Gwaith Hugh Jones, Maesglasau/Rhagymadrodd
| ← Cydymmaith i'r Hwsmon | Gwaith Hugh Jones, Maesglasau gan Hugh Jones, Maesglasau golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Names Of The Subscribers → |
RHAGYMADRODD.
RHYW un deallgar a ofynnwyd iddo, pa fodd y daethe i gymmaint o wybodaeth heb ddeall ieithoedd dysgedig, na darllen nemmawr o lyfrau: I'r hyn yr attebodd, fod llyfr ym mha un y byddei ef arferol a darllen yn wastadol yn cynwys ynddo dair dalen: Nefoedd, Daear, a Dwfr: a'r creaduriaid ynddynt megis llythyrennau, yn nodi pethau anweledig. Gwir yw, mai gywbod am Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groes-hoelio, yw'r unig wybodaeth a geidw enaid dyn; etto, diau fod yr holl greadigaeth ynghyd yn pregethu i ni, ei dragwyddol allu a'i Dduwdod, hyd onid ydym yn ddiesgus. Isaac a fyddei arfer a mynd allan i'r maes i fyfyrio. Llefarodd hefyd am brennau, o'r cedrwydd sydd yn Libanus hyd yr isop a dyf allan o'r pared. Ac efe a lefarodd am anifeiliad, ac am ehediad, ac am ymlusgiad, ac am bysgod. Hyn a fynegir am Solomon: ac wele un mwy nag ef, a'i Efengyl yn llawn o ymadroddion, wedi eu benthycca oddi wrth bethau'r ddaear, i wneuthur pethau'r nefoedd yn fwy eglur a hyspys i ddealltwraeth dynion. Pe i medrem ninnau ymroddi ir cyfryw ymarfer a hon, buan y gwelem pa fydd a diaoni a fyddei inni oddiwrtho. Synniad cnawd (medd yr Apostol) marwolaeth yw; a synniad yr Yspryd, bywyd a thangnhefedd yw. I'r cyfryw ddibenion y lluniwyd y myfyrdodau canlynol; y rhai er gwaeled ynddynt eu hunain, ydynt o ystyr difrifol, a chyfryw ac sydd fuddiol i bob Cristion eu harferyd. O'm rhan i, nis gellir disgwyl ymma am gywreindod a sylwedd rhagorawl, os ystyrrir fy ieuengetyd am hanallu i fyned trwy'r fath orchwyl." Hefyd rwy'n addef fod y fangre lle rwy'n awr yn preswylio yn lle mwy anghyfleus i ymarfer fel hon, na phe buaswn yn cartrefu mewn gwlad ddistaw, allan o swn a chythryfwl y byd. Eithr wrth geisio dwyn ymbell ennyd, pan fyddwn frith-segur, i fyned ar ben fy hun; trwy help a chynnorthwy lly frau hen Athrawon duwiol o Eglwys Loegr; ac ychydig o sulwiadau pellach oedd yn rhedeg yn fy mhen fy hun; amcenais osod hyn o ymadroddion gwael ynghyd, megis y maent yn awr yn dyfod i'r goleuni; gan obeithio na bydd iddynt brifio yn llwyr anheilwng o dderbynniad ym mhlith fy Nghydwladwyr. Rwyn 'n cyffesu mai peth yn erbyn fy natur wyledd i yn fawr oedd mentro gosod fy hun ar led y wlad yn y fath fodd a hyn: Eithr wrth ystyr nad yw'r Arglwydd yn bodloni i neb guddio y dalent a dderbynner ganddo ef oddi tan y ddaear, minnau a dybiais yn ddledus arnaf weithio tra mae hi yn ddydd; y mae'r nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio. Lle y gwelir byrdra a diffyg yn y myfyrdodau hyn, geill y darllennydd ystyriaethol helaethu arnynt yn ol ei feddwl ei hun.
Ac am y beiau a ddiangasant ynddo, law'r ysgrifennydd neu'r Argraffwr. deusyfir ar bob Cymro tyner gyd ymddwyn a'r cyfan, yn oreu ag y medro. Gan nad oedd y Printiwr yn deall Cymraeg mewn rhai manneu y gwelir y naill lythyren wedi ei gosod yn lle'r llall; weithiau un yn niffyg, tro arall yn ormod: Eithr synniad y gair neu ymmadrodd a ddengys ir darllennydd hawddgar, beth a ddylai neu ni ddylai fod yn y cyfryw leoedd. Ni bydd neb llyfn heb ei anaf.
Garedigion, da y boch!
Yr eiddoch, H. J.