Gwaith Hugh Jones, Maesglasau/Iachawdwr dynol ryw
| ← Edrych yma, edrych draw | Gwaith Hugh Jones, Maesglasau gan Hugh Jones, Maesglasau golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Brutaniaid ymbar'towch → |
HYMN VII.
CRIST yn Feddyg, ac yn Waredwr hyd yr
eithaf, &c.
IACHAWDWR dynol ryw,
Fy meddyg unig yw;
Er maint fy mhla, fe lwyr iachâ fy mriw:
Er cael yn yr anialwch maith,
Fy mynych glwyfo ar fy nhaith;
Pan ddelwyf i'r Iorddonen, fe orphen arna'i waith.
Fy Mhriod yno a ddaw,
I'm dwyn i'r ochor draw;
Caf wneud fy nyth, byth, ar ei ddehau-law:
Anghofiaf fy ngofidiau mwy,
A'm cyfyngderau aethum trwy;
Fy ngwaith a fydd ei ganmol, byth, am ei farwol glwy.
Yn haeddiant dwyfol glwy,
Bydd fy ngorfoledd mwy;
Rhai gyfiawnhâ, pwy a'u condemnia hwy?
Bu farw IESU ar y groes,
Cadd dros ei etholedig loes,
Na anghofir yn dragywydd; a'r ufudd iawn a roes.
Dioddefaint f' ARGLWYDD CU,
A faedda elynion lu;
O flaen ei wedd, f'eilynod fliedd ffŷ:
Ei adgyfodiad yw fy ngrym,
Ac angeu fy holl bechod llym;
Pan ddel yn ei frenhiniaeth, ni sai'm didduwiaeth ddim!
Dy gwm'ni ARGLWYDD dod,
Tra byddwyf yma yn bod;
'Does ond dy hun a'm tyn i at y nod:
Os ti ni'm cynnorthwyi'n glau,
'Rwy'n fuan iawn yn llwfrhâu;
O tyr'd ar frys f'Anwylyd, wawr hyfryd, mae'n hwyrhâu.
O cyfod nefol wawr,
Cyn myn'd o'm haul i lawr;
I rydd-did clir, 'rwy'n wir am ddod yn awr:
Aed heibio fy nghaethiwed blin,
Ac arnaf doed rhyw nefol hin;
A'm hyspryd llonna'n wastad, a'th gariad sydd fel gwin.
Ffarwel 'rwy'n roddi yn awr,
I eilynod gwael y llawr;
Rhowch le'n ddi wâd, i gariad IESU mawr:
Fy Mhrenhin a'm Hoffeiriad gwiw,
A'm Prophwyd i'm haddysgu yw;
Un o dragywyddol Hanffod, odd'uchod, a'r gwir DDUW.
Molianned nef y nef,
Ei ENW SANCTEDD EF!
A doed yn awr, trigolion llawr a'u llef:
I'r TAD, a'r MAB, a'r YSPRYD GLAN;
Y TRI mewn HANFOD di wahân:
Cyd unwn yn wastadol, i roi'r DRAGWYDDOL GAN!