Gwaith Hugh Jones, Maesglasau/Brutaniaid ymbar'towch
| ← Iachawdwr dynol ryw | Gwaith Hugh Jones, Maesglasau gan Hugh Jones, Maesglasau golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Arglwydd edrych yma i lawr → |
HYMN VIII.
PENHILLION ar yr Amserau presennol, 1797.
BRUTANIAID ymbar'towch,
O ffordd y dialedd dowch;
Mae'n bryd i chwi, i'r nef roi cri;
O bob trueni trowch.
Mae drygau oddi draw,
A'u lleisiau'n awr gerllaw;
A'r farn a fydd, yn nesu sydd,
Pwy wyr y ddydd y daw.
Arwyddion hon, ar ddaear gron,
Sy'n llawnion ym mhob lle:
Anwiredd hŷ, fel diluw du,
'N cynnyddu sy',—a'r wialen frŷ,
Ni thry o wlad na thre.
Tyr'd Frydain uchel fryd,
I'r llwch cyn delo'r llid;
A'th blant bob rhai, doent yn ddi-drai,
I ado eu bai'n y byd.
Mae Crist ar orsedd gras,
Am gymmod heddyw a'i gas;
Cant bardwn rhad, a Duw yn Dad;
O'i hedd rhydd brofiad bras.
Efengyl fawr, a ddaeth i'r llawr,
Yn swnio'n awr y sydd:
Pob graddau clowch, o gwsg deffrowch;
I'r noddfa trowch, drwy ffydd, a ffowch;
Dowch, dowch, can's dyma'r dydd.
Dydd o lawenydd mawr,
Er holl ofdiau'r llawr;
Diangfa glyd, o boenau'r byd;
Sŵn iechyd sy ini'n awr.
Maddeuant angau'r groes,
Felysa bob rhyw loes;
Mewn trallod hir, neu wasgfa'n wir,
Ei fath ar dir nid oes.
I deimlo grym, y cleddyf llym,
Os ydym yn nesâu:
Os gelynion gâd, a dyr i'n gwlad,
I wneuthur brâd, daw llawn wellhâd,
O gariad nef i'n gwae.
Awn bellach yn gyttûn,
At orsedd grâs heb grŷn;
Gan godi ein llef at Frenhin nef;
Fe'n gwrendy Ef ni'n un:
Na boed rhaniadau mwy,
Na phlaid mewn gwlad na phlwy;
Ond undeb bryd, er bod ryw hyd,
Heb weled hawddfyd hwy.
Ein pechod mawr, sy'n tynnu i lawr,
Ein barnau'n awr o'r nen:
Tir Brydain rydd, tan gwmwl sydd;
Tra paro'n dydd, caethiwed prudd,—
Duw arnom bydd yn BEN!