Neidio i'r cynnwys

Gwaith Hugh Jones, Maesglasau/Gwan ac eiddil wyf i ymdrechu

Oddi ar Wicidestun
O na bai fy mhen yn ddyfroedd Gwaith Hugh Jones, Maesglasau

gan Hugh Jones, Maesglasau


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Dysg imi Arglwydd gerdded

HYMN II.

Teimlad o wendid, a grym Gelynion yn dufewnol
ac yn allanol.

GWAN ac eiddil wyf i ymdrechu,
A galluoedd uffern fawr!
Myrdd o elynion sy'n hiraethu,
Beunydd am fy nghael i lawr:
Dal fi ARGLWYDD, &c.,
A dy allu bob rhyw awr.

Amlder gwallt fy mhen yw'r nifer,
Yn fy nghasâu yn llidiog sydd!
Aflwydd," meddant, "a lyn wrtho,
Fe ddaw iddo ef ryw ddydd":
ARGLWYDD cynnal, &c.,
Fi, fel na ddiffygio'm ffydd.


Os gogwyddaf ronyn lleiaf,
Ar un llaw o ffordd y nef;
Pan wêl fy ngelynion hynny,
"O ein gwynfyd," fydd eu llef:
Tywys beunydd, &c.,
Fi yn dy ddeheulaw gref.

Ac os rhaid im' etto fyned,
Trwy ryw orthrymderau mawr;
Croes o' mewn, a chroes oddi allan,
I'm cyfarfod ar y llawr:
Gwedd dy wyneb, &c.,
Gad i mi fwynhau bob awr.

Byw yw'r IESU i eiriol drosom,
A byw hefyd fydd ei saint;
Ni wêl byd, er amled ydyw,
Ei drigolion y fath fraint:
Pwy a welodd, &c.,
Neu wêl etto fyth ei maint!

Mi ro'm pwys a'm goglyd arno,
Nes y delo'r dydd i ben;
I fy enaid gael myn'd arno,
I breswylio uwch y nen:
Tra bwy yma, &c.,
Oddi ar fy yspryd difa'r llen!


Nodiadau

[golygu]