Gwaith Hugh Jones, Maesglasau/Myfyrdodau amser cynhaeaf
| ← Myfyrdodau yn yr Haf | Gwaith Hugh Jones, Maesglasau gan Hugh Jones, Maesglasau golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Myfyrdodau yn y Gaeaf → |
MYFYRDODAU
AMSER CYNHAEAF.
Y TYMMOR cynhauaf, yn ôl tyb a thystiolaeth llawer o'r doethion, yw'r hynod amser hwnnw ar y flwyddyn, ym mha un y creawdd Duw'r byd; sef ar ddechrau 'r mis a elwid gan yr Iuddewon, Tisri, neu Ethanim; dechreuad pa un oedd ynghylch canol y mis a elwir gyd â ni, Medi. Ac mae'n debygol na wel neb unrhyw achos, i lwyr ymwrthod yn brysur, a'r ddychymmyg hon; oblegid ni allwn ddeall, fod holl ffrwythau'r prenniau yngardd Eden yn eu llawn addfedwch, pan y dywedir fod i Adda gael ei ddewis iw ymborth arnynt, oddieithr un. Fellu diammau ir Arglwydd greu'r holl fyd ar y cyntaf, mewn llawnder a pherffeithrwydd o bob peth, megis ac y gwelir ef yn awr amser cynhauaf: Yn yr hwn amser, y dangosir ei anfeidrol allu, doethineb, a daioni ei fawredd, yn dra eglur i bob dyn. Dyma 'r pryd y mae efe yn gwneuthur gwledd i'r holl fyd, gan hilio ei fwrdd a danteithion rhagorol o bob math, i ddiwallu, sirio, a llonni ei greaduriaid, y rhai sy 'n disgwyl wrtho am ei bwyd yn ei bryd. Dymma'r pryd y dygir i berffeithrwydd a'i llawn-dw, yr hyn a fu 'r ddaear yn esgor arnynt ddyddiau hâf. Gwelir y gweirgloddiau, meusydd, gerddi, a'r perllannoedd, megis yn ymryson a'u gilydd, pa un a gaffo ddwyn yr anrheg gyntaf o'i blaenffrwyth iw perchennogion. Ona bae eu perchennogion mor ufudd a gofalus, am ddwyn ffrwythau buchedd dda, i berchennog neu feddiannydd mawr nefoedd a daiar! Yn awr y gwobrwya ac y tal ei feusydd i'r hwsmon dyfal, am ei boen yn eu gwrteithio au llafurio gefn y gwanwyn; a'r dolydd am ei ofal yn eu trin au cadw ddyddiau Clammai; a phob llysiau a ffrwythau per, yn barod i atteb y diben i ba un y crewyd hwynt.
Ar Charity Mistres.
Diolchwn iti Arglwydd
Am ffrwythydd ffri, o bob rhiw ri,
A ddug y ddaear beunydd
Yn ufudd iawn i ni:
Bu ddyfal ein disgwyliad
Ym misoedd ha' am lawnder da,
O bur-yd i'n 'scuboriau,
O llysiau a'n gwella.
Nid ofnwn wyneb gaua,
Ai rew ac eira gyda'g e,
Cynhauaf daeth, addfedu a wnaeth
Ein lluniaeth ymhob lle.
O! par i bawb o deulu
Yr eglwys fellu add fedu i fod
Yng nghwmni llu, y nefoedd gu
I glymmu dy fawr glod.
Hawdd gan yr hwsmon beunydd godi ei olwg ar ei feusydd yr hauodd efe had-yd ynddynt, ac edrych yn graff hwyr a boreu, pa fodd y bo yr egin yn dyfod yn eu blaen; a chwedi iddo ehedeg, pa fath dywysen a fydd ganddo; weithiau fe seu un ochr i'r cae, yna fe gerdd ir ochr arall, gan graffu arno drachefn a thrachefn. Fellu hefyd y mae 'r Arglwydd yn edrych i lawr o'r nefoedd, ar holl drigolion y ddaear, yn enwedig ar ei faes neu ei winllan ei hun, sef yr eglwys; Tyred fy annwylyd, awn i'r maes, edrychwn a egorodd yr egin grawnwin. Edrychwn ar y meusydd fel y maent yn gwynnu, yr hyn sydd arwydd eu bod yn barod i gynhauaf: Fellu hefyd ddynion pan font yn dechrau penllwydo, ydynt yn ymmul cael eu cynhafa a'u torri i lawr ir bedd. Meddyliwch gan hynny am danoch eich hunain o eneidiau oedrannus, pan weloch Wair yn cochi, neu Yd yn gwynnu, a dail y Coed yn melynu; gwybyddwch nad oes i chwi aros yn eich unfan yn hir mwy na nhwythau, pan ddeloch ir nod hwnnw.
Y gwair a'r yd, oedd wedi pen ychydig yn irlas ac yn llawn nodd, yn awr a welir yn dechrau diflannu, a'i ben yn gogwyddo ir ddaear, ac a dorrir ymaith ar fyrder. Hyn a eill ddwyn i'n cof, mor fethianllyd a darfodedig yw cyrph dynion; pob cnawd sydd wellt, a'r rhai ydynt yn awr yn gryfion ac iachus, a'i bronnau yn llawn llaeth, ai hesgyrn yn iraidd gan fer, buan y diflannant ymmaith; eu gwrid a dry yn llwydni, a'u nerth yn wendid, a henaint a grymma eu pennau i lawr megis yd, pan fo'n llawn addfed; a hwy a orweddant ynghyd yn y pridd, a'r pryfed a'u gorchguddia hwynt.
Ar fesur Consumption.
O Arglwydd beth yw dyn
Pan 'drychyt ar ei lun,
Yr hwn nid yw ei hun
Ond megis gwelltyn gwann:
Mae heddyw'n deg ei wawr
Mewn rhwysg a rhyfyg mawr;
Y foru yn drwm ei sawr
Fe'i ceir yn llawr y llann!
Nid yw ei ddyddie ar ddaear hon,
Ond megis t'wnniad haul ar fron
Ar ddiwrnod teg, neu dreiglad tonn
Ym min yr eigion mawr.
O dyro orphwysfa nefol Dad!
Ir enaid o'th drugaredd rad,
Sydd anfarwol ei barhad,
A di-ddiweddiad wawr.
Yn awr pan ddelo 'r cynhauaf ymlaen, yr yd da a drwg, ffrwythlon ac anffrwythlon, addfed a di-addfed, a dorir i lawr ynghyd Fellu hefyd marwolaeth sydd yn ysgubo ymaith bob math, a gradd, ac oedran o ddynion, pan fo eu hamser wedi dirwyn i ben. Myfi a wn y dygi di fi i farwolaeth; ac i'r ty rhagderfynedig i bob dyn byw.
Yn gymmaint a bod y cynhauaf yn amser pwysfawr, pryd y mae i'r hwsmon yn unig ddisgwyl wrth dal, am ei holl drafel a'i gost trwy'r flwyddyn, yn parottoi tu ag atto: o herwydd paham, mae 'n ddyled ar yr hwsmon edrych atto ei hun yn ddyfal, a bod yn flaenllaw a diwyd yn anad un amser arall ac yn gyfattebol i hyn, y meistriaid a fyddant ofalus i graffu a chanlyn ar eu gweinidogion, rhag iddynt segura ymaith eu hamser, ac iddo ef fod yn ol, trwy eu hesceulustra hwynt, o'r hyn a allaseu 'i gael, eisiau digon o ddiwydrwydd yn ei gylch; ac weithiau y trawant at y gwaith eu hunain, cyn y caffo sefyll yn ol. Fellu amser pob dyn yn y bywyd hwn, sydd beth pwysfawr iawn yn wir, yr hyn mae tragwyddol drueni neu ddedwyddwch yr enaid yn ei ddisgwyl wrtho. Oherwydd paham, medd yr Arglwydd, Ymgesglwch, ie deuwch ynghyd, genedl anhawddgar; Cyn i'r ddeddf esgor, cyn i'r dydd fyned heibio fel peiswyn, cyn dyfod arnoch lid digofaint yr Arglwydd, cyn dyfod arnoch ddydd sorriant yr Arglwydd. Gan ddisgwyl na byddwn mor ddifudd, a threulio odfa mor werthfawr, mewn cyfeddach a meddwdod, cyd orwedd ac anlladrwydd, neu mewn cynnen a chynfigen, eithr rhodio yn weddus, megis wrth liw dydd, a chyrchu at y nôd, am gamp uchel alwedigaeth Duw yng Nghrist Iesu. A'r Arglwydd pan wel ei bobl yn llesghau, wrth ddioddeu pwys a gwres y dydd, efe a dery ei law yn ebrwydd at y gwaith; â'i fraich y casgl ei wyn, ac a'i dwg yn ei fynwes.
Gefn cynhauaf gwair ac ydau
Yr hwsmyn fydd mewn amryw fannau
Beunydd yn ofalus ddigon
I yrru ar eu gweinidogion.
Wrth weision fe ddisgwylia'r meistred
Am iddynt weithio yn ddi 'marbed
Yn oed adeg y cynhaua,
Na choller dim drwy esgeulustra
Dymma siampal mae i ni ddisgwyl
I weinidogion yr Efengyl
Na ddyleu rhai sy'n cael eu galw
Segura yn y gorchwyl hwnnw
Eu Meistr ai danfonodd yno
Nid i sefyll ond i weithio;
Gweithio tra mae'r dydd yn para,
Fe ddaw 'r noson yr awr nesa,
Mae cynhauaf ein heneidiau,
Yn fwy o bwys gan mil o weithiau
Na 'r holl fyd a'r llawnder 'sy ynddo
Yn mis medi or maes yn 'mado.
Er bod y cynhauaf yn amser o lawenydd i'r hwsmon, pryd y mae 'n gobeithio
llenwi ei dai ac ystor o wair ac yd, fel y
gallo efe a'i deulu fyw'n glyd, a bod yn
gefnog i fwrw'r gauaf. Etto llawer
gwaith y try yn adeg o alar a gofyd: canys
yr hwsmon mwya gofalus ar droue, a
ddichon gael colled fawr gan ystormydd o
wynt a gwlaw, i ddifetha yr hyn y rhoesau gymmaint ei fryd ar gael eu mwynhau;
yn awr ni fedr ond synnu arno, heb ganddo ffordd yn y byd iw achub oddiwrth y
fath golled. Pa resyndod iw gweled maes
o lafur ffrwythlawn, yn gorwedd yn
glwydi braenllyd ar y ddaear gan wlybanniaeth; neu ynteu y rhan mwyaf ffrwyth-
lawn o honaw yn dyrrau hyd wyneb y tir,
wedi ei golli a'i guro i lawr gan wynt ystormus.
Ar Gwel yr Adeiliad.
O ystyr ein Tad nefol,
O'th babell wrth dy bobol
Anfuddiol 'feddi;
Di weli fod ein lluniaeth,
Yn wael beunydd dan wlybaniaeth
Ar ol ymboeni:
Ar gefn, y maes drwy'r flwyddyn lefn,
Bu 'n dyfal dyfu, yn awr fe ddarfu,
I'r Gogleddwynt gladdu,
A'i chwythu i lawr drachefn,
Fe'i gwnaeth ystormydd amlwg
Ef'n ddigon drwg ei drefn.
Ein cri, sydd arnat Un a Thri;
Am faddeu'n beie', i gasglu'n ffrwythe'
I'n hysguborie', os gweli yn ore', ni
Ddeusyfwn drwy fawr heddwch,
Gael tegwch gennyt ti.
Gweled llafur ffrwythlawn ar lêd
maes, yn cael ei ddistrywio a'i wneuthur yn ddrwg ei drefn, gan ystormydd o wynt
a gwlaw tymmhestlog, a eill ddwyn i'n cof
y cyflwr truenus y bu Eglwys Dduw ynddo, mewn amryw oesoedd y byd; tan ystormydd o erlidigaethau a gorthrymderau gan ei gelynion. Megis yn amser y
Caethgludiad i Babilon, a'r deg erlidig
aethau cyntaf ar ol Crist, tan amryw Emprwyr creulonedd, megis Nero, Domitian,
Traianus, ac eraill. Ac hefyd yn Lloeger
lawer amseroedd, yn enwedig tan Deyrnasiad y Frenhines Mari, pan oedd y
deyrnas hon yn nofio o genllif yr afon a
fwriodd Satan allan o'i safn, i geisio difetha, a chario ymaith gyd a hi wenith
Duw, sef ei bobl ef, pan oedd cynhauaf
yr Efengyl megis newydd ddechrau tan
lywodraeth ddaionus y Brenin Edward, yr
hwn a gymmerwyd ymaith yn ei febyd.
Yna y rhuthrodd y bleiddiaid Pabaidd i
mewn, a buan y troesant ddoldir ffrwythlawn yn anialwch, gan fathru Seintiau
Duw o dan eu traed, megis tom yr
heolydd.
O na 'styriem yn ein hamser
Faint ein trugareddau tyner;
Rhagor y blynyddoedd blinion;
Gynt a gadd ein Tadeu ffyddlon.
Cael cynhauaf teg a phrydlon,
Sydd gynfforddus iawn ir hwsmon,
Rhagor tywydd trwm heb foddau,
I waredu ei wair a'i ydau.
Rhoddiad mawr i ninne os gwelwn,
Iw cael rhydd-did a Chommissiwn,
I foliannu Duw y nefoedd,
Yn y dirgel ac ar gyhoedd.
Fe orfyddau ir Protestaniaid;
Gyfwrdd gynt heb neb i'w gwelaid;
Ninnau allwn 'flaen yr holl-wlad,
Ei addoli ef yn wastad.
Gorfod gwylio, a chladdu eu gilydd,
Hyd y nos ar gefn y meusydd;
Aros yno tan y borau,
Uwch ben y bedd yn canu hymnau.
Gwragedd a morwynion oeddynt,
Yn dioddeu serrio eu bronne oddiwrthynt;
Dioddeu colli gwaed eu calon,
Am eu Crefydd a'u Proffession.
Oni chymrwn ninnau siampal
I wasnaethu Duw yn ddyfal;
Y Merthyron hyn er dychryn,
A godant Ddydd y farn i'n herbyn.
Y cynhauaf a gyffelybir i ddiwedd y byd; canys fel ac y mae ffrwythau 'r ddaear y pryd hynny yn eu haddfedwch, yn gymmwys iw torri i lawr, ai casglu or maes i mewn: Fellu yn niwedd y byd, holl drigolion y ddaear a fyddant yn addfed un ai o râs neu bechod, ac yn barod ir llefydd a barottowyd i bob un o honynt. Ac yn amser y cynhauaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau, iw llwyr-losgi; ond cesglwch y gwenith i'm hysgubor.
Am ddiwedd byd yr hwsmon cofia
Pan fy'ch ar ddiwedd dy gynhaua,
Gwedi casglu ffrwythau'r ddaear
I'th ysgubor glyd yn gynnar.
Fellu yr Arglwydd Dduw yn ddiau
Yn nydd y farn a gasgl ei Seintiau,
I drysordy mawr y nefoedd
Iw foliannu dros byth bythoedd.
Gwelwch pan fo'r dydd yn byrrhau, yr haul yn cilio, a'r brynniau yn cysgodi, neu pa bella bynnag yr elo yn y flwyddyn, gwaetha yn y byd i gynhauaf. Fellu dyn hefyd pa bella bynnag yr el mewn oedran, anhaws fyth ei dorri oddiwrth ei bechodau a chrymman edifeirwch, a'i gynhafa i mewn at Grist oddiwrth y byd a'r pethau sy ynddo. Cofia yn awr dy Greawdr yn nyddiau dy ieuengctyd, cyn dyfod y dyddiau blin, a nessau o'r blynyddoedd yn y rhai y dywedi, Nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt. Mab pedwar ugain mlynedd ydwyf fi heddyw: a wn i ragoriaeth rhwng da a drwg? a ddichon dy was di archwaethu yr hyn a fwyttaf, neu 'r hyn a yfaf? a glywaf fi bellach lais cerddorion a cherddoresau? pa ham gan hynny y bydd dy was mwyach yn faich ar fy Arglwydd frenin?
Cofia dy Greawdwr hyfryd
Yn awr yn nyddiau dy jeuengctyd;
Cyn del henaint oer i'th crymmu,
Ac i'th calon ymgaledu.
Tan y gyfraith y gorchmynnir
Offrwm wyn a mynnod geifir,
Bustych jeuainge a chlomennod,
I'r bobl yn aberth dros eu pechod.
Abiah yn unig oedd yn ddi-nam,
O holl deulu Jeroboam;
Ynteu'n jeuangc yn ei degwch
A gadd fynd iw fedd mewn heddwch.
Titheu'n jeuange nad i Satan
Sugno'r mer o'th esgyrn allan;
Dod dy hun i Grist dy geiwad,
Fe dalodd ddigon drud am danad.
Edrychwn ar y meusydd a'r dolydd, ddyddiau gwylmihangel, mor chwith yw gweled pa ragoriaeth sydd rhyngddynt yn awr, a chwedi pen ychydig o amser: Doe 'n edrych yn llawnion, heddyw 'n ddigon llymllyd eu gwedd. Doe a chnwd o d'wysennau ffrwythlawn yn pwyso i'r ddaear; heddyw heb hanes ond am fonion soflydd sychlyd, yn ddigon garw eu gwedd. Trachefn, edrychwn ar y dolydd a'r porfeydd rhywiog, pa rhagoriaeth sydd rhyngddynt yn y dyddiau hyn, a dyddiau Gwyl-Ifan. Codwn ein golygon ar y goedwig, ac wele 'r fath anluosogrwydd sydd yno; y coedydd wedi eu dinoethi, a'u dail wedi crino ymaith. Fellu am bob gwychder a moethau daiarol: y maent fel hun: y boreu y maent fel llyseuyn a newidir. Y boreu y blodeua ac y tyf; pryd-nawn y torrir ef ymmaith ac y gwywa. Awn ir gerddi, ac wele yno bob peth ar ddarfod yn ei ôl ir ddaear. Cymmerwn daith ir berllan, yno y ceir afalau bron-gochion, oedd gynt yn uchel eu lle ar frig y pren, yn awr yn pydru hyd wyneb y ddaear, a'r eirin yr un modd.
Wel cofiwch chwithe jeungtyd ffol,
Daw'r Angeu ich nol ar fyrder;
Ni phrissia am nerth na glendid glwys
Pan ddelo'i gymmwys amser.
Llawer heddyw ag uchel drych
Yn ddigon gwych a'mddygant;
Y foru 'r tecca a'r gwycha eu gwedd
Yn llawr y bedd y byddant.
Ar Amorelis.
Mor fuan Arglwydd 'troes dy law,
I beri ir fro ei bore fraw:
Ei ffrwyth a'i thegwch yma a thraw
Ar fyrr a ddaw i ddiwedd;
Lle 'rydoedd gynt yr yd a'r gwair
Drwy nerth dy air yn iredd;
Yn awr pob pantie brynnie a bronn
Sy a golwg digon gwaeledd.
Os yn yr Allt i fynny'r awn,
Dail y Coed dam draed y cawn;
A chwedi noethi'r llwyni llawn,
Oedd gwiwlan iawn iw gweled;
Nid oes iw gael un golwg hardd
Mewn maes na gardd ar gerdded;
Pob blode', llysie' a ffrwythe' ffri,
O'u manneu gwedi myned.
Ac fellu'r Ange a ninne is ne,
Mewn byrr yn llu a'n bwria o'n lle,
Duw gwna ni iw gyfarfod fe,
Bob hwyr a bore yn barod;
I fynd dros ennyd bach ir Llann,
I gysgu dan dy gysgod;
A phan el heibio dir a mor,
Dwg ni ir ochor uchod.
DYRNU.
Bwriad yr hwsmon yn gosod ei yd ar y llawr iw ddyrnu, yw ei neulltuo a'i ryddhau oddiwrth y gwellt a'r peuswyn: ac er iddo ei flustio a'i gnoccio yn ddwys dros ychydig, fel pettei 'n ddig wrtho; etto fe gymmer ofal rhag gwneuthur niweid iddo, na sigo 'r dalchen ond lleia ac a allo: a phan welo efe ef unwaith wedi ymadel yn lân a'r gwellt, yna fe i try heibio, ac ni chûr mono mwyach.
Fellu'r diben i ba un y dyrna Duw ei bobl ag amryw gystuddiau yn y byd hwn, yw eu tynny a'i didoli oddiwrth eu pechodau, iw puro a'u gwneuthur yn gymmwys i'r nefoedd; Eithr ffyddlon yw efe, yr hwn ni âd eu ceryddu uwchlaw yr hyn allont ei oddef; eith a wnâ ynghyd â'r temtasiwn, ddiangfa hefyd, fel y gallont ei ddwyn. Megis eu dyddiau y bydd eu nerth. Yna pan orphennir y gwaith da, yr hwn a ddechreuwyd ynddynt, yr Arglwydd a'u cymmer hwynt atto ei hun iw deyrnas uchod; Yno yr annuwiolion a beidiant a'u cyffro; ac yno y gorphwys y rhai lluddedig.
Arglwydd nefol gwna fi'n ddiddig
Yma i ddioddeu dros ychydig
Pa faint bynnag fo 'ngorthrymder,
Fe ddaw diwedd arno ar fyrder.
Nid yw dy wialen yn ceryddu
Neb ond fel y maent yn haeddu;
Diwedd cystydd yw ein gwella,
A'n cymmwyso ir bywyd nesa.
Gwnei ddyn yn werthfawroccach,
Nag aur coeth oedd gynt fel sothach;
Fel y byddo yn ddinasydd
Cymmwys yng Nghaersalem newydd.
Gwell d'wrnod o drallod i'n dryllio―'n awr
Am anwiraidd 'n dwylo;
Na bod fyth 'n y byd a fo,
Yn ein dyrnn a'n darnio.
NITHIO.
Pan ddaeth Ioan fedyddiwr i barottoi ffordd Crist, efe a ddywedodd am dano, ei fod ef a'i wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr-lanhâ ei lawrdyrnu. Gair Duw sydd megis gwyntyll yn llaw'r Yspryd Glan i chwythu ymaith drachwanteu pechadurus allan o galonneu dynion, fel us a pheuswyn oddiwrth yr yd ar y llawr: Hefyd yr Arglwydd a neulltua rhwng yr annuwiolion a'i bobl e'i hun, a hynny a wnaeth yn aml yn y byd hwn; pan ehedau 'r anffyddloniaid allan o'r Eglwys, fel peiswyn allan o'r llawr, heb neb ond pûr etheledigion Duw yng Nghrist yn cadw eu lle. Eithr efe a wna hyn yn fwy eglur ac effeithiol yn nydd y farn ddiweddaf; pan gasgl efe ei wenith iw ysgubor, ac y llysg yr ûs à thân anniffoddadwy.
Fe ddaw dydd, y Tad bendiged
A wyr ei hunan pa cyn gynted;
Pan osodir lawer milldir,
Y defaid draw odd' wrth y geifir.
Er i'r da a'r drygionus yma,
Gyd yied a chyd fwytta;
Cyd orwedd a chyd godi,
Daw amser etto i'w didoli.
Ac er iddynt rai' bob graddau,
Gyd fynd i'r llan y suliau,
Cyd fynd at fwrdd yr Arglwydd;
Fe 'u neulltuir yn dragywydd.
Chwyth yn lanwaith ymaith bob us—coliog
O'm calon ddrygionus:
A dod le Duw yn dy lys,
Er dy Enw daionus.
CARIAD Y CI IW FEISTR.
Pa mor ufydd a ffyddlon yw y ci iw feistr? pa le bynnag yr elo ef, rhaid iddo ynteu fyned ar ei ôl; ac os digwydd i neb gynnyg cam iddo; buan y tery yn ei blaid. Dymma siampl i bob Cristion i ddilyn ei feistr mawr IESU, yn ffyddlon; trwy barch ac ammarch, trwy anglod a chlod. Er curo llawer math o gi, i geisio ganddo beidio a dyfod i ganlyn; etto gwell ganddo ddioddeu taflu llawer carreg atto, na llechu yn y ty. Eithr O mor barod ym ni i bedio a myned ar ol Arglwydd y bywyd Gwell ganddom oll wrth nattur lechu ac ymguddio yng nghornelau tywyll ein hen gartref, pa ddistryw bynnag a ddelo yn y diwedd ar ein pen. Eithr O eneidiau! codwch ac ewch ymaith, canys nid dymma eich gorffwysfa.
Gadael Arglwydd c'wilydd immi,
I bob creadur fy rhagori;
A bod fel Peder dan ymgymmell,
Yn dy ganlyn di o hirbell.
Tynn fi attad a'th gadwyni,
Minneu redaf yn fwy gwisgi:
Dyro immi nerth i bara,
Nis y delwy i ben fy ngyrfa.
Gristion bydd ffyddlon a phaid—a gadael
Dy Geidwad bendigaid:
Can's nerth cry 'r Iesu a raid,
Or dinistr achub d' enaid.
DAU HWRDD YN YMLADD.
O ba le y tyfodd yr ymrafael rhwng y creaduriaid hyn? Tebygasem fyd y mynydd yn ddigon ehang iddynt, heb roi iw gilydd y fath gyfarfod siomgar a hwn. Dymma fel y mae gyda dynion y byd, sydd a'u calonnau yn berwi o gynfigen y naill ir llall. O ba le (medd yr Apostol) y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith? Onid oddi wrth hyn, sef eich melyschwantau, y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau. Wrth hyn ni a welwn fod dyn yn un reyfel drosto ei hun; nid rhyfedd gan hynny iddo fod mewn rhyfel ag eraill a'r rhyfel hwn ni ostegir fyth gan neb ond Duw hollalluog; and a gynnydda fwy fwy, i bob tragwyddoldeb. Eithr pan ddel yr Arglwydd a'i Ras nerthol, i wersyllu ar y galon, hi a gwymp i lawr wrth ei draed, fel Jericho o flaen Joshua; a phob gelyn ystyfnig oedd yn aros ynddi a dawdd: Yna y blaidd a dry yn oen, gan faddeu i eraill megis ag y maddeuwyd iddo ynteu gan yr Arglwydd.
Golwg erchyll Gristion gochel,
Gweled delw Duw 'n troi 'n gythrel;
Gweled dynion o'r un deunydd,
Yn ceisio gwneuthur brad eu gilydd.
Os metha'r gwyr ymladdgar llidiog
Gael digon ymma, byddont gefnog,
Y'mhen ychydig hwy gant firauo,
Oni bon nhw wedi blino.
Pan wneir ammarch fy Nuw immi—dysga
I'th ddisgybl ymgroesi,
Dyro fynwes i'm Iesu,
Bur bwyllig i ti.
CANIAD Y CEILIOG.
Pan glywer y ceiliog yn canu, ni
ddylau nid yn unig ein deffro o gwsg nattur, i godi at ein gorchwylion daiarol;
eithr ymhellach ddwyn ar gof inni am
ddeffro o gwsg a syrthni pechod. Ped
taseu caniad y ceiliog yn deffroi ac yn
cynnhyrfu Petr ddim pellach nac i feddwl
am bysgotta, a pharottoi angenrheidiau
iw deulu, beth a ddaethai o hono ef:—
Ond yn gymmaint ag iddo ei ddeffro i
edifeirwch, efe a achubodd ei enaid. Diammau nad oedd yr aderyn hwnnw ond
canu ond fel y byddau arferol; etto yr
holl drwst a'r cyffro yn nhy 'r ArchOffeiriad nid alleu gadw ei lais allan of
glustiau Petr; yr hwn fe ddywedir ar ôl
hynny, a fyddeu arferol bob bore, pan
glywai geiliog yn canu, a neidio allan o'i
welu, a syrthio ar ei luniau gan wylo, a
gweddio ar yr Arglwydd am faddeuant:
ac fe ddywedir ymhellach, na chanfyddid
mono un amser, heb fod a'i lygaid yn
llawn dagreu.
Cwyd i fynu hwsmon diog,
Ai ni chlywi lais y ceiliog,
Yn dy alw o dy welu;
Ai 'mroi a wnei di fyth i gysgu.
Cwyd i fynu hen bechadur,
A dadebra o gwsg dy nattur;
Clyw lais Crist yn galw 'n rhywiog,
Deuwch attaf bawb sy'n llwythog.
Ymbrysura cyn y gweli
I wawrddydd tragwyddoldeb dorri;
Os ceiff Angeu di'n dy welu,
Oddi yno yr ei di ith farnu.
Llais aderyn gwann yn canu-y bore
A beri'm ddadebru;
Ond llais fy Ior cantor cu,
Enaid diffrwyth ni'th deffry.