Gwaith Hugh Jones, Maesglasau/Myfyrdodau yn yr Haf
| ← Myfyrdodau yn y Gwanwyn | Gwaith Hugh Jones, Maesglasau gan Hugh Jones, Maesglasau golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Myfyrdodau amser cynhaeaf → |
MYFYRDODAU
YN
YR HAF.
DEUWCH a gwelwch weithredoedd Duw, yr hwn sydd yn Coroni'r flwyddyn a'i ddaioni, a'i lwybrau a ddiferant frasder; diferant ar borfeydd yr anialwch a'r brynniau a ymwregysant â hyfrydwch, a'r dyffrynnoedd a orchguddir ag yd; yr holl ddaear a'i haddola ef, yr hwn a luniodd hâf a gauaf gan beri iw haul godi, i roddi goleuni ir byd, a chynnesrwydd ir ddaear, fel y dygo ei chnwd ai ffrwythau i borthi dyn ac anifail. Geilw ar y gôg oi thrymgwsg, i ganu henffych-well ir tymmor disglair:
Pan fo daear hithe' ar dw
Mae'n gyrru'r gwccw lwydlas,
I byngcio 'mhlith canghennau 'r coed
Dan gwympo i throed o gwmpas.
Efe sy'n gwisgo'r porfeydd rhywiog a.
meillion, i ddigoni 'r buchod blithion, fel
y dylifo 'i pyrsau laeth i'n maethu, ac
enllyn i'n cefnogi. Y defaid gwynion
hefyd yn awr a gant seibiant a llonyddwch
gan oerfel a dryccin, i gymeryd eu pleser
hyd ochr y llechweddi a phennau 'r moelydd.
Rhy wellt ir buchod blithion glan
Pur fuan mewn porfeydd,
Ac ir defaid lawer cant
Eu mwyniant yn y mynydd.
Draw y gwelir y dolydd gwyrddlas yn gorwedd gan guwd, a'r meusydd yn cau i fynu o yd, i lenwi ein hysguboriau ag ystôr, erbyn tymmhestloedd gauaf a llymder gwanwyn. O! na bae i ddynion fellu drysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod.
A'r Fflene.
Duw nefol freiniol fri,
Mor fawr yw d'wrthiau di,
Trwy degwch sydd, yn danfon dydd,
Y newydd haf i ni:
Dy haul a d'wna ar hyd,
Y ddaear glauar glyd;"
Tywellti wlith i beri blith,
A bendith mawr ir byd :
Anfoni fwyn, gantorion fwyn,
Sy'n dwyn newyddion da,
I'r ddaear brudd, yn esgor sydd
Ar ffrwythdd hirddydd ha'.
Rhoi mawl ar goedd, ag uchel floedd,
I ti wna 'r glynnoedd glan;
Pob brynn pob pant, pob maes a nant,
D 'ogoniant di a gan.
Mor hyfryd i mae 'r goedfron luosog yn edrych, y gelltydd yn disgleirio, a'r gweunydd yn hawddgar eu gwedd:
Gweunydd a gelltydd gwylltion,
A dan fawl d' enw fy Ion.
Y tymmor haf a ellir ei gyffelybu i wynfyd y nefoedd; ond bôd un o nattur ddarfodedig, a'r llall o dragwwyddol barhâd. Yr hâf sydd dymmor têg a thawel, a'r holl fyd ac sy ynddo yn hyfryd ei wêdd ai olwg, rhagor amser gauaf. Etto nid yw mewn gwirionedd ond megis anialwch iw gyffelybu i deyrnas nefoedd, yr hon a feddianna 'r holl rai gwynfydedig ynghyd, ar ôl dydd y farn ddiweddaf. Yno y cant weled Pren y bywyd sy'n dwyn deuddeg rhyw ffrwyth bob mis, gan ymborth ar ei ddewisol ffrwythau ef, ac eistedd tan ei gysgod gyd ac hyfrydwch mawr. Yno y cant weled afonydd ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn.
Cyffelyb ydyw'r nef i Gana'n
Lle roedd llaeth a mel nid bychan;
Gyd a Christ mae digonolrhwydd,
O bob dedwyddwch yn dragywydd.
Edrychwn mor loyw yw dyfroedd yr
afonydd amser hâf; cyffelyb i hyn yw
afonydd pur o ddwfr y bywyd disglair fel
grissial, sy'n dyfod allan o orseddfaingc
Duw a'r Oen, i lawenhau dinas Dduw.
Gwelwch foreuddydd hâf, â pha wêdd ardderchog yr ymddengys yr haul allan ô 'stafelloedd y dwyrain, dan wenu ar y byd, a llenni aur o'i amgylch, a'r cymhylau 'n ffoi ymaith o'i wydd. Diau mai cyffelyb i hyn a fydd ymddanghosiad Mab y dyn allan o gymhylau 'r nêf, gyd â'i Angylion santedd, mewn nerth a gogoniant mawr, a phob llygad a'i gwêl: Yna 'r annuwiolion ni safant o'i flaen, ond hwy a alarant o'i blegid; eithr efe a wena ar ei etholedigion, ac a ddenfyn ei Angylion iw casglu hwynt ynghyd o'r pedwar gwynt, ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr asswy.
Pan welom haul ar godiad,
Meddyliwn bawb yn wastad,
Am ddyfodiad Crist i'r farn,
Yr hwn sydd gadarn geidwad.
Deliwch sulw ar godiad yr haul, fel yr adfywia ffrwythau 'r ddaear, a'r blodau a godant eu pennau, ac a agorant eu llygaid wrth ddisglairdeb ei wedd; a chantorion y twyni hefyd a ddihunant i blethu mawl; ac i groesawi hyfryd oleu'r dydd. Fellu hefyd ar ymddanghosiad gogoniant y Duw mawr, a'n Hiachawdwr Iesu Ghrist, y meirw a ddadebrant ac a ddeuant allan o'u beddau; a'r Seintiau a brysurant gyd â llawenynd mawr, i gyfarfod ar priod-fab, ac a ant i mewn gyd ag ef i'r briodas o ddedwyddwch tragwyddol yn ei deyrnas.
Pan ddechreu 'r haul lewyrchu,
Y bore 'i wedd a bery,
I bob peth dan y nefoedd wen,
Yn uchel lawenychu.
Y Seintie' ar d'rawiad llygad,
Yn nydd yr adgyfodiad,
A ddaw o'r bedd dan foli 'r Ion
A chyson ymdderchafiad.
Megis y tywynna'r haul y boreu ar bennau'r mynyddau lle mae trigfa a phorfa defaid, ac y disgleiria ar wastadedd y dyffrynnoedd ganol dydd; fellu y tywynna Haul cyfiawnder ar fynydd Sion, lle y mae trigfa a phorfa defaid Duw, sef yn Nheyrnas nêf; Canys nid rhaid i'r ddinas honno wrth yr haul, na'r lleuad, i oleuo ynddi; canys gogoniant Duw a'i goleuodd hi, ai goleuni hi ydyw yr Oen.
Yr haul a d'wynna'r bore,
Yn glir a'r bennan'r bangcie',
Haul cyfiawnder fellu a chwardd,
A'r Salem hardd ei seilie'.
Llawer gwas cyflog amser hâf, pan fo'r
dydd yn hir, a'r hin yn wresog, a fynch
hiraetha yn ei galon am weled cysgodeu 'r
hwyr a machludiad haul, fel y caffo orphwys oddiwrth ei lafur. Eithr nid fellu
gyd a gweision Duw, yn yr hâf tragwyddol; ni bydd y pryd hwnnw na phoen na
lludded ar neb, er bod y diwyrnod o dragwyddol barhâd; oblegid hefyd mo'r
ddifir yw'r gwaith sydd yno yw ymarfer ag
ê, na 'sgwyddant beth a fydd blino arno.
Mo'r anfeidrol yw gogoniant y nef, ac mo'r
anrhaethol a fydd dedwyddwch y rhai
gwynfydedig ynddi, na bydd un dydd gyd
a'r Arglwydd ond megis mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megis un dydd.
St. Augustine; yr hwn oedd yn byw cylch pedwar cant o flwyddau ar ôl Crist; sy'n addrod yn un oi Epistolau, fel ac yr oedd efe riw dro yn ei Stydi, a chanddo bin ac Inge a phapur o'i flaen, yn barod i yscrifennu llyfr ynghylch gogoniant y nêf at St. Jerom yr un dydd ac y bu efe farw: Ac yn fuan fe ganfu oleuni yn yn torri i mewn iw ystafell, ac aroglau peraidd oddiwrtho yn llenwi'r ty; ac a feddyliodd glywed y llêf hon yn dywedyd wrtho; O Augustine, pa beth yr wyt yn myn'd iw wneuthur? ai meddwl yr ydwyt gasglu'r mor i lestr bychan? Pan beidio haul, lleuad a sêr a'u goleuni, a'r cymmhylau a'u symmudiad, yna ti a gei wybod pa beth yw gogoniant y nef, ac nid cyn hynny, oddieithr i ti ddyfod iw deimlo, megis ag yr wyf fi yr awron!
Ar Kings Ffarwel.
Oh! ddedwyddwch y rhai duwiol,
Gwedi sorriant byd amserol;
Pan fo eraill mewn poen farwol,
Draw yn gwaeddi yn dragwyddol!
Hwy gant wisgo aur goronau,
Ac eistau ar ei gorsedd feinciau,
Ger bron yr Oen, a fu dan boen,
I'w dwyn o ffroen y ffwrnas;
I roi iddynt freintiau addas,
Drwy gadernid yn ei deyrnas.
Ni ddaw yno yn agos attynt,
Ddim i anhwylio eu nefol helynt;
Trallode a llid a gilia i gyd,
Ni ddaw y pryd hynny,
Mo'r hen flynydde i'w haflonyddu
Neu ofer drachwant fwy i'mdrechu.
Dyna'r fan lle cant orphwyso,
A byth santedd ymgofleidio:
Yno yr edwyn yn ddiwradwydd,
Bobl un galon bawb eu gilydd:
Yno y byddant yn cyd rodio,
Mewn gwisg glaerwen yn disgleirio;
A chan bob un wrth ei glun,
Aur delyn i dalu,
Mawl i'r brenin, am ei brynu,
A'i ddwyn i'w fwyniant yno i fynu,
Ni chlywodd clust ni welodd llygad,
Ac ni ddichon undyn ddirnad,
Faint fawrhad' bartodd y Tad,
O'i gariad a'i drugaredd,
I'r sawl a bery i'w w'snaethu'n buredd, Heb ym'dawiad hyd y diwedd. Hwsmyn da sydd ofalus amser hâf, i barottoi erbyn y gauaf: yna y casglant i mewn fwyd a thannwydd iw teulu, ac ymborth iw 'nifeiliaid; fe wyddant na phery tegwch haf trwy 'r flwyddyn, ac ni ymddiriedant wrth auaf tyner, ond parottoi mewn pryd erbyn y gwaethaf.
Pa odiaethol gristnogion a fyddem ni, ped faem mor ofalus am brofeidio ein hunain erbyn gauaf marwolaeth, tra bo dydd grâs yn parhâu, a haul yr Efengyl yn tywynu yn ein plith.
Yr Arglwydd a ordeiniod glaiarwch a thegwch hâf, i addfedu ffrwythau 'r ddaear, ac i roddi ir llafurwr odfa gymmwys iw oyrchu i fewn diddos erbyn dryc- cin y gauaf. A'r diben i ba un y mae Duw yn cennadhau amser i ddynion ar y ddaear yw, fel y bo iddynt addfedu i'r nefoedd, a diangc rhag y llid a fydd.
DYN.
Yr hafddydd disglaerwyn, mi'th wela di'n cychwyn
Cilio o bob dyffryn, mae'n erwin i ni;
I b'le rwyd ti 'n myned; a geir mo dy weled,
Yn dywad a lloned i'n llwyni.
HAF.
Fy Awdwr Jehofa, a dd'wedodd yn gynta,
Pryd haf a gaua a'i orphwysfa ni phaid;
Parod wyf finne', i ufyddhau 'i eirie',
Bydd dithe' y'r un donnie' o ran d'enaid.
DYN.
Diferaist dy fraster, yng Nghymru ac yn Llo'eger,
A rhoist inni amser pur dyner bob dydd;
I wneud ein gorchwyl-waith; pan elych di ymaith,
Bydd eilwaith waeth hiraeth o'th herwydd.
HAF.
Fe dderfydd y flwyddyn, fel llwydo dilledyn;
Holl harddwch haf twymyn sydd, blisgyn o'th blaen;
Nid ydwyf fi ond cysgod, o'r hafddydd sydd uchod.
Mae yno breswylfod dda 'i sylfaen.
CYFLWR NIFEILIAID.
Y'r enwog dâd parchedig, D. Martin Luther sy 'n adrodd am ddau Gardinal, (sef prif lywodraethwyr Eglwys Rhufain, tan y Pab,) oeddynt ar u siwrnai i gymmanfa Constance; digwyddodd ar y ffordd iddynt glywed llais dyn yn wylo mewn. maes o'r neulltu: a phan nesasant atto, hwy a'i gwelent ef yn sefyll uwchben llyffant, a'i olwg yn graff arno: Gofynnent beth oedd yn peri iddo fod mor drist a chythryblus: dywedodd ynteu mai 'i galon oedd wedi toddi wrth ystyried mawr drugaredd Duw tuag atto, na ddarfu iddo ei greu ef, yn fath greadur gwael a hwnnw gweddus a fyddeu i bob dyn, fod ynddo'r fath deimlad.
Gwelwn fel y creodd Duw y nifeiliaid, a'u pennau tua'r ddaear, i ddangos mai oddi yno yr oedd iddynt hwy dderbyn eu holl gynffwrdd; Eithr efe a greawdd Ddyn a'i ben i fynu tua'r nef iw addoli; gan arwyddo mai oddi yno y'r oedd iddo ef, ddisgwyl am ei ddedwyddwch pennaf: oblegid ei fod o sylwedd anfarwol, fel na' does dim ond Duw ei hun, eill lenwi a digoni e'i enaid.
Ystyriwn fawr ddaioni 'r Arglwydd yn trefnu nifeiliaid i'n helpu i lafurio'r ddaear, i ddwyn ein beichiau, ac arbed ein cyrph, er na phechasant hwy erioed yn erbyn eu Creawdr, etto maent yn gorfod cydoddef cynneddf y felldith a syrthiodd ar ddyn yn y cwymp, trwy gyd boeni ag ef ar y ddaear: ein pechoau ni a dynnodd i lawr arnynt hwy, yr holl adfyd a'r cyfyngder y maent ynddo. Yr apostol sy 'n dywedyd, fod pob creadur yn cyd-ochneidio, ac yn cyd-ofidio hyd y pryd hwn; dan obaith y rhyddheir ef o gaethiewed llygredigaeth i rydd-id gogoniant plant Duw.
Duw a drefnodd i'r nifeilied,
Oes ferr a helynt galed;
A'r caledi hwn a syrthiodd
Arnynt, pechod dyn a'i tynnodd.
Gorfydd iddynt hwy mewn cornel,
Fod a'u penneu wrth y fuddel;
Pan fo dynion yn eu llawnder,
A'u traed yn rhodio mewn ehangder.
Wel dymma ffrwyth ein hannuwiolder,
Oni edifarhawn, daw'r amser,
Pan font hwy yn rhydd oddiwrtho,
A ninneu 'n rhwym ein traed a'n dwylo.
Pan ddaethost pechod syndod sail—i'r byd,
Ni 'rbedodd dy wiail,
Anafu dyn a nifail,
Na Mab Duw, ni bu dy ail.
GOFAL AM NIFEILIAID.
Nifeiliaid oedd cyfoeth a chynhaliaeth pennaf y Patriarchaid a'r hynafgwyr yn yr oesoedd cyntaf: A'i olud oedd saith mil o gamelod, a phum cant o asynnod. Y stamp neu 'r argraff ar eu harian yn yr amser hynny, oedd llun ych, neu ddafad. Fellu y creaduriaid hyn sydd werthfawr gan bob hwsmon hyd heddyw, o herwydd paham eu gofal yw, am eu trin a'u porthi fel y bont yn gofun, iw gwneuthur yn gymmwys i'r farchnad. Eraill a font yn bwriadu eu cadw, byddant ofalus hefyd am eu torri i lawr, a'u dysgu i weithio a myned i siwrnai mewn pryd; a manwl borthi y rhai blithion, fel y rhoddont laeth, ac y magont eu rhai bychain.
Pan glybu rhiw Bendefig, am y fradwriaeth greulon a wnaethai Herod, ar fechgyn bychain Bethlehem, pan anwyd ein Harglwydd, yr hwn ni spariodd ei fab ei hun ychwaith; efe a ddywedodd mai gwell oedd bod yn fochyn i Herod, nag yn blentyn iddo. Gocheled eraill rhag bod hynny yn rhy wir am danynt hwytheu. Pa sawl pen-teulu sydd yn mwrddro eneidieu 'i plant a'u gweinidogion; ie eu hunain hefyd. Pwy sydd mor ofalus am eu maethu a'u porthi a llaeth gair Duw, yr hwn hefyd yw bara'r bywyd, ac i weddio yn ddibaid, am râd a bendithion yr yspryd Glan, ac a ydynt am borthi eu nifeiliaid; nag mor ofalus am ffrwyno eu trachwantau, a'u dysgu i fod yn offerynnau i glodfori eu Creawdr, ac a ydynt am borthi a thorri lawr eu bustych a'u helbulon ieuaingc. Fe ddywedir am y Persiaid, mai 'u harfer oedd danfon eu plant i riw ysgol bellennig, cyn gynted nag y medrent siarad; ac na fynnau i' rhieni olwg arnynt dros saith mlynedd, rhag iw mabiaeth hwy Fellu wneuthur gormod niweid iddynt. iawn a fyddeu i rieni Cristionogol wneuthur eu gorau i gadw eu plant rhag myned a'u pennau 'mlaen mewn gormod rhwysg a rhydd-did daiarol; oblegid oni arweinia hynny hwynt i bechodau gwaradwyddus yn y byd hwn; etto, mae yn eu caledu oddiwrth wir grefydd, ac yn enbyd rhag iddo brifio yn ddinistr tragwyddol iw heneidieu.
O na ofaleu pechaduriaid
Beth llai 'm y corph a mwy 'myr enaid;
Llai am betheu 'r byd a dderfydd,
Mwy am betheu sy'n dragywydd.
Gofalu am ei war mae'r siopwr,
Gofalu am yd a'i dda mae'r ffarmwr;
Ond ni chredau neb cyn lleiaid,
Sy'n gofalu am yr enaid.
Ceisiwch deyrnas nef yn gynta,
Ni thal moi cheisio, medd rhan fwya:
Wele fe ddaw amser etto,
I wybod beth a fydd e'i heisio.
Fy'ngofal fo'n amal fy Nuw—d'ionus,
Am danad, beth ydyw?
Gofalon trist, ond distryw,
A blinder tra bydder byw.
NIFEILIAID AR GOLL.
Nifeiliad a dorrant allan dros glawdd, o dir eu perchennog, ac ymaith a nhw ar eu hynt, yn wysg eu penneu, heb wybod i ba le. Yna 'r perchennog ynteu a ddechry godi allan, i edrych ar eu hôl, gan yspio yn fanwl am ôl eu traed, a'u crio mewn llannau a threfydd, nis dyfod o hyd iddynt: Yna pan gaffo efe y'r hwn a gollaseu, fe i dug adrau yn llawen, heb feddwl am y gost a'r drafel a gafodd efe yn ei gylch.
Dymma siampl i ni fel y torrodd dyn dros glawdd gorchymmum ei Greawdr, allan o'r borfa felus o happusrwydd, yn yr hon y gosodaseu efe ef ar y cyntaf. Gan grwydro yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb obaith byth am ddyfod yn ol; oni buaseu i'r Arglwydd ei hun eu tywys hwynt ar hyd y fford uniawn, i fynd i ddinas gyfanneddol. Ac fellu y daeth efe ynghyflawnder yr amser; gan eu cymmeryd un o ddinas a dau o deulu, a'u dwyn i Seion; O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni a'i ryfeddodau i feibion dynion.
Arglwydd trwy 'r ynfydrwydd's ynddom,
Delled y cyfeiliornasom;
Heb weld ein bod oddiwrth dy lwybrau,
Yn mynd i'n poeni ar ein pennau.
Diolch a chan moliant itti,
Am ymweled a'n trueni;
A dywad i'n hymofun adreu
I deyrnas nefoedd yn dy freichieu.
Gwnaeth bugel yr Isr'el ei ran,—dofodd
Y defaid aeth allan:
Dug drwy bob lewyg i'r lann,
O bechod, ei braidd bychan.
NIFEILIAID YN PESGI.
Pan droer nifeiliad i fewn porfa dda, hwy a ddechreuant fynd yn rhodresgar, fel na cheir ond prin dywad yn agos attynt, na ddechreuant godi eu sodlau, a dibrisio pob peth o'u cwmpas. Fellu rhai dynion pan ddelont i ychydig o bower neu allu; dechreuant ymgodi a balchio, gan chwennych sathru eraill tan eu traed. Nid yw'r 'nifail a fo yn ei besgi yn dallt un gronyn o feddwl ei berchennog, fod yn alowio iddo 'r fath changder, rhagor ei gyd greaduriaid eraill. Fellu ychydig o ddynion sydd yn ystyriaid; fod cyfoeth a brasder y byd hwn, yn prifio yn wenwyn chwerw i laweroedd, ac yn eu cadw yn ol o'r dedwyddwch, yn y byd a ddaw. Gwelwn siampleu o hyn yn Deifes, a'r goludog arall yn yr Efengyl.
O na 'styriau 'r cyfoethogion,
Pwy a drefnodd iddynt foddion
Iw mwynhau, ac i ba ddiben,
Y rhofles Duw hwynt ar y dd'iaren.
Dedwydd ynt os gwnant y gorau,
Yn eu dydd, o'r holl dalentau,
'Mddiriedwyd yn eu dwylo am danynt,
Ac onite, gwell fyddeu hebddynt.
Ofer fydd ar fyrr feddu—y byd,
A bod yn llawn gallu:
Gwael yw llysoedd, gwell Iesu,
I ddyn, na thyddyn na thy.
GWLITH.
Y Gwlith yw'r tarth sy'n codi o'r ddaear y dydd gan wres y'r haul, ac yn nhawelwch y nos, yn disgyn i lawr drachefn. Nid eill neb ei ganfod, na gwybod pan fo yn disgyn ar y gwelltglas: yr Arglwydd sydd yn ei ordeinio pan welo efe yn oreu; trwy ei wybodaeth ef y defnynna yr wybrennau wlith.
Y gwlith a gyffelybir yn gyntaf, i Grist, megis ac y mae yn ei arwyddocau ef, yn y chwechfed o Lyfr Barnwyr, a'r rhan olaf. Wrth y cnu gwlan y mae i ni ddeall, am Fair forwyn; a'r gwlith am Ghrist: canys fel y daeth y gwlith allan o'r cnu, ag y bu wedi hynny ar yr holl ddaear; Fellu yn ol ei eni ef o Fair, a danodd wlith ei ras, a'i Efengyl trwy'r holl fyd.
Yn ail, â air Duw, a rhâd y'r Yspryd Glan: Fy athrawiaeth a ddefynna fel gwlaw: fel gwlith-wlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar las-wellt. Megis y disgynnau'r manna a'r gwlith i lawr ynghyd, i borthi'r Israeliaid; fellu y mae gair Duw, a rhâd yr Yspryd arno, yn disgyn ar galonneu y'r etholedigion. Yn drydydd, cymmundeb a chariad duwiol, ymhlith brodur, neu aelodau'r Eglwys Gristnogawl. Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodur ynghyd. Fel gwlith Hermon, ac fel gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Sion.
Fel y gwlith i wellt y ddaear,
Arglwydd yw dy eiriau hawddgar,
I'r eneidieu fo'n sychedu,
Gwrando eu ddarllen a'i bregethu.
Er na erys gwlith ond noswaith;
Nef a daear er mynd ymaith:
Gair yr Iesu nid eiff heibio,
Un llythyren fyth o hono.
Duw Tri, dyro inni dy rad—buddiol,
A bydded yn wastad,
Dy fendith arnom fwyndad;
Fel bendith y gwlith i'n gwlad.