Gwaith Hugh Jones, Maesglasau/Hugh Jones, Maesglasau
| ← Gwaith Hugh Jones, Maesglasau | Gwaith Hugh Jones, Maesglasau gan Hugh Jones, Maesglasau golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cydymmaith i'r Hwsmon → |
HUGH JONES, MAESGLASAU.
GANWYD HUGH JONES уn 1749, ym Maesglasau, ffermdy yn un o gilfachau'r mynyddoedd sydd rhwng Dinas Mawddwy a Dolgellau. Yr oedd ei dad a'i fam yn dda allan, a chafodd y bachgen llygatddu llon addysg,—medrai Gymraeg ei fro a Saesneg gramadeg, dysgodd hefyd ychydig Roeg a Lladin. Bachgen llawen oedd, yn ganwr da.
Dwyshaodd ei feddwl. Daeth yn athraw ac yn gyfieithydd a chyhoeddwr llyfrau. Daeth yn awdwr yr emyn goreu yn yr iaith Gymraeg.
Yn 1772 yr oedd yn Llundain, ac yno y cyfansoddodd ac y cyfieithodd ei lyfr cyntaf,—"Cydymaith i'r Hwsmon." Yn 1776 daeth "Gardd y Caniadau." Yna ymroddodd am rai blynyddoedd i gyfieithu a chyhoeddi llyfrau duwiol. Yn 1797 cyhoeddodd ei waith gwreiddiol goreu, sef yr Hymnau Newyddion." Yn union wedyn torrodd tymhestloedd arno, ac aeth yn dlawd.
Ond daliodd i ysgrifennu. Yn 1819 cyhoeddodd R. Jones o Ddolgellau "Holl Waith Josephus," dros 1200 tudalen, o gyfieithiad Hugh Jones, gan dalu pedwar neu bum swllt yr wythnos i'r llenor am ei waith, Yn nechreu 1825 yr oedd yn Henllan, yn dlawd ac afiach iawn, yn cyfieithu y "Byd a Ddaw." Pan ar ganol y gwaith hwn bu farw, Ebrill 16, 1825; ac yn Henllan y claddwyd ef. Yr oedd ei lawysgrif gain yn ddarlun o goethder manwl ei arddull."
Dyma ddau o'i lyfrau, sy'n brinion iawn erbyn hyn. Y maent, hyd y gellais, air am air, yn cynnwys gwallau'r argraffydd a phopeth. Yn unig gadawyd y cyfeiriadau ysgrythyrol allan o'r "Cydymaith," a lleolwyd un neu ddau o'r materion yn wahanol.
Gan Tegwyn, Dinas Mawddwy, y cefais fenthyg y "Cydymaith"; o'i ysgrif ef, hefyd, yn Cymru 1904, y cefais lawer o'r ffeithiau hyn. Gan Penar y cefais fenthyg yr "Hymnau," ac ni welais gopi arall yn unlle.
OWEN EDWARDS.