i cadwai yn ddiddig yn ei wely yr adeg yma oedd llyfrau, a bu mor ffodus a dyfod o hyd i Ddrych y Prif Oesoedd, a rhoddodd y llyfr hwn y fath gyfeiriad i feddwl ieuanc y bachgen fel y daeth yn un o'r gwladgarwyr mwyaf brwdfrydig a feddai Cymru. Wedi hyn yr ydym yn ei gael yn gweithio gyda'i dad yn y chwarel, a phan oddeutu pedair ar ddeg neu bymtheg oed, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Rhostryfan. Wedi cynhilo ychydig arian yn y chwarel aeth i Ysgol Bron y Foel, a bu yno hyd y parhaodd ei arian, ac yna aeth yn ol i'r chwarel, ac yr wyf yn ei gofio yn gweithio am beth amser yn Ffestiniog ac yn lletya yn Nhy'n Ddol, Tan y Grisiau. Rywbryd tua'r adeg yma y gadawodd efe y Methodistiaid, ac yr ymunodd a'r Eglwys Wladol. Yr oedd ei syched am addysg yn angerddol, ac aeth i Glynog o dan addysgiaeth Eben Fardd, ac oddiyno i Goleg Athrawol Caernarfon. Wedi gorffen tymor ei addysg yng Nghaernarfon aeth drachefn i Glynog, ond nid at Eben Fardd y tro hwn, ond i fod yn athraw yr Ysgol Wladwriaethol.

" Yr oedd Glasynys erbyn hyn wedi rhoi ei fryd ar gael urddau eglwysig, a chyda'r amcan hwn gadawodd yr ysgol yng Nghlynog, ac aeth at Ab Itheli Lan y Mawddwy, a bu o gryn wasanaeth i'r eisteddfodwr enwog i ddwyn oddiamgylch Eisteddfodau Dinas Mawddwy 1855 a Llangollen 1858. Yn ystod ei arosiad hefo Ab Ithel cyhoeddodd lyfryn bychan pris grot, yn yr hwn, ymysg pethau ereill, yr ymddanghosodd y rhiangerdd gyntaf a gyfansoddodd, sef Lleucu Llwyd, yr hon oedd yn ail oreu yn Eisteddfod Dinas Mawddwy, —Ab Ithel oedd y goreu,—ac arwisgwyd ef a blodeuglwm arian.

"Wedi ei drwytho yn ysbryd a chyfrinion barddas gydag Ab Ithel, gadawodd Glasynys Lanymawddwy a daeth i Feddgelert i gartrefu hefo'r Parch. William Hughes, periglor; ac yma y bu yn fawr ei barch hyd nes y derbyniodd urdd diacon gan Esgob Bangor. Yn niwedd y flwyddyn 1860 aeth oddiyma i wasanaethu swydd diacon yn Llangristiolus, Mon, ac oddi yno drachefn aeth yn gurad i Bontlotyn, sir Fynwy:

"Ni bu ei arosiad yn hir ym Mynwy, dychwelodd yn ol a bu yn aros am beth amser ym Mhorthmadog, ond yn awr (fel y digwyddai yn aml gyda'r Prydydd Hir o'i flaen), heb ddim curadaeth. Oddiyma efe a briododd â Mrs. Jones, gynt o'r Sportsman Hotel, Porthmadog, ac aethant i fyw i Dywyn, Meirionnydd, ac yma y bu farw Glasynys, Ebrill 4ydd, 1870, yn 42 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Llandwrog, heb ddim i nodi man fechan ei fedd."

Yn y rhifyn hwn ceir rhai o ddarnau cyntaf anaddfed Glasynys, rhai o'i ddarnau enwocaf, a'i ddarnau olaf. Codais hwy, gan mwyaf, o'i lawysgrif, a ymddiriedwyd imi gan ei chwaer ac ereill.

Bydd y gweddill o waith barddonol Glasynys mewn un rhifyn arall. Defnyddir yr elw i roddi carreg ar ei fedd.

O. M. EDWARDS.

LLANUWCHLLYN, 1897.



Y WYDDFA O LANBERIS,

CYNHWYSIAD.


HAFOD LWYFOG.

DARLUNIAU[1]

Wyneb-ddarlun,-PONT ABER GLASLYN (Batty, Finden.)

Glasynys (J. Thomas)
Ty'n y Ffrwd (S. M. Jones).
Y Wyddfa (Batty, Finden)
Hafod Lwyfog (O. M. Edwards)
Y Twll Du (S. M. Jones)
Yn nyffryn Beddgelert (J. Gastineau, J. C. Varrall)
Pistyll y Cain (J. Gastineau, H. Adlard)
Cader Idris (Batty, Finden).
Ieuan Gwynedd (J. Thomas)
Ty Croes (O. M. Edwards)
Cader Idris (Gastineau, T. Barber)
Llanelltyd (Gastineau, S. Lacey)
Eglwys Llanfachreth (Gastineau, T. Barber)
Dinbych (Batty, Finden)
Beddgelert (Gastineau, J. C. Varrall)
Rhwng Beddgelert a Chaernarfon (Batty, Finden)
Llyn Gwynant (Gastineau, J. C. Varrall)
Aber Glaslyn (Batty, Finden)


CANIADAU ORIAU DIFYRRWCH.
RHAGDRAETH,

Yn lle gadael i fy meddwl fod yn segur, meddyliais mai nid peth allan o reswm fai cadw rhyw ychydig o'm gwaith noswylaidd, er fy hunan ddifyrrwch, ynghyda rhyw ychydig o ffrwythau awen rhai o'm cyfeillion.[2] Amcanaf yn dda gyda'r dduwies Awen; pa beth a ddaw nis gwn, ac ni chwennych i mi wybod ychwaith. Mae'n wir y gall y beirniad manylgraff weled llawer iawn o wallau, ac efallai rai gemau yma; fel pob gwaith bachgennaidd, y maent yn siwr o fod yn gymysgawl. Ond os oes i mi iechyd, efallai y daw y dydd ein pethau mawr yn lle ein pethau bychain; os byddwn yn fyw y daw ein hafonig fach i lawr o'r llethrau, i lithro hyd ddolydd hyfrydlawn dysg.

Alban Hefin, 1851.

"Cas gŵr na charo 'r wlad a'i maco,"
Tra Chymru, Cymro, a Chymraeg.


I.—DYMUNIAD Y BARDD.

CYN myned i'r beddrod i huno mewn heddwch,
Fy mhechod, O cuddier yn eigion y môr;
Fel caffwyf feddiannu ardaloedd dedwyddwch,
A byw yng ngogoniant tragyfyth yr Ior.

Fy meddrod dymunwn i gael ei orwisgo
A changau irleision o gelydd y fro,
Fel galler adnabod fy hunfan yn gryno,
Wrth edrych o'r teithydd gall ddweyd,—"Dyna fo."

Yn agos i gysgle fy mhabell ddaearol
Na thyfed un gwelltyn ireiddlas a hardd;
O boed i'r holl flodau fo iddo'n gylchynol
Ddangos eu parcheb i feddrod y bardd.

Na chaned yr adar uwchben fy ngorweddfan,
Ond boed iddynt basio fy nugell mewn hedd;
Dim canu, dim wylo, na foed ar fy meddfaen,
Dim mwstwr ychwaneg na "Thyma ei fedd."

Y wyryf deleidwiw, na cholla dy ddagrau,
Na fydd yn alarus am wrthrych dy serch,
Er idd ei farwolaeth fod iti'n ofidiau,
A chofio ei briddo yn alaeth tra erch.


Y wyryf angylaidd, cei dithau un anrheg
Fel cofawd diweddaf i'r hwn gadd dy serch';
Cei orwedd yn dawel o dan yr un garreg,
Fel iawn danghosiadol o gariad teg ferch.

Yn stafell y beddrod boed inni gyd—huno
Nes rhoddo yr angel ei alwad mewn hedd,
Pryd hynny ein deuoedd i fyny gwnawn neidio,
Daw gwawr y cyfodiad ar ddunos y bedd.

I froydd dedwyddol y nefol drigfannau
Yr awn i lawenydd, llawenydd yr hedd,
I seinio yn beraidd, heb boen na gofidiau,
Tu draw i erch ingoedd hen angeu a'r bedd.


II.—DINISTR SENNACHERIB.
(O Saesneg Byron)[3]

FEL blaidd ar y praidd yr Assur a ddeuai,
Mewn glaswisg ac aur ei filwyr belydrai;
A dullwedd eu harfau fel ser ar y lli,
Pan belydrent yn nosaidd ar for Galili.

Fel gwyrddail y goedwig ar fore o hafddydd,
Y llu oedd ar fachlud yr huan yn llonwydd;
Fel crinddail y goedwig ar ddiwedd y flwyddyn
Yn feirwon gorweddai 'r nos holl lu y gelyn.

Canys angel mawolaeth yn chwai a ehedai,
Ac wrth fyned heibio ar y gelyn anadlai;
A'u llygaid yn gysglyd gan angeu a aethent,
Eu calon yn drymaidd, eu bywyd nis cofient.

Y march ffroen-agored orweddai yn llonydd,
Heb gynnwrf am ymladd, na ffroeniant o awydd;
Ac ewyn ei ffrwstedd y llawr a orwynnai,
Yn oer fel y lluwch ar y graig y disgynnai.

Ac yno yn welwaidd gorweddai y marchog,
Yn rhydlyd ei arfau, a'i ruddiau yn wlithog;
Lluestai yn ddistaw, baneri heb chwyfiant,
Y saffwy yn llonydd, a'r cyrn heb a'u chwythant.

Y gweddwon Assyriaidd yn uchel a wylant,
Ac yn nheml Baal eu duwiau a dorrant;
A gallu'r cenhedl-ddyn, heb gleddyf yn hyrwydd,
A doddai fel eira yng ngwyddfod yr Arglwydd.


III.—AT BERTHYNAS GALARUS.

DEFNYDDIAF yr adeg hon i'ch anrhegu
A chyngor caruaidd a mwynaidd mewn brys
Fel anwyl berthynas, fel cyfaill yn credu
Na fyddwch ddigofus wrthyf am hynny,
Am anfon anerchiad bach atoch o'm llys.

Fe'm blinwyd yn ddirfawr gan eich ddull dwysawl;
Na fyddwch alarus, na wylwch yn hwy.
I beth y gofidiwn? Can's dyna'r gosodawl
Ddiweddiant a'n cyffwrdd ninnau yn ddidawl—
Yr alaeth diweddaf—pob peth drosodd mwy.

Rhai i fyned ŷm ninnau, rhai i feirw yn raddol,
Rhai 'n rhodio 'r cul lwybyr i stafell y bedd,
Yno y byddwn yn cysgu hun oesol,
Dan lenni gordoawl y bydd ein llwch marwol,
A'n henaid, gobeithiaf, yn nhrigfan yr hedd.

I beth y gwnawn wylo dros y rhai meirwon?
Onid rhai i feirw ein hunain ŷm ni?
Onid oes ynnom ddigonedd o dystion
Nad ydym i'r ddaear ond gwan bererinion?
Y beddrod yw'n cartref er cymaint ein bri.

Yng nghongol rhyw fynwent y byddwn ni'n fuan,
Yn huno yn dawel yng ngraian y bedd,—
Rhywun yn darllen ein henwau yn gyfan,
Yn eithaf digyffro, ar garreg ein gwyddfan,
A ninnau, gobeithiař, ym mhreswyl yr hedd.

'Nol huno hir ennyd yn y bedd tawel,
'Nol cysgu ein cyntun dan y pridd trwch,
Daw'r adeg i'n codi i fyny o afel
Y gelyn oer ingol, a'n gollwng heb argel;
Daw'r caethion o'r caethglud, bywheir ein gwael lwch.

Archangel, a'i wisgiad mor gannaid a'r eira
Rydd ddolef nes neidiwn i fyny yn fyw;
Tynga yn enw yr Alpha a'r Omega,
'R hwn ydoedd y cynta, fydd eto 'r diwedda
Na fydd dim amseriaeth; y diwedd, hwn yw.


Y Barnwr goruchel a welaf yn dyfod
I roddi barn gyfion ar luon y llwch,—
Pawb heb wahaniaeth yn mynd i'w gyfarfod,
Y cyfiawn yn llawen, yr annuw trwy orfod,
Gweddia ar fryniau i'w guddio yn drwch.

O olwg ofnadwy fydd ar yr anuwiol,
Cydwybod yn gerthawl fel llewes yn lladd,
Ei wyneb fel gloyn fydd yno'n bardduol,
Wedi ei ddamnio, a hynny'n dragwyddol,—
O ddiwedd dychrynllyd fydd hwn i bob gradd.

Ond gwelaf lu arall, hen blant y cystuddiau,
O olwg ardderchog, yn siriol eu gwedd,
Wedi eu golchi ym mhur waed y Meichiau,
A'u gwneuthur yn gymwys i'r nefol drigfannau,
Cânt forio 'n dragwyddol ym moroedd yr hedd.

Ar fryniau bytholfyd yn fywiol yn Seion,
Y ddinas bartoawl gan y Duw dad,
Y cânt yn dragwyddol fwynhau y danteithion
A brynnodd yr Iesu â phur waed ei galon
Yn hardd etifeddiaeth i'r pwrcas yn rhad.


IV.—DYMUNIAD.

YN ymyl y llwybr sy'n arwain i'r eglwys,
O dan y werdd ywen caf huno mewn hedd
A'm henaid yn trigo ardaloedd Paradwys,
A'm corff yn dawel dan lenni y bedd.

Fy meddrod a wisgir, pan ddelo y gwanwyn,
A glaswellt a blodau tegwychion eu gwedd;
Yr hedydd a gân ei garol yn hyfwyn
Ar doriad y wawrddydd uwch gwely fy hedd,

Y gwlith a eneiniant fy meddrod yn deraidd,
Rhydd natur ei dagrau uwch cysgle y bardd;
Danghosa fod Arvon[4] dan lenni gordoaidd,
'Rhwn unwaith fu'n geinwych fel rhosyn yr ardd.

Yno y gorffwysaf, caf huno fy ennyd,
A'm hysbryd yn lleraidd breswylydd yr hedd,
Hyd ddydd y cyfodiad, pryd deuaf i'r bywyd,
Yn hollol fuddugol ar angeu a'r bedd.


Fy Arglwydd, tra byddwyf yn nhaith yr anialwch,
Bydd imi yn gwmwl o nifwl bob dydd,
A cholofn ordanllyd yn y tywyllwch
Nes deuaf trwy'r afon i Ganan yn rhydd.

Duw Ior hollalluog, yr hanfod tragwyddol,
Bydd imi yn bopeth tra fwy yn y byd,
A phan bwy'n ymdrechu ag angeu oer ingol,
Ior, cymer fi adre i'r ddinas sancteiddiol,
I'r fangre ddymunol, i drigo ynghyd.


V.—CYFIEITHIAD O'R SAESNEG.[5]

Y COEDWR, arbed di yr anwyl goeden hon;
Na chyffwrdd arni hi, ond parcha hi yn llon.
Hi fu'n gysgodfa im yn nyddiau maboed chweg,
Gan hynny rhof fy ngrym i'w chadw hithau 'n deg.
Un o'm cyndadau cu â'i law roes hon i lawr,
O flaen ei fwthyn bu'n ei wylied e bob awr.
Gan hynny, 'r coedwr glân, gad iddi sefyll mwy,
A'th fwyell na wna'n fân, na chyffwrdd arni mwy.

Y goeden enwog hon, y mae ei chlod ar led,
Ym mysg pob gradd o'r bron, tros orau eang cred;
Ah ddyn! na feddwl am ei thorri hi i lawr,
Byth na wna y fath gam. O arbed hon yn awr.
Mae'r ddaear am ei bon yn gwasgu'n anwyl iawn,
O gwrandaw ar y dôn yn gwneyd erfyniad llawn,—
O arbed, arbed di yr oesol dderwen gref,
Yr hon sy a'i changau fry yn dyrchu tua'r nef.

Pan yr oeddwn gynt yn fachgen ieuanc glwys,
Bu'n dda i mi ar fy hynt ei chysgod hyfryd mwys,
Gael imi yn ddiau ymguddio rhag y plant,
Y fi a'm chwaer, ein dau, buom yma'n tiwnio 'n tant.
Dyma yr hyfryd fan fy mam im gusan rhoes,
A'm tad, a minnau'n wan, a wasgai'm llaw heb loes.
'Rwy'n gofyn iti'n awr; yn wlyb gan ddeigr mae ngrudd,
Na thor y dderwen fawr, 'rwy'n erfyn drosti'n brudd.

Mae'm calon arnat ti, o'th amgylch ogylch traidd,
Fel rhisgl wyt i mi, yn well na chyfaill braidd.
Oddiar ei changau ir yr adar gwyllt a gân,
Perorant yno'n glir o rhwng y brigau mân;
Y storm yn gerth barhai i ruthro 'n deryll iawn,
Y coedwr ymaith ai, byth mwy ei le a gawn;
Tra byddwyf fi yn fyw, os medraf cadwaf hon
Rhag y fwyell mwy tra ar y ddaear hon.


VI. NID MARW A WNAETH.

NID marw a wnaeth, er syrthio yn gaeth
I'r beddrod yng nghanol ei ddyddiau;
Mae eto yn fyw ym mhreswyl ei Dduw,
Tu draw i afaelion gofidiau.

Dihangodd i'r bedd yn welw ei wedd,
Er hynny nid marw a ddarfu;
Ond huna mewn hedd, dan lenni y bedd,
A'i enaid mewn hwyl yn moliannu.

Os torrwyd i lawr un tegaidd ei wawr
I'r dyffryn i huno am ennyd,
Wrth floedd udgorn Duw daw i fyny yn fyw
Heb arno ddim ol yr oer weryd.

Mae mangre wech fry i'r rhai yma fu
Yn parchu yr hwn a groeshoeliwyd,
Wedi ei pharotoi gan Dduwdod didroi
Yn wobr i'r rhai a gystuddiwyd.

Er rhoddi ei lwch dan lenni gor-drwch,
Daw allan fel rhosyn y gwanwyn;
'Nol gorffwys mewn hedd yn nu auaf y bedd,
Daw allan yn iraidd ac addwyn.

Na wyled y byw, can's nid marw yw,
Ond huno y mae yn yr Iesu;
Mae'n bod gydag ef yn ninas y nef,
Yn adsain yr oslef fwyneiddgu.

Na wyla yn hwy, ond bydd o hyn mwy
Yn foddlawn i weithred y Duwdod;
Yr Arglwydd yw e, 'does dim o'i iawn le,
Ond popeth yn ol ei awdurdod.

Un rhyfedd yw Duw, a'i waith yr un rhyw,
Testyn sy'n fôr heb derfynau;
Difesur yw e, mae'n llanw pob lle,
Mae goruwch ein hamgyffrediadau.

Cymerwn e'n Dduw tra byddom yn fyw,
Ac yna diogel a fyddwn;

Cawn gymorth wrth raid, fe gymer ein plaid,
Nes byddwn yng Ngwynfa yn ddidwn.

Duw Ior fyddo'n rhan. Ein henaid bach gwan
Fo'n dawel wrth gofio y beddrod;
Nid ydyw, yn wir, ond noswaith mewn tir,
'Nol dunos fe ddaw yn ddiwrnod.


XIV.—O WYLA DROS Y RHAI.
(Cyfieithiad o O weep for those Byron.)[6]

 
WYLA dros y rhai wrth Babel draw
Sydd yn galaru am eu gwlad heb daw;
O wyla am delynau Judah'n awr,—
Galaetha am breswylfa'r Brenin Mawr.

O Isräel, pa le rhoi'th waedlyd droed?
A cherddi Seion, pam mewn bedd eu rhoed?
Mawl odlau Judah unwaith eto gawn,
Y galon lam wrth lais y nefol ddawn.

Crwydredig lwythau'r byd, pa bryd y dont
Idd eu gorffwysfa? Buan yno bont!
Mae i'r glomen nyth, a'r llwynog ffau er hedd,
Gwlad i'r cenhedloedd, Israel dim ond bedd.



XV.—YR EWIG WYLLT.
(Cyfieithiad o The Wild Gazelle Byron.)[7]

YR ewig wyllt ar Judah fryn
A lam fel oen yn hardd,
Hi yf ffrydlifau pob rhyw lyn
Trwy'r sanctaidd dir a dardd;
Ei hysgafn gam a'i llygaid syw
A heibio'n chwim mewn hoender byw.

Bywiocach cam a threm mwy cu
A welodd Judah gynt,
Ac ar y dolydd yma lu
Y rhai yn awr nid ynt;
Y cedrwydd ban ar Liban chwardd
Fel cofawd o'r rhai oedd yn hardd.

Mwy dedwydd yw'r balmwydden ir
Nac Israel blant ar daen,

'Nol iddi gael ei gwraidd i dir
Arhoa yn ddichwaen;
O'i genedigol le nid a,
Mewn arall dir byth ni fywha.

Rhaid inni grwydro 'n welw 'n gwedd,
A marw 'n arall dir;
Lle llwch ein tadau, sef eu bedd,
Ni chawn ni,—dyna 'r gwir.
O'r deml ni 'dawyd maen ar faen,
A chwmwl gwawd dros Salem daen.


XVI.—DYDD Y FARN.

MAE dydd i ddod, dydd mawr yr Ior,
Pan sigla 'r byd, pan ferwa'r môr,
Pan syrth y ser i lawr o'u lle,
Pan dwlla 'r haul a lloer y ne,
Pryd hyn y bydd y diwedd mawr
Ar holl weithredoedd daear lawr.



XVII. CYMRU FU, CYMRU FYDD.

"CYMRU fu, Cymru fydd," arwyddair a lonna fy nghalon,
"Cymru fu, Cymru fydd," sy 'n ennyn gwladgarwch serchoglon,
Mae 'm henaid yn dân, o hoffder pur glân
Am greigydd crogedig Eryri;
Mor ddengar i mi yw'r bryniau di-ri
Y naill uwch y llall yn ymgodi.

"Cymru fu, Cymru fydd," medd rhuad y gwynt yn y creigia',
"Cymru fu, Cymru fydd," medd adlef mynyddau Gwyllt Walia;
Hen Gymru fy ngwlad, yr wyt yn ddi-wad,
Yn anwyl gan deulu yr Awen;
Mae hinon dy hedd yn llonni eu gwedd,
Fel blodau dan belydr yr heulwen.

"Cymru fu, Cymru fydd," medd afon yng ngheunant y mynydd,
"Cymru fu, Cymru fydd," bob bore yw cân yr ehedydd
Yn entrych y nen y seinia'n ddi-sen,
A'i edyn mae'n dala ei delyn;
Arllwysa 'n ddidawl ogoniant a mawl
Gan wahawdd yr adar i'w ddilyn.

"Cymru fu, Cymru fydd," medd tonnau y môr wrth ymrowlio,
"Cymru fu, Cymru fydd," o'r goedlan y bronfraith wnai eilio,

O ganol y dail y cantor di—ail
Dywalltai ryw ddylif o foliant,
Uwch Cymru fy ngwlad, lle bwthyn fy nhad,
Perodlai ei ganig heb seibiant.

"Cymru fu, Cymru fydd," medd cyd-gôr asgellog y goedwig,
"Cymru fu, Cymru fydd," medd cydgan eu hawdl nodedig;
Organau y coed, yn ddistaw na foed
Eich mwynlais, ond eiliwch yn llawen;
I Gymru fy ngwlad, lle bwthyn fy nhad,
Per bynciwch heb daw, medd fy awen.

"Cymru fu, Cymru fydd," oedd carol blygeiniol y brongoch,
"Cymru fu, Cymru fydd," oedd lleisiant y frân yn uchel—groch;
Y gigfran yn hyf a grawciai yn gryf
Nes adlef ei llais yn y creigydd,—
"Gwyllt Walia, y wlad na choncrodd un gad,
Boed iti barhad yn dragywydd."

"Cymru fu, Cymru fydd," oedd gweddi yr henwr crymedig,
"Cymru fu, Cymru fydd," medd plant y cartrefi unedig;
'Roedd pawb yn un fryd am gadw ynghyd
Ogoniant cyntefig y Brython,
A rhoddant yn rhwydd eu gweddi mewn llwydd
Fod iddynt barhau yn gysurlon.

"Cymru fu, Cymru fydd,"medd beirddion coethedig gwyllt Walia,
"Cymru fu, Cymru fydd," medd noddwyr llenyddiaeth hen Gambria;
"Hen Gymru a fu am oesoedd yn gu"
Fo ymffrost pob Cymro gwladgarol,
"A Chymru a fydd" a ddylai 'n ddi-ludd
Fod testyn ein gweddi wastadol.


XXI.—BEDD-ARGRAFF.

DDYN, ystyria! Edrych, dyma 'r fan
Y mae fy nghorff yn gymysg gyda'r llwch;
Tra mae fy enaid yn y rhannau ban,
'Rwyf fi yn dawel dan y llenni trwch.
Meddylia, ddyn, am farw! Dyna'th ran,
Partô yn awr am gilfach gled a glan.



TWLL DU
Dywed Glasynys iddo gael rai o syniadau Murmuon y Gragen oddiwrth draddodiadau a golygfeydd y Twll Du a elwir hefyd yn "Gegin y Cythraul"



"Swn y tonnau'n curo'r glannau,
Tonnau'r nos ar draeth y dydd."


MURMURON Y GRAGEN.

MIN diwedydd teithio wneuthum draws y morfa tua'r traeth,
Tybiais glywed adswn TYNGED ym chwedleua'n ffri a ffraeth
Clywais hefyd suol—siffrwd, fel bydd ffrwd yn sibrwd Ust,
Yn y pellder wedyn clywais,—"Dyro gragen wrth dy glust."
Hyd y feisdon crwydrai'r wendon, gan ymdaenu dros y traeth,—
Weithiau'n codi yn ei chwman, weithiau'n llonydd megis llaeth;
Byddai weithiau'n hir a chribog, a chantellog yn ei thro,
A phryd arall yn cynddeiriog ruglo'r cregyn yn y gro.
Gwelwn yn y du Orllewin dew gymylau'n do ar do,
Rhai'n fynyddau, creigiau gwgus, ereill megis bryniog fro;
Rhuai'r môr, a thyrfai'r tonnau, moryn ar ol moryn ddaeth,
Fel i ddangos ei wrhydri wrth ymlafnio hyd y traeth.
Sisial 'r oedd y gro a'r cregyn wrth eu rhygnu yn ddi-ball,
Minnau yn y môr—luwch—ddrycin yn palfalu fel un dall.
Tybiwn glywed ar y morlan yr ymddiddan gyda'r Ust;—
"Dos i'r traeth a phiga gragen, dyro honno wrth dy glust,
Clywi ynddi'r Môrforwynion yn clodfori'r tonnog gôr,
Clywi hefyd y cyfrinion sydd ynghadw gan y môr."

Eis i lawr i'r traeth i chwilio, cefais gragen yn y man.
Wedyn myned wnes i wrando'r hyn a glywswn ar y lan;
Du-fantellog dawch y Dwyrain, i'r Gorllewin rithiog len,
Ymdaenasant nes oedd pygddu fwrllwch tew o gylch fy mhen.
Codai'r môr ei ruwch yn feiddgar, gwaeddai'r tonnau'n wallgof groch,
A phob cragen ar y feisdon oedd yn swnio megis cloch.
Methai'r gwynt a bod yn llonydd, rhuthrai'n hyf gan faeddu poer,
Ac ysgytiai'r tonnau'n enbyd. Rhwng dau gwmwl corniog loer
Daflodd oleu gwelw, egwan, goleu rhithiog, dawnsiog, gwyllt,
Goleu—arlliw gwibiog fellten, pan fo GRYM yn lluchio byllt;
Gwelwn long, neu rywbeth tebyg,—ar amrantiad collodd hon,
"Soddi, soddi, boddi, boddi," ydoedd stwr y drystiog don.
Dyma'r gragen! Beth yw'r dwndwr? Su wylofus ynddi sydd,
Swn y tonnau'n curo'r glannau,—tonnau'r nos ar draeth y dydd;
Swn unoldeb anfarwoldeb ym mhellderau'r byd a ddaw,
Sydd i'w glywed yn y gragen yn ymdyrfu yn ddi-daw;
Ing a gofid, gloes wylofain, braw ac ubain, poen ac aeth,
Glywir draw ymysg y tonnau sydd yn golchi'r bythol draeth.
Clywaf oer—gri cyfaill difri, cynni'n cnoi ei enaid caeth,
A gwiberod, seirff a nadrodd, a'u colynnau megis saeth
Yn ei bigo, gwenwyn marwol yn eplysu'i dyner gnawd,
Dirdyniadau llym llosgiadau yn ei ffaglu, druan tlawd!
Ingoedd wleddant ar ei galon, cigfran sydd yn bwyta'i fron,
Yntau'n llefain, "O! na fyddwn dan ryw ebargofus don."
Edrych, gwel ei lygaid gwelw,—delw angeu yn y ddau,
Yntau'n llefain nes mae'r twrw yn y gragen yn lleihau,
Gwelais ef yn fachgen llawen, cyn i Gynnen lâs ei bryd
Ei ddyfetha, drwy wybeta hyd ei lwybrau yn y byd;
Gwelais ef fel awel dawel yn y coed ar fore Mai,
Llanw bywyd yn ei gludo draw, heb neb yn son am drai,
Gwrando'i drydar dwfn—gwynfannus sydd yn ysu'r ddwyfron hyn—
Galarganu mae ei farwnad fel yr alarch ar ryw lyn.
Os oes eisiau angel—deimlad, gwrandaw ganiad gwlad yr hedd,
Er mwyn cael gair o dragwyddoldeb, rho dy glust wrth ddrws y bedd.
LLONG YN COLLI? BODDI! BODDI! O! mae hyn yn toddi 'nghnawd,—
Gweld y dwylaw oll yn suddaw! O! ddolefau'r truain tlawd!
Ond mi glywaf yn y gragen son am drymach peth na hyn,
"Yr adlefau yn ddialgar sydd yn ceisio damnio'r gwyn!"—
Dynion nef a dynion daear, bydd edifar i chwi'r gwaith,
Ni ddileir mo'ch culni gwrthun oesoedd tragwyddoldeb maith.
Sisial sisial mae rhyw seiniau, dwsmel seiniau gwlad yr hedd—
Er mwyn cael gair o dragwyddoldeb, rho dy glust wrth ddrws y bedd.
Clywi Fwynder, morwyn Hyder, pan yn syber wrth ei swydd
Yno'n canu, yn suo-ganu, odlau llawen meibion llwydd:

Clywi Gariad pur yn siarad gwir farddoniaeth ar y graig,
Dau yn uno, doed a ddelo, i fod mwy yn wr a gwraig!
Cysegredig fyddo'r clogwyn! Nefol engyl daenont wyl
Adenydd drosto, nes y delo eurog ddydd y priod—wyl.
Ond mae swn ar forlan einioes gan y gwynt wrth suo Ust,
"Pan ar draethell tragwyddoldeb, cadw'r gragen wrth dy glust."
Mae murmuron glân ysbrydion, miwsig moesol amser gwell
Yn y gragen, ac argoelion clir nad ydyw ddim ymhell;
Y mae'r wendon ar y feisdon wrth ymdaenu'n gwenu'n awr;
Ciliodd gŵg, diflannodd gofid, o flaen llygaid teg y wawr,
Y mae'r blodau'n dechreu agor, blagur ddail sy'n cuddio'r coed,
Anian dlos sy'n prydferth wisgo esgid feillion am ei throed.
Dros brydnawn y bydd wylofain, yn y bore hyfryd ddydd,—
Mae ym mynwes y dyfodol lawer rhodd i'r teulu rhydd.
Sued tonnau cribog amser ar draethellau'r byd a ddaw,
Canaf finnau heb un pryder tra bo'r gragen yn fy llaw;
Ac os daw dros fynydd Gofid awel oer i suo Ust,
Dilyn wnaf gynghorion Tynged;—rhof y gragen wrth fy nghlust.

Pan oedd awel dyner dawel Mai yn distaw sibrwd Ust,
Rhodio'r oeddwn hyd y feisdon gyda'r Gragen wrth fy nghlust;
Ynddi clywn su pruddglwyfus, swn dolefus ing ac aeth,
"Cuddia'r tonnau'n fuan, fuan, lun y troed sydd ar y traeth."
Eis i lawr i grwydro'r draethell, gwelais yno lun y troed.
Ac fel hyn ymholai'r meddwl,—fel gwna plentyn pedair oed,—
"Pwy oedd hwn fu'n croesi yma? Ymha blwyf 'roedd tŷ ei dad?
Pa beth, tybed, oedd ei neges? Ai ymdeithio'r oedd i'w wlad?
Dyma lun y troed yn amlwg yn y tywod ar y traeth,
Ac yn dangos ei gyfeiriad; ond pa beth o hono ddaeth?
Os aeth ef yr ochr aswy, tonnog feddrod yw ei ran,
Ond os cymerth dde gyfeiriad, mae'n ddiogel ar y lan."
Dilyn wnes yn araf bwyllog lun y troed ar draws y traeth,
Er mwyn gweled beth ei dynged, beth yn ddiwedd iddo ddaeth;
Croesais lawer afon lydan, llawer bâs lyn, llawer pwll,—
Ofni 'r oeddwn weld ei gorffyn wedi suddo i ryw dwll.
Ond ymlaen yn ddiflin hwyliais ar hyd llwybyr llun y troed,
Mewn peryglon enbyd weithiau, ac mewn ofnau mwya erioed;
Arall brydiau hwylus deithiwn, gan bêr—byncio melus salm,
Llawer emyn hefyd brofais ar fy siwrnai fel yn falm.
Ond o'r diwedd pan yn sefyll clywn greglais uwch fy mhen,
Creglais oer ac anaearol ydyw creglais gwylan wen.
Synfeddyliais, braidd nad ofnais mai rhyw arwydd ydoedd hyn,
Fod y troed, yr ol ddilynais, wedi suddo i rhyw lyn.
Draw fe swniai'r môr yn dreiddiol, swn parhaol donnog gôr;
Swn rhyw bellder anirnadwy, eto'n agos, sy'n y môr.

Gwelwn wedyn droad sydyn, yn y llun i lyn gerllaw,
Ac wrth graffu gwelwn hefyd iddo lanio 'r ochor draw;
Ar ei ol dilynais innau, yntau 'n pwyso ar y dde,
A mwy amlwg oedd ei gamrau yma nag oedd mewn un lle.
Fe gyfeiriai tua 'r feisdon,—yna tua phrydferth goed,
Lle ca 'r "un lluddedig orffwys" heb un arlliw llun ei droed.
Sefais innau 'n syn pan welais lun fy nhroed ar hyd y traeth,
A murmurai 'r môr wrth lenwi,—" Neb yn ol os trosodd aeth."
Ond pan oeddwn bron a boddi, daeth ryw angel hefo bâd,
A dychwelais dros y tonnau eto 'n ol i dŷ fy Nhad.

Y mae awel dyner dawel dwyfol Fai yn sibrwd Ust,
Minnau'n crwydro traethell einioes gyda'r gragen wrth fy nghlust;
Dyfal wrando dwfn—furmuron, iaith ysbrydion yn y gwynt,
Tonnog su y cel-gyfrinion ym mhellderau 'r amser gynt!
Sua 'r awel gyngan angel rhwng dail-frigau'r goedlan werdd,'
Ac encilion cymoedd ceimion sydd yn mud addoli 'r gerdd;
Gwridog flodau pren afalau sydd yn gnydau ar y coed,
A'r briallu sy 'n diballu fritho'r ddaear dan dy droed.
Dyma'r fan tu draw i'r draethell,—tawel fan y ddeheu law,
Lle ca'r "un lluddedig orffwys," wedi cefnu poen a braw.
Er mor aml y blin gystuddiau ym mâs lwynau'r draethell hir,
Ac er dyfned afon-rydiau poen a gofid, caed y tir;
Canaf efo 'r glân ysbrydion odlau mwynion, odlau hedd,
Odlau'r nefol bererinion pan mewn gwlad nad oes un bedd.
Pan dan gysgod pren afalau yn mwynhau ei ffrwythau pur,
Wedi anghof lwyr anghofio pob blinderau, poenau, cur,
Canaf newydd gân a synna bawb drwy holl orielau 'r nef,—
Gwrando'n fud wna tragwyddoldeb ar yr anthem "IDDO EF."
Sefyll wnaf ymysg cerubiaid a seraffiaid nefol gôr,
I fwynhau eu dwfn beroriaeth,—dwfn a thonnog fel y môr;
Ond pan welwn UN—YR IESU—gorfydd i'r angylion glân
Ddistaw wrando plant y cystudd yno 'n gorfoleddu cân;
Son y byddant am ei burdeb,—am y bywyd drwyddo ddaeth,
A moliannant yn ddiflino LUN Y TROED FU AR Y TRAETH.

RHIF VIII.
CANODD un o'r MOR-FORWYNION gân forwynol am Y GWYNT,—
Cân wyryfol NEFYN NEIFION, pan mewn ogof ar ei hynt;
Dyma'r swn ddylenwai'r ogof; telyn-gragen yn ei llaw,—
Mwynder gynghaneddai 'n felus odlau'r dyfnder yn ddidaw.

Canaf y Gwynt, adroddaf ei hynt,
A'i hanes drwy gydol yr oesoedd;

a fodd y gwnaeth gam a'r Awel, ei Fam,
Wrth ddibris anrheithio ei llysoedd;
Ac hefyd y modd ffyrnigwyllt y ffodd
A'i ysbail i'r gwagle diderfyn;
Ymladdai yn hyf bob gwron yn gryf;—
Ei gryfder ei hun oedd ei erfyn.
Er dechreu y byd, mae'n crwydraw o hyd
I chwilio a chwalu'n ddiseibio
Am enw ei Dad,— pa le 'r oedd ei wlad?
Ac erlyn ei Fam gan ei rheibio.
Ffyrniga fel llew,—gwna'r moroedd yn dew
O ddarnau maluriol y llongau;
A chwardda 'n ddi-fraw wrth afael yn llaw
Y creulon, aniwall, yr ANGAU.
Marchoga 'n ddi-baid,—pan fydd hynny 'n rhaid,—
Feirch cyflym a hoew'r elfennau;
Dros fynydd a bryn, dros ddyffryn a glyn,
Yn wylltion, heb ffrwyn yn eu pennau.
Bydd weithiau yn gawr, ar hyd y môr mawr,—
Yn hynaws, bryd arall yn ellyll;
Dyrwyga ei wedd,—ysguba ei hedd,
A'i donnau ysglisia yn defyll.
Oherwydd ei raib, a'i dymer ddi—saib,
Meddyliwyd ei roddi mewn carchar;
Yr Awel, ei fam, roes gychwyn i'r cam,
Gan ddisgwyl y lluchid e 'n llachar;
A chloddiwyd ei gell,—oer 'stafell ddu hell,
Gan ddwylaw celfyddgar yr elfau;
A hudwyd e'n fwyn gan desni a swyn,
I weled cywreinrwydd eu celfau!
Drwy agen mewn craig, hen loches gwen ddraig,
Yr aeth yn eu cwmni yn dawel;
Heb feddwl am frad, na diffaith waith cad;
O geudwll chwibianai yr Awel;—
"Ti fyddi cyn hir, o'm golwg yn glir,
Caf arnat ddialu 'nghasineb,
Dy falchder ar fyr i'r ogof a'th yrr;
Ac yna caf finnau foddineb."
Rhwng dannedd y graig, cilwenai y ddraig,
Wrth weled y gelyn ar geulan;
Ac yntau yn llon, heb arswyd i'w fron,
Grechwenai nes siglai y Tryfan.
AFAGDDU AB NOS, hen elyn gwawr dlos,
Aeth ato dan fantell tywyllwch;
A chollodd y gwynt y ffordd ar ei hynt,
A chwympodd yng nghanol y mwrllwch

I'r ogof yn swrth, ac yna rhoed wrth
Ei genau ryw feini ofnadwy;
A chladdwyd e'n fyw, fel gwallgof pob rhyw,
Dan seiliau y garnedd safadwy;
Bu yno yn rhwym er oerni a thwym,
Mewn cadarn gadwyni o greigiau;
Ac er ei holl nerth, ei ben wnaed yn berth
Glafoerllyd lysnafedd y dreigiau;
Fe gnoai 'n ddi-ball y clogwyn di—wall,
Gruddfannai nes ysgwyd mynyddoedd;
Ac wylai mor ddwys, nes llenwi pob cwys
A rychwyd gan aradr blynyddoedd.
Yr Awel ei fam, glustfeiniai ei gam,
Llawenai am fod ei anffodion;
A'r elfau 'n ddirôl a chwarddent fel ffol
Eu gogan am ben ei drallodion.
Ochneidiai y gwynt, anghofiai'r modd gynt,
Y byddai ei hun yn creuloni,—
Ei lafar oedd leddf, a'i adsain yn feddf
Gyrhaeddodd hyd glustiau Tirioni;
Tirioni yn fwyn a ddwedodd ei gwyn
Wrth GWRDDRYM, ei chariad mawreddog;
Ac yntau yn syn, ymholai fel hyn,"—
"Mewn ogof? mewn carchar carneddog?
Af yno ar frys. Yn barod bo'm llys,
Dim oedi. Pa le mae fy mwa?"

Anelodd ei saeth, i'r garnedd yr aeth,
Nes agor hen "Gegin y Cythraul"
Yn archoll du hyll, lle cadwai y gwyll
Ei gadlys mewn tymer anaraul.
Daeth goleu trwy'r twll, ac yntau'r gwres mwll
Gynhesodd at febyn ei faboed;
Aeth ato yn hyf a drylliodd y cryf
Gadwyni fel gwiail ir man-goed.
O'i garchar ar hynt, ymruthrodd y gwynt,—
Gan ymlid ei fam yn fileinig
Ar dir ac ar fôr,—ysgubai bob dor
Yn chwilfriw drwy fawr-rym arbennig.
Pan welai ryw long ar wynfrig y don,
Gwnai lygaid, ac yna fe suddai;
Dadwreiddiai y coed, heb barchu eu hoed,
A'r goedwig gadarngref a nyddai.
Mae'r Awel, ei fam, yn grwydryn di—nam.
Yn ceisio cael lle i gael llonydd;

Mewn encil a hudd, mewn coedlan ynghudd,
A glannau sibrydol aflonydd.
Ei chydmar y Gwres, a'i gydfrawd y Tes,
A'i noddant! mor hyfryd eu gorchwyl!
Ond cuchiai y gwynt, nes dadrys eu hynt,
A chreai 'n ddibeidio ryw adchwyl.
Mae ganddo un brawd, heb esgyrn na chnawd,
Briododd ryw ffawd yn ei helynt,
Orchfygodd y gwynt; mae cofion er cynt
Yn adrodd gwrhydri y corwynt.
CAWR wynt ydyw hwn ysgyria 'n ddi—dwn
Bob gwrthddrych ar wyneb y ddaear;
Tarangras ei lais, a'i fywyd yn drais,
Ac anian o dano 'n gorddyar.
Fe gymer yn rhwydd, yn adeg ei lwydd,
Y gwynt yn ei freichiau;—fe'i gwasga;
Ac yntau yn syn, ymsymud nis myn,
Ond tawel fel baban y cysga.
Cynghreiriant ynghyd, a siglant y byd,
Fel cryd ansefydlog chwildroa;
A'r awel yn awr, a orwedd ar lawr,
Gan ddychryn ac ofn yr ymroa.
Ond henffych! y gwynt, mae 'th hanes er cynt,
Yn tystio dy les a'th ddaioni;
Gwas hyfwyn i'r byd, ond meistr drwg ei fryd,
Wyt beunydd dan reol Tirioni.
Ti weithi yn rhwydd, er cysur a llwydd,—
Anghofi dy lid a'th eiddigedd;
Hyd wyneb y don rhoi gysur i fron y morwr, a swyn i'w unigedd.
Organi yn rhydd beroriaeth y dydd, a'r nos ni anghofi delori;
Ac felly yn glir ar fôr ac ar dir bydd anian yn dibaid glodfori.
Gwas ydwyt, y gwynt; mae Un ar bob hynt,
A'i AIR a wna dy reoli;
Yn nghornel ei law, y rhydd arnat daw,
Pan fyddi di 'n cynnyg meistroli;
Creadur wrth ddeddf, na fedr yr un reddf
Na rheswm, byth, byth, ei dirnadu
Yw'r GWYNT; ond mae UN, YR HOLL—OLL ei Hun,
Na ddichon yr anghred ei wadu,
Sy'n peri ei waith,—sy 'n hwylio ei daith,
Gan osod pob peth yn gyfarwydd;
Yr awel a'r gwres, pob elfen er lles,
Sy'n cadw gorchymyn yr ARGLWYDD.



YN NYFFRYN BEDD GELERT.

"Cawn yno deulu newydd,
Bugeiliaid megis cynt."


HYWEL WYNN YR HAFOD.

CYNHWYSIAD.— Hafod Lwyfog ar noson yn y gaeaf—Y teulu—Eu gwaith—Eu dull a'u moes—Adrodd chwedlau—Dadl—Bwrw golwg drosti—Hywel Wynn y taid a Hywel Wyn yr ŵyr—Marwolaeth ddisyfyd chwaer fach, yr olaf ar ol blysio ffon ei thaid—Arferion bywyd bugail—Rhagluniaeth yn trefnu popeth—Anhawsder deall pethau—Tawelwch Hywel Wynn.

NOSWYL IFAN.—Cyfnewidiad a ddygodd deugain mlynedd—Adgof am yr hen ddull—Teulu newydd Chwedlau Neina Noswyl Ifan—Golygfa fynyddig—Hywel Wynn yn marw Ei fedd wrth y goeden onnen—Ei blant yn hulio ei fedd hefo blodau bob bore Sul—Gorffen y gân trwy annog dyn i ddilyn rhinwedd a diniweidrwydd, a dysgu byw er mwyn dysgu marw.

RYW noson oer ddryghinog yn Hafod Lwyfog lân,
O dan y simneu fawr yn glyd, yn profi blas y tân,
Eisteddai tair cenhedlaeth, y plant,—y tad a'r fam,
A Neina yn ei chadair wellt,—a Theida'n hen a cham
Mewn cadair freichiau dderw, yn trin y tân â'i ffon—
A'r plant yn cydymryson bod dan ei lygaid llon.
Hen arfer Hafod Lwyfog, er dyddiau Cymru fu,
Oedd adrodd chwedlau wrth y plant ar hirnos gaeaf du;
Un hynod iawn oedd Neina am gofio naw neu ddeg
O'r pethau glywodd gan ei nhain am gampau'r Tylwyth Teg
Wrth gribo gwlan ddechreunos, a'i merch yn diwyd wau,—
A'r gŵr yn diwyd wneyd llwy bren neu ynte efail gnau.
Ond Teida oedd y goreu am hen gofiannau gwlad,
Y rhai a ddysgodd yn y cwm wrth gadw praidd ei dad.
Rhai brithion iawn mae'n debyg a fyddai'n plesio 'r plant,
Ac nid oedd un a hoffent fwy na "Bwgan Plas y Nant."
Er fod y gwynt yn chwiban, a'r gwlaw yn dod i lawr
Nes gwneyd y fargod ar ei hyd yn ail i bistyll mawr;
Dechreuodd Teida ysgwyd—a phwnio'r tân â'i ffon,—
Yr hyn oedd arwydd iddynt hwy ei fod am chwedl gron.
"Mae," ebai, "drigain mlynedd er pan fu farw mrawd,
Ond mae'r diwarnod ar fy nghof fel doe, a'r hyn a wnawd,—
Yr oedd hi'n fore hyfryd, yr hedydd brith uwchben
Dywalltai gân o'r awyr lân oddeutu'r Garreg Wen;
Y gôg y bore hwnnw a bynciai gwc-cw'n gu,
Ac yn y drain y clywid sain y dwyfol dderyn du.
A'r hen weryrwr gwirion a dyrfai yn ddi-daw,
A bywiog ddawnsiai 'r cudyll coch fel cennad angau draw.
Daeth Gwen y y Garreg atom a'i chwn, i'r Cae Maen Bras,
A ffwrdd a ni yn llon ein tri hyd lepen Moel y Gwas.
Yr oedd y cwn yn annos yn fwy na buasai raid,
A ninnau'n para'u hysio'n tri, heb neb yn gwaeddi paid.

Peth drwg oedd hynny, cofiwch, a sylwch beth mor sur
A ddaeth i'n rhan ni yn y man,—yn gerydd cawsom gur.
Fe redodd oen yn wirion i ddannedd hylla 'r graig,—
I le na welwyd dim yn fyw ond cigfran fras ei saig.
Fe waeddodd Owen arnom,—' Mae'n resyn colli 'r oen,
Mae'n gas ei adael acw 'n wir i lwgu 'n fawr ei boen.'
Fe dynnodd ei ddwy glocsan, ac yna megis mynn
I fyny 'r aeth i nol yr oen,—a ninnau ar y bryn
Yn chwerthin wrth ei weled,—yr oedd o'n ddringwr iawn.
Ymgripiai 'n gyflym hyd y grug fel copyn hyd y gwawn!
Aeth at yr oen yn rhyfedd i ddannedd hylla 'r graig,
Ac yno bu yn canu cerdd,—' Y bugail mwyn a'i wraig.'
Fe fethai'r cwn fynd ato,—er ceisio, methu'n glir,—
A'r geifr a'r defaid glywid draw yn brefu 'mhen y tir.
Yr oen oedd yn ei freichiau! ond och! fe ddaeth i lawr
Yn bendramwnwgl hefog ef! ac wrth y garreg fawr
Ar fin y llyn yn llonydd, a'i wyneb glân yn waed
Y cefais ef, yr oen roes fref,—a gwingodd yntau 'i draed!
Cyfodais ef i fyny, ond ni ollyngai 'r oen,
Ac angau drwy ei lygaid gwyllt ddanghosai ingol boen.
Dolefai Gwen yn arw, 'O! Owen, Owen fwyn;'
A gorfu imi gario'r ddau, a'u rhoi mewn tocyn brwyn.
Ac yna rhedeg adref, a gwaeddi wnes bob cam,
'O! Owen bach! O! Owen bach, pa beth a wna fy mam?'
Cyrhaeddais yma'n fuan, ac O! fel criai mam!
A nhad fel milgi redai 'n chwim ar draws y cymoedd cam.
Ond erbyn iddo gyrraedd, bugeiliaid wyth neu naw
Oedd yno 'n cludo'r ddau i lawr, a phawb yn llawn o fraw;
'Mae Owen wedi marw! O! Owen, Owen bach,'
Dolefai nhad,— fy machgen gwyn fy anwyl fachgen iach.'
A Gwen, yr eneth wirion, oedd wallgof; gwaeddi 'r oedd,
A'r garreg adsain yn y cwm watwarai 'i chwerw floedd.
Ni welwyd wedi hyn mo mam dros drothwy 'r drws,
A thridiau wedyn ddygodd Gwen ar ol ei chariad tlws.
Ac wrth y goeden onnen mae beddi 'r ddau 'run wedd,
Yn ymyl claddfa nhad a mam, yn anwyl yn y bedd."
"Mae mwy na thrigain mlynedd er pan ddigwyddodd hyn,
Oblegid braidd yr ydwyf fi yn cofio Owen Wynn;
Ond mae rhyw adgof egwan yn aros yn fy ngho',
Im glywed, pan yn eneth fach, fod Gwen yn rhoi naw tro
O gwmpas muriau 'r eglwys y Nos Glangauaf cynt,
Ac iddi weled rhywbeth hyll a chlywed twrw gwynt;
Ac hefyd ryw nos Difiau, wrth droi y crysau glân,
I arch ddod yno at ei chrys, ac aros wrth y tân.
A chlywodd Ifan Owen, oddeutu 'r Garreg Wen,
Aderyn corff yn rhoi ysgrech, gan guro ffenestr Gwen.

Dyn anwyl, mae 'n beth rhyfedd! mae'r byd i gyd o'i go,
Nid oes yn awr ddim arwydd mawr cyn dyry angau dro.
Mae'r byd yn mynd o chwithig! pa beth fydd diwedd hyn?"
Fel yna 'r ymddiddanai 'n rhydd y ffyddiog Lowri Wynn.
"Ond," ebai 'r mab-yng-nghyfraith, mewn math o araeth lem,—
"Mae ofer-goelion wedi ffoi, a'u holl andwyol drem.
Breuddwydion gwag fel yna, fu gynt yn blino 'r wlad,
A ddylid ymlid bob yr un i'w cartref at eu tad.
Mae'r cyfryw bethau gwrthun yn drysu synwyr plant,
A dygant ddyn yn gaethwas gwyn yn lle 'i ddyrchafu 'n sant."
"Wel! wel! mae'n rhyfedd gennyf im' fyw i glywed hyn
(A'r dagrau 'n afon ar ddwy foch y tawel Deida Wynn),—
'Mae eisiau coelio popeth a pheidio coelio dim,'
Sydd hen ddiareb lawn o bwyll a ddysgwyd rywbryd im,
Gwell gormod coel na bychan am bethau diddan doeth.
Y ddafad farus ymhob man a fydd yn llom a noeth.
Mae'r eithin hyd y ffriddoedd yn ateb diben da,
Ac nid peth gwael cyn hyn eu cael ar lawer dechreu ha
Yn lle i'r gwan famogiaid, oherwydd tyf yn gynt
Nag unlle feddwn ar y tir oblegid cysgod gwynt;
Pur debyg traddodiadau,—cysgodant borfa fras,
Ac ond eu harfer hwy yn iawn fe gynorthwyant ras."
Ni fynnai 'r plant ddim dadleu. Pa ryfedd? Nid oes maeth
I enaid dyn mewn geiriau sych; na, hoffder oen yw llaeth.
Cyffelyb wyn dynoliaeth; rhaid iddynt ymhob gwlad
Gael yfed llaeth Dychymyg flith, a sugno awen rad.
Chwibianai 'r gwynt yn wichlyd, a Theida syllai 'n syn
Ar lygaid byw ei fochgoch ŵyr—ei anwyl Hywel Wynn.
Chwareuai 'r eneth leiaf yn ddiflin hefo 'i ffon,
A gwaeddodd, 'Teida, teida bach, i bwy y rhowch chwi hon?'
Ei chwaer a dorrodd allan, i wylo, tros y tŷ,—
A chofier mae galarnad merch, fel serch, yn fawr, a chry,
Yn dyner, eto 'n donnog; yn feiddgar, eto 'n fwyn;
Fel cawod drom ar fore Mai yn curo twf i'r brwyn.
Yr hyn a berodd iddi—fel yma ganddi gawn,
Dywedodd, "O! fy anwyl daid, pan ow'n i 'nol y mawn,
Mi glywais ryw aderyn yn rhoddi cleglais hyll,
A gwn ei fod yn dod i lawr hyd lwybyr Bryn y Cyll;
Mae angau am ddod yma! mi welais ganwyll werdd
Ar ben y gist gyffylog fawr, ac fel y dwed y gerdd;—
'Mae 'r deryn corff a'r ganwyll yn crybwyll i bob un
Y daw yr awr pan a i lawr yn welw iawn ei lun."
A chyn i'r bore ddyddio 'roedd angau 'n swrth ei wedd
Yn hwylio cwsg i'r fechan lon, y leiaf—yn y bedd;
Fe flysiodd ffon ei Theida, gofynnodd, "Pwy gaiff hon?"
Ond aed a hi i arall wlad lle nad oes eisiau ffon.

Peth rhyfedd gweled egin pan fydd yr Hydref gwyw
Yn taenu mantell felen goch dros wyneb pob peth byw;
Ond os yw'r dail yn marw yn welw ar y coed,
Daw gwanwyn gwyrdd ag eraill fyrdd gyn hardded ag erioed.
Rhyw fath o ail-argraffiad blynyddol ydyw hyn,
O'r tesog ddydd i'r adeg bydd y rhew yn toi y llyn;
Bob Ebrill daw briallu, bob Rhagfyr eira gwyn,—
Cyffelyb hefyd deddfau'r nef yn enaid Hywel Wynn.
Yn anian gwelir adlun o'r pethau dwyfol sydd
Yn wir sylweddau pur a glân yn nhawel wlad y dydd.
Mor anwyl bywyd bugail, yn darllen meddwl Duw
Wrth gerdded hyd y bryniau serth,—yn dysgu dynolryw!
Yr haf a'r gaeaf hefyd a ddygai ger ei fron
Ieuenctid llon a henaint llesg, yn arlun einioes gron.
Yng nghegin Hafod Lwyfog, 'roedd Teida 'n aeaf oer,
Ei wallt yn wyn, ei gam yn fyr, a'i en fel corniog loer;
Er hynny 'roedd anwyldeb a phurdeb yn ei foes,
Yn goron wen o gylch ei ben, yn addurn diwedd oes.
Ei ŵyr oedd fel Mehefin, yn wridog fywiog fel
Yr awel droellog ar y bryn ar fore diwrnod hel;
Neu fel symudliw enfys ar wyneb cwmwl du,
Yn fywyd oll o ben i ben ar fron yr hyn a fu.
Yr oedd yn fugail campus, ac os ae'r praidd ar wib
Ar hyd y cymoedd clywid ef yn chwiban hefo 'i bib—
Pîb wernen fyddai ganddo, a chanai hefo hon
Fesurau ddysgodd gan ei daid yn llawen ac yn llon;
Ond nid oedd un a hoffai yn fwy o ben i ben
Na 'r alaw leddf a ganai Nain, sef Dafydd Garreg Wen.
Ond cymysg ydyw bywyd rhaid bod yr oer a'r poeth,
Y du a'r gwyn, yr hardd a'r hyll, yr ynfyd ffol a'r doeth,
Cyn gellir cael dedwyddwch,—rhaid yfed diod sur,
Ond os ceir 'chydig bach o fêl fe leddfa 'r chwerw gur.
Dechreuodd Hywel fywyd yng nghanol gwenau 'r byd,
A pharodd yntau i wenu 'n llon fel baban yn ei gryd;
Os byddai 'r wyn yn meirw, fe ganai fel y gôg,
Oblegid gwyddai am yr Un a dalai gyda llog.
Pan fyddai 'r clafr yn ysu,—neu'r clwyf yn diflin ladd,
Neu 'r llwynog melyn wrth ei waith yn dangos urdd ei radd
Drwy ddwyn yr ieir a'r gwyddau, ni fynnai rwgnach gair,
Oblegid coeliai fod y byd i gyd yn burol bair.
Rhagluniaeth arno wenai—epiliai 'i braidd yn fwy
Nag eiddo neb bugeiliaid mwyn a drigent yn y plwy.
Ond mae i'r môr ei lanw; ac felly Hywel Wynn;
Cadd ef ei ran o bethau 'r byd,—o lawnder bro a bryn;
Mae hefyd drai bob amser yn dilyn llanw 'r môr,
A thebyg amgylchiadau dyn yn llaw Rhagluniaeth Ior.

Yn wir mae deugain mlynedd yn newid gwyneb gwlad;
A'r bachgen bochgoch odid fydd a'i blant yn gwaeddi "Nhad."
Gan hynny awn i'r Hafod i weled Hywel Wynn,
Pan oedd ei blant yn trin y praidd hyd ochrau 'r mynydd gwyn.
'Roedd Teida wedi marw, a hithau Neina lon,
A gŵr y ferch roed yn y bedd er's llawer blwyddyn gron;
A chladdwyd amryw ereill o'r plant oedd wrth y tân,
Y noson oer ddryghinog, hyll, yn Hafod Lwyfog lân.
Yr oedd yr hen gadeiriau o dan y simneu fawr,
Ond ereill oedd yn chwareu 'n llon a llawen hyd y llawr.
Cawn yno deulu newydd; bugeiliaid megis cynt,
Yn byw a bod ymysg eu praidd, gan hoffi 'r cyfryw hynt.
Dilynent fywyd syber, heb ry nac eisiau fawr,
Cael codi hefo 'r hedydd brith, a gorffwys hefo'r wawr;
Cael uwd, a llaeth, a llymru, a chaws, ac weithiau faidd,
A bara ceirch, ac ambell dro ceid bara rhyg neu haidd;
Pob ffynnon oedd fuwch iddynt pob afon besgai bysg,—
Pa ryfedd fod dedwyddwch pur yn aros yn eu mysg?
Traddodiad oedd yn wastad o flaen eu llygaid llon,
A phob hanesyn chwythai dân dynoliaeth yn eu bron;
Ni fedrai 'r las genfigen ddim aros yn y cwm,
Oblegid 'roedd y meddwl dwys i'r faeden yn rhy drwm,
Ac os ceid cweryl weithiau, darfyddai yn ddi ôl,
Fel caenen eira, ni bydd dim o honi ar y ddôl.
Ond deuwn Noswyl Ifan i'r Hafod i roi tro,
Pan oedd y ddraenen wen yn gnu, a'i hoglau 'n llenwi 'r fro;
Mae'r hogiau yn y buarth yn chwareu hefo'r wyn,
A dwy enethig wrth y drws yn prysur bilio 'r brwyn.
Mae'r forwyn wrth y pistyll yn golchi 'r gunog laeth;
A Hywel Wynn a'i fam, fel hyn, mewn ymddiddanion ffraeth—
Ryw Noswyl Ifan, Hywel, 'r oedd Morfudd Lluest Wen
Yn gwneuthur coelion yn yr ardd drwy blethu gwallt ei phen
Yn gymysg hefo 'r rhedyn, a chysgu dros y nos
Mewn gwely gwair; heb ddwedyd gair, daeth ati eneth dlos,
A rhoddes iddi fodrwy, a dwedodd,—' Cymer hon,
Cyn pen y flwyddyn byddi 'n wraig.' Yr oedd o'n newydd llon!
Ond ebai wrthi wedyn,—'Mae rhywbeth wedi hyn,
Pan fyddi 'n fam, un arall fâg dy anwyl blentyn gwyn!'
Ac o'r pryd hwnnw allan ni wenodd Morfudd mwy,
Ac er priodi marw wnaeth er galaeth i'r holl blwy.
Oherwydd nid oedd geneth, yr un mor eurbleth lân
A hon o fewn y cwm i'w chael am gymwynasau mân.
"Ar Noswyl Ifan arall, aeth Llio Hafod Llan,
A thair neu bedair hefo hi, i 'mofyn am eu rhan;
Daliasant lwdn gwlanog gerllaw i'r Gluder Fawr,
Ac yno buont oriau maith yn disgwyl am yr awr

Y ganed y Bedyddiwr, oblegid coelient fod
Rhyw fendith fawr i'r ddaear lawr, oddiwrtho ef i ddod.
Fe ganent gerdd fugeiliol wrth ddisgwyl ar y bryn,
Am weled gwawr dros gaerau 'r dydd yn twynnu ar y llyn,—
'Awn allan fwyn forwynion, fe ddaeth Gwyl Ifan ddoeth,
Boreuddydd y Bedyddiwr gwyn sy 'n euro'r bryniau noeth:
Awn allan hefo 'n gilydd i droed y Mynydd Mawr
I rwymo 'r llwdwn gwyn ei wlân â blodau teg eu gwawr,
Cyn yfo 'r haul y man-wlith o gwpan-flodau 'r waen,
A chyn i'r tês a'i wridog wres ymwibio 'n ol a blaen,
Awn allan hefo 'n gilydd i droed y Mynydd Mawr
I blethu grug yn gorlan glws cyn iddi dorri'r wawr.
'Awn allan, fwyn forwynion, mae 'r cloddiau'n wyrddion lâs,
A'r adar glân yn ceincio cân rhwng brigau'r brysglwyn bras;
Awn allan hefo 'n gilydd. O awel, saf yn syn
I weled llun y crinllys cun, yn llonydd ddwfr y llyn!
Awn allan yn gariadlon i droed y Mynydd Mawr,
I ddisgwyl cân rhyw fugail glân cyn agor dorau'r wawr!
Awn! Deuwn! hefo 'n gilydd a dawnsiwn ar y bryn,
Nes delo'r dydd i roddi 'n rhydd y gwlanog lwdn gwyn.'
"Fel yna canai Llio a'r lleill am oriau rai,
Ond ni ddaeth neb o'r llanciau llon i wneyd eu poen yn llai,
Ac felly tyfodd Llio yn hen ferch ifanc sur,
Er dawnsio hefo'r llwdwn gwyn ni chafodd gariad pur.
Mi glywais neina'n adrodd fod Meirig Blaen y Cwm,
Ryw Noswyl Ifan, wedi bod ymlaen y gweunydd llwm
Yn canu ac yn dawnsio yng nghylchau 'r Tylwyth Teg,
A hwythau 'n lluchio iddo aur nes iddo roddi rheg,
A chlywais na fu llewyrch ar neb o'r epil fyth,
A bod y diafol wedi gwneyd y teulu fel yn nyth.
Ond gŵr yr Hafod Lydan o bawb Wyl Ifan gadd
Anrhegion gan y Tylwyth Teg pan roisant iddo wadd
I ddyfod i'w cyfarfod, i ymyl Craig y Llam,
I agor bedd rhyw globen frech a elwid Gwrachen Gam;
Cadd fendith ar ei ddefaid, ac nid oedd buches well
Yn unman; sonnid am y caws yn agos ac ymhell.
Ond troes y byd i'w erbyn yn sydyn ar ol hyn,—
A da oedd iddo fod dy daid yn gyfaill, Hywel Wyn."
Gwrandawai Hywel arni, a'r plant yn glust i gyd
Oedd yno 'n gwrando ar eu nain yn son am gampau 'r byd.
Rhyw ddarlun pur hynafol oedd yno gylch y drws,—
Gwledig a bugeiliol oedd a phrydferth iawn a thlws;
Y plant a'u bochau cochion, a'u crwyn mor wyn a llaeth,
A'u tad mor heinif ar ei droed ag oedd ei wraig o ffraeth. '
Roedd yma drai a llanw, ar ol y naill a'r llall,
Y naill yn mynd a'r llall yn dod, a hynny yn ddiball.

Yr oedd hi 'n amlwg ddigon fod Neina'n dipyn oed,
(A'r ci yn gorwedd ar ei hyd fel clustog dan ei throed,)
Yr oedd hi'n prysur ddirwyn, a'r 'styllod droent yn chwim,
Ond 'r oedd ei meddwl hefo 'i gŵr, a'i thad, a'r "coelio dim."
Daeth dunos dros y mynydd a thaflodd fantell ddu
Dros war y bryn, y cwm a'r glyn, a chysgai anian gu;
Ac erbyn bore drannoeth pur debyg oedd pob man,
Ond fod y clochydd hefo 'i raw yn gweithio wrth y Llan.
Daeth ton o fôr marwolaeth a chipiodd Hywel Wynn,—
Rhyw awr a hanner bu o'n sâl nad ydoedd yn y glyn,
Ac yna rhydd anadliad ei enaid at ei Dduw
I fyd lle bydd y teulu 'n un, lle cânt anfarwol fyw.
Ac hefo 'i daid a'i a'i deidiau mae'r distaw Hywel Wynn,
Yr hwn drwy 'i oes oedd lân ei foes, yn addurn bro a bryn.
Darllennid marwnad iddo yn nagrau hallt y tlawd,
A phob cymydog ar ei ol a wylent am eu brawd;
Ac wrth y goeden onnen ei blant bob bore Sul
A welid yn rhoi blodau glân yn do i'w wely cul;
Yn arwydd Anfarwoldeb, yn adlun gwlad yr hedd,
A gobaith gil-agorai ddrws y plas tu draw i'r bedd.

Mae'r defaid ar y mynydd, mae annos yn y cwm,
Mae swn bugeiliol fel o'r blaen oddeutu'r Buarth llwm,
Mae'r gwartheg hyd y ffriddoedd, mae'r gweunydd eto 'n frith,
A'r ddôl mor weiriog ag erioed, a'r fuches lawn mor flith;
Ond teulu Hafod Lwyfog,—maent hwy er's llawer dydd
Tu draw i'r llen, yn un ac oll o'u rhwymau caeth yn rhydd.
Mae ereill ar yr aelwyd yn son am drin y praidd,
A'r plant mor iachus ag erioed ar fara ceirch a maidd;
Mae Rhinwedd eto 'n aros rhwng bryniau serth ein gwlad,
A diniweidrwydd wena'n ŵyl er gwaethaf llid a brad.
Mae coelion ac arferion bugeiliaid yn parhau,
A chrefydd wrthi, yn ei swydd, yn ceisio 'u llwyr wellhau;
Wrth drin eu preiddiau gwirion maent hwy yn dysgu byw,
A dysgu marw, fel cânt fod yn dawel deulu Duw.



PISTYLL CAIN

A phistyll Cain a Mawddach
Yn chwerthin am eu pen


CADER IDRIS.

GOLYGFA ODDIAR BEN MOEL ORTHRWM.[8]

"Gwlad Feirion a glodforir
Yn hwy, ie, 'n hwy na hir."—E. OWEN.

AR fore teg yn Ebrill, mi eis i ben y Foel,
I syllu o fy neutu, er ennyn difyr goel
Ar gofion ein hynafiaid, a'r wedd y byddid gynt
Yn byw eu heinioes allan, a llawer hynod hynt;
I graffu ar fawreddog glegyrog greigiau certh,
Yr Aran fawr a'r Gader yn herio grym a nerth
Tymhestloedd blwng yr oesoedd, gan chwerthin am eu pen,
Ac yna rhith-ymguddio o dan gymylog len;
Yr oedd y bore 'n dawel, yr awel yn y coed
A fethai ag ymsymud, fel pe heb law na throed;
Ymgreiniai hyd y twyni a'r llwyni oedd gerllaw;
Anghofiai ganu plygain neu glul ar gloch y gwlaw.
Gwyrddlesni y ffurfafen oedd oleu, deneu, glir,
A gallai 'r llygad syllu ymhell dros for a thir;—
Eisteddais ar ei choryn yng nghwmni 'r Awen gu,
I adrodd wrth ein gilydd wrhydri 'r oesoedd fu;
I weld y gwyllt ddelweddau a gysgant draw yn drwm,
Ar fronnau y mynyddoedd, yng nghesail gled y cwm.


IEUAN GWYNEDD.

TY CROES.

"Draw wrth y bont mi welaf yn sefyll fwthyn bach,
Heb arno urdd nac arwydd heblaw rhyw bistyll bach
Yn diflin ddibaid drydar."


Edrychais tua'r dwyrain, a gwelwn, megis mur,
Yr Aran yn ymsythu, fel cawr mewn llurig ddur;
A'i chwys yn ffrydiau gloewon yn brysio tua'r pant;
Wrth dreiglo gwisga'r esgyrn yn rhychiau dyfnion gant.
Er bod ei ochrau erchyll yn furiau yma a thraw,
Archollion mellt fforchoglym, neu effaith gormod gwlaw,
Mae croen yr Aran eto yn dda ei liw a'i lun,
Os cofir iddo herio'r elfennau bob yn un.
Craig Cywarch draw a welaf fel morwyn wrth ei fwrdd,
Ac oni bai yr Hengwm buasent wedi cwrdd;
Ond safant ar gyfencyd, pob un mewn cadarn le,
Ac byth nid ynt yn yngan o'u pennau fw na be!
Bwlch Oerddrws draw a welaf yn rhythu'n hyll ei safn,
A mynydd Pennant Tigi tu ol i'w gefn yn llafn;
Bu acw gynt gyfarfod o ddewr farchogion cryf,
Yn llunio iawn alanas ar deulu'r estron hyf;
Meddyliaf fod y cerrig anferthol yno sydd,
Yn cadw gwyl flynyddol er coffa am y dydd.
A'r afon fach yn sisial ei gwir felusaf gân,
Wrth lithro'n araf dawel ar hyd y graian mân.
Wel! dacw Fynydd Gwanas yn llwyd hyd Foel y Llam,
Fel braich â dau benelin, neu llin rhedynen gam;
A Gwanas yn ymestyn o dano'n ddiffrwyth waen;
Y corsydd a'r gweirgloddiau ynt lymion ddrwg eu graen.
Bu yno gynt ysbyty—neu westy i'r tylawd,
Pan deimlid rhwng ein bryniau fod dyn i ddyn yn frawd,
Pan hoffid gwneyd trugaredd—pan ydoedd crefydd bur
Yn gweini'n rhad i'r gweiniaid, yn lleddfu ingol gur;
Ond nid oes yno'n aros o'r adail faen ar faen,
A thros ei hoed a'i hanes cymylau angof daen.
Mae yno feddau hefyd yn aros ar y rhos;
Ond tywyll ydyw'r cofion o'u parth fel dudew nos;
Maent hwy, fel lliaws ereill o bethau'r dyddiau gynt,
Ym mynwent ebargofiant, heb ddim i ddweyd eu hynt.
Pa le mae'r fan y daliwyd rhyw ran o'r llu di—ras,
A elwid Gwylliaid Mawddwy, pan oeddynt yn y das,
Yn llechu rhag eu dala? Sion Rhydderch wnaeth eu brad,
A chofir am ei ffalster, mae'n awr ar lafar gwlad;
Pa le mae'r gadlas, tybed? ai draw, ai acw? ust!
Mae'r awel leddf yn sisial "Nis gwyddis" yn fy nghlust.
Caerynwch! hen gaer ydwyt sydd wedi mynd ar goll,
Mae amser wedi mynnu dy gael i gyd yn doll;
Ond wrth dy droed mae palas a nodir tra bo dydd,
Sef trigfod yr hen Farwn wnaeth lawer caeth yn rhydd.
Ac ar y fron gyferbyn, mae yntau Hafod Meirch,
Lle magwyd Dafydd Ellis ar uwd a bara ceirch;

Ond daeth yn ddyn nodedig—croniclwr penna 'i oes,
Yn fardd a hynafieithydd, a pherson glân ei foes;
Tra safo ein gwladoldeb, am dano dylid son,
Am gadw rhag difancoll lythyrau G'ronwy Mon.

Mor dlws yw glyn yr Wnion; yr afon loew lân
Ddolenna drwy'r ddôl lanwedd, a sua felus gân;
Ei glennydd teg sy'n gleinio, mewn gwisg o wyrdd a gwyn
Y breilw mân a wenant ar loewon llon y llyn.
Bargodir glyn yr Wnion â derw'n goedfron gref,
Ac ar ei eithaf weithion yn drofa saif y dref;
Mae'r glyn yn dlws odiaethol! wrth draed y bryniau ban,
Mor anwyl glyn Meirionnydd, tawelaf, fwynaf fan,
Ei ddolydd ir meillionog, a'i feusydd llwythog llawn,
Ac ynddo gerddi gwyrddion yn drwm o ffrwythau gawn;
Dylenwant fy meddyliau â phur deimladau mwyn,
Nes canaf ynddo'm calon, fel adar llon y llwyn.
I hwn daw'r gwanwyn gwenawg yn gyntaf i roi tro,
Ac ynddo haf a erys yn olaf man o'r fro;
Pa ryfedd fod ei wyneb yn llawn tlysineb hardd,
A'i dawel deg encilion mor berion gan y bardd!
Oblegid myn yr awen gael nythu yn ei goed,
A hwythau'r glân wyryfon gael rhodio'n ysgafn droed,
I wrando'r nant yn siarad am bethau'r amser gynt,
Neu'r awel droellog araf yn goglais clust y gwynt,
Neu ynte'r chwa yn sisial yn ddyfal seiniau serch,—
Mai pur ei nodau perion o geinion mwynion merch!

Draw wrth y Bont mi welaf yn sefyll fwthyn bach,
Heb arno urdd nac arwydd, heblaw ryw bistyll bach
Yn diflin ddibaid drydar, a'r ffrwd yn afon fawr,
A'r afon hithau una y môr, pan ddêl ei hawr,—
Cyffelyb Ieuan Gwynedd, cychwynnodd megis ffrwd,
Cynhyddodd, daeth yn afon;—yr oedd ei ddoniau brwd
Yn rhusio 'mlaen yn brysur,—rhy brysur,—dacw'r bedd
Yn agor ei wanegau; fe'i llyncodd! Dyna'r wedd
Yr aeth y bardd a'r llenor, cyn cyrraedd canol oes,
I eigion tragwyddoldeb gan adael dynol loes I
 ni, y rhai orfodir ymlusgo'n ddrwg ein gwedd,
Drwy ddreiniog lwybrau bywyd o'i ol i lwch y bedd.

Mae'r creigiau hyll daneddog yn cuddio annedd Rhys,
Lle bu yn hwylus eilio caneuon llawn o flys;
I Fronwen lawen liwus, neu ereill, nyddai gerdd,
Yng nghil y llwyn tawelfrig, neu gêl y goedlan werdd;

Fe ganodd hefyd ddarnau, emynnau duwiol da,
Englynion a chywyddau, a dyrnai 'ı dirfawr bla
O ragrith a phenboethni, mewn dyri bigog gas;
Danghosodd Rhys er hynny y gwyddai beth oedd gras;
Un brith oedd ef, fel ereill o deulu dynol ryw,
'Heb fai nid neb a aned,' nis gallai yma fyw;
Ond saif ei waith awenol yn uchel gan y doeth,
Nes gwelir tonnau'r eigion yn berwi'n grychias boeth.
Mae'r Blaenau a'i goedlannau yn fryniog iawn ei wedd,
A'r llwydion ddiwerth greigiau o'i gylch ar swyddol sedd;
Cartrefle diniweidrwydd, ymhell o drwst y byd,
Lle dylai pob rhinweddau gael noddfa dawel glyd,
Heb groesni na gwrthwyneb, na diffyg undeb chwaith,
Ond pawb yn unfron unfryd yn canlyn ar eu gwaith,
Yw'r hyn a ddylai'n wastad fod nodwedd Cymru lân,
Y wlad lle cerir awen, y wlad sydd wlad y gân.
Hwt! hwt! y crach-gorachod, bradychwyr Cymru deg,
Pa beth a wneid â'n cymoedd, pe medrech chwi yn freg
Roi ysbryd rhydd, gwladgarol, mynyddig Cymru wen
Ar ffo, a gwneyd estroniaith aflednais yma'n ben?
Fe droid ein mynydd—dir yn ddiffaeth yn y fan,
Yn lle i'r mawrion saethu, ac alltud fyddai'r gwan;
Fe fyddai y trigolion yn wylltion Seison, siawns,
Yn byw mewn afradlondeb yng nghanol moeth a dawns;
Yn debyg i'r mwyafrif o weithwyr Lloegr y b'och,
Lle gwerthir corff ac enaid rhag blaen am geiniog goch;
Ac yna byddai'r Cymry yn uchel yn y byd,—
Y bobl yn gaethion gwasaidd ac un yn dawel glyd
Yn blingo'r truain gwelw, ac yna'n gwerthu'r croen,—
Yn sugno 'u gwaed, a dyna y dâl gant am eu poen.
Fel brâd y Cyllill Hirion yw'r holl gynhygion hyn,
Sydd am ein hamddifadu o'n hiaith,—ein plentyn gwyn;
Ein chwaer o undad unfam—ein mamau roisant hon
I ni i'w dwyn yn ffyddlawn i hil ein bri a'n bron;
Fugeiliaid y mynyddoedd! pan gollwch iaith eich mam,
Fe dderfydd byth am danoch yng nghanol cenllif cam;
Fe dderfydd am eich enw, eich crefydd drydd yn drais,
Caethweision fydd eich epil yn porthi moch y Sais.

O'm blaen fel gwal ddiadlam mae'r cefngam Gader fawr,
Arsyllfa ser wyddonol y medrus Idris Gawr,
Olrheiniwr dirif gylchoedd y bydoedd sydd uwch ben,
O oror ddudew Arawn, i forfa'r laethog wen;
Marchogai'r march adeiniog draw drwy gymylog fro,
A daliai'r Ychain Bannog yn driniog ambell dro;

Fe rodiai hyd y Sidydd, a'r deuddeg arwydd mud
A nodai gyda'i hudlath yn nhywyll leoedd Hud.
Mae ol y Deml Fain Gylchog sy'n droelliog wrth y llyn,
Yn eglur ddangos inni ddadeni'r Gwyddon gwyn;
Mae'r llynnoedd oll yn llawnion o gofion am y gŵr,
A'r modd y gwnai i'r creigle fyrlymu gloew ddwr,
A'r tân oddeithio'n goelcerth y creigiau megis coed,
A'r awyr deneu'n sefyll heb blygu dan ei droed;
Ond darfu oes y cewri, a choel y meini mawr,
Ac adgof gwan uwch angof a geir am Idris Gawr.

Mae gwedd hen Gader Idris yn ddibris ar bob llaw,
Lle clywir llwyd gymylau yn cwyno'n llawn o fraw;
Preswylfod yr aruthrol,—ysgythrawg drumawg drem,—
Cartrefle'r blwng dymestloedd, a thref yr awel lem!
Hafoty'r gwrdd daranau, a threigle'r diflin fellt,
O gylch ei chrib ymwibiant gan hollti 'i meini cellt;
Trywanant ael y nefoedd, dyrwygant gae y gwynt,
A mathrant y mynyddoedd a'r moroedd ar eu hynt;
Ond pan ddaw hinon dawel, yr awel gain a gwyd,
O'r môr, y nifwl bolwyn, yn wisg i'r clogwyn llwyd,
A'r cnuog darth ddosbartha ei hun yn wregys den,
A'r gweddill fyn ymddyrchu yn dorch o gylch ei phen.
O! fynydd ardderchocaf, a'r harddaf dan y rhod,
Darllennir ar dy wyneb yn hawdd—"MAE DUW YN BOD!"

Rhwng dwy-ffrwd loew'r dyffryn o dan y clogwyn clir,
Dolgellau sydd yn cysgu ar lannerch deg o dir;
Tawelwch geir o'i deutu, tirioni ynddi chwardd,
Nes ennyn dawn awenydd i'w moli'n ddiwahardd.
Mae rhywbeth pur gyntefig a gwledig iddi'n glod,
Hen ddull yr oesoedd astud rydd arni urdd a nod;
Gobeithio'r wyf y ceidw ei henw fel ei hoed,
Tra byddo'r dderwen ddurol yn cadw urdd y coed.
Mor hyfryd ydyw rhodio ar hyd y "Marian Mawr,"
Lle byddai Dafydd Ionawr yn lliwio ar y llawr—
Yn naddu ei gywyddau, a si yr afon lefn
Yn dysgu'r awen gymen i foli'r ddwyfol drefn.
Mae'r Marian yma eto, a'r afon; ond y bardd
Sy dan y garreg bigfain yng nghwr y fynwent hardd.
Bu yma lawer ereill o ddynion llawn o ddysg,
Pan noddid y meddylgar a'r moesol yn ein mysg;
Ond darfu oes athrylith, i'r doniol nid oes hedd—
A ddewch i gladdu awen—mwy buddiol iddi'r Bedd!

Ymlithro'n segur ddiog mae'r enwog afon Maw,
A delw'r bryniau oesol sydd ar ei mynwes draw;
O'r braidd nad ym yn coelio fod ansylweddol dir
O dan ei dwr grisialog ar lawer uchder clir,—
Fod coediog serth lechweddi, a llethri yn y llyn,
A phalas teg o chwithig, ac ambell fwthyn gwyn.
Ymlusga tua'r llanw, daw hwnnw cyn bo hir
I'w chyffwrdd,—yna brysia i wlad y Garan Hir.
Wi! dacw'r môr! mae'n huno fel baban tawel fryd,
A'r wenlloer yn ei warchod, gan ddyfal siglo 'i gryd.
Pwy heddyw a feddylia fod yn ei ddwyfron frad?
Mae'n fwyn, ac fel yn ofnog, dan bwysau ysgafn fâd.
Er hynny mae creulonder a digter ynddo yng nghudd,
Cynddeiriog, dirôl, ffyrnig, yw cesyg Gwyn ab Nudd;
Ond, nos dda, fôr gwenieithus, nid yw dy fradog fryd
Ond delw o'r hudolion sy beunydd yn y byd.

Llanelltyd yma welaf yn ddestlus dreflan fach,
Yn hynod sych foneddig, fel pe o uchel âch,
Yn gwenu'n ddigon gwawdus ar furiau'r Fanner gu,
Yn mynd yn gandryll friwsion rhwng bysedd difrod du;
Yr hen fynachlog anwyl! mae'n resyn bod dy wedd
Yn ail i gorff pydredig dan dywyll lenni'r bedd;
Ni chenir cred na phader ar wawr na gosper mwy,
Yr ave bêr ni phyncir, na'r sant gan blant y plwy;
Ni chlywir yn y gangell un gyngan ond y gwynt
Yn gwatwar yr alawon a genid yno gynt.

Hen greigiau mud Ardudwy, er pob rhyferthwy fu,
Sy'n gwrando'n syn fyfyriol ar drwst y Rhaiadr Du;
A Phistyll Cain a Mawddach yn chwerthin am eu pen,
A'r afon wrth ymdreiglo yn ceisio swnio sen;
Ond darfu'r dyddiau hynny, pan fyddai'r derw draw,
A'r grug ar hyd ein llethri, yn mynych ysgwyd llaw.
Brenhinbren hardd y Ganllwyd gymynwyd, er ei nerth,
A'i urddas ddynwaredir gan dduon ddrain y berth.
Mae'n resyn fod ein mawrion ar brennau'n dangos brad,
Yn mynnu gyrru ymaith o'n glynnoedd dderw'n gwlad.
Mae gair ar led y gwledydd y derfydd yn ddioed
Am wlad, os gwelir ynddi ei chŵn yn bwyta'i choed.
Trawsfynydd sydd yn synnu ar drem y drumawg fro,
O'r 'Rennig i'r Eryri, ymrithiant yn eu tro
Ger gwydd ein llygaid llawen, yn amrywiaethog wedd,
O'r dyffryn tirion, tawel, a'r cymoedd llawn o hedd,
I oror dra aruchel y creigiau cribawg crog,
Lle'r huna mawredd oesol o dan gymylawg glôg.



CADER IDRIS
"O'm blaen, fel gwal ddiadlam, mae'r cefngam Gader fawr."



LLANELLTYD.
"Ya hynod sych fonheddig, "fel pe o uchel ach."


Mae'r olwg yn ardderchog ar fryndir Meirion wyllt,
Lle da am gig ac enllyn, a meillion gwlad ei myllt;
Yn uchel, nid rhy uchel i'r bugail allu byw,
Mae rhywbeth anibynnol a gerir gan bob rhyw,
Mewn bywyd llonydd diwyd, heb ry nac eisiau fawr, -
Cael codi gyda'r hedydd a gorffwys hefo 'r wawr;
Anadlu awyr iachus ac yfed gloew 'r nant;
Pa ryfedd gweled yma hynafgwyr sionc yn gant ?
A'r glân wyryfon gwylaidd, yn ddiwair lawn o serch,
Yn ddarlun tra rhagorol o geinder, mwynder merch,
Tra susgân bêr a thelyn yn ennyn awen rydd,
'Morwynion glân Meirionydd,' eich mawl anfarwol fydd.

Rhaid bellach edrych adref. Ha! dyma wrth fy nhroed
Hen neuadd fawr ysblenydd yng nghanol ceufrig goed;
Bu urddas yn ei harddu, a mawredd ynddi'n byw,
A rhwysg a phob anrhydedd daearol o bob rhyw;
Ond Ow! y llwyni llawen, a fwydid gan y medd,
Sydd erbyn hyn yn llennyrch i'r pigog gynnal gwledd;
Lle cynt y beirdd awengar, ynghyd a'r cerddor coeth,
A glywid am nosweithiau ynghanol urdd a moeth,
Yn pyncio awen bencerdd, yn hidlo odlau mwyn,
Sydd heddyw'n dyst distawrwydd, a'i gyngan gâs yn gwyn.
Hw-hw y dylluanod yw'r unig greglais oer
Sy yma drwy'r nosweithiau yn briwio clust y lloer,
Yn lle y delyn deilwng, a'r canu pêr wrth dant,
Nes byddai'n diaspedain galonnau lawer cant.
Pa fan mor gu a Nannau pan ydoedd yn ei bri,
Yn nyddiau'r hen Syr Robert? Ni chlywid cwyn na chri
Yn agos at ei annedd, heb iddo 'i esmwythau;
Bwlch ydoedd ei farwolaeth na chafodd byth ei gau.
Fe gofir am y gwladwr a'r haelwr hynod hwn
Tra byddo'r haul penfelyn ar gaer y nef yn grwn.

O danaf yn ymdaenu mae'r ardd yn hardd o hyd;
Er iddi gael ei maeddu, mae ynddi lawer byd
O ffrwythau, dail, a llysiau, a blodau o bob lliw—
Eu sawyr peraidd swynol hyfryda'r galon friw;
Ac yn ei gwaelod, meddir, y safai ceubren gynt,
Lle cuddiwyd Hywel Sele ar ol ei farwol hynt;
Ac ar y bryn gyferbyn yr oedd yr enwog lys
Lle byddai hil Cadwgan yn rhoddi gwadd a gwŷs
I ddewrion gwlad eu tadau ddygynnull yn ddi-frad,
I rwystraw ystryw'r estron, a llunio llawer câd.



EGLWYS LLANFACHRETH.
"Llanfachreth, llonnaf ochrau, yng nghesail bryniau ban."


Y fan y ganed Anian rinweddol, lân ei foes,
A fu yn abad ffyddlawn ar Dduon Glyn y Groes;
Ac yntau'r bardd awenber, y gwych Lywelyn Goch,
A gofir tra bydd gwernen yn nyrys Goed y Moch;
Tra chwiban yr awelon alawon llawn o nwyd,
Fe sonnir, gwneir yn wastad, am gariad Lleucu Llwyd.

Llanfachreth llonnaf ochrau, yng nghesail bryniau ban,
Yn llennyrch teg meillionog, briallog rywiog ran,
A saif yn synfyfyriol drwy gydol oesoedd maith,
Yn gwylio'r ffrwd furmurol, fyth-fythol ar ei thaith.
Ar lethr y fron hyfrydol, uwch law y llan yn llwyd,
A gosgedd dra hynafol yr eglwys hyglod gwyd,
Gan dystio'n erbyn tostedd, croesineb, llid, a gwawd,
A gwirio'n dra rhagorol fod dyn i ddyn yn frawd;
Yn ddulas wyrdd o'i chwmpas, canghennog frigog yw
Bregethant anfarwoldeb,—"Mae dyn, er marw,'n fyw,
Didranc er crafanc angau, a barrau dur y bedd,
Yn nhawel wlad Paradwys y gorffwys llu mewn hedd."
 Ceir yma gydraddoldeb o dan y llenni trwch,
Yr uchel balch a'r isel yn llonydd yn y llwch;
Yr wyryf feindeg siriol, a'r bachgen bochgoch hardd,
Y doeth henafgwr penllwyd, y cerddor per a'r bardd,
Preswylwyr gwych balasau tan gloiau tyn y glyn;—
Cist hirnos, cauaist arnynt, yn ddiwahan fel hyn!
Maent megis blodau'r gaeaf, ym mru'r ddaearen ddu,
Yn aros eres wanwyn i'w hadgyfodi'n gu,
A'r awel yn yr ywen yn sio ar ei sedd,—
'Symuder coeg anrhydedd, a mawredd brau y bedd.'

Ymddwyr dros gaer y dwyrain y nos o'i hogof ddu,
A'r hwyr a'r ucher bygain yn gweini iddi'n gu.
Mae bryn a bro'n tawelu; noswylia'r gweithiwr blin,
Ar ol bod wrthi'n ddiwyd yn gweithio drwy bob hin;
Mae, druan, wedi cyffio, a'i war, oedd syth, yn grwm;
A'i fochau'n deneu bantiog, a'i wisg yn dyllog lwm;
Er hyn, mae'n foddlon dawel,—yn onest lân ei foes,
A gŵyr, ond odid, ddigon—mae'n gwybod am y Groes.
Yr haul, yn olwyn fflamgoch, sudd, sudd i'r eigion mawr,
A chymer yn ei freichiau ei fanon fwyn, y wawr;
Tywyllwch a'i fantellau enhudda yr holl fro,
Ac ebrwydd y daw allan y gwyllion i roi tro.
Rhaid brysio i'r hen breswyl, o Ben y Foel i lawr,—
Nos da'wch olygon tirion,—nos dda, y Gader fawr!


Y GOLOFN AUR OEDD AR Y MOR.

Y GOLOFN aur oedd ar y môr,
Fel heol glaer i'r heulog ddôr;
Yr haul a wenai waedlyd wrid
Nes cochai'r mân gymylau prid;
Ond O brydferthion! dyma'r brif,
Y golofn aur sydd ar y llif;
Mae'r tonnau'n llonydd deg eu llun,
A gwedd y môr fel gwyneb mun;
A'r haul yn araf fynd i lawr;—
Ond cyn ei fynd mae'r golofn fawr
Yn uno'r agos gyda'r pell,—
Y tir a'r nef—ororau gwell!

Fy enaid, O! na fedrem ni,
Deithio llwybr aur y lli;
Nes cyrraedd at y goleu rhydd,
I wyddfod y digwmwl ddydd;
Ac aros yno byth i fyw,
Yng ngwenau Haul Cyfiawnder Duw.


Y GOG A GWEN.

Y WIG las a ogleisia—y gwcw
Ag acen ysmala;
Yn unodl hon cawn anadl ha,
Nod gywir, marwnad gaua.

MESUR,— Y Gwenith Gwyn.


Y gwcw lwydlas dery gerdd
Yng nghoedwig werdd y faenol;
Ei hunodl ydyw anadl ha,
Mae'r eira wedi meiriol;
"Cw-cw, cw-cw," awelon mwyn
Sy'n llawn o swyn hudolus;
Mae'r briall glân a'r meillion blith,
Dan berlog wlith yn felus.

Yn iach, yn iach i'r gauaf oer,
Mae gwên y lloer yn gwynnu;
Yn iach i'r golwg noethlwm hyll,
Mae'r closydd cyll yn glasu;
"Cw-cw, cw-cw,"—mae'r irion ddail
A'r gwiail yn blaendarddu;

A gwên ar wyneb glân y glyn,
Mae bro a bryn yn tyfu.

Yr wynos draw ar lawer dôl,
Sy'n chwareu'n ol eu harfer;
A'r côr asgellog, bluog blaid,
Yn canu'n haid ddibryder;
"Cw-cw, cw-cw," yw cân y gôg,
Dau nodyn llôg sydd ganddi;
Ond eto mae ei hundon fwyn
Yn llonni ciliau'r llwyni.

Er maint yw nerth ei hud a'i swyn,
Mae gennyf gwyn i'w herbyn,—
Ni châr ei chywion,— lladd ei gwas,
Galanas gwaethaf gelyn;
Pereiddiach fyrdd yw nwyfus waith
Y bronfraith mwyn ar bren-frig;
Yn pyncio pur osperol gân,—
Yn hidlo diddan odlig.

Mae llawer bun trwy rin ei llais,
A dyfais ar ei gwefus,
Yn denu llu o dan ei llaw
I boen a braw gwylofus;
Telori fel angyles bydd,
Yn rhwym hi rydd y galon;
Ac fel y gồg nid yw ei serch,
Ond swp o erch ragrithion.

Ond gwn am un, ei llun a'i lliw
A wedda friw y ddwyfron;
Y ddistaw, feinlais, dawel ferch,
Angorfa serch fy nghalon;
Nid côg yw hon,—fe gân y nos,
Fel eos ni fyn dewi,
Neu linos lân mewn glas-frig lwyn,
Didonna swyn dadeni.

Mae gwedd fy Ngwen fel brithwyn ros,
Neu effros mân yn nyffryn;
Yn gyfliw pob rhagorion gardd,
Cyfunlliw'r hardd a'r dillyn;
Nid côg yw hon, mae'n bur ei bron,
Yn dirion ei mwynderau,
Ac nes dêl hyd yr oes i ben
Yr un bydd Gwen a minnau.


CADW'TH FEDDWL FEL DY LAW.

SYCH dy ddagrau, eneth anwyl,
Nid yw'n amser cadw noswyl;
Paid, fy ngeneth wen, a phoeni,
Nid yw hynny ond dihoeni;
Y mae amser gwell gerllaw,
Cadw'th feddwl fel dy law.

Poen a gofid deimlir beunydd,
Poenau fory, poenau drennydd;
Ond mae rhywbeth eto'n rhagor—
Drws daioni sydd yn agor;
Y mae amser gwell gerllaw—
Cadw'th feddwl fel dy law.

Os bydd weithiau gwmwl du
Yn gorchuddio'r wybren gu,
Derfydd hwnnw heb ei dras,
Yna mwy cawn awyr las;
Y mae amser gwell gerllaw—
Cadw'th feddwl fel dy law.

Llawer bore bydd y gwlaw
Yn dyhidlo yn ddi-daw;
Ond cyn hanner y prydnawn
Tywydd teg o'r brafiaf gawn;
Amser gwell sy'n dod—a ddaw—
Cadw'th feddwl fel dy law.

Gobaith! Gobaith! y mae hedd
Tragwyddol gariad ar dy wedd;
Pan wrth farw, 'ngeneth wen,
Ar ei fynwes pwys dy ben;
Y mae amser gwell gerllaw—
Cadw'th feddwl fel dy law.


BUGEILEG.
TESTYN—Blodeuwedd Cwm Brwynog yn canu wrth odro'i geifr; a Hywel ar lepen Moel Eilio yn bugeila. Amser—Y bore.

O! MOR glws ar fore gwanwyn o dan glog o farrug llwydwyn,
Ydyw gweled blodyn bychan yn rhoi gwên ar wyneb anian;
O! mae e'n dlws. O! mae e'n dlws.
Ond mae gwenau tirion Hywel, a'i ymddygiad mwyn a thawel,
Pan yn meiriol rhew fy nghalon, a'i gusanau per melusion,
I mi'n ganmil gwell, i mi'n ganmil gwell.

Clws yw'r crinllys ar y dorlan pan font newydd dorri allan;
Gwenu byddant, druain gwelw, ar unigedd cel ei ddelw;
O! maent yn dlws. O! maent yn dlws.
Ond mae golwg Hywel anwyl, ar y barth ar adeg noswyl
Lawer clysach na'r holl flodau—mae mwy tlysni ar ei ruddiau,
Oes, ganmil mwy, Oes ganmil mwy.
Clws yw'r allt pan bo briallu, chwerthin byddant yn ddiballu;
Awel Ebrill led eu deilios i roi gwên ar fin y cyfnos;
O! maent yn dlws, O! maent yn dlws.
Felly hefyd mae fy nghariad, deil yr un er gwrthwynebiad;
Du-nos erlid ni wna iddo am un funud fy anghofio!
O! 'nghariad bach, O! 'nghariad bach.
Blodau'r dydd pan font yn dryfrith ar y ddôl o dan y manwlith;
Megis gemau teg fe 'u gwelir, yn addurno gwisg y glasdir;
O! maent yn dlws, O! maent yn dlws.
Ond mae llygaid gleision Hywel, is y talcen o liw'r cwrel,
Pan fo dagrau,—perlau cariad, yn eu llenwi bob amrantiad,
I mi'n dlysach fyrdd; i mi'n dlysach fyrdd.
Rhuddos Mai a'r dyner lili, rhosyn gwyn a phob rhyw bwysi;
Clws yw'ch gwedd ar hafaidd hinon—peraroglwch yr awelon;
O'r lili wen! O'r rhosyn brith!
Ond y lili wen a'r rhosyn wywant fel pob tyner flodyn;
Ond mae blodyn na edwina,—blodyn cariad byth ni wywa;
O! 'nghariad bach,
O! Hywel fwyn.
Yn y glaslyn bedw deiliog, derw cryf, ac ynn canghennog,
Masarn hefyd,—oll yn gwisgo mantell deilios haf yn gwywo;
O! maent yn dlws, O! maent yn dlws.
Ond y coedydd ânt o'r olwg pan ddaw Hywel deg i'r amlwg;
Harddach fyrdd na'r glasgod tawel ydyw gwedd fy anwyl Hywel.
O! 'nghariad mwyn, O! 'nghariad mwyn.
Mwyn yw cân y ceiliog bronfraith pan yn tywallt seiniau cymhleth;
A'r ehedydd yn y bore pan yn pyncio am y gore.
O! maent yn fwyn, Ο! maent yn fwyn.
Ond i mi, mae llais fy nghariad fyrddiwn mwynach pan fö'n siarad;
Ac yn ddibaid son—a thasgu—O, na chawn yn awr ei wasgu;
O! 'nghariad mwyn, O! 'nghariad mwyn.
Duw o'r nef fo hefo Hywel yn ei gadw rhag oer awel;
Rhad Duw arno, ef a'i ddefaid, ydyw gweddi bur fy enaid;
O, Arglwydd Ior, clyw Di fy nghri.
Gyda minnau, Iesu anwyl, boed yr Ysbryd ar bob egwyl,
Yn fy ngwylio rhag im llithro, nes dod yna byth i drigo,
I'r nefol gôr fyth gyda thi.


DINBYCH A DYFFRYN CLWYD

"Cawn ddigon o radlondeb
Ar waelod Dyffryn Clwyd."


LLYN Y MORWYNION

"RYWBRYD yn yr Oesoedd Canol digwyddodd fod prinder mawr o ferched ieuainc yn Nyffryn Ardudwy; a'r gwŷr ieuainc, gan deimlo eu hunigoldeb, a benderfynasant dorri dros y bryniau, a myned a wneddynt cyn belled a Dyffryn Clwyd. Wedi aros ennyd yno cafas rhai rianod, a diatreg groesi y mynyddoedd yn ol a wnaethant. Pan ganfu gwŷr Clwyd hyn, ffromasant, ac ar eu hol yn arfog yr aethant, a phan ar bwys Ffestiniog goddiweddasant wŷr Ardudwy a'r Morwynion. Cymerth ffrwgwd waedlyd le rhwng y ddeu-lu. Gwyliai'r Morwynion y cad ar faes o ben cnicyn o graig gyfagos.

Lladdwyd gwŷr Ardudwy oll. A'r morwynion wrth weled hyn a redasant i'r llyn gerllaw, ac yno y cawsant fedd diarch diamdo, ac fyth wed'yn galwyd ef yn Llyn y Morwynion. Heb fod yn nepell oddiwrtho mae Beddau Gwŷr Ardudwy."

I.

MOR landeg gwedd Traddodiad! Merch hynaf Hanes yw,
Mae'n cadw Brutiau'r oesoedd, cofiannau dynol ryw;
Mae'n chwaer i Cof wybodus, a'r ddiddan ffyddiog Coel
Yr hon sy'n gwledda 'n wastad ar seigiau ffeithiau moel.
Y gwiw-nef yw eu cartref; ond deuant ambell dro
I grwydro hyd y ddaear, er mwyniant bryn a bro;

Gwasgarant wrth rodianna ar hyd eu didryf ffyrdd
Addurnol flodau purdeb, yn sypiau gwyn a gwyrdd;
Perorant hefyd gerddi, melusder gerddi hud
Nes synnu dwfn encilion y cymoedd ceimion mud;
Chwareuant aur delynau ar gribau'r bryniau ban,
A llonnant lannau llynnoedd, a mwynent lys a llan.

Fel tarth ar fore tawel, yn hir gudynau rhydd,
A'r awel swrth yn cysgu ym mynwes deg y dydd,
Neu luwchfa wen Eryri dan wenau goleu Mai,
Neu draethell lefn dywodog, ddi-gregin, ar y trai,—
Cyffelyb bryd hyfrydol y tair awenol hyn,
Y tair a welwyd ganwaith wrth lannau'r gloew lyn.

Hawddamor, fyth-forwynol a siriol ferched nef!
Mae cariad yn eu llygaid, a mwynder yn eu llef;
Dyhidlant yn ddiseibiant gawodydd dwysion serch,
Nes mwydo llawer encil â mwygil ddagrau merch.
Mae enaid pob anwyldeb, ac ysbryd pob peth pur,
Yn gwenu yn eu gwyneb, yn gyrru ymaith gur;
Mae araf feddf awelon, awelon tirion ter,
A pheraroglus neithdar y wlad tu draw i'r ser,
Yn dafnu eu llywethau, yn gwlitho'u llofnau llyfn,
Fel eurwallt môr-forwynion ym mhreswylfeydd y dyfn.
Mae pur ddwyfoldeb nefol yn dalaith am eu pen
A hwythau'n rhydd anadlu awelon Gwynfa wen.
Hawddamor! fyth-wyryfol a siriol ferched nef,
Pa ryfedd fod angylion yn hoffi swyn eu llef?

TRADDODIAD gu, yr hynaf o'r tair, mae'n berffaith hardd;
Ei gwisg yw anfarwoldeb; ei geiriau, iaith y bardd;
Nid oes ond ef eill ddeall ei throell-ymadrodd mwyn,
Na dirnad ei chyfrinion, na synio 'i dirgel swyn;
Mae ganddi fôr-forwynion, rhai heirddion iawn eu hynt,
Yn rhodio gwyneb llynnoedd, ac yng ngherbydau'r gwynt
Yn teithio yn ddiflino hyd gudd gêl-fannau'r coed
Lle na bu dyn ers oesoedd yn llunio ol ei droed;
Maent hwy yn ffyddlon wylio hen gofion bore'r byd,
Pan ydoedd Amser penllwyd yn chware hefo 'i gryd;
Pan oedd dwyfoldeb gwridog yn fywiog a di-nam
Yn derbyn pob anwyldeb o gwmpas glin ei fam;
Ym more clir bodoldeb, cyn duo'r oesoedd hen,
Pan roddai huan tangnef ei hyfrydlonaf wên.
TRADDODIAD! Dysgodd feini i ganu yn ddi-gwyn,
Ar deiliog goed berori yn llu ar hyd y llwyn;

Rhoes lafar i glogwyni, a llef i greigiau crin,
Hyawdledd i afonydd, a'r ffynnon bêr ei min
A edrydd ryfedd bethau, cofiannau'r dyddiau gwyn,
A chyfrol hanesyddol yn llawer gloew lyn.
Mae'r llyn a'r môr yn ddelw o'r DWYFOL mawr ei hun
Anfarwol yw ei enw, aflonydd yw ei lun.

Cyfryngau unfryd Anian yw'r oll gweledig sydd
Yn dangos i'r golygon brydferthion gwlad y dydd.
Mae'r nefoedd las serenog, a'r ddôl feillionog hardd,
Yn uno nef a daear i lygaid craff y bardd;
Mae bywyd anfarwolfyd, a siriol lwyni hedd
Yn dangos eu gogoniant claer yr ochor yma i'r bedd.

Ond, nefol fwyn DRADDODIAD, gad imi yn ddi-fraw,
Gael unwaith yn fy mywyd afaelyd yn dy law,
A rhodio yn dy gwmni ar hyd y bryniau hyn,
Y bryniau sydd yn gwarchod lle y brwynog ros a'r llyn.

II.
Eisteddai hen Awenydd blinedig ar ei hynt,
Ei wlanog hir-gudynau gwyn a droellid gan y gwynt,
Ei delyn yn ei ymyl, a'i phwys ar foncyff cam,
Y delyn bêr a gafodd yn gofrodd gan ei fam;
Dan gysgod glas fasarnen eisteddai'n brudd ei fron,
A'i wyneb yn ei ddwylaw, a'u pwys ar ben ei ffon.
Sidellai ffrwd risialog ar fron briallog fryn,
Gan frysio tua'r gwastad, er gloewi gwedd y glyn,—
Y glyn lle nythai'r adar a ganent mor ddi-gwyn
Na fedrid am saith mlynedd ddim blino ar eu swyn.
Ond Cwsg, cydymaith Lludded, ddaeth ato'n araf bach,
A chauodd ei amrantau, a chlodd ei synwyr iach;
Ond cyn pen hir canfyddai, a'i lygaid wedi'u cau,—
Yn sefyll yn ei ymyl, ac yn ei dwylaw gnau,
Forwynig landeg odiaeth, a'i gwisg yn hynod wen,
A'i du-wallt crych-fodrwyog yn addurn gwych ei phen
Ddisgynnai'r rhydd lywethau croes-ymgroes dros ei chefn,
A hanner cuddio hefyd ei bronnau glân eu trefn.
Dechreuodd rydd—ymddiddan ag aceniadau coeth,—

"Myfi yw morwyn Anian, CHWIFLEIAN ddiddan ddoeth
Y'm galwyd gan Ceridwen, pan oeddwn ar ei glin,
Yn sugno llaeth ei bronnau, yn tynnu mel ei min,
Mae gennyf, fwyn Awenydd, gyfrinion dyfnion dysg,
Dadlennaf ddwfn ddirgelion a ddysgais gan y pysg,—

Mae llyn di-donnau llonydd wrth droed y Manod draw,
A fydd yn fedd diamdo morwynion ddydd a ddaw;
Cei dithau weld y gofwy, a phrofi'r aethus don,"—
Ar hyn ryw fodd fe lithrodd ei ddwylaw dros ei fron;
Diflannodd y Chwifleian tu hwnt i geulan werdd,
A'r bardd yn hanner effro a dybiai glywed cerdd
Yn llwytho yr awelon,—a'r dail yn dawnsio'n rhydd,
Ac "Adar Glyn Rhianon," perorion nos a dydd,
Yn mud a distaw wrando,—yn synnu ar y sain;—
Ond canfu'r bardd ar barlas pwy oedd y canwyr cain.
A chlywodd eu cyd-odlau,—deallodd air neu ddau,—
"Y Llyn," a "Gwŷr Ardudwy," ac hefyd "bywyd brau."
Aeth yn ei flaen yn ffodog, a'i delyn ar ei gefn,
A cheisiai wrth ymlwybran ddirnadu'r ryfedd drefn;—
"Rhagluniaeth," meddai, "Tynghed, dy ferch, mae honno'n :ddall,—
Paham mae hon yn rhoddi i'r annoeth fwy na'r call?
Mae dreiniog lwybrau einioes heb foes, yn groes eu greddf,—
Diodid nid da ydyw rhoi bai ar ddifai ddeddf.
Er hynny (Duw fo'n maddeu), mae rhywbeth hynod gam
I'w ganfod ar y ddaear. Mae rhai'n gyfoethog; pam?
Ac ereill yn yn ymlusgo yn salw o dan draed;
A'r cyfan oll yn frodyr—heb ddim gwahaniaeth gwaed."

Pan oedd yn syn-fyfyrio fe welai lanciau llon—
Rhai'n ymchwedleua'n ddifyr,—rhai'n taflu carreg gron,
Neu ynte drosol anferth,—er dangos grym a nerth;
A swp o wŷr oedrannus dan gysgod deiliog berth
Yn son am ddyddiau maboed, yn ieuainc, er yn hen,—
Eu bywyd mewn deng munud ail fywient gyda gwên.
Aeth atynt.—Fe roed crechwen groesawus iddo'n awr,
Ac megis cylch o'i gwmpas daeth pawb yn fach a mawr;
Yr hen yn dawel syllai,—yr ieuainc graffai'n syn
Ar wyneb yr Awenydd mwyn, a'i hir gudynau gwyn.
Gofynnwyd iddo aros am ennyd yn eu mysg—

"O aros," ebai Mervin, "cawn gennyt ti ryw ddysg;
Tydi yw'r gŵr a welais yn nhawel oriau'r nos,
A choelio'r wyf y medri roi hanes Enid dlos,
Fy ngobaith;—cydmar enaid;—gwyr pawb mai unig wyf;—
Gwn daw o dannau'th delyn feddyglyn i fy nghlwyf.
Tyrd heno i fy neuadd, cawn eto hir ymgom;
Pa le mae Rhys neu Hywel? Dowch; ewch a'r delyn drom,"—
Fel mellten drwy'r ffurfafen daeth meinwen at y bardd
A cherddai wrth ei ochor nes cyrraedd godre'r ardd,
Ond yno sydyn safodd a llinyn yn ei llaw,


A chlywodd pawb hi'n sibrwd,
"Ydrefn sy'n tynnu draw,
Mesuraf fi amseroedd, a llanwaf fedd y llyn;
Mae'r rhosyn heno'n wridog, a'r lili'n las a gwyn."
Syn-safai'r hen Awenydd, dywedai'r gwir yn noeth;
Wel, dyna rydd-ymddiddan, Chwifleian ddiddan ddoeth."

III.
"Mae gennyf," meddai Mervin, pan yn ei Neuadd lawn,
"Gyfrinach â'r Awenydd. Foreuddydd a phrydnawn,
Breuddwydio'r wyf am rywun, a hynny yn barhaus;
Pwy ydyw'r anwyl feinir? Paham mae yn sarhaus?
Mae yma hefyd heno gyfeillion fel fy hun—
Mewn dwfn deimladau beunydd oherwydd nad oes mun
I'w chael yn nhud Ardudwy. Pur galed ydyw hyn;
Moes i ni'n awr dy gyngor ",—

Yr Awenydd.—"Mi welais ar y llyn
Aderyn balch yn nofio, a'i wisg fel eira gwyn,
Ei hunan mewn unigedd, a'i olwg oedd yn syn."

Mervin.—"A fedri di, Awenydd, hysbysu in' paham
Mae rhai yn gorfod bydio heb neb i luddio 'u cam?
Mae arnom eisiau rhiain cariadus heinif heirdd,—
Rhai tebyg i'r anwyliaid ddesgrifir gan y beirdd.
Os medri, brysia, dywed,—tosturia wrth ein nwyd,"—
Atebwyd o'r tu allan,—

Y Chwifleian.—"Draw, draw yn Nyffryn Clwyd,
Mae Enid dlos y Glasgoed yn curio er dy fwyn,
Cyferfydd di yfory yng nghêl cysgodol lwyn,
Dos yno a'th farchogion, mewn gwisgoedd gwyrdd a gwyn,
Ond cofia'r 'bedd diamdo,' a 'llonydd dwfn y llyn.'
Dos dithau'r mwyn Awenydd, ac arfer eiriau coeth
I'w dilyn,—dyna gyngor Chwifleian ddiddan ddoeth."

Yr Awenydd.—"Rhaid," ebai'r Bardd, "yn ufudd, os mynni gael y fun,
I ti a'th ddewr farchogion yn union bod ag un,
Ddod drosodd i Rufoniog—yn gefnog, wrth y gais,
Daw Enid ar ei hunion i'r llwyn pan glyw fy llais
Yn canu 'Mwynder Meinwen'; 'r wy'n adwaen rhian dlos
Y Glasgoed ers blynyddoedd. Na falier yn y nos;
Rhaid cychwyn; galw'th ddynion; na chymer fir na bwyd,
Cawn ddigon o radlondeb ar waelod Dyffryn Clwyd."


Pan oedd y wawrddydd laswen yn agor dorau'r dydd,
A'r bywiog chwim awelon yn plygu cangau'r gwŷdd,
O ben Hiraethog noethlwm canfyddid cyrrau'r fro—
Y wlad lle'r oedd y dewrion am aros dros eu tro.
Pan oedd y meirch golygus yn gorffwys ennyd iach,
A hwythau'r glân farchogion,—i gyd o uchel âch,—
Yn ymddifyrru'n llawen, a'u pennau oll yn noeth,
Disgynnodd yn eu canol y lân Chwifleian ddoeth.
Dywedai'n llym wrth Mervin;—

Ond gwylia'r 'Llyn mynyddig a'r rhosdir grugog llaith.'"
Bydd llwyddiant ar dy daith,

Aeth ymaith ar amrantiad gan farchog meirch y nef,—
A thaerai rhai o'r dewrion eu bod yn clywed llef
Yn treiddio trwy'r clogwyni; a'r adsain ar y bryn
Yn ateb," Cymer ofal o'r rhosdir llaith a'r llyn."

V.
Bu'r dderwen fawr yn fesen, bu'r afon ddofn yn ffrwd;
Bu'r haul yn ddwl lygiedyn yn rhodio yn y rhwd;
Ond troellir gan Ragluniaeth a Thynged gibog gâs
Ddigwyddion byd yn sydyn hyd derfyn bywyd bâs.
Ymwawriai'r dydd yn raddol a'r adar pêr eu cerdủ
Ddyhidlent felus odlau yng nghudd y goedlan werdd;
A'r lleiniau teg meillionog, toreithiog lwythog le,—
Edrychent mor wyryfol a thyner lesni'r Ne.
Tirioni a Thlysineb, y ddwy rodiannant draw,
A blodau glân a blagur yn dusw yn eu llaw.
Gorweddai gwŷr Ardudwy gerllaw afonig lefn,
O'u blaen y dyffryn eang, a mynydd o'r tu cefn;
Torasant dalaith fedw,— plethasant hi yn hardd,
Brithasant hi â blodau yn addurn ael y bardd;
Dechreuodd yntau chwareu alawon per ei wlad,
Alawon mwynlawn cariad sy'n llawn tymherau mâd.
Mor odiaeth lon edrychai gwŷr tirion Meirion fro,—
Pan oeddynt yn ymolchi yn gryno ar y gro;
A Mervin,—dyn agored, a'i wyneb llawn yn llon,—
Dau lygaid du'n serenu, a'i rudd yn goch a chron;
Ysgwyddau llydain grymus, a'i wallt'r un liw a'r frân,
Yn arwr mewn gwirionedd; ond cariad oedd y gân!
Ond ofnai hyn yn erwin, a chofiai'r breuddwyd hwn—
Yr ydoedd ar ei feddwl a'i bwys yn llethol bwn.


Un noson yn y gwanwyn daeth hunlle ar ei hynt,
Ac yn ei dull arferol fe bwysodd ar ei wynt.
Cyn hynny, gwelai rian, yn cerdded yn y coed
Gyn laned ag un angel; ond gwelai am ei throed
Ryw gadwyn haiarn rydlyd a phwysau wrthi'n dyn;
Ar funud ciliodd ymaith, a suddodd i ryw Lyn.
Ond pan oedd hi yn cwympo daeth hunlle megis arth
A gwasgodd nerth ei enaid fel gwasga'r haul y tarth.

VI.
Yr Awenydd.—"Dos draw i'r llwyn cyfagos ac eistedd ar y fainc
Sydd yno dan griafolen, a gafael mewn tair cainc;
Ymgroesa wedyn deirgwaith, ac adrodd y tri gair,
Ac yna taer ddeisyfa ymbiliau'r Forwyn Fair.
Daw Enid yno atat;—y brydferth
Enid fwynAnwylaf o'r anwylion i wrando ar dy gwyn.
Dos yno; gwŷr y cyfan; Chwifleian ddiddan aeth
I'w denu i'th gyfarfod; a dwyn ei chalon wnaeth.
Bydd Enid glws y Glasgoed yn eiddo iti mwy;
Prysura'n union ati, nac aros ddim yn hwy."

Aeth Mervin drwy'r coedlannau yn ffodog at y fan,
Ond O! daeth ofn fel afon nes boddi 'i enaid gwan:
Daeth arno arswyd creulon y Widdan,—morwyn ffawd,
Ac hefyd cofiai'r breuddwyd oedd bicell yn ei gnawd.
Yng nghanol llwyn canghennog, mi welai fainc a phren
Criafolen yn ymwyro, ar osgo uwch ei phen;
Dechreuodd ei ddefosiwn; darfyddodd; ni ddaeth neb!
Eisteddodd; cysgodd ennyd fer a'i wridog rudd yn wleb;
Y cyntaf peth a deimlodd oedd llaw morwynig wen
Yn chwareu'n anwyl hefo hir gudynau du ei ben.
Agorodd ei olygon, a gwelai fyd yn grwn;
Datodwyd tidau gofid caeth; a darfod wnaeth y pwn.
Sisialai'r ddau'n gariadlon ym mynwes gynnes serch,
Ac engyl pur a syllent drwy lygaid glas y ferch;—
Ymdoddent mewn anwyldeb;— neu fel yr enfys draw,
Ymollwng ar ol cawod wna i'r goleu gwyn gerllaw;
Cyffelyb golwg Enid; O serch y lluniwyd hwy,
A thyna'r achos iddynt roi amrywiol farwol glwy.
Carasant oriau hirion, ond byrion, byrion iawn
Yn nhyb y ddau; chwenychent hwy bob awr yn ddiwrnod llawn.
Carasant criau hirion,—dwy galon aeth yn un;—
Mae rhywbeth hyfryd, oes, mewn serch yn adgenhedlu 'i hun.

Enid.—"Tyrd, Mervin, tyrd i'r Glasgoed, cei groeso 'nhad a mam;
Moes glywed fy anwylyd glân, paham na ddeui; pam?"


Mervin.—"Mae 'ngwyr yn aros acw am dannaf hefo'r bardd."—

Enid.—"Na, tyred di, fy nghalon aur; mor bell a chlawdd yr ardd?"

Mervin. "Mae arnaf awydd dyfod, ond beth o'm gwŷr, fy mun?"

Enid. "Na falia, Mervin anwyl, hwy gysgant dawel hun
Wrth ddisgwyl am dy weled. Awn, awn, mae mantell lwyd
Yn agor ei goblygon llaith;—noswylia'r clodfawr Clwyd."

VII.
Y bore, fel arferol, ymrithiai huan haf,
Ond gwelid ar ei wyneb brith argoelion bod yn glaf.
Cyn hir fe dduai'r wybren;—pistyllai'r gwlaw er gloes;
A hin hyfrydlon noson cynt yn ddryghin erwin droes.
Ond os oedd du'r ffurfafen,'r oedd calon dau yn wyn,—
Nes clywsent wich y Widdan gâs yn brudio am ryw Lyn.
Adgofiodd hyn i Mervin y pethau drwg eu hynt,
Ond buan aethant ymaith oll fel niwl o flaen y gwynt.
Pan soniwyd am briodi, mor barod oedd y ddau!
Y tad gynghorai aros peth—" hyd nes gwisgiai'r cnau."
Y fam, er hyn, oedd foddlon; ei duw oedd Mervin hardd;
(Hen gariad iddi oedd ei dad, a chafodd ei gwahardd
I fod yn briod iddo;—ei chariad oedd er hyn;
A pharai serch Elio Llwyd yr un at Owen Wynn.)
Ond Enid feddal addfwyn, a'i bron yn llawn o dân,
Gynlluniodd i ddiengyd—(a thair genethig glân
I'w chanlyn;) hefo Mervin i dud Ardudwy draw,—
Ac am y bryniau'r aeth y pump er gwaetha'r gwynt a'r gwlaw.

VIII.
Ha! dacw wŷr Ardudwy ar lethr y mynydd serth
Yn canu ac yn dawnsio'n rhydd dan gysgod dreiniog berth;
Pan welsant hwy'r rhianod,—lliw'r manod, ar y bryn
Yn dyfod hefo Mervin ar gefn merlynod gwyn;
Rhoed uchel floedd gyfarchol,—plygasant ar eu glin,—
A phawb a geiriau swynol serch yn llifo dros ei fin.
Yn osgordd deg ymffurfiwyd; y Bardd oedd ar y blaen,
Ac yna Mervin ddenol—ar farch oedd deg ei raen;—
Ac Enid dlosgain hefyd; a'r tair mor lawen lon
Ag wynos pan yn campio yn nwyfus ar y fron.
O'u deutu ac yn dilyn, marchogion glân eu gwedd
A ddeuent fel cynhebrwng mawr,—heb feddwl am y bedd,—
Y bedd cyfriniol hwnnw, "diamdo fedd" y Llyn—
Gan rydd chwedleua'n ddifyr ddoeth wrth groesi nant a glyn.

Mynachlog! neu yspyty! mor swynol sŵn dy gloch!
Mae'n seinio dros y cymoedd cudd—" Yn iach! yn iach y bo'ch."
Mor hyfryd i'r pererin ar ol ei ludded maith,
Fydd clywed clir wahoddiad hon i orffwys ar ei daith!
Ceiff yma gartref tawel; a phawb fydd yno'n frawd;
Yn ceisio dysgu'r naill y llall i wrthladd byd a'r cnawd.
Yr oriau gedwir yma i ymbil am y rhad,
A gluda'r egwan, er mor lesg, i dawel dŷ ei Dad.
Ty gweddi,—ty elusen,—ty cariad, cennad Iôr—
Na foed i'r aberth bythol mwy gael gwawd o fewn dy gôr!
Ond bydded presenoldeb yr Hwn a roddes gri
"Fy Nhad, O! maddeu iddynt hwy," ar groesbren Calfari,
Ddylenwi côr a changhell, a chafell heb wahan,
Nes byddo'r byd yn teimlo gwres cynhesol Dwyfol dân.

I hen Yspyty Ifan, i wydd yr abbad ffraeth
Yr aed; a chyn pryd gosper llawn, eu dyweddio wnaeth;
Ac wedyn ail-gychwynnwyd yn osgordd fel o'r blaen,
A'r abbad ddaeth i'w hebrwng yn dirion dros y waen.
Ei fendith iddynt rhoddes, ac adref troes yn awr,
A hwythau aethant tua'u bro yn gwmni teg eu gwawr.

IX.
Pan draw ar frig y bryniau, yng ngolwg bro eu bryd,—
Hwy welent yr eangfor yn cysgu yn ei gryd;
Pinaglau draw ac yma,—hen greigiau noeth eu gwlad,
Castelloedd caerawg Anian lwys,—nawddleoedd rhyddid rhad.
Fe safodd pawb i syllu ar waedlyd wrid y nen,
A'r haul fel coch-farworyn mawr,—heb belydr am ei ben.
Pan yn eu syn-fyfyrdod daeth twrw ar eu clust,
Ni wyddai neb o ble na phwy;—sibrydai Mervin,—" Ust."
Ond cyn pen hanner munud, fe welid ar y bryn,
Ryw lu yn gyrru'n ffyrnig, a phawb a syllai'n syn.
Dynesu wnaent yn dalog, rhai mewn cynddeiriog nwyd,
Ac ereill ofnent na chaent byth un gip ar Ddyffryn Clwyd.
Χ.
Rolf, Arglwydd Dinbych.—"O ladron melldigedig! a hyllig deulu'r fall!
Cewch yma, myn y nefoedd fawr, gael profi pwys eich gwall!
Yn barod! Ha! Ellyllon; yn drawsion ewch dan draed,
Ceiff grug y mynydd feddwi'n awr wrth yfed nodd eich gwaed."

Mervin—" Yn araf, ddyn, yn araf; defnyddia os oes pwyll;—
Ni wnaethom ddim yn haeddu'r fath enwau llawn o dwyll.
Mae'n wir i Enid anwyl;—


Rolf.— "Taw, fulain. taw a'th sŵn."

Mervin.— "O'r goreu, Rolf; dim coegni; ni thrinir ni fel cŵn,
Myn gwaed fy nheidiau dewrion! farchogion blaen y gâd
Arfogwch; dim ond ymladd; nac ofner briw na brad."

Enid.— "Na, na, fy Mervin anwyl; dim ymladd; tyrd ymlaen;
Nid felly'n awr fy nghalon bach."

Gwŷr Ardudwy.—I'r waen! i'r waen!! i'r waen!!!

Yr Awenydd.—"Yn enw Duw a'i dangnef, pa beth? pa beth yw hyn?
Ystyriwch air o gyngor doeth hen wr a'i wallt yn wyn;"—

Gwŷr Clwyd.—"Bydd ddistaw! ffwl! yn barod,"—

Mervin.—"Ymladdaf fi fy hun
A dau o'ch rhai dewisol,"

Gwŷr Clwyd.—"Pa le mae ROLF yn un?"

Mervin.—"Tyrd, Rolf; yn awr yw'r adeg; nid dyma amser twrf,
Rhyw ddau o'th wŷr a thithau! tyrd, tyrd, yr adyn llwfr."

Enid.—"Moes gusan, Mervin, gwrando; fy nghalon! dyro ddau!
O! Dduw a Mair Fendigaid! mae f' enaid yn llesghau.'

Rolf.—I'r maes, ddyhirwyr anfad"—
Mervin.—"Doed dau i'th ddilyn di,
Ymladdaf â chwi'n lawlaw; neu ynte deued tri."

Rolf.—Dos ymaith, Enid, brysia, cei eto weled pam
Y buost mor fursenllyd a gwadu 'th dad a'th fam."

Mervin.—"Hyd angau, Enid anwyl; drwy angau awn yn un,
Dau ydym anatodol, briododd serch ei hun.”

"I'r maes" oedd bloedd aflafar y tincian arfau rhydd,
Ac ar y rhosdir brwynog llaith terfynwyd gwaith y dydd!

XI.
Ar gopa craig uchelgrib uwchben y rugog rôs
Y safai'r glân rianod pur wrth ymyl Enid dlos;
Ond, Ow! mae'n gwylltio; gwrando!—

Enid.— O!'r fyth Fendigaid Fam,
Eiriola! danfon gymorth i Mervin rhag cael cam.

****
Y maes oedd wastad hynod; a'r ddwyblaid ddaeth ymlaen;—
A'r oergri ruddfan dystiai fod marwolaeth ar y waen!
Daeth Rolf i arfod Mervin, a gerwin oedd eu grym,—
Neshaent yn hyf,—ond dyma dri a bwyill miniog llym,
Yn rhedeg yno i helpu,—ond dacw ddau i lawr,
A Rolf a'i ben fel ceubren hyll, yn brathu gwellt y llawr;

Ond ar y funud yna, daeth saeth o'r ochor draw,
A suddodd yn ei fraich yn ddwfn; ond nid oedd ofn na braw,
Parhau i wir weddio'r oedd Enid yn ddi ball;—
"O Arglwydd, cadw Mervin fwyn! Tydi yn unig all.
Mae'n medi ei elynion! O! Fab y Forwyn bur,
O! cadw Mervin imi'n ŵr, er gwaethaf llidiog gur."
Mae chwech yn rhedeg ato,—mae chwech yn erbyn un,—
Mae pedwar wedi cwympo, a'r pum"— * * *
"Duw ei hun
Faddeuo. Dowch, enethod! Fy Nuw a Mair a'i myn.
Cawn noddfa eto rhag eu llid ym mynwes lawn y Llyn."

"I'r llyn," oedd gwaedd y pedair, neidiasant,—cawsant fedd
Diamdo dan ei donnau mân; a theulu'r tawel hedd,—
Y Forwyn Fair a'r seintiau a'r pur wyryfon sydd
Yn cyfeillachu hefo'r rhain yng ngoleu'r nefol ddydd.

XII.
Mae "Beddau Gwŷr Ardudwy" ar waenydd Serw'n awr,
Yn ddalen waedlyd er coffau y flin ymladdfa fawr;
A thonnau "Llyn Morwynion" wrth olchi min y lan
Yn sibrwd beunydd am y "bedd diamdo" sy'n y fan.
A dywed mwyn Draddodiad,— " Ar lawer noson oer
Bydd Enid hyd y rhosdir llaith yng ngoleu'r welw loer
Yn chwilio am ei Mervin; ond cyn daw bore gwyn
Bydd wedi suddo yn ei hol yn llonydd dwfn y Llyn."




BEDDGELERT

Bedd Gelert, lannerch lonydd,
O'th gylch mae'r creigiau serth,


LLYWELYN A'I GI.
Mor edifar a'r gŵr a laddodd ei filgi.—DIAR.

LLYWELYN AP IORWERTH DRWYNDWN, a gyfenwir weithiau yn "Llywelyn Fawr," ydoedd dywysog glew, tua diwedd y deuddegfed cant. Yr oedd ef a'i deulu yn hafota yn Eryri, ac yn ymhyfrydu wrth ddilyn rhagorgampau diniwaid Cymru gynt. Yr oedd hely yr iwrch, yr ysgyfarnog, a'r llwynog, yn cael ei ystyried yn ymloniant arbennig yn y cyn-amseroedd.

Yr oedd gan y tywysog gi hoffus o'r enw Gelert, yr hwn a gyfrifid yn flaenor pob helfa. Un diwrnod, fodd bynnag, pan aed allan i ymddifyrru, ni welid mo Gelert ym mysg y cwn, a methid a dirnad paham na buasai ef yno. Ond pan ddychwelwyd yn ol, daeth y ci allan dan ysgwyd ei gynffon, i ddangos ei barch i'w arglwydd; ond yr oedd yn waed diferol drosto, a'r olwg arno yn arswydus. Rhuthrodd y tywysog i'r annedd, a chanfu'r cryd, yn yr hwn y gadawsid ei blentyn, a'i wyneb yn isaf, a ffrwd o waed yn dylifo oddiwrtho. Cynddeiriogodd Llywelyn, dadweiniodd ei gleddyf; trywanodd Gelert drwyddo, ac ysgrechai y famaeth a'r rhelyw o'r osgordd, a hidl wylent; ond rhruthrodd un o'r pendefigion ymlaen,—rhedodd mynach ymchwilgar yn gynt nag ef, ac er mawr orfoledd gwelai y baban yn cysgu yn dawel; rhod tro ar y gwrthban, a thyma g'obyn o flaidd yn gorwedd yn farw o dano, troed i edrych am Gelert; ond ni wnaeth ond tynnu un chwythad hir ac yna trengu.

Yr oedd y tywysog yn wylofus ei lef, ac yn edifarhau yn enbyd am ei fyrbwyllwaith angeuol, ac nid oedd dim anrhydedd yn ormod ganddo i'w wneyd â chorffyn y ci, ei gi ffyddlawn, yr hwn a waredodd blentyn ei arglwydd, ond a laddwyd o dan ddylanwad nwydau gwallgof. Claddwyd ef yng.nghwr y Ddôl, rhwng y Priordy a'r Gymwynas, ac erys ei fedd hyd y dydd hwn. Y mae'r maen garw mwsoglyd, a'r helygen lwydlas uwchben y llannerch y claddwyd Gelert, a gelwir y pentref cyfagos, yn gystal a'r plwyf, ar yr enw syml, ond tra swynol Bedd Gelert.

LLE llithra 'r Laslyn loew yn ddistaw tua'r traeth,
Wrth borth yr hen Gymwynas, hoff drigfa'r awen ffraeth,
Mae'r meddwl yn ymsynnu,—mae'n methu gwneuthur hynt,
Yng ngwmni glân fyfyrdod, i fro yr amser gynt!

Er syllu ar y Wyddfa, a'r eira ar ei phen,
Y Lliwedd serth a'r Aran, o dan ei mantell wen,
A Moel yr Hebog wargrom dan dewglyd wisg a gawn,
Yn gwylio'n syn fyfyriol y machlud bob prydnawn.
O! oror oer Eryri, mae ynnot nefol dân!
Cysegrwyd, do, dy greigiau, i Ryddid pur a chân.

Dy gymoedd ymguddedig, lle dewis bugail yw,
Ymhell o drwst a berw gwirionffol uchel ryw,
Ceir yno gymdeithasu yn dawel nos a dydd
A'r corneint neu â'r creigiau, plant diddan anian rydd;
Neu wrando chwiban peraidd plygeiniol gân y gwynt,
Yn goglais ein serchiadau am bethau'r dyddiau gynt.


BEDD GELERT, lannerch lonydd, o'th gylch mae'r creigydd serth,
Yn furiau rhag tymhestloedd, yn gaerau rhag eu nerth;
Er bloeddio o'r corwyntoedd, er udo yn ddidaw,
Ni chânt ond trwm ochneidio, yn gaeth yr ochor draw.
Yr harddaf o'n teg nentydd! mor gain a thlws ei gwedd,
Mae yma fywyd llawen yn bod ar waelod Bedd.

Hyfrydol ydyw edrych ar drem y bryniau ban,
Y glas—goch lwyni grugog ar lethrau Craig y Llan;
A'r geifr yn ymddifyrru—yn brefu'n llawn o nwyd,—
Eu gwlad yw'r graig ddaneddog, eu tref yw'r clogwyn llwyd.

Pa fan mor wyllt ramantus? Pa le mor dlws a hardd?
Mae'n herio yr arlunydd, mae'n gwatwar cais y bardd;
Delweddau yn blith drafflith,—pob un yn estyn bys,
I ddangos lle bu unwaith garegog Gadair Rhys.

Rhyw agen yw'r Gymwynas—y llethri union syth
Yn craffu ar eu gilydd, fel pe mewn cariad fyth,
A'r creigiau fel yn estyn eu breichiau yn ddifraw,
O'r braidd nad ym yn disgwyl eu gweld yn ysgwyd llaw;
Er fod y Laslyn yma yn drochion gwynion gant,
Yn chwyrnu'n uchelfrydig wrth rygnu'r graig yn bant,
Mae'n brysio tua'r Aber, ymhola am y ddôr,
Er mwyn cael gorffwys gronyn cyn cyrraedd eigion môr.

Pa le mae Dinas Emrys, chwareule'r Tylwyth Teg,
Ac Ogof y Dewiniaid y gwŷr a roddent reg
Ar ben gelynion Cymru, ysbeilwyr llawn o drais,—
Pan fyddai ein hynafiaid yn gorfod ar y Sais?
Pharaon yn Eryri gynt ydoedd enw hon,
Lle claddwyd Owain Finddu gan giwdawd ormes Don;
Ond Brynach yntau frathwyd â chleddyf yn y fan,
Gerllaw yn llwch mae'n llechu eu hargeledig ran;
Ac ar y meini geirwon mae gwaed y ddau o hyd,
Yn gof o'r gwaedlyd ymladd, a phery tra bo byd;
Y fan bu'r hen Wrtheyrn, ysgymun fab y fall,
Yn llechu'n edifarus, yn teimlo pwys ei wall,
Pan ydoedd ei frenhiniaeth a'i goron wedi eu dwyn,
Gan deulu Hors a Hengist, mewn munud dan ei drwyn.

Ond ofer ceisio adrodd y ddegfed ran o'r hyn
Sydd yma'n draddodiadol,—nid oes na dôl na bryn
Na chesail dawel mynydd nac edyn chwim y gwynt
Na ddygant ryw argofion o'r pethau fuant gynt;
Gadawer in' gael golwg ar le Mynachlog Mair,

Ond Ow! ei furiau heirddion, na 'i dyrau mwy nis cair;
Mae rhaib bydoldeb wedi eu dadsylfaenu oll,
Ac yntau y Lleiandy sydd wedi mynd ar goll.

Ond draw yn Nôl y Lleian, o dan helygen lwyd,
Mae carreg arw'n aros, O! garreg, pa beth wyd?
Ai dernyn bach o gromlech? neu un o'r meini arch,
I'r hwn mae'r difoes amser yn gorfod dangos parch!
Pa beth? A wnei di ateb? Ust! Ust! ai bedd wyt ti?
Mil henffych, faen mwsoglyd, am nodi Bedd y Ci.

II.
Yr helgorn uchel alwai yn fore ar y cŵn,
Marchogion Llys Llywelyn ymlonnent yn y swn;
Ymbarotoi yn frysiog yr oeddys am y dydd,
Gan feddwl cael difyrrwch wrth hela'r iwrch a'r hydd.

Yr helgorn ddiaspedai yng nghreigiau serth y fro;
A'r garreg adsain fynnai roi ateb yn ei thro;
Y milgwn hoenus neidient, a'r huaid oeddynt wyllt;
Bugeiliaid, druain, ofnent am fywyd rhai o'u myllt.

Edrychai y Tywysog yn serchog arnynt oll;
Ond canfu er ei ofid fod un o'r cŵn ar goll:
"Pa le mae'r cyflym Gelert, y milgi goreu'n fyw?"
Gofynnai yn bwysleisiol y T'wysog uchel ryw.

Ar hyn o berth gyfagos fe neidiai carw coch;
Y cŵn o'i ol cyflyment draw, heibio i Ddinas Moch
Drwy'r Craflwyn—tua Chwmllan, i lawr i'r Nant yn chwim;
Ond methai'r cŵn er hynny ag ennill arno ddim.

Gerllaw i Hafod Lwyfog collasant ef yn lân;—
Y T'wysog oedd yn llidiog, a'i lygaid byw yn dân;
Gofynnai unwaith wedyn am Gelert,—blaen y gâd,—
Y ci nodedig gafodd yn gofrodd gan ei dad.

Gerllaw y glyn caed codiad o'r prysgoed llamai iwrch;
A'r cŵn a'i hyf ymlidient,—y blaenaf ydoedd Twrch;
Ac yna Dewryn hirflew, yn nesaf Don a Brith;
A'r T'wysog a'i osgorddion farchogent yn eu plith.

Ond collwyd hwnnw eto—er hela, dala dim;
Cydunai pawb i holi "Pa le mae Gelert chwim?"
Ac wrth ddychwelyd adref, Llywelyn roddai wŷs
I'w heliwr chwilio allan am dano gyda brys.


Pan ydoedd y Tywysog a'i Dywysoges gu
Yn hela,—aeth y famaeth ar hynt i'r Ogof Ddu;
Cyn cychwyn rhoes y baban i gysgu yn ei gryd;
Prysurodd wedyn allan yn nwyfus iawn ei bryd.

Dychwelodd y Tywysog, ac wrth y neuadd lawn,
I'w gyfwrdd rhedai Gelert, a'i wedd yn erchyll iawn;
Yr oedd yn waed diferol i gyd o'i ben i'w draed;
Dychrynnai y Tywysog! Gofynnai, "Beth yw'r gwaed?"

Fe ruthrodd i'w ystafell; canfyddai yno'r cryd
Yn gorwedd ar ei wyneb, a'r lle yn waed i gyd!
Dolefai! ac yn wallgof ei gleddyf hyd ei garn
A roes drwy Gelert, druan, a mathrai ef yn sarn.

Y ci roes wawch angeuol, ac yn ei ingol aeth,
Griddfannai'n ddwfn a threiddiol, nes deffro rhywun wnaeth;
Sibrydai'r plentyn gwirion, o dan oblygion bwn;
Ymsynnai'r tad—a holai, "Pa beth! llais pwy oedd hwn?"

Ond un o'r hen fynachod a redodd at y cryd;
A chododd ef i fyny,—ac yno'n dawel glyd
Y bachgen bochgoch wenai, heb arno friw na brad,
Ac ebrwydd llon ymlonnai ym mreichiau 'i dyner dad.

Cyfodwyd y gwrthbannau;—yn farw wele flaidd!
"O Gelert, pwy mor ffyddlon? ei feio pwy a faidd?
Y Ci—O! Gelert—marw! Ow! gresyn! beth oedd hyn!
Y ci a gadwodd fywyd fy anwyl blentyn gwyn.

"Rhaid claddu'r ci yn barchus mewn llannerch deg ei gwedd;
Yn gof i'r oesoedd ddeuant rhof garreg ar ei fedd;
A thra bo hen Eryri, a son am danaf fi,
Dymunwn gael fy enwi ynglŷn â Bedd y Ci.”

III.
Adroddid gynt yn ddoniol, y chwedl ryfeddol hon,
Pan fyddai ein hynafiaid yn llawen ac yn llon;
A chlywyd lawer canwaith, ar hirnos gaeaf du,
Mewn amryw Fod yr Hafod, gofnodi'r hanes cu;
Yn neuadd y Fynachlog, y Gwyliau, clywid hon,
A'r "cwpan mawr" a lenwid, a medd i fwydo'r fron;
A dywed hen gofiannau y byddai'r cerddor mwyn,
Fel hyn, yn gof am Gelert, yn canu galar gŵyn,—



RHWNG BEDDGELERT A CHAERNARFON


Tra bo dwr fe fydd afonydd,
Tra bo dail bydd gleision glosydd;
Tra bo coed, a maes, a mynydd,
Yn dwyn i ni dân awenydd,
Dylid beunydd gyda'r delyn,
Uchel folir ci Llywelyn.

Tra bo llwydlas yr helygen,
Tra bo'n crynnu ddail yr aethnen;
Tra bo'n wynion flodau'r perthi,
Tra bo'n llawen adar llwyni;
Tra bo canu gyda'r delyn,
Uchel folir ci Llywelyn.

Pwy mor dirion, pwy mor anwyl?
Gweddus cadw iddo arwyl;
Do, bu hwn hyd angau'n ffyddlon,
Yn gwaredu baban gwirion;
Tra gwerthforir cân a thelyn,
Uchel folir ci Llywelyn.

Tra bo'r Wyddfa yn Eryri;
Tra bo dolydd is Cwm Dyli;
Tra bo hedydd uwch y gweunydd,
Tra bo maenor, môr, na mynydd,
Cofir gan yr oesoedd ddilyn
Argel wely ci Llywelyn


Y GWANWYN.
Ar ddelw Anacreon.[9]

MOR swynol rhodio'r dolydd gwyrdd,
A hulir gan flodionos fyrdd;
Lle'r maws awelon roddant gwyn,
Wrth fethu dal perogl y llwyn;
Mor hyfryd dan y cysgod cudd,
Cusanu meinwch goch ei grudd,—
O dan flodeuawg berth yn rhydd,
A difyr dreulio oriau'r dydd.


ODLIG SERCH.
(Cyflwynedig i Rian.)

CYFLIW flodau perthi gwynion
Ydyw gwedd fy mun lygadlon,
Claer fel caenen manod unnos,
Glain fel manwlith ar y deilios,
Deune'r breilw, gorne'r wendon,
Yw'r forwynig biau'm calon;
Och! na chawn yn gyflawn goflaid,
Wasgu mwynwen gymen gannaid;
Yn y glaslwyn mwyn yw meinir;—
Mwynwen yno a ddymunir.
O mor swynol yw cusanu
Gwefus ruddgoch mun lygeitu;
Sugno serch y ferch yn firain,
Lladryw fanon, eilw llwydrain;
Lleddir fi gan fanon feinael
Mud im ydyw rhaid ymadael;
Mwynwen irwen, lawen, liwus,
Clyw fi'n erfyn,—'rwyf yn glwyfus,—
"Dyro gusan, fwyn-gan fwyn-gu,
Gwisg diriondeb, tyrd i'm gwasgu
Dan y fedwen fonwen fanwallt,
Dal fy mhen yn llwyni'r wenallt;
Moes i'm gusan, ddynan ddenol,
Ing fy enaid sydd angeuol,
Cyn fy medd, O clyw fy ngweddi,
Cyn i'm calon dirion dorri,—
Ust! rho ymaith glust i wrando,
Dir, lliw'r hinon, y mae'n dryllio!
Gwrando, clyw, y syw fun swynol,
Rho dy wên i'r dyn awenol;
Croen lefn ydyw, fel y crinllys,
Ei glwys wenau,—medd Glasynys.


BUGEILEG DELYNEGOL

BUGEILES fwyn, ar docyn brwyn,
Wrth fin afonig groew,
Eisteddai'n syn, a'i chorgi gwyn
A welai yn y gloew
Dri oen a'r fun, yn llon ei llun—
Dechreuodd yntau gyfarth,
Ac wrth ei swn deffroes y cwn
A gysgent yn y buarth.

Cyfarthai 'rhain, fel pan fydd brain
Yn codi'r grawn o'r llafur;
A'r cwn yn haid, drwy'r sych a'r llaid,
Yn annos pob creadur;
Oddeutu'r llyn fe frefai myn
A methai'r geifr a dirnad
Pa beth oedd hyn; a'r corgi gwyn
Yn para yn ei ddwnad.

Yr afr o'i gwlad—y lithrig graig,
Daeth hithau at yr afon;
Fe syllai'n syn, ac yn y llyn
Canfyddai'r pethau tlysion;
Oen llywaeth blin oedd ar ei glin,
Un arall ar ei hysgwydd,
Ac un di-sen yn rhwbio'i ben
Ym mraich yr eneth ddedwydd.

Cyfarthai'r cwn, yn fawr eu swn,
A'r myn barhai i frefu;
A'r afr fel hyn ar lan y llyn,
Ddechreuodd arnynt grefu;
Dywedai "Tewch! ust! ust! gwrandewch
A glywch chwi neb yn siarad?"
O'r graig ddifraw a safai draw
Fe lefai rhywbeth—" Cariad.”

Distawai'r cwn, a suog swn
Yr afon flin aflonydd
Gynhwysai gân y gwenyn mân
Rhwng glân friallog lennydd;
Y mel yn sug ym mlodau'r grug
A chlochdar ieir y mynydd
A ddarfu'n llwyr, fel arlliw'r hwyr
Ar waelod ein maenolydd.


O'r diwedd bwch a'i gyrn yn swch
Fraenarai'r lan gyferbyn;
A'i ffyrnig nwyd gwnai'r llyn yn llwyd,
A rhaid i'r dwr oedd derbyn;
Fe gollwyd llun y fein-ael fun—
Aeth hi a'i hwyn i'w hafod;—
A'r cwn o'i hol wrth gamfa'r ddôl
Yn chwareu hefo'i chysgod.

Fugeiles fach, a'i gwyneb iach
Fel blodau pren afalau!
Y gwyn a'r coch sydd ar ei boch,
A rhuddaur ei chudynau;
Anadlai'n rhydd, fel awel dydd
Oddiar feillionog borfa;
A'i llygaid fel pabwyren lâs
A dyf ar lawer morfa.

Ymysg ei hwyn, a'i defaid mwyn,
Ei geifr a'r cwn a'r cyfan,
Bydd Enid lân yn bêr ei chân
Ar lethrau Gallt y Tryfan;
A Geraint draw gerllaw y llyn,
Yn llanc penfelyn llawen
Wrth weled llun ei anwyl un
Yng ngwyneb y feillionen.

Pan daena'r nos ei mantell dlos
Frith-eurog dros y nefoedd,
Bydd canwyll serch yn llygaid merch
Yn oleu yn ein cymoedd;
Wrth oleu hon y llanciau llon
A grwydrent i gymharu;
Eu hoffder yw, fel pawb yn fyw,
Cael ambell awr o garu.

Ac er i'r cwn, yn ddrwg eu swn,
Ymroi i gyfarth Enid,
Mae wyn fy serch o gylch y ferch
Yn addfwyn a chynhennid.
Forwynig Gwyrfai lawen lais,
Rho glust i'm cais i siarad;
O! Enid lân, mae nefol dân
Yn neusill bychan—CARIAD.


Y CRWYDRYN.

PWY na theimlai dros y crwydryn,
Druan llwyd a gwael ei wedd;
Byw y mae mewn ofn a dychryn,
Fel yn chwilio am ei fedd;
Cartref nid oes gan y truan,
Ochr y clawdd neu war y ffos
Yw ei annedd oer aniddan,
Mynych cysga ar y rhos.

Adyn egwan, cyfaill angen,
Pan yn teithio tref a llan,
Crefa beunydd am elusen,
Dywed fod ei gorff yn wan;
Traetha'n hyawdl ei ddigwyddion,
Sonia am yr amser gynt;
Prysur egyr dôr ei galon,
Pan yn henwi'r rhai nid ynt.

Anian arno fydd yn gwgu,
Ni ddug anrheg yn ei llaw;
Yntau'n flin, bron a llewygu,
Wedi crwydro yma 'thraw;
Dillad tyllog, gwedd anwydog,
Gruddiau pantiog, gwargam yw;
Ei ddau gydyn hir—fain melyn
Ydyw'r oll a fedd i fyw.

Pan fo'r dymhestl yn ymwylltio,
A'r elfennau'n llawn o fraw;
Natur fwyn yn dwys ochneidio,
Wyla'n flith ddefnynnau gwlaw;
Uda'r gwynt ymhlith cymylau,
Cria'r awel yn y coed,
Rhuo'n groch wna y taranau,
Sigla'r ddaear dan ei droed.

Una yntau ei ruddfannau,
Dwed ei gŵyn yng nghlust y gwynt;
Gylch ei wyneb hefo'i ddagrau,
Sych ei ruddiau—gwelw ynt;
Mynych hed ei feddwl gwibiog
At ei hen gyfeillion gynt;
A phryd arall mynna farchog
Cantau'r nefoedd yn ei hynt!


Pan yn crwydro dros y mynydd
Llefa gyda siriol fryd,
"Dyma ffrwythlon eang ddolydd,
Pwy fesura'u lled a'u hyd?"
Gan drafaelio cylch y gorwel,
Llinyn mesur arno ddyd,
A dolefa wrth yr awel,
"F etifeddiaeth ydyw'r byd"

Er na fedda, druan croenllwm,
Led ei law o'r ddaear faith,
Cwyd ei lais yn erbyn gorthrwm,—
Mae ei galon yn ei waith;
Gŵyr gyflogau y seneddwyr,
Gŵyr y ddyled wladol drom
Caled gura segur-swyddwyr,
Gyda ffrewyll eiriau ffrom.

Ond y truan, fel y ddeilen
Grin yn Hydref, syrth i lawr,
Ac anadla 'i enaid trylen
Gydag awel lem y wawr;—
Cyn y bore a y crwydryn
Draw i fyd o wae neu hedd—
Gwlith y nos a ylch ei gorffyn,
Yna disgwyl am y bedd.

Derfydd am ei boen ddaearol,
Derfydd ei dylodi mawr,
Derfydd cynni ingoedd marwol,
Derfydd popeth—daeth eu hawr!
Ceiff y crwydryn arch heb amdo,
Ceiff ei gladdu megys "brawd,"
Ceiff dywarchen werdd i'w guddio,
Dyna ran y crwydryn tlawd.

Dan yr ywen werdd ganghennog
Mae ei fedd yn dwmpath glas,
Arno tyf blodionos gwridog,
Anian hyd-ddo sydd ei gras;
Angof uwch ei ben a gysga,
Ond yr awel leddf ei nawd
Hwyr a bore a chwibana
Alar gerdd y crwydryn tlawd.


CAN EISTEDDFOD.
MESUR,—Dygwyl Dewi.

EISTEDDFOD Cymru, dyma'r wyl
I ennyn gwladol dân;
Mae'r awen nefol yn ei hwyl
Yn pyncio ceinion cân.
Eisteddfod Cymru! er pob gwawd,
"Tra môr, tra Brython," fydd
Yn gwneuthur dyn i ddyn yn frawd.
Ac arno urdd a rydd.

Cydgan,
Hen Gymru am oesau'n gu,
A ddalio yn ddi-len;
A Chymru fydd, tra nos a dydd,
Yn ben yr Ynys Wen.

Yr Awen noddid, hoffid cân
Gan bawb yng Nghymru gynt;
Gwladgarwch gyda'i gwenau glân
A daenid gan y gwynt;.
Pob cwm a nant, pob bryn a phant,
Yng ngwên yr Awen rydd,
A draethant heirdd ragorion beirdd
Awenol "Cymru fydd."

Cydgan,
Hen Gymru am oesau'n gu,
A ddalio yn ddi-len;
A Chymru fydd, tra nos a dydd,
Yn ben yr Ynys Wen.

O! melus marw dros ei wlad,
Dros anwyl Walia hen,
Anwylach hon na mam na thad,
A llonnach yw ei llen;
Eryri ydyw tref y bardd,
A'i ardd Morgannwg rydd;
Ei awen ynddynt heinif chwardd,
A chana "Cymru fydd."

Cydgan,
Hen Gymru am oesau'n gu,
A ddalio yn ddi-len;
A Chymru fydd, tra nos a dydd,
Yn ben yr Ynys Wen.


LLYN GWYNANT
" Rhad arnoch, lon fugeiliaid! Beth am eich defaid dof?


RHYS CWM DYLI.

TESTYN.—Dull syml a chyntefig bywyd bugeiliol yn yr oes honno, pan oedd y defaid a'r geifr yn brif gyfoeth ein mynyddoedd.
GOLYGFA.—Cwr uchaf nant Gwynen; ochry Wenallt, a glannau y Llyn.
ADEG.—Bore ym Mai, a phrydnawn ym Medi.
AMSER.—Tua dau gan mlynedd yn ol.
ERGYD.—"A fynno Duw a fydd."


DAN gysgod prysgoed brigog, a'r awel rywiog rydd,
Yn taenu dros y twyni ddihalog oleu'r dydd,
Gorweddai Rhys anwesog, yn gefnog hefo 'i gwn,
I wrando'r nant sidellog yn suog gadw swn.

O'i gwmpas gwenai blodau, botymau'r ddaear werdd,
Ac yn y tewlwyn tawel rhoi'r adar gynnar gerdd;
Yng nghudd y berth dwmpathog, o dan ei deiliog do,
Y pynciai'r falch fwyalchen, nes ennyn bryn a bro,
A'r fronfraith lon fireinfryd delorai nodau nwyd,
Nes boddi cwyn aniddan y leddf ysguthan lwyd.

Fel cwmwl uwch y gweunydd, yn hidlo odlau blith,—
Ymddyrchai'n syth—a'i esgyll yn wlyb o berlog wlith—
Yr hedydd lafar hudol, a'i gu awenol gân,—
Tywalltai yn gawodau ei fwyn emynnau mân.

Fel gwennol gwelai Bronwen, yn llawen wrth y llyn,
Yn gwibio draw ac yma,—a chorgi blewog gwyn
Yn troi o gylch ei sodlau; a dau o ŵyn dinam
A rwbient yn ei godrau wrth groesi'r weirglodd gam.
Dechreuodd Bronwen ganu nes llonni cil y llwyn,
A'r adsain syn yn gwrando yn fud ar frig y twyn;
Fel angel tlws penfelyn ar delyn bêr y dail,
Chwareuai'r awel ddiflin i'w dilyn bob yn ail;
Ei golwg oedd argoelus o bur hyfrydus fryd,
Mel—ddiliau yn ei genau, a'i gwenau'n swyn i gyd.

Ar edyn yr awelon y cludir swynion serch,—
Mae rhywbeth byw mewn ceinder i hudo mwynder merch;
Mae blodau'r grug ar greigiau, ac ar y llethrau llwm,—
Yng nghesail llwyd glogwyni, a mynwes gynnes cwm,
Yn denu gwenyn diwyd i sugno yn ddi-gel
Eneidiau'r glân flodionos, a meillio ar eu mel.

Y ddolgwm las lysieuog a'r teg friallog fryn,
Mae'r ddolgoed werdd fantellog, wrth lannau'r gloew lyn,

Yn llawnion o ddillynion, anwylion mwynion merch,—
Ac yn cenedlu'n rhwyddol gyfryngau swyddol serch.

Ymysg yr wyn a'r defaid y glân fugeiliaid hyn,
Arweddant fywyd tawel,—fel awel yn y glyn
Ymdrydd o gylch ei gonglau,—yr hwyr a'r bore'n bur,—
Cyffelyb bywyd bugail, heb sen cenfigen sur.

Daeth awel serch a suodd yng nghlust y bugail mwyn,
Byth wedyn ei fyfyrdod fu'r eneth deg a'r wyn.
Pan fyddai hyd y mynydd, prydyddai beunydd gân,
Anghofiai'r geifr a'r defaid, y cyfan heb wahan;
Drwy'r haf a'r gauaf hefyd, yr un oedd hwn o hyd,
A hithau a'i cynhwysai o eigion bron a bryd;
Bob Nos Galanmai iddi anfonai fedwen hardd,
Ac hefyd Nos Wyl Ifan ryw swp o flodau'r ardd;
Ni welai neb ond Bronwen, na hithau neb ond Rhys,
Ac felly'r oedd eu calon yn toddi gyda brys.

Ryw ddiwrnod ym mis Medi daeth Llio Hafod Llan
I'w gyfwrdd, a dywedai,—"Yr wyt ti'n garwr gwan.
Mae Hywel Hafod Ruffydd yn caru Bronwen Llwyd,
Un gwael wyt ti 'rwy'n gweled,—un wedi' redeg wyd."

Aeth Rhys yn brudd ddigalon, a'i fron yn llawn o fraw,—
Ochenaid ar ochenaid o'i enaid yn ddidaw
A ddeuent fel cenhadon, o eigion calon gaeth,
A'i ruddiau fu'n rhosynog mor wyn eu lliw a llaeth.

Ym mhen ryw ddeuddydd wedyn, yr oedd gerllaw y llyn,
A chlywai ganu melus—a gwelai'r corgi gwyn;
Ymguddiodd, a chlust-feinai,—fe glywai'r adsain draw,
Yn ateb yn lled eglur,—"Daw hinon gwedi gwlaw."

Draw ar y fron gyferbyn, dan gysgod llwyn o gyll,
Canfyddai Rhys yn llechu, ar fin rhyw ddibyn hyll,
Ei gyd-ymgeisydd Hywel, yn glust o'i ben i'w droed
Yn disgwyl gweled Bronwen yn nesu at y coed.

Fel saeth oddi ar y llinyn, yn sydyn rhedai Rhys,
I lwyn o fedw gwalltog—a thyrfai yn ei frys
Wrth geisio mynd yn ddistaw,—ond pan aeth at y llyn
Fe welai'r wyn yn neidio, a gwichiai'r corgi gwyn.

Fel gwalch ar gefn aderyn, neu saethau mebyn serch,
Unionai, ac yn ddifrad cadd brawf o gariad merch.


RHYS.
"O! Bronwen, burwen barod, mel—gafod yw dy gân,
Maeth wên i mi yn fywyd, fel gwlith i'r effros glân;
Mae'th wefus fel y mefus, a'th eiriau megis mel;
Angyles deg fy nghalon, O! carwn doed a ddel."

BRONWEN.
" Mae'r dail yn dechreu crino a llwyddo wrth y llyn;
Mae'r grug ar hyd y creigiau, ac aeliau'r clogwyn gwyn
Yn dangos fod yr Hydref yn ennyn bref y praidd,—
O! Rhys, mae poen yn tynnu fy nghalon gron o'r gwraidd."

RHYS.
"Mae gennyt yn dy ddwyfron ddwy galon o dan glwyf."

BRONWEN.
" Peth rhyfedd iawn na thoddant er mwyniant plant y plwyf."

RHYS.
Rhyw ddarn o Dduw yw cariad; mae'r nef yn siarad serch."

BRONWEN.
"Ust! taw, mae'm llaw a'm llygad,"

RHYS.
"O! mawr yw teimlad merch.
Gad i mi sychu'r dagrau a redant dros dy rudd,—
Cusanaf, gwnaf, ofidiau, paham mae'n bronnau'n brudd,
Anadlaf fy meddyliau i fynwes anian fwyn,
Gweddiaf ar y bryniau adgoffa nghân a nghwyn.
Pan oeddwn gynt yn fychan, yn dyfod hefo mam
O'r Hafod, 'rwyf yn cofio yn dda'r hen goeden gam;
Nid oeddwn i'r pryd hynny ond cwta ddeuddeg oed,
A phrin y medrwn gyrraedd, er ceisio, gangau'r coed;
Y cusan cyntaf, Bronwen! ac hefyd gwrando air,
Mor fwyn yr ymgofleidiem wrth berthi'r eirin Mair!"

BRONWEN.
"Mae cofio'r amser hwnnw yn llanw'm mron a mryd,
A'th olwg gu lygadlon, fu'n destyn canu cyd;
Ond Rhys, mae nos gymylog yn lledu hug gerllaw,—
Mae aeliau'r nef yn dduon,"—

RHYS.
"Daw hinon gwedi gwlaw.

Mae'th wedd fel mân îd un—nos fy anwyl Linos lon;
Mae'th lun o hyd yn aros ar fur y fynwes hon;
Fel eiddew yr ymglymodd dy eiriau cynta' rioed,
O gwmpas fy serchiadau, pan garem yn y coed."

BRONWEN.
"Mae'r dydd yn sathru sodlau y ddu—nos yn ddibaid;
Tyngedfen ddall sy beunydd yn rhoddi arnom raid;
Mae serch yn maeddu meibion, mae'n meddwi merched mwyn;
O! tyred Rhys i'm danfon. Pa le mae'r ci a'r wyn?"

RHYS.
"Mi welaf fwg cudynog uwch Hafod Lwyfog lân,
Ac hefyd clywaf Gweno, yn difyr byncio cân;
Ond clywais ar y weirglodd,—a Hywel druan draw,—
Ryw ganu mwy ei geinion—daw hinon gwedi gwlaw."

BRONWEN.
"Pa le'r oedd Hywel heddyw? Nid ydyw ddim i mi,
Tafododd Gwen a minnau yn ymyl Llam y Ci;—
Peth digrif iawn yw cariad; mae'n dwnad yn ddi daw."

RHYS.
'Ond cofia'r fun lygadlon,— Daw hinon gwedi gwlaw."

BRONWEN.
"Mae Hywel yna'n dyfod, rwy'n canfod rhwng y coed;"

RHYS.
"Moes gusan cyn ymadael,"

BRONWEN.
"Yr un wyf fi erioed."

RHYS.
Dydd da, fy nghalon anwyl,—un eto,—dyro ddau.
Pa bryd y doi di eto i'r gorlan?"

BRONWEN.
“Dôf ddydd Iau."

Ar hyn daeth Hywel yno, fel codog gidwm cas,
Hawdd canfod ar ei wyneb effeithiau gofid glâs:
Dechreuodd groes-ymddadleu—dywedai eiriau tyn,—
Yn wawdlyd mynnai edliw yn debyg iawn i hyn;—


HYWEL.
"Pa le mae'th eifr a'th ddefaid, a'th gŵn yn giblaid gâs,
A'th bib a'r hon chwibianet mor felus fwyn dy flas;
Pa le ceir daoedd blithion ac ychen breision braf,—
Ond odid rhai Cwm Dyli yw'r goreu oll a gaf?"

RHYS.
"Pan oedd dy ychen druain yn ffaelu cyn y ffair,
Da caffael grug Cwm Dyli pan darfu'r gronyn gwair;
A phan fydd Hafod Ruffydd yn gorsydd llwm di-gawn,
Ceir rhywbeth yng Nghwm Dyli, wneiff borthi'n well na mawn."

HYWEL.
"Mae dwylaw hil Cwm Dyli yn llawn direidi drwg,
Mae ganddynt gyw cenfigen yn magu yn eu mŵg;
Dos adref draw i'r creigiau a chysga dridiau'n drwm,
Daw Bronwen yno atat i fyw i'r llety llwm.”

RHYS.
"O! Bronwen lawen liwus, mor hoenus yw a hardd,
Mae'i llygaid fel eirinen, a'i grudd fel rhosyn gardd;
Pan rodia ein hencilion tyf meillion dan ei throed,—
A phan ddaw i'r cysgodion, blodeua cangau'r coed."

HYWEL.
"Mae'th afr yn brefu'n erwin am flewyn, druan flin;
Dos adref at dy fynnod cyn dyfod hynod hin."

RHYS.
"Ni feddi di'r wy'n coelio i'th flino fyn na gafr,
A'th ddefaid mân anheini sy'n cloffi dan y clafr."

HYWEL.
"Ust! taw! mae gŵr yr Hafod yn dyfod draws y cae;
Taw sôn am ddim aniddan. Mae'n canu, ydyw mae.
Tyrd ysgwyd law, a maddeu,—mae Llio Hafod Llan,
Yn dweyd dy fod yn caru,—mae'r son ymhob rhyw fan;
Ond ysgwyd law, a pheidiwn a dangos dim o'r nwyd
Rhag bydd hynny'n dramgwydd i'n hewyrth Meurig Llwyd."

RHYS.
"O! henwr gwynfydedig, caredig yw erioed,
Mae'n resyn fod ei wyneb yn nesu at ei droed;

Yng nghanol pob tirioni, mae'n gwywo'n brysur iawn;
Mae dydd ei oes yn tynnu at eithaf ei brydnawn.
Er fod ei dderw durol yn dafnu meiliau mel,
A'i fedw'n chwysu neithdar ar hyd y ceulwyn cel,
A'r nant islaw yn sisial yn ddyfal ar ei hynt,
A'r geifr ar frig y creigiau â'u cyrn yn gwanu'r gwynt,
Mae dydd ei oes yn darfod, yng nghanol hynod hedd,
Mae'i lygaid ar y ddaear yn chwilio am y bedd.
Er hynny gall ysmalio! Mae'n dawel a di-nwyd.
Dydd da; mae'n ddiwrnod hyfryd, dydd da i Meurig Llwyd."

MEURIG LLWYD.
"Rhad arnoch, lon fugeiliaid! Beth am eich defaid dof?
Pa le mae 'ch geifr yn pori? Bu agos iawn i'm cof
Fy nhwyllo. Pwy, ai Hywel sydd yma hefo Rhys;
Dydd da'wch fy nghyd-fugeiliaid, peth blin yw teimlo blys,
Ces gnau gan Gweno gynnau,—a chododd awydd mwy;
Ond bellach dowch i'r Hafod i eistedd awr neu ddwy;
Cawn yno fod yn llawen, o son am awen rydd,
A meth, peth pur amheuthyn i mi er's llawer dydd."

Atebodd Hywel iddo yn frysiog leddf ei lais;
A gwenodd Rhys yn addfwyn gan gychwyn ar ei gais.

HYWEL.
"Mae nghalon wedi toddi yn nhanllwyth eirias serch,
Mae f' enaid wedi boddi yn nyfnder cariad merch;
Mae du-dew gwmwl gofid yn gnu o gylch fy mryd,
Fe wledda ingoedd arnaf tra byddaf yn y byd."

MEURIG LLWYD.
"Dowch, dowch, na phoenwch dynged, i weld fy merched mwyn;
Mae rhywbeth dôf mewn gofid— gwell iechyd gwael na chwyn."

HYWEL.
"Mae angau gwelw ingol yn swyddol ar ei sedd;
Mae yntau mebyn cariad yn agor barrau'r bedd;
O freuder gwael afradus! mae'n esgus nwyfus nôd, –
Os na chaf Bronwen lanwedd oferedd byw na bod."

MEURIG LLWYD.
"Mae gennyf ddwy erllygen yn tyfu yn yr ardd,
Cei ddod a phigo'th ddewis—mae'r ddwy yn bêr a hardd;
Ond rhaid i'r neb a'u tynno, ofalu prun a dyn;
Tyrd Hywel, mi gei gynnyg. Pa beth sydd ar y bryn?
O! dwy biogen frithwen, yn crecian yn ddi-daw,
Yn ddilys mae'n ymddylu, mae hi'n tebygu 'i wlaw."


Edrychai Rhys yn ddibris wrth hel y mefus mân,
Ac yn ei glust'n wastad adseiniai'r felus gân
A glywedd ar y weirglodd,—a swniai yn ddi fraw,—
"Os yw'r cymylau'n dduon, daw hinon gwedi gwlaw."
Aeth Meurig Llwyd a Hywel yn dawel tua'r ardd,
A gwelent ryfedd flodyn,—mor fyw a llygad bardd,—
Yn syllu ar y gerllyg,—ai golwg benthyg oedd?
A thybiai Hywel glywed rhyw filain arw floedd!

Aeth at y goeden frigog yn dalog, ond ei law
Er estyn, ni chyrhaeddai mo'r gangen gam gerllaw;
Dychrynnai! tybiai weled yn dod o gam i gam
A'i gwallt am ben ei hwyneb, a'i llygaid fel dwy fflam,
Ryw wyddan anghariadus;—diflannai yn y fan,—
Aeth rhywbeth dros ei olwg; ond er ei fod yn wan,
Dolefodd yn wylofus,—" Anghenus yw fy nghwyn,
Tra'r oeddwn i yn oedi, mae arall wedi' dwyn."

MEURIG LLWYD.
"Mor dlws yw'r ddwy erllygen ar frigau'r goeden gam;
Pa ham na chânt eu tynnu? Rwy'n synnu'n fawr pa ham!
Pa le mae Rhys Cwm Dyli, mae ef yn heini hael,
Un ydyw glân nodedig,—mae deall ar ei ael;
Mae ef yn gwybod cyfrin aml-liwiau'r Ffynnon Lâs,
A gŵyr am Ogo'r Dewin, a'i ofergoelion cas;
Efe yw'r bugail goreu,—bob bore bydd a'i bib
Cyn torri'r wawr wen-oleu, ar ddannedd ucha'r Grib;
Caiff yntau ddod i ddewis! pa esgus iddo rof?
Ho; galwaf arno ddyfod i weld fy llwynog dof;
Os estyn yr erllygen,—y felen fawr a'r nam,
Ni chaiff o byth yn elw yr un sy'n ddelw 'i mam;
Ond os y tyn y bellaf, y leiaf, hefo 'i law,
Cawn weld pa les oedd canu, Daw hinon gwedi gwlaw.'
Daeth Rhys i'r ardd yn araf,—a safai yno'n syn;—
Erfyniwyd arno ddewis,—a gwichiai'r corgi gwyn;
Nis gwelai'r un erllygen ar frigau'r goeden gam,—
Awgrymed serch yn sydyn, os gofyn neb pa ham.

O'r barth ymysg y gwartheg, wrth odro gyda'r nos,
Dyrchafai cân hyfrydol, fel hedydd uwch y rhos;
Diweddai'r gerdd fel yma,— (estynnai yntau 'i law),—
'Os bu'r cymylau'n dduon, daeth hinon gwedi gwlaw.'

Fe dynnodd Rhys erllygen, a llonnodd Meurig Llwyd;
A gwaeddodd wedyn allan,—' Mae rhywun yn y rhwyd;
Dewisaist yr erllygen, cei Fronwen lawen fryd,—
Rhad Duw a bendith arnoch tra byddoch yn y byd."



ABER GLASLYN.

NOS GAINC.
MAE GWEN MEWN HUN (MY LADY SLEEPS).
Ar ddelw Longfellow.

SER gloew'r hafaidd hwyr!
Draw yn yr asur cun,
Ynghudd bo 'ch goleu 'n llwyr;
Mewn hun, mae Gwen mewn hun!—
Hun!

Lloer wen yr hafaidd hwyr,
Y llewin geidw 'i llun,
Ymsudd mewn arlliw cŵyr;
Mewn hun, mae Gwen mewn hun!—
Hun!

Awel yr hafaidd hwyr,
Lle crina'r gwyddfid cun,
Plyg, plyg dy aden gŵyr,
Mewn hun, mae Gwen mewn hun-
Hun!

Breuddwydion 'r hafaidd hwyr,
Dywedwch wrth fy mun
Fy mod mewn gwiliad llwyr;
Mewn hun, mae Gwen mewn hun!—
Hun!


SEREN Y GOGLEDD.

PAN a'r haul o dan ei gaerydd,
Anian ynddynt gwsg yn llonydd,
Fel mewn hudol gell;
Daw'r tywyllwch yn fantellydd,
Ni rydd y lloer anwadal
Ond llewyrch anghyfartal,
Newid bydd o ddydd i ddydd,
A'r nos fe drydd yn wamal;
Gedy hon y llongwr tirion
Heb arweinydd ar y wendon
I'w hyrwyddo o'i fro dirion
Draw i'r gwledydd pell.

Ond fe welir yn yr wybren
Yn ysmicio siriol seren,
Ddengys iddo yn ei angen
Lwybyr hyd y don;
Edrych tua'r gogledd,
A chenfydd yno'n geinwedd,
Yn yr Arth yn llywio'r parth
Yn rhadol ei hanrhydedd,
Yr hen seren hardd a chlodus,
Ter y ceidw yr Arcturus
Ei nodweddiad canmoliaethus
A'i gweniadau llon.

Pan y byddo'r môr yn wgus,
A'r corwyntoedd yn echrydus,
Bywyd morwr yn beryglus,
Ofn yn llenwi'r fron;
Y cwmpawd wedi drysu,
Dysgyrchiad nid yw'n tynnu,
Haul nid yw, na lleuad syw,
Mae'r wybren wiw yn bygddu;
Yr amserydd, orydd eirian,
Ni ddynoda amser allan,
Anherfynol ydyw'r cyfan,
Storom hyll yw hon.

Dylem foli ein Creawdydd
Am roi inni'r fath arweinydd
I'n cyfarwyddo adre'n hyrwydd

Dros wyllt donnau'r môr,
Llewyrch siriol seren
A welir yn y wybren,
A'i golau gwiw fel llygad byw,
Yr enwog lyw goraddien;
Hon wasanaetha er daioni,
Yr athronydd ga 'i thirioni,
Yn ogonawl bydd yn gweini,
Ceidw ddeddfau'r Ior.


FE FODDODD Y BACHGEN YN YMYL Y LAN.

Y BACHGEN, y bachgen, ei hoffder yw'r môr,
Bydd wrthi'n gwneyd llongau hyd wyneb y ddôr,
Fe gronna'r ffrwd loyw yn globyn o lyn,
Er mwyn cael lle cymwys i nofio 'i gwch gwyn.

Rhyw ddiwrnod mae'n blino ar chware fel hyn,—
Mae'n llosgi ei gychod, mae'n gollwng ei lyn;—
Y llong oedd ei gartref,—llun llong ar y ddor
A ddenodd y bachgen i fyned i'r môr.

Cadd le. Ni bu undyn yn cychwyn erioed
A'i galon mor lawen, mwy ysgafn ei droed;
Fe gadd ei ddymuniad,—nid llong ar y ddôr,
Ond llong yn llawn hwyliau ar wyneb y môr.

O'i gartref cychwynnodd dan ganu yn llon;
Ffarweliodd a'i deulu heb ofid i'w fron;
Chwibanai wrth fyned a'i gist at y dref;—
Ei fryd oedd mor dawel a glesni y nef.

Ei fam a ddwys wylai, a chrefai' ddwy chwaer,—
"O! aros am flwyddyn," yn hynod o daer;
Ond gwenai ei ateb,— "cefnfor i mi,—
Mae mywyd i mwyach ar wyneb y lli."

Fe hwyliodd y llestr. Y tonnau yn gôr
Orweddent yn gysglyd ar waelod y môr;
Yr awel oedd ffafriol, a llonydd y gwynt,—
Ni fynnai gyfodi gwrthwyneb i'w hynt.

Caed mordaith gysurus. Dychwelwyd yn ol,
A'r môr oedd a'i wyneb mor wastad a dôl;
Y bachgen oedd lawen, heb feddwl fod brad
Am ddangos ei chilwg cyn gwelai ei wlad.


Ryw noson pan oeddynt yng ngolwg y tir,
Y nefoedd bardduodd ei gwyneb glân clir;
Y mellt a ymwylltient, a'r daran yn groch
Ymladdai'n fileinwedd â'r corwynt a'i froch.

Y tonnau ddeffroisant, a'r corwynt blwng certh,
Cynddeiriog ddanghosai wrhydri ei nerth;
Dyruai, ymlafniai, glafoeriai, fel lluwch,—
A heriai bob elfen gan godi ei ruwch.

Daeth moryn 'nol moryn, a'r dymhestl yn flong,
A luchiai'n wallgofus ar antur y llong;
Y bachgen a gofiodd ei fam y pryd hyn,
Dychmygodd weld goleu ar lechwedd y bryn.

Ar hyn aeth y llestr yn erbyn y graig,
Ac arni fe wleddai holl donnau yr aig;
Fe geisiwyd ymwared, ond gwael oedd eu rhan,—
Fe foddodd y cyfan yn ymyl y lan.

Pan wawriodd y bore, y draethell ger llaw
A frithid â darnau, a'r môr heb ddim braw
A lyncodd y dwylaw. Gresynus oedd rhan
Y bachgen a foddodd yn ymyl y lan.

Ar wyneb ton gibog daeth corffyn i dir,—
Ei dad pan el gwelodd ddolefodd yn hir,—
"Cadd long, a chadd fordaith—O! dyma ei ran,
Y bachgen a foddodd yn ymyl y lan."

Sawl bachgen o Gymru, yn fywiog ei fryd,
A gollodd ei enaid wrth ennill y byd?
Llong gafodd, a mordaith, ond dyma ei ran,—
BODDI, O! BODDI YN YMYL Y LAN.


ENID.

MAE'R haul yn gwenu ar y llyn,
A lili'r dŵr yn las a gwyn,
Yn lân gwpanau llawn o swyn,—
Yn adlun byw o geinder mwyn;
Pa ryfedd fod eu hoglau chweg
Yn denu bryd y Tylwyth Teg!

Eisteddai Enid dlos yn brudd,
A dagrau enaid ar ei grudd,
Wrth lan y llyn ar docyn brwyn,
I wrando lleddf frefiadau'r wyn.
Yr wyn a frefent am eu mam;
Fe deimlai'r wyn fod poen a cham
Yn dilyn colli hon bob pryd;
A thyna'r hyn a lanwai fryd
Y lân enethig wrth y llyn,
Nes llefodd hithau'r geiriau hyn,—
"O! unig wyf. Pa le mae 'nhad;—
Y tad siriolaf yn y wlad;—
Pa le mae mam? Fy anwyl fam,
Yr hon a'm cadwai rhag cael cam?
O! unig wyf. Heb chwaer na brawd.
I wrando 'nghwyn,—druanes dlawd!
Bum innau'n llon; pan fyddai'r ôg
Ar waith, dywedwn,—"Daw y Gog
I ganu'n glir; daw difyr haf,
Heb argoel byth ei fod yn glaf;"
Ond ymaith ffoes fy mhethau heirdd,
(Fel drychfeddyliau bywiog beirdd,
Neu ben yr enfys—nid oes ol
Ei phen bwaog ar y ddôl).
Pa beth a wnaf? Amddifad wyf;
Ni fedr y nefoedd wella 'nghlwyf.
Nis gallaf eto fyw fel hyn;
Caf fedd ac amdo yn y llyn!
Mae hynny'n well nag arch y plwyf;
Af iddo'n awr, af fel yr wyf,—
O! derbyn fi y gloyw lyn"—
A suddodd dan y tonnau tyn.

Mae'r lloer yn cneitio goleu gwyn
Hyd ddail y lili ar y llyn;
Ond dan y dŵr mae Enid lân,
Yng nghryd sigladwy 'i donnau mân;
A'r Tylwyth Teg ar lawer tro
Sy'n arfer rhodio hyd ei ro,
A son y byddant am y fun
A wnaeth ei bedd â'i llaw ei hun;
A'r lili fyth sydd uwch ei phen
Yn methu edrych tua'r nen,
Heb len o ddwfr yn gaenen fach,
Fel dagrau serch i'w gruddiau iach,
Oblegid teimla effaith syn
Y fun sy'n llonydd yn y llyn.


Y GOG.

MAE'R Gôg yn canu eto "Cw-cw, Cw-cw," eleni;
A thyna oedd. ei chanu mwyn cyn i mi gael fy ngeni;
Paham na chân yn ddibaid? Ni fyn hi fod yn ddiflas!—
Ond diflas fydd cyn pen y mis ddau nodyn "Cw-cw" lwydlas.

Y Bronfraith melus anwyl, yr wyt yn pyncio'n hyfryd;
Mae seiniau dwyfol yn dy gerdd a ddadrin y meddylfryd;
Aderyn Du pigfelyn, mae swyn a ddofa elyn
Yn hidlo'n wastad a diball o dannau mwyn ei delyn.

"Cw-cw, cw-cw sy'n adsain y clogwyn yn ddiseibio,
A'r awel feddal yn y glyn ddioga wrth fynd heibio;
Ond ust! mae twrw hogi—y bladur goch fu'n crogi,
Sydd heddyw'n loew ar y waen, a'r llanciau'n ymarfogi.

Y wennol lem ei haden geiff lonydd gan y "Gw-cw,"
A chwareu bydd trwy gydol dydd yn chwimwth yma ac acw.
Pa beth yw gwers y Wennol? "Newidiol yw marwoldeb,—
Aflonydd popeth a di-saf ond dwyfol anfarwoldeb."

Ond ust! mae'r Gôg yn canu,— " Tragwyddol haf a fynnaf
Uwch dail a blodau, meillion tlws, a'r prydferth fyth y canaf;
Rhyw wanwyn—awel bywyd yw'r unodl fwyn a odlaf,
Cw-cw, cw-cw, tragwyddol haf yw'r awyr bêr anadlaf."


CAN WLADOL.

ER gwawd a gwên, er bri a brad,
Mae'r Werydd tonnog, llydan, llaith
Yn bloeddio," Cymru, cadw 'th iaith!"
Mae'r corwynt cryf ag uthrol lais
Yn gwaeddi'n hyf,—" Er brad y Sais
Mae Cymru wen ymlaen y gad,
A'r Cymry'n caru'u hanwyl wlad!"
Mae'r adsain yn y Berwyn draw,
Ac ym Morgannwg yn ddi daw
Yn diaspedain—"Cymru wen,
Cyfoda 'th dywysogol ben."
O! wŷr Eryri, mawr eu dawn,
Mae'n ddydd; deffrowch! deffrowch yn iawn.
Cyd-unwn yn y floedd i gyd—
Ymladdwn byth o blaid ein gwlad.
"I'R IAITH GYMRAEG BOED OES Y BYD."


TYMESTL NOS GALANGAUAF, 1861.
WRTH GROESI'R TRAETH MAWR.

YNG ngherbyd y gwynt, yn gwneuthur eu hynt,
Mae mil o ellyllon ystyfnig a chreulon;
Ymwibiant drwy'r nwyfre yn gynt, yn gynt
Na mellt yn ymsaethu;—a'r daran yn traethu
Maint eu cyflymder ar balmant y nef;
Och! ddolef echryslon, y damniol ellyllon,
Yng nghlustiau'r awelon,—mae'n aethus eu llef!
Pob ellyll a ferchyg, ei ffrwyn ydyw rhyfyg,—
Ar antur gythreulig, gan sarnu y byd;
A chlywir eu crechwen yng nghrochwaedd pob elfen,
Nes wyla'r nef lawen yn drymglaf ei bryd.
Mae'r cwch ar y môr, a'r tonnau yn gor,
Yn rhuo,—" Pa beth fydd y diwedd?"
Pob moryn mewn gwawd yn galw ei frawd,
Gan ddangos mor dlawd ydyw mawredd;
Ymgodent, disgynnent, yn lachiol ymluchient,
Sisialent, sain—floeddient, croch—lefent yn chwyrn;
Yr ewyn glafoeriog, o'u genau cynddeiriog
A guddiai eu gwyneb,—a liwiai eu cyrn!

Rhwng y tonnau, gwelwn bennau,
Ac agweddau damniol lun;
Rhai'n mingamu, rhai'n dylamu,—
A gwelwn gadwyni gan ambell un!

Y cwch a ddirdynnid, ei ochrau a wesgid,
Ac yntau fel basged—i fyny, i lawr;
A'r corwynt yn chwerthin wrth lusgo y ddryghin
A minnau yn iwin am fywyd yn awr.
Ysgytid yr hwyliau—fe 'u rhwygid yn ddarnau,
Fe felid yr hwyliau fel priciau diwerth;
Yr ymchwydd mawr drwyddo yn brochus gyforio,
Ymlafnai'n ddiflino er dangos ei nerth.
Nid oedd dim ond boddi,—Ha! dyma ni'n soddi,—
Mae'r enaid yn toddi fel eira wrth dân,—
Mae angau gwynebddu o'm blaen yn daneddu,
Mae'n gwgus 'sgyrnygu! Ond ust, dyna gân!
O flaen fy ngolygon, canfyddwn ryw dduon,
Aflunaidd ellyllon yn rhythu eu safn;
Pob un, a gwerdd ganwyll, a'i goleu yn dywyll,—
A'u hagwedd mor hydwyll; yn cludo hen gafn,
Ac ynddo ryw ddarnau o'r pwdr ysgerbydau,

A wneir yn domennau yng ngheule y braw;
Ysgrechient, ysgrechient, O! nadau hwyn' udent,
Pob un a fforch driphig fel ffon yn ei law.
Mi welwn ymhellach,—hen rosdir gwlyb, afiach,
A'i olwg yn hyllach a drycach na'r Drwg;
A Glyn Cysgod Angau, a'r afon ddwfn—byllau,
A welid o hirbell dan gwmwl o fwg.
A miloedd o ddynion yn debyg i feddwon,
Yn syrthio yn wirion, yn codi drachefn;
A myrdd o fwystfilod, a llu o wiberod
O'u cwmpas yn barod,—blith draphlith ddi-drefn!
O! ingoedd a phangau? Yng Nglyn Cysgod Angau,
Mae dechreu diddiwedd y gwaeau diball;
Drws uffern boeth—wynias, cartrefle galanas,
Porth cadarn y Gwanas a geidw y Fall!
Cordeddai y fflamau o gwmpas y creigiau,
Nes boddi'r oernadau yn nherfysg y tân;
Ond er yr holl ruo, fe glywid yn suo
O'r tyno cyfagos swn telyn a chân.
Tu draw i'r wal wynias mae'r erch Fall gyrcheirias,
Y fangre lle cosbir pob gwrthun di-ras;
O! olwg i'n synnu, y diafliaid yn tynnu
Rhyw luoedd i fyny i'w gwneuthur yn das;
A chorniog gythreuliaid yn poeni'r trueiniaid,
Gan wawdio'u hochenaid a'u bwrw i lawr;—
I lawr i waelodion yr annwn echryslon,
I lawr i goluddion yr Abred drwg sawr.
Yng nghanol bwystfilod yn llarpio'n ddiddarfod,
Yn marw heb farw, dan orfod ymddwyn,
Mae miloedd o ddynion yng ngwlad yr ellyllon
Yn derbyn pob gwawdion, yn ateb i'w cwyn.
Gwyrddlasrwydd siglennydd, a llifddu afonydd,
A chopa pob mynydd, yn olwyth o dân;
A'r wybren yn dorchau o fwg; a rhyw fforchau
Yn gweu yn ddiflino gan falu yn fân
Bob peth a gyffyrddent, ac yna ail gasglent
Y briwsion—a phobent y cyfan drachefn;
Y Llid yno'n hofran, a Dial fel cigfran,
Yn mynnu gwneyd cyfran o bopeth yn rhydd;
Yr anhrefn yn marchog erchylldra cynddeiriog,
Heb obaith i'r euog am funud o ddydd.

Mae'r cwch yn ystumio, a'r dwr yn dod iddo,—
Mae'r cychwr yn wylo; clyw weddi'r di-ffydd!
Mae ereill yn gwaeddi, a'r môr yn pystodi
Gan watwar eu hoer-gri—"O! na bae yn ddydd."

Mae'r eneth yn marw o blegid mor arw
Yw bryniau o donnau o'i chwmpas sy'n bod,
A'r llencyn penfelyn yn gofyn munudyn
I roddi i'w Grewr ogoniant a chlod.
Ond clywaf ryw swnio,—ai angel sy'n pyncio?
A'i swn tragwyddoldeb sy'n awr ar fy nghlyw?
Mae'n llawn o lawenydd y nefol awenydd—
"Dihangol yw 'th fywyd, mae 'th Dad wrth y llyw!"
Tawelodd y cyfan. Y dymestl aniddan
A gysgodd fel baban ar fynwes ei fam;
A'r môr a'i wyllt donnau beidiasant â'r glannau;
Darfyddodd y cynnwrf cyn gorffen y cam.
Y cantor a glywyd oedd lodes fach fochlwyd
Yn rhoddi ei bywyd yn dawel i'w Duw;
Fe wyddai yn burion am Lyw yr awelon,
A chanai'n gysurlon—"Mae Nhad wrth y llyw."


TODDAID.
A WNAED gan Madog a Glasynys wrth edrych ar lun dwy eneth uwchben bedd eu mam, a hithau fel angel yn eu gwylio.

CAWN yma rianod mewn cŵyn am rieni,
A llun dwy eneth yn llawn daioni;
Gwelent angyles gynnes yn gweini,
Ar y dawel annedd oer i'w hadlonni;
Ond tyr Ion bob trueni—i'w blant rhydd
Ddifyr lawenydd, o'i fawr haelioni.



CAERSALEM EUROG DDINAS.
WEDI EI CHYMREIGEIDDIO O'R LLADIN O WAITH ST. BERNARD.

I.
BYR, byr yw'n tymor yma, byr ofid, a byr boen;
Ond yna byw'n dragwyddol, a geir ym mhorfa'r Oen.

O! ddedwydd wir ad-daliad, gwaith byr, diddarfod hedd;
I ni wir bechaduriaid mae "tý" tu draw i'r bedd.

Yn awr mae'n rhaid i'n ymladd, ond yna coron gawn
O aur a pherlau drudfawr, a phob godidog ddawn.

Yn awr mewn poen a gofid, yn awr gobeithio'n gryf;
A Seion, er ei phryder, yn gwatwar Babel hyf.

Ond ef yr hwn yw 'm Ceidwad a welwn fel y mae;
A chawn ei fythol feddu heb os ac oni bae.


Fe wawria hyfryd fore, fe gilia'r cysgyd prudd,
Ac yna'r glân gyfiawnion ddisgleiriant fel y dydd.

Cawn yno weld y dwyfol yn llawn o ras a gwir,
Yn wyneb pur yn wyneb byth—bythoedd mwy yn glir.

II.
Am dani'r wlad hyfrydol bob nos fy llygaid llaith,
Hiraethant am gael gweled ei theg ororau maith.

Mae enwi dy ogoniant yn fywyd gras i'm bron;
Yn iechyd mewn afiechyd, yn hedd, yn gariad llon.

O! 'run a'r unig balas, paradwys bywyd pur;
Lle byth ni welir dagrau, ond gwenau heb un cur.

Yr Oen yw 'th holl ogoniant, dy gân yw angau loes
Y bendigedig hwnnw fu farw ar y groes.

Mae 'th furiau yn jaspus gloew, smaragdus yw dy ffyrdd;
Y sardius a'r topazion yn belydr fil a myrdd.

Yn uno eu gogoniant y deuddeg mae yn un;
Pa ryfedd gogoneddu y pennaf Faen ei hun?

Mae 'th furiau digyfnewid o'r meini goreu 'u graen;
A'r Iesu, Craig yr Oesoedd, yw'r gwerthfawr gongl faen.

Mor brydferth heb un terfyn, dydd bythol heb un nos;
Y mae i'r pererinion yn ffynnon loew dlos.

Ar gadarn Graig yr Oesoedd mae 'th golofn brydferth di;
A llawryf buddugoliaeth, a rhodd o ddwyfol fri.

III.
Caersalem, eurog ddinas, o fêl a llaeth yn llawn,
Mae meddwl am dy urddas yn boddi 'mryd a'm dawn.

Nis gallaf wybod yma pa wir lawenydd gaf;
Beth fydd fy mwyniant yna dan wenau nefol haf.

Mae heirdd neuaddau Seion yn llawn gorfolus gân;
A thyrfa'r pur angylion, a llu'r merthyron glân.

Mae'r Twysog yno'n wastad, digwmwl oleu'r dydd;
Porfeydd y nefol gariad i'r gwynfydedig sydd.

Mae gorsedd Dafydd yna, ac yna'n fawr eu braint
Yn gorfoleddus wledda yn rhydd mae'r lluoedd saint,

Y rhai o dan eu Blaenor, a wrthladdasant gur;
Mwy fythol trwy eu trysor mewn gynau gwynion pur.


Gellir canu rhain ar ol bob rhan,—

O! ddedwydd wlad hyfrydol
Cartrefle teulu Duw;
O! ddedwydd wlad hyfrydol,
Lle caiff y cyfiawn fyw;
O! dwg ni, Iesu'n bywyd,
I'r anwyl wlad i fyw;
Yr Hwn a'r Tad a'r Ysbryd
Sydd undod-drindod Duw.


CLOCH-MEBYN (SNOWDROP).

BETH yw hwn? Mae'n dlws a hardd,
Yn fy ngwyneb siriol chwardd;
Er fod eira ar y bryn,
Er fod rhew yn do i'r llyn,
Chwertha'n wŵyl ar noethni'r byd
Yn ail i febyn llon ei fryd.

Plentyn cyntaf Gwanwyn yw,
Yn yr awel oer mae'n byw;
Gwynder odliw'r breiliw bach
Ddengys rin ei uchel ach;
Er bod dan farugog len,
Ceir ynddo nodau Gwynfa Wen.

Rhew-wynt oerllyd, ffyrnig, oer,
Lled ei ddail dan wên y lloer,
Chwery yn y rhynllyd hin,
Chwardda dan ei deifiog fin;
Cysgod o wyryfol wedd
Pur, diniwed teulu'r bedd.

Gwanwyn oes yw mebyd mwyn,
Urddir hon a delw swyn,
Ac edmygir ceinion hardd,
Tebyg i rai nefol ardd;
O! dlysineb heb ei ail
Yng ngwyrddlesni tirf y dail.

Pwy mor gu a'r Iesu gwyn?
Pwy mor dda a'r hwn a fyn
Lwyr ddileu pechodau'r byd,
Ac adferu rhadol fryd?
Hardd yw ef! O nefol rôs,
"Te rogamus, audi nos."[10]


TINC HIRLLAES CLOCH YR EGLWYS.
LLINELLAU COFFHAOL AM Y PARCH. D. WILLIAMS, LLANDWROG.

"Sed omnes una manet noх,
Et calcanda semel via leti."
HOR. LIB. і. 28.


I LANDWROG enwog anwyl, mae 'th olwg rhwng y coed
Yn ennyn ynnwyf deimlad dwfn am lawer un a roed
I gysgu hun yn dawel yng nghell marwoldeb prudd;—
Eu cofio bair i'm henaid ddod yn ddagrau hyd fy ngrudd.
Gardd wen yw'r fynwent blwyfol, ac Erw Duw i gyd,
Oherwydd dan ei llenni oer mae perlau penna'r byd.

Tinc hirllaes cloch yr eglwys, yn gymwys iawn sy'n gwadd,
Yr ieuanc llon, a'r henwr llesg, i weled beth fydd gradd
Cyd—wastad doeth ac annoeth,— cyfoethog a thylawd,—
Pan ballo nerth, pan dderfydd oes, cyd—gymysg llwch eu cnawd.
Lle prudd yw'r fynwent harddaf; argoelion ar bob llaw
Fod angau ingol yn barhaus yn llenwi celloedd braw.

Tinc hirllaes cloch yr eglwys a ddug adgofion fyrdd,
Ar edyn yr awelon lleddf, am dangnef gwyn a gwyrdd.
Peth anhawdd myned heibio lle beddrod tad a mam
Heb deimlo pwys rhyw arswyd oer yn gofyn in,—" Paham
Na weli,'n plentyn anwyl, y modd, y dull, a'r wedd,
Y byddi dithau'n fuan iawn, dan dywyll lenni'r bedd?"

Tinc hirllaes cloch yr eglwys a gyfyd fryd y fron
I syllu'n dawel ar y llu sy'n llawn o bob peth llon;
Maent wedi dianc allan o wlad y cystudd mawr,
A'r blodau prydferth sydd o'u cylch, gweithredoedd da y llawr.
"Maent yn eu gynau gwynion ac ar ryw newydd wedd,"
Yn debyg i'r Anwylyd Glân pan gododd ef o'r bedd,
Yn ernes syml i'r teulu nad erys neb yn hwy
Dan gloion tyn y beddrod du, ym mynwent llan y plwy,
Na'r adeg osodedig, pan glywo'r meirwon lef,
Ac yna'r saint yn un ac oll a unir yn y nef.
Gan hynny, sych dy ddagrau, na alarnada mwy,
Ond dilyn ffydd a rhinwedd pur, cei fyned atynt hwy

Wrth fedd y Person Williams, bob amser, fore Sul
Y gwelir y plwyfolion prudd yn gwlitho 'i wely cul;
Ei gofiant geir yn gryno gan lu o weddwon gwael,
A'r plant amddifad tystio wnant ei helaeth galon hael.
Yr oedd ei elusenau fel sypiau grawn ar goed,
Ni chadd y naill ddim gwybod beth roi'r arall law erioed.

Ei Dduw yn unig wyddai,—"Cyflawnai dda'n ddibaid,"
Oedd cwyn genethig uwch ei fedd,— " Fe fu yn dda i nhaid
Pan ydoedd yn orweiddiog; daeth ato drwy bob hin,
A geiriau dwys o nefol bwys oedd ganddo'n nefol win."

Glas lencyn o gwr arall ddywedai,—" Picell fain
I'm calon ydyw gweled bedd hen gyfaill pur fy nain."
"Pan oedd fy ngwraig yn curio, fel deilen lwyd—goch wyw,
Pwy ger ei gwely blygai 'i lin i ddadleu gyda Duw,
Gan erfyn am faddeuant, am haeddiant ar ei rhan,
Nes byddai' chalon, druan fach, yn codi'n uwch i'r lan?
Dywedai'r weddi'n bwysig, fu'n foddion codiad pen
I'm hanwyl wraig, gan ddangos Crist fel ffordd i'r nefoedd wen."
Fel yna cwynai gweddw, pan safai'n syn ei wedd
Ar fore Sul, a'i ddagrau'n flith yn hidlo hyd y bedd.

Tinc hirllaes cloch yr eglwys! Pwy acw welaf draw?
Offeiriad Duw,—hwn ar fy nghlyw gyhoedda'r farn a ddaw—
Paham mae ef yn dyfod ag afon ar ei rudd?

(Ha! bedd ei fam a'i frawd di-nam a bair ei fod yn brudd?)
Daeth hwn yn araf drymllyd am ennyd at y bedd,
A'r oll ddywedodd ydoedd hyn—" Mae brawd yng ngwlad yr hedd
Ac yna dofn ochenaid oedd enaid byw ei aeth,
Ac wedyn tua'r eglwys hardd unioni'n brysur wnaeth.

Ysgolion plwyf Llandwrog, colofnau heirdd ynt hwy,
Danghosant i ni ddiflin sel hen berson llan y plwy;
Pa ryfedd fod Rhos-nennan yn gwisgo galar nôd,
A Mynydd Cilgwyn yn ei ddull yn teimlo beth sy'n bod?
Mae'r Llifon fel yn siarad am gariad yn ddiball,
A Dinas Dinlle'n gwrando cri y Garrog gymen gall,
Oherwydd ciliodd ymaith y Cristion didwyll, da,
Fel gwennol hedeg wnaeth i ffwrdd i wlad tragwyddol ha.

Yr oedd yn wir ddiniwaid,—colomen oedd ei fryd,
Ac fel colomen dysgodd ef Gristnogaeth yn y byd.
Pregethai drwy'r holl wythnos, ac nid rhyw rigwm Sul,—
Pregethai ef o dŷ i dŷ, gan wrthladd crefydd gul;
Ei grefydd ef oedd cariad, cariadus oedd ei foes,—
A than ddylanwad cariad pur y treuliodd ef ei oes.

Llandwrog enwog anwyl, dy gofwyl byth a ga
Yn tystio'n wastad godiad pen wrth wneyd yr hyn sy dda;
Wrth rodio llwybrau rhinwedd a dilyn didwyll foes,
Ceir gorffwys eto'n dawel iawn dan gysgod hudd y groes.

Tinc hirllaes cloch yr eglwys! Mae swn Paradwys Duw
Yn araf ddisgyn ar fy nghlust,—"Er marw eto'n fyw,

Fe dyr y wawr wen oleu yn glir dros fryniau ffydd,
Ac ni bydd yno dywyll nos, ond digyfnewid ddydd."

Mae clychau Bodelwyddan yn cyngan fel wrth reddf
Yr hirllaes dinc nes yn ein bryd gynyrchu trymder lleddf;
"Mae'r glân offeiriad duwiol dan lenni oer y bedd—
A chofir am ei fuchedd bur gan engyl gwlad yr hedd."

A thra bo Dinas Dinlle gerllaw fel gwylan wen,
Fe gofir enw'r Cristion pur sy'n awr tu draw i'r llen;
Mewn cant o dai gwyngalchog rhyw ddrylliog lais a fydd
Yn uchel ddyrchu'n ddibaid, eu colled, nos a dydd;
Mae'r mawrion yn galaru yn gymysg â'r tylawd,
Oherwydd ynddo cadd y naill a'r llall un cywir frawd.
A thra bo'r Elwy ddiog, a'r Garrog droellog draw,
Fe gofir am yr hyn a wnaeth gan ddiddan oesoedd ddaw,—
Oblegid "coffadwriaeth y cyfiawn" ddengys hedd,
Pan gwyd yn fyw ar ddelw Duw yr olaf ddydd o'r bedd!
Gan hynny ei anwylion, na wylwch ddagrau trist,
Mae'r hwn a gerych eto'n fyw, yng nghwmni Iesu Grist.
Cewch yno uno'n llawen yng ngerddi heirdd yr hedd,
A phawb yn lân yn pyncio cân, heb arno ôl y bedd.


ADLEF O'R GLYN.
YN ATEB I "CATHL BLINDER" GLASLYN.

O! GWRANDO, Glaslyn anwyl, mae serch yn llenwi 'mron—
Mae rhywbeth dwyfol yn dy gân, er dyfned ydyw'r "don;"
Os ydwyt ti ar fyned, daw arall Las yn wir,
A chawn lawenydd nefol feirdd yng ngoleu'r purdeb clir.
Cawn wrando swn y Gragen—y Gragen, gyfaill mwyn,
Y Gragen honno fu i'r GLAS yn un o ferched cwyn;
Ond cofia hyn, fy nghyfaill, ar fin tragwyddol fyd,
Proffwydo'r wyf daw Angel Gwyn i'n dwyn ni'n dau ynghyd.

Mae adsain Tragwyddoldeb yn distyll ar fy nghlust,
Ond sibrwd Angel arall hyn,—"Bydd ddistaw'r Glas—ust! ust!"
Pwy ŵyr na welir eto ddau Las mewn gwyn a gwyrdd,
Yng NGHYLCH Y GWYNFYD hwnnw sydd yn llawn o seintiau fyrdd;
Cawn yno weld y dwyfol, y Ceugant mawr dilyth,
A bod yng nghwmni Iesu Grist am oesoedd bery byth.
Y Gair, y Gair a anwyd o'r lân ddihalog Fair,
Ddanghosodd yn ei Berson pur, yn wir mai gwir yw'r gair
Ei ddyfod ef o'r nefoedd i wared dynolryw,
A'n gwneyd ni pan yn hyn o fyd yn dawel deulu Duw.


CAN Y TELYNOR WRTH FARW.

FY nhelyn!! fy nhelyn! Gai 'nhelyn, mam?
Mae'r angel yn dyfod yn araf ei gam;
Mae swn tragwyddoldeb yn boddi fy mryd,—
Mi ganaf fy marwnad wrth adael y byd.

Fy nhelyn! mae f' enaid yn llenwi pob tant,
A gobaith yn sibrwd y caf fod yn sant,
'Rwy'n myned, 'rwy'n myned, i lysoedd y nen,
I seinio'r fwyn alaw,—yr Hen Garreg Wen.

Mi wela'r golomen, O! gwelaf y ddwy,
Hwy ddeuant i'm hebrwng i fynwent y plwy;
Gobeithio caf delyn yn ninas yr hedd—
A thelyn i nodi man fechan fy medd.

Ffarwel! Y mae'r angel yn galw'n ddidaw,
Mae ganddo delynau ddigonedd wrth law;
'Rwy'n myned yn dawel i lysoedd y nen,
Wrth fyned 'rwy'n canu yr Hen Garreg Wen.


O! AROS GYDA MI.
WEDI EI GYFIEITHU O WAITH LYTE.[11]

O! AROS gyda mi, y mae'n hwyrhau;
Tywyllwch, Arglwydd, sydd o'm deutu'n cau;
Pan gilia pob cynorthwy, O! bydd Di
Cynhorthwy pawb, yn aros gyda mi.

Cyflym ymgilia dydd ein bywyd brau,
Llawenydd, mawredd daear sy'n pellhau;
Newid a darfod y mae'r byd a'i fri—
O! 'r Digyfnewid, aros gyda mi.

Mae arnaf eisiau 'th gymorth ar bob awr,
'Does ond dy ras ddyrysa'r temtiwr mawr;
Pwy eill fy arwain, Arglwydd, fel Tydi?
Bob dydd a nos, O! aros gyda mi.

Nid ofnaf neb os byddi Di wrth law,
Ni theimlaf ddim o ingoedd poen a braw,
Pa le mae colyn angau? Ple mae'r bedd?
Gorchfygaf hwynt, os caf ond gweld Dy wedd.

O! dal Dy groes o flaen fy llygaid llaith,
Rho 'th bresenoldeb nefol ar fy nhaith,
Mae'r wawr yn torri, cyll y byd ei fri,
Yn fyw, yn farw, O! bydd gyda mi.


CWYNFAN PECHADUR.

YN amser fy adfyd, clyw, Iesu, fy nghri,
Rhag ofn i mi'n ynfyd ymadael â thi;
Pan weli fi'n crwydro, O galw fi'n ol,
Na ad i mi lithro, na syrthio yn ffol.

A'i roddion yn ceisio fy hudo mae'r byd,
Pleserau sy'n llithio fy enaid o hyd;
Yn angof nad elo chwys gwaedlyd yr ardd,
A'm cysgod a fyddo croes Calfari hardd.

Pan gosbi fi, Arglwydd, mewn cariad am ddrwg,
O! dyro'n gyfarwydd dy fendith heb wg;
Ar allor dy gariad fy aberth a fydd,
Os egwan y teimlad, fe 'i nerthir gan ffydd.

Pan elwyf i'r ceufedd, yn welw fy ngwedd,
Boed goleu trugaredd ar wyneb fy medd;
Ar fynwes gwirionedd, gorffwysaf o hyd,
A phan ddaw y diwedd, caf fywyd ail fyd.


TU DRAW I'R CWMWL DU.

YN wir, yn wir, mae'r Lleuad wen
Mor lân a gwyryf yn y nen,
Tu draw i'r cwmwl du;
Daw eto allan yn ei gwên,
Heb unrhyw arwydd mynd yn hen,—
Yn dlos, yn loew gu;
Pwy wyr nad oes yng ngwyneb hon
Ryw gysur i'r friwedig fron,
Pan fydd yn cuddio 'i gwyneb prudd
Ryw gwmwl du;— fy ngwelw rudd
Sy'n debyg iawn i hon.

Mae rhywbeth draw yn sibrwd "Ust!"
A dywed Gobaith yn fy nghlust,
"Daw dydd llawenydd llon."
Er cuddio 'th wyneb, Leuad lân,
Mae nefoedd Duw a gwlad y gân
Yn amlwg yn dy wedd;
Mae'r ser o'th gwmpas oll, yn un,
Yn taflu pur olygon cun
Fel gwylaidd fryd rhyw ddiwair fun,
Yn llawn o ddwyfol hedd.

O! Leuad dlos, ar ael y nos,
Mae llonder yn dy fryd,
A phan ddaw'r awr im fynd i lawr
Dan geulan arall fyd,
O! f' enaid, boed dy dawel oed
Mor dawel ag yw'r Lloer;
A phan y bwyf wrth lan y plwyf
O dan dywarchen oer,
O! boed fy mryd yn gân i gyd,
Heb ofnau, ing, na gloes,
Dan gysgod llawn y Dwyfol IAWN,
A'm hyder yn ei groes.

Disgleiria, Leuad! adlun byw
O EGLWYS LAN GATHOLIG DUW;
Mae 'th olwg oll yn llawn
O bob cyfrinach, da a drwg,—
O ddwyfol wên,—o boenus wg,—
Cymysgedd bryd a dawn;
Os ydyw'r cwmwl du yn fawr,
Mae'n araf agor,—daw yr awr
Pan egyr hwn yn rhydd;

Ac yna cawn oleuni pur,
I'n harwain ar hyd llwybrau cur,
Fel gwên tragwyddol ddydd.

O! Leuad wen, wrth lwybro'r nen,
Mae 'th addysg byth yn gu;
A'th wenau glân yn destyn cân
Tu draw i'r cwmwl du.


GWYWO, GWYWO, MAE Y DAIL.

GWYWO, gwywo, mae y dail,
Yna syrthio bob yn ail;
Gwelw-ddelw—dagrau prudd,
Sy'n gorlifo dros fy ngrudd;
O! mae f' einioes fel y coed—
Dail fy mywyd dan fy nhroed.

Gwelw-felyn ydyw'r coed,
Gwelw, gwelw, fel eu hoed;
Ond er cwympo'r dail yn wyw,
Y mae'r brigau eto'n fyw;
Gwelir eto fywyd ail
Yn blaguro yn y dail.

Pan ddaw gwanwyn, gwelir myrdd
Yn prydferthu'r coedydd gwyrdd;
Dail cyffelyb i'r rhai hen,
Dail yn îr a llawn o wên;
Newid, newid, mae ein hoed
Fel y dail sydd ar y coed.

Ond canfyddaf wyrddion ddail,
Fyddant bythol yn ddi-ail;
Byth nid elant hwy yn hen—
Dwyfol fywyd yw eu gwên;
O! mae dail bywydol, per,
Yn y wlad tu draw i'r ser.

O ganol poenau, gofid, ing,
Fy enaid anwyl, cyfod, dring;
Mae lle na wywa'r gwyn na'r gwyrdd,
Ym myd y glân ysbrydion fyrdd
O! f' enaid, cofia eiriau Duw,
Wrth farw byddi'n dechreu byw.





GWRECSAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES A'I FAB, 56, HEOL ESTYN.

Nodiadau

[golygu]
  1. Rhoddir enwau awduron y darluniau. Pan fydd dau enw, enwau'r arlunydd a'r cerflunydd ydynt. Hen ddarluniau gwerthfawr ydynt bron i gyd, wedi eu cerflunio 'n gelfydd gan y Mri. Garratt a Walsh, Llundain.
  2. Gadewir y darnau hyn,—gwaith Talhaiarn, Elis Wyn o Wyrfai, ac ereill,—allan.
  3. The Destruction of Sennacherib gan George, Arglwydd Byron ar Wikisource
  4. Arvon neu Arvoniensis oedd enw barddonol cyfnod bachgennaidd Glasynys.
  5. Woodman, Spare That Tree! gan George Pope Morris (ar Wikisource saesneg)
  6. Oh! weep for those gan George Gordon Byron ar Wikisource
  7. The wild gazelle gan Arglwydd Byron ar Wikisource
  8. Mae yna nodiadau eglurhaol am y gerdd hon a'r bobl a'r llefydd sy'n cael eu crybwyll ynddi yn yr ail gyfrol DYFFRYN MAWDDACH,—Nodion ar yr "Olygfa oddiar ben Moel Orthrwm"
  9. Odl lx.
  10. Rydym yn erfyn arnat, clyw ni.
  11. Abide with me, fast falls the eventide gan Henry Francis Lyte ar Wikisource

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.