Neidio i'r cynnwys

Gwaith Hugh Jones, Maesglasau/Y llyfr drosto ei hun

Oddi ar Wicidestun
Names Of The Subscribers Gwaith Hugh Jones, Maesglasau

gan Hugh Jones, Maesglasau


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Myfyrdodau yn y Gwanwyn

Y LLYFR DROSTO EI HUN.

WEL dymma fi'n dywad yn newydd fy ngwisgiad,
Nis gwn I drwy'r hollwlad pwy gariad a gaf;
Rhai ddywed yn ddiau, na feddaf wan foddau,
Ond Hugan go denau am danaf.

Nid oes genni ond gadel, i bawb ddweud ei chwedel,
Ni fynnwn i ffarwel roi 'mrafel i mrô;
Gobeithio y ca i orwedd, ym mynwes rhai mwynedd,
Yng Ngwynedd ond peredd ympirio.

Mi fum yn anniben yn dyfod O Lunden,
Y saeson ni fynnen fy nghorphen ô Ngwasg;
Ond rhydd-did pan gefais, yn gynta ag y gellais,
I Gymru y pwyntiais o'r Printwasg


Nodiadau

[golygu]