Gwaith Hugh Jones, Maesglasau/Arglwydd edrych yma i lawr
| ← Brutaniaid ymbar'towch | Gwaith Hugh Jones, Maesglasau gan Hugh Jones, Maesglasau golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
→ |
HYMN IX.
GWERSI o Erfyniad am Ddiogelwch i Frydain,&c.
ARGLWYDD edrych yma i lawr,
Amgylchyna Brydain Fawr;
Cofia d'etifeddiaeth ddrud,
A ddewisaist cyn bod byd:
Anfon ini ymwared rhad,
Ninneu'th folwn di ein TAD.
Plant afradlon ŷm ni i gyd,
Haeddu dioddef tan dy lid:
Llwythog iawn o bob rhyw fai,
A chamweddau heb ddim trai:
Wedi ein harbed lawer pryd,
Etto'n pechu ym mlaen o hyd.
Bellach, ARGLWYDD, at bwy 'r awn,
I gael rhad faddeuant llawn:
Gennyt ti mae geiriau'r Nef,
Gwna i ni wrando ar eu llef:
Dwg ein hyspryd at dy draed,
Golch ni yn dy werthfawr waed.
Agor ffordd i gyrrau Ffraingc,
I'r Efengyl beraidd gainge:
Aed y son am IESU GRIST,
Trwy ei holl ardaloedd trist:
Pa'm bydd yno neb yn byw,
Heb adnabod y gwir Dduw.
Syrthied eu creulondeb mawr,
A'u didduwiaeth oll i'r llawr:
A phrysured boreu ddydd,
I droi miloedd i'r wir ffydd:
Ffydd yn haeddiant MAB-Y-DYN,
'Lanwo Ewrop oll yn un!
Ti addewaist deuai i ben,
Amser hyfryd is y nen:
Pan na chlywer dim yn hwy,
Sôn am ryfel gwaedlyd mwy:
Ond pob cenedl yn gyttûn,
Yn derchafu TRI yn UN.
Och! pwy wêl y dyddiau hyn?
Sŵn y fro ar Seion fryn:
Yna y teifl i lawr yn lân,
Bob un ei eilun mawr a mân:
Yna y bydd llonyddwch hir,
I Frutaniaid yn eu Tir.
Er nad oes trwy'n oes i ni,
Ond blindere' i'n bronne' heb ri:
Rhyfel etto yn parhâu;
O na lonyddai i glêdd yn glau!
Nes del dyddiau hêdd i ben,
Dod amynedd, DAD—Amen.
DIWEDD.
CAERNARFON:
CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG, CYF.,
SWYDDFA "CYMRU."