Gwaith Dewi Wnion (testun cyfansawdd)
| ← | Gwaith Dewi Wnion (testun cyfansawdd) gan Dafydd Thomas (Dewi Wnion) |
Cyflwyniad → |
| I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Gwaith Dewi Wnion |
GWAITH
DEWI WNION
GYDAG
ADGOFION BYWGRAFFYDDOL
DOLGELLAU
CYHOEDDWYD AC ADGRAFFWYD GAN OWEN REES
I
THOMAS HUMPHREY WILLIAMS YSW
LLWYN DOLGELLAU,
OLYNYNYDD TEILWNG HEN DEULU URDDASOL
CYMRO GWLADGAROL
CYMYDOG GYMWYNASGAR
NODDWR POB ACHOS DAIONUS
A CHYFAILL CYWIR I'R BARDD
Y CYFLWYNIR Y LLYFR HWN GAN
Y CYHOEDDWR
LLINELLAU ER COF AM DEWI WNION
HAUL denawl Dewi Wnion, — a giliodd
O’r golwg i’r eigion ;
Duodd gwawr dydd y gwron,
Aeth i’r llawr ein hathraw llon.
Angeu du, mor ddreng y daeth, — a’i golyn
Dirgelaidd, ysywaeth,
A achosodd, soddodd ’i saeth -
Brad elyn i’n brawdoliaeth.
Iaith awenawg wrth anian, — a feddai,
Mor fuddiol ei gyngan;
Ah! Cawr y dydd, creai dân,
I’w ollwng yn fflam allan.
Pren gwrol purion a gurwyd, — ei ddail
Oedd heirdd oll a gwympwyd ;
Ac uthrol geingciau ’sgythrwyd,
A’i fôn llon aeth i fan llwyd.
Byw ydoedd am wybodaeth, — ei feddwl
Fyddai mewn dysgeidiaeth,
Yn rhodio maes efrydiaeth,—
O fewn dim yn safon daeth.
Anian soddi i fôr hanesyddiaeth,
A’i ddoniau hylon oedd ynddo’n helaeth,
I godi’r lleni, er canfod lluniaeth,
Fyddai ei orchest, i foddio’i archwaeth;
Hel i fewn ryw fuddiol faeth, — y byddai
O’r hyn a fyw garai yn fagwraeth.
R. Jones.
ADGOFION BYWGRAFFYDDOL
———————
GANWYD Dafydd Thomas, (Dewi Wnion) Mehefin 22ain 1800. Enw ei dad oedd Dafydd Tomas Rolant, yr hwn oedd yn enedigol o Lanymawddwy, ac yn saer wrth ei alwedigaeth. Y mae iddo lawer o berthynasau yn Mawddwy. Enw ei fam oedd Elizabeth, merch Huw Ap Ifan o'r Wenallt, Rhydymain. Yr oedd ei dad yn hoff iawn o ganu, ac yn fedrus mewn dawnsio, yr hyn oedd gyffredin a chymeradwy y dyddiau hyny. Pan yn gweithio ei gelfyddyd yn Llanelltyd arferai fyned i "nosweithiau llawen" a gynnelid yn Rhydymain; ac yn y rhai hyny y, daeth i gydnabyddiaeth gyntaf ag Elizabeth. Ar ol priodi aethant i fyw i Ddoluwcheogryd, gerllaw Dolgellau, ac yno y buont yn preswylio hyd ddiwedd eu hoes.
Dyn o daldra cyffredin oedd yr "Hen Dafydd Tomos", ond yr oedd ganddo gorff cadarn anarferol; ac yr oedd yn parhau yn gryf iawn hyd y diwedd. Pa faint bynag oedd ei hoftder at ddawnsio a difyrwch cyffelyb yn ei ieuenctyd nid yn hir y bu, ar ol priodi, cyn i gyfnewidiad amlwg gymeryd lle arno. Tua'r flwyddyn 1791, efe a ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nolgellau, a bu yn aelod proffesedig gyda hwy am 53 o flynyddoedd. Arferai eistedd, yn ei flynyddau olaf, bob amser bron yn y "pulpud bach;" a byddai yn hawdd gwybod ar Dafydd Tomos a fyddai "mynd" ar y bregeth. Eisteddai yn y dechrau yn dawel, a'i ddwy law ar ben ei ffon, a'i ben yn pwyso arnynt. Cyn hir, codai ei ben, a rhoddai bwysau ei ên ar ei ddwylaw. Yn mhen ychydig wedi hyny, codai ar ei draed, ei ffon o dan ei law, gan led-bwyso ar ochr yr eisteddle. Os byddai yr hwyl yn cynnyddu, safai ar ben y plocyn, ei gefn ar "ffrynt" y pulpud bach, a'i wyneb i fyny at y pregethwr, yn dystaw yfed llon'd ei enaid o ddyddanwch. Clywsom ef yn gweddio lawer gwaith, yn enwedig yn niwedd "seiat." Nid oedd ei ddawn mor wlithog a llawer o'i hen frodyr, ond yr oedd ei weddi bob amser, er yn fyr, yn sylweddol, a chryno iawn. Bu farw Hydref 22ain, 1844, yn 83 mlwydd oed.
Mewn nodiad yn y "Drysorfa" am Chwefror y flwyddyn ganlynol, ysgrifena y diweddar Mr. R.O. Rees, fel y canlyn — "peth mwyaf nodedig yn nodweddiad yr "hen ddysgybl hwn," yn yr hyn yr oedd yn esiampl brydferth i'w hoffi a'i hefelychu gan bob dysgybl proffesedig i Grist, oedd ei ddiwydrwydd a'i gysondeb yn ei ymarferiad â holl foddion cyhoeddus crefydd. Yr oedd yn byw yn nghylch milldir o Ddolgellau a bernir iddo, yn ystod y 53 mlynedd y bu yn aelod eglwysig, gerdded i'r dref, i foddion gras yn unig, fwy o yn agos i 3,000 o filldiroedd na phe buasai wedi amgylchu y ddaear! Ond er hyn oll, "gwas anfuddiol" oedd yn ei olwg ei hun. Pan oedd un o'i deulu yn son am ffyddlondeb anghyffredin gyda moddion gras i dawelu ei feddwl pryderus ychydig cyn ei ymadawiad meddai, "nid yw hyny ddim i mi erbyn hyn - rhaid cael rhyweth mwy na hyny i farw." Anhawdd fuasai cael esboniad ymarferol mwy tarawiadol ac effeithiol ar eiriau y Salmydd, yn Salm 42. 1 a 2, nag a gaem wrth edrych ar yr hen bererin ffyddlon hwn yn ei flynyddau diweddaf, pan oedd ei nerth wedi myned yn boen a blinder, yn ymlusgo wrth nerth ei ffon tua Thŷ ei Dduw, ei gefn yn crymu, ei draed yn trystio y ddaear, a'i gerddediad yn drwsgl ond yn egniol. Gellid dychymygu wrth edrych arno ei fod yn sibrwd yn barhaus yn ei feddwl, — "Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw; pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf ger bron Duw".
Ar yr olwg gyntaf, y mae cyfrifiad Mr. Rees o'r milldiroedd a gerddodd yr hen ŵr o'i dŷ i'r capel yn ymddangos braidd yn anhygoel; ond pan gofir fod ganddo lawn ddwy filldir a hanner i'w cerdded bob tro, rhwng myned a dychwelyd, ac y byddai yn bresenol ddwy-waith o leiaf ar y Sabbath, a dwy-waith yn ystod yr wythnos, yr oedd ei daith wythnosol i'r capel yn ddeng milldir neu bum cant a thriugain milldir mewn blwyddyn, neu saith mil ar hugain, pum cant, a thriugain milldir mewn 53 o flynyddau! Y mae yn dra sicr, gan hyny, nad oedd amcangyfrif Mr. Rees fymryn yn rhy uchel.
Yn Noluwcheogryd, fel y crybwyllwyd, yr oedd yr hen bobl yn preswylio, ac yno, felly, y ganwyd Dewi; yn swn ffrydiau yr Wnion, oddiwrth yr hon y cymerodd efe ei enw barddol. Efe oedd y chweched o wyth o blant. Cafodd ei ddwyn i fyny yn yr un alwedigaeth a'i dad, (saer coed) ac ystyrid ef yn ei ddyddiau goreu, yn grefftwr medrus, fel y tystia llawer dodrefnyn o'i waith sydd eto ar gael. Adroddai yn fynych am dro lled ddigrifol a ddygwyddoddy pryd hyny. Yn mhlith ei gymydogion yr oedd llencyn a elwid "Dic William," yr hwn a gyfrifid yn un lled ddiniwaid; ond a fu wedi hyny am flynyddau yn dra defnyddiol fel blaenor y gân yn nghapel yr Annibynwyr yn y dref; efe a ymfudodd i'r America tua deugain mlynedd yn ol, ac a fu farw mewn ychydig fisoedd wedi cyrhaedd yno. Yr oedd Dewi wedi cael amryw o arfau newyddion, ac yn eu plith amryw gynion bychain hylaw at wneyd dodrefn. Byddai Dic yn myned yn fynych i'r gweithdy, ac yn edmygu y cynion newyddion yn fawr iawn. Ond yn mhen ychydig wythnosau fe gafodd Dewi allan fod y cynion yn diflanu o un i un, ac yr oedd yn naturiol i'r amheuaeth ddisgyn ar Dic. "Dic" ebai Dewi un diwrnod; "yr ydw i wedi colli, fy nghynion - welaist di mo'nynt yn un man." "Na welais i," ebe Dic, gan gochi fel twrci. " Wel," meddai Dewi, " os gelli di gael eu hanes nhw, a dyfod a nhw i mi mi gei aderyn du, byw, hefyd, gen'i am dy boen. "Mi gaf! " ebai Dic, "Cei yn siwr." Ac os oodd rhyw wendid mwy na'i gilydd yn perthyn i Dic y pryd hwnw, awydd am feddiannu aderyn du oedd hwnw. Dranoeth, wele Dic i'r gweithdy. "Mi ffeindiais i y cynion, Deio; dyma nhw; lle mae 'y 'neryn du i?" Cododd Dewi ei ben, ac fel y dygwyddodd, yr oedd aderyn du ar y cae yn y golwg, "Dacw fo, Dic meddai Dewi, "tyn dy gap yn barod, a cherdd yn ddystaw ato, mi dalio mewn mynyd." Ymaith a Dic yn ei led-ol i'r cae rhyngddo a'r aderyn, tarawodd ei gap drosto, a daliodd ef yn y fan, er syndod dirfawr i Dewi. Yr oedd yr hen ŵr ei dad yn gweithio wrth y fainc gerllaw, ac wedi clywed yr holl ymddyddan, pan welodd yr aderyn wedi ei ddal, efe a gynhyrfodd yn ofnadwy. Dylid cofio fod llawer iawno son am "gonsurio" a "chonsuriaeth" yn y dyddiau hyny yn Nghymru. "Y mae'r Drwg mewn peth fel yma, Deio, y mae o hefyd; does bosibl dy fod di wedi cael gafael ar y llyfrau drwg yna; ac wedi gwerthu dy hun i'r Cythraul! Sut gebyst, oni b'ai hyny. y gwyddet ti y gallai yr hogyn ddal y deryn!" Aeth yn helynt sobr ar Dewi, a chafodd drafferth enbyd i argyhoeddi ei dad nad oedd a fynai y Gŵr Drwg, na chonsuriaeth, na dim o'r fath â'r amgylchiad; ac fod y cyd-ddygwyddiad yn gymaint gryndod iddo ef ag ydoedd i neb arall.
Y mae yn anhawdd dyweyd pa pryd y tueddwyd ei feddwl gyntaf at farddoniaeth. Creda rhai y rhaid geni dyn yn fardd; ac eraill mai "dawn natur pob dyn ytyw" yr awen. Pa fodd bynag y mae yn wirionedd amlwg, os na enir dyn yn fardd, y rhaid iddo feddu galluoeddd naturiol a fyddont ffafriol i farddoni, cyn y cymer yn rhwydd i gyfeiriad yr awen. Gredwn fod doniau naturiol y llanc Dafydd yn ei wneyd yn hawdd i'r awen ei fabwysiadu, a phe gwnaethai ymdrech cyffredin, diau y gallasai fod yn eistedd yn mysg prif-feirdd blaenaf ei wlad.
Yr oedd Huw ei frawd, hŷn nag ef, yn aros yn yr Amwythig, a cheisiai Rowland, brawd arall iddo, ieuengach nag ef, wneyd englyn i ofyn i Huw am anfon cyllell iddo ef o'r Amwythig, ac fel y canlyn y canai y brawd hwnw :-
"Huwcyn bach, os wyt yn iach,
Anfon imi gyllech fach"; "Thâl hwna ddim byd," meddai Dafydd, "aros di dipyn bach, ac mi wnaf fi un gwell na hwna iti". Ac yn mhen ychydig dywedodd wrtho am anfon yr englyn canlynol i Huw:-
"Am gyllell, hen gyfaill rwy'n gofyn, — finiog
Ofynaf gan Huwcyn,
A eillio megys ellyn
Yn sych deg ar swch dyn."
Yr oedd efe y pryd hwnw o bymtheg i ddeunaw oed, yr hyn a ddengys fod rhywbeth a fyno â phrydyddu pan yn ieuanc, a'i fod yn adnabod y gynghanedd yn lled foreu.
Ymunodd Chymdeithas y Cymreigyddion ar ei chychwyniad, neu yn bur fuan ar ol hyny. Yr oedd yn Nolgellau yr adeg hono luaws o feirdd a llenorion galluog ac egniol, megys Gwilym Cawrdaf, Llywelyn Idris, Meurig Ebrill, Ieuan Awst, Ioan Gwernen, Lewis Meirion, ac eraill, Byddai cyfarfodydd y Gymdeithas yn ddyddorol dros ben. Mynych y gwelid enw Dewi Wnion yn nglŷn â hanes y cyfarfodydd hyny.
Glywsom ef yn adrodd yn ddoniol am yr amser y cafodd ei urddo yn fardd with fraint a defod. Yn ol arferiad llawer o'r frawdoliaeth, gwisgai yntau ddiwrnod ei urddiad glos pen glin gyda byclau prydferth ar benau ei liniau. Y deuddegfed o Fai yn wastad fyddai y diwrnod urddo, hyny, debyg genym, o herwydd mai ar y diwrnod hwnw, yn y flwyddyn 1821, y cychwynasid y Gymdeithas yn Nolgellau. Cawrdaf yn unig, drwy ei fod yn Fardd Cadeiriol, a feddau'r hawl gyfreithlawn i urddo beirdd. Cerddai y Cadeirfardd drwy y dref gyda chleddyf yn ei law, a'r beirdd urddedig yn orymdaith drefnus ar ei ol Cymerai yr urddiad le yn Mhant-y-gareg-wen, oddiar y dref, lle y cynnelid yr orsedd. Dygid pobpeth yn mlaen yn weddaidd a defosiynol.
Pan oddeutu pump-ar-hugain oed, teimlai Dewi yn awyddus i fyned oddi cartref, er mwyn gweled ychwaneg o'r byd, ac ymberffeithio yn fwy yn ei gelfyddyd. Aeth i aros i Lanfyllin; cafodd waith gan un boneddwr hynawas a elwid Morris Bibby, Ysw. Yno y daeth yn gydnabyddus; â William Edwards, (Wil Ysgeifiog), yr hwn yntau oedd saer melinau. Yr oedd ganddo luaws o ystorion difyr mewn cysylltiad â'r bardd fraethbert hwn. Yn Llanfyllyn, y pryd hwn, y cyfansoddodd efe y gân fechan dlos ar "Babell Morris Bibbi".
Un tro, yn yr adeg hon, yr oedd ef a dau neu dri o'i gydweithwyr yn myned oddiwrth eu gwaith i weithio mewn lle arall a baich o arfau ar eu cefnau. Erbyn iddynt gyrhaedd Llanfyllin yr oedd yn gwlawio yn drwm. Troisant i mewn i ymochel i dafarndy adnabyddus iddynt; a thra yr oeddynt felly yn ymdwymo ac ymsychu o gwmpas y tân, daeth gŵr dieithr i mewn, wedi gwlychu yn lled ddwys, a golwg lled flinedig arno. Galwyd arno yn mlaen, a thynwyd ymddyddan âg ef. Cyn hir, fe ddeallwyd beth oedd ei neges ef - mai ar ei ffordd i Lanbrynmair yr oedd efe, at yr hen Gonsuriwr adnabyddus oedd yn byw yno, a elwid Doctor Roberts. Dyrnwr, mae yn ymddangos, ydoedd y dyn, yn gweithio mewn ffermdy ar derfyn Sir Ddinbych. Yr oedd yr holl ŷd a ddyrnid ganddo ef yn ystod y dydd yn cael ei gario ymaith bob nos, ac yr oedd pob ymdrech o'u heiddo i ddarganfod y lleidr wedi bod yn hollol ofer. Yr oedd ei feistr mewn penbleth blin, yn methu gwybod pa beth i'w wneyd, ac wedi ei anfon ef i ymgynghori ar Consuriwr er cael allan pwy ydoedd y lleidr, neu i roddi attaliad ar ei weithrediadau. Wrth ei holi, cafodd Dewi allan yn fuan pa fodd yr oedd pethau yn sefyll. Wedi rhoi awgrym i wr y tŷ, trodd at y dyeithrddyn, a dywedodd, "Ni raid i chwi ddim myned mor belled a Llanbryrimair, er cael eich neges, os nad oes gorfod arnoch: byddaf yn gwneyd tipyn yn y ffordd hono fy hun ambell waith; ac yr wyf yn sicr, eisoes, y gallaf roddi i chwi y wybodaeth ydych yn geisio"; a chan droi at ŵr y tŷ, ychwanegai - "Ymae y llyfrau yn ddiogel wrth law, onid ydynt." "Ydynt, siwr" ebe hwnw; "dyma yr agoriad i chwi; ni byddaf byth yn eu gadael heb glo yn eich absenoldeb, rhag i ryw un anghyfarwydd gael gafael arnynt, a chodi ysprydion, a methu eu darostwng hwy drachefn;" "Beth," meddai y dyeithrddyn, "â ydych chwi y "ŵr cyfarwydd?" "O! ydyw siwr meddai cymdeithion Dewi, "yn un 'cyfarwydd iawn,' ac yn dra enwog yn y wlad ucha yna." "Wel, ni waeth i mi y naill ŵr cyfarwydd mwy na'r llall," ebe y dyn; "mewn pa faint o amser y byddwch chwi yn barod?" "Mewn hanner awr, neu lai", ebe Dewi ; "ac mi a âf yn awr i roddi y llyfrau mewn trefn." Yn mhen ennyd, galwyd y dyn i'r parlwr. Yr oedd shutters y ffenestr wedi eu cau; dwy ganwyll fawr oleuedig ar y bwrdd; tri neu bedwar o lyfrau mawr eu trefnu yn y fath fodd fel nas gallasai y dyn,'os ydoedd yn medru darllen, gael un awgrym beth oeddynt. "Wel," ebe Dewi," yr wyf yn gael allan fod eich ystori yn wir; y mae yr ŷd yn cael ei ladrata; ac y mae y lleidr yn un lled ystrywgar hefyd, ac wedi llwyddo i gelu ei hun yn fedrus iawn; ond mi a ddywedaf i chwi pa fath un ydyw" gan edrych i un o'r llyfrau, "y mae ganddo glos pen glin o gorduroy, a hosanau bach o'r un defnydd; cot lwyd lac, a llogellau mawr iawn o'r tu mewn iddi. Y mae ganddo wallt du bras, ac un cydyn yn troi ar ei dalcen; llygaid duon, ac un ychydig yn gam; trwyn hir; dannedd lled fawr, ac un yn taflu allan ychydig, ac" - Ond gyda hyny, dyna'r dyn yn ymaflyd yn y bwrdd a'i ddwy law, nes oedd hwnw a'r cyfan oedd arno yn crynu dros yr ystafell. Cododd Dewi ei ben, edrychodd yn myw llygad y dyn, yr hwn oedd mor wyned a'r galchen--"beth! ond chwi yw y lleidr!, meddai. Syrthiodd y dyn ar ei liniau, gan erfyn er mwyn pob peth da yn y nef a'r ddaear; am i Dewi gadw y peth yn ddirgel, a pheidio ei amlygu i neb, er mwyn ei amgylchiadau ef a'i deulu. Wedi hir ymbil, boddlonodd Dewi i hyny, ar yr ammod iddo fyned adref, a hysbysu ei feistr fod y gŵr cyfarwydd yn dyweyd y byddai i'r ŷd gael ei ddwyn yn ol gan y lleidr mor gyfrinachol ag y cymerwyd ef ymaith, ac fod y meistr i anfon hysbysrwydd i ŵr y dafarn pan y byddai yr ŷd wedi ei ddychwelyd; ac yna na chlywid dim mwy am yr helynt. Felly y bu. Aeth y dyn adref dipyn yn sobrach, ai logell ychydig yn wagach, gan lwyr benderfynu mai "gorau byw yn onest" o hyny allan. Bu Dewi yn aros am, gryn amser y pryd hyn yn nghymydogaethau yr Amwythig, Llanfyllin, a Llanerfyl. Yn y lle olaf, daeth yn gydnabyddus â merch ieuanc o'r enw Rachel Evans; aeth yn ymgyfeillach rhyngddynt; ac yr oedd y garwriaeth, yn ol pob tebyg, ar droi allan yn briodas. Ond, fel y gwneir yn fynych, dyryswyd cynlluniau serch; syrthiodd y blodeuyn prydferth yn yr angau, a gadawyd y llanc cariadlawn i wylo am ei Rahel. Hyn a achlysurodd iddo gyfansoddi y pennillon serchwylofus a geir yn y llyfr hwn dan y penawd "Mynwent Erfyl, neu Hiraeth y Bardd ar Fedd ei gariad."
Pan yn aros yn Sir Drefaldwyn, deuai adref yn awr ac eilwaith i ymweled â'i dad, ac i'w gynnorthwyo pan fyddai gan yr hen ŵr gryn lawer o waith ar ei law. Bychan o beth yn ei olwg y pryd hwnw oedd cerdded, â beichyn o arfau ar ei ysgwydd, o Faldwyn dros y Bylchoedd i Ddolgellau. Yr oedd yn ddyn ieuanc iach, bywiog, talgryf, glandeg yr olwg, ac yn meddu ar gorff llunaidd ac ystwyth.
Adroddai wrthym ei fod yn myned un tro dros Fwlchyfedwen yn bur hwyr ar noswaith oleuleuad; ac fel y gwyr pawb fu rywbryd y ffordd hono, y mae hen loches fynyddig y Gwylliaid Cochion gynt yn lle brawchus iawn i deithiwr unig, yn enwedig yn y nos. Yn nghanol mynyddigrwydd anghysbell hwnw, daeth dyn i'w gyfarfod o faintioli lled fawr, ac ymddangosiad go annymunol, a gofynodd pa faint o'r gloch ydoedd. Edrychodd Dewi Ar ei oriadur, ac atebodd y cwestiwn. Yna gorchymynoddy dyeithrddyn iddo roddi ei oriadur i fyny iddo ef. Dododd y dyn ieuanc gwrol ei becyn yn bwyllus ar lawr, a chyn pen ychydig o eiliadau yr oedd y ffon, a'i phen meinaf yn llaw ein harwr grymus, wedi gadael ei dylanwad syfrdanol ar benglog yr ysbeiliwr i'r fath raddau nes y syrthiodd yn hanner marw ar y llawr. Gan dybied y gallai fod yno un arall heb fod yn mhell, prysurodd y teithiwr gonest i'w ffordd, gan adael yr ymosodydd haerllug ar lawr i fwynhau y llonyddwch a dderbyniasai oddiwrth y ffon, ac i godi pan deimlai ei hunan yn gyfaddas. Yn lled fuan, clywai Dewi drwst traed rhywrai yn dyfod o'i ol yn frysiog, aeth yn y fan dros y gwrych, a phrysurodd dau ddyn heibio yn ymlaen ar hyd y ffordd, un o'r rhai, fel y tybiai ef, oedd yr hwn a loriwyd. Ond anturiodd eilwaith i'r ffordd, a cherddodd i'w daith ac ni welodd ddim oddiwrthynt mwyach.
Yn y flwyddyn 1831 aeth i aros i Lynlleifiad. Ymunodd yno drachefn â Chymdeithas y Cymreigyddion, yr hon â ymgyfarfyddai yn Heol-y-Dymhestl. Ymgydnabyddodd felly â llawer o feirdd a llenorion, megys Pedr Fardd, Tomas Gwynedd, Ioan Powys, ac eraill. Yn y dref hono y cyfansoddodd y pennillion adnabyddus ar "Anfoniad y Golomen". Yr oedd efe a'i gyfaill John Evans wedi myned am dro un boreu i Knowsley Park, gerllaw palasdy Iarll Derby. Yno y daethant ar draws nifer o blant ieuainc oeddynt wedi dyfod i Liverpool i'r ysgol. Yr oedd ganddynt golomen gyda hwy, ac wedi sicrhau nodyn yn ei chilfin i hysbysu eu rhieni. eu bod wedi cyrhaedd yno yn ddiogel, gollyngasant hi. Esgynai hithau, gan ymdroelli mewn cylch neillduol, nes cyrhaedd uchder penodol, ac yna ymaith â hi yn unionsyth yn nghyfeiriad Cymru. "Dyna hi, Jack," ebe Dewi, "yn syth i Feirion." Ac wedi dychwelyd i'w lletty y prydnawn hwnw, dechreuodd Dewi ganu, a John Evans ysgrifenu, y gân naturiol hono.
Wedi aros am oddeutu pum mlynedd yn Llynlleifiad, dychwelodd i'w hen wlad enedigol, i beidio ymadael mwy. Yn fuan wedi hyny, sefydiwyd y Gymdeithas Ddirwestol yn Nolgellau. Ei hysgrifenydd cyntaf hi ydoedd Mr. John Evans, Joiner; mab hynaf y diweddar Dafydd a Chatherine Jones o'r Pobty, a brawd i'r diweddar Mr. David Jones, Llyfr-rwymydd, a Mr. Humphrey Jones, Tanybryn yr hwn yn unig o'r teulu sydd yn aros hyd yr awr hon. Yr oedd John ar y pryd newydd ymbriodi â Margaret, chwaer i Dewi. Yr oedd awen barod y naill, a llais mwyn a melus-ber y llall, yn naturiol yn peri cyfeillgarwch mynwesol rhyngddynt. Oes fer, ond tra defnyddiol, a gafodd John Evans, ac fe geir Englyn Beddargraffyddol gyfansoddodd Dewi ar y pryd yn y gyfrol hon. Yr oedd yn naturiol i zel a gweithgarwch ei gyfaill ddylanwadu yn gryf ar Dewi, ac ni a gawn ei fod am flynyddau lawer ar ol hyn yn Ddirwestwr zelog, fel y dengys y ddau bennill a gyfansoddodd ef yn ngrym y gwres dirwestol, a'i sen lem i'w hen gyfaill Meurig Ebrill.
Yn yr adeg hon hefyd, ymunodd Dewi a'r Methodistiaid, gyda'r rhai y magwyd ef, ac yr arferai wrandaw yn wastadol, a bu yn aelod zelog yn Salem am flynyddau, ac yn athraw gweithgar yn yr Ysgol Sabbathol. Cyfrifid dosbarth Dewi Wnion, am hiramser, yn un o brif ddosbarthiadau yr Ysgol. Yr oedd yn arferiad y pryd hwnw, ac y mae yn parhau hyd yn hyn, i gynnal Cyfarfod Genhadol ar ol y bregeth, yr ail nos Sabbath yn y mis, ac enwid dau neu ychwaneg o'r athrawon i areithio yn mhob cyfarfod. Yr ydym yn cofio yn dda fod Dewi yn areithio un nos Sabbath, yn yr adeg yr hwylioddy Cenhadwr cyntaf perthynol i Gyrmdeithas Genhadol y Methodistiaid i Fryniau Cassia, ac yn ystod ei araeth, adroddai ddarnau helaeth o Awdl enwog Dewi Wyn ar Elusengarwch — pob darn, yn wir, ag yr oedd rhyw gyfeiriad ynddo at y Bibl, y Genhadaeth, neu yr India. Rhwng parabliad clir Dewi, ei ynganiad perffaith o'r cyngharieddion, a chydymdeimlad gwresog y gwrandawyr, ni chlywsom y fath hwyl yn cydfyned ag adroddiad o'r hen awdl odidog, na chynt na chwedyn, ag a fu y noson neillduol hono.
Yn y flwyddyn 1838, ymbriododd a Sarah Jones, Llwynygrug, Dinas Mawddwy, yr hon oedd ar y pryd yn gwasanaethu yn y Llwyn, Dolgellau, gyda Thomas Hartley, Ysw. Dichon mai nid annyddorol i lawer fydd yr englynion canlynol a wnaed ar yr amgylchiad gan y diweddar Meurig ldris :—
MEWN hedd mae Gwynedd yn gwenu — heddyw
Yn hyddoeth a mwyngu,
A'r holl Feirddion ceinion cu
Mewn cynnydd yma'n canu.
O herwydd mai dydd dedwyddawl, — yw hwn,
Mae'n hynod ryfeddawl,
Bydd priodas urddasawl
Dewi Wnion hylon hawl.
Dewi ydyw bri ein bro, — Bardd enwog.
A'i bêr ddoniau'n seinio,
A'i awen lon fwynlon fo
O foroedd yn llifeirio.
Dewi a Sarah, dau siriawl — i fyw
Ac i fod yn unawl,
Dau'r un fryd mewn hyfryd hawl
Ydynt yn dra hynodawl.
Eu dyddiau fo 'n ddedwyddol, — a chynnydd
Gwych enwog beunyddiol,
I oesi yn urddasol,
Ddau wiwfad, a'u hâd o'u hol.
Ffyniant a llwydd hoff union — i'w dilyn
Hyd elawr yn ffyddlon,
A chael addas ras yr ION,
A doethwych hael fendithion.
Ar ol priodi aethant i fyw i dy yn ymyl y dref a elwid Llety Dewi, lle yr arosasant am dros ddeng-mlynedd-ar-hugain. Yn mhen oddeutu blwyddyn, ymsefydlodd yntau fel goruchwyliwr ar ystad y Llwyn a bu yn yr oruchwyliaeth hono hyd ddiwedd ei oes, a hyny gyda pharch a chymeradwyaeth neillduol yn ngolwg y naill a'r ol y llall o deulu anrhydeddus y Llwyn, ac yn enwedig y foneddiges a'r boneddwr presenol, Miss Hartley, a Thomas Humphrey Williams, Ysw.
Bu Dewi yn aelod o'r Gymdeithas Gyfeiligar Gynnorthwyol a gynnelid yn yr Angel, bron o'i chychwyniad. Efe oedd "Bardd" y Gymdeithas; a bu hefyd am bedair blynedd ar bymtheg ol-yn-ol yn cael ei ethol yn Llywydd ynddi, hyd nes iddo fethu gan lesgedd i barhau; ac bu hefyd yn un o'i Hymddiriedolwyr hyd derfyn ei oes, yr hyn a ddengys fod gan ei gyd-aelodau gryn ymddiried ynddo.
Yn mis Mawrth y flwyddyn 1879, cafodd anwyd trwm, a bu yn sâl iawn am fisoedd ac yn ol pob ymddangosiad yn agos i angau. Ond er syndod i lawer gwellhaodd drachefn. Ar ei adferiad canodd un o'i gyfeillion, fu yn gweini arno yn ei glefyd, yr englynion â ganlyn:-
Diolch am weled Dewi; — eto'n iach
Tan ei hoff benwyni,
A'i osgedd mor wisgi — ar ol hirnos,
O ryw ddwys wylnos mewn prudd selni.
Ammheu y buom y bywiai — am hir dro,
Mor drist yr edrychai,
Ei bruddaf wyneb roddai — arwyddion
O boen y galon — buan y gwelwai.
Ar bwys ei och a'i hir besychiad — dwfn,
Athrist oedd ein casgliad;
Ofnem fod ei ymddatodiad — gerbron,
Ein dewraf Wnion ar derfyniad.
Gwelodd,er cystal oedd gwyliad — dwylaw
Dilesg cydymdeimlad,
Aml nos ddwys ddiorphwysiad,
A maith ddydd heb esmwythad.
Tywyll oedd gweled Dewi — heb wên fwyn,
Tan boen fawr yn tewi;
Mewn nos yr oeddym ni — gan y gofid
Dirfawr y gellid ar fyr ei golli.
Ond cliriodd y nen, a daeth gwenau — haul
Eilwaith ar ein gruddiau;
Mae Wnion yn llon wellhau — o'i nychlyd
ddu afiechyd — diangodd o'i fachau.
Awel Mawrth fu lem wrtho — a chwerw iawn
Fu dechreu haf iddo;
Ond rho'i Awst ei nawdd trosto — a'i bryd gwyn,
A chyn hir wed'yn cychwynai rodio.
Yn well well aed Dewi bellach — yn rhydd
O'r hen ddolur mwyach;
Difyr nwyd ei fron iach — yn ei ddydd hen
A thân ei awen a weithio'n hoywach,
Caed yrfa deg hyd derfyn — ei einios,
Fel prydnawn hirfelyn;
A chaed oes iach wed'yn — yn y lle pur
Nad oes un dolur dwys yn dilyn
Er nas adfeddianodd ei gryfder yn hollol fel o'r blaen ar ol y fath gystudd trwm, eto mwynhaodd iechyd lled dda yn y blynyddoedd dilynol. Ond gwanhaodd eilwaith yn niwedd y flwyddyn 1883, ac er pob gofal a gwasanaeth angenrheidiol parhaodd i waethygu. Bu farw Ghwefror 5ed, 1884, yn ei 84 mlwydd oed. Claddwyd ef yn y fynwent tu cefn i gapel Salem, Dolgellau.
Cafodd oes hir, a gellir ychwanegu, gysurus hefyd. Profodd "ymgeledd cymhwys" yn ei brïod ofalus, Mrs. Thomas, yr hon sydd wedi ei gadael yn weddw unig a galarus. Symudasent er's dros bymtheg mlynedd o Letty Dewi i le bychan yn ymyl palas y Llwyn. Buont fyw gyda'u gilydd dros bum-mlynedd-a-deugain.
Yr oedd Dafydd Thomas yn gymydog tawel, o dymher hynaws a charedig, ac yn-ddifyr iawn bob amser yn ei gyfeillach. Yr oedd yn fawr yn ngolwg ei feistr, ac yn hoff gan bawb o'r tenantiaid. Darllenoedd lawer ar hyd ei oes; a meddai ar gof rhagorol. Derbyniai y "Faner" yn rheolaidd, a deuai y "Dydd" a'r "Goleuad" iddo bob wythnos. Cymerai gryn ddyddordeb mewn gwleidyddiaeth, ac yn holl symudiau cymdeithasol a chrefyddol yr oes. Heddwch i'w lwch.
ER COF SERCHOG
AM
DAVID THOMAS
(Dewi Wnion)
BU FARW
Chwefror 5ed, 1884
YN 84 OED
—•—
Adwaenid DEWI WNION — yn ei ddydd
Fel bardd hoff pereiddlon
Bydd fyw yn hŵy yn ei Englynion
Na geiriau cu y Gareg hon
JJ
GWAITH DEWI WNION
————
CANEUON
————
ANFONIAD Y GOLOMEN I FEIRIONYDD
EHED y G'lomen, 'hed yn chwyrn,
Dy edyn cedyrn cais;
Dod wynt i'th fanblu unwaith mwy,
A gwrando'm clwy a'm clais;
Cei gen 'i nghyffes fynwes faith,
Nid yw ond taith i ti;
Os yn dy gilfin dygi hon
I Feirion troswyf fi.
Pan y delych ar dy daith,
I'r man bum ganwaith gynt;
Dôs cyn hyf i dŷ fy Nhad,
Cei groesaw rhad ar hynt;
Ond Ow! yr hon a'm cadwai 'n rhwydd,
Rhag cael un tramgwydd trwch;
Ei dwy-rudd sydd, er's llawer dydd,
Yn llonydd yn y llwch.
Wedi hyn ehed mewn hwyl,
At feddrod f' anwyl Fam,
Yr hon fu 'n dyner gynt i'm dal,
A'm cynnal rhag un cam;
Un ateb yno gwn ni's ca'i,
Y beddrod clai a'i cloes,
Mewn gwely pridd, un aelod rhydd,
Na nos na dydd, nid oes.
Ni wyddwn i y dyddiau 'n ôl,
Am un terfysgol fyd;
Yn awr y daw fel tòn ar dòn,
I'r fynwes hon o hyd;
O murain fum yn moreu f' oes,
Heb loes na chroes na chri;
Llawer hwyr a boreu llon
Yn Meirion gaethum i.
O gam i gam, o gur i gur,
Tan lawer dolur dwys;
A mhwyll ar lif y'mhell o'r lan,
Bron toddi dan ei bwys,
O Plwm, air trwm, pa le mae troi?
'Rwy wedi 'm cloi mewn clwyf;
A garw frath, o gur i'r fron,
I Feirion estron wyf.
O dôd yn awr dy edyn im',
Yn gyflym âf trwy'r gwynt,
Yn ôl i fraint fy anwyl fro,
Gan gofio'r dyddiau gynt :
Rhyw foreu'n ôl i Feirion âf,
A thawaf yma å thi;
Mwyn i bawb y man lle bo,
O! Meirion fro i mi.
HIRAETH Y BARDD AR FEDD EI GARIAD
PA orchwyl yw hyn? 'rwy'n dychryn cyn dechreu!
Pa arwydd, pa eiriau ddefnyddiaf fi 'n awr?
'Rwy'n sefyll yn syn yn ymyl glỳn ammhwyll,
Mewn tewaidd niwl tywyll, heb ganwyll na gwawr;
Ce’s frathiad i’r fron, gyfoedion, claf ydwyf,
Cledd einioes cladd ynwyf, tra byddwyf fi byw;
’Does yn yr oes bon arwyddion o’r heddwch,
Er maint yr hyfrydwch a’r harddwch bob rhyw.
Ow! gorwedd, trwm gwyn, mae ’r addfwyn ireiddferch,
Fe’m d’ryswyd o draserch i’r wenferch, mae’n wir;
Tro’i hono, trwy hedd, ei bysedd mewn bywserch,
I lunio brith lanerch i’m hanerch, dro hir;
Ond heddyw trymhau, ’does geiriau o’r gweryd,
'Rwy'n goddef trwm adfyd tan benyd, tỳn bwn;
Y glyd fynwes glau, a’r genan fu’n gweini,
Y llynedd i’m lloni, sy’n tewi’r pryd hwn.
Pan oeddym ni’n nghyd yn myd yr ammodau,
’R oeddd gwirod ei geiriau i’m genau fel gwin;
Er meddu hyn cy’d, trwy sengyd, troes angau
’R pêr aeron pur eiriau yn bläau trwm blin;
Mae’n gorwedd mun gain, yn gelain mewn gwaelod,
Lle isel preswylfod ei hynod gorff hi;
A mwy o’r bedd main, mun desgain, wiw dysgwyl,
Ond llwch mynwent ERFYL mae’n anwyl gan i.
CWYNFAN' Y BARDD AR OL EI CHWAER
MESUR, — Sweet Home.
I DDYN awr ddyddanwch, dedwyddwch nid oes,
Heb awr o wylofain i’w arwain drwy’i oes,
O drallod i drallod, dan gawod o gûr,
Yn nghwpan melusdod ca’ sorod go sûr.
Chwaer ! Chwaer ! Ow fy chwaer !
’Rwy’n goddef trwm nychdod o chwithdod am chwaer.
Fy chwaer a garcharwyd, a fwriwyd i fedd,
Ow dwys drymaidd bwys, dan y gwys dỳn ei gwedd;
Ow trist feddwl trwch, am y llwch oer a llaid,
Mae hiraeth o’i herwydd'i’m beunydd heb baid.
Chwaer, Chwaer, ! Ow fy chwaer, &c.
Mae cofio preswylfod fy hynod chwaer hon,
Yn peri rhyw drymder o brudd-der i’m bron;
Ond eto ’run mynyd, i’m hysbryd mae hedd,
Pan gofiwyf y cyfyd i’r bywyd o’r bedd;
Chwaer, Chwaer, Ow! fy chwaer, &c.
Y PRIDD I’R PRIDD.
TÔN — “My Lodging is on the cold ground,”
Y PRIDDYN i’r priddyn a ddisgyn ryw ddydd,
Er ymdrech mawr beunydd, er byw;
Mewn beddrod i bydru, a hyny cyn hir,
Fe’n cleddir, fe’n rhoddir bob rhyw;
Yn ngwaelod y rhych, y gwael fel y gwych,
A’r gŵr mwya’ dewrwych ar dir;
Y cryfaf, rai harddaf, a hwyaf eu hoes,
Ni phery mo’n heinioes yn hir.
Y ddaear mewn daear yn fyddar a fydd,
Yn gorwedd yn llonydd mewn llwch,
Y doeth fel yr annoeth, er cyfoeth, er cêr,
A orwedd tan drymder tỳn drwch;
Y cyfaill, y câr, y gwyllt, fel y gwâr,
Mewn daear ddiglaiar ca’i gloi;
A’r blin trallodedig, o’r sarug oes hon,
A’i haml drafferthion, sy’n ffoi.
Y lludw i’r lludw, er berw mewn byd,
Er drygfyd, er blinfyd oer bla,
Er meddu pob gwynfyd, er hawddfyd, er hedd,
Mewn dyfnfedd hwn gorwedd a ga’;
I’r cryf ac i’r gwan, fe roddir ei ran,
Yr ieuangc mewn oedran yn awr,
A’r hên yn cyd-huno, heb gyffro, tan gudd,
Cyd lechant yn llonydd mewn llawr.
Nid yw ond oferedd a gwagedd i gyd,
Ymboeni mewn hyd am fawr barch,
Ni chawn am ein trwbl yn gwbl i gyd,
O hwn ond ein hŷd yn ein harch;
Hoff adeg i ffoi, gwnawn rasol ymroi,
At Dduw am ein troi ni mewn trefn,
A’r Iesu Oen grasol, hyfrydol heb frâd,
Rydd alwad ddyrchafiad drachefn.
DYHUDDIANT I MR. T. W. HANCOCK
Dolgellau, ar Farwolaeth ei Briod, Mary Spoonley Hanock, Rhagfyr 15fed, 1849.
Ow! torwyd f’anwylyd o’r bywyd i’r bedd,
Hynodwedd ymgeledd mor gu,
Er dysgwyl hir hawddfyd a gwynfyd o’i gwedd,
Du gwmwl i f’annedd a fu;
Mae profiad mwy prudd yn dyfod bob dydd,
Rhyw gystudd ar gystudd a gaf,
A thrallod ar drallod, fel syndod im’ sydd,
Does undyn drwy’r gwledydd mor glaf.
Er trymder ar drymder o brudd-der i’m bron,
Er llesged' y galon gan gur—
Er corwynt yn curo nes suro’r oes hon —
Goreuon ei swynion yn sur—
Er trist alar trwm, a blinder yn blwm,
Na ollwng eich rheswm yn rhydd—
Yn araf myfyriwch, mesurwch ei swm,
Mae terfyn i’w gwlwm tan gudd.
A chwi’r hyn ammododd ymglymodd yn glau,
A chadwodd ei geiriau’n ddigoll,
Ni wnaed yr ammodau ar eiriau i barhau,
Rhoed terfyn yn angau i’r rhai ’n oll;
Gadawodd y byd, a’i gysur i gyd,
A chwithan, ’i hanwylyd, yn ol;
Y Gŵr mwyaf garodd a’i prynodd mewn pryd,
Ehedodd i’r gwynfyd i’w gôl.
Er iddi hir orwedd yn llygredd y llawr,
Malurio bob awr yn y bedd,
Daw’n rhydd o byrth angau yn morau’r dydd mawr
Mor ddysglaer a’r wawr ar Ei wedd;
Myn Iesu’r pryd hyn ei seintiau, mae’n syn,
O feddiant y gelyn i’w gôl,
Ee’u cesglir i’r golau o gloiau du’r glyn
Heb adael un ewin yn ol.
CAN AR WYL DEWI.
Atolwg, hil Brython, os tirion ddystewch,
Byr orchwyl anerchiad ar ganiad a gewch;
Hyfrydol eich gweled gan lloned eich llun,
Mewn agwedd gysurus, yn barchus bob un;
Boed pob cymedroldeb a rhwydd-deb i’n rhan,
Heb neb yn gwallgofi, na meddwi ’n un man,
Na byddo i’n cynnulliad ogwyddiad gair gwan;
Y’mlaen â’n Cymdeithas mewn urddas a nerth,
Cadarnach bob diwrnod i’w ganfod bo’i gwerth,
Boed fyth fel di-fethiant lwys borthiant lâs berth.
Gwyl Dewi, pan gadwom, tra byddom, trwy bwyll,
Cawn gofio’r hen Gymry, dda deulu, ’n ddidwyll
A llawer hen Gymro, ond cofio’r gwyr call,
Anturiant am ryddid eu bywyd heb ball;
Yn wrawl, yn eirwir, i’w bro-dir rhag brad,
A malais gwyr milain, bu rhai’n mewn parhad;
Yn lawddoeth ymladdant am lwyddiant y wlad;
Os carwn ein ceraint, ein braint hyn o bryd
Yw cynnal ein cenin heb ronyn o wrid,
Er cofio’r hen Frython fu’n boethion eu byd.
Oes eirian gysurus i’n Hynys am hir,
A dyddiau dedwyddwch caed heddwch trwy’r tir,
Er brathiad i’r Brython trwy greulon frad groes,
Daeth odfa, daeth adfer o lawer trom loes;
Mwyn heddfawr mae’n hawddfyd a rhyddid i’n rhan
Dim eisieu gormesu na gwasgu mo’r gwan
Ond oesi dewisol dymunol pob man;
Er rhyw anfoddlonrwydd o’r herwydd ryw hyd,
Tawelwch ddaw eilwaith er bariaeth y byd,
A goror deg eirian fo Prydain mewn pryd.
Un golwg a’n gilydd b’om beunydd bawb oll,
Un meddwl, un moddion, bob galon ar goll,
Un lewgu olygiad, un tyniad cytun,
Un berwyl, un bwriad, un boddiad bob un,
Puredig, parodol, yn frawdol, un fryd,
Un onest, yn uniawn, yn gyfiawn i gyd,
Fel doethwych gymdeithion tra bo’m yn y byd
Er dewis peth diod rhag rhyndod i’n crwyn,
Na fyddwn yn feddw, rhag garw drwm gŵyn,
Peth anhawdd yw canfod mewn meddwdod ddyn mwyn!
Yr Eglwys a’r Brenin, dibrin fo da’u braint
Er nodded rhinweddol cysurol i’r saint;
A phurdeb Athrawiaeth, i’n helaeth fwynhau
Y Trindod mewn Undod, er hyglod barhau;
Meddyliwn bob adeg am deg ofni Duw;
I’r Brenin rho’wn fawredd, anrhydedd bob rhyw,
Trwy gariad i’r goron, tra byddom ni byw;
Diffodder Anffyddiaeth a’i heffaith cyn hir,
A bodder Pabyddiaeth a’i gweniaith trwy ’r gwir,
Efengyl fwyn effro fo’n tanio trwy’r tir.
Pob hawddfyd, a llawnfyd, dedwyddyd doed oll,
I berthyn i barthau Dolgellau heb goll;
Pob mwyniant dymunol, digonol deg iaith,
Dyrwyned i ranan Dolgellau, da’r gwaith;
Tra Meirion ffynnonau fel breintiau ymhob bron,
Tra anwyl ddwfr Wnion ein hafon lân hon,
Digoll fo Dolgellau, a’i llwythau’n byw’n llon;
Ein dyddiau diweddir, a llygrir pob llen,
Dyrwynir hir einioes a byroes i ben;
I’n meddiant gwell moddion na Meirion. Amen.
PENNILLION I MR. WILLIAM REES.
[Cyflwynwyd y Pennillion canlynol i Mr. Rees, ar ei ymadawiad y tro cyntaf o Ddolgellau i Liverpool. Efe oedd brawd hynaf y diweddar Mr. R. O. Rees, o’r dref hon. Bu fyw flynyddau lawer yn Nhowyn, Meirionydd, ac yn flaenor parchus iawn gyda’r Methodistiaid yno.]
Fy nghyfaill Wìlliam, ddinam ddyn,
Wrth gychwyn, hedd ac iechyd,
Llwydd i’th ganlyn trwy’th holl oes
Heb unrhyw groes na gofid;
Pob peth fo’n gweithio er dy les,
A’u tynfa’n nes at wynfyd.
Bob boreu Sabbath, cofia ’mrawd,
Y Gŵr fu’n dlawd yn Meth’lem,
A dyfal gynnal yn dy go’
It gynt breswylio Salem;
Gyda hyn y ceidw hwnt
Bob chwildro brwnt ucheldrem.
O gwylia byth, da Gwilym bach,
Gyfeddach gau anfuddiol,
Hyn sy’n llygru llawer llanc —
Rhyw fawr-wanc rhy arferol;
A rhy brofiadol wyf fy hun
O’r taeraidd wŷn naturiol.
Gochel frwnt ac uchel fryd,
Na serchu golud gwaeledd;
Dod dy hyder tra b’ost byw
Ar unig Dduw’r gwirionodd;
Bydd ffyddlon was, cei ras yr Iôr,
A morio môr tangnefedd.
PABELL MORRIS BIBBI.
[Cyfansoddwyd y Pennillion canlynol ar orpheniad Palasdy Morris Bibby, Ysw., ger Llanfyllin, lle yr oedd y Bardd yn gweithio. Yr oedd y Tŷ wedi ei adeiladu â’i wyneb tua chodiad haul.]
Ae fur y tŷ, ar foreu teg,
Mae’r cudeg haul yn codi
Ar awel dydd, yn wawl o dân,
Hwn rydd ei lân oleuni,
Cyfrana wres o’i gynhes gell
Ar Babell Morris Bibbi.
Yn mh’le ceir byth gyfleusdra gwell
Nac sydd wrth Babell Bibbi,
I rodio’n mysg yr adar mân
Bydd allan gân o’r gelli,
Fe geir eu llais o gẁr y llwyn
Yn didlawd fwyn gydoli.
I’n dilyn fyth, â’i delyn fwyn,
O gŵr y llwyn i’n lloni,
Yn ei dŷ o flaen ei dân,
I ateb cân y rheini;
Nid all y Ne’ ddim bod yn mhell
O Babell Morris Bibbi!
Aed o’r fro sy am gario gwg,
A gwyneb drwg yn gwenu;
Y dynion glwth sy dan y glôb
Am gynnal pob drygioni;
Safed rhai’n i gyd ymhell
O Babell Morris Bibbi!}}
SHONCO SERFEL.
Yr oedd Dewi un tro wedi myned i Fowddwy i ymweled â rhai o’i berthynasau. Yr oedd ci bychan o’r enw uchod, oedd mewn ffafr fawr gan y teulu, wedi trengu, a chael ei gladdu y boreu hwnw; ac wrth weled y plant mewn galar mawr ar ei ol, canodd Dewi,—
Bu farw Shonco Serfel,
Ding dong bell, ding dong bell,
Fe’i rho’wd o yn y grafel,
Ding dong bell;
’ Ddaw Shonco byth ond hyny
I hela i Arran Fowddy
Mae Shonco wedi’i gladdu,
Ding dong bell, ding dong bell,
 Jack a Jini ’n nadu,
Ding dong bell.
RHYBUDD I GIGYDDION.
[Yr oedd yn Nolgellau, flynyddau yn ol, gymeriad pur adnabyddus o’r enw Wil Shon Wmffra, yr hwn a fyddai yn arfer cigydda weithiau. Un noson, yn bur feddw, aeth Wil a tharw i’r lladd-dŷ; ond yn hwyrach fyth, aeth cymydog arall a buwch yno, heb yn wybod iddo ef. Yn foreu iawn dranoeth, cyn iddi oleuo, aeth Wil i’r lladd-dŷ cyn gorphen sobri, ac yn ei ffwdan, y mae yn ymddangos iddo ladd y fuwch yn lle y tarw; oblegid, wrth ddechreu ei blingo, efe a waeddodd allan—“Hwchw mawr, dyma darw! Mae gan hwn bedair teth!” Aeth yr ystori i. glustiau Ieuan Awst a Llywelyn Idris, ac nid oedd heddwch i Dewi na chyfansoddai efe Gerdd ar yr amgylchiad. Wedi cryn berswadio, efe a gyfansoddodd y Gân ganlynol. Ond bu yn edifar ganddo ganwaith ufuddhau, oblegid cafodd chwiorydd Wil allan mai efe oedd yr awdwr, a bu yn rhaid iddo am fisoedd lawer osgoi y ffordd rhag ofn eu tafodau, y rhai oeddynt yn llithrig anghyfiredin; ac nid yw yn ymddangos iddo “dreio ei law” yn y cyfeiriad hwnw byth wed’yn.]
Gwrandawed Cigyddion clodforus gwlad Feirion,
Fy meddwl sy ’n gyson am geisio
D’weyd hanes rhyw gigydd, ar ddechreu blwydd newydd,
Rhyw orchwyl ar gynddydd oedd ganddo;
Hwn, pan ddihunodd, yn gadarn gododd,
Ac yn foreu y cyferiodd
I dynu’n buraidd, dyna ’i berwyl,
Amcanu i gyrchu at y gorchwyl,
Sef lladd rhyw eidion gwryw,
Beryglus, dylys darw,
A hynod roddi hwnw
I farw yn y fan.
Rhyw ddyn ddywedai wrtho mai gwell fyddai ’i rwymo
Rhag ofn iddo neidio ’n ofnadwy,
A lladd rhai o’r dynion â chroeslid echryslon,
Un gerwin yw’r eidion rhuadwy;
Yr ateb ga'dd — “Gollynga’i waed
Heb fawr ymdroi i rwymo ’i draed;
Pray don't be a fool, let’s have my tool,
I’ll make him bleed like a running pool;
Taw ’r dwl a siarad gwirion
Am rwymo traed yr eidion,
Gollyngaf waed ei galon
Yn union trwy fy nerth.”
A chyda chyffro i hwylio ’n hwylus,
I godi ei gyllell gydag ewyllys,
Ac at ei wddw chwareuai'n chwerw
Trwy'r holl wythenau torrai 'r tarw,
Nes oedd ei waed yn ffrydio,
Fel afon yn dylifo ,
Nid oedd y Bull gan Billo
I'w wawdio 'n fawr o werth ;
Ar ol ei gorphio, dechreuodd ei deimlo,
Cyn dechreu ei flingo'n fileinig,
A gwelai arwyddion hynodol mewn eidion,
Fe roddodd arwyddion oer addig,
A dywedai heb feth, "Fu erioed y fath beth,
Mao gan y tarw bedair teth!
Pa beth yw hyn, o fater tyn,
'R wy 'n awr yn siwr mewn cyflwr syn;
Mae dychryn ynwy'n dechreu,
Rhag ofn im' chwerw chwareu
Mewn ing, a bod yn angau
I beth nas dyl'sai dyn."
Wrth ddechreu d'allt fe dynai 'i wallt
Uwch ben hyn, fater hallt,
"Nawr mi roddais yn orweddiog,
Och! gam odiaeth, fuwch cymydog;
Rhy annhrugarog gyrais,
Rhy filain y rhyfelais,
Hyll oe ddwn pan y Ieddais,
Trywenais, trwy fawr wŷn."
Cymerwch, Gigyddion, rai boddus, rybuddion,
Rhag bod yn echryslon a chraslyd ;
Rhag ofn wrth ruthro 'n ddiballiant, heb bwyllo,
Gwneyd achos i'ch bwyo hyd eich bywyd;
A chwi. drigolion mawrwych Meirion,
Gochelwch, gwaeddwch rhag Cigyddion,
Y rhai sy 'n rhwygo, lladd, a blingo,
Maent, yn sydyn i'w harswydo;
O herwydd cyllill hirion
Sydd wrth eu dwylaw dylion,
Mewn t'w'llwch, pan f'ont hyllion,
Echryslon ynt a chroes ;
Rhoddw ryybydd goleu i'n gilydd
Rhag ymgegu mwy â'r Cigydd;
Os unwaith syrthio i'w ddilys ddwylo
Ffarwel am danom ond myn'd yno;
Ni wiw mor gwingo âg angau
Pan elom i'w grafangau —
'Run modd a'r fuwch yn ddiau,
Cawn ninnau derfyn oes.
PENNILLION DIRWESTOL
HEN elyn Prydain cyn bo hir
A gludir tan ei glwy';
Bydd concwest fawr yn awr i ni,
Fe dderfydd meddwi mwy.
I'n gwlad yn bwn bu hwn yn hir,
Yn toi ein tir mewn twyll;
Dwg Dirwest gannoedd yn ei gôl,
A 'u penau'n ol i'w pwyll.
Ymunwn oll am hyny'n awr
Yn dyrfa fawr o'i du;
Yn Wraidd oll, pwy'n awr a ddaw
Yn llaw-yn-llaw â'r llu.
—————————————
Arglwydd cynnal, dal dy deulu
Oll i fyny er dy fawl
Rhag camdreulder cymedroldeb
Rhwym eu hundeb yn dy hawl:
Dal a dilyn rhag hudoliaeth
Swn y bariaeth sy 'n y byd,
Wrthi 'n bur rho nerth i bara
Yn y tònau garwa'i gyd.
————
Dowch wŷr a gwragedd gyda'ch plant,
Mae llwyddiant mwy gerllaw,
Anneddau Dirwest, tawel hwy,
Heb ryfel mwy na braw.
Gwyr ieuainc a gwyryfon llon
Un galon dewch i gyd
Er ymlid medd'dod, gormod gwarth,
O bob rhyw barth o'r byd.
Pob cryf a gwan, pob oedran byw,
Yn enw Duw oll dowch;
O ffyrdd y meddwon, geirwon, gau,
A'u ffaidd lwybrau ffowch.
————
Y gareg lefn o'r gôd
I dalcen' medd'dod mawr,
Trwy nerth ein Duw, er maint ein pla,
Daw pen Goliah i lawr.
PENNILL SAESONEG BYRFYFYR.
[Yr oedd Dewi yn bresenol mewn gwledd yn Borth- ewynog, ger Dolgellau, tua'r flwyddyn 1836 Yr oedd rhai o'r gwyddfodolion yn Saeson, ac nid oedd heddwch iddo os na chyfansoddai bennill Saesoneg; ac adroddodd yntau yr un canlynol.]
WHILE the sun enlights the sky,
While the streams are passing by,
While Cader Idris' in the North,
Full in glee may be the Borth.
ENGLYNION
————
Cyflëwyd yr Englynion canlynol, hyd y gellid, yn ol eu hamseriad.
MEURIG EBRILL
MEURIG, nodedig yw y dyn, — eurfardd,
Ond arfoel ei goryn;
Collodd ei wallt, hallt oedd hyn,
Yn gynnar fel bachgenyn. . . . . .1819.
BEDD EI DAID
[Cyfansoddwyd yr Englyn canlynol yn Mynwent Llanymawddwy, yn y flwyddyn 1820, wrth edrych ar fedd Thomas Rolant, ei daid.]
Ai tad fy nhad o fewn hedd, — a oeddit,
Sydd heddyw yn llygredd?
Os fy nhaid rhaid anrhydedd —
Wyr ydwyf fi ar dy fedd.
———
GWYBODAETH.
GWYBODAETH fu'n gaeth ei gwedd, — arni
Bu hirnos yn gorwedd;
Ond chwai cyfodai o fedd,
A rhodiai i anrhydedd.
Gwawl anwyl hen Ragluniaeth — o gariad
Egorodd gwybodaeth;
Mae yma megys mamaeth
A'i dwyfron yn llawnion llaeth.
Rhwng gwawl a gwyll hyll ar wahan — rywfodd
A'n rhyfel gwyllt weithian;
Gware teg! 'e gur y tan
Dywyllwch o'i dŷ allan.
Ffyniant ddeuai'n hoff ini — o weled,
Ein gwlad yn ymgodi;
Erlyniodd clir oleuni
Döawl nos o'n hardal ni.
Hen gallwyr tref Dolgellau, — gwiw araul,
Agorodd eich blodau ;
Hoff areithwyr, eich ffrwythau
Trwy Frydain yn gain fo'n gwau.
Daeth maeth a lluniaeth gwyr llen, — i'r frodir
Hyfrydol yn llawen ;
Blodeued o blaid awen
Bob hylithdra gyda gwên. . . . 1822
————
Y CYHOEDDIADAU CYLCHYNAWL CYMREIG.
Y CYHOEDDIÅDAÜ clau fo glir, — i gludo
I'n gwledydd yn gywir;
Dyna'u gwaith yn dwyn y gwir
I Frydain hardd-deg frodir. . . . . 1822.
MARWOLAETH IOAN RHAGFYR.
Yr oedd y diweddar John Williams (Ioan Rhagfyr), Talywain, Dolgellau, yn Gerddor tra medrus. Ceir rhai o'i Dônau yn mhob casgliad o Dônau Cymreig o'r bron. Ganwyd ef yn yr Hafodty Fach, plwyf Llangelynin, Rhagfyr 26, 1740. Priododd â Miss Jane Jones, merch Mr. William Jones, Brynrhyg, Dolgellau, pan oedd yn 23ain oed. Bu farw yn Penbryn-marian, Dolgellau, Mawrth 11eg, 1821, yn 81 mlwydd oed.
AI gwir a glywir drwy'n gwlad — gwympo
Hen gampwr Gwyneddwlad?
Os gwir fod ei ysgariad —
E gaiff hyn yn hir goffâd
Sion William, ddinam ddoniau, — a gludwyd
I gleidir yn ddiau;
Er iddo'n wir hir barhau
E drengodd ar dir angau.
Hwn oedd enwog
Un o ddoniau,
Gyda'r gorau
Gaed o'r gwerin;
Ei beroriaeth,
A'i bur eiriau,
Ddwyfawl leisiau
Oedd felyswin.
Dyn ydoedd a dawn odiaeth,
Perorydd a phrydydd ffraeth :
Ni bu i'r ddaear hawddgar hon
Ei lewach am alawon .
E gywir eiliodd ef wir garolau,
A phlethodd yn fedrus weddus gywyddau,
A gweuodd yn gymhwys hyawdlwys odlau,
Hoywaf was arain, a gwnai fesurau
O wir gu nodawl ar ei ganiadau;
Dawnus ydyw ei dônau — pereiddiawl,
Yn bur gynhwynawl wiwber ganonau.
Pa wedd bu diwedd y doeth,
Wr enwog, fel yr annoeth:
Angau yn hyf, â'i gleddyf glas,
Annelodd yr anwylwas ;
Mae mewn arch, dan dywarchen,
Yn gorphwys a'i bwys ar ben.
Yr hoff was, n'ol hir orphwyso — ddolef
Pan ddel i'w ddihuno;
Diogel nerth Duw lago
A 'i cyfyd o gryd y gro.
Yn fy medd mi orweddaf,—diystyr,
A dystaw y llechaf;
O ddulawr, y dydd Olaf,
I fyd yn ol cyfodi wnaf.
ARWYRAIN
I Syr ROBERT WILLIAMES VAUGHAN, Barwnig, A.S., Nannau, am ei haelioni yn treulio ei gyfoeth rhwng gweithwyr tylodion ei wlad ei hun, ac nid rhwng estroniaid.
LLYW Meirion oll, a'i mawredd,—ond ystyr,
Mae'n destyn cynghanedd;
Y gwr mawr ei drugaredd
O Nannau gain, enwog wedd.
Mur enwog iawn yn Meirionydd,—ydyw
Ei hodiaeth ben Llywydd;
Tra rhodio'n llon ei bronydd,
Serchog iawn Farchog a fydd.
Tra gwych a mawrwych yw Mon—da odiaeth
Odidog yw Arfon ;
Mae mawredd mwy yn Meirion
O herwydd ei Llywydd llon.
Cyrau, mawr barthau o'r byd—neu arian,
A yrodd rhai 'n ynfyd;
Bawaidd y'nt hyd eu bywyd—
Ffoledd a gwagedd i gyd.
Cyrchant, arlwyant fawr wledd—i'w gilydd,
A galwant y bonedd;
Gerwin, ni wnant, drugaredd
A'r tylodion, waelion wedd.
Dyma ŵr diammau, yw,—da alwad,
Nis dilyn y cyfryw;
Di odid, mwy da ydyw
Na mil o'r rhai'n aml eu rhyw.
Mwyn ŵr hynod, mae 'n rhanu—ei arian
Oll i oror Cymru
Ei frodir, heb afradu
Ei ran i wlad estron lu.
Dyledus ar dylodion,—ein gwledydd
Roi glân glod i'r Gwron,
Am ei faeth helaeth hoywlon,
O fri hael yn y fro hon.
Rhif y gwlith o fendithion—dda elw
I' w ddilyn yn ffyddlon;
A golud pena'i galon,
Cywir ras, fo caru'r Ion.
Chwefror 12, 1822
BODDLONRWYDD.
E fyddai bod yn foddawl,—well imi
Na'r holl emmau bydawl;
O! byddai yn fwy buddiawl,
Na'r gron ddaear hon i'm hawl.
Gwell pryd mwyn hyfryd mewn hedd — ddilys air
O ddail surion gwaeledd,
Na bras ŷch f'ae'n wych ei wedd,
Hyll i ni diglloneddo
Gwell diwrnod dan 'rhod yn rhwydd, — iach adeg,
A chyda Boddlonrwydd,
Nag einioes hir, gwan y swydd,
Dan ystryw dionestrwydd.
Awydd sydd beunydd drwy'r byd, — a'i goreu
Am gyrhaedd helaethfyd;
Ond gwell na'r holl gell i gyd,
Lawen fyw mewn Boddlonfyd.
E roes Naf o'i ras nefawl — da ini,
Bob dawn angenrheidiawl;
I'w ran ei hunan, a'i hawl,
Na fydded neb anfoddawl.
Boddlonrwydd i'n ŵoydd i gyd, — da yrfa,
Hyd derfyn ein bywyd;
Ond cael hyn, dyma'r gwynfyd,
Gorau o holl bethau'r byd.
Mawrth, 1829
————
ECHRYSLONRWYDD DINAS AR DAN.
————
Testyn Cymreigyddion Dolgellau, Medi, 1823.
————
Mawr iâs, gwel'd dinas ar daniaw — parod
Pery im' arswydaw;
Dychrynllyd, i'm bryd mae braw,
Treiddiodd fy meddwl trwyddawa
Mor rochus y bydd mawr wreichion, — pan fo
Yn tanio 'n bent'wynion ;
Nerth y goelcerth anferth hon
Ergydia hyd Gaergw'dion.
Tai mawrion eto ymwriant, — hyll yw
I'r llawr y dymchwelant ;
Muriau ogylch ymrwygant,
Yn garnedd ryfedd yr änt
Twrw hynod fel swn taranu, — a mellt,
Yn ymwylltiawg ffaglu ,
Du erchyll Hamau'n dyrchu;
Rhyfeddwn y dwthwn du.
Gwael lefain trist ac wylofus — uchel
Drwm ochain arswydus;
Gwŷr cryfion, dynion dawnus,
Llesg yn awr yn llosgi'n us,
Ystyriwn am wragedd tosturiol—da,
O ! deuant ddiangol.—
A'u plant cu yn nad'n ol
O tan iasau tân ysol
Y GWELLAIF.
Hyll edrych ar y lladrad—wna'r gwellaif
Wr gwallus, yn wastad ;
E fyn hwn, er ei fwynhad,
A'i ddeufin glog y ddafad.
Y Gwellaif a gnaif i ni gnu,—cawn hwn
Cyn hir i'n cynnesu;
Y gwyn wlan a'n llona'n llu,
Du a llwyd, i'n dilladu.
Er y Gwellaif a gnaif gnu—go wlanog,
Ein gliniau sy'n rhynu
Nes cael siswrn, a dwrn du,
Deio Llwyd i'n dilladu.
Dolen o ddur deil yn dda,—y ddan lafn
Yn ddi lwfr a gneifia;
Llafnau dur yn llyfn dora,
A gnaif âg ef cnu fe ga.
Er chwiliwr glew a'r chwalwr gwlan—dewr allu,
Holl droellau Dolobran,
Y Gwellaif hoyw, gloyw, glân,
Cofiwch raid borthi 'r cyfan.
Heb y Gwellaif saif mewn sen,—am ennyd,
Lawer meinir geinwen,
Gan dd'wedyd, - Mae'r byd ar ben
Eleni am bais wlanen!
LLYWELYN GRUFFYDD.
Cyfansoddwyd yr Englyn Byr-fyfyr canlynol wrth edrych ar Llywelyn yn hollti Ais gerllaw y Llwyn, Dolgellau, yn 1825.
Main ei goes, ddim mwy nag eisen,—a llaw
Llywelyn sy'n globen ;
Ei droed fel darn o goeden,
Yn gono byr, gwyn ei ben.
————
Y PARCH. ELLIS OSBORNE WILLIAMS, M.A., VRONWNION, DOLGELLAU.
Bedyddiwyd y parchedig uchod yn Eglwys Dolgellau, Mawrth 27ain, 1826, a'r noson hono y cyfansoddwyd yr Englyn canlynol gan Dewi,
Tyfed y glân Etifedd—anwyl
Yn enwog mewn mawredd;
A chaed glir fyw'n hir mewn hedd —
A gemau o Ddolygamedd!
————
AR FEDDFAEN YN MYNWENT LLANERFYL
Cryf a gwan, pob oedran, pydrant, — pob enaid,
Pawb yna ddisgynant;
Pob lliw, llun, pob un, pawb ânt,
Pob graddau, pawb gorweddant.
————
AR FEDD YN MYNWENT LLANFACHRETH
'R Arglwydd Iôr y Pôr puraf, — a alwodd
Am Elinor gyntaf;
I ail nerth, fe eilw Naf
Ar Elin yr awr Olaf,
YMGYRCH GYNTAF WILLIAM EWART GLADSTONE.
Yr oedd Dewi yn Llynlleifiad tua'r flwyddyn 1831, pan yr ymddangosodd yr Anrhydeddus W. E. Gladstone yn ymgeisydd Seneddol am y waith gyntaf. Ar y ffordd o ganol y terfysg etholiadal, efe a gyfansoddodd yr Englyn canlynol, yr hwn a adroddodd wedi cyrhaedd tŷ Thomas Gwynedd, -
Will Ewart, am gwart, yw y gŵr — heddyw
Fydd fuddugoliaethwr;
Caria, a bydd goncwerwr —
Iach y daw a'i ben uwch dw'r,
Ac atebodd Thomas Gwynedd yn uniongyrchol, —
Mynych 'rwy'n chwenych cael chwart — o gwrw,
Rhagorol, neu ddeuchwart;
Yn dra chwyrn, mynwn dri chwart,
Mewn awydd, er mwyn Ewart.
ANERCHIAD I'R "GWLADGARWR"
ATHRAW anwyl llyth'renawg, — a hyddysg
Gyhoeddwr godidawg,
Mêl i fy min, gwin o gawg
GEIRIONYDD, y gwr enwawg.
Y tlawd a fydd ddysgawdwr, — o edrych
Ar odrau'r Gwladgarwr;
Gwythi gwin yw gwaith y gŵr
Yn lloni ei ddarllenwr.
E luniwyd ei ddalenau — hirddysg
A heirddion lyth'renau;
A llawn oll yw'r llinellau
O wir i gyd, heb air gau.
Câr i'w wlad bob cywir lwydd — ar eurwych
Ororau gonestrwydd;
Ni theifl ryw weniaith (aflwydd
O bethau gwael) byth i'w gŵydd. . . . 1834,
————
YMADAWIAD DON GLAN TOWI
(JOHN WILLIAMS) O DDOLGELLAU.
O! GYFAILL, fe bâr dy gofio — yn fynych
I f'enaid och'neidio;
Hedlif o'm dagrau'n hidlo
Yn wlaw oer trist lawer tro.
————
DEILDY MR. LEWIS JONES.
Yr hwn oedd Grwynwr gynt yn Nolgellau. Yr oedd efe yn daid i'r diweddar Mr. Griffth Jones, Stag Inn, ac yn hen-daid i'r Parch. Lewis Jones, diweddar Gurad yn Nolgellau, wedi hyny Is-Canon yn Mangor, ac yn awr Ficer Cadoxton, Glynnedd.
CABANDY, crwndy, cywrein-dwll — tes-dŷ
Rhag toster hin boeth-fwll ;
Nawdd-dy, ac awenydd-dwll,
Oer iawn fydd hwn ar hin fwll.
————
HAF-DY LLYWELYN IDRIS.
Pan oedd y bardd uchod un un tro yn adeiladu Haf-dy yn ei ardd, ac yn ymfalchio ynddo gan addaw y byddai yn —
"Llwyn glwysddull yn llawn glasddail,
Gwedi ei doi gyda dail,"
Atebai Dewi -
Os dail i'th adail sy dô — gwylia
Fe'i gwelir yn gwywo ;
Daw gauaf llwm, trwm y tro,
Enaid ni erys yno.
Edrych, Llywelyn Idris, — edrych
Ar Hydref oer lwmfis ;
Magwyr o ddail fydd megis
Daear foel y du oer fis.
————
I OFYN AM FFON
Gan Syr Robert Williames Vaughan, Nannau, dros Evan Williams, Hen Geidwad y Ceirw yn Mharc Nannau.
BUM ieuanc, ddidranc, ar ddeudroed — curais
Eich ceirw pedwartroed;
Tramawr ddiffygiol trymoed —
Tra dydd trwm, rhaid trydydd troed.
————
BEDDARGRAFF.
YSTYR, ddyn, was dewr ddoniau — o'r byd
I'r bedd yr ei dithau;
Dydd a nos sydd yn nesâu
Y dirwyn i fyny d'oriau.
Eto, ar Fedd JANE, gwraig Mr. Rees Parry, Crwynwr,
Dolgellau, yr hon a fu farw Mehefin 17eg, 1834, yn 24
mlwydd oed, a MARGARET eu merch, yr hon a fu farw
Gorphenaf 23, 1834, yn 5 mlwydd oed.
YN y gweryd hwn gorwedd — yma mae
Mam a'i merch yr un-wedd ;
Awn ninnau i'r un annedd —
Pawb a syrth i byrth y bedd!
Eto. ar Fedd MARY, gwraig Mr. Morris Roberts Lledrwr, Dolgellau, yr hon a fu farw Medi 30ain, 1834, yn 18 mlwydd oed.
MARI yma a orwedd — îs dulawr
Nes delo'r rhyfedd
Y gelwir uwch ei gwael-wedd
Gair a bair aogor ei bedd.
————
LLWNC-DESTYNAU.
Englynion a adroddwyd yn Ngwleddoedd y Gymdeithas Gyfeillgar Gynnorthwyol o 1832 i 1834.
" YR EGLWYS A'R BRENIN."
I'R Eglwys gywir hyglod — ei breiniau
A'n Brenin uchel-glod,
Hedd i fyw, a llwydd i fod,
A'u buchedd yn ddibechod.
"Y BRENIN."
Nodder ein Brenin addas — yn wrawl
Flaenorydd y Deyrnas;
Llyw iawn, harddwych, llawn urddas,
Llew yn ei rym, llawn o ras.
"DAU DY Y SENEDD."
Dewr benau boed i'r bonedd — y Ddau Dŷ,
Yn ddidwyll eu hagwedd;
Iawn farn, yn gadarn eu gwedd,
A synwyr lanwo'r Senedd.
"MILWYR A MORWYR PRYDAIN".
Milwyr a morwyr fo mawrwych — gywirddysg,
Osgorddion gwrolwych
Lloegr a'i nawdd rhag llwgr a'i nych
Yn gu deyrnas gadarnwych.
"MILWYR PRYDAIN."
Parodawl fo milwyr Prydain, — ac arfog,
Os gorfydd byd milain;
Ond rhyfel aed i Rhufain -
Cledd Lloegr caed, yn lle gwaed, gwain.
"YR HEDDYNADON."
Hynodawl heddynadon — yn gudeg,
Fo'n gedyrn enwogion,
Er cadw'n wastad y wlad hon
Yn dda achles heddychlon.
"MASNACH PRYDAIN."
Yn wych a glew masnach ein gwlad — bid a fo,
Boed fywiol ei threigliad;
Rhwydd, rhwydd, er llwydd a gwellhad,
A'i nwyddau mewn gweinyddiad.
Am wlan doed arian yn dyrau, — gwyrthiawl
Bo gwerthiad pob nwyddau,
Ychain, a phob masnachau,
A ni mewn hedd yn eu mwynhau.
"Y TANYSGRIFWYR."
Einioes gref i'n Tanysgrifwyr — hyglod,
Sy'n eglur wladgarwyr;
Mae'n barch in' gyfarch y gwŷr
Yn addas fel boneddwyr.
————
PRIODAS
ROBERT WILLIAMES VAUGHAN, Ysw., Hengwrt, a MISS LLOYD, RHAGGATT, Gorphenaf 8, 1835.
GWENA merwina Meirionydd, — ystyr,
Cei destyn can newydd;
Hwylia fir, a hola fydd
Dy fydrwyr yn dafodrydd.
Y Beirddion, y Tabyrddau, — ac eraill,
Cyweirwyr y tannau,
Cerddorion glowion yn glau —
Pawb allan a'u pibellau.
Pa reidiol on'd priodwyd — gwir achau
Goruchel gymharwyd —
Aer Nannau eirian unwyd
Law yn llaw â Frances Llwyd!
Vychan yn fwynlan ei foes — Ab Vychan
Pa fuchedd mor ddigroes;
Uno y'nghwlwm einioes
Darfu'n awr hyd derfyn oes.
Yn degwch i'n cym'dogaeth, — a'i gwylio,
'N ol galwad Rhagluniaeth;
Dyma ddau yn ddiau ddaeth
O deilwng hen waedoliaeth.
Bendithion rhwyddion y rhod — yn ddilys,
A ddel i'w cyfarfod
O'r nef wen, uwch ben sy'n bod,
A'r iesin ddaear isod.
————
ENGLYNION LLWNC-DESTYNAWL.
Adroddwyd yr Englynion canlynol yn y gwleddoedd a gynnaliwyd yn Nolgellau a'r gymydogaeth ddiwrnod priodas R. W. Vaughan, Ysw.
"YR EGLWYS A'R BRENIN."
Y lwys wir Eglwys oreuglod, — iawn addas
Weinyddiad y cymmod;
Iesu a'i dalio isod
Yn iachol fyw hyd uchel fod.
Dwyred i William Bedwerydd, — fwyniant
O fewn ei fagwyrydd;
Ar Loegyr gwiw Olygydd —
Teyrnasu bo tra'n oesi bydd.
"Y FRENHINES A'R BRENHINOL DEULU"
Adelaide fo dyladawl, — ein henwog
Frenhines goronawl,
A phawb o'r llin brenhinawl —
Bywyd o hedd bid i'w hawl.
"SYR ROBERT A LADY VAUGHAN"
Iechyd drwy barch i Farchawg — Swydd Feirion,
Sydd fawr ac ardderchawg;
Yn Nannau, 'n ol byw'n enwawg,
Mil o'r hil a'i molo rhawg.
Mawrwych Arglwyddes Meirion, — uchel
Rhown iechyd yr awrhon;
Rhaglunier rhag gelynion
Le da fyth i Lady Vaughan.
"COLONEL VAUGHAN, RHUG."
Yn wrol bo Blaenorydd — eurfawr
Llu arfog Meirionydd;
Gorhoffawl barch i Gruffydd
Hywel Vaughan, tra dalio'n dydd.
"EDWARD LLOYD, Ysw., RHAGGATT."
O'r Rhagatt wladwr hoewgu, — haeddiannol
Heddynad cywirgu,
Boed wastad mewn cariad cu,
Hyd elor, ef a'i deulu.
"Y PAR IEUAINC."
Iechyd i Williams Vychan — wir Yswain,
Er oesi'n serchoglan;
A'i gymhares liwdes lân
Rhosynau eres anian.
Gwir clegwch caredigawl,—a dalier
Hwy 'n deulu rhinweddawl;
Golud a hedd gwlad i'w hawl
A'u dygiad fo gym'dogawl.
PRIODAS
John Jones Williams, Ysw., Cyfreithiwr, a Miss Roberts, Brynffynnon, y ddau o Ddolgellau, Gorphenaf 13, 1835.
HEDDYW, yn ol eu haeddiant, — da mwynwych,
Dymunwn bob llwyddiant;
Dau gall o blith Dolgellau blant
Dewisawl a briodasant.
Siôn William, dinam bob dydd — ŵr hybarch,
A Siân Rhobert gelfydd;
Hvnaws bo'nt tra'u heinioes bydd —
Duw, gwared eu magwyrydd!
————
BEDD EI FAM
Englyn a wnaeth tra yn sefyll wrth Fedd ei Fam yn Mynwent Llanfachreth, tua'r flwyddyn 1836.
Is daear er dystewi — o'th eiriau
Wryth eraill o'r Cwmni,
Deio dy fab di ydwyf fi —
Ai tybed na'm hatebi?
————
MEURIG EBRILL A HARRI'R TEILIWR.
Yr oedd Harri yn adnabyddus iawn yn Nolgellau hanner can mlynedd yn ol. Byddai yn dra hoff o ambell i "derm," fel ei gelwid, yn awr ac eilwaith. Ond yn nechreuad Dirwest, fe ymunodd yntau â'r gymdeithas am dymhor; ond aeth ei hen brofedigaeth yn rhy gref iddo drachefn, a phan dorodd ei ymrwymiad, cyfansoddodd Meurig Ebrill yr Englyn canlynol iddo, —
HARRI'R TEILIWR, hurt olwg, — a bechodd
Heb achos, mae'n amlwg;
Ni welodd yn ei alwg*
Fawr gysur wrth drechu'r drwg.
*fynwes
Atebwyd ef gan Dewi fel y canlyn, —
Meurig, paham ymyri — am ddugas
Ymddygiad mor ddifri'?
Cael mwynder yn d'arfer di,
Annoeth ŵr, a wnaeth Harri.
Crefyddwr, tra ceir e'i feddwi — i eraill
Mae'n arogl o ddrewi;
Y brawd dwl, pe sobrit, ti,
Hwyrach y sobrai Harri.
————
DIRWEST.
Ar ddiwedd araeth danbaid yn nghanol gwres y cynhwrf dirwestol, adroddodd Dewi y ddau Englyn canlynol.
YN hyll o ferw llafuriais — yn feddw,
Ond rhyw fodd ymgodais;
Rhag medd'dod, drewdod, a'i drais,
O'i ddu ing mi ddiengais.
A dirwest, frenin dewredd — doeth, hybarch,
Daeth heibio im' hannedd;
Ymunais â'r gŵr mwynwedd —
Hwn im' mwy o hyn i'm medd!
————
Y DDAU SAER, A'R DDWY SARAH
Pan oedd Dewi Wnion yn ymgyfeillachu Sarah (ei wraig wedi hyny), yr oedd y diweddar Mr. William Jones, Maescaled, yn ymgyfeillachu gyda'i Sarah yntau; a mynych y byddai y ddau yn cydgyfarfod wrth rodiana yn min yr hwyr; ac ebe Dewi, un noson, —
RHAI dynion sy'n rhodian — min yr hwyr
Myn y rhai'n chwedleua;
Y ddau Saer, a'r ddwy Sarah -
Dwy Sarah deg, a dau Saer da.
————
BEDDARGRAFF
Y diweddar Mr. John Evans, Asiedydd (Joiner), Dolgellau, yr hwn a fu farw Rhagfyr 30, 1837, yn 32 mlwydd oed.
Dirwestwr oedd, mae'n'n dristwch — ei osod
Mewn isel dawelwch;
Er am dro falurio'i lwch,
E ddaw eilwaith o ddulwch.
————
"YR HEN DY DU."
Fel yr awgrymwyd eisioes, yr oedd Dewi yn Fethodist zelog iawn, ac yr oedd Mrs. Thomas, yr adeg y priodasant, yn Annibynwraig yr un mor zelog. Er mwyn dal y ddysgl yn wastad," y cytundeb y deuwyd iddo oedd eu bod i fyned gyda'u gilydd i gapel yr Annibynwyr a chapel y Methodistiaid bob yn ail Sul; ac fe barhaodd y cytundeb mewn grym am yspaid. Ond un Sabbbath, yr oedd y Parch. L. Edwards O'r Bala (Dr. Edwards yn awr) yn pregethu yn Salem, Capel y Methodistiaid, a'r hen gymeriad hynod, Richard Jones, Llwyngwril ("Dic TY Du," fel y gelwid ef fynychaf yn mysg ei gydnabod), yn pregethu yn Nghapel yr Annibynwyr. Yr oedd Dewi mewn penbleth enbyd, rhwng ei awydd i wrandaw Mr. Edwards, a'i awydd i osgoi cynnyg tori y cytundeb. Wrth fyned adref i Ddoluwcheogryd o'r Ysgol foreu y Sabboth, fe gyfansoddodd Dewi yr englyn canlynol, a mawr oedd y digrifwch a gafwyd gydag ef y prydnawn hwnw; ond y canlyniad ydoedd i Mrs. Thomas ei dynu o'i gyfyngder, a myned gydag ef i '"Salem." Y mae hyn o eglurhad yn ofynol, er gweled grym yr Englyn, ac mai nid o ddiystyrwch ar yr hen bregethwr dyddan y cyfansoddwyd ef; ac yn wir ni chwarddodd neb yn fwy nag ef pan yr adroddwyd yr englyn iddo, ac ysgydwai ei ben, gan, ddyweyd, "O y 'ddhen ddôg, mi dala' i iddo fo ddyw ddiwddnod!"
Sarah wen, gain, fy seren gu, — yn Salem
Mae sylwedd pregethu;
Na foed i ti ynfydu
Wrando dawn yr " Hen Dŷ Du."
————
BEDDARGRAFF JOHN PUGH, YSW.,
(IEUAN AWST), yr hwn oedd yn Fardd, Llenor, Chyfreithiwr medrus. Bu yn Ysgrifenydd Cyfreithiol Ynadon Dolgellau am dros 30ain o flynyddoedd. Bu farw Chwefror 16eg, 1839, yn 51 mlwydd oed.
Ow! Ieuan Awst, ai 'r un wedd — a'r annoeth
Mae'r enwog, mewn llygredd?
Wele'n awr gawr yn gorwedd,
Mawr ei bwyll, rhwng muriau bedd!
Ffrwd ydoedd o amgyffrediau — cryf,
Wr craff ei feddyliau ;
Er corphyn o briddyn brau,
Môr o ddyn, mawr ei ddoniau!
————
AR FEDD MR. HUGH PUGH, Y TELYNOR.
Mab ieuangaf y diweddar Mr Richard Pugh, Arweinydd i Ben Cadair Idris, oedd y gwr ieuanc uchod. Yr oedd yn Chwareuwr medrus ar y Delyn Gymreig. Bu farw yn Llundain yn 28ain oed, a chladdwyd ef yn Mynwent Bunhill Fields. Cyfodwyd Cofadail ar ei Fedd gan Foneddigion o Gymru, ac y mae yr Englyn canlynol o waith Dewi, yn mhlith eraill: yn gerfiedig arni.
Talent fel teimlydd telyn, — i'w gofo
A gafodd yn blentyn;
Mae'r bysedd hoywedd, er hyn,
Ffraeth ranau, heb ffrwyth ronyn.
————
AR FEDD MR HUMPHREY WILLIAMS.
Mab hynaf y diweddar J. Jones Williams, Ysw. ,Cyfreithiwr,
Dolgellau, oedd efe. Bu farw tra yn Efrydydd Meddygol
yn Llundain, a chladdwyd ef yn Mynwent Bunhill Fields,
Torwyd yr impyn tirion,
I lawer mae'n brudd-der bron;
Y mae arwydd yn Meirion,
Gwall y tir yw'r golled hon;
O! fedd, mae'n drwm i ni fod
Ein Williams yn dy waelod.
————
COFGOLOFN DAFYDD IONAWR.
Adeiladwyd y gofgolofn uchod ar Fedd yr hen "Fardd
Cristionogol" ar draul y diweddar Barch. John Jones,
Borthwnog. Cynnygiodd y diweddar Mr. R. O. Rees
wobr am yr Englyn goreu i'w gerfio arni. Daeth nifer
anferth o Englynion i law y beirniad, yr hwn a ddewisodd
chwech o honynt fel y goreuon, gan eu rhestru yn gyfartal.
Yr oedd yr Englyn isod o waith Dewi yn un o'r chwech.
O dan hon mae dyn hynod! — pa orchest
Y w parchu ei feddrod!
O achos yr enw uchod
E fyn barch er a fo'n bod!
————
CLADDEDIGAETH MEURIG EBRILL.
Wrth edrych ar gladdu Meurig Ebrill yn Mynwent Llanfachreth, cyfansoddodd Dewi Wnion ddau Englyn. Y mae y cyntaf ar goll, ond yr ail sydd fel y canlyn, —
Ei adael yn glöedig — a wnawn ni
Dan ywen gauadfrig;
Onid trwm mai yna y trig
Rhan farwol yr "Hen Feurig!"
————
DAU ENGLYN
A wnaed wrth gychwyn o'r Bala, ar noson dywell, ddryghinog, ar gefn march glas o'r enw Selim.
HAI'r glas bach, bellach i bant — â nyni,
Mae 'n anhawdd cael seibiant;
'Rwy' 'n siwr nad oes gŵr o gant
Eleni a'n canlynant.
Selim, ni cheir bisweilio, — na chwareu,
Mae'n chwerwedd hin heno;
Llawen farch, i'r Llwyn a fo,
A Selim ga noswylio.
————
DIOLCHGARWCH AM FENTHYG CERBYD.
Anfonwyd yr Englynion canlynol i'r diweddar Mr. Griffth Jones, Ty'nycelyn, Dinas Mawddwy, am ei garedigrwydd yn benthyca ei gerbyd i'r Bardd.
Y GŴR goreu geir uwch gweryd — ydych,
Am adael eich cerbyd
I drosi Bardd draws y byd,
A'i iach eilwaith ddychwelyd.
Diau eglur yw mai dioglyd, — a hen
Erbyn hyn wyf hefyd;
Hen a gwan — er hyn i gyd
Carbwl nid wyf mewn cerbyd.
Du oernych pan y daw arnaf, — atoch
Etto y cyfeiriaf;
Yn Nhy'n y Celyn, coeliaf,
Unrhyw bryd, a'r cerbyd caf.
Chwareu b'och plant a'ch wyrion, — cu, iesin,
Er cysur i'ch calon,
Oll o'ch deulu yn llu llon,
Dyna ddymuniad WNION.
————
Adroddwyd yr Englyn canlynol gan Dewi yn "Eisteddfod Meirion," Dolgellau, 1870.
IDRIS a wnaeth wrhydri — un o'i fath
Ni fu yn nhre'r Celli; *
Bardd, Cerddor, yn rhagori
Ar feirdd llon Meirion, a mi.
* Dolgellau
————
ANERCHIAD,
I T. H. WILLIAMS, Ysw., Llwyn, ar ddiwrnod pen ei flwydd, Gorphenaf 30, 1871.
I DROEDIO cawsoch dri-deg¸ — hoff ŵr
A phump yn ychwaneg ;
A choder eto chwe-deg,
Hynaws daith, i'ch einioes deg.
————
ATEBIAD DEWI
Pan ofynwyd iddo gan Wraig o Lanfachreth, yn 1877 sut yr oedd efe.
'RWY'N gloff, ac nid hoff yw hyn, — mew henaint,
A'm heinioes ar derfyn ,
Nid ydwyf onid adyn
Sal a dwl, îs sylw dyn'.
————
PRIODAS Y BARDD.
Englynion ar briodas Mr. John Jones, Ty'nybraich (y Bardd), a Miss Sarah Evans, Llwynygrug, y ddau yn mhlwyf Mallwyd.
PRIODI a fynai 'r Prydydd — â meinir,
Er mwyned awenydd;
Wel, caffed Siôn, radlon, rydd,
Ei gu Efa'n wraig ufudd.
Bob dydd yn ddedwydd bo'r ddau — a'u bwriad
Yn buraidd hyd angau,
A nodwedd eu heneidiau —
Dan yr Iôn yn dwyn yr iau.
————
TROEDIO BWYELL I MR. J. JONES, TY'NYBRAICH.
DRUD yw hwn, ond mae'n droed hardd — o ddwylaw
Rhyw ddilun hen grachfardd;
Er egwan, beth mor hygar,
Ddiwall, a bwyall y Bardd!
————
DIOLCHGARWCH AM WYDD
A gafwyd yn anrheg yn Ngwyliau y Nadolig.
Un go lew ydyw Dewi — i'w gofio,
Fe gafodd gan Sali
Ddianaf Wydd dda ini —
Gwna hon yn awr ginio i ni.
Mae rhoddion y rhynion ar ol — eto
Yn attal yn hollol
Ini ginio digonol —
A llawn byd, a llenwi bol.
————
TAITH I TY'NYBRAICH.
I DY'NYBRAICH ce's dynu brwd, — a chwysu
Achosodd gryn ffrwgwd;
Draws cae, mewn ffrae a dwy ffrwd,
Ac i arw-gi rhoi hergwd.
————
CAIS AM GAEL TORI EI WALLT.
Englyn a wnaeth y Bardd i'r diweddar Mr. Robert
Evans, Llwynygrug, i ofyn iddo am dori ei wallt. Yr
oedd R. Evans yn cryf a heinyf anarferol.
Y GWALLTIWR a'r 'menydd gwylltiog — gwan wyf,
A gneifi di 'mhenglog?
Ac i Robyn, ŵr cribog, y talaf,
Neu dda addawaf, oni bydd ddiog!
————
EVAN DEULWYN JONES.
Englyn a wnaed, rhwng cwsg ac effro, i blentyn a elwid ar yr enw uchod gan y Bardd,
DEULWYN sy fachgen dilwfr — o anian,
A hynaws a didwrf;
Da, gonest, a digynhwrf,
Ca fyd da, ac yfed dwfr.
Eto i'r un Plentyn yn dair blwydd oed, pryd y cymerwyd
ef ymaith yn sydyn oddiwrth ei "Daid," Dewi Wnion.
Fe allai fod ein cyfeillach — yn darfod,
Ac ar derfyn bellach;
Ni welwyd dy anwylach —
Ffarwel iti, Bwti bach!
————
TAFOLOG A GRAIENYN
TAFOLOG, oediog awdwr, — a godwyd
I gadair y Barnwr;
Iddo boed, fel llenyddwr,
Rad a dawn tra rhedo dw'r.
————
GRAIENYN a'i awen gryno — ini
A rydd anerch eto
Rhaid yw cael, pryd yw coelio,
Gawr o fardd i'w guro fo.
Calan, 1880.
ANERCHIAD I EISTEDDFOD MERION
CALAN, 1880.
HENAINT sydd i'm dihoeni, — a rhyfedd
Mae'n rhifo fy mlwyddi;
Y du fedd cyn deuaf fi
I anerch ar ol eleni.
E fudwyd fy nghyfoedion — i'w beddau,
Rai buddiol awduron;
Erys eu gwaith yr awrhon
I wres haul y wâr oes hon.
Er y gwall o'u hir golli, — a bywiol
Feib awen yn tewi,
Cedyrn, er hyn, sy'n codi
Mewn brwd sel i'w harddel hi.
Urddas ddaw'n fwy i feirddion, — a hefyd
Ddihafal gerddorion;
Trwy'r hyglod Eisteddfod hon
Mawrwych fydd enw Meirion.
Am aros nid yw Meirion — ar ol
Yr un o'i chym'dogion;
Ac hefyd, hael cyfyd hon
Fwyn addas wir foneddion.
Gwelwch yr holl ysgolion — a godir,
Rai gwiwdeg, yn Meirion;
Chwanegir cyn hir yn hon
Golegawl ysgolheigion.
Yn ddidwyll mae'r celfyddydau — megys
Am agor eu dorau;
Dedwyddawl gwel'd y dyddiau
Megys yn ymagoshau.
Y mellt sy bron ymwylltio — a'n cyson
Negeswyr diflino;
Cywrain y maent yn cario
Yn frwd helyntion y fro.
Ar fyr daw'r llythyr i'r llaw — o bellder
Heb balldod yn ddystaw,
Trwy dir a mör didor y daw, — y fellten
A'i gloyw aden sydd yn ei gludaw.
Yn deg emau digymysg — y byddoch
Rai buddiol, a hyddysg;
Llenyddion yn llawn addysg,
Rhwydd eu dawn yn rhoddi dysg.
Egyr yr holl enwogion — clau, astud,
Eu clustiau a'u calon
Ac wedi hawdd coda hon
Fagad o bendefigion.
Blwyddyn dda erfyniaf fi,
Ddiachwyn, fyddo ichwi
Byw'n syber heb brudd-der bron,
A dyna ddywed — WNION.
————
GRIFFITH JONES.
Cyfansoddwyd yr Englyn canlynol ar ol edrych ar gorff
marw Griffth Jones, plentyn Evan ac Elizabeth Jones, Blue
Lion Inn, Dolgellau, nos Lun, Rhagfyr 20fed, 1880.
NI welwyd ei anwylach, — o'i ddu ing
Fe ddiangodd yn holliach
I glaerwen wlad ddysgleiriach,
O'i ingol boen, yn angel bach!
————
CYFARCHIAD
I T. H. WILLIAMS, YSW., Llwyn, ar ddiwrnod pen ei
flwydd, Gorphenaf 30, 1881.
Er degwch yn bump a deugain — o oedran
Mae'n edrych yn firain;
Caed fyw 'n hir, gywir, gain,
Ragor na phedwar ugain.
OL-NODIAD.
Y MAE yn dra thebyg fod DEWI WNION wedi cyfansoddi llawer o Englynion, ac fe allai rai Caneuon hefyd, nad ydynt yn y llyfr hwn; ond yr ydym wedi argraffu yr oll y llwyddwyd i ddyfod o hyd iddynt, Yr oedd ei hoff gyfaill a'i frawd-yn-nghyfraith, y diweddar Mr. John Evans, wedi ysgrifenu, tua dechreu y flwyddyn 1837, mewn un llyfr helaeth, bob llinell a gyfansoddodd Dewi hyd y pryd hyny, mor bell ag y gallent ill dau eu cofio. Fe fenthycwyd y llyfr hwnw yn mhen ennyd wedi hyny i ŵr ieuanc talentog arall, un o " blant Dolgellau," sef y diweddar Mr. Robert Roberts, a fu am flynyddoodd yn Arolygydd y North & South Wales Bank yn Nghaergybi, ac wedi hyny yn Nghroesoswallt; ac yn y dref ddiweddaf yr oedd efe pan y bu farw. Yr oedd Mr. Roberts yn gwybod fod y llyfr yn ei feddiant, ac wedi addaw, ychydig cyn ei farwolaeth, ei ddychwelyd i Dewi. Ond yn anffodus, ni chafodd efe hamdden i wneyd hyny; daeth, "y diwedd" i'w gyfarfod ef, megys llawer eraill, yn nghynt nag y meddyliodd. Yr oedd ganddo lyfrgell eang a thra amrywiaethol, ona fe werthwyd y cyfan ar auction, ar ol ei farwolaeth, ac y mae yn dra thebyg fod yr ysgriflyfr hwnw wedi syrthio i ddwylaw rhywun yn Nghroesoswallt, neu y gymydogaeth, nad oedd, fe allai, yn alluog i'w werthfawrogi. Pa fodd bynag, methwyd, er pob ymholiad, a chael dim o'i hanes.
Yn ystod ei flynyddau olaf perswadiwyd Dewi gan nifer o'i gyfeillion, i ymdrechu adgofio cymaint ag a allai o'r cyfansodiadau oedd yn y llyfr hwnw, yn gystal a rhai diweddarach; ac efe a lwyddodd o dro i Aro i adgofio cryn nifer o honynt. Ond yr oedd yn ymwybodol ei fod wedi cyfansoddi llawer o Englynion nas gallai mewn un modd eu hadgofio. Os dygwydd i rai o ddarllenwyr y llyfr hwn ddyfod o hyd i ryw Cân neu Englyn o'i waith nad yw yn argraffedig ynddo, bydd yr argraffydd yn ddiolchgar iawn i bawb a anfonant gopi iddo.
————————————————————
OWEN REES, ARGRAFFYDD, DOLGELLAU
————————————————————