Gwaith Hugh Jones, Maesglasau/Dysg imi Arglwydd gerdded
← Gwan ac eiddil wyf i ymdrechu | Gwaith Hugh Jones, Maesglasau gan Hugh Jones, Maesglasau golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
O tyn y gorchgudd yn y mynydd hyn → |
HYMN III.
Deisyfiad am gyfarwyddyd a chymmorth
Dwyfol.
DYSG imi ARGLWYDD gerdded,
'R hyd uniawn lwybrau ffydd:
A gwna o bob cadwynau,
Fy nhraed yn hollol rydd:
Fel 'rhedwy'n ffyrdd dy ddeddfau,
Gan gyrchu at y nôd;
A gadael pob rhyw wagedd,
A wela i is y rhôd.
Mae Satan i'm gwrth'nebu,
A phechod ar bob llaw;
I rwystro im' etifeddu
Y tir dymunol draw:
O IESU tyr'd i'r frwydyr,
Ymddangos ar fy rhan;
'Does ond dy Hun all gynnal,
Fy enaid llesg i'r lann.
Wrth deimlo grym y rhyfel,
I'm herbyn yn cryfhâu;
A gweled fy ngelynion,
Bob dydd yn amalhâu:
Pa fodd y gallaf sefyll,
Oni ddeli fi yn dy law:
'Does arall ddim a'm nertha,
I fyn'd tu a'r Ganaan draw.
O bydd yn gwmwl imi,
Rhag gwres yr haul y dydd;
A cholofn dân i'm harwain,
Y nos mewn anial prudd:
Pereiddia ddyfroedd Mara,
Er chwerwed yw eu blas:
A phortha'm henaid beunydd,.
A Manna pur dy Ras.
Rho imi cyn ymadael
Wel'd, iti 'ngharu yn rhad;
Ac edrych o ben Nebo,
Ar gyrrau'r hyfryd wlad;
A theimlo grym dy gariad,
Yn nyfnder angau loes;
Tan ganu a rhyfeddu.
Gwna im' derfynu f'oes.