Neidio i'r cynnwys

Gwaith Hugh Jones, Maesglasau/O tyn y gorchgudd yn y mynydd hyn

Oddi ar Wicidestun
Dysg imi Arglwydd gerdded Gwaith Hugh Jones, Maesglasau

gan Hugh Jones, Maesglasau


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Arnat Iesu rhof fy mhwys, a'm hymddiried

HYMN IV.

Gweddi am amlygiad o Ddioddefiadau CRIST,
a chymhwysiad o hono.

O TYN
Y gorchudd yn y mynydd hyn;
Llewyrched Haul Cyfiawnder gwyn,
O ben y bryn bu addfwyn OEN,
Yn dioddef dan yr hoelion dur,
O gariad pur i mi mewn poen.

P'le, p'le
Y gwna i fy noddfa dan y ne'?
Ond yn ei archoll dwyfol E;
Trwy bicciell gre' y waywffon
Agorwyd ffynnon i'm glanhâu;
Rwy'n llawenhâu fod lle yn hon.

Oes, oes
Rinwedde' a grym yng ngwaed y groes,
I lwyr lanhâu holl feiau f'oes:
Ei ddwyfol loes, a'i ddyfal lef,
Mewn gweddi drosof at y TAD,
Yw fy rhyddhad, a'm hawl i'r nef.

Golch fi
Oddiwrth fy meiau mawr eu rhi,
Yn afon waedlyd Calfari:
Sydd heddyw'n lli o haeddiant llawn:
Dim trai ni welir ynddi mwyį
Hi bery yn hwy na bore' a 'nhawn.

Pa bryd
Ca i ddifa'm hanwiredde i gyd,
A chongero Satan, cnawd, a byd?
Rho arfe o hyd yr yrfa hon,
Am f'enaid eiddil nos a dydd:
A dyro i'm ffydd dy air yn ffon.


Trwy ffydd,
Wel, treiddia ymlaen fy enaid prudd,
Er amled ydyw'r rhwystrau sydd,
O ddydd i ddydd i'th lwfrhâu:
Er bod y dyrus dir yn faith,
Mae pen y daith yn agoshâu.

Byw, byw
Yng nghymdeithas bur fy Nuw,
Fy nefoedd tra fwy yma yw:
A gadael pob rhyw chwant ar ol;
A cherdded llwybrau 'Mhriod cu,
Nes gorphwys fry byth yn ei gôl.


Nodiadau

[golygu]