Neidio i'r cynnwys

Gwaith Hugh Jones, Maesglasau/Myfyrdodau yn y Gwanwyn

Oddi ar Wicidestun
Y llyfr drosto ei hun Gwaith Hugh Jones, Maesglasau

gan Hugh Jones, Maesglasau


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Myfyrdodau yn yr Haf

MYFYRDODAU YN Y GWANWYN.

WELE'R gauaf a aeth heibio, y gwlaw a basiod, ac a aeth ymmaith; gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i'r adar i ganu: y dydd sydd beunydd yn ymestyn, a'r haul yn mynych ymddangos allan o babell y ffurfafen, ac nid ymgudd dim oddiwrth ei wrês ef.

Y ddaear, oedd galed, oerllyd ac afrywiog amser gauaf, yn awr a dry yn feddal a thirion, trwy dynerwch yr hin, a chynnhesrwydd yr haul: Wele'r goedfron yn glasu a'r gerddi'n blodeuo, a'r holl greadigaeth yn adnewyddu, er dechreuad y tymmor hyfryd hwn.

Gwel yma, o fy enaid! wrthddrychau ac arwyddion eglur yn Llyfr nattur, o gyflwr a moddau dyn cadwedig, yn amser ei ail greadigaeth o newydd yng Nghrist Iesu yr hwn cyn hynny o bryd dedwyddol, sydd wrth ei nattur, yn "farw mewn camweddau a phechodau" ai galon yn galed a diedifeiriol, megis y ddaear ganol rhewynt, heb naws meddalwch ynddi: eithr pan gofio efe ei ffyrdd gynt, a'r holl weithredoedd y rhai yr ymhalogasei ynddynt yna y galara ac y tawdd yn ei anwireddau ac yn ol hyn y cyfyd Haul Cyfiawnder gan dywynnu ar ei enaid a chynnhesu ei galon, iw pharottoi i dderbyn had gair duw, megis y mae cynnhesrwydd neu wrês yr haul yn sychu'r ddaear fis Mawrth, iw gwneuthur yn gymmwys i dderbyn yr hâd a hauir ynddi.

Ffarwel, Ned Pugh,

Can croeso i'r ddaear liwgar le,
Yn nyddie' ei hadnewyddiad;
Can diolch Arglwydd am nessau,
O gynnes olau'r gennad:
Yr adar bach oedd gynt un brudd,
Drwy'r dyffryn sydd yn deffro;
A'r byd a'i sylwedd bur-deg sail,
Sydd wedi ail newidio:

Duw Tad o'r uchelne', o newydd gwna ninne',
I gael inni galonne', i redeg y siwrne',
A osodwyd o'n baene' cyn blino:
Down gyd a phob talar, i dderbyn dy ffafar,
Cyn mynd ein cyrph breugar, a'n hesgyrn ar wasgar,
I waelod y ddaear i dduo.

<br. Amser gwanwyn, yn ol i'r hîn dymmheru a'r ddaear ddechreu cynnhesu; er disgyn ymbell gaenen o eira arni, ni erys ond ychydig amser: ac er iddi weithiau galedu dros nôs gan rew, mae'n rhywiog i feddalhâu y dydd gan dês y'r haul. Fellu ni sai pechod yn hir yn y galon wir ddychweledig; er digwydd iddi ar ryw ddanwain dywyllu ac oeri yn ei serchiadeu tuag at Grist, heb allu ymhyfrydu yn ei air, nag mor awyddus i ordinhadeu sanctaidd ac or blaen; er hynny nid hir yr erys yn y cyflwr marwol hwnnw, canys pa wedd y bydd i'r hwn a fu farw i bechod, etto fyw ynddo ef? Cyfyd goleuni i'r rhai uniawn yn y tywyllwch. Troir eu galar yn llawenydd; tros bryd nawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd.

Er aros dyn y nos dan iau—galar,
Gelwir ef y borau,
Afon o hedd i fwynhau,
A Pharadwys ei ffrydiau.

Wrth weled y ddaear yn glasu, y coedydd yn impio, a'r holl fyd megis wedi ei greu o newydd; wele mo'r brysur yr adar bychain yn dangos eu gorfoledd, yn yr hawddgar gyfnewidiad hwn; hwyr a boreu y clywir hwynt, yn pyngcio mawl i'r Creawdwr. Fellu yr angylion santedd a'r droadigaeth un pechadur nid cynt y creir ef o newydd yng Nghrist Iesu, nag y dechrau'r nefoedd seinio o lawenydd uwch ei ben, o weled un etifedd ychwaneg, wedi ei eni i wisgo coron y gogoniant. Y cyfryw un a ddichon adrodd ei ddedwyddwch mewn geiriau fel hyn,

Gwyd fyd y funud f'enaid—y gwelaist
Y goleu bendigaid;
Newidiest lluest y llaid,
A'm fawredd y nef euraid.

Hefyd, mae gorfoledd ymhlith pobl Dduw yn y byd yma, pan welont bechadur yn newid ei ffyrdd ag yn rhodio mewn newydd deb buchedd. Fe adroddir am un a elwid, Cajus Nearius Victorius, yr hwn oedd yn byw cylch tri chant o flynyddoedd a'r ôl Crist; yr hwn a fuaseu yn bagan digrêd holl ddyddie'i fywyd: eithr yn ei henaint efe a ymwrandawodd ag ymofynnodd ynghylch Crist, ag a ddywedodd y mynneu ef fod yn Gristion; eithr y Cristnogion ni chredent mohono ef dros drô; ond pan welsant mewn difrif, fod grâs yn gweithio ar ei galon, hwy a ddechreusant lawenychu a chanu psalmeu yn yr holl Eglwysydd oi blegyd; a llefain allan gan ddywedyd, Cajus Nearius Victorius a ddaeth yn gristion!

Y tymmor gwanwyn sydd gyffelyb i amser pob Cristion yn y byd yma, i ymbarottoi erbyn tragwyddoldeb; oblegid fel i mae hon yn adeg brysur gyd a'r hwsmon, pan fyddo'n flin arno wrth droi, hau, a llyfnu; cau a chloddio, a phob gorchwyl arall ar ei dir, angenrheidiol ei wneuthur erbyn yr haf. Fellu hefyd gyda'r Cristion yn oed ei bererindod ar y ddaear: dymma'r unig amser iddo lafurio am y bwyd ni dderfydd, eithr a bery i fywyd tragwyddol. ac i weithio allan ei iechydwriaeth ei hun trwy ofn a dychryn.

Os yr hwsmon a fydd ymarhôes i grynhoi ar ei dir erbyn Clammai, gan ei adael yn llanestr agored i'nifeiliaid ei sathru a'i bori; mae'n enbyd y bydd yn ei golled yn fawr o'r achos. Fellu hefyd y pechadur a ymdry yn ei bechod a'i anwiredd, a'i galon yn agored i bob trachwant ac ynfydrwydd bydol, nis torri llinyn ei einioes; O mewn pa berigl ofnadwy y mae hwnnw ynddo, o golli ei hun a chymmaint ag a fedd, yn dragywydd. Dedwydd y llafurwr sy'n fawr ei boen a'i ffwdan yn trin y ddaear, a fyddei mor ddiwyd a dygn, yn ymeulyd am iechydwriaeth iw enaid; yna 'mhen ennyd bach, dim mwy ymhela a phridd a cherrig y ddaear y dwylo geirwon fu'n trin tywerchi, a gant garrio ynddynt Balmwydden o fuddugoliaeth. A'r cyrph lluddedig a wneir yn fwy gwisgi nag un aderyn. Ni fydd arnynt na newyn na syched mwy- ach; ac ni ddisgyn arnynt n'a haul na dim gwrês.

YMADRODD LLAFURWR DUWIOL.

Ar y Cowper mwyn.

Ymboeni'n y byd, nis gwn i pa hyd,
A raid immi etto, cyn 'mado a'r corph mud:
Duw roddo i mi hedd, er gorfod i'm gwedd,
Mewn llafur a lludded mawr fyned i fedd:
Os caf fi le i orphwyso,
'Nghaersalem gyd a'm Seilo,
Mi ollynga yn ango oll sy'n awr:
Ni bydd immi yno ymboeni,
Yn troi, na hau na medi,
Ond byw yn moli'r Brenin mawr.

Llawer diwrnod llymm a dygyn,
A oddefu'r hwsmon amser gwanwyn;
I gael gwneud ei dir yn gryno,
Erbyn amser iddo gnydio.

Ni wasnaetha'r tro mae'n gwybod,
Ossio allan i sefyllod:
Oni bydd ef wrthi'n filen,
Fe ddaw clammai ar ei gefen.

O na bae pob hwsmon trefnus
Mawr ei foliant mor ofalus,
Am fod yn barod erbyn dywad
Diwrnod mawr ei ymddattodiad.


Ofer disgwyl wrth ei elw
Iw gysuro y pryd hwnnw,
Nid oes a wared ein heneidieu
Ond Cyfiawnder yn awr Angeu.

Pan fo'r coed yn torri allan i ddeilio. ac i flodeuo, mae'n arwydd fod yr hâf yn agos, yn wir nid yw'r blodau na'r dail, yn arwyddion siccir o ffrwythydd llawn: Ilawer o brenniau sydd yn awr wedi ei gwisgo a'i haddurno ag ynnw, a ddichon er hynny brifio yn anffrwythlon, ag attal yr hyn a ddisgwilir oddiwrthynt: fellu hefyd ymhlith proffes wyr Crefydd; llawer a ddichon ddangos yn deg yn ei hymarweddiad oddiallan, ac ynill canmoliaeth gan eraill o'u cwmpas a bod etto yn ôl o ffrwythau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist er gogoniant a moliant i Dduw.

Arglwydd leied ydyw'r nifer
Sy'n dwyn ffrwythau yn ei hamser;
Pob ceubren crin yn d'eglwys santedd
A ddadwreiddir yn y diwedd.

Megis y disgyn claiarwlaw Ebrill ar y ddaear, gan beri iw blode a'i ffrwythau dyfu; fellu y difera yr Arglwydd ei air, ac y tywallt ei ysbryd ar ei etholedigion i beri iddynt fod megis pren wedi ei blannu wrth y dyfroedd, ai ddeilen yn ir, ac ar flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid a ffrwytho neu ardd wedi ei dyfrhâu, ac megis ffynnon ddwfr, yr hon ni phalla ei dyfroedd.

Dâd nefol, gogonedda dy enw, ac megis y gogoneddaist ef eusoes ymhob lle, trwy aneirif dystiolaethau dy ddoethineb, daioni a'th gallu; yr hwn a beraist ir ddaear darddu yn y tymmor hwn, bydded gwiw gennyt ei ogoneddu drachefn, trwy amlygu rhinwedd a gallu dy râs ynghalonnau dy bobl, gan ei gwneuthur yn ffrwythlawn yn y gweithredoedd hynny y rhai a fyddo er gogoniant a mawl iti yr awrhon ag yn dragywydd.

O na fedrwn heddyw godi;
Fy llef fel utgorn i gyhoeddi
Uwch ben yr holl fyd, a rhybyddio
Ei bobl y perigl i maent ynddo.

Natur sydd yn llawn ufudd-dod,
I ddangos gwrthieu'r Brenin uchod;
Dengys dydd a nos wybodaeth,
Tywyllni a g'leini ei ragluniaeth.

Troi'i feddalu a wna'r ddaear,
Ddechrau'r gwanwyn yn bur gynnar;
Ond dyn a erys dan ddigofaint
Duw o'i ieuengctyd teg iw henaint.


Tyfa'r ddaear deilia'r coedydd,
Dygant hefyd ei llawn ffrwythydd;
Ond pechaduriaid er ei canfod,
Etto a fraenant yn ei pechod.

Dowch fy mrodur bawb a'r unwaith
Codwn weithian ag awn ymaith;
Mae'r dydd gwedi 'mbell ei dreulio.
Ar nos yn barod i'n gorguddio.

Gyd a'r ddaear ymollyngwn,
Am ein pechod edifarwn;
Gyd a'r prenniau yn ei hamser,
Dygwn ffrwythau i gyfiawnder.

Gyd a'r defaid awn or corsydd,
Ceisiwn ddringo tua'r mynydd;
Yr wyn a frefant ar ei mammeu,
At yr Arglwydd brefwn ninneu.

Ni chawn ond hyn o ddyddie byrrion,
I'm barottoi i fynd i Seion;
Oni wnawn y gore o honynt,
Ofer disgwyl d'ioni oddiwrthynt.


AT YR IEUENGCTID.

Chwithau Ieuengctyd trowch weithian,—Adreu
Edrwch tua Chan'an:
Coeliwch'r ych ar fin ceulan,
Y twll du tywyll o dan.

Nofiwch o foroedd nwyfiant—didorriad
I dir y gogoniant;
Trechwch, teflwch bob trachwant,
Er allo'r byd oll i bant.


Blode eich dyddie iach diddan—yn ffromm
Na' ffrymwch i sattan;
Byddwch demleu goleulan,
Syberwyd glir i'r Ysbryd Glan.

AM ARDDU.

Edifeirwch a thristwch Duwiol am bechod, a osodir allan yn yr ysgrythur, tan rith arddu neu droi 'r ddaear; canys fel y mae'r aradr yn agoryd y tir, ac yn troi 'r tu pridd i fynu ir gwyneb, fel y gellir gweled pa fath dir a fydd ; ac hefyd yn dadwreiddio yr holl betheu diffeth a fo 'n tyfu ynddo: Fellu y mae gwir argyhoeddiad yn rhwygo ac yn egor calon pechadur, gan ddatguddio yr hyn a fo ynddi; ac hefyd yn dadwreiddio pob meluschwanteu a gwyniau llygredig, oedd yno yn tyfu wrth eu nattur gynt.

Ni a wyddom fod y ddaear yn gofyn ei brynaru cyn y bo cymmwys i dderbyn had Fellu yn wir y mae calon dyn, cyn y tyccio had gair Duw ynddi, a ffrwytho allan o honi mewn buchedd ac ymarweddiad. Braennerwch i chwi fraenar, ac na heuwch mewn drain. Nyni a gyfrifem hwnnw yn hwsmon pen-ffol, yr hwn a haue ei hâd ar wyneb tir, heb i aradr erioed fyned trwyddo: gan ddisgwyl arno ddwyn enwd yr un môdd a phe buaseu yn ei aredig fel yr oedd yn gofyn, cyn rhoi'r hâd i lawr: eithr llawer mwy ofer i ni feddwl y dichon yr had ysprydol soddi i mewn a ffrwytho allan o galon dyn; yr hon wrth nattur sydd megis rhos-dir gwyllt ac oeredd heb erioed ei arddu; oddieithr i aradr gair Duw yn gyntaf fyned trwyddi iw brynaru ai dryllio am bechod. Pwy a ddyry beth glân allan o beth aflan? neb.

Gwaith trwm a blinderog yw llafurio 'r ddaear, ac sydd hefyd yn gofyn peth gofal yn ei gylch; canys os yr arddwr a edrych o'i ôl nê oi flaen, geill yr aradr yn fuan fynd am ormod neu ry fâch, neu redeg allan or ddaear i beri malciau, y rhai a gyst iddo eu torri drachefn neu fod yn y golled; hefyd i wneuthur y gwys yn anwastad, fel ac i bo yn anhaws dal yr aradr arni, ac a fydd raid iddo boeni peth ychwaneg yn ei chylch cyn y dêl yn union megis o'r blaen, a hynny o eisieu edrych yn ddigon manwl at ei waith. Rhaid i'r Cristion fod mewn llafur a lludded yn gwrando, darllen, gweddio, a gwylio yn fynych, a bod yn ofalus iw gadw ei hun mewn tymmer dduwiol; eithr os efe a ymollwng i fyned ar ol petheu eraill yn fwy na phetheu Duw; a dechrau oeri ei serchiadeu a difrawi ei galon, buan yr ymedy gair Duw allan o honi, heb ofn na chariad yr Arglwydd yn gweithio ynddi megis gynt, i ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef. Ac o herwydd hyn geill fod yn gyfyng arno cyn y delo ir cyflwr dedwyddol yr oedd ef ynddo or blaen: megis y mae 'n siample o hyn, Dafydd, Solomon, Petr, ag eraill.

Y llafurwr eill wneuthur llawer o ddefnyddiau buddiol a llesol o waith ei ddwylaw ac amryw bethau o'i amgylch, os ymry efe i osod ei ben a'i galon at y fath beth; ac oni wneiff, pa ragor sydd rhyngddo a'r nifeiliaid a fo 'n cyd weithio ag ef. Diau oni ymarfera Cristnogion. ag ystyriaethau cyffelyb i hyn, mae 'n enbyd y cyfyd rhai o'r hen Genedloedd yn eu herbyn yn y farn: Canys fe ddywedir am danynt hwy, pan elent allan y bore i arddu 'r ddaear, cyn dechrau i gwaith; eu harfer ydoedd gosod un llaw ar gorn yr aradr, ac a godent y llaw arall i fynu at Ceres, sef duw yr yd, fel y galwent hwy ef; i ddangos mai e'u disgwyliad am ffynniant ar eu llafur, a llawnder o ffrwythau ir ddaear oedd oddiwrtho ef.

Cofia y llafurwr beunydd
Lafurio am y bwyd ni dderfydd;

Pan fo dy gorph drwy deg a hagar,
Yn poeni wrth lafurio'r ddaear.

Cofia fod dy galon oerddu
Yn gynta yn gofyn ei brynaru,
Cyn y tyfo o honi un weithraid,
Er daioni i dy enaid.

Y diog ddyn nid ardd y gaua,
Am hynny 'r eiff ef i gardotta;
Ond gefn cynhauaf ofer gwaeddi,
Arglwydd, Arglwydd, agor inni.

O danfon dy air dwfn Duw Ion—eglur,
Drwy oglawdd fy nghalon;
Brynara brenin A'ron,
Brynniau 'mrest briw yn y 'mron.

Braenu' wnes ein brenin ni—mewn pechod,
Pa och a fydd immi!
Fyth, oni ddychwelaf fi
Attad, er moliant itti.

YNGHYLCH HAU.

Hau yn yr ysgrythur a gymmerir lawer ffordd, ac sydd yn arwyddo amryw betheu neulltuol; megis yn gyntaf, am wneuthur elusen, neu rannu ym mysg tlodion. Yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn brin, a'r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fêd hefyd yn helaeth.

Yn ail, pregethu'r Efengyl; canys fel y mae'r hauwr yn tanu'r hâd ar lêd y maes, fellu y mae'r Gweinidog yn tanu gair Duw ym mhlith y gynnulleidfa. Yr hauwr a aeth allan i hau ei hâd. Fe adroddir am un Mr. Philip Henry, Gweinidog Gair Duw, yn lle a elwir Broad Oaks. yng Nghent. Yn ôl ei droi allan o'r Eglwys yn amser dychweliad y Brenin Charles yr eilfed; ei arfer oedd y rywan ac yn y man, pregethu ym mysg e'i gymdogion: ac un tro wrth ddychwelyd adreu o'i swydd, digwyddodd iddo gyfarfod a'r gweinidog oedd yn perthyn i'r Eglwys; ac ebe efe wrtho; "Syr, mi gymmerais rydddid i danu lloned llaw o hâd yn eich maes chwi." "A ddarfu ichwi felly attebodd y gwr-da arall, yr Arglwydd a roddo iddo ei fendith! y mae digon o waith inni bob un."

Yn drydydd, claddu'r meirw, canys cyrph dynion ydynt megis hadeu yn y ddaear, hwy a godant i fynu o'r llwch drachef. Yr egin ieuaingc, gwelwn hawddgared eu gwedd, pan font newydd ymddangos allan o'r ddaear; tebyg i hyn a fydd cyrph y Seintieu, pan ddeuant allan o'u beddau, ac y cynnullir hwynt eithaf y nef.

Yn bedwerydd, edifeiriol ddagrau, y rhai syd yn llifeirio oddiwrth galon ddychweled, pan ddel arni sorriant duwiol oblegid ei chamweddau yn erbyn santeiddrwydd Duw. Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd.

Yn bummed, efe a gyffelybir i bob math o weithredoedd yn gyffredin: gwybyddwn mai megis amser hau yw y bywyd hwn i ni oll, erbyn cynhauaf mawr tragwyddoldeb. Gan hynny yr hwn, sydd yn hau ir cnawd o'r cnawd a fêd lygredigaeth eithr yr hwn sydd yn hau ir Yspryd, o'r Yspryd a fêd fywyd tragwyddol.

Hau y tir yn enw 'r Tad
Oreu-rad, i rwy'r awron;
Duw a hauo gras o'r ne,
A'i eiriau'nghilie 'nghalon.


'Mhen ennyd bach a gwedd mwy hawddgar,
Yr had a 'mddengys etto o'r ddaear;
O na bawn inne a'r un ymddygiad
Yn nydd mawr yr adgyfodiad.

Fel y'r hauom ein bod ymma,
Fellu y medwn yn y nesa;
Dawn Duw yw Cariad perffeth,
Ond cyflog pechod yw marwoleth.


Nad i'r galyn neidr galon,—Gwir Oglud
Yr Eglwys berffeithlon;
Ei llenwi a'i gynllwynion,
Na hau ei efrau yn hon.


Y fall o honi allan—tro'n Iesu,
Teyrnasa dy hunan;
Torrer ei ben a'th Tarian,
Ninneu tyn o nen y tan.

LLYFNU.

Oni bae i'r hwsmon lyfnu ei dir ar ol ei hau, ei holl boen a yddei yn ofer; ai gost i gyd ar goll; canys os yr hâd a adewir ar wyneb y tir, heb i'r og iw soddi ir pridd; ond odid fe ddaw adar ar ei draws iw gippio ymaith a'i ddifetha, cyn iddo erioed wreiddio a settlo yn y ddaear. Fellu ninneu hefyd yn ôl hau gair Duw yn ein plith, oni bydd i'r Yspryd Glan, ynghyd a'n dwys ystyriaeth ninneu am dano e soddi i mewn i'n calonneu, buan y daw 'r gelyn diafol ac a'i dûg ymaith o honom. rhag inni gredu a bod yn gadwedig. Ac mae 'n enbyd mai dymma 'r achos sy 'n peri ei fod yn tyccio cyn lleied ir rhan fwyaf o ddynion: Llawer a gymmerant eu Bibl yn eu llaw, neu riw lyfr da arall, ac a ddarllennant ynddynt dros ychydig : hwy a gyrchant i'r llanneu i wrando pregethau, ac yn ol i hynny, fynd trosawdd, meddyliant fod eu holl dasg ar ben, a'u dyledswydd wedi darfod, pan na'd yw, yn wir, nês i hynny, nac yw gwaith y llafurwr, yn ol tanu'r hâd ar wyneb tir: y peth angenrheittiaf fydd eto yn ol; sef, ôg i fynd unwaith drosto, iw soddi i mewn ir ddaear, os disgwylir am iddo wreiddio a ffrwytho i fynu drachefn, a derbyn cnwd oddiwrtho. Fellu angenrhaid i ninneu, nid yn unig wrando, darllen, chwiliaw, a dysgu gair Duw, ond hefyd o mewn ei fwynhau, fel y cofleidiom ac yr ymgynhaliom yn wastadol wrth fendigaid obaith y fuchedd dragwyddol.

Y sawl a hauo ei faes, cyn ffynnu,
Yn ol ei droi rhaid iddo ei lyfnu;
Oni te mae lle iddo ddisgwyl,
Fynd yn ofer ei holl orchwyl.

Yr og ffraeth a'i hamal ffrewyll,
Sydd yn gwneud y cwysi'n gandryll;
Hefyd yn malurio 'r cloggiau,
Sy'n rhwystro'r egin yn ei blaenau

Y galon newydd ei brynaru
Gan edifeirwch, sydd er hynny,
Yn gofyn ei llyfnhau ymhellach,
Fel y dygo ffrwythau amlach.

'Does geffyl cul yn c'alyn—ymeulyd,
Na mul yn y dyffryn;
'Does un ych dwys iawn achwyn,
I'r og, mwy diog na dyn.


Nodiadau

[golygu]