Neidio i'r cynnwys

Gwaith Hugh Jones, Maesglasau/Edrych yma, edrych draw

Oddi ar Wicidestun
Arnat Iesu rhof fy mhwys, a'm hymddiried Gwaith Hugh Jones, Maesglasau

gan Hugh Jones, Maesglasau


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Iachawdwr dynol ryw

HYMN VI.
Pob gwrthddrych yn anheilwng o sulw a serch
yr Enaid, ond CRIST yn unig.

EDRYCH yma, edrych draw,
Ar y dde' a'r aswy law:
Etto ni wêl f'enaid trist,
Neb yn debyg i fy NGHRIST:
Nid oes gwrthddrych is y ne',
A'm gwir foddia ond Efe.

O na chawn i dreulio f'oes,
Yn myfyrio am ei groes!
Gwel'd yr IESU ar y pren,
Yn gogwyddo droswy'i ben;
Ac yn dweud "Gorphenwyd 'nawr,
Gwaith yr Iachawdwriaeth fawr."

Daccw'r IESU yn y bedd,
A marwolaeth ar ei wedd:
Daccw foreu'r trydydd dydd,
Pan ro'wd T'wysog nef yn rhydd:
Ni all ange' ei attal mwy;
Fe roes iddo farwol glwy.

Yn y nef y mae E'n awr,
Yn eiriol troswyf ar y llawr:
Pan bwy'n crwydro yma a thraw,
Dychwel fi yn ol â'i law:
Wedi i'm llygredd dynnu o'r gwraidd,
Dwg fi adref at ei braidd.


Nodiadau

[golygu]