Gwaith Hugh Jones, Maesglasau/O na bai fy mhen yn ddyfroedd
| ← Hymnau Newyddion | Gwaith Hugh Jones, Maesglasau gan Hugh Jones, Maesglasau golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Gwan ac eiddil wyf i ymdrechu → |
HYMNAU NEWYDDION.
HYMN I.
Cwynfan y Credadyn o herwydd llygredigaethy Byd,
a'i gysur yn nhrugaredd a ffyddlondeb Duw.
O NA bai fy mhen yn ddyfroedd,
A'm llygaid yn ffynhonnau llawn;
Fel yr wylwn dros farwolion,
O'r boreuddydd hyd brydnawn!
O na byddai mewn anialwch,
I'm letty y fforddolion draw,
Modd na finid f'enaid gwirion,
Gan annuwiolion ar un llaw.
Gwae i mi fod yn preswylio,
Mewn rhyw ardal d'wylla o'r byd;
Ac yn cyfanneddu yno,
Lle mãe gofid imi o hyd!
Pechaduriaid â'u cableddau,
A'u hynfydrwydd nos a dydd,
Megis a chleddyfau llymmion,
Yn trywanu 'nghalon sydd.
O na bai 'mi esgyll c'lommen,
Yna yr ehedwn fry!
Yno hefyd y gorphwyswn,
Tan gysgod Craig yr oesoedd gu:
Nes el heibio bob rhyw aflwydd,
Sy 'm cyfarfod ar y llawr;
Gad i'm henaid lechu beunydd,
Yn dy glwyfau IESU mawr.
Dyna'r man nid ofnaf niweid,
Dyna'r lle a esmwytha nghur;
Dyna unig feddyginiaeth,
Calon galed fel y dur:
Cael datguddiad o dy glwyfau,
A'th ddioddefaint ar y groes,
Hyn a wna i'm henaid athrist,
Lawenhau dan bob rhyw loes.
O Ddiddanydd nefol tyred,
A datguddia imi ar frys;
Ai droswyf fi bu'r addfwyn IESU,
Yn colli i'r llawr ei waedlyd chwys?
Ai er fy mwyn yn Gethsemane,
Mewn rhyw gyfyngder mawr y bu;
Pan y gweddiodd, "O bai bosib",
Fyned heibio'r cwppan du"?
Pa'm nad trosof fi, bechadur,
Pan mae'n eglur i fy Nuw,
Roddi ei Fab ei hun i ddiodde,
Dros fyrddiyne o ddynol ryw:
Dyna ei neges ar y ddaear,
Ceisio y colledig rai;
Dwyn yr afradloniaid adref,
Er mor amal yw eu bai.
Nid i alw y rhai cyfiawn,
Y daeth IESU GRIST i'r byd;
Ond i alw pechaduriaid,
I edifarhau bob pryd:
Edifeirwch wedi ei brynu,
A'i gyfranu yn rhad i ni;
Edifeirwch a maddeuant,
Trwy ddioddefaint Calfari.
Bellach, f'enaid, aros yma,
Ymlonydda wrth ei draed:
Gwna dy drigfan hyfryd beunydd,
Tan daenelliad pur ei waed:
Ni all angau niweid iti.
Ni all uffern fawr na'r bedd,
Dorri'r cwlwm rhwng dy Briod,
A thydi aeth fyth mewn hedd.
Dyma'r UN rwy'n mentro arno,
Doed a ddelo i fy rhan;
Mae ei fraich yn gadarn ddigon,
I'm dwyn o bob dyfnderau i'r lann:
Ac er rhif y temtasiynau,
Sy'n ymglymmu am fy mhen;
Yn ei Enw mi a'i gorchfygaf,
Ac a'u maeddaf oll, Amen.