Neidio i'r cynnwys

Gwaith Hugh Jones, Maesglasau/Arnat Iesu rhof fy mhwys, a'm hymddiried

Oddi ar Wicidestun
O tyn y gorchgudd yn y mynydd hyn Gwaith Hugh Jones, Maesglasau

gan Hugh Jones, Maesglasau


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Edrych yma, edrych draw

HYMN V.

Golwg ar gariad a gofal CRIST tros ei Eiddo.

ARNAT IESU rhof fy mhwys, a'm hymddiried;
Ti o gyfyngderau dwys, all fy ngwared:
Pan bo'm henaid yn llesgâu, ac yn c'rwydro,
Mae dy gariad yn parhau, yr un etto.

Dyma gariad gwych ei sail, heb ei gymmar;
Ac ni welir iddo ail, ar y ddaear:
Pan ddel yn ei nerth a'i rym, i'm sirioli,
Y mae llais f'euogrwydd llym, yn distewi.

Anorchfygol yw dy ras, yn ei weithred,
Sydd yn maeddu llygredd cas, er cadarned;
Ni cheiff pechod o un rhyw, arglwyddiaethu
Ar neb o waredigion Duw, brynodd IESU.

Dychwel weithian ARGLWYDD da, ein caethiwed;
Llygredd ynom marwhâ, ac na arbed:
Doed y Jubil fwyn i ben, i blant Seion,
I deithio ffordd y nefoedd wen, yn fwy cyson.


Y mae maglau lawer mil, ar ein llwybrau:
Pwy a'i gwel, drwy ffordd mor gul, ben y siwrnai?
Rhosydd Moab sy i fyn'd trwy, ar lorddonen;
Os cawn IESU yn flaenor mwy—byddwn lawen.


Nodiadau

[golygu]